Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
einiOt1 Jlwen. -:0:-
einiOt1 Jlwen. -:0:- Y BYWYD-FAD, GAN EMRYS. Trowch allan y bad ewch, heriwch yr aig Mae llong yn prysuro i ddanedd y graig Rhwygwyd yr hwyliau, d'rysodd y llyw, 0 brysiwch! 0 dygwch y morwyr yn fyw. Cychwynodd y bad mae'n marchog y lli; Tarawodd y llong a glywsoch y cri [ffodd! AI,ae'n suddo I mac'n suddo! pob gobaith a 14i suddodd, hi suddodd-y dyfnder a'i todd 0 brysied y bad—mae'r perygl yn fawr! Pob ton sydd yn fyiiydd pob munyd yn awr Mae'n nesu, mae'n nesu, drwy'r tonau yn hyf, Mac angeu'n siomedig, a gobaith yn gryf. Cyrhaeddodd y bad, wi! gvvelaf bob gwr, O'i fewn yn ddiogel uwch dinystr y dwr [hynt Mae'n dyfod mae'n dyfod o'r enbyd fawr Gan chwerthin yn ngvvyneb y tonau a'r gwynt. Dychwelodd y bad, cyrhaeddodd y lan Prysured tosturi i weini i'r gwan Dyrchafwn, dyrchafwn, ein mawlgerdd ynllon, I Geidwad ein bywyd ac Arglwydd y don.
NODION GAN 'SYLLOG.'
NODION GAN 'SYLLOG.' Y mae llawer yn gwertliu llaeth vnghyleh y Cauolbarth. Nid yw y llaeth a werthir ganddynt oil o gyfYaly6 ragoriaetli. Go- beithiwn yu fawr mai amgylcliiadau uatur- iol sydd yn gyfrifol am hyn, megys gwartheg sal, poria wael, &c. Nid wyf yn lioffi gweled pobl yn gwerthu llaeth, wedi tyuu y blaenllaeth wrth odro. Gwerther llaeth pur am bris rhesymol. Yr ydym yn credu mai eithriadau ydyw y rhai uad ydynt yn gwneyd hyn yn y Canolbarth. Beth yw y cwn a welir gan lawer yn y rlianau hyn ? Bydded hysbys i'w percheri- ogion os na edryehant ar eu liol, yn at-benig ar ol eu danedd, y bydd yn bleser o'r mwyaf i ni ac eraill roddi loekjaiv.bytho iddynt. Y maent wedi myned yu bla ar yr arclaloedd, acyn flynhonell o berygl i hen ac ieuanc. Paham y cedwir cymaint o swn gan bobl wrth ddod adref ? A'i tybed mai am eu bod wedi yfed rhywbeth cryf ach na, llaeth anwyn. Nid yw yr iaith chwaith yn chwaethus na; dewisol. Os oes rhywun trwy hyn yn meddwl eu bod yn ddyniou, neu ar y ffordd i dd'od yn rliai, cymeraf y cyfle hwn i'w hysbysu, eu bod yn cymeryd y moddion mwyaf effeithiol er peidio a bod yn ddyniou. Y mae tuedd gref yn y gweithydd y dyddiau hyn i edrych ar ddyn amlwg anuwiol fel arwr, i'w edmygu a'i ddilyn. Y mae y fath bobl yn bod a specialists mewn poehod. Gwrandewir ar eu geiriau, a'u Ilymffrost, a'u celwyddau, fel pe byddent oraclau, ac y maent yn gallu gwneyd mwy o ddrwg i ieuenctyd ardal, nag a all eglwys gynes o dda. Apeliaf at gydwybodau crefyddwyr am wirionedd y sylw hwn. Y mae tron y Corris Railway yn myned heibio amryw dai ar ei yrfa droellog. Yn enw gweddusder a hunan-barch paham y rhaid i breswylwyr y tai lygadrythu yn t5 farbaraidd ar bawb fydd yn digwydd bod yn y tren ? Dringant i'r ffenestri, ymgudd- iant weithiau o'r tu ol i'r lleni, llechant yu nghil y drysau, nes y saif y poiriant. Y mae eraill yn ddigon hirben i gymeryd In tY aruynt fod yn bugeilio blodeu a gerddi bach, neu yn golchi llestri llaeth, neu yn golchi dillad. Ceir rhai dracliefn yn ddigon prosaiddiarosynliamddenol a'u breichiau ymhleth, ond yn llygadu mwy nag a fedd- yliodd Awdwr eu lxamrantau iddynt wneyd. Goboitliio y rhydd y uodiad hvvn derfyn bythol ar yr arferiad hagr, onide bydd yn rhaid i ni ddefnyddio mesurau llymach ac effeithiolach.
ADDYSG YN NGHYMRU.
ADDYSG YN NGHYMRU. Mae adroddiad Mr. Legard, prif arolygydd y Dosbarth Cymreig, yr hwn a gyhoeddwyd gan Fwrdd Addysg yn bur galonogol. Nifer yr ysgolheigidn ar lyfrau yr ysgolion ddiwedd y flwyddyn twyddogol ydoedd 308,807, a'r presenoldeb ar gyfartaledd yn 235,293 ond tra yr oedd cynydd y rhai ar y llyfrau yn 4'16 y cant, nid oedd ond yn unig 374 o gyfartaledd y rhai oedd yn bresenol. Mae y cynydd wedi bod yn fwy yn mysg y plant ieuangaf nag yn mysg y rhai hynaf, ond y mae cynydd amlwg- wedi bod yn mysg y rhai hyny gymerasant bynciau penodol, &c. Nid yw yr ysgolion nor, mor lluosog ag y dylasent fod yn Nghyrnru, ond y mae dechreuad da wedi ei wneyd, ac y mae nifer yr ysgolheigion nos wedi cynyddu o ^S.847 i 19,483, neu yn agos 23 y cant.
^ANRHEGION.
ANRHEGION. Gan W. AV., Dolgellau, mae Stoc Ragorol o Watches Aur Ardderchog, Clociau a In Jewellery (ac eiddo eraill mewn Aur ac ,&rian) cyfadd&s lei Anrhegion a Testimonials
jAMEYWION.
j AMEYWION. Gwerth gwaddoiiad Howell yw 2,743p. y flwyddyn. Mae Ysgol Sirol Llandaff yn cyfranogi o hono heblaw YsgoI Howell yn Ninbych. Ar hysbyslen cysylltiedig a'r Jiwbili a gyhoeddwyd yn Lloegr, diweddwyd yn y geiriau canlynol-' Duw gadwo'r Frenhines,' Drwy orehymyn y cadeirydd.' Mae yn arferiad gan y dosbarth tlotaf o ysgolorion America i wasanaethu mewnjgwestai 2. Z, yn ystod yr haf, er mwyn enill arian i barhau eu haddysg yn. nhymor y gauaf. Mae Ilawer o honynt yn awr wedi cyflogi gyda gwaith rhyfeddach, sef gwylio rheilffyrdd i atal tan yn y coedwigoedd y mae y llinellau yn myn'd drwyddynt. Mae gan y dynion ieuainc hyn 28ain milldir i'w gerdded bob dydd. Dangosir y cynydd mawr sydd yn cymeryd lie gydag addysg yn Nghymru yn arlioliadau 6 41 Z, yr Ysgolion Canolraddol a ddygir yn mlaen yn awr gan y Bwrdd Canolog. Dwy flynedd yn ol, nifer y plant a arholwyd oedd i,8oo, y flwyddyn ddiweddaf 3,400, a'r flwyddyn hon dros 6,000. Nid yw canlyniad yr arholiad diweddaf wedi ei wneyd yn hysbys. Yn ystod y tymor poeth diweddar, gellid clywed llawer yn gofyn A fu hi yn boethach erioed. Rhydd ysgrifenwr fanylion ynghylch y tywydd poeth. Tymheredd dyddiol yr haf yn nyffryn y Ganges yw o 105 i 110 o raddau. Yn nyffryn yr Euphrates, amrjwia rhwng 115 a 120 o raddau. Ar wastadeddau tywodlyd Arizona, esgyna y gwres-fesurydd i 120 o raddau ond yn nghylchoedd y Mor Coch y mae hi boethaf 0 bob man, lie y mae yn esgyn weithiau cyfuwch a 145 a 175 o raddau. Wrth ddadansoddi yrhestr o'r rhai a basiodd yr arholiadau, ati-i raddau yn Mhrifysgol Cymru, ceir allan o gyfanrif y rhai llwyddianus, fod Aberystwyth yn gallu hawlio 280, Caerdydd 238, a Bangor 149 ac mewn 'anrhydedd,' y mae gan Aberystwyth wyth, a Chaerdydd dri wedi ei enill. O'r 32 a lwyddodd yn yr arhol- iadau I olaf' ac 'arbenig,' perthyna 17 i Aberystwyth, a 15 i Fangor. Nid oes gan Fangor neb wed enill yn nosbarth 'anrhydedd.' Y mae yr hin ddymunol a gawsom yn ddiweddar wedi gadael effeithiau gwertkfawr ar ein holl faesydd eleni. Y mae y cynhauaf gwair yn prysuro i ben, a chaed cynhauaf gwair ardderchog hefyd. Yr oedd y fath gyflawnder ar rai maesydd fel na chofiai y perchenogion am ei gyffelyb. Mewn amryw o fanau, y mae y cynhauaf llafur wedi dechreu hefyd; ac y mae arwyddion am gnydau toreithiog. Yr ydym o dan rwymau arbenig eleni i gydnabod yr Hwn sydd yn diwallu 6y angen pob peth byw a'i ewyllys da.' Nid yw brenin Siam, yr hwn sydd yn awr ar ymweliad a'r wlad hon, hyd ynhynynastudiwr ar Shakespeare, fel y dengysyr ystori ganlynol Yn ei ymweliad diweddar a Denmarc, aeth gyda'r Tywysog Coronog- Frederick i Helsing- fors, aca;rweiniwyd of at fedd Hamlet, Tywysog Denmarc. Yma tynodd ei het, a safodd am foment mewn distawrwydd defosiynol. Yna gan droi at y Tywysog Coronog, dywedodd gyda chydymdeimlad dwin, Perthynas i'ch Uchelder Brenhinol, mi dybiaf. Pa faint o amser sydd er pan y bu farw Yn ddiweddar, bu dirprwyaeth yn ymweled i Mr. Ritchie, Llywydd y Bwrdd Masnach, i ddadleu'r priucloldeb wneyd twnel rhwng Prydain a'r Iwerddon. Amcan-gyfrifid cost yr anturiaeth yn io,ooo,ooop., ac y gellid gwneyd y twnel o fewn deng mlynedd. Dywedodd Mr. Ritchie nad allai ef ddal allan unrhyw obaith y byddai i'r Llywodraeth roddi arian at yr amcan, er ei fod yn beth tra dymunol. Ar yr un pryd, tybiai y gellid cael phyw i5,ooop., i wneuthur arbrawfion a oedd gwneuthuriad y twnel yn beth posibl. Dengys y cyfrifon gyflwynwyd gerbron y Senedd, y bwriedir cynyddu cost y sefydliad llyngesel yn Dcver o 2,ooo,ooop. i 3,5po,ooop. yn ychwanegol at gryfhau a helaethu sefyd- liadau amddiffynol ymhob rhan o'r byd. Nid hawdd yw amgyffred swm mor aruthrol o arian; ond rhaid i Brydain wario symiau mawrion os am barhau i ddal ei huwchafiaeth ar y mor. Y flwyddyn ddiweddaf, yr oedd cyfanswm y cyfrifon yn 22,ooo,ooop. Am y gwahanol fanion sef adeiladau, llongau, &c., newyddion, cyr- haeddodd y swm o n,ooo,ooop. Gall Prydain wneyd hyn yn rhwydd, oblegid y mae ei masnach ar ynrdd 3'i derbyniadau ynhelaeth
YSGOL GANOLRADDOL TOWYN.
YSGOL GANOLRADDOL TOWYN. Cynhaliwyd cyfarfod o'r Llywodraethwyr Lleol nos lau diweddaf. Mr. J. M. James yn y gadair. Y petIt cyntaf oedd dewis cadeirydd am y flwyddyn ddyfodol. Dewis- wyd Dr. Grosliolz, Ar ol hyn darllenwyd cofnodion y cyfarfod diweddaf, yn ol y rhai y disgwylid cael time-table o'r gwersi gan y pi-ifathraw. Hysbysodd y clerc ei fod wedi ei dderbyn. Apwyntiwyd pwyllgor cyn- wysedig o Mii. Ilaydn Jones, J. M. James, a Mrs. Rowlands, ynghyd a'r elerc i ystyried y gost o gael electrical apparatus, ac hefyd i ystyried pa gwrs i'w gymeryd er eu sicrhau.-Cymorad wyai y prifathraw y rhai canlynol i dderbyn ysgoloriaetli, Sarah E. Jones, ysgoloriaetli gyflawn; Arthur E. Rowlands, AVinnifred Conn, ac Ellen J. Roberts, lianerysgoloriaeth. Penderfynwyd rhoddi yr ysgoloriaethau, os bydd y gronfa yn caniatau. Gorchymynwyd i welliantau arbenig yn yr ysgol gael eu gwneyd. Mr. Ilaydn Jonas a alwodd sylw at Elusen Hugh Owen, yr hon oedd wedi cael ei throsglwydclo i'r ysgol hon. Credai ef y dylent wneyd ymdrech er sicrhau i blant Mr. Owen Jones, Bryngwyn, gael budd oddiwrthi. Ym- ddeugys fod Mr. 0. Jones wedi anfon ei blant i'r Ysgol Ganolraddol, ond pe gwyb- uasai ei fod felly yn cau oi liuuan allan o fudd oddiwrth yr Elusen ucliod, nOt fuasai wedi eu hanfon.—Penderfynwyd union at yr awdurdodau priodol ar y matei jy-. ■<-
ABERYSTWYTH..
ABERYSTWYTH. LLWVDDIANT.—Y11 arddangosti auldwrol Porthmadog dydd Merclier, enillodd Mr. It. Williams, Crosswood, yr ail wobr am y mel goreu. CIIXNTA^QUA.—Dydd Sadwrn, cyrhaedd- odd aelodau Ysgol Sul Chantanqua y dref hon ar eu gwyliau blynyddol. Cynhaliwyd conversazione yu yr hwyr dan lywyddiaeth Mr. Webb. Y Sabbath, traddodwyd y bregeth flynyddol gan y Paroh, C. H. Kelly, Llundain; cadeirydd Cyngor yr Eglwysi Rliyddion. (.'ynhflir cyfarfodydd dilynol drwy yr wythnos hon. Cynierir rhan ynddynt gan Dr. Care, Llundain, Dr. Lorimer, Boston, America, a lluaws o woinidogion eraill. MAHWOLAETII.—Dydd Mawrth diweddaf, yn Lerpwl, bu farw y Parch. H. Pritchard, Abertawe, gweinidog gyda'r Wesleyaid. Yr oedd yn adnabyddus iawn yn Aberyst- wyth a'r cylch, ac wedi bod yn gweinidog- aethu yn nghapel St. Paul rhyw bymtheg mlynedd yn ol. Yr oedd wedi myned am dro i'r Canary Isles i geisio adferiad, o'r hwn 10 y dychwelai, pan y cymerwyd ef yn waelach, ac y bu farw yn fuan ar ol cyraedd Lerpwl. Yr achos o'i farwolaeth, meddir, oedd clefyd y galon.
TALYBONT.
TALYBONT. DAMWAIX ANGEUOL.—Nos Fercher, cyn- haliwyd trengholiad yn y White Lion Hotel, o flaen Mr. J. Evans, crwner, ar gorph geneth fechan Mr. J. M. Jones, saer maen (8 mis oed), yr hon a laddwyd ar y tramway ger Braichygarw nos Lun. Tad y trancedig a ddywedai ei fod ei a'i briod a'i eneth yn dychwelyd adref gyda nifer o gyfeillion ar matli o trolley, pryd y cydiodd yr axle yn ngwisg' yr enetli facb, gyda'r canlyniad o daflu ei phen yn erbyn ymyl y reiliau. Dywedwyd nad oedd y trolley yn perthyn i Gwmni y Reilffordd, a hysbysodd y clerc nad oedd y Reilffordd wedi oi hagor oto. Nid oedd neb wedi cael caniatad y Cwmni i ddefnyddio y trollies. Yn y diwedd, dychwelwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol.
BORTH.
BORTH. LLWYDDIANT. — Mae Mr. E. W. Davies, mab hynaf Mr. W. Davies, U.H., Borth a Battersea, newydd basio arholiad yn rhoddi haw 1 lddo ddefnyddio y teitl o L.R.C.P. Pasiodd dau fab arall i Mr. Davies arhol- iadau pwysig yn ddiweddar hefyd a phroffwydir dyfodol disglaer i'r tri.
WESLEYAETH YN NGHYMRU.
WESLEYAETH YN NGHYMRU. Mae yr enwad Wesleyaidd yn Nghyrnru yn gweithrodu yn ddoeth yn j cynllun newydd o ffurfio Cymdeithasfa i Gymru, drwy yr hyn y gwneir y cyfundeb yn fwy Cymreig, ac eiteithiol. Barnwn mai gwell, fuasai cael Cynhadledd Gymreig. Cymer- adwyodd y Gynadledd y cynllun, a gadewir y many lion i'w penderfynu etc. Oynwysa y Gymdeithasfa tua 80 rhwng gweinidogion a lleygwyr. Mae y Parch. John Evans (Eglwysbach), oherwydd gwaeledd iecliyd, wedi gorfod ymatal oddiwrth ei waith gyda chenadaeth y Deheudir. Mae y gwaith yn myned rhagddo dan ofal y Parch. J. M. Owen, a gweinidogion eraill. Gan gymeryd i ystyr- iaeth ddonia.u neillduol Mr. Evans, penod- wyd ef yn efengvlwr i Gymr,
'gaifl? i'r oogre66.
'gaifl? i'r oogre66. GAN Y PARCH. T. LEVI, ABI-;RYST\V\'TH. Iraefhodydd' am 1852. 1. Er's pymtheg ac ug'ain mlynedd yn ol, yr oedd y North yn air cysegredig i'n meddwl plentynaidd. Yr oedd y meddwl oedd genyni am y lie yn debyg i'r meddwl oedd geuym am y iiofoedd,-fod pobpeth a ddeuai oddiyno yn bur ac yn berifaith. Llyfr o'r North—dyn o'r North —ac yn enwedig pregethwr o'r North; ystyriem ef fel oracl anffaeledig, neu ang'el o'r nefoedd. Wedi i ni dyfu i fyny ychydig, a dechreu lioli, cawsom ar ddeall iiitti daearolion yw preswylwyr y North, a'u bod yn byw yn iiiyd yr anmlierffeithrwydd, ac yn meddu ar ffaeleddau, fel ninau yn y Do. Ond er y cwbl, rywfodd, toimlem yn anhawdd o hyd i ddarostwng y North yn ein moddwl yn gydradd a lleoedd eraill. Rhyw bethau dwfn iawn yw yr argraffiadau oyntaf ar feddwl tyner plenty n. Er's ychydig fisoedd yn ol, un peth er nnvyu lies ein liiechyd, aelhom (rliaid i'r myji ymgolli yn iigogoniant y nyni yn ffurfafeu y Traetlmlydd a digon da yw cael lie i golli y myfiaeth weithiau) gyda chyfaill gweddol gyfarwydd a'r lie, ar daith trwy rauau o'r wlad y elyny-soii-i ac y meddyliasom gymaint am dani; ac ni chawsom achos i edifarhau oblegid yr anturiaeth. Cawsom les corfÍ a meddwl. Dygwyd ni i gydnabyddiaeth a ZD chyfeillion hoff; a chawsom olyg'feydd ar ryfeddodau a phrydferthwch natur, ooddynt yn fwy gwerthfawr na miloedd o aur ac arian. Yn awr, ddarllenydd lioff, os cyduni a ni, eistedd i lawr, dod un glun dros y llall, a rho bwys dy benelin ar fraich y gader, a gollwug dy feddwl yn rhydd i ddyfod gyda ni trwy rai o'r prif leoedd y buom ynddynt, a chymerwn ninau ein bys a'n tafod i gyfeirio at, ac i adrodd, y petliau rhyfeddaf t,Y a welsom ac a glywsom. Gan fod genyni lawn bedwar cant o filldiroedd i'w teithio, yr ydym yn addaw myned fwy na chan' milldir yr awi yn gyflymach na'r express; ac yna ni byddwn yn hir cyn dychwelyd. Cymerasom ein taith drwy gwr uchaf Sir Gaerfyrddin. Lletyasom noson yn Llan- ymddyfri. Y prif bethau a dynasant ein sylw yno oedd ty yr hen Ficer, yr ysgoldy newydd dan arolygiad yr Arch- ddiacon Williams, a mynwent Llanfair-ar- y-bryn, sydd yn yr ymyl. Buom yno am awr yn pwyso ar geryg beddau yr enwogion o Bantycelyn, yn darllen yr ysgrifen oedd ainynt, ac yn canu beddargraff Tlieo.' iddo ei hun,— Heb saeth, heb fraw, heb ofn, heb ofid, a heb boen, Nlae'll canu o flaen yr oreedd, ogoniani Duw a'r Oen, Y'lig-li anql myrdd myrddiynau, yn canu oil heb drai, Yr anthem ydyw cnriad, a chariad i barhau,' ac yn gollwng ein dagrau uwchben eu llwch cysegredig. Y mae Llanymddyfii yn gorwedd mewn lie hyfryd, a golygfeydd prydfertli o'i cliwmpas. Dranoeth gadawsom y sir hon, croesasom afon Teifi, a daethom i Lanbedr. Nid oedd ynom yr un blys, wrth ymadael a'r He hwn, i amheu yr hyn a ddywedodd un o ysgrifen- wyr darluniol y Traethodydd am dani; sef, mai dau beth a en wogant y dreflan fudr a elwir ar yr enw hir Llaubeclr-pont-Steplian -ei choleg a'i cheisbwliaid.' Cymerasom ein llwybr trwy Llanddewibrefi, Tregaron, a Llangeitho. Yn y lie olaf, gorphwysasom nos Sadwrn. A chawsom yr liyfrydwch, ar foreu Sabbath lieulog, i weled yr holl ganoedd pobl yn dylifo tua hen gapel mawr Llangeitho, o bob cyfeiriad. Nid rliaid dweyd fod yr olygfa yn galw lluaws o adgofion i'r wyneb yn y meddwl am yr hen amser gynt, Pan chwythai Daniel yn yr udgorn, Gloew udgorn Sinai fryn, Nes i'r creigydd cedyrn grynu Wrth yr adsain nerthol hyn.' Wedi myned i mewn, a gweled y lie wedi ei orlenwi, dychymygem Weled Daniel yn pregethu Yn y tarth, y mwg, a'r tan Mil ar unwaith yn molianu Haleliwia yw y gan' ( I barhau.)
[No title]
Mae bellach yn adnabyddus trwy y Sir, mae un o'r Ileoedd goreu yn Nghymru, am Watch dda, Aur neu Arian, yw Masnachdy W. W., Dolgellau. Yno hefyd ceir lie rhagorol i ddewis, Modrwyau Aur Pur, ac Alberts, a Brooches Aur.
All YR OLWYN.
All YR OLWYN. Yr oedd y daith heddyw wedi ei threfnu yn y fath fodd fel yr oedd yn rhaid dod trwy Abergynolwyn ac nid y rhaid hwnw yn unig chwaith, am fod genyf awydd er's tro i eangu. cylch fy adnabyddiaeth a'r lie, ac a'r bob!. With ddyfod i'r pentref o gyfeiriad Dolgellau y peth cyntaf y daethum heibio iddo oedd Y fynwent Ymneillduol, perthynol i'r lie, ac er mwyn cael ychydig o seibiant, a'r porth lied y pen yn agored i bob creadur aflan a glan droi i mewn, cymerais inau fy hyfdra; ac o bob mynwent drwy Gymru, dyna yr un fwyaf truenus a welais. Gallai y dieithr-ddyn dybio ar y cyntaf, mai rywdro yn yr amser a fu, y mae y llanerch neillduedig- hon wedi bod yn gyrchfa pobl, ond mae y pridd cocli sydd i'w weled yn nghanol glaswellt, a pherth o fieri yn dweyd peth arall. Mae yn ymddangos fod yma rywdro rywun wedi bod yn meddwl am dipyn o drefn drwy fod yna lwybrau wedi cael eu tynu allan, ond heddyw maent yn llawn drain a mieri, a'r derw yn uwch ac amlach na'r bedd-feini. Yn mhen amser byr eto fydd dim i'w ganfod, ond y derw wedi ail feddianu ei hen safle gyntefig. Mae yma fedd-feini ddaliant eu cystadlu ag unrhyw fynwent yn y wlad, o ran gwaith a chynllun, gresyn fod llanerch fach mor gys- egredig yn cael ei gadael i fyned mor wyllt ac anhapus. Ys gwn i a wyr pobl Abergynolwyn sut mae dyn dieithr yn penderfynu cymeriad pobl, heb fod ganddo adnabyddiaeth ilaenorol o honynt ? Pan y byddaf yn myned i dref ddieithr, byddaf yn penderfynu cymeriad y dref, yn ddyngarol, moesol, a chrefyddol, wrth ei sefydliadau a'i chyfleusterau. Os gwelaf dref heb ysbyty, dyna dref i mi a dyngarwch ar lawr yn ei wa-ed. Trefheb Ddarllenfa Rydd, neu lyfrgell gyhoeddus, byddaf yn penderfynu cymeriad moesol yn ol hyny. Byddaf yn pen- derfynu nerth ysbrydol pob tref yn ol rhif a natur ei chyfleusterau wythnosol, ac yr un fath am bentrefydd y wlad. Mae y cymeriad yn cael ei ddarllen gan ddieithriaid trwy yr ymddygiad, ac os yw y florian yn gywir, mae yn canlyn fod dyngarwch pobl Abergynolwyn wedi hen drengu, heb i ni ddarllen dim ond penod y fynwent. Cymerwch yr awgryui yn garedig os ydyw pobl dieithr eraill yn barnu pobl ar yr un llinellau a mi, mae yn ofnus eich bod yn isel mewn dyngarwch yn ngolwg Ilawer rhanbarth o'r deyrnas, a'r byd hefy; oblegid dyma gyfnod o'r flwyddyn ag y mae cyrchu mawr drwy eich ardaloedd gan bobl o wahanol ranau o'r byd. Pa le y mae y pwyllgor sydd y t. yn arolygu y fynwent? Caf gyfleusdra etc i alw sylw at hyn, oni chymer diwygiad sylweddol le. CADWGAN.
PWYSIG I .RYDDFRYDWYR.
PWYSIG I RYDDFRYDWYR. Mae yr Overseers erbyn hyn, wedi gosod i fyny testrau o enwau yr etholwyr wrth ddrysau yr eglwysi, capelau, a lleoedd cyhoeddus eraill. Dymunwn apelio yn daer ar ein cyd-Ryddfryd- wyr, ar iddynt archwilio y rhestrau yn fanwl a gofalus ar unwaith, er mwyn sicrhau fod eu henwau hwy, a:u cyfeillion Rhyddfrydol, wedi eu gosod yn briodol ar y rhestrau ac mewn achos o gamgymeriad, neu fod enw neu enwau heb fod i mewn, ar iddynt hysbysu hyny i'r goruchwylivvr lleol yn ddioedi. Dylai pob etholwr sydd wedi newid ei dy ar 01 y isfed o Gorphenaf y flwyddyn ddiweddaf, hefyd, archwilio yn fanwl y rhestr, ac os yn gweled fod eu henwau wedi eu gadael allan, dylent anfon eu henwau a'u cyfeiriadau yn llawn, ynghyd a'u cyfeiriadau blaenorol cyn y dyddiad uchod, fel y gellir eu gosod yn eu IIeoedd priodol. A ganlya yw y cymwysderau i gael pleidlais: i. Daliad ty neu ran ar wahan (separate fart.) 2. Daliad tir, neu adeilad (megis Ystordy, Masnachdy, Swyddfa, &c.), am rent blynyddol o 1 op. 3. Lletywyr (Lodg-ers), yn talu am wasan- aeth ystafelloedd (heb eu dodrefnu), y swm o iola. yii flynyddol. Lie byddo dau yn cyd- letya, rhaid i'r swm a delir fod yn 20p. y flwyddyn 4. Y Service Franchise.~Ga\\ unrhyw berson yn trigianu mewn ty yn rhinwedd ei swydd, gwasanaeth, &c., hawlio pleidlais fel ty-ddal- iwr, pa un by nag a fydd efe yn talu y rhent a'r trethoedd ai peidio. --5. Mae Daliad am 12eg mis blaenorol i Gorphenaf 15fed yn angenrheidiol ymhob achos. Rhaid i bob apeliad gael ei anfon i'r Overseers erbyn Awst yr 2ofed. Ar ol y dyddiad yna, bydd enwau pawb a adawyd allan, os lieb wneyd apeliad am y bleidlais, yn aros heb fod ar restr yr etholwyr, ac felly cant eu di-freinio hyd y flwyddyn 1899. Ryddfrydwyr at eich gwaith heb oedi,