Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ON IllItE. PONY AND TRAP. Apply to J. PARSONS, London House, Corris. TY AII~WMTHR Gwerthir yu ddioedi, Ty, yn Brynteg, Corris. Ymofyner a Mr. EYAX EDWARDS, Ty'nyberth, Corris.
Y * NEGRSYDD.I
Y NEGRSYDD. TELERAU AM HYSBYSIADAU. Am hysbysiadau o "Yn Eisieu," &c., yn cynwys 16 o eiriau 6d Tair gwaith i s. 20 9d i s. 6d 30 is 2S. 40 is. 6d. 3s. 50 ». 2s „ 4s Cyfeiriad, > "Negesydd" Cffice, CORRIS, R.S.O,
TEYRNASIAD EIN GRASUSAF FRENHINES.
TEYRNASIAD EIN GRASUSAF FRENHINES. Ymddengys yn amser maith er Mehefin Ily 1837, pryd y cyrliaoddodd Archesgob Can- terbury yn nghwmni Arglwydd Chamberlain, Iarll Albemarle, a Syr Henry Halford, i Kensington Palace am bump o'r gloch y boreu, er hysbysu y dywysog'es Victoria am farwolaetli ei howythr, ynghyd a'i dyrchafiad hitliau mewn canlyniad i Orsedd Prydain, a hi eto ond deunaw mlwydd oed. Ar dder- byiiiad y newydd o'i dyrchafiad, gofynodd yn erfyngai i'r Archesgob weddio drostij; ac yumeillduodd wrthi ei liun am ddwy awr. O'r ddwy awr o unigedd hwn yn Kensing- ton Palace y gwynebodd gyfvifoldeb o deyrnttsu ar y wlad. bwysicaf yn y byd. Ac i deyrnasu am y cyfnod liwyaf y teymasodd unrliyw deyrn yn hanes Prydain; a chydag ychydig' eitliriadau yu hanes y byd. Yn mhen y flwyddyn, ar yr 2 Bain o Pehefin, 1838, corouwyd hi, mewn rliwvsg anarferol, yn Westminster Abbey. Yn mhen llai na dwy flynedd yniddaugos- odd fod teimlada.u tyner yn cael eu meithrin o bob tu rhyngddi a'r Tywysog' Albert o Saxe-Coburg Gotha; a pliriodwyd hwynt ar y 10fed o Cliwefror, 1840. Buont yn cydfyw yn ddedwydd am yn agos i ddwy flynedd ar hugain pan y cymerwyd ef ymaith gan gle-fyd ar y 14eg o Ragfyr, 1861 -or dirfawr alar iddi hi &'i theulu. Ar yr 16eg o Fawrth blatnoiol, hi gollodd ei mam 0 -y Dduces o Caint. Yn ystod ei theyrnasiad hir, y mae cynydd a dadblygiad pwysig wedi cymeryd lie yn mhob cylch. Yn 1837, yr oedd y Frenhines yn teyrnasu dros 130,000,000 o ddeiliaid; teyrnasa heddyw dros 350,000,000; a thra yn 1837, yr oedd ei thiriogaethau yn cynwys ond 2,000,000, o filldiroedd ysgwilr, erbyn heddyw y maent yn 8,000,000, o filldiroedd ysgwar, tra y mae y cyfoeth cenedlaethol wedi cynyddu mwy yn ystod ei theyrnasiad hi, nag yn ystod 2,000 o flynyddoedd cyn hyny. Mae sefyllfa y gweithiwr wedi gwella yn fawr hefyd. Mae y cyflogau wedi dyblu, a rhagorfreintiau y gweithiwr heddyw yn well nag eiddo y cyfoethocaf yn y wlad ar ddechreuad y tgyrnasiad hirfaith. Y mae nifer y tlodion wedi lleihau, er fod y boblogaeth wedi cynyddu o 26,000,000, i 40,000,000, yn awr. Yn 1838, nifer yr holl blant oedd dan addysg yn yr ysg'olion oedd 58,000, heddyw rhifant dros 5,000,000. Y mae cynydd a dadblygiad gwyddoniaeth yn fawr hefyd. Meddylier am y d&dblyg- iadan wnaed gyda thrydaniaeth, &e. Yn 1838, y gosodwyd wifrau telegraph i fyny am y tro cyntaf yn Lloegr, ac yn 1841 y gosodwyd y wifr dan-forawl cydrhwng Dover a Calais, a thrachefn yn 1866 cydrhwng y wlad hon ag