Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

AM BRIODAS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AM BRIODAS. GAN DR. D. REES, BRONANT. Mae genyf neges i'r NEGESYDD i'w gario i bob teulu yn y cymydogaethau lie mae yn myned. A dyma fe,—Gweddus yw priodas ynmhawb fel bydcio y gwely yn ddihalogedig. Fe ddylai gwr a gwraig faethu y teulu, a'u hegwyddori ymhob peth da, dylcnt lawenhau gyda eu gilydd, a chario beichiau eu gilydd, ac heb fod yn chwerw y naill wrth y llall. Mae cariad parhaus yn troi y dwfr yn tVill melus, ond os oera cariad, fe aiff y gwin yn ddwr, h.y., pethau cysurus yn anghysurus. Llysieuyn sydd i fod yn gynes yn barhaus yw cariad ymhob hinsawdd. Ni dclylai yr un o'r pethau na'r cynheddfau canlynol fod mewn gwr Bod yn ddiotal fel Esau; yn rhy anystyriol fel Jephtha; yn rhy feddal fel Ahab yn rhy fwyn fel y Lefiad yn rhy ynfyd fel Nabal; yn rhy anmhwyllog fel Lalllec; yn rhy ufudd fel Herod yn rhy sarug fel Cain yn rhy an- hwsmonaidd fel y mab afradlon; nac yn eiddigeddus fel Jeboseth; yn falch fel Haman; yn odinebus fel Reuben; yn der- fysglyd fel Ismael; yn gybyddlyd fel Laban ac yn anfoddlawn a clichellgar fel Ahitophel. Hefyd, y gwragedd a ddylent edrych ati rhag bod yn falch fel Jezebel; yn gyffrous fel Miriam; yn ffals fel Dalilah yn surllyd fel Fasti; yn rhy arglwyddiaethus fel Ataliah; yn rhy wawdus fel Mical; yn ddiystyrllyd fel Agar; yn gelwyddog fel Saphira; yn atgas fel Herodias; neu heb ddim llywodr- aeth fel Euodias yn anhygar fel gwragedd Esau; yn demtiol fel gwraig Job; yn anllad fel gwraig Putiphar; yn wibiog fel gwraig y Lefiad; yn ddichellgar fel gwraig Jero- boam yn gwrthwynebu fel gwraig Lot; yn anwadol fel gwraig Samson. Caled yw, ac a fydd ar y mab a briodo yr hon y mae llawer o'r nodau hyn ami; a gwae y ferch a briodo y mab y mae llawer o'r cynheddfau uchod ynddo.

Jldgofton am ^>orrts,

ABERYSTWYTH.

CEMMES.

LLANBRYNMAIR.

..... "ADWYON SYDD AM DEWI."

[No title]

LLANELLTYD.

[No title]