Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

ALUN AR ESGOB HEBER.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ALUN AR ESGOB HEBER. Ganwyd Reginald Heber, D.D., yn Malpas, sir Gaer, Ebrill 2iain, 1783. Pan yn 17egoed, aeth i Rydychain, lie cafodd y radd 0 B.A. Derbyniodd urddau eglwysig, a thraddododd ddarlithiau yn Rhydychain. Etholwyd ef yn bregethwr yn Lincoln's Inn. Mehefin 16eg; 1823, hwyliodd gyda'i wraig a'i blentyn i'r India, i'r dyben 0 gymeryd lie yr Esgob Middleton, yn Calcutta, a glaniodd yno, Hydref y iofed. Yn Trichinopoly, ar y 3ydd 0 Ebrill, 1826, cafwydefwedi marw, yn ei faddon tra yn ymdrochi, yn dair a deugain mlwydd oed. Fel awdwr, y mae yn fwyaf adnabyddus drwy ei hymnau a'i farddoniaeth gyssegredig. Y mae amryw o honynt i'w cael yn y Gymraeg. Maent yn orlawn o deimlad dwfn ac efengyl- aidd. Yr ocdd ei dymmer yn addfwyn a'i galon yn haelfrydig, a gwnaeth waith mawr mewn tymmor byr, i efengyleiddio India. Cyfansoddwyd marwnad glasurol iddo gan y Parch. John Blackwell(Alun), argyfer Eistedd- fod Dinbych, yn Medi, 1828, yrhon a farnwyd yn oreu. Yr oedd Alun, 0 ddechreuad cyffredin. Glowr oedd ei dad yn byw yn Mhonterwyl, Wyddgrug, a phrentisiwyd y mab yn grydd, gyda AViliiam Kirkham. Yr oedd Kirkham yn hoff o farddoniaeth, ac yn dipyn o fardd ei hun. Darllenodd Blackwell, yn helaeth farddoniaeth Gymreig a Seisnig; ac enillodd wobrau mewn Eisteddfodau taleithiol. Tynodd ei dalentau sylw boneddigion, fel yr estynwyd cymorth iddo i'w dadblygu. Cafodd fyned i Goleg yr Iesu, Rhydychain. Penodwyd ef yn gurad Treffynnon; ac wedy'n, cafodd fywioliaeth yn Manordeifi, lie y fu farw, Mái 1ge9, 1840, yn 43 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Manordeifi. Mae ei gyfan- soddiadau yn meddu teilyngdod 0 radd uchel Mae CeiniuJi Altai, yn cymvys rhai o'r darnau prydferthaf a mwyaf gorphenedig, a choeth sydd yn yr iaith Gymraeg. Yr ydym yma yn difynu rhan o'i Farwnad i'r Esgob Heber. Lie treigla'r Caveri yn donau trylywon lihwng glenyddlle chwardd y pomgranad a'rpin Lie tyfa perlysiau yn llwyni teleidion, Lie distyll eu cangau y neithdar a'r gwin Eietedclai Hindoo ar lawr i alaru, Ei ddagrau yn llif dros ei ruddiau melynddu, A'i frou braidd rhy lawn i'w dafod lefaru, Ymdorai ei alaeth fel hyn dros ei fin. Fy ngwlad! 0 fy ngwlad, lie gbrwedd fy nhadau Ai mangre y nos fyddi byth fel yn awr Y seren a dybiais oedd sercn y boreu, Ar iiawn ei diegleirdeb a syrthiodd i lawr Y dwyrain a wenai, y tymmor tywynodd, A godre y cwmmwl cadduglyd goreurodd Diegwyliais am haul—ond y seren fachludodd Cyn i mi weled ond cysgod y wawr. Yn araf, fy mrawd—paid, paid nnobcitliio, Gwnui gam ag addewid gyfoetliog yr lor A ddiffydc1 yr haul am i eeren fachluc10 r Os pallodd yr aber, a sycliodd y morr Na, na fe dclaw bore bydd un Haleluia, Y11 ennyn o'r Gauts hyd gopaau Himalaya, Bycld baner yr Oen ar bob clogwyn yn India, U aelgerth Casgliur liyd i draeth Travancore. A hwyrach mai d'wyrion a gasglant y delwau, A fwrir i'w wadd ar bob twmpath a bryn, I'w gosod ar feddrod pin Heber yn rlleratt-- Ei gyfran o ysbail ddymunodd cyn hyn Heber ei enw ddeJfrodd alarnadau,— Gydymaith mewn galar, rlio fenthyg dy dannau, Cymmysgwn pin eerddi, cymmyfgwxi ein dagrau, Os dinodd y gerdd bydcl y 11 ygad yn llyn. 0 Gor Triclionopoly cadw c1i'n ddiogel Weddillion y sant i fwynliau melus liun, Pan ferwo y weilgi ar lan Coromaudel, Gofynir adt'eilion ei babell bob un Ond tawed ein pruddgerdd am beimill melusaeh, A ganodd ein Heber ar dannau siriolach Yn arwyl y bardd a pha ocilau cymmhwysach Ddilynir ei elor na'i odlau.ei hun? "Diangaist i'r bedd—pa'm galarwn am danat, Er mai trigfa galar a niwl ydyw'r bedd Agorwyd ei ddorau o'r blacn gan dy Geidwad, A'i gariad gwna dduuos yn ddiwrnod o hedd. Diangaist i'r bedd—ac wrtli adael marwoldeb, Itliwng liydcr ac ofn, os unwaith petxusaist, Agoraist dy lygaid yn nydd tragwyddoldeb, Ac angel a gaiiodd yr anthem a glywaist."

ABERDYFI.

Jldgofton am (|>orris,

O'R FFAU

ABERYSTWYTH.

TREFEGLWYS.

CEMMES.

NODION 0 TOWYN.

[No title]