Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ON HIKE. PONY AND TRAP. Apply to J. PAKSONS, London House, Corris. ABERHOSAN BRITISH SCHOOL. "ITTANTED, after Holidays, Transfer Pupil Teacher, ist or 2nd year. Apply by August 9th, stating age, salary, &c., to Ab J. PUGH, Secretary, ABERHOSAN, MACHYNLLETH.
Y * NEGOSSYDD.
Y NEGOSSYDD. TELERAU AM HYSBYSIADAU. Am hysbysiadau o Yn Eisieu," &c., yn cynwys 16 o eiriau 6d Tair gwaith i s. 20 1 9d is. 6d. 30 n is „ 2S. 40 is. 6d. 3s. 50 25. 4s Cyfeiriad, "Negesydd" Lffice, CORRIST, R.S.O
TREFEDIGAETH I'R CYMRY.
TREFEDIGAETH I'R CYMRY. Mae teimlad dwfu wedi ei blanu yn mhob cenedl dros barhad ei hunaniaeth cenedl- aethol ac felly yn y Cymry. Mao yr yib-yd gwladgarol ynddynt hwy yn ysbryd byw, ac yn cael ei ddadblygu mewn gwahanol ), foiriadau--iaith, crefydd, llen- my I yddiaeth, dyrehafiad, chwaeth y werin, poblogrwydd yr Eisteddfod, a'r sefydliad o gyfundrefn addysg gyùa'l' Brifvsgol yn ben congl iddi. Parodd y teimlad cenedlaethol hwn i wladgarwyr droi em golwg at ffurf-ymfud- iaeth. Oherwydd ierfynau cyfycg Cymru, a bod ymfudiaeth barhaus o honi i wledydd eraill, dadlouwyd llawer o blaid crynhoi ymfudwyr Cymreig- i un ran o'r byd. Dyma ysgogodd i sefydlu trefedigaeth yn Patagonia. Nis gellir dweyd i'r llwyddiant a ddisgwylid gael ei gyraeddyno, o herwydd poilder y lie, diffygion yn ansawdd y wlad, a'r ffaith ei bod dan lywodraeth Y sbaeuiaid Pabyddol ae anghydnaws a thueddiadau y Cymry. Gofynwyd i Arglwydd Russell, y Gweinidog Tramor ar y pryd, am diriogaeth i'l Cymry dan faner Prydain, ond gwrthod- wyd y caie. Yn awr, mae Llywodraeth Canada yn cynyg rhandir helaeth yn unig i'r Cymry, 11* na raid eu colli drwy gymysgiad cenedl- oedd. Mae yn Canada Ie i 100,000,000 o drigolion, tra nad oes ynddi yn awr ond 5,000,000. Rhoddir 160 erw o dir am ddim i ffermwyr ac oraill ar lechweddau a dyff- rynoedd cyfagos i'r Mynyddoedd Creigiog. Darperir gwaith i weitliwyr ar y reilffyrdd, ac y mae y wlad yn gyfoetliog mewn mwngloddiau aur a glo sydd eto heb eu dadblygu. Mae'r hinsawdd hefyd yn ddymuuol. Yr helynt yn Bethesda achlysurodd i gynyg gwlad yr addewid hon i'n cenedl, ac nid dyma y tro cyntaf i'r gorthryinedig droi eu gwyneb am ymwared i'r Gorllewin. Mao ein amaethwyr hefyd yn dioddef o ddiffyg tir. Os bydd fferm yn wag bydd deg am dani. Y mae y cynygiad a wneir gan lywodraeth rydd a chyfansoddiadol fel Canada yn haeddu yatyriaeth ddifrifol, gan yr hysbysir ei fod y mwyaf manteisiol a roddwyd i unrliyw genedl, ac os collir ef nid yw yn debyg y ceir cynyg o'r fath eto. Nid yw heb gael ei ddweyd am y Celtiaid eu bod yn ddiffygiol mewn ysbryd antur- iaethus a dyfalbarhad. Dyma gyfleusdra i brofi yn amgen. Bydd anhawsderau o ddiffyg arianol gyda llawer, ond y mae y Cymry yn bobl gymdeithasgar, ac mewn uudeb mae nerth. Goboithiwn ar ol cael sicrwydd am gymwysderau y lie, y Ilwyddir i gael cynllun ymarferol ac effeithiol, ac y bydd pob egni yn cael ei roddi ar waitk er sicrhau i'r Cymry a ymfudant, nid yn unig gysurom cynhaliaeth, ond hefyd gadwraeth holl fanteision eu nodweddion cenedlaethol mewn gwlad o'r eiddynt eu hunain.
