Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Jldgofton am Morris,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Jldgofton am Morris, GAN Y PAROTI. EVAN JONES, CAERNARFON. XI. Wrth i dri neu bedwar o honom oeddyin yn ofrydwvr yn y Bala ar y pryd groesi dros y Higneint i Ffestiniog ryw ddydd Sadwrn, yn mysg pethau eraill, cytunem yn unfryd unfarn fod tri plieth y dylai rhyw ysgrifenydd medrus gymef^l mewn llaw Avneuthur coff- adwriaeth barchus am danynt, sef, coffylau y Corff, ceidwaid tai capolydd y Corff, yngliyd a lletywyr y Corff. Y niae dosbarth y ceffylau yn prysur ddiflanu, coffa da am danynt. Ond gresyn mawr fyddai colli banes yr hen goffylau-megis -'Jack" Robert Thomas, ac eraill—oeddynt mor gyf- arvvydd a'r ffyrdd a'r capelau nos y gallai y pregethwr anturio darllen, cysgu, myfyrio, neu rvwbeth arall ar eu cefn, hob ofni iddynt na syrthio, lluchio, na chyfciliorni. Gwnaoth- ant wasanaeth mawr yn eu dydd wrth gario llygredd y Corff. Ooffa, da befyd am geidwaid tai capelydd: hwy fyddent yn agor, yn cau, yn goleuo, yn glanhau, yn gofalu am y ceffylau, a'r tybaco, yn croesawu ac yn cychwvn y pregethwyr ar bob iyamydd. I lawer o honom, y mae coffadwriaeth yr hen deulu hawddgar, ond anhynod hwn, mewn gwirionedd yn fendigedig. Wedi'r cwbl, disgynai y trymwaith ar y lletywyr. Cai y meirch wair a cheirch am eu gwaith. Cai ceidwaid y capelydd gronglwyd glyd yn gyffredin uwch eu pen, ynghyd a rhydd gvdnabyddiaeth fechan am eu gwasanaeth. Ond am y rhai a dderbyniant bregethwyr i'w tai, o fhvyddyn i flwyddyn ac o oes i oes, heb neb arall yn gofalu dim, nid oedd neb yn rneddwl gwneuthur unrhyw gydnabydd- iaeth iddynt; eyfrifid y cwbl iddynt fel eu dyledswydd a'u braint. Cam dybryd oedd hyn. Yn fy nbro, yr wvf wedi cael croesaw mewn rhan fawr o deithiau y Methodistiaid trwy Ogledd a Deheudir Cymru, ac nis gallaf byth deimlo yn ddigon diolchgar iddynt am eu derbyniad di-warafun. Ond er galw i'm cof, ac er holi, nid wyf yn s;vrybod am un man cddieithr ty y diweddar Mr. Jones o Fachynlleth, tad y Parch. John Foulkes Jones, i'w gymharu ag Abercorris, cartref Dafydd Wmffre, ac Wmffre Dafydd, o leiaf mewn un peth, sef meithder yr amser y mae pregethwyr wedi bod yn lletya ynddynt. Yn ol pob tebyg y mae y pre- gethwyr yn rhoddi i fyny yno yn ddi-dor er's dros gan' mlynedd. Yn ei lyfr dyddorol ar Hanes Methodistiaeth yn Nghorris a'r amgylchoedd, dywed y Parch. Griffith Ellis, M.A., fod Dafydd Wmffre wedi priodi yn 1781. Yn fuan ar ol iddo briodi, cafodd ei achub. Aeth i gyfamod a Duw, y cai Duw fod yn Dduw iddo, ei bobl fod yn bobl iddo, a'i achos fod yn achos iddo. Yna dywedir iddo agor ei ddrws i dclerbyn gweision yr Arglwydd ar eu hymweliad a'r gymydogaeth. Ac yno y maent hyd y dydd hwn. Hawdd yw dweyd, Llettya pregethwyr am dros gan mlynedd; ond meddylier pa betli yw hyn. Dyma dair cenhedlaeth o benau teuluoedd Dafydd AYmffre, Wmffre Dafydd, a Mr. Humphrey Davies, Y.H., preeenol. Dyma un gwr dyeithr o leiaf, yn cael ei groesawu ran o dridau bob wythnos yn ddifwlch dnlY y flwyddyn, a hyny am dair oes faith. Ac nid fel y maent yn awr y Incident yn arfer bod. Yr oedd Corris, fel Machynlleth, ar y ffordd fawr rhwng y Gogledd a'r Deheudir, ac yn nyddiau y tcithio maAvr byddai dan, neu dri, neu bedwar weithiau, o bregethwyr yn dyfod heibio bob wythnos. Nid peth bvchan oodd hyn. Ond gwneid ef yn holloi ddirwgnach a diwarafiui gwneid ef yn wir gyda'r pleser mwyaf. Edrychid arno yn fraint. Ac y mae chwedl dda iawn ar led sydd yn dangos pryder Wmffre Dafydd, am hyn. Collodd ei briod yn 1849. Yii 1860, collodd ei ferch, Hannah Davies, oedd yn gofalu am ei dy. Nid oedd Mr. Humphrey Davies, ei fab wedi priodi, nac yn ymddangos yn meddAvl am hyny. Felly nid oedd yno na gwrnig na merch i groesawu neb. Eyw ddiwnwcl- felly y dywedir, or nad wyl fi yn myned yn feichiau am wirionedd y peth—i'r hen wr alw ar y mab, gan ddweyd wrtho, yn ei ddull sydyn a digwmpas ei hun Wmffre wyt ti ddim yn ineddwl am briodi ? Os na phriodi di, rhaid i mi droi allan eto i chwilio am wraig Yn hytrach na hyny aeth Mr. Humphrey Davies, ieuangaf, allan i chwilio am wraig, ac o dan gyfarwyddyd "v Gwr o Garno," fel y dywedir, syrthiodd oi lygad ar ferch Mr. Davies, o'r Garthbwt, yn agos i Lanwnog. Nid gweddaidd i mi ddweyd dim am y byw; ond credaf y cydsynia pawb sydd yn adnabocl Mrs Davies, i ddweyd ei bod hi, mewn gwirionedd, yn "un o fil." Ilir oes i Mr. Humphrey Davies, a Mrs Davies, a'u merch, yr hon a fedyddiwyd gan y diweddar Mr. John Owen, Ty'nllwyn. A hir oes a llwyddiant i hen deulu Abercorris, pa le bynag- y maent, dros wyneb yr holl ddaear. o herwydd eu caredigrwvdd i arch Duw.

0' 11, FFAU

ARDDANGOSFA GERDDI A CHELFYDDYD…

DERWENLAS.

ABERYSTWYTH.

MACHYNLLETH.