Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

19 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

'.ABERGYNOLWYN.

ABERANGELL.

'DOLGELLAU.

BORTH.

TOWYN.

(ftoljt btartljan.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

(ftoljt btartljan. -0:- DINASMAWDDWY A'I HAMGYLCH- OEDD. Mr. Gol,—Dymunaf am gongl fechan o'ch newyddiadur clodwiw i draethu ar rai pethau sydd wedi cymeryd lie yma, ac y dylent gael sylw cyhoeddus. Ychydig amser yn ol, cyn- haliwyd cyfarfod o drethdalwyr plwyf Mallwyd, yn yr hwn yr ymdriniwyd a gwahanol faterion perthynol i'r plwyf, ac yn eu mysg daeth pwnc yr arian y mae y plwyf, rhywfodd neu gilydd, wedi rhedeg i ddyled yn yr amser a aeth heibio, fel nad ydyw y trethoedd, yn ol y trethiad diweddaf, yn ddigon 0 lawer i gyfarfod a'r ddyled. Yn y cyfarfod yr oedd amryw gynygion neu gynlluniau pa fodd i ddyfod allan o'r ddyled, yn cael eu dwyn i sylw, ac yn eu mysg dyma gynllun gan wr adnabyddus fel gwarcheidwad: Fod treth ychwanegol yn cael ei gwneyd ar y gweithwyr sydd yn y plwyf at yr hyn sydd yn bresenol; gan adael yr amaethwyr a'r gwyr ddygodd y ddyled ar y plwyf yn llonydd, am ei fod yn ystyried fod yr amaethwyr wedi cael gauaf caled iawn, ac wedi cael colledion mawrion. Cafodd y cynllun yna ei eilio gan un ag sydd bob amser yn eymeryd arno fod yn bleidiol i'r dosbarth gweithiol, ond nid mor bleidiol,. ysywaeth. Yr ydym yn credu na chymer cynygydd y cynllun anghyfiawn hwn lawer a chael ei alw yn Dori eithafol, ac eto pwy yn fwy o Dori rhonc yn ei gynllun pe gallasai lwyddo. Yr wyf yn credu fod y cynygydd wedi gwneyd camgymeriad mawr pan yn myned yn erbyn y gweithwyr, pwy ond hwy a'i hetholodd ef yn warcheidwad y plwyf. Ac eto, dyma y gym- wynas geisiodd ef ei wneyd yn ol iddynt hwy- eu gosod i dalu treth ychwanegol. Ynglyn a dathlu dyfodiad Aer y Llwyn i'w oed, dymunaf ofyn cwestiwn neu ddau. Yn ngoruchwyliaeth pwy oedd i ranu yr holl ddiod feddwol pa un a yfwyd gan ieuenctyd y dref ? Gyda phriodoldeb gallem alw yr wythnos hono yn wythnos feddw yn y Dinas. Hefyd, a'i gwir yw, fod pregethwyr a blaenoriaid crefydd- ol yn cyfranu at y ddiod feddwol yn yr amgylch- iad hwn ? Clywch air eto cyn bo hir. Ydwyf- ERYR.

PRIFYSGOL CYMRU. (

TALYBONT.

Family Notices

[No title]

Y MARCHNADOEDD.

FFEIBIAU DYFODOL.I

Advertising

y * NEGESYDD. TELERAU AM HYSBYSIADAU.

0 BEN Y TWR.

ABERMA W.

PENKTAL.

MACHYNLLETH.