CAMWRI YR ARGLWYDDI.
CAMWRI YR ARGLWYDDI. Dylai llais Cymru drwy ei sefydliadau cykoeddus, fel y gwnaed yn Mwrdd Llyw- odraethwyr Addysg Ganolraddol Meirion, gael ei ddatgan yn groew mewn condemniad < ymddygiad trahaus Ty'r Arglwyddi yn taflu allan y cynllun newydd ar reoleiddiad Ysgol Howell yn Ninbych. Cafodd y cynllun ei drefnu i ddechreu gan Lywodr- aethwyr Addyag Sir Ddinbych, a chymer- adwywyd ef gan y Dirprwywyr Elusenol a'r Swyddfa Addysg. Drwy ddylanwad Esgob Llanelwy ar ei gyd-aelodau yn y Ty y gwnaed y camwri hwn. Mor elynol yw yr eggobion a'r blaid Eglwysig i addysg rydd 1 ac anenwadol! Aed addysg lie yr elo o'u rhan hwy, os na cliysylltir ef a chredoau yr Eglwys. Ma. llawor o'r offeiriaid mor gaethiwus a dialgar eu liysbryd ag y cloent i fyny, pe gallent, ddrws pob capel Ymneill- duol yn y deyruas. Aeth y Senedd eleni mewn cyngrair a hwy ynglyn ag addysg, prif amcan yr hwn yw llethu Ymneillduaeth a chodi i iyny ddefodau gwrth-Brotestanaidd Rhaid i Ymneillduwyr fod yn effro, neu dygir eu hawlfreintiau oddiarnynt, a bydd cenedlaethau eto yn dioddef dan lawer o ormes y canol-oesoedd. Nid oes neb a faidd honi mai gwaddol Eglwyeig ydyw Elusen Howell, ond rywfedd daeth i feddiant awdurdodau yr Eglwy., ac y mae arian o'r fath yn bur sicr o lynu wrth ou dwylaw hwy. Cadwant yr ysgymunbeth yn eu pabell, a rhoddant esboniad anghywir .A4 anoaent o'r tMaiadau dan y cynllun. Darperir ynddo 120p. y tlwyddyn tuag at ysgol Dr. Williams i'r merehed yn Dol- gellau. Haerwyd fod yr ysgol liou dan reolaeth Undodiaid, pan y mae yr oil bron o'r Llywodraethwyr yn Drinltariaid. Nid oes ychwaith yr uu o'r athrawesau na'r ysgolorion yn blaut rhieni Undodaidd. Fel engraipht o ddieithrwch y cyhuddiad hwn yn ysg'ol Dr. Williams, gofynodd un o'r merehed yn nosbarthiadau uchaf y sefydliad-'Pwy yw yr Undodiaid y lonir cymaint yn awr am danynt, ai yr un rhai ydynt a'r Undebwyr ?'
YSGOLDY NEWYDD YN MACHYNLLETH.
YSGOLDY NEWYDD YN MACHYNLLETH. Dydd ealonogol i Machynlleth a'r cylch oedd dydd Gwener diweddaf, pan osodwyd i lawr gongl feini adeilad yr Ysgol yn y dref. Dylai holl gyfryngau addysg newid gwyneb In t5 cymdeithas er gwell. Nifer yr ysgolorion a yn awr yw 46, ond dylent fod gymaintddwy waith a mwy. Y rliif isaf y golygai y Dirprwywyr a wnai fynychu yr Ysgolion Canolraddol ydoedd 20 yn mhob mil o'r preswylwyr. Mae un diffyg eto yn nghylch y ddysgeidiaeth a roddir yn ysgol Maeh- ynlleth, sef darpariaeth ar gyfer Addysg Gelfyddydol, yn cynwys amaethyddiaetli. Diau yr ymestyna y Llywodraotliwyr i chwanegu hyn at y canghenau eraill y mae llwyddiant mwy amlwg arnyut. Mae'r sefyllfa arianol yn dangos ymdiech canmol- adwy i dalu costa u yr ysgoldy. Ar ol yr hyn a dderbyniwyd dydd Gwener, nid oes ond 327p. Is. Ic. yn aros yii ddyled. Dichon y llwyddir i'w chlirio erbyn dydd agoiiad yi adeilad.
