Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
ICY CHWARELWR."
ICY CHWARELWR." 0 cheir hwyl, i'r chwarelwr—y canaf- Dacw hynod weithiwr; Onid yw gamp nodi gwr Mewn teiroes mwy anturiwr ? Efe, ar lithrig ddirfawr lethredd-craig, Neu'n crogi'n ei danedd; Bwya dylla'n mhob dullwedd, 0 hyd, mewn bywyd min bedd. Ond rhag corwynt a rhew garwaf,—rhag gwlaw,— Rhag" gwlyb dywydd gauaf, Uwch fy mhen cysgodlen gaf,- Man lechau-mwy ni wlychaf. Bachgen doniol oedd Owen, clywais lawer llinell o'i eiddo gan blant Rhydymain. Pan oedd ef a chyfaill iddo yn myn'd i de at ryw ffrynd, dywedodd Owen fel hyn:— "Heddyw 'e gawn oil de ddigon, a chig moch ac wyau, gyda 'menyn doraeth ar fara twymn-oni fydd yn fwyd da ? Dyna gamp i'r beirdd i'w osod yn drefnns. Abergynolvoyn. TALFARDD,
"ADGOF"
"ADGOF" Yn ei hanes dyddorol am ei daith i eistedd- fod Corris yn y NEGESYDD diweddaf, gofyna yr ysgrifenydd am englynion Owen Aran i'r Chwarelwr." Dyma yr englynion a'r hanes yn eu cylch fel y clywais i. Dywedai y beirniad Gwalchmai, fod yr eiddo Owen yn rhy ddi- weddar yn d'od i law, ac felly ni chafodd y wobr.
NODION 0 TOWYN.
NODION 0 TOWYN. Yn mysg ein nodion yr wythnos hon mae genym y gorchwyl galarus o gofnodi marwol- aeth sydyn Mr. M. Howell Jones, fferyllydd parchus yn y dref Yr oedd Mr. Jones, yn un o safle bwysig yn y dref, fel masnachydd a threfwr, yn aelod o'r Bwrdd Ysgol a Bwrdd llywodraethol yr Ysgol ganol raddol. Yn ysgrifenydd Ueol i'r Gymdeithas ryddfrydol a thrysorydd Cymdeitlias ddir- westol y Sir. Yn ysgrifenydd cofnodol a Blaenor i'r Eglwys Annibynol, a swyddog lleol i'r Feibl gymdeithas. Yr oedd bob amser yn barod i roi ei wasanaeth gydag unrhyw symudiad er dyrcbafu y dref mewn moesoldeb, ond er ei holl ragoriaethau symudwyd ef o'n mysg yn hynod annisgwyl- iadwy pan nad oedd ond 31 ain oed. Ohwith fydd genym weled ei le yn wag yn ei fasnach- dy eang a hardd, yn y capel, ac mewn gwahanol gyfarfodydd yn y dref. Cyd- ymdeimlir yn neillduol gyda'r teulu sydd yn eu galar, gan y dref yn gylfredinol. Dydd Sadwrn dilynol i'w farwolaeth sef yr 28 ain cyfisol cymerodd y gladdedigaeth le pan yr ymgasglodd tyrfa liosog iawn o bell ac agos. Deallwyf mai'r Parch. W. Oarradog Jones, Oswestry, oedd trefnydd y gladdedigaeth. Wrth y ty darllenwyd un adnod a gweddi- wyd gan y Parch. J. D. Evans, Towyn, yna aed i'r gladdfa pan y gweinyddwyd yn y drefn ymneiUduol gan y Parchn. 0. Jones, a a Josiah Jones, Machynlleth, yn ddilynol aed i'r capel lie cynhaliwyd gwasanaeth maith a chymerwyd rhan gan E. Wnion Evans, Derwenlas, Davies, Abergynolwyn, Davies, fferyllydd Machynlleth, (hen feistr yr ymadawedig) Caradog Jones, Josiah Jones, a Williams, Maentwrog, yr hwn hefyd a bregethodd bregeth angladdol nos Sabboth 29 ain. Ei destyn oedd: "Yr Arglwydd a roddodd yr Arglwydd a gymerodd ymaith bendigedig fyddo enw yr Arglwydd (Job). GVEIXIANT MWYAF TOWYN YTO.-Sef cael Llyn yn cyfleus i'r dref. Er fod Towyn, wedi ei freintio ag un o'r ymdroch-leoedd goraf, eto nis gellir glanio na morio cychod yma, heb fod y drafferth yn Îwy na'r pleser. Ondynngwyneb y diffyg hwn, gwelaf fod rhyw un neu rhyw rhai llygad-graff wedi gwel'd y posibilrwydd o lunio Llyn. Ac yn wir crodaf na fu gwell drychfeddwl erioed. Dyna'r prif beth sydd angen am dano yma. Beth pe bai y dref yn cymeryd y syniad hwn i fynu, ac edrych i mewn beth fyddai y draul o wneyd Llyn ar y gwaelod, dyweder yn mesurrhyw 10 neu 12 acer, a rhyw lathen o ddyfnder. Hyderwn na chaiff y eyniad hwn syrthio i'r gwellt, fel y dywedir, ond y eaiff sylw dyladwy y dref; gan y credwn fod rhan bwysig o gynydd y lie yn guddiedig ynddo. Nid atdyniad i'r lie yn yr haf yn unig a fyddai llyn, ond yn y gauaf hefyd, fel lie i ysglefrio. GWYLIEDYDD.
