Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
deiniort t?t' JVwen. -:0:-
deiniort t?t' JVwen. -:0:- Y BLODEUYN UNIG. (Sr hum a dyfai ar fin y Mor Manv). GAN DYFED. 0 flodyn unig, hardd dy wedd, Ai chwilio'r wyt am danllyd fedd Dinasoedd y gwastadedd gynt ? Mae'n syn dy wel'd yn dal fel hyn, Heb dori'th galon wrth y Llyn, A dim ond barn yn swn y gwynt. O flodyn unig, gwyneb lawn, Mae'n rhaid dy fod yn feiddgar iawn, Yn gwneyd dy sedd ai" ludw barn A wyddost ti flodeuyn glàn, Mai dyma lie bu storm o dan, Yn deifio rhwysg i'w fcdd yn sarn ? 0 flodyn unig, ai dy nod Yw dweyd fod blodeu wedi bod Ar wely'r Llyn yn tyfu'n fyw ? Beth ai tydi yw'r unig un Adawyd yma wrtho'i hun, Heb deimlo tin digofaint Duw ? O flodyn unig, di-fwynliad, Fel ysbryd pur yn mhell o'i wlad, Yn eistedd ar ddiffaethwch prudd Wyt yma'n edrych ar y Llyn, Sy'n ddafn o lid cyfiawnder gwyn, Ac nid oes deigryn ar dy rudd, O flodyn unig, a ces Haw A feiddia'th dori, heb i fraw Y rhandir hwn ei gwywo'r. grin ? Mae'n brofedigaeth fawr i mi, Wrth edrych yn dy wyneb di, I blanu cusan ar dy fin.
RHINWEDDAU CARIAD.
RHINWEDDAU CARIAD. GAN DR. D. REES, BRONANT. Symudwn yn awr i dir gwell. Mae byw mewn cariad personol, cymdeithasol, priodasol a theuluol, yn gysur yn mhob ystyr i'r ddyn(ol- iaeth. Nid yw cariad yn cario arfau a phigau i niweidio neb. Ni wneir dodrefnyn hardd o bren eithin, ond yn hytrach goes morthwyl neu ffon i guro. Cariad sydd o'r ansawdd goreu ynddo ei hun, a'i fryd ar wneuthur daioni i bawb. Mae gwir gariad yn gynes iawn yn ngwaed perthynasau at eu gilydd. Gellwch feddwl nad oes yno ddim cariad pan y digwydd weithiau fod perthynasau yn methu cydweled ac yn cwympo allan a'u gilydd. Ond daw yna ryw fath o ddynion i gario ac ymyryd rhyngddynt. Yn ddisymwth, fe dwymna y gwaed i'w dwyn at eu gilydd, a'r rhai oedd yn cario rhyngddynt gaiff y gwaethaf, fel y dylasent. Felly cariad at enwad crefyddol. Mae cryn ddifaterwch i'w weled ar y wyneb, ond gadewch i rywun ddifrio yr enwad, fe ddeffry y cariad sydd yn bodoli yn y fan. Mae cariad yn cylymu cymdeithas mewn undeb, ac yn ei gwella. Mae Cristionogion i actio cariad trwy ddymuno a rhoddi gair da y naill am y llall yn nghefnau eu gilydd. Yr oedd y paganiaid yn adnabod y Cristionogion wrth eu hymddyg- iadau at eu gilydd, ac yn dweyd,—'gwelwch tel y maent yn caru ac yn cynerthwyo eu gilydd.' Nid peth cauedig ond i'w ddadblygu yw cariad. Dywedir am Cranrner mai y ffordd i weled. ei gariad ar waith oedd i rywrai ei dramg-wyddo a'i derfysgu yna yr oedd yn barod i faddeu a gwneyd cymwynasau iddynt. Byrlymai ei gariad mewn gwneyd daioni. Yr ydym ninau i ddyfod allan mewn gwaith a pherarogli mewn gweithredoedd da.
ABER AN GELL.
ABER AN GELL. YSGOL Y BWRI)D.-Wele adroddiad o ar. holiad arolygwr ei Mawrhydi o ysgol Aber- angell The School has been labouring under some disadvantages during the past year in consequence of the accident to the Master. Under the circumstances, the efficiency of the school has been on the whole well maintained. Special attention should be given during the coming year to mental arithmetic, and to the Work of the Infants class. The written arith- metic of the four lower standards and of the sixth deserves praise and the figures are very neatly and accurately formed. In recom- mending the lower grant for Geography and Object Lessons, due allowance has been made for the exceptional circumstances of the year The musical drill was very creditable. Principal grant, 14s.; Discipline, is. 6d.; Singing, is.; Class Subjects, Welsh and English, 2s.; Object lesson and Geography, is; Needlework, ZI 7s.; Grant on total average attendance, 19s. 6d. Total j £ s9 lis. Article 105, ^10,— £69 i;
AMRYWIOX.
AMRYWIOX. Dywedir mai y bardd Cymreig hyuitf yn 0 fyw yu awr ydyw Meiriadog, yr hwn sydd yu 85 mlwydd oed. Nid rhyfedd fod W. J. Bryan, America, o blaid rhydd-fathiad arian, eauys y mae ef wedi gosod i fyny fatlidy o'i eiddo ei liun trwy y darlithiau a draddoda yn y Taleith- iau, y rhai a ddug beutyrau o arian bathol iddo bob wythnos. Englyn wnaod wrth edrych ar ddarlun y Parch. Cadwaladr Owen yn ei gofiant. Delw yr enwog Cadwalad-a welir Mewn gwiwlon bortread Dirodres gynes genad, A'i sain glir fu'n swyno gwlad. Bwriada yr aur-geisivvr anturiaetlius, Mr. 0 Pritchard Morgan, A.S., ail ymweled a Pekiu, China, yn yr Hydref nesaf. Mae hyn mewn eanlyniad i'r ymddiddanion gafodd a Li Hung Chang pan yn mordeithio 0 C5 tD o Southampton i Now York y flwn (IdN n ddiweddaf. Y Parch. John Roberts, cenadwr y M.C. yn Cassia, yw yr ail o frodorion Corris a anrhydeddwyd a'r gradd o D.O. Cafodd y Parch. Hugh M. Pugh, mab y diweddar Lewis Pugh, Aberllefenni, y teitl dros 10 mlynedd yn ol. Bn yn gweinidogaethu yn Bangor, Wis., Uuol Daleithiau, am 24 o flynyddau. Yn ddiweddar symudodd i Lime Spring, la., a rlioddwyd anvhegion t5 iddo ar ei ymadawiad. Dellgys cyfiifon ReiMordd y Cambrian am yr hanor blwyddyn fod cynydd o 5,840p. yn y derbyniadau, ynd'odyn benaf oddiwrtli gludiad niwnau ac auifeiliaid. B11 cynydd o 4,124p yn y treuliau. Gwari wyd dros dd wy fil o bunau er gwneyd i fyny y niweidiau achoswyd gan y dyniestl fawr yn yr Hydref. Hysbyswyd fod Mr. George Owen, prif beirianydd y llinell, yu ymddiswyddo, o herwydd henaint, wedi gwasanaethu y Cwmni am 31 mlynedd. Tua diwedd y mis presenol bydd i gwmni o Gymry (dynion a merched) ymadael o'r wlad hon am Alberta, Gorllewiu Canada, lie y mae Llywodraetli y wlad hono wedi gwneyd trefniadau i ddarparu gwaith i 5 1,000 o Gymry cyfatwydd a fferniio. Bydd i'r gwaith hwnw barhau am flwyddyn a dweyd y lleiaf, ac ar ddiwedd y tymor liwuw bydd i'r Llywodraetli ofalu am fferinydd rhyddion 160 o aceri i'r rhai fydd yn awyddus am danynt. Dylai pawb sydd yn teimlo awydd manteisio ar hyn ysgrifenu yn ddioed at Mr. W. L. Griffith, Canadian Government Agent for Wales, Conwy. Yu ol adroddiad y Ddirprwyaeth Fren- hinol ar Amaethyddiaeth, priodolir y cyf- yngder presenol ynglyn ag amaethyddiaeth i ostyngiad yn mhrisiau yr yd, yn cyfodi o'r g'ystadleuaeth a gwledydd tramor. Hefyd yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf gostyugodd pris gwartheg o 25 i 40 y cant, a defaid yn gyffelyb. Gostyugodd pris gwlan 50 y cant, cynyrch llaethdai 33 y cant, a phytatw o 20 i 30 y cant. Beth am y moddion i adferu amaethyddiaeth i sefyllfa fwy boddhaol? Nid oee dim Ilai na eliyf newidiad trwyadl yn y deddfau tirol a ddyg welliant. Mae y rhuthr i'r aurgloddiau yn rhanbarth Kloudyke, Canada, yn tynu sylw mawr y dyddiau hyn, ac y mae yr hanesion ehwedlouol am gyllawnder y mwn melyn yn gyru llawer allan o'u pwyll o'r braidd. Tebyg y bydd y wlad bellenig ac anhygyrch gych'i hinsawdd galed. yn llawn o antui- iaethwyr o bob rlian o'r byd cyn bo hir, a'r canlyniad fel arfer fydd rhai yn dyfod yn gyfoethog a'r mwyafrif yn dlawd. Dyna fu diwedd yr helynt yn California. Gwnaeth yr ychydig lii yn dda, ond anffodus oedd tynged y mwyafrif. Ond y mae yn worth sylwi ar yr atdyniad ofnadwy sydd yn yr aur. Mor efteithiol y mae yn apelio at galon dyn! Aur (neu elw), onide, yw tynfaen mawr y byd anianol.
ABERDYFI.
ABERDYFI. C -Nos Fawrth, cynhaliwyd cynghordd er budd cronfa y Literary In- stitute, pryd y datganwyd amryw gyd-ganau gan Gor Meibion Llanegryn; a chafwyd unawdau, deuawdau, &c., gan amryw gantorion lleol. Cadeiriwyd yu fedrus gan Dr. Bonner.
ANRHEGION.
ANRHEGION. Gan W. W., Dolgellau, mae Stoc Iiagorol o Watches Aur Ardderchog, Clociau a Jewellery (ac eiddo eraill mewn Aur ac Arian) eyfaddas fel Anrhegion a Testimonials
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. Y WATEUWORICS.—0 dan gyfarwyddyd y cymerwr galluog Mr. Plioeuix, y mae y gwaith uchod yn cael ei ddwyn ymlaen yn gyflym. Y mae y gweithwyr yn awr yn brysur osod y pibellau i lawr yn Stryd y Maengwyn. YR AKDDAXOOSI'A. Cynhelir yr ar- ddangosfa flynyddol eleni, ge" y Plas, Machynlleth, dydd Iau, Awst 26ain, pryd y cynygir 180p. mown gwobrwyon. YR YSGOL SIltOL.Dydd Gwener, cynhal- i wyd cyfarfod g >hiriedig y Llywodraethwvr, vn yrysgoldy. Mr. Richard Rees yn y gadair. Cytlwynwyd ysgoloria»thau, am unliwyddyn, i'r rhai canlynol fu yn llvvyddianus i'w hcnill.—R. W. Morgan, Machynlleth, T. W. Philips, Cemmes, C. Bowen, Mach- ynlleth, Lewis A. Williams, Corris, W. E Jones, Machynlleth, E. A. Williams, U weh- ygareg. I dalu haner y fee arfeiol am addysg :—David Jenkins, Eglwysfach, R. H. Thomas, Machynlleth, Evan M. Jones, Eglwysfach, John Hughes, Darovven, John Owen, Eglwysfach, Laura A. Harries, Machynlleth. Rhoddodd Mr. Meyler, y prifathraw, adroddiad o'r gwaith a wnaed y tlwyddyn ddiweddaf; a phcuderfynwyd rhoddi ysgoloriaeth am un fl w yddyn i'r rhai canlynol o ysgolorion yr ysgol :-Misses Sarah J. Joues, a Frances A. Reese, ilf i-i. Percy Lewis, Thomas Williams, W. Alfred Williams, Richard R. Morris. Rhoddwyd lursarits i Norah Edwards, Llewolyn Hughes, a Richard Hughes.
OYKGOR TRETOlj.
OYKGOR TRETOlj. TXFLU DYXAMITE I'R AFON I)YII.—Cyn- haliwyd cyfarfod arbeuig or Cyngor dydd ;n CD GvrcMiei', er ystyried pa gwrs i'w gymeryd t,Y ynglyn a'r achos o datlll dynamite i'r afon Dyfi dydd Sul cyn y diweddaf. Y cadoirydd a osododd yr achoa i lawr fel yr oedd ef wedi ei dderbyn, yr h wn oedd fel y caulyn sef fod dynamitt wedi cael ei daflu i'r afon dros y tren a gludai y Gvvirfoddolwyr. Tofiid of felly yu ddiau er lleihau y swn. Yr oedd hou yu weithred beryglus. Pe buasai wedi disgyn ar y gerbydi es, fo fuasai y caulyniadau yu ddifrifol. Fel yr oedd, lladdwvd ugeiniau os nad canoedd o salmons. Lord Henry Vane Tempest a gondemniai yn llym y weithred.—Cynygiodd Edward Rees, fod y Cyngor yn dymuno, ar ran y dref, anghymeradwyo y weithred yn y modd mwyaf pendant—Cefuogodd Mr. W. M. Jones. Mr. D. D. Williams a ddywedai fod pysgod i'w gweled yn bentyrau ger Llyn y Graig. Yr oedd yn ainlwg mai miners oedd wedi cyflawni y weithred, a'u bod wedi cael y dynamite yn y lleoedd y gweithiant. Dywedai hefyd ei fod yn debygol i'r weithred gymeryd lie o herwydd y gwrthwynebiad cryf a deimlir i'r Olwb i Pysgota. Pasiwyd y penderfyniad a bod galw sylw yr Ustusiaid ynghyd a'r Bwrdd Pysgota at hyn.
CORRIS.
CORRIS. LLWYDDIANT ADPYSGOL.—Da genym g-ael cofnodi am lwyddiant Mr. Edward Jones, Victoria Buildings, Corris U chaf, ail fab y diweddar Mr. J. Jones, Peuygareg, yn pasio yn llwyddianus fti-lioliad yu y dosbarth laf mewn Theoretical and practical Chemistry. Mao hyn yn glod mawr i fachgen mor ieuanc. Eiddunwn iddo lwyddiant mawr yu y dyfodol.
UWCHYGAREG.
UWCHYGAREG. Titip.-Cafodd aelodau Yagol Sul yr Eglwys yn y lie uchod eu trip blynyddol ar y 6ed cyfisol, pryd y manteisiodd amryw ar y cylleusdra. Towyn oedd y lie apwyntiedig i dreulio y diwrnod. Cafwyd taith gysurus, a dychwelwyd yn ol erbyn saith or gloch yr hwyr, a phawb wedi mwynhau eu hunain yn rhagorol.
TALYBONT.
TALYBONT. LLYS YR YNADON. Cynhaliwyd dydd Iau, gerbron Mri. John Francis, J. M. Williams a D. Howell Evans. TitEspAs.Afr. J. M. Williams (yr hwn nid eisteddai ar y fainc ar yr achos hwn), a erlynai Evan Price, Towyn, a Robert Edwards, Llanwnog, gwneuthurwyr basgedi, o drespasu ar dir Brynbwl, mewn ymchwil am gwningod. Yr erlynydd a ddywedai ei fod yn myned yn ei gerbyd i Aberystwyth ar y 5ed o Gorphenaf, pryd y gwelai gi yn gwylio gyferbyn a gwrych un o'i gaeau ac ar fryn cyfagos, gwelai y diifynyddiou wrth dwll cwningod, a chi arall ganddynt. Credai eu bod yno mown ymchwil am garnem Taflwyd yr achos allan. THWYDDEDAU.- Y mae Medi yr 2il, wedi ei nodi yn ddyddiad i gynal y Ilys blynyddol i adnewyddu trwyddedau.
[No title]
Mae bellach yn adnabyddus trwy y Sir, mae un o'r lleoedd goreu yn Nghymru, am Watch dda, Aur neu Arian, yw Masnachdy W. W., Dolgellau. Yno hefyd ceir He rhagorol i ddewis, Modrwyau Aur Pur, ac Alberts, a Brooches Ayr,
Wattl) i'r ^ogfe66.
Wattl) i'r ^ogfe66. GA Y PARCH. T. LEVI, ABERYSI WVTH. O'r Traethodydd' am 1852. II. Wrth fyned heibio i gapel bychan adfeiliedig Llwynpiod, tarawodd ar y meddwl yn ffres brofiad yr hen 'genius' Theo. Jones, pan ofvnai un o'i frodyr iddo mewn Cymdeithasfa am ddweyd gair o'i broliadyn ei gysylltiad a'r woinidog- t) ZD aoth, 'Oh, oli, ie, druau,' meddai yutau, yu ei ddull swta, ewyiifautis-I ie 'mhrofiad— rwy'n '»tudio ac yn 'studio, yn 'studio ac yu 'studio, nos wy' bron moidro 'menydd yn 'y 'mhen, i geisio cael tipyii o bregeth ac 0 wedi ei chael, mi af i Lwyupiod i'w phregethu, ac mi gaf stcllt am hyny.' Aethoin rhagom trwy Ledrod, Llanilar, aa i Aberystwyth. Yma eyfarfuasom a chyfeilliou liynaws a charedig. Cofiwn dro hir am yr ystoriau digrif a diniwed a adrodd- ai uu o houynt i godi ysbrydoedd llwfr y teithwyr druain, oedd a'u cefnau ar eu cartref anwyl a hoff. Cawsom yrhyfrydwch o dreulio Sabbath gyda hwy with ddych- welyd, ac adrodd tipyu o lianes eiu taith. Mewn lie a elwir y Borth, wyth milldir i'r gogledd o Aberystwytli, cloffodd eiu ceffy], a gorfu i ni ei adael ar ol, a rlioddodd Mr. L. E- o L-,ul-r feuthyg un i ni, a chadwodd Jack nes i ui ddychwelyd, pryd y cawsom ef yn gwbl iach, ac yu praucio mewu by wiogrwydd. I)erbyuieu Mr. E.- fil o ddiolchiadau yn ychwaueg am oi garedigrwydd. Wrth ddilyn y brif-ffordd o Aberystwyth i Fachynlleth aethom drwy Daliesyu, pentref bychan ar gwv uchaf sir Aberteifi; gelwid ef felly t3 oddiwrth enw yr hen fardd fu yn byw yno er's mwy na deuddeg cant o flynyddau yn ol, medda nhw.' Pan yu gyru ymlaen ar hyd ffordd gysgodol, trwy odrau coedwig o hen dderw Cymreig, ar hyd lan afon Dyfi, a hen dwmpathau duon daueddog sir Feirionydd y tudraw i'r afon ar ein haswy, dyweclodd ein cyfaill, A welwch chwi y bout yna o'n blaen, sydd yn croesi'r nant ? Pan elom dros hona, byddwn YI1 y Gogledd.' Gyda y gair, teimlai yr ysgrifenydd ei 0 ysbryd yn ymfywiogi-ei waed yn cyflymu —a'i galon yn curo-disgynodd o'r gig— cymerodd ei het yn ei law-a rhoddodd ei draed a'r dir y Gogledd, yn wylaidd a gostyngedig. Yn nilien awr, yr oeddym wedi cyrhaedd Machynlleth. Y mae y dref hou yn gorwedd ar gwr isaf sir Drefaldwyn. Dygwyddodd i'n coelbren syrthio mown llety tra chysurus yno, gyda Mr. J yr hyn beth sydd yn dra melus i deithwyr. Gan fod yno gyfarfod pregethu blynyddol yn digwydd bod ar y pryd, cawsom yr hyfryd wcho gyfarfod a lluaws o gyfeilliou, a sirioldeb inttwr yn eu mysg. Adroddwn i cliwi un digwyddiad a Z> barodd i ni gryn gymorth i chwerthin, er nad oedd ond distadl iawn. Yr oedd cryn wyth neu ddeg o bregethwyr parchus yn digwydd bod yn y ty gyda ni; pan ddaeth un arall i fewn, yr hwn oedd ad- nabyddus a morwyn y ty—' Sut rydach chi, Mari ? Gofynai gyda llais ueliel, gan ymaflyd yn ei llaw. Rightmtsharp,'> oedd ei liateb, gan ofyn yn ol—' Ytach chi right sharp, J.W. ?' Ydw i cyn sharped a gallwy Iari,' meddai yntau, gyda'r fath don Ogleddol. Teimlasom y cyfarchiad mor ddieithr a hynod, nes iddo roddi gwefriad dychrynllyd i'n peirianau chwerthin, ac nid ydym eto wedi llwyr golli ei ddylanwad.
LLANFACHRETH.
LLANFACHRETH. DAMWAIN I]-)DIPRIFOL.-Fel yr oedd Mr. Humphrey Breese, Ceimarch, o'r lie hwn, yn dychwelyd adref yn hwyr nos Sadwrn, y 7fed cyfisol, ar ei bicycle wrth fyned i lawr ychydig o allt ar Maescoch, rywfodd collodd Iywodraeth ar y peiriant, a hyrddiwyd y march a'r marchog yn erbyn llidiart, fel y derbyniasant niweidiau tra difrifol. Yr oedd Mr. Breese wedi ei anafu yn ei wyneb a'i ben gymaint fel e'r braidd y gallesid ei adnabod. Da genym ddeall y coleddir ^obeithiou am ei adfgriad buan.
! PExNOD Ylt ENWOGION.
PExNOD Ylt ENWOGION. MADAME ADELINE PATTI NICOLINI. Gelwir y gantores uchod yn Frenhines y gan,' ac y mae y mil miloedd a'i clywodd, yn barod i waeddi, Duw gadwo'r frenhines.' Cafodd ei geni yn Madrid, Ebrill gfed, 1843, ac y mae felly yn 54 mlwydd oed. Er hyny y mae yn canu mor berseiniol a phan yn 25 mlwydd oed. I'r gwrtlnvyneb y mae fel rheol yn hanes ein cantoresau. Gwnant eu hymddangosiad ar y llwyfan am ychydig, ac wedi hyny diflanant Effeithia oedran yn fawr ar danau eu telynau, Ddaw henaint ddim ei hunan.' Perthyna i hydref bywyd luaws mawr o ladron, pa rai a ysbeiliant geinion y ddynoliaeth, ond rywfodd mae y gantores enwog hon wedi dianc hyd yn hyn o'u gafaelion. Gwahaniaetha, mae yn ymddangos, oddiwrth braidd bawb yn ffurf ei gwddf, a chredir mai dyna sydd yn cyirif am fod ei llais mor hynod dreiddiol ac mor an- nesgrifiadwy swynol. Yr oedd ei mam yn gantores enwog, ac yn cael ei hystyried yn prima donna yn y byd cerddorol, a sicr genym fod talent y fam wedi bod yn help mawr i dalent y fercli i gychwyn ymddadblygu. Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf yn y cyhoedd yn yr Italian Theatre, New York, yn 1851. Cafodd addysg rhagorol gan y cerddor enwog Strakosch, ei brawd-yn-nghyfraith a phan yn 17 mlwydd oed yr oedd yn eglur fod iddi ddyfodol hynod o ddisglaer fel cerddores. Yn New York yn 1859 gwnaeth enw iddi ei hun ynglyn a'r Lucia di Lamermoor.' Dywedir iddi gymeryd y gynulleidfa by storm,' a ,b phrofi iddynt mai hi fyddai brenhines y gan yn y man. Yn fuan iawn ymledodd y son am dani- tynodd sylw hyd yn nod wyr blaenaf y byd. Deibyniodd anrhydedd oddiwrth dywysogion a brenhineedd, ac y mae ei henw erbyn heddyw yn gyfarwydd i'r rlian fwyaf o deyrnasoedd y byd gwareiddiedig. Cartrefa er's blynyddau bellach yn Nghastell Craig y nos, Morganwg. iN,Iae ei chydymdeii-ilad a'i cliaredigrwydd i'r tlawd a'r anghenus yn fawr, a rhydd gymorth i wahanol sefydliadau dyngarol trwy wasan- aethu yn rhad mewn cyngherddau blynyddol.
UNDEB MACHYNLLETH.
UNDEB MACHYNLLETH. CYNGOR DOSBARTH GWLEDIG. Cynhaliwyd dydd U, erchei-, Mr. E. Hughes yn y gadair. Adroddodd yr Arolygydd fod y bont dros afou Coelon, ger Lianbrynmair, mewn sefyllfa beryglus.—Mr. W. R. Davies, Dolgellau, llleWll llythyr, a ddymunai ar i'r Surveyor, adgyweirio ffordd Tynant, Dar- owen, nc y byddai i'w client ef dalu y costau. Mabwysiadwyd yr adroddiad.— Amcangyfrif yr Arolygydd am y mis oedd 19p. 14s.—Hysbyeodd y clerc y byddai Bwrdd Llywodraetli Leol yn cynal ym- chwiliad i gais y Cyngor miu fenthyciad arian i adeiladu pout newydd y Dyti, ymhen diwrued neu (idaii. Dr. Mathews a ddywedai fod aHgen mawr am well cyflenwad o ddwfr yn Eglwysfach.—Pasiwyd tros- glwyddo yn ol y pwnc o gyfienwad dwfr Penddol a'r Winllan i Gyngor Plwyf Lianbrynmair. DWIlDD Y GWARCHEIDWAID Dydd Mereher, Mr. Ellis Hughes yn y gadair. OVERSEER.—Bwrdd Llywodraeth Leol a ymholai a oedd Mr. D. D. Williams, Machynlleth, wodi cyflwyno iddynt sicrwydd digonol o gyiiawniad o'i swydd fel Assistant Overseer U wchygareg. Y clerc a ddywedai nad oedd Mr. Williams wedi cydsynio a hyn eto. DILLAD.—Darllemvyd gohebiaeth o Fwrdd Llywodraetli Leol yn galw sylw at y ffaith y gall y Gwarcheidwaid yu awr roddi dillad i blant y tloty, pan yn myned i wasanaethu a'u bod yn erbyn i'r plant fyned. i was- anaethu os na roddir arian yn gyflog iddynt; ao y dylid gofalu i ba. iatii leoedd yr anfonid hwy. ACHOB LLANBRYKMAIR ETo.Darllemryd llytliyr oddiwrth Mr, J. Watkin, yn gofyn pa beth a fwriada y gwarcheidwaid wneyd gyda dodrefn yr hon dderbyniai gynorthwy plwyfol, y rhai yr honai ei oeddynt Wedi eu gwerthu dan bns. Dywedai hefyd fod rlian o'r dodrefn heb eu gwerthu o gwbl.—Aed ymlaeu at y mater nesaf ond nid heb i Mr. Watkins roi rhybudd y bydd iddo alw sylw at y mater eto.—(Yn y Cyngor Gwledig y prydnawn liysbysodd. Mr. Watkin na byddai iddo alw sylw o gwbl at y mater eto.) BATHROOMS NEWYDD.—Cyll wynwyd planiau yr uchod, y rhai a eglurwyd gan M, r. Hipkiss. Mabwysiadwyd hwynt, a bydd y gwaith o'u gwneyd yn cael ei ddechreu yn fuan.