Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
(Eeinion t1)en.
(Eeinion t1)en. PONT MENAI. GAN DEWI WYN 0 EIFION. Uchelgaer uwch y weilgi-gyr y byd Ei gerbydau drosti Dewch chwithau, llongau y Hi', Ewch o dan ei chadwyni. Gwêl foddi'r saith gelfyddyd-uthr foddi'r Saith rhyfeddod hefyd! Ac o'r iawn-falch gywreinfyd, Pen y gamp yw hon i gyd. Tra chynwrf m6r yn trochioni—tra thon Trwy wythienau'r weilgi; Ni thyr hwn ei thyrau hi, Tra'r erys twr Eryri.' Awr o Fawrth, oer ryfertbwy-caf fyn'd o'u Cyfandir i dramwy; A theithiaf uwch Porthaethwy, Safnau'r m6r nis ofnir mwy.
AMRYWION.
AMRYWION. Mae nifer y milwyr roddasant eu harfau i lawr yn Santiago a'r cylch, yn rhifo 24,000. Cludir hwy gan yr Americaniaid i Spaen. Dewiswyd Mr. F. Moulton, har-gyfreith- iwr, yn ymgeisydd Rhyddfrydol am y sedd a wnaed yn wag yn Launceston, drwy farwolaeth Mr. Thomas Owen, A.S. Yr wythnos ddiweddaf, gwerthwyd yr hyn oedd ar law o arluniau y Cymro Syr E. Burne-Jones. Derbyniwyd am danynt ddim llai na 24,000p. Gwerthwyd un arlun, Love and the Pilgrim,' am 5,500 gini. Digwyddodd damwain i Dywysog Cymru tra ar ei ymweliad dydd Llun a Barwn Rothchild, trwy iddo lithro ar y grisiau ac anafu ei ben glun yn drwm. Ar ei ddych- weliad, cafodd ei gludo o'r cerbyd i'r gerbydres, ac yno drachefn ymollyngodd y gadair a'i daliai, nes iddo dderbyn peth niweidiau pellach. Un tro camgymerwyd y Parch. Edward Anwyl, Aberystwyth, am offeiriad Pabaidd, a chyfarcliwyd ef fel y cyfryw. Cafodd y Parch. Evan Jones, Caernarfon, ei gyfarch yn gyffelyb fwy nag unwaith. Camsyniad cyffredin iawn ydoedd cymeryd y Parch. Benjamin Hughes, Llanelwy, am Mr. Gladstone. Dydd Sadwrn, cyrhaeddodd agerlong i Victoria gyda llwyth cyntaf o aur o Khlon- dyke yn ystod yr haf presenol. Yr oedd cyfanswm gwerth yr aur yn cyraedd yn ymyl miliwn o ddoleri. 0 Dawson y daethpwyd ag ef. Da ydyw deall fel hyn fod y cyflawnder o'r nwydd derbyniol heb ei ddihysbyddu eto. Treuliodd y Parch. Ll. J. M. Bebb, Prif- athraw newydd Coleg Llanbedr, ran o'i febyd ar ororau sir Faesyfed, ac y mae iddo gysylltiadau teuluol a'r Dywysogaeth. En- illodd yn Rhydychain raddau uchel mewn clasuron a duwinyddiaeth, a chydnabyddir ei fod yn wr o alluoedd diamlieuol. Dibyna ei lwyddiant fel prifathraw ar ei fedr i gymwyso ei hun at amgylchiadau addysgol a chenedlaethol Cymru. Gwnaed cryn gyffro mewn cylchoedd politicaidd drwy waith Mr. Doughty, yr aelod Rhyddfrydol dros Grimsby, yn hys- bysu ei fod, yn gadael y blaid, ac am ymuno a'r Undebwyr. Dywed nad yw yn barod i wastraffu blynyddau mewn aredig y. tywod a churo'r awyr mewn gobaith o roddi gallu rywbryd o blaid dwyn i mewn Fesur Ym- reolaeth. Gwada fod yr Iwerddon yn cael ei gor-drethu, a chyhudda yr aelodau Gwyddelig o ddymuno ysgariad. Nid yw yn foddlon ymneillduo os geilw ei etholwyr arno i wneuthur hyny. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y flwyddyn nesaf, testyn y gadair fydd awdl ar William Ewart Gladstone,' gwobr 21p. a chadair dderw gwerth lOp. Testyn y goron fydd pryddest ai Y Dyddanydd a rail.' Rhoddir gwobr o 120p. ar y gwaith gwreiddiol goreu, yn Gymraeg neu Saesneg, ar ryw gangen o hanes neu lenyddiaeth Gymreig, chwarter y gwaith ae amlinelliad o'r cyfan i'w ddanfon i'r beirniaid. Rhaid i'r buddugol orphan y gwaith mewn tair blynedd o ddyddiad yr Eisteddfod, a chaiff y bedwaredd ran o'r wobr yn Nghaerdydd, y gweddill i gael ei dalu ar ol i'r gwaith gael ei gwblhau.