[No title]
Safon cyflog chwarelwyr Bethesda yw 48 6c y dydd. Y mae ymdrech yn cael ei wneyd ganddynt i gael 5s. y dydd yn safon y cyflog. Y mae y fasnach lechi yn y lie yn awr yn flodeuog iawn, ac y mae y dynion yn naturiol ddisgwyl mantais oddiwrth sefyllfa dda y fasnach, fel y cawsant ddioddef yn ystod yr iselder flynyddau yn ol.
Jldgofiott am Morris,
Jldgofiott am Morris, GAN Y PARCH. EVAN JONES, CAERNARVON. XVI. Y leiaf, ond nid y waelaf, o'r pedair eglwys dan fy ngofal ydoedd Ebenezer, Esgairgeiliog. Ychydig oedd ei rhif, ac nid oedd yn enwog am ei doniau; ond hi, o'r oil, a ofalodd fod a chadw ar y blaen i dalu fy nghyflog. Ychydig iawn a roddid imi am fy llafur wythnosol gan y pedair eglwys —llai, mi debygaf, nag a roddid i bob un o'r tri bugail a ddaeth yno i wasanaethu Rehoboth, ac Esgairgeiliog, Aberllefenni, a'r Eatgoed, a Bethania ac Ystradgwyn, ar fy ol. Diamhou fod digon o reswm dros hyny. Yr oedd y fugeiliaeth yn dechreu gyda mi. Prin y gwyddai yr eglwysi a allent gadw bugail ai peidio. Ond wedi gweled y gallent gadw bugail, mynasant dri; ac wedi deall fod arian yn dyfod tuag at ei gadw, rhoddent yn haelach iddo yntau am ei waith. Yr oedd hyn i gyd yn hollol yn ei le. Ond, fel y dywedais, ychydig iawn a roddid i mi; ac yr oedd tipyn o demtasiwn yn ymosod arnaf o herwydd hyny. Yr oeddwn ar y pryd yn ysgrifenu y Golofn Gymraeg i'r Cambrian News, yr hwn a gyhoeddid y pryd hwnw yng Nghroesoswallt. Ysgrifenwn y golofn yn bur rhwydd mewn llai na phedair awr; a dyna ben arni. Ond teEd i mi am y llafur byr hwnw—er mai ysgrifenu Cymraeg yr oeddwn, ond yn unig fy mod yn ei ysgrif- enu i Sais-lawn dwy ran o dair o'r hyn a delid i mi gan yr eglwysi am fy ngwasanaeth dros yr holl wythnos. Byddai rhywun wrth fy mbenelin yn bur fynych yn sibrwd yn fy nghlust: "Y creadur dwl! yn ymboeni i ddarllen a myfyrio, i ymweled a llafurio ac yr wyt yn cael llawer mwy o giciau nag o geiniogau am dy waith. Ymro i ysgrifenu. Daw rhywun i weled dy werth. A gâd lonydd i'r fugeiliaeth dlwad a diorphwys yma. Fe dal ysgrifenu yn well i ti o'r haner." Ni chynygiodd y diafol erioed i mi "deyrnasoedd y byd a'u gogoniant;" ond, yn fynych o'r dechreu, fe gynygiodd ef, neu rywun arall drosto, i mi amryw fanteision bydol os gadawn y fugeiliaeth a'r pregethu, ac ymroi i ysgrifenu, neu ryw lafur llenyddol arall. Ond byddai gweled John Jones, y Gyfylche—yr hen grydd—yn ei thinio hi i fyny tua Bronygraig, yr wythnos gyntaf braidd yn ddieithriad ar ol i'r chwarter cyflog ddyfod yn ddyledus, gyda llai na dwy bunt yn ei boced, a'r rhai hyny wedi eu casglu o logellau disgyblion bychain ffyddlon 0 tD Esgairgeiliog, yn gadael argraff ddymunol arnaf; a bu yn foddion i mi orchfygu y diafol, o leiaf yn y mater hwn, fwy nag un- waith. Ardderchog ydyw hanes tair eglwys arall hefyd yn hyn; ond yn unig fod Esgair- geiliog ar y blaen, ac yn haeddu cael ei henwi. Eel y dywedais, ychydig oedd enwau y disgyblion yn Esgairgeiliog, a'r rhai hyny heb fod yn enwog. Er hyny yr oedd yno rai cymeriadau rhagorol iawn. Dyna Richard Edwards, y Ceinws, a Mrs. Edwards- chwaer i wraig Mr. Samuel Williams. Yno yn gyffredin yr oedd y pregethwr yn cael bwyd, a chroesaw faint a fynai; a David Edwards, ei frawd, a Mrs. Edwards—chwaer i'r ddau frawd, Mri. David a William Jones, o Fachynlleth, Dafydd Williams, y Tail- iwr—gwr o ddoniau diamheuol. John Davies, yr hen lane gwastad a gofalus. Dafydd Robert a Lowry ei wraig—y naill mor hynod a'r llall. John Evans, a Thomas Morgan. Ac yn enwedig yr hen grydd—- John Jones, y Gyfylche. Yr hyn ydoedd Wrnffre Dafydd i Gorris, Rowland Evans i Aberllefenni, a Samuel Williams i Bethania, —dyna ydoedd John Jones i Esgairgeiliog. Nid oedd John Jones, yr un gronyn llai dyn na llai duwiol na'r tri eraill. Ond yr oedd ynddo un peth a barai i rywrai dybied hyny —sef ei hoywder a'i ysmaldod diderfyn. Yr oedd yn neillduol hoft o blant. Chwareuai gyda hwy fel yr hogyn. A pha bryd bynag yr ai i'r dref, beth bynag fyddai yn ol, yr oedd yn l'haid i John Jones, g'ael fferins i'r plant. Coffa da am dano, pan oedd fy ngeneth hynaf yn blentyn, ac Elizabeth, merch Dafydd Hughes, y crydd, yn ei magu. Oanai Elizabeth i ddifyru y plentyn yr hen Hwian Gerdd: Mae genyf gath ddu, Fu 'rioed ei bath hi, Hi dresith y clagwydd, hi dynith ei blu." Mynai John Jones, ei dysgu i ddifyru rhyw blentyn oedd ganddo yntau gartref. Adrodd- ai hi eilwaith a thrachefn, ac yna i ffwrdd ag ef. Ond toe, g'welwn ef yn dyfod yn ei ol yn chwyrn. "I b'le yr ewch chwi, John Jones ?" "Eisieu gwelod Lizabeth sydd arna i. Mi rydw i wedi anghofio'r I Gath ddu Mi roedd llawer o'r hogyn ynddo o hyd. Ond yr oedd yn gwir ofalu am yr achos mawr. Byddai ei sylwadau yn berlau; ac yr oedd yn medru trin pobl Esgairgeiliog i'r dim. Bu iddo amryw blant. Ac un mab iddo ef-J-ohn Jones, yr un enw a'i dad-yr hwn oedd yn gweithio ei grefft gyda'i ewythr Robert Jones, y crydd, yn Machynlleth, oedd yr un ieuangc mwyaf addawol i wneyd pregethwr, yn ddibetrus, a adwaenais i erioed. Dywedai pawb o honom yn y Gymdeithas Lenyddol yn Machynlleth; yn ddiwahaniaeth y gwnai John Jones, os cai fyw, un o bregethwyr mawrion Oymru. Nid oes dim amheuaeth ar fy meddwl am hyny hyd heddyw. Yr oedd ei sylwadau yn odidog, a'r traddodiad o honynt yn ar- dderchog iawn. Meddyliem y byd o hono, a disgwyliem y pethau uchaf oddiwrtho. Ond bu farw yn ei febyd; a chyfododd y seren fawr hon yn fore i oreuro gorwel arall.
O'R FFAU
O'R FFAU GAN LLEW. Elw bychan ydyw rhoi i mi rywbeth i'ra cynal yn fy nhlodi, ond elw mawr fyddai fy nghynorthwyo o hono. Os carech ymadon da o gwmni person o feddwl mawr, ymdrechwch wneyd argraff da ar ei feddwl am danoch, ond os mai person o feddwl bach a chrebachlyd fydd, ymdrech- wch adael argraff da ar ei feddwl am dano ei hun, medd y Cwrs.' Dymunol o beth fyddai gweled holl weithwyr y byd, a phawb, yn teithio llwybr uniondeb—yn lan eu gwisgoedd a'u cymer- iadau yn gyfain oddiwrth y camwedd o dwyllo y naill y llall, oblegid y mae yn arswydus meddwl am y twyll dyddiol a wneir yn ein masnachdai, inarchnadoedd a'u ffeiriau. Fcl hyn y canodd un o'n beirdd i'r 1 March' yv dydd arall- "Megina hoen drwy ei ffroenau,-egyr Egr lygaid fel ffwrneision; O'i hyf nerth wrth ymfwynhau, Bywyd el (a) o'i bedolau." Oymered darllenydd lluosog a chraffus y NEGESYDD ef am ei werth. Digwyddodd ffrwydriad nerthol yn Beth- ad Green, Llundain, yr wythnos ddiweddaf,1 yn agos i lamp ar yr heol, lie yr oedd nwy yn diangc, mae'n ymddangos a hwnw rywfod a daniodd. Anafwyd bachgenyn a basiai heibio ar y pryd yn arsMydus, Yn ol hysbysrwydd a dderbyniwyd yn Hong Kong, ddydd Mercher, bu'r Consuliaid Tramor, sydd yn ffurfio dirprwyaeth yr ymchwil i'r cyflafanau ddiweddar yn Hucheng yn dystion, dydd Mawrth, o ddienyddiad saith o ar^-einwyr brodorol a fu yn gyfranog yn yr esgelderau a gyfiawnwyd. Xortynyglwyd y troseddwyr gyda chleddyfau yn y ffordd arforol yn China. Dywed gohebydd Llandemig, nad oes amheuaeth nad oes "waed breninol" yn ngwythienau Syr William Harcourt. Y mac yn disgynydd o Farin Tudur, ail chwaer Harri VIII; a dywed rhai pobl fod tcbyg- rwydd'rhwng Syr William, a darlun Harri yn Mhalas Hampton Court. Pwy sydd alluog i benderfynu y fath fater gor bwysig ? Y mae y Parch. William Evans, curad, St. Michaels, Aberystwyth, wedi penderfynu ymadael a'r dref uchod, a chymeryd gofal o guradiaeth St. Paul's, Llanelli. Teimlir yn ofidus gan y frawdoliaeth yn ngwyneb ei golli o'u plith, gan ei fod yn un a fawr berehid ganddynt. Dymunir ei Iwyddiant yn nhrei yr Alcan. Cyhoeddwyd adroddiad blynyddol y Post- feistr CyfEredinol y dydd o'r blaen. Cyfanrif y llythyrau, cardiau, newyddiaduron, &c., a bostiwyd yn ystod y flwyddyn ydoedd, 290, 723,600—cynydd o 10 y cant. Y mae gan y NEGESYDD ran go dda yn yr ychwanegiad hwn. 0 Cynaliwydgwyl flynyd(lol,l)re,),,e fliu eglwys Clarach a'r Borth, lie y gweinidogaetha y Parch. J. Llewelyn, yr wythnos ddiweddaf, pryd y cafwyd gwasanaeth gwerthfawr y Parchn. Peter Davies, Panteg, Cae'rfyrddin; T. E. Thomae, Coedpooth; Elvet Lewis, Llanelli; a Job Miles, Aberystwyth. Yr oedd y cynulliadau yn fawrion a'r weinidog- aeth yn nerthol dylanwadol. Y mae swyddogionj Gymdeithas Genhadol yn Llundaki, newydd glywed am farwolaeth Mrs. Owen, pried y Parch. William Owen, cenhadwr, yn Chung King, China. Yr oedd Mrs. Owen, wedi myned allan mewn cysylltiad aChymdeithas Genhadol j Wesley- aid, ac wedi tailu ei holl enaid i'r gwaith. Adeiladodd ar ei thraul ei hunan ysbyty gwerth oddeutu 800p. er gwella cyrph y brodorion; a chai fantais, wrth ddyfod i gyffyriad a'r paganiaid yn y wedd hon, i wella eu heneidiau trwy dyfod a hwynt i gyffyrddiad a Mab Duw, Wedi uno mewn priodas a Mr. Owen, ymunodd a Chymdeitkas Genhadol Llundain, er cael cyd-weithio a'i phriod. Ystyrid Mrs. Owen, yn un o'r rhai mwyaf llednais a chrefyddol ellid gyfarfod, ai holl enaid yn ngwaith y Genhadaeth. Ac wrth feddwl ei bod wedi syrnud fel hyn o'r maes yn nghanol ei gwaith a'i defnydd- ioldeb, nis gallwn lai na theimlo mai Cymylau a thywyllwch sydd o'i amgylch ef." Yr ydym yn mawr gydymdeimlo a'i phriod hawddgar yn nghanol eibrofodigaeth chwerw. Yn mrawdlys trwyddedol Aberystv-yth; i yr wythnos diweddaf, ar awgrymiad y prif gwnsable Mr. Howell Evans, gohiriwyd adnewyddiad trwydded pob ty y tybir ei fod yn "dy rhw-yxn" er mwyn i'r cytundebau rhwng perchen a thenant gael eu harchwilio. Yr oedd y si ar led fod y eyiryw dai yn cynyddu yn y fwrdeisdref. Eithaf peth ydyw cael pob gwTybodaeth yn nglyn a'r ifanau hyn.
GYMDEITHAS BYDDPBTDIG SIR…
GYMDEITHAS BYDDPBTDIG SIR FEIRIONYDD. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y gymdeithas uchod yn y Bala, ddydd Iau, pryd y llywyddid gan Dr. E. Jones, Dolgellau, yn absenoldeb Mr. S. Pope. Darllenodd y trysorydd (Mr. J. Parry, Bala,) y cyfrifon, y rhai a ddangosent fod sefyllfa arianol y gymdeithas yn foddhaol. Penderfynwyd peidio talu y cyfraniad blyn- yddol o iop. yn rliagor i Gynerair Rhyddfrydig Gogledd Cymru. Penod'vvyd y rhai a ganlyn yn swyddogion y GymdeithasLlywydd, Mr. S. Pope, is- lywyddion, y Mri. A. Osmond Williams, Dr. E. Jones, Dr. R. D. Evans, Dr. Hughes, E. Griliith, R. O. Jones, W. Ffoulkes Jones, J. Hughes Jones, T. Jones, E. P. Jones, Lewis Lewis, H. Haydn Jones, R. D. Roberts, Humphrey Davies, T. Edwards. Trysorycld, Mr. J. Parry, Bala. Ysgrifenydd, Mr. Andreas Roberts. Archwiliwr, Mr. J. Parry Jones. Cynrychiolwyr ar Bwyllgor Cyffredin y Cyngrair Cenealaethol, Mr. S, «^ope, a Mr. D. R. Roberts, Dolgellau. Cynrychioiwr ar y Cyngrair Rhyddfrydig Cenedlaethol, Mr. S. Pope. Penderfynwyd cynal y cyfarfod blynyddoll nesaf yn Nolgellau.
LLANFAIR OAEBEIMIOH.
LLANFAIR OAEBEIMIOH. Ail Agor yr Ysgol Gaiiol.ra(I(Iol.-Cynn,-Li- iwyd cyfarfod nos Fawrth, yr 17eg, ynglyn ag ail agoriad yr ysgol ganolraddol. Lt-v, gan Mr. John Jehu, ac yr oedd Mr. A. C. Humpheys- Owen, A. S., yn bresenol. Yn nghwrs anerchiad gwerthfawr a draddodwyd ganddo, dywedodd Mr. Humphreys Owen mai y peth pwysieaf a'i tarawodd ef er pan ddechreuodd astudio cwestiwn. addysg ganolraddol ydoedd, eu ddjiedswyddau i ddwyn yr addysg i gartrefi y plant (cymmeradwyaeth). Yr oedd llawer o rieni nas gallent, hyd yn oed gyda chyinmhorth ysgoloriaethan, anfon eu plant allan o'r dosbarth, fel yr oedd yn llawer gwell cael ysgolion fel yr ysgol hono yma ac acw yn y sir yn hvtrach nag un neu (lchyv o ysgolion mawrion. Yr oedd yn nghoinelau y wlad blant a,g yr oedd eu talentau naturiol yn rhydu o eisiau addysg. Os oedd ganddynt eisiau pobl ddysgedig a dwyiliodig, eang eu. cydymdemilad, yv oedd raid iddynt ddwyn yr addysg at y plant, ac nid dwyn y 1 'J'1 1 plant at yr addysg. Siaradwyd yn ddilynol gan y Parch. Owen Jones, y Parch. E. Griffith, Meifod, Mr. H. 0. Hilton, Dr. Hum- hreys, Mr. Theodore, ac eraill.
--GLANAU Y DYFI.
GLANAU Y DYFI. ETHOLIAD Y BWRDD.—Yr etholiad hwn fu yn cymeryd amser a meddwl trigolion y glanau yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd amser yr hen fwrdd i fynu ac anghenrhaid oedd dewis bwrdd newydd. Ar y dechreu yr oedd triarddeg o bersonau wedi eu dewis am y saith sedd, ond tynwyd y rhif i lawr i wyth, ac nid oedd modd ysgoi etholiad am fod yr wyth yn penderfynu sefyll. Y rhai hyn oedd- ynt Dr. Grosholz, a'r Parch. J. Rowlands Eglwyswyr, Parch. J. O. Thomas, Mri. E. Rowlands, a Maethlon James, Methodistiaid, E. L. Rowlands, a J. O. Jones, WTesleyaid, a H. J. Evans, Annibynwr. Yn Aberdyfi, yr oedd gweithio dyfal dros eu tri ymgeisydd, yr eglwyswyr dros y ficer, ar ymneillduwyr dros y Parch. J. O. Thomas, a Mr. E. L. Rowlands. Teimlid fod ymgeisiaeth y ficer, yn fath o ergyd i'r ysgol newydd, a mawr oedd syndod Ymneillduwyr y lie pan glywsant fod rhai o Towyn, wedi bod gyda'r Parch. J. O. Thomas, yn gofyn iddo dynu yn ol er mwyn osgoi etholiad. Nid rhyfedd i'r lecsiwn droi fel y darfu a bod un o'r Xywyniaid ar y clwt. Dydd Iau y bu yr etholiad, rhifwyd y votes yn Aber- dyli, ac yr oedd y ffigyrau fel hyn :— Dr. Grosholz, Towyn (E.) 704 Mr. E. Rowlands, Penal (M ) 675. Parch. J. O. Xhomas, Aberdyfi(M.C.) 650 J. Rowlands, Aberdyfi (E.) 637 Mr. H. J. Evans Xowyn (A.) 55° E. L. Rowlands (vV.) 539 J. O. Jones, Towyn (W.) 453 J. Maethlon James, Xowyn (M.C.) 435 i Yr oedd y ddau gyntafyn aelodau o'r hen fwrdd. GWYL DDIRWESTOL ABERDYFI.—Cynhal- iwyd hon dydd Gwener yn Aberdyfi, a chafwyd siarad bendigedig. Yr oedd tri o gyfarfodydd y cyntaf yn y boreu, yn nghapel y Wesieyaid, yr ail, y prydnhawn, yn yr alvyr agored, a'r trydydd yn yr hwyr, yn nghapel eang y Meth- odistiaid. Yn y boreu, llywyddwyd gan y Parch. W. Jenkins (A.), a siaradwyd gan y Parchn. R. M. Jones (M.C.), Penal, ac R. Jones (W.), Xowyn. Holwyd y plant yn effeith- iol gan y Parch. J. D. Evans (M.C.), Towyn. Yn y prydnhawn, gorymdeithiwyd trwy y dref a hen flag dirwestwyr 1836 yn blaenori. Cafwyd cyfarfod yn yr awyr agored yn Chapel Square, pryd yr anerchwyd y gyuulleidfa gan Ceridwen Peris, Mrs. Jones, Llanfyllin, a'r Parch. H. Hughes, Caernarfon. Yn yr hwyr, siaradwyd gan yr un rhai yn hynod o eiTeithiol yn y Xabernacl. Yn y cyfarfod hwyrol, pasiwyd penderfyniad yn galw ar i holl ddirwestwyr y cymydogaethau weithio a chynllunio er hyr- wyddo yr achos dirwestol yn y gwahanol drefi a phentrefi. Llywyddwyd y prydnhawn gan y Parch. T Hughes (W.), a'r hwyr gan y Parch. J. O. Thomas, M.A. (M.C.). Barn pawb oedd fod yr wyl yn un hynod o lwyddianus. Gresyn na bai cyfeillicn Aberdyfi wedi llwyddo i'w gwneyd yn fwy hysbys, ac i drefnu trens i fyned a dieithriaid adref ar 01 y cyfarfod hwyrol. -4
LLAMBBYHMAIB.
LLAMBBYHMAIB. GWSEUD YMENYK:—Cynhaliwyd dosbarth mown gvvneud ymenyn gan Miss Thomas o Golcg Aberystwyth, dan nawdd Cyngor Sirol Maldwyn, yn B rynaerau-isaf, yr hwn. n. roddwyd yn garedig iawn at ea gwasanaeth gan Mr. a Mrs. Bobert Francis, 0 Medi 16 iiyd Modi 20ain. Teiuilwyd cryn d-.Iydd- orde-b gan yr ardalwyr yn y dosbarth, ac yr oedd lluaws yn mynod i Brynaorau i'w gweled yn corddi bob dydd. Gwnaed y dosbarth i fyny o dleuddeg o ferched ieuangc, a rhoddwn yma eu henwau:—Miss Jones, Tygwyn, Aborhosan, Miss Katie Davies, Dolgoch, Miss Mary A. Hughes, Cwmcarnedd uehuf, Miss Dorothy Roberts, Hafodwen, Misses E. S. a C. Williams, Esgair, Miss Jane Jones, Glanrafon, Tafol- wern, Miss Lis-sio Thomas, Coedcao, Miss Hannah Heeo, Gianrnyd, jkiss HumphreyPj Fronlwyd Miss Jane Davies, Brynllys. i>y u.u Iau, y 26 ain daeth Proff. Parry o Aber- ystwyth, i arholi y dosbarth, a rhoddoad ganmoliaeth uchel iddynt, a dywedodd fod canlyniadau yr arholiad yn adlowyrchu clod mawr ar yr athrawes a'r ysgolorion. Daeth lluaws mawr ynghyd diwrnod yr arholiad ac yn eu mysg gwelsom y rhai canlynol:— Mr. a Mrs. A. C. Humphrej^s-Owen, A. S. Edward Davies, Ysw, Dolcaradog, Mr. a Mrs. N. B. Owen, Penegoes, Machynlletb, Dr. Edwards, Cemmes Road, Mr. a Mrs. H. L. Smith, Brynllys, Miss Hughes, Ystrad, Dinbych,(merch y Milwriad Hughes, agent Syr Watkin), Mrs. Vaughan, Cwmcarnedd- uchaf, Mrs. Breese, Ffriddfawr, Mrs. Francis, Pentrecelyn, Mrs. Jones, Brynaereuchaf, ynghyd a lluaws or "clahryr oeddynt yn teimlo dyddordeb yn y gweithrediadau. Dailgoswyd tea pot v arian gwerthfawr gan Mr. Davies, Dolcaradog, yr hwn y mae efe yu ei roddi yn wobr yn arddangosfa Mach- ynlleth y flwyddyn nesaf am yr ymenyn goreu, Anerchwyd y dosbarth gan Ilr. Davies, ac anogai y merched ieuaingc oedd ger ei fron i ymgystadlu am wobrau mewn gwneyd ymenyn, a gobeithiai mai un o'r dosbarth hwnw a fyddai mor ffodus ag enill y tea pot a ddaliodd yn ei law (cymeradwy- aeth). Cymerwyd darlun o'r dosbarth gan Mr. J. Meurig Edwards, photographer, Bow Street.