America, fel erbyn heddyw mae yr holl fyd gwareiddiedig wedi cael ei uno a'i gilydd gan y wifrau trydanol. Yn 1830 y rhedwyd y gerbydres gyntaf i gludo'r teithwyr, a hyny cydrhwng Man- ceinion a Lerpwl. Heddyw y mae dros 250,000 o filldiroedd o ffyrdd haiarn yn y byd. Nid yn unig hyny, ond y mae dadblyg- iadau pwysig eraill wedi cymeryd lie, a chynydd sylweddol a buddiol mewn ystyr o ddadwneyd hen ddeddfau goithrymus, a gwneyd deddfau uniawnach, &c., er dyrchafu dynoliaeth yn gyffredinol. Tucefn i'r oil. ac yn symbyliad i'r cyfan, y mae yn ein Brenhines, ddynes rinweddol a duwiolfrydig, cymeriad pur, a rhodiad teilwng, a'r oil gyda'u gilydd yn peri fod holl wledydd gwareiddiedig y byd yn oyduno i erfyn heddyw gyda,r bardd :— Duw cadw ar bob awr Frenhines Prydain Fawr,' &c.
CYFRINFA DEYRNGARüL MAWDDWY.
CYFRINFA DEYRNGARüL MAWDDWY. Bu y gymdeithas- ragorol hon yn goryih- deithio dydd Sadwrn diweddaf. Arweinid hwy gan Seindorf Aberllefenni. Grwnaethant en g'waith yn rhagorol. Gwerth y gym- deithas ydyw 733p. 6s. 5c. Oed ar gyfartaledd ydyw 34. Da genym weled y gymdeithas yn myned ar gynydd, ond gresyn na byddai mwy o ffyddlondeb yn yr aelodau dros uno yn yr orymdaith.
DYDD Y JIWBILI.
DYDD Y JIWBILI. Daeth dydd dathliad Jiwbili teyrnasiad y Frenhines, yr hwn yw yr hwyaf ac feallai y ded wyddaf a gymerodd le yn hanes y deyrnas, ac aeth lwi bio i a gellir dweyd ei fod wedi troi allau yu liwyddiant perffaith. Yr oedd yr hin yr oil a ddymunid. Arben- igrwydd yr arddangosiadau oedd, nid yn gymaint nifer yr uchelwyr a roddasant urddas i'r achlysur dyddorol, oud i'r miliynau o ddinaswyr a amlygasant mewn gwahanol ffyrdd ac yn mhob rhan o'r ymerodraeth eu j hymlyuiad a'u teyrngarwch syml a chynes i'r egwyddorion mawr a chedyrn mewn Ö llywodraetli y mae ei Mawrliydi yn an personoli. Gwnaed arddaugosiadau ymhob tref a phentref drwy Grymru, n nghanol llawer o frwdfrydedd. Yr oedd pwyllgorau, gorym- deithiau, miloedd o blant a hen bobl yn cael gwledda, seiudyrf yn chwareu y Don Genedlaethol, clychau yn canu, a choel- certhi ar benau y mynyddoedd. Wrth. gwrs, yr oedd canolbwynt yr arddangosiadau yn y Brifddinas. Yno ffurfiwyd yr orymdaith fwyaf ysbleuydd mewn maint a gwychder a welwyd o bosibl erioed. Yr oedd yr heolydd wedi eu gor- lenwi. Ar hyd Ilinell yr orymdaith,— pellder o tua chwe' milldir, yr oedd 44,000 o filwyr yn gwylio'r heolydd. Cychwynodd y Frenhines o Balas Buckingham, mewn cerbyd a dynid gan wytli o geffylau o liw hufeu, yn cael ei dilyn g'an aelodau ei theulu a thua haner cant o dywysogion tramor, prif weinidogion y trefedigaethau, llysgenhadon, &c., gyda gosgovdd o filwyr o wahanol ranau yr Ymerodraeth. Cyrhaeddedd Eglwys Gadeiriol St. Paul, lie y cynhaliwyd ar y grisiau wasanaeth diolch, heb i'r Frenhines ddisgyn o'i chorbyd. Ar y terfyu, galwodd Archesgob Caergra«*nt am dair baullef i'r Frenliines, yr liyn a roddwyd yn y modd mwyaf brwdfrydig', tra yr oedd clychau y ddinas yn seinio. Yna chwareuwyd yr Anthem