Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD PENEGOES.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD PENEGOES. Mehefin 22ain, 1897. BKIRNIADAETH Y BRYDDEST TEYRNASIAD VICTORIA.' Daeth i law chwech o gyfansoddiadau yn dwyn y ffugenwau canlynol: — Un o lanau Dyfi Hywel Tuuur Gwerinwr Gwledig Dyngarwr dan y Goron Br) thon: a Deiliad. Un o lanau Dyfi.—Cyffredin iawn ydyw cyfansoddiad yr awdwr hwn, ychydig o'r hyn a ellrr ei alw yn farddoniaeth geir ynddo. Rywfodd nid ydym yn teimlo wrth ei ddarllen fod yma ymdrech deilwng. 0 bosibl y gailai yr awdwr ganu yn well pe yr ymegniai. Hywel Tuditr.—Llwyddodd ef i gyfansoddi pryddest sydd yn darllen yn eithaf didram- gwydd gesyd lawer 0 hanes ein Teyrn Colonog yn ei linellau, ond dylasai wneyd mewn modd ac arddull mwy barddonol. Gwerinwr Gwledig. —Traetha yntau ei folawd i wrthddtych y testyn yn ddirodres ceir ambell linell dlos a newydd yn mysg pererinion henal'ol.' Mae dyddiau gwobrwyo liinellau ystwyth ac aniddifad o syniadau barddonol wedi myned heibio mae cyfnod newydd wedi gwawrio a dyddio ar farddoniaeth ein gwtad. Dyngarwrdany Goron.—Dyma bryddest uwch a gwell o ran cynllun a barddoniaeth, ond heb fod mor lan ac ystwyth. Mae ei llioellau agoriadol )4n glogyrnaidd cynwysant dor-mesurau, yr hyn sydd anafau pwysig ac amlwg. Credwn mai difaterwch ac nid diffyg gallu fu yr achos o'r pechodau gwrthun hyn. Bydded ei hawdwr yn fwy gwyliadwrus rhag Haw. Brython.—Dyry Brython i pi bryddest dda— y fwyaf testynol yn y gystadleuaeth, ac y mae ganddo luaws teilwng o linellau rhagorol. Deiliad.-Wele etogyfansoddiad barddonol. Egyr ei bryddest yn g-ryf a naturiol iawn, ac wrth ddarllen ei linellau cyntaf, yr oeddym yn cael ein mawr foddhau gan y swyn alr cyfaredd a ddilynai fel effaith; ond tua haner ei bryddest gwanlia gryn dipyn, ond oddiyno i'r diwedd Y mae yn ymdaith yn amlder ei rym Rhwng Brython a Deiliad y mae y gystadleu- aeth. Mae y naill a'r liall yn bryddestau darllenadwy, ac yn tra rhagori ar yr oil o'u cydymgeiswjr. Darllenasoni y ddwy drosodd a throsodd, er ceisio cael allan a oedd un yn rhagori, ond wedi gwneyd pobpeth yn ol ein gallu, yr ydym yn credu yn ddibryder mai y ffordd decaf ydyw rhanu y wobr rhwng llrythou a Deiliad, ar air a chydwybod GWILYM DYFI. j

Advertising

Harbiiojthxjtl).

BARN FEDQYCGL AR EFFEITHIAU…

BRAWDLYS CHWARTEROL MALDWYN.