Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

'Hiiufciuntiutl).

BYRDRA BYWYD.

EISTIsIDIXFODi PENEGOES.

EISTEDDFOD PENEGOES.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD PENEGOES. BLIRNIADAETti AR Y TRAETHODAL1 AR DDVLAXVVAI) ESIAMPL.' Derbyniwyd chvvecli o draethodau ary testyn hwn, a cneiais hyirydwch mawr wrth edrych drostynt. Dyma gystadleuaeth wir ddyddorol. Er mwyn yr ymgeisvvyr teaSiai y dylwn sylwi yn fyr arnynt o un i un. Egwa/t. Dyma draethawd yn cynwys sillebiaeth dda, a chystrawen gywir a naturiol. Traidd ysbryd rhagorol drvvyddo, a cheir ynddo sylwadau gvverthfawr ar Ddylamvad Esiampl yr Aehvyd. Yn mhlith diffygion y traethawd, gellir nodi diffyg defnyddiad priodol o'r atalnodau. Ymcldengys fod y rhai hyny wedi eu gwasgaru drwyddo yn fwy ar system y bocs pypyr na dim arall Heblaw hyny, y mae Egwan wedi bod yn esgeulus lawn i ddefnyddio y prif lythyrenau i ddechreu brawddegau a geiriau arbenig. Ond y bai mwyaf ynddo yn ddiau ydyw, nad yw wedi cymeryd golwg dig-on eang ar ei destyn. Cyfynjja ei hun yn ormodul i Ddylanwad Esiampl yn y teulu. Cymerir cymaint a dwy ran o dair o'r traethawd i fyny i drafod y wedd yma ar y mater. leuanc. -Cymer leuanc olwg eangach ar ei destyn na'i gyd-ymgeisydd. Kdrycha arno o dan ddau ben,—i Egwyddorion, 2 Effeithiau Dylanwad Esiampl a gwna sylwadau tra gwerthfawr ar y iiaill a'r llall. Ond os yw mater y traethawd ar y cyfan yn ganmoladwy, y mae ei sillebiaeth, ei ramadeg, a'i arddull yn bell iawn ar ol. Mae gan leuanc waith mawr eto i ddysgu sut i ysgrifenu Cymraeg. Ond os LCUClllC ydyw, ymwrolad ati Gyda phenderfyniad acymroddiad, diau y gall wneyd y diffyg i fyny yn dra buan. Barnabas —Dyma ysgrif faith, wedi ei hysgrifenu mewn llaw ddarllenadwy, ac mewn Cymraeg lied ddillyn. Cynwysa y traethawd hwn eto lawer o sylwadau gwerthfawr ac amserol. Ond y mae Barnabas, fel eraill o'i gyd-ymgeiswyr, yn hynod ddi-barch i'r atal- nodau. Ond bai mawr y traethawd hwn ydyw, diffyg ffyddlondeb dyladwy i'r testyn. Mae Barnabas yn rhy chwanog i ysgrifenu pethau aqmherthynasol iddo. Er engraifft, o dan y penawd Dylanwad Esiampl yr Aelwyd, ysgrif- ena mewn manau yn fwy ar Addysg nag ar Esiampl yr Aelwyd. A thrachefn wrth sylwi ar ddylanwad esiampl dyn duwiol, gwyra oddiar ei ffordd i draethu ar ddylanwad ei lythyrau a'i lyfrau, Yn y cysylltiad yna y cyflwynir John Bunyan ganddo i'n sylw. Edivyn.—Anfonodd Edwyn draethawd da a destlus i mewn. Cymcr olwg tra chyfiawn ar ei destyn mewn tri chysylltiad—yr Aehvyd, Cymdeithas, ac Eglwys Crist.-Ac arweinia ni yn niwedd ei ysgrif i bresenoldeb yr Esiampl Berffaith yn nghymeriad a by wyd ein Gwaredwr. Mae hwn yn draethawd gwir ganmoladwy, ac oni bae fod ei well yn y gystadleuaeth. ni fuasem yn petruso am foment ddyfarnu y wobr iddo. Gresyn nefyd fod y traethawd yn cael ei anurddo gan y bai a enwyd eisoes-diffyg defnyddiad priodol o'r atalnodau. Un Egwan.—Ysgrifenwyd traethawd Un Egwan, debygern, yn frysiog. Mae yr iaith a'r gystrawen yn fynych yn anystwyth a lled- chwith. Nid yw yr ysgrifenydd ychwaith yn fanwl o gwbl gyda threigliacl y cyd-seiniaid, yr atalnodau, a'r sillebiaeth. Er hyny, o ran ei gynwys y mae y traethawd hwn yn un gwir ragorol. Arddengys fwy o ol darllen a mwy o allu meddyliol na'r traethodau a grybwyllwyd eisoes. Elf h in aft Gwycldno.—Dyma yn ddiddadl y traethawd goreu yn y gystadleuaeth hon. Y mae raddau lawer yn fwy cywir ei sillebiaeth a'i ramadeg na'i gyd-ymgeiswyr oddeithr Egwun, fe ddichon. Mae gan Elfthin arddull dda a Chymraeg pur ddiledryw. Mae cynllun ei draethawd hefyd yn un naturiol a chynwys- fawr. Ac o ran ei fater y mae yn glir, cyson, a chyflawn. Erys gyda chalon ei bwnc o'r dechreu i'r diwedd. Nis gellir dweyd ei fod o flaen Un Egwan o ran gallu meddyliol, ond yn sicr rhagora arno mewn gallu i osod ei feddwl allan yn drefnus, rhwydd, a goleu. A chymeryd pob peth i ystyriaeth, yr wyf yn ddibetrus yn dyfarnu y wobr i Elfthin aft Gwyddno.—Ar air a chydwybod, ). W. SYLVANUS JONES.

Advertising

THE CURE OF CONSUMPTION.

Advertising