Greuedlaethol. Yna ymwelodd y Frenhines a'r Mansion House, lie y cartrefa yr Arg-lwydd Faei, pryd y cyflwynwyd iddi flodeug-lwm o orchids casket menu arian gan briod y maer. Wed'yn aed dros Bont Llundaiu, a thrwy y Borough a dychwelodd dros Bont Westminster, lieibio y Senedd-dai lie yr oedd yr Aelodnu Seneddol yn ei disgwyl ar lwyfall a godwyd i'r ai-ncan, a ohyrhaeddwyd i Balas Buck- ingham, ar ol ymdaith o dros ddwy awr. ;n y Yr oedd yr adeiladau cyhoeddus a phreifat wedi eu harwisgo yn brydferth. Yn yr hwyr goleuwyd y prif heolydd yn dra godidog. Yn ystod y dydd anfonodd y Frenhines genadwri i'r Trefedigaethau ac i India :— O'm calon yr wyf yn diolch i'm hanwyl bobl; bydded i Dduw eu bendithio.' COREIS. Yr oedd yn ddydd gwyl yma, yr holl weithydd wedi sefyll. Yn gynar yn y prydnawn gwelid cryn gyffro yn mhlith yr ardalwyr yn Corris a Corris Uchaf, yn neillduol yr ieuenctyd. Parotowyd to a chacenau i blant ac eraill gan y gwahanol otiwadau ar wahan. Ar ol eu diwallu cyfarfu holl ardalwyr y pentref a'r cymydogaetliau cylchynol, per- thynol i'r Ynmeillduwyr, mewn rhifedi mawr yn Caebanc Aberoorris. Anrheg'wyd y plant a medals gan Mr. Juremiah Williams, Rhiwawel a Mr. M. Thomas, C.S. Wed'yn aed at y gorchwyl o blanu coeden y Jiwbili Sootchfil- yn y lie. Cyflawnwyd y gwaith gan Miss Davies, Abercorris, a siaradwyd ar yr achlysur gan y Parchn. W. G. Owen, J. Roberts, a Mr. Thomas. Ad- roddwyd englynion haptis gan Llifon a Llefenui i derfynu'r gweithrediadau. Yna ffurfiwyd yn orymdaith drwy y pentref, ac yr oedd yr olygfa hon yn un arddwchog. Gwasanaethodd Seindorf Bres Aberllefenni, drwy chwareu alawon, &e. Dychwelwyd i'r maes yn ol, pryd y cyn- haliwyd cyfarfod amrywiaethol yn y drefn ganlynol:— Lly wyddwyd gan Mr. H. Davies, U.H. Ton gan y plant-; anerchiad gan y llywydd Braslun o hanes bywyd ein Grasusaf Frenhines, gyda chynygiad o longyfarchiad ar ei hir deyrnasiad, gan Mri. D. Ifor Jones, ac Evaia Evans, Frondeg; rhoddwyd y pen- derfyniad i bleidlais y cyfarfod, a phasiwyd yn unfrydol; can God save the Queen'; cystad- leuaeth unawd Alto, "Vyres fach Ned Puw,' goreu E. Jones, Dafarn-newydd Y Cynydd Gwleidyddol a wnaed yn ystod teyrnasiad ein Grasusaf Frenhines.' Cynygiwyd gan Mr. M. Thomas, C.S., a chefnogwyd gan Mr. Rhys Owen; cystadleuaeth unawd Soprano, 'Bwthyn bach melyn fy nhad,' Miss Jane Ann Davies; Y Cynydd Cymdeithasol a wnaed yn ystod teyrnasiad ein Grasusaf Frenhines,' gan y Parch J. Roberts, Mri. Rowland Jones a John Owen, Gwynfryn galwyd sylw y cyfarfod at y priodoldeb o gael ystafell gyhoeddus yn y lie. Rhoddodd y Parch. J. Roberts y cynygiad a ganlyn i lais y cyfarfod, yr hwn a basiwyd yn unfrydol :—' Ein bod ni trigolion Corris a'r ardaloedd cylchynol, o'r farn fod angen am Neuadd Gyhoeddus i'r cylch, ac mai ein dymuniad yw fod un yn cael ei hadeiladu.' Wed'yn cafwyd cystadleuaeth unawd Tenor, Y bachgen ffarweliodd a'i wlad,' Mr. John Lewis, Pantycelyn Y Cynydd Crefyddol a wnaed yn ystod teyrnasiad ein Grasusaf Frenhines,' gan y Parchn. R. Hughes, W. G. Owen (Llifon), ac R. Rowlands; cystadlouaeth unawd Bass. I Chwifiwn faner,' Mri. Evan Jones a W. L. Jones beirniadaeth Llifon a'r Parch. J. Roberts ar y gan i 'Ddydd y jiwbili,' Goronwy. Wedi talu y diolchiadau arferol ymwahanwyd. Rhoddwyd te rhagorol ynyr ysgoldy i blant yr Ysgol Genedlaethol ac eraill. Yna aethpwyd i gae cyfagos lie y rhoddwyd gwob- rwyon i'r plant mewn ehwareuon, a threuliwyd prydnawn hapus. Anrhegodd Mr. a Mrs. Edward Williams, Frongoch, holl blant yr ardal, o bob enwad a chanoedd o oranges a buns, y ihai a werth- fawrogid yn fawr gan y derbynwyr. DOLGELLAU. Ni fu y dref hon ar ol mewn dathlu y jiwbili. j Yr oedd wedi ei gwisgo yn hardd-baneri yn chwifio yn mhob man bron. Trodd y diwrnod allan yn bobpeth allesid ei ddymuno. Yn y boreu daeth y milwyr i'r dref, yn cael eu blaenori gan y seindorf R.W.F. Aethant drwy y dref ac i'r Square-buont yn drillio yno, ac ar ol hyny aethant i'r Marian, lie y buont yn saethu. Rhoddasant dair banllef i'r Frenhines. Am haner awr wedi un yr oedd plant yr ysgolion yn gorymdeithio. Am dri o'r gloch, yr oedd y Square yn orlawn. Cafwyd gorymdaith na welwyd ei thebyg yn y dref, yn cael ei biaeuori gan y R.W.F. Band; yna pwyllgor y jiwbili wed'yn y Town Council; y Bonfire Committee plant yr ysgolion y Rechabesau cymdeithas y Goat Inn cym- deithas yr Angel; yr Odyddion y Druids y Fire Brigade. Gorymdeithhvyd drwy y dref ac yna i'r Marian, lie buwyd yn canu Duw gadwo'r Frenhines.' Yna plaivwyd coed gan R. E. LI. Richards, Ysw., Caerynwch. \Ved'yn ffurfiwyd yn orymdaith adref. Am haner awr wedi pedwar aeth hen bobl y dref i gael meat tea. Rhoddwyd llawer o bresantau i'r plant i gofio am y jiwbili. Treuliwyd diwrnod a hir gofir yn y dref. Dywedir fod yprocession a'r parotoadau ar y blaen i unrhyw dref yn Nghymru. Nos Fawrth, noson y jiwbili, cyneuwyd Bonfire ar Gader Idris, a torch-light process- ion. Hefyd cyneuwyd Bonfire ar Moel Caer- ynwch, a Foel Nanau. Ar derfyn ein hysgrii dymunwn Hir Oes i'r Frenhines. MACHYNLLETH. Yr oedd y ffaith fod yr holl fasnachdai wedi cau, a phob gwaith wedi ei roi o'r neilldu, yn profi ar unwaith ein bod ni yma am ddathlu yr amgylchiad fel lleoedd eraill. Yn y prydnawn yrngasg-lodd yr holl blant ynghyd, er cael Medals, rhoddedig ,gan Ardalyddes London- derry. Yn mhellach ymlaen rhoddwyd te i'r holl blant, a Meat Tea i'r rhai oedranus. Am un o'r gloch ymffurfiwyd yn orymdaith i'r Neuadd Drefol, lie y cynygiwyd Iloiig-yfarcliiad i'w Mawrhydi gan Mr. R. Owen, cadeirydd y Cyngor Trefol. Hefyd cynhaliwyd chwareuon yn ystod y dydd, a therfynwyd y dathliad gyda Bonfire, ar fryn Penrallt. TOWYN. Yr oedd Towyn eto yn fyw i'r dathliad. Dechreuwyd yma am 10-30 y boreu, drwy i'r Band chwareu ar y Corbett Square, pryd y rhanwyd Medals a theisenau i'r plant. Am un o'r gloch canodd pedwar cant o blant yr ysgolion, yr anthem Genedlaethol o dan ar- weiniad Mr. J. R Williams, ac yna gorym- deithiwyd drwy yr heolydd yn y drefn ganlynol: Standard-bearers, Marchogwyr, yn cynryohioli Richard III a Robin Hood, olwynwyr, Seindorf y Jiwbili, aelodau y Cynghorau a'r gwahanol ysgolion, Cynrychiolwyr y gwahanol gymdeith- asau cyfeillgar, a'r Gymdeithas Ddirwestol, &c Ar ol yr orymdaith, rhoddwyd te i holl blant yr ysgolion. Yn yr hwyr yr oedd yr holl dai wedi eu goleu ac yn edrych yn rhagorol. ABERDYFI. Dechreuodd miri y dathliad yma ganol dydd drwy ergydion o gyfeiriad y Literary Institute. Am haner awr wedi deuddeg, ffurfiwyd gor- ymdaith, yn cynwys bywyd-fad Aberdyfi, yn cael ei lusgo gan geffylau, yna plant yr ysgol- ion, olwynwyr a chert ddwr y Jiwbili, wedi ei haddurno yn brydferth. A, ddau cynhaliwyd ymdrechfa gychod, pryd yr eedd nifer y cystadleuwyr yn lluosog, a'r edrychwyr yr un modd. Rhoddwyd Medals a the i'r plant a'r hen bobl, yn Aberdyfi Hall. Gwasanaethodd y Seindorf Bres hefyd. Am haner awr wedi nawyr hwyr, cafwyd arddangosiadau ysblenydd o fireworks wedi eu pwrcasu gan Major Green ac yr oedd yr holl dai wedi eu goleu ar gyfer yr amgylchiad. CARNO. Parotowyd te cyffredinol yma, ac eisteddodd nifer fawr i gyfranogi o'r danteithion. Ar ol te cynhaliwyd chwareuon ac ymdrechfeydd, pryd yr enillwyd amryw o wobrwyon gan blant ac eraill. Yn yr hwyr cafwyd arddangosiadau ysblenydd 0 Fireworks, yr hyn a derfynodd y gweithrediadau yma. LLANBRYNMAIR. Yn ysgoldy Penddol, rhoddwyd te i bawb yn y dosbarth. Gwasanaethwyd gan amryw 0 foneddigesau Ar ol y te cynhaliwyd Sports yn nghae yr ysgol, y rhai oeddynt o dan ofal Mr. A. Owen ac eraill. Cafwyd diwrnod difyr iawn yma.
BORTH.
BORTH. EISTEDDFOD,—Fel y gwelir mewn colofn arall, cynhelir Eisteddfod yn y Borth, dydd Marcher nesaf, y 30ain cyfisol. Yr ydym yn deall fod nifer anarferol 0 liosog o ymgeiswyr, yn onwedig ar yr adran gerdd- orol, mewn corau, partion, a seindyrf. As nid oes eisiau ond hin ffafriol i sierhau Eisteddfod lwyddianus. Bydd tron rhad yn i-liedog o Gorris i'r Borth, ac yn dych- welyd ar ol y cyngerdd.
ANRHEGION.
ANRHEGION. Gan W. W., Dolgellau, mae Stoc Ragorol o Watches Aur Ardderchog, Clociau a Jewellery (ac eiddo eraill mewn Aur ac Arian) cyfaddas fel Anrhegion a Testimonials f
Y DDAMWAIN ANGEUOL AR LINELL…
Y DDAMWAIN ANGEUOL AR LINELL Y CAMBRIAlN. Cynhaliwyd trengholiad ar gyrff yr unarddeg a laddwyd tnvy y ddamwain uchod 0 flaen y Crwuer, Dr. Aylmer Lewis, a'r rheithwyr yn Welshamptou, dydd Iau a dydd Gwener diweddaf. Ar ol gwrando y tystiolaethau, ymneillduodd y rheithwyr am ddeugain munyd, pryd y dychwelwyd y rheithfarn gauiynol :—' Fed y rheithwyr yn unfrydol o'r farn fod y trancedigiou wedi cyfarfod a'u marwolaeth yu ddauiwoiuiol ar y tron, Meliefin lleg. Nid oedd digoji 0 dystiolaeth i gyfrif am achos y ddamwain, ao nid oedd esgeulusdra ar ran unrhyw swyddog wedi ei brofi. Yr oedd cerbydaa y Cambrian o wneuthuriad diweddar, ac yr ydym o'r farn na chymerasai y ddamwain le pe buasai van y Lancashire a Yorkshire heb fod yii y tren.'
TALYBONT.
TALYBONT. BAXIIESDA.—Dydd Sadwru, Mehefin 19eg, rhoddwyd te Jiwbili yn y capel Annibynol uchod i'r plant ar gynulleidfa. Mwyuliaodd pawb eu hunain yn rhagorol, er i'r hill droi yn auft-afi-iol yn y prydnawn. Yr oedd y merched a'r gwragodd wedi darparu yn helaeth. Yn yr hwyr cafwyd cyfarfod adlouiadol i'r plant. Cadeiri wyd gan y boueddwr caredig Mr. E. Jones, Elgar House, ac arweiniwyd gan y gweinidog. Oafwyd cystadleuaesh mewn adrodd, &c., a chafodd y rhai canlynol wobrau J. G. Jones, R. L. Joaes, W. J. Jones, Mary Jenkins, Tynant, Catherine Evans, Emma Evans, Gatta Evans, T. Evans, Nautyperfedd M. A. Griffiths, Pantycelyn, L. Hughes a Mary Hughes, Brynfedwen, Emma Jones, Cyneiniog, a Catherine Morgan, Neuadd Brynglas. Y beirniad oedd Mr. D. 0. Edwards, Felinfach. Cafwyd adroddiadau gan Aunio Mason a Margaret Mason Ull- awdau gan Mri. D. 0. Edwards, E. Jenkins, a Miss Jenkins, Glanaber deuawdau gan Mr. E. Jenkins, Winllan, a Miss Jenkins. Cyfeiliwyd gan Miss Williams, Talybout. Ymadawodd pawb gyda'r dymuniadau goreu i'n grasusaf Frenhines, ar ei theyrnasiad eithriadol mewn llawer ystyr.
LLANFAIRCAEREINION.
LLANFAIRCAEREINION. CYMANFA GANU. Cynhaliwyd Cymanfa Ganu Wresleyaid Llanfair a'r cylch, dydd Mercher, dan arweiniad Mr. R. Wilfrid Jones, Gwrecsam. Llywyddwyd gan y Parch. D. A. Richards. Cyfeiliwyd yn fedrus gan Mr. C. W. Humphreys. Yr oedd y cynulliad yn lluosog, o'r holl Ddosbarth, a'r canu yn rhoddi pob boddhad. Rhanwyd gwobrwyon i'r buddugwyr yn yr arholiadau Ysgrythyrol—Dosbarth I., Hanes lesu Grist: Llanfair, D. G. Evans, M. E Humphreys, M. E. Evans, E. M. Thomas, A. Jones, W. Phillips. Gwynfa, S. Jones, G. 1 Jones, a S. G. Jones. Pontcadfan, A. Hughes, E. Priee, M. Price, M. A. Price. Garthbeibio, Anne Davies, M. ac E. Edwards, A. a D. Griffiths, R. a W. Rowlands, T. R. Evans. Llanerfyl, R. a J. Thomas, E. Lewis, E. Ann Gittins, John Rees Evans. Dosbarth II— Llanfair, D Davies, A. a G. Jones, B.Theodore, P. Harris, M. Bebb, C. Bowen, C. Williams, M. Jones, L. G. Watkins, F. Vaughan, P. Ll. Humphreys. Meifod, K Ellis, J. Roberts, E. Rowlands, A. Williams. Dos III. (Numeri i—xii)—Llanfair, J Evans. Dos IV (Epistol at y Galatiaid), Evan Davies, Llanfair, M. A. Davies, Saron, Pollie Evans a Catherine Davies, Dolwar.
YSCOL SIRDl TOWYN.
YSCOL SIRDl TOWYN. Cynhaliwyd Bwrdd y ] Aywodraethwyr dydd Llun. Mr. H. Haydn Jones yn y gadair. Hysbysodd y cadeirydd fod yni dJrwg ganddo fod Mr. Tate, Liverpool, wedi atal oi gyfraniad blynyddol i'r 3 sgol hefyd Mr. Woodward Owen ac eraill, oud yr oedd yn dda ganddo ddwoyd ei fod wedi llwyddo i gael y swm o 22p. 10s. o gyfeiriadau eraill. Penderfynwyd tori yr ysgol i fyny am yr haf yn uniongyrchol ar ol i Arholiad Lleol Rhydychain gyiueryd lie. Darllenwyd lly thy r oddiwrth Mr. D. E. Jones, Caerdydd, yn hysbysu y byddai iddo ymweled a'r Ysgol ar y 25ain o Mehefin, i'r aiiican o archwilio y gwaith coed.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. Rhoddwyd anrhegion o oriawr a chadwyn aur, gydag anerchiad i'r Parch. Job Miles, Aberystwyth, ar achlysur ei briodas, a therfyniad 25ain mlynedd o wasauaeth yn eglwys Anllibynol y dref. Rhoddwyd hofyd anrheg o teapot arian syIweddol i Mrs. Miles. BWRDD Y GWAKCIIEID w AID. --Dydd Mawrth diweddaf. Darllenwyd llythyr oddiwrth Fwrdd Machynlleth yn hysbysu na i-oddent hwy ddim cynorthwy chwanegol i'r tlodion a berthynent i'w hundeb hwy ar achlysur y Jiwbili. Y cadeiiydd Mae hyn yu dro gwael (mean). Mr. C. Davies Hynod o wael. Yr ydym ni yma Y11 dipyn mwy liaelfrydig. Mr. Miller A allwn ni roddi cynorthwy chwanegol. Y clerc: Nisgellweli. Mr. Miller Panifersyddohonynt? Dim ond tri. Mr. Miller YIla yr wyf fi yn cynyg ein bod yn rhoddi esiampl iddyut, ac yn casglu tri swllt yn ein plith ein hunain. Mr. Davies: Yr wyf yn ei gefnogi. Cariwyd y cynygiad.
[No title]
1 Mae gen i barch mawr i ddyngarwr,' meddai pregethwr yn un o bwlpudau Gogledd Cymru y Sul o'r blaen tynwn i fy het o waelod fy nghalon i dd3rngarwr.' n y Oherwydd y newyn a'r daeargryn yn I y India, rhoddwyd heibio ddathlu Jiwbili y Frenhines fel y bwriadwyd.
Advertising
Y TV MO it A'l BERYGLON. Gellir osgoi Peryglon ac Anhwylderau y tymor hwn o'r flwyddyn, trwy wncyd defnydd priodol 0 "DITTERS DITTERS NWILYM VJWIL YM "DYANS" J-iVANS. Dylai pawb sydd am osgoi Anhwylderau y Gwanwyn, a mwynhau iechyd da am y gweddill o'r flwyddyn, gymeryd cwrs dioed o'r Medd- yglyn gwerthfawr hwn. Mae'r anhwylderau a'r stormydd gauafol wedi gadel anmhureddau yn y gwaed, sydd raid eu symud er gwrthsefyll ymosodiadau clefydau y tymor dyiouol. Hefyd, mae misoedd cyntaf y Gwanwyn yn anffafriol i adferiad buan y rhai fu yn dibddef yn y gauaf. Mae anhwylderau y tymor hwnw wedi gadael anmhureddau yn y gwaed sydd raid eu symud cyn y ceir adferiad llwyr. Purwch y gwaed, a chryfhewch y cyfansodd- iad i wrthsefyll ymosodiadau Anhwylderau y Gwanwyn, trwy wneyd defnydd prydlawn o BITTERS GWILYM EVANS, Y FEDDYGINIAEIH FAWR GYMREIG TYSTIOLAETHAU. Mae'r cryd, a'r mwyth, a llesgedd, A phob anhwyldeb blin, 0 tlaen y Quinine Bitters Yn ffoi i,w le ei.hun.' Cynoafardd. Pyle, Awst i/eg, 1895. LLESGEDD. L&. AnxN,yl Syr, Pan ddyehwelais adref ychydig ddyddiau yn ol, ar ol llafurio yn galed am rai wythnosau, teimlwn yn lludd- edig iawn, ac wedi llwyr ddiifygio, ac mewn angen am donic da i'm hadgryfhau. Anog- wyd fi i roddi prawf ar eich Quinine Bitters enwog. Gwnaethum hyny, a chefais ef yn hynod effeithiol. Mae yn rhoddi yni newydd ynof, ac yn bywiocau yr ysbryd mewn gair, teimlaf ei fod yn gwneyd dyn newydd o honof Z, (Parch.) GURNOS JONES BITTERS GWILYM EVANS. RHYBUDD Goohelwch Dwyllwyr. Edrychwch fod enw Grwilym Evans ar bob label, stamp, a pliotel. Gwerthir liwynt mewn puteli 2s. c., a 4s. 6c. yr un; Biycliau yu cynwys tair potel is. 6c. am 12s. üc. I'w cael yu mhob man, neu danfollir hwy yn rhad. am y prisiau uchod Y11 ddyogel drwy y post oddiwrth y perciienogiou,— QUININE BITTERS MAHUFAGTUHiHi) COMPANY LIMITED, LLANELLY, SOUTH WALES. GORUCHWTLIWii YN AMERICA— Mr. R. D. WILLIAMS, Plymouth, Penn. SEFYDLWYD 1857. Jlrí. iiturpljij a Kotokjj, DEINTYDDION. Cornel TERRACE ROAD a CORPORA- TION STREET, ABERYSTWYTH. Cyfeiriad Llythyrau-54 Terrace Road, Aberystwyth. ByddiNir. HOWLEY yn MACHYNLLETH.—Y Cyntaf a'r Trydydd ddydd Merclter yn mhob Mis. Yn bresenol o 2 hyd 5 o'r gloch yn nhy Mrs. J. Hughes, Dovey View. TOWYN.—Yr Ail a'r Pedwerydd ddydd Gwener yil ililiob Mis. Y11 bresenol 0 2 hyd 5 o'r gloch yn uliy Mrs. Jones, 43 High Street, ger y Railway Station. Bydd Mr. ROWLEY yn Aberystwyth dydd Llun, dydd. Mawrth, a dydd Iau yu mhob wythuos. Dydd Sadwrn wrth gytundeb. Cyflenwir Danedd ar yr Egwyddorion Goreu. Ni Raid Tynu y Gwreiddiau. Nis gellir rhagori ar y Danedd hyn mewn ym- ddangosiad, eybur, parliad, ac iselbris. DEINYI^DIU Y MATKRION GOUKU YN TJNIG. Sicrheir Boddlonrwydd. Llenwir Danedd. Cymhwysir Danedd Plant, &c. Sylwch ar y Cyfeiriad. Cynghoriad Rhad. Siaredir Cymraeg. MAE Y NEGESYDD AR WERTH YN Machynlleth—Mri W. H. Smith & Son, Mr. David Smith, Hairdresser, a Mri G. Parsons & Son Llanwrin—Mri. David Owen a J. M. Jones Derwenlas—Miss Mary Evans Glasbwll—Mr. J. Waters Aberhosan—Mrs. Ashton Commins Coch—Mr. R. Jones (Afonog) Llanbrynmair—Mri. J. Edwards, a E. James, Bont Cemrnes—Mr. Evan Jones Cwmllune—Mr. W. Humphreys Aberangell—Mr. R. Jones, Bookseller Mallwyd—Miss Jones, Shop Dinas Mawddwy—Mr. Morris Roberts Llanymawddwy—Miss M. J. Lewis Eglwysfach—Mr. Lewis Ellis Taliesiu—Mr. Edward Lloyd Talybout—Mr. David C. Edwards Pennal—Mr. Owen Jones Aberystwyth—Mr. Win. Jenkins, News Agent Aberdyfi-Mr. Gwilym Williams Towyn—Mr. R. W. Jones Llanegryn—Mr. Lewis Jones Bryncrug—Mr. Jacob Davies Abergynolwyn—Mr. W. H. Rowlands Barmouth—Mrs. Arnfield Dolgellau—Mr. E. Ylltyr Williams, a Mr. Hear Jones, Arrau Cottage Hefyd yn y lleoedd canlynol:—Foel, Llangadfan, Aberfan, Merthyr Vale, Bedlinog, Trehavris, Pantpertliog, Esgairgeiliog, Corris, Corris Uchaf, Garneddwen, Aberllefenni, Cynierau, &0., &c.