CYNGOR TREFOL IMACHYNLLETH.
CYNGOR TREFOL IMACHYNLLETH. Cynhaliwyd eyfarfod dydd Mawrth yn y Neuadd Drsfol. Presenol, Mr. R. Owen, cadeirvdd, Arglwydd H. V. Tempest, Mri. 11. Gifiart, W. AT. Jones, R. R90S, D. D. Williams, J. Pugh, E. Gillart, E. Rees, J. Edmunds, J. M. Breeze, J. Lewis, a J. Rowlands, clei-c. Y CAETHITOSYDD.—Daeth Mr. Kirby, y peirianydd gerbron, ac eglurodd blaniau carthiiosydd i'r di-ef- Darperid ynddynt wneyd carthffosydd i redeg ar hyd ganol yr heolydd, yn gyfochrog a'r pibellau dwfr, gyda 6 troedfedd rhyngddynt. Bydd pedair cangen o honynt, sef yn heolydd Maengwyn, Peurallt, Doll, a Pentrerhedyn, a'r oil yn eyfarfod yn f-lordd y Gas Works. Awgrym- id prynu cae Mrs. Foulkes Jones gerllaw, i'r oil derfynu ynddo. Yr oedd tri eraill o beTchenogion preifat y byddai yn ofynol dod i delerau a hwy tuag at gyflenwi'r gwaith Yr oedd rhai tai yn Maldwyn Terrace yn rhy isel i redeg i'r carthffosydd. Derbyn- iwyd y cynllun yn ffafriol gan y Cyngor. RHWYDO Y DYFI.—Darllenwyd llythyr maith oddiwrth W. Phelps, ysgrifenydd Clwb y Dyfi, mewn atebiad i'r gwyn a anfonwyd i'r Cyngor diweddaf gan Mr. Anwyl o fod y clwb yn gor-rwydo yr afon yn groes i reolau Syr Watkin, ac er ni wed] i'r pysgota gyda gwialen. Dywedai Mr. Phelps nad oedd yn Ifaith fel yr honai Mr. Anwyl fod 70 o bysgod wedi eu dal mewn un dydd eleni. Rhoddai dabl yu dangos y nifer fwyaf a ddaliwyd y blynyddau diweddaf: 1893, 84; 1894, 25; 1895, 34; 1896, 41; 1897, 31. Cyfartaledd nifer y pysgod a ddaliwyd am yr amser hyn oedd tua 10 y dydd. Delir savin gan y rhwyd. Dywedai fod anghysondeb mewn galw am chwaneg o bysgod i'w gwerthu yn y dref, a'r un pryd gofyn iddynt atal rhwydo cymaint. Nid oeddynt wedi rhwydo uwchlaw Llugwy. Yr oedd raid iddynt rwydo tuag at dalu i'r ceidwaid. Mr. D. D. Williams a ddywedodd fod y clwb yn cyfiawnhau ei hun am ivwydo, mwy nag a ddylent er mwyn talu cyflogau eu ceidwaid. Eto nid oedd y ceidwaid yn gwylio nac yn archwilio trwyddedau pysgota yr afon. Nid oedd gronyn o anrhydedd yn perthyn i Mr. Phelps. Cynygiai i anfon at Fwrdd y Gwarchodwyr, yn anog iddynt drefnu mesh lletach i'r rhwydi mewn dyfr- oedd preifat. Cefnogwyd y cynygiad gan Mr Richard Rees, yr hwn a sylwodd fod llawer e ddieithriad yn dyfod i'r dref ac yn ymadael yn fuan gan ddweyd nad oedd dim pysgod i'w cael yn yr afon, yr hyn a barai gryn golled i'r dref.—Mr. J. Lewis a ddywedodd nad oedd y cyhuddiad j yn erbyn y Clwb wedi ei brofi.-Mr. R. Gillart ] a ystyriai mai gwell fyddai gwneyd ymchwiliad i'r mater mewn pwyilgor ar ol derbyn atebiad ] oddiwrth Syr Watkin.—Mr. E. Rees a ddy- wedodd fod anghytundeb hollol yn yr hyn a 4 ysgrifenodd Mr. Anwyl a Mr. Phelps. Yr oedd un o honynt yn amlwg wedi cael ei gam-arwain J o bosibl gan eraill. Cydsyniai ag awgrymiad 1 Mr. Gillart, ac yna cytunodd Mr. 1). D. Williams i oedi ei gynygiad hyd nes yr ystyrir < y mater gan bwyllgor o,r aelodau. < IECHYDOL. Darllenwyd adroddiad Dr. J Davies, y swyddog iechydol. Yr oedd ty yn y J Graigfach yn cael ei orlenwi ac yn fudr. Cysgai chwe' person, yn ddynion a merehed 1 mewn un ystafell. Yr oedd yr arolygwr wedi 1 rhybuddio y tenant. Pasiwyd rhoddi gwys i'r ) cyfryw. Penderfynwyd rhoddi rhybudd o 24ain awr i'r crwydriaid i ymadael o'r Park Common" Nid oes afiechyd heintus yn y dref. Y GWAITH DWFR.—Pasiwyd talu 8oop. i J Mr. Phoenix, y cymerwr, yn gwneyd y swm o < 2,400p., ac i Mr. J. Edwards, clerc y gwaith, ) 8p. Mr. Edward Rees a gynygiodd fod ail gais yn cael ei wneyd at y perchanogion am i iddynt ganiatau i ddwfr gael ei gario yn ddarbodol i'r dref o nant Cwmrhwden, oherwydd y sychder presenol. Pasiwyd y cynygiad. Is-GADEIRYDD.—Ar gynygiad Mr. W. M. Jones a chefnogiad Mr. J. Pugh, dewiswyd I Mr. D. D. Williams yn is-gadeirydd y Cyngor. 1 TRETHIANT. Rhoddodd y clerc amcan- j gyfrifon o'r treuliau dyfodol, a dywedodd y < byddai yn anghenrheidiol cael 0 2s. 6c. y bunt, a* gyfer as. y flwyddyn ddiweddaf. Pasiwyd y 1 trethiad.
ADDYSG GANOLRADDOL MEIRION.
ADDYSG GANOLRADDOL MEIRION. Cynhaliwyd Bwrdd y Llywx>dratthwyr Sirol dydd Iau, yn yr Abermaw. Pi< senol, Dr. Hoger Hughes, cad ei rydd am y tro, Mrs. Price, Ehiwlas, Mrs. Eowlands, Towyn, Mri. E. Griffith, H. Haydn Jones, A. Roberts, W. Evans, J. Davies, M. Thomas, ac R. J. Griffith, clerk,. -ily s I))- riodd y clero fod trosglwyddiad tir yr ysgoldai yn Ffolt- iniog ac Abermaw wedi eu ewblhau.-Allan o wyth dewiswyd dwy forch i roddi iddynt ysgoloriaeth mewn gwaith llaethdy. Ap- wyntiwyd tri 0'1 aelodauar Bwyllgor Addysg Gelfyddydol y Siroodd Canolbarthoi.- Penderfynwyd argrapliu nifer chwanegol o'r Cynllun Sirol.—Pasiwyd ar y trefniadau tuag at roddi Exhibitions i ymgeisio arnynt gan blant yr ysgolion. c ELUSEN HOWELL.—Darllenwyd llythyr oddiwrth Dr. Edward Jones, Dolgellau, y cadeirydd, yr hwn a ysgrifenai o Harrogate, lie yr arhosa ar hyn o bryd Pe yn bresenol, fe fuaawn ya gofyn i'r Bwrdd Llywodraethiil Sirol i wnoyd protest gadarn yn erbyn y cwrs mabwysiedig gan Dy yr Arglwyddi gyda chynllun yr Elusen uchod. Mae hyn yn ddiau yn ganlyniad i waith dichellgar Eiilgob Llanelw)',—gelyn ehwerw Ymneillduaeth ac addysg genedlaethol yn Nghymru. Mao yr ymgaia i wneyd Elusen Howell yn un Eglwysig yn wrthun ar y wyueb. Rhoddwyd yr arian hyn gan Thomas Howell, yr hwn a fu farw yn yr Ysbaen, yn 1540, gyda'r amcan o ddarpar cyfranau priodasol i'w berthyuasau menyw- aidd. Nis gall hwn fod yn achos o Syl- faenydd duwiol,' am yr hwn y clywir cymaint o son y dyddiau hyn. Nid oedd dim a fyno hon o gwbl a chrefydd. Gan hyny, y mae yr ymgais i'w gwneyd yn Elusen Eglwysig yn ddi-gywilydd-dra i'r eithaf. Mae dyfarniad anghyfiawn Ty yr Arglwyddi yn golygu colled o 120p. yn flynyddol i Sir Feirionydd. Buasai yr arian hyn yn cael ou defayddio yn gyfangwbl i roddi ysgoloriaethau i ferclied y Sir hon. Mae yr ymgais hefyd i geisio gan y wlad gredu fod ysgol Dr. Williams yn Undod- aidd yn wrthun o iselwael a disail. Beth bynag ydyw ymddiriedolwyr gwaddol Dr. Williams, y mae rheoleiddiad yr ysgol yn hollol yn nwylaw y Corph Llywodraethol, yr hwn y mae ei fwyafrif o ddigon yn rhai heb fod yn Undodiaid, ac yr wyf fi mewn safle i allu sicrhau fod yr ysgol o'i chychwyniad cyntaf wedi bod yn gwbl rydd oddiwrth ddylanwad Undodiaeth. Y mae y cyhuddiad hwn yn erbyn yr ysgol, y mwyaf creulon posibl, yr hwn a wnaed yn ddi-os gyda'r amcan o niweidio y safle uchel ac anrhydeddus y mae yr ysgol hon wedi ei gyraedd. orchuddlr ni a chywilydd pan y meddyliwn fod y ceisiadau anheilwng hyn i warthruddo yn deilliaw oddiwrth y rhai a ystyrir yn arweinwyr Eglwys Genedlaethel Cymru. Ond nid yw dydd yr ad-daliad yn mhell, pan y bydd i Gymru fechan orthrymedig godi a gorchfygu y gelynion hyny, y rhai a geisiant ddiffodd ein huchelgais mwyaf anwyl.' Cynygiodd Mr H. Haydn Jones y pender- fyniad canlynol Ein bod ni fel Bwrdd Llywodraethol Sirol Meirion, yn protestio yn y modd cryfaf yn erbyn Ty yr Arglwyddi yn gwrthod y cynllun yn ymwneyd ag Elusen Howell, o herwydd yr hyn y mae colled o i2op. y flwyddyn i ysgol Dr. Williams yn y Sir hon ac yn mhellach yr ydym yn gwrthdystio yn erbyn yr ymgais i warthnodi yr ysgol fel un Undodaidd. Pa beth bynag yw yr ymddiried- olwyr, y mae y corph llywodraethol yn cael ei wneyd i fyny o fwyafrif gorthrechol o bersonau nad ydynt Undodiaid. Pod copi olr petider- fyniad i'w anfon i T. E. Ellis, Arglwydd Salisbury, i'r Swyddfa Addysg, a'r Charity Commissioners. Cefnogwyd gan Mr. W. Evans, a phasiedd yn unfrydol.
MASNACH YN AMERICA.
MASNACH YN AMERICA. Mae yr amser da' wedi ei ganu er cot genym ac y mae yn ddigon i ddarbwyllo dynion bellach i newid y gan a chanu rhywbeth cymwysach i'r cyfyngder. Yr ydym yn y wlad hen er's blynyddau yn disgwyl wrth y llwyddiant addawedig i ddyfod, ond nid oes golwg arno eto. Y ffermwyr yn cwyno am brisiau isel eu heiddo, a'r gweithydd glo a haiarn yn sefyll am nad yw y dynion yn barod i dderbyn y gostyngiad a gynygir gan y meistri. Mae y newyddiaduroiiyn hoff < ddweyd yn awr ac eilwaith ei fod yn dyfod, ond y ffaith yw mae hwyrfrydij iawn y mae yn gwneyd ei ym- ddangosiad. Mae yr etholwyr wedi eu siomi a'u twyllo droion er's rhai misoedd. Llwm yw hi ar filoedd, a'r amser llymaf welodd llawer wedi eu teai. Y mae y newyddaduron pleid- garol a swyddegol am eu bywyd i gynal i fyny obaith y bobl a chadw eu disgwyliad yn fyw ond fedr disgwyliad ddim byw a bod ar ddim. Dyddorol iawn yw gweled y moddion a ddef- nyddir i ddarbwyllo y gweithwyr i ddisgwyl. Wele yn y Gogledd ebent; wele, yn y De! Wele yn y cynhanaf! Wele yn y diffaethweh Wele wele Bob bore y gwelir y segurwyr yn disgwyl a dyheu ond y mae y wybren weithfaol yn parhau yn gymylog heb hoUt neu agen i haul Uwyddiant dywynu trwodd. Y peth i'w ystyried gan y bobl yn fuan yw nid y blaid hon a'r blaid arall, ac ethol hwn ac ethol arall, end bydd yn rhaid iddynt chwilio yn eu plith am yr ysgymun-beth. Y mae yno Achan yn y gwersyll Americanaidd y mae yna ysgymun-beth yn y politics pydredig sydd yn dyrysu y bob! y mae eisiau dyfod 0 hyd i achos yr aflwyddiant yina sydd fel hunllef ar fynwes America. Chwilier am dano yn mhlith yr holl bleidiau yn y wlad. Ceir fod yr achos yn nghanol y babell. Yna dyger yr holl bethau ysgymun allan a llosger hwy; yn fantell, ac yn arian, ac yn aur, ac yn bolitics, ac yn swydd-geiswyr, ac yn glymbleidiau, ac yn trusts, ac yn gynadleddau pydredig, ac yn un pentwr o ysgymun-bethau, difether hwy er lies cyffredinol dypoliaoth.-Olr Drych.
TOWYN.
TOWYN. Y GWIKFODDOLWYB.—Dydd Sadwrn, cyr- haeddodd tua 350 o Wirfoddolwyr (gwyr traed), Sir Dref aid wyn, a gwersyllasant ar lan y mor. Y Sabbath dilynwyd hwy gan o 500 i 600 o Wirfoddolwyr, (magnelwyr) Warwick a Worcester. Arhosant am wythnos yn y lie i ddilyn eu hymarferiadau. I)IMWAIN.-Dydd Llun, cyfarfyddodd Mr. William Davies, yn lletya yn Gwalia, a damwain ddifrifol. Yr oedd yn ngwasana.eth Mr. Eichard Morgan, adeiladydd, ac yu ZD gweithio ar Landing uchaf yr adeiladau n llowydd, pryd, rywfodd neu gilydd y syrthiodd i'r llawr-ddylnder o 42 o droedfeddi. Da genym ddeall ei fod yn gwella yn rhagorol dan ofal Dr. Rowlatids. YU YSGOL GAXOLRADDOL.—Y mae canlyn- iad yr arholiad am ysgoloriaethau yn yr ysgol ucliod, newydd ddyfod i law, yn dangos fod y rhai canlynol wedi llwyddo :— Full Scholarship, ago red i Ysgolion Elfenol, Margaret Eichards, Edwin Hughes, Mar- garet J. Roberts, Martha J. Jones (oil o Ysgol y Bwrdd Aberdyfi). Half Scholarship agored i'r un cylch, Eichard W. James, Ysgol y Bwrdd Towyn; \V. C. Itobertis, Ysgol Genedlaothol eto. Half Scholarships 0 (agored i Ysgol y Bwrdd Aberdyfi), George 0 0 Davies. Half Scholarship, agored i'r holl Ysgolion Elfenol, Charlotte Evans, Jane Davies, ac Agnoe M. Doig, Ysgol y Bwrdd Bryncrug. Abergroes Charity Scholarship, David 0. Jones, Pennal. Half Scholarship (agored yn unig i Ysg-ol y Bwrdd Aberdyfi), 0 Maggie Williams. Half Scholarship etc, agored i'r holl Yisgolion Elfenol, Sarah Jones, Ysgol Genedlaethol Towyn, ac Anna M. Mason, Ysgol y Bwrdd Towyn. Aber- groes Charity Scholarship, eto Annie Owen, Ysgol y Bwrdd Pennal.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. Yn Mwrdd y Gwarcheidwaid, ddydd Llun, protestiodtl Mr. B. E. Morgan yn erbyn gwaith Mr. J. M. Williams, un o'r gwarcheidwaid gwledig am ei sylwadau yn cyhuddo gwarcheidwaid y dref, am fod yn wastraffus yn eu cyfraniadau i'r tlodion tuallan i'r tloty. Nid oedd ond 1'6 y fil o dlodion yu Aberystwyth, tra yn inhlwyf Mr. Williams yr oedd yn 3'6 y fil. Cyfartaledd y dref oedd 1-4, y wlad 4-8. Mr. Miller a gynygiodd fod y cyfraniadau yn cael eu parhau am y tri mis dyfodol. Nid oedd arnynt eisiau y row yna bob mis* Cytunodd y Bwrdd a hyny.
HEN CLEDOYF HOWELL HARRIS.
HEN CLEDOYF HOWELL HARRIS. Yn yr Eisieddfod Gadeiriol, Aberhonddu, defnyddiwyd hen grair gwerthfawr i gadeirio'r Bardd, sef hen leddyf Hywel Harris, Trefecca. Mae pawb ddarllenodd hanes bywyd yr efengylydd onwog hwnw yn cofio iddo ymuno a'r Militia. Golygfa darawiadol oedd gweled un o sefydlwyr y Methodistiaid Calfinaidd mewn cob goch end cymerid golwg gwahanol iawn, ac yn dra rhesymol hefyd, ar ryfel yn y ganrif ddiweddaf i'r hyn wneir yn awr. Yr oedd y deyrnas hon y pryd hwnw mewn dychryn rhag i'r Ffrancod ei goresgyn; a galwodd rhai o foneddigion Sir Frycheiniog am gymorth eu cymydog dylanwadol Mr. Harris, arolygydd y cyfundeb dieithr oedd newydd ei sefydlu yn Nhrefecca. Yn 1760 efe a ymunodd a'r militia, gan ddwyn gydag ef 24 0 wirfoddolwyr o Deulu Trefecca,' a. 12 o honynt ar ei draul ei hun. Penodwyd ef ar y cyntaf yn fanerwr (ensign), ac wedi hyny yn gadben. Yn ffodus, ni ddaeth yr un gelyn Ffrengig o hyd blaen ei gleddyf, 6 y onide anhawdd gwybod beth ddaethai o hono —hwyrach, gwyr dyn, mai pregeth a gawsai ganddo. ac nid brathiad cledd. Canys yr oedd yn dal i bregethu, rhyfel neu beidie, ac y mae hanes digrif am dauo yn pregethu yn ei regimentals yn Llanvmddvfri. ond fod iranddo v j j O hugan yn eu gorchuddio. Ysgrechiai yr erlid- wyr ar y Pengryniaid a galwodd yntau am osteg yn enw y nefoedd. Ni fuasai waeth iddo lefaru wrth y gwynt, ni chymerent y sylw Ueiaf, hyd nes y dioigodd ei hugan ac y galwodd am lonyddwch yn enw brenin Lloegr. Gostegodd y cynwrf ar unwaith, a chafodd y pregethwr tanllyd gyfle i edliw i'r terfysgwyr fod arnynt fwy o ofn brenin Lloegr na Duw. Ni ddywedir yn mha. le y cafwyd nac y cedwir cleddyf Hywel Harris and gobeithio ei fod mewn lie diogel, canys pan gyfyd y genhedlaeth o Gymry fydd yn mawrhau eu hynafiaid trwy eu cofio yn barchus, bydd hwn yn sicr o gael ei restru gyda'u trysoraugwerth- fawrocaf.
ARDDANGOSFA ARDDWROL CORRIS.
ARDDANGOSFA ARDDWROL CORRIS. Dyinunir sylw neillduol pawb a fwriadant ymgeisio yn yr Arddangosfa uched, at yr hyn a ganlyn ynglyn ag ymgeisiadau. Yr adeg ddiweddaf i wneyd ymgeisiadau i Ddosbarth B, fydd dydd Sadwrn, y 7ftld cyfisol, ac hefyd yr un dydd y derbynir ymgeisiadau am Wobr Neillduol Mr. H. Davies, Abercorris, Gweler manylion yn y Catalogue, rhif 5 o dan y penawd Gwobrau Neillduol. Derbynir ymgeis- iadau i'r Dosbarthau a rifnodir 1-17, ynghyd a Dosbarthau E, F, C, ddydd Gwener, Awst y IJeg. A'r adeg ddiweddaf y derbynir ym- geisiadau i Ddosbarthau A, C, D, a rhif 1, 2, 3, 4, 6, o dan y penawd Gwobrau Neillduol, ynghyd ag ymgeisiadau yr Arbrawfion Cwn Defaid, fydd Awst i6eg. Bydd cystadleuaeth y Drawing yn cymeryd lie yn yr Ysgoldy Cen- edlaethol, dydd Sadwrn cyn yr Arddangosfa. Da genym ddeall fod golwg addawol am gynyrchion rhagorol. Dymuna y pwyllgor wneyd apel neillduol at holl blant y cylch,am iddynt gymceryd gafael yn y cyfleusderau a roddir iddynt mewn dadblygu eu hunain drwy y cystadleuaethau a dynir allan yn arbenig iddynt.—H. WILLIAMS, Ysg.
Advertising
DARLLENWOH, CO I V U II, YSIMWOH. BITTERS GWILYNI EVANS. Meddyginiaeth oreu yr oes. AT DDIFFYG TREULIAD, DOLURIAU YR AFU, GWENDIDAU GIEUOL. A phob math o WEN DID. Defnyddir Quinine Bitters Gwilym Evans gan gleifion yn mhob gwlad sydd yn dioddef olidiwrth Nychdod, Gwendid, a Llesgedd. Y mae yu rhoddi Nerth i'r gwan, Iechyd i'r clafl Mwynhad bywyd 1 bawb. Tystiolaeth Bwysig. DIFFYG TREULIAD. Llysawen, Rhyl, E brill 17eg, 1895. Auwyl Syr,—Blinid fi yn dost gan y Hilt a Diffyg Treuliad, ac anogwyd fi i roddi prawf ar eich cyfleri chwi—Quinine Bitters a Digestive Pearls, ac y mae yn dda genyf aUu tystio i'r lies ma wr SL gefais o'u defnyddio. Cymerais amryw boteli 4s. 6c. o'r Bitters, ac yr wyf yn penderfynu cadw potelaid e hono wrth law bob amser, a chymeryd dogn dyddiol anvr cyn boreu- f wyd. Aeth y cur o fy mlien, a'r neuralgia a'r gymalwst, a gelynion eraill ar ffo; a gobeithio na wnant byth ddychwelyd. Cefais lwyr ymwared o'r liile a'r Diffyg- Treuliad, ac y mae y Quinine Bitters wedi cryfhau fy ystumog, puro fy ngwaed, a sirioli fy ysbryd. Yr wyf wedi ei argymell i liaws sydd yn awr yu rhoddi canmoliaeth uchel iddo fel meddyginiaeth effeithiol at wahanol aahwylderau. Wyf, Syr, yr eiddoch yn ddiolchgar, JAMES DAVIES (lago Tegeingl). BITTERS GWILYM EVANS, fifcT" GWYLIWCH Goehelwch Dwyllwyr. Edrychwcil fod enw Gwilym Evans ar bob label, stamp, a photel. Gwertliir hWYllt mewn poteli 2s. 9c., a 4s. 6c. yr uu Blycliau yu cynwys tair potel 4s. 6c. am 12s. öc. I'w cael yii inliob man, ueu daufonirhwy yn rhad am y prisiau uchod yn ddyojjcl drwy y pust oddiwrtli y percheuogioli,- QUININE BITTERS MANUFACTURING COMPANY LIMITED, LLANELLY, SOUTH WALES. GORUCHWYLIYVIl YN AMERICA— Mr. R. D. WILLIAMS, Plymouth, Penn. ARDDANGOSFA FAWR AT YR HAF. -0:- Mae RICHARD REES, Paris House, MACHYNLLETH, Wedi prynu Stock ysblenydd o bob math o Nwyddau Drapery at yr HAF, y rhai a ddangosir ?' yr WYTHNOS HON.' CHEAP PRINTING AT "NEGESYDD" OFFICE! CORRIS, R.S.O,