GLADSTONE A'R EISTEDDFOD.
GLADSTONE A'R EISTEDDFOD. Ar yr wythnos Eisteddfodol hon, rhoddir yma ddyfyniadau o araeth y gwladweinydd hyglod yn Eisteddfod Genedlaethol Gwrecsam, 1888: 0 gylchoedd cyffrous gwleidyddiaeth, fe ddaethum heddyw i awyrgylch burach yr Eisteddfod ac yr wyf yma, nid i foddloni'r teimlad poblogaidd, ond i ddatgan argyhoedd- iad cywir a llawenydd di-gymysg o herwydd llwyddiant a chynydd yr wyl genedlaethol hon -yr wyl sydd wedi enill serch pob dosbarth o'r werin. Bu'm mewn Eisteddfod unwaith o'r blaen yn y Wyddgrug, ac y mae'r wyl wedi cynyddu'n rhyfeddol er yr adeg hono. Clywais eich Anthem Genedlaethol gan y seindorf, ac nid oes ragorach anthem yn y byd na'reiddoch chwi. Nid yn y gelf o ganu yn unig yr ydych yn rhagori, ond ceir un o arlunwyr godidocaf y byd o'ch cenedl chwi, sef Mr. Burne Jones. Yma heddyw ceir y newydd a'r hen wedi eu cyd- blethu —hen draddodiadau a defion yn cael eu hanrhydeddu gan Gymry ieuainc, a gwlad iach yw hono all gymhlethu traddodiadau'r gorphenol gydag ysbryd cynydd, ac edrych yn ol gyda serch at y cenedlaethau a aethant heibio gan gyfranogi o ragoriaethau dyddiau fu. Mantais ac amcan yr Eisteddfod yw dathlu'r gorphenol. Cydnabyddir gan lawer y tu allan i Gymry mai ysbryd aruchel roes f6d i'r wyl, ond mai camgymeriad yw iddi wneyd cadwraeth y Gymraeg yn un o'i hamcanion. Carai'r cyfryw weled pawb yn debyg, ac unffurfiaeth yn nodweddu'r oil mewn iaith ac arferion. Rhaid i mi gyfaddef na chlywais ac na welais erioed Gymry dan anfantais o herwydd eu catnad at eu gwlad a'u hiaith. Yn hytrach, barnaf fod egwyddor cenedlaeth- oldeb-y parch tuag at henafion a'r serch at lenyrch neillduol—nid yn unig ynddo ei hun yn oruchel, ond o werth dirfawr i deyrnas. Deffry'r cyfryw wladgarwch egnion dyfnaf yr enaid i hyrwyddo dadblygiad a lies y wlad a garwn. Yn mrwydrau'r gorphenol ymladdodd y Cymry yn lew-dengys hyn eu bod yn ddynion roddent werth ar eu rhyddid a'u breintiau, ac nas gollyngent hwy o'u gafael heb ymdrech galed. Cyfeiria Shakespeare yn ami at y Cymry-nid bob amser gyda geiriau caredig, oblegid galwodd Gymro unwaith yn I arf Gymreig,' dro arall yn ddarn o gaws rhost- iedig,' ac eilchwyl yn wlanen Gymreig.' Noda hefyd yn un o'i chwareu-gerddi fod person Cymreig yn cael ei gadw yn Nghastell Windsor. Nid llawer Cymro aeth i weinyddu i Windsor ar ol hyny ond yn y ganrif ddi- weddaf cludwyd lluaws o glerigwyr Seisnig i Gymru, ac afraid iddo ef nodi beth fu eu dylanwad ar fuddianau'r Eglwys. Credai mai ffafr y Frenhines Elizabeth tuag at Gymry a briodola am y ffaith fod clerigwyr Cymreig yn ei chastell; a dylai y genedl ei pharchu. Iddi hi yn benaf yr ydym yn ddyledus am gyfieithiad o'r Beibl, sydd yn Nghymru yn biler a chaerfa i'r Gymraeg. Credai hefyd fod penau coronog eraill heblaw Elizabeth o linach y Tuduriaid wedi amlygu gor-hoffedd o Gymru. Diddym- wyd pymtheg o ddeddfau grymus yn erbyn Cymru, Cymro, a Chymraeg, yn ystod teyrnas- iad Harri'r VIII., a dyddiau heulog i'r genedl oedd y rhai hyny. Os dywedodd Shakespeare eiriau bryntion ar brydiau am y Cymry, desgrifiodd hwy hefyd fel cenedl ffyddlawn, addfwyn. gwrol, a goddefgar, ac ni ellid ychwane6u nemawr ychwaneg at gymeriad aruchel cenedl na'r nodweddion a nodwyd. Dair neu bedair canrif yn ol, ofnid tranc y Gymraeg. Ni chaffai'r iaith le o gwbl yn y gwasanaeth eglwysig, oblegid Lladin oedd iaith crefydd y pryd hwnw. Difrodwyd y mynachdai ac anrheithiwyd y castelli-oblegid hyn collodd y dylanwad Seisnig ei rym, a chafodd y Gymraeg well chwareu teg. Effaith hyn oedd i'r iaith gael mynediad ilr, ac arddeliad yn y gwasan- aeth eglwysig, a phan gyfieithiwyd y Beibl i'r Gymraeg, sicrhawyd ffyniant yr iaith. Dyddorol fyddai ymchwil i'r holiad, Pa fodd yr oedd y Cymry heddyw yn genedl o Ymneillduwyr, tra yn nghanol y i7eg ganrif yr oeddynt yr Eglwyswyr cadarnaf yn yr holl wlad ? Priodolai hyn i'r ffaith mai'r Eglwys a adfywiodd eu hiaith trwy ei mabwysiadu yn y gwasanaeth, ac iddynt deimlo'n deyrngar at yr Eglwys o herwydd iddi estyn y ffafr hon iddynt. Tra parhaodd yr Eglwys i noddi eu hiaith, buont deyrngar iddi. Ond dygwyd Saeson i'r wlad a Saesneg i'r Eglwys; pehod- wyd clerigwyr ac Esgobion Seisnig na feddent gydymdeimlad a'r bobl, a thrwy hyn parwyd i'r genedl ymddieithrio a phellhau oddiwrth y Sefydliad. Gadawyd y Cymry yn amddifad o fodd i grefydda yn eu hiaith eu hunain; ac o'r ymddieithriad hwn y cododd eu Hymneilldu- aeth sydd heddyw'n gymaint gallu. Cyfnerthu iaith a defion y genedl yw amcan yr Eisteddfod, ac y mae ffyniant y genedl yn anwahanol gysylltiedig a'r amcan hwn. Yr ydych yn ymgynull yma i gadw'r iaith yn fyw ac yr wyf yn hyderu ar ol i mijfyned ac ar ol i'r ieuangaf yn y cynulliad ymadael a'r bywyd hwn, y blodeua'r Eisteddfod ac y bydd cariad y Cymry at eu sefydliadau a'u hiaith yn cyn- yddu, yn cryfhau eu cymeriad, ac yn hyrwyddo eu buddianau goreu.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. ADDYSGOL Llwyddodd Mr. R. H. Williams, mab y diweddar Mr. Richard Williams, o'r dref hon, i enill y raddoB.A., yn Nghaergrawnt. Bwriada gymeryd urddau i wasanaethu yn Eglwys Loegr. YSGOL SUL Ytt EGLWYS.—Prydnawn Sul, cynhaliwyd cyfarfod tri-misol yr ysgol hon, dan lywyddiaeth Eos Glan Teifi. Aed drwy gyfres helaeth o adroddiadau a chanu cysegredig yn dra Uwyddianus, yr hyn a sieryd yn uchel am y llafur a gymerir gyda'r plant. PRIODASOL.—Achlysur o lawenydd arbenig i'r dref oedd priodas Miss Nellie Ffoulkes Jones, Bodhyfryd, a Mr. John Edwards, Rock Ferry, Lerpwl, yr hyn gymerodd lo yn nghapel Maengwyn, gan y Parch. W. S. Jones, M.A. Y mae y briodferch yn ferch hynaf y diweddar Barch. J. Ffoulkes Jones, o'r dref hon, a'r priodfab yn brif-arolygydd y North & South Wales Bank. Yr oedd y capel wedi ei brydferthu a blodau, &c., ac wedi ei orlenwi gan ewyllyswyr da. Aed drwy y gwasanaeth yn Gymraeg, a gwasan- aetliodd Cor Maengwyn dan arweiniad Mr. D. Morgan, gyda Mr. G. Bowen yn chwareu yr organ. Derbyniwyd y par ieuanc yn llongyfarchiadol gan y dorf yn y capel, a thu allan ar eu hymadawiad i Bodhyfryd. Cynhaliwyd yno reception yn y prydnawn, ac wed'yn ymadawodd y par dedwydd gyda'r treu am Engadine. Yr oedd yr anrhegion yn lluosog a gwerthfawr.
PENNAL.
PENNAL. Nos Sadwrn, Gorphenaf 16, wedi wythnos o gystudd trwm, bu farw Robeit Giiffith, anwyl blentyn Thomas a Sarah Davies, Graiandy Street, yn ddwy flwydd ac wyth mis oed. Robert Griffith, angel swyn, Wreiddiai'n mhawb a'i ruddiau mwyn Myn'd yn gynar gafodd ef, At ei delyn yn y nef; Erys mwy o dan ei goron Gyda phlant y gynau gwynion.' GWILYM DYFI.
TALYBONT.
TALYBONT. LLYS YR YNADON.-Dydd Iau, cynhaliwyd y Llys Misol arferol, gerbron D. Howells, a J. M. Williams, Ysweiniaid. Cyhuddwyd Thomas Evans, Ty'nyparc, o gario llawddryll heb drwydded. Yr heddgeidwad Young a brofodd iddo weled y cyhuddedig yn cario llawddryll, ac yn myned i gae Llwynglas, mown ymchwil am gwningod, fel yr honid. Dirwywyd i 10s.—D. Owens, Cilolwg, Borth, a ddygai gyhuddiad o dori cytundeb yn erbyn Isaac Davies, Tyn'yberllan, Llan- ilar, am yr hyn yr hawliai 2p. Ymddengys i'r erlynydd gyflogi y cyhuddedig, ond iddo ei adael heb rybudd. Rhoed dedfryd yn ffafr yr hawlydd, a bod Davies i fforffetio y cyflog dyledus iddo.
CLADDEDICAETH MR. THOMAS OWEN.…
CLADDEDICAETH MR. THOMAS OWEN. A.S. Cymerodd yr angladd le dydd Iau di- weddaf, yn nghladdfa gyhoeddus Machyn- lleth, yn nghanol arwyddion o alarapharch. Preifat ydoedd, perthynasau a chyfeillion yn unig a wahoddwyd iddo. Gwasanaeth- wyd yn mhalas Cvmi-haiadr gan y Parch. W. Pelkins ac eraill. Y prif alarwyr oeddynt, Mrs. Owen, un mab, a phedair o ferched, Mr. W. Owen, brawd, a pherthyn- asau eraill. Dilynodd llawer o'r cyhoedd yr orymdaith drwy y dref. Yr oedd y siopau yn nghauad, a lleni'r ffenestri wedi eu tynu i lawr. Wedi gosod y corph i orwedd yn y bedd, gwasanaethodd y Pnroh, John Bond, Lluudaiu,
EISTEDDFOD CADEIRIOL CWYR…
EISTEDDFOD CADEIRIOL CWYR IEUAINC CORRIS. GORPHENAF 9FED, 1898. Beirniadaeth Pryddest y Gadair, 'A dynaf bawb ataf fy hun. Anfonwyd i ni un ar hugain o bryddestau ar y testyn hwn. Dengys ychydig o honynt fod ) gan eu hawdwyr gryn lawer i ddysgu cyn bod yn atebol am ornest cadair tra y mae llazver o honynt yn amlygu grym meddyliol a nwyl awenyddol canmoladwy, a rhai yn dangos cyfuniad hapus o holl anhebgorion barddon- j iaeth uchelryw. Canu'n amgylchog yw diffyg amlycaf y mwyafrif o'r pryddestau, a buasai ewmpasu llai a threiddio mwy, yn ychwanegu at werth y nifer luosocaf o honynt. Trespasu j ar diroedd gwirioneddau anmherthynasol i'r testyn yw pechod parod y rhan fwyaf o'r brodyr galluog hyn. Wrth ddarilen llawer o honynt, c argyhoeddir ni y gall esboniadaeth wech, ambell waith, wneyd barddoniaeth wael. Cymer y cystadleuwyr, yn gyffredinol, yn ganiataol mai tynu i'r nef olygir yn y frawddeg. Cydolygwn a hwynt, ond pa nef ? Ai nid nef Aberth ? Mae nef pob, gwaredwr mawr yn dechreu'r ochr yma, ac ar fryn yr Aberth y caiff pawb y cyffyrddiad agosaf a'r Iesu. Ni bu efe ond deugain niwrnod ar y ddaear wedi dringo Calfaria, a clia'r neb a dynir ganddo i hunan-aberthu dros eraill, brofi fod cysgod nef dros fryn yr hunan-aberth. Yn y syniad yna, yn ol ein barn ni, y gorwedd gwythien gyfoeth- ocaf barddoniaeth y testyn, a synwn i'r cys- tadleuwyr wneyd cyn lleied a'r meddylddrych hwn. Gwaith un ieuanc yn dechreu gellid meddwl, yw pryddest Arszvydus. Os ieuanc ydyw, gall trwy lafur, rhyddiaethol o reolaidd, weled rywdro gadair yn y pellderau. vVele engreifft- iau nodweddiadol o holl gynwys y gerdd:- Fe wnai ddaioni, gwnai i'r sawl yr oedd Ag angen arnynt gyda tyner floedd Iacheid hwy oil yn lan, yn eithaf chwim, Heb unrhyw feddyginiaeth atynt ddim.' Rhaid i Arswydus weithio'n galed os am lwyddo i enill cadair. Llawer a ddichon gwaith arswydus. Mae gan Efryd Ieuanc rai darnau addawol yn ei gerdd, ond lied ddiffygiol yw y rhan fwyaf o honi. Nidyw wedi cynllunio yn ofalus, nac wedi meddwl ei destyn yn llwyr a manwl. Gollyngodd o'i law lawer llinell anolygus, megis:- Os dyrchefir fe dynaf bawb (a gredant) ataf f'hun.' eto Yn ufudd i'w ewyllys fawr Ef.' Ceir yma a thraw eiriau ac ymadroddion anhapus, megis I nefoliant,' &c. Nid yw yr ymgeisydd yn barddoni ei destyn y tro hwn, ond gall trwy ddyfal ymdrech ragori yn y dyfodol. Mae gan Pererin (y papyr glas), bryddest fach ddigon taclus a glan. Gellid gwneyd emyn dymunol o rai o'i phenillion. Mae llif ei tydryddiaeth yn rhydd a naturiol, ond nid oes yn y gerdd feddyliau mawrion nac ymdriniaeth farddonol o'rtestyn. Pur gyffredin ei hansa wdd a'i chynwys ydyw. Gwasanaethed y penill cyntaf fel engraifft deg o'r cyfanwaith :— Dyma un o eiriau'n Ceidwad, Pan oedd yma'n gwisgo cnawd, Wedi gadael y gogcniant, Dyfod er ciu mwyii yn dlawd.' Mae ergydion barddonol yn boenus o brin yn y gerdd. Mae yn ngwaith Eneiniad ambell arwydd o ddawn a nwyf awen, ond gan mwyaf anaddfed a di-drefn yw. Ni bu yn ffodus yn ei gynllun, nac yn orphenol yn ei weithiad allan. Cymerer y llinellau dechreuol fel engraifft o'r gwaith Yn Alpha holl odfaon fu erioed, Y Cyngor borau,' y bu 4 Tri yn Un,' Yn trefnu man yn ymyl Duwdod i Bechadur wneyd ei nyth,' heb ofni'i lid.' Canasai yn well pe dewisasai fesur yn odli. Mor anhawdd yw'n hargyhoeddi fod eisiau y diwylliant llenyddol uchaf i ganu yn feistrolgar yn y mesur di-odl! Cyfarfyddir yma a thraw a tharawiadau barddonol yn y bryddest, ond y maent yn anaml ac oerion fel pelydr y lleuad drwy gwmwl hwyrnos. Peredur yw y nesaf ddaw gerbron. Ceir ganddo ef waith pur lafurfawr, ond cyffredin. Ymdrodd yn ormodol gyda thrychineb Eden, ychydig sydd ganddo ar ei destyn cyfoethog. Rhyddiaethol iawn yr ystyriwn ei gerdd-mwy o draethawd nag 0 bryddest. Ceir gwaith digon coeth a sylweddol gan Addolydd, ond ychydig iawn o drydaniaeth awen sydd yno. Traethodol yw 0 ran ei drefn a'i gynwys. Mae yn y bryddest lawer o feddwl sylweddol, ond blinwn wrth ei darllen gan mor drymaidd yw. Mae yr ysbryd sydd yn mhryddest Hyder yn bobpeth y gellid ei ddