Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

HANES CREFYDDOL Y CYiVIRY.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HANES CREFYDDOL Y CYiVIRY. NODIADAU 0 DDARLITH DR. D. REES, BRONANT. Agwedd grefyddol y Cymry pan ddaethant i Gymru gyntaf, a'u heilun-addoliaeth yn amser y Derwyddon, a'r erledigaethau a gawsant, ac am oleuni'r efengyl yn gyru y pethau yna o Gymru. Cymru a Chymro. Mae yr enw hwn yn ddealladwy trwy holl Ewrob, ac yn America, Awstralia, a Califfornia. Mae llawer o'r Cymry ffordd yna—dyna eu henw cenedlaethol, Cymry. Mae y ddau air yma yn gwneyd enw y trigolion, cyn a bro, hyny yw, yn yr hen iaith Gymraeg ei ystyr lythyrenol yw, y cyn lwyth, y llwyth cyntaf yn Mhrydain. Nid oes achos i un Cymro na Chymraesgywilyddio yn achos eu cenedl, eu hiaith na'u henw. Mae bonedd- igeiddrwydd wrth wraidd eu henwau, am eu bod wedi hanu o hen genedl barchus Noah. Disgynant o hiliogaeth Gomer, wyr Noah; ac nid oes eisian i'r Cymry gywilyddio eu bod o waed yr hen dad Noah, er iddo ef golli ei le fel llawer Cymro. Yn Genesis x. 2 dywedir Meibion Japheth oedd Gomer,' &c. Dywed Josephus yn ei lyfr cyntaf o'i henafiaethau mai Comet a seiliodd y bobl hyny a elwir Gomeriaid, neu a elwir gan y Groegiaid Galatiaid. Dyna sydd yn rhyfedd, fe arhoscdd yr hen iaith Gymraeg yn nheulu Gomer o hyd. Wei web chwi r'ym ni y Cymry o gyff boneddigaidd. Actiwn yn foneddigaidd ymhob peth, a than bob amgylchiad. Ond fe ymadawodd Gomer a'i hiliogaeth i ynysoedd y Cenhedloedd. Daethant i barthau gorllewin- ogledd i Asia ond gyrodd y Scythiaid hwynt o Asia Leiaf. Wedi i'r Cymry ddyfod i gyffiniau Mor Germani—yr oedd hyn oddeutu mil o flynyddoedd cyn geni Crist—y Cymry oedd y rhai cyntaf ddaeth i Ynys Prydain. Mae y fendith a gyhoeddodd Noah ar Japheth a'i hiliogaeth wedi ei chyflawni mewn modd arbenig am y Cymry, sef Duw a helaetha ar Japheth, ac efe a breswylia yn mhebyll Sem (I barhan.)

LLANERFYL.

MALLWYD.!

't' gifcut.

--------AEERDYFI. I

:MACHYNLLETH.

TALYBONT.

DERWENLAS.:

GERDDI Y FilBNIIINES A'R PEN…

EISTEDDFOD GADEIRIOL MEIRION…

[No title]

PROFIAD Y GLYN.

DINAS NAWDDWY.