Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

MACHYNLLETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MACHYNLLETH. CYNGHOR DOSBARTH TREFOL. Oynhaliwyd y cynghor dydd Mawrth. Presen- ol, Arglwydd H. Yane Tempest (cadeirydd), Mri. Evan Jones, R. Gillart, R. Owen, E. Rees, R. Rees, W. M. Jones, J. M. Breeze, J. Pugh, J. Lewis, E. Gillart, J. Edmunds, J. Richards, gyda D. Evans, clerc,D. Morgan is-glerc, Dr. Davies, swyddog meddygol, a J. Jones, arolygydd, pro tem. IECHYIJOL.—Yn ei adroddiad galwodd Dr. Davies, sylw at yr anghen am trap yn Garshion Lane, yn nghyda gratings eisiau eu hadgyweirio. Dywedodd fod cutiau moch, tu ol i'r Lon Boeth, y rhai ddylid eu symud i ffwrdd. Nid. oedd dim wedi ei wneud yn y Graigfach, na chyda'r lladd-dy fel yr awgrymai o'r blaen. Yr oedd tai bach yn ddiffygiol, mewn un lie nid oedd ond dau dy ar gyfer 25 o bersonau. Yr oedd y nuisances hyn wedi dwyn afiechyd o ddolur gwddf o natur beryglus yn y Graigfach, Heol Pentrerhedyn, a'r Garshiwn. Dymunai Mr. W. M. Jones, wybod paham na chariai y pwyllgot- awgryiiiiadau y iiioddyg, nid oedd eu gwaith ond sham hyd yn hyn. Pasiwyd fod y clerc, i roddi rhybudcl i J. Breakwell, i ymadael a'i dy; a throsglwyddwyd y materion eraill eto i sylw y pwyllgor, Ar gynygiad Mr. liiehard Owen, penderfynwyd i'r holl adroddiadau gael eu lianfon i'r pwyllgor Iechydol cyn cyfarfyddiad y cynghor er mwyn arbed amser. YR HEOLYDD.—Daeth adroddiad y pwyll- gor dan sylw. Gwnaed trefniadau gyda J. Davies, ac E. Morris, ynghylch goleuo y dref. Cwynid fod y trethdalwyr yn gorfod talu yn ol 6s. 9c. am nwy, sef, yr un pris ag ydyw i bersonau preifat. Yr oedd eisiau lie i gadw meter. Gadawyd hyn i'r pwyllgor i'w benclerfynu. Yr oedd angen am geryg ar yr heolydd yn fuan, a bydd Stean Roller y Sir at eu gwasanaeth tua diwedd y flwyddyn. Dymunai Mr. Richard Rees, alw sylw y pwyllgor at y llwybrau cyhoeddus. AMRYWION.—Gosodwyd y gwaith o agor ffos y Garshiwn, i Joseph Jones, yn ol 4c. y rood, y gwaith i'w orphen yn mhen mis. Penderfynwyd apelio at Fwrdd Llywodraeth Leol, am fabwysiadu galluoedd Cynghor Plwyf, gyda golwg ar festri, pryniad tir, allotments, elusenau, &c., ond nid yn cynwys lye laws i'r dref. PRIF YSGOL CYMRU.—Yn nghylch y cais am i'r Brif Ysgol gael ei sefydlu yn y dref; yr oedd llythyr wedi ei dderbyn oddiwrth Proff. Rhys. Hysbyswyd fod Bwrdd y Llywodraethwyr yn cyfarfod dydd lau. Pasiwyd fod cais fiurfiol yn cael ei anfon am sefydliad y Brif Ysgol yn y lie, a bod i'r clerc, ymohebu ynghylch pa lwybr fydd yn ddoethaf i'w gario allan. PYSGOTA YN Y Dyri.-Alr. John Lewis, alwodd sylw at fater o bwysigrwydd i'r dref, sef, gwaith clwb pysgota y Dyfi, yn cau yr afon ganol mis Medi, i'r holl drefwyr, a'r dieithriaid i bysgota ynddi, oddieithr ryw haner dwsin o aelodau y clwb. Yr oedd hyn yn achosi colled i'r dref, a chynygiodd fod dirprwyaeth yn galw gyda'r clwb yn apelio am symud y gorfaeliaeth afresymol hwn. Mr. J. Pugh, a gefnogodd, yr hwn a sylwai fod y prisiau i bysgotwyr na chymer- ent docyn am y tymhor wedi eu codi ar draul gostwng y lleill yr hyn oedd yn anfantais arall i'r dref. Pasiwyd fod Mri. E. Rees, E. Gillart, J. Lewis, a'r cadeirydd, i weithredu yn y cais hwn. TIR CYFFREDIN.—Galwodd Mr. R. Gillart, sylw at ddarn o dir cyffredin a drosglwydd- wyd mewn gweithred gan Syr Watkin, yn 1862, i Arglwydd Londonderry, rhan o'r hwn oedd wedi ei gau i mewn, a rhan heb ei gau, ag oedd yn agos i'r Common, ac i'r fynedfa i'r Plas, Nid oedd ond o ychydig werth, a tlieflicl ysbwrial ar y lie, a dymunai i bwyllgor ystyried y mater, fel y gallai Ardalyddes Londonderry, ei gau i mewn os bernid yn addas. Dywedodd Mr. Richard Rees, nad oedd genym allu i ymdrin ag of, ac yn mhellach, ni ddylent ymyryd, yn frysiog gyda throsglwyddiad tir cyffredin. Pasiwyd fod Mri. R. Owen, E. Rees, ac E. Jones, i ystyried y mater. Y GWAITH DWFR-—Dygodd Mr. Kirby, y peirianycld, blaniau ac adroddiad am amcan-gyfrif costau y gwaith dwfr a fwriedir yn wneyd yn Esgaireira, plwyf Ilanwrin. Costiai yr argae tua í OOOp. wedi ei gwneud o glai yn y canol; 10 troedfedd o led yn y gwaelod, a 4 troedfedd yn y top, gyda phridd o bob tu, i gynwys 5,000,000 a alwyni. Credai y cymeradwyai y Llywodraeth Leol y cyfryw. Yr oedd digonedd p glai pwrpasol gerllaw. Cymhellai roddi pibellau 6 mod- fedd i gludo y dwfr, yn lIe 4 modfedd, ond wrth fyrhau y ffordd, ni byddai ychwanegiad yn y costau. Cyfrifai yr holl gost, yn cynwys y tir yn 4,300p. Dywedodd y gellid cael dwfr drwy y pibellau erbyn yr haf nesaf, os dymunai y Cynghor hyny cyn gorphen yr argae. Yr oedd yn anghymer- adwyo gwneud reser-voir ar y pare common, byddai raid i hono gael ei gwneud o geryg. Yr oedd y Cynghor yn rhoddi cymeradwy- aeth i'r adroddiad, er na phasiwyd hyny yn ffurfiol. Penderfynwyd yn gyntaf, gwneud ymholiad a'r tirfeddianwyr yn nghylch eu telerau am y tir i'r argae a'r pibellau, fel y gellid parotoi y ffordd at ymchwiliad Bwrdd y Llywodraeth Leol, am penthygiad arian, &e.

TOWYN.

Family Notices

AR GRWYDR.

Advertising

CYNGHOR PLWYFOL TALYLLYN.

MR. A. C. HUMPHREYS-OWEN .A.S.

"GOLYGFA 0 BEN Y FRON."I

CORRIS.

CYMRU A CHYMRU'R PLANT.

Y MARCHNADOEDD.