Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

PLESERAU CARTREF.

PLANT CENFIGEN.

gtfait.,

PRIFYSGOL CYMRU.

TOWYN.

BWRDD YSGOL TOWYN A PEKNAL.

LLANWRIN.

Y GYNADLEDD WESLEYAIDD.

Y DIWEDDAR MR. MUNDELLA.

COF-COLOFN I LLYWEIYN EIN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COF-COLOFN I LLYWEIYN EIN LLYW OLAF Yn mhob gwlad y megir glew,' a gall Cymru fechanyn ddiau ymfalchioyn yr adgot am y cedyrn aberthasent einioesarallor ei rhyddid a'i hannibyniaeth Mae y delfroad cenedtaethol yn v blynyddau diweddaf, yn sylfaenedig i raddau helaeth ar yr ystyriaeth o wrhydri gwroniaid Cymru Fu, ac y mae cenedl y Cymry heddyw yn gallu cymeryd ei satie yn mysg cenedloedd y byd am na phallodd ffyddlondeb a dewrder ei meibion hyd yn nod yn amseroedd tywyllaf ein hanes helbulus. Ond er hyn oil, nis gallwn lai na chael ein taro a syndod gan un diffyg pwysig yn nghanol yr holl amgylchiadau o fywyd Cymreig—yn ofer y chwilir am gofadeiliau cyhoeddus am enwogion Cymru Fu, ac anaml y canfyddir gymaint a maen i nodi man fechan eu bedd.' Gellir ymdaith 0 ben Caergybi i ben Caerdydd heb un arwydd allanol i ddwyn ar gof i ni ein bod yn troi yn mysg disgynyddion Arthur, Hywel Dda, Glyndwr, a Dafydd ab Gwilym. Er's tro bellach, cychwynwyd symudiad, a derbyniwyd addewidion at godi cronfa i sefydlu cofeb genedlaethol i'r tywysog dewr ond anffodus. Llywelyn ab Gruffydd. Gall fod rhya-,up a d,dywedna,,a.cfi; oedd y godidocaf o arwyr rhyddid Cymru; ond nid oes yr un ag y mae eu hanes wedisuddo yn ddyfnach i serchiadau y genedl. Fel milwr, ysgolhaig, ir wiadweinydd,,a me.r,thyr-y mae ei fywyd yn un o'r rhai mwyaf rhamantus, a'i farwolaeth yn un o'r rhai mwyaf prudd-ddyddorol, yn holl gylch ein hanes fel cenedl Saifbeddysblenydd ei orchfygwr Normanaidd yn benuchel yn mysg cof-feini yr anfarwolion yn mynachlog Westminster, ond er's tair canrif nid oes ond anifeiliaid y maes yn gwylio y llecyn anrheith- iedig a guddia weddillion yr olaf o'r Tywysogion Cymreig yn mysg adfeilion mud mynachlog Cwm Hir. Tuag at aymud y gwaradwydd hwn, dylai gwladgarwyr aiI-ymsymud yn ddioedi i godi yn Nghymru gofeb deilwng o wrhydri Cymru Fu. ac o ardderchowgrwydd gobeithien Cymru Fydd, i lefaru drwy yr oesoedd am un ag yr oadd ei fywyd a'i farwolaeth yn arwydd- ecaol o'r ysbryd cenedlgarol sydd heddyw wedi codi Cymru ar ei thraed. Pa ffurf a gymer y gofeb nid yw o gymaint pwys, gellir penderfynu manylion o'r fath pan sicrheir y gronfa, ond yr hyn sydd yn bwysig yw, fod y Cymry yn ymuno i godi arwyddlun parhaol o'r Tywysog olaf a abcrthodd ei fywyd dros annibyniaeth Cymru.

YSTUMIAU PREGETHWROL.

BARN FEDDYCOL AR EFFEITHIAU…

AMRYYVJON.

DOLGELLAU.

DINJLS MAW.Dl)wy.,-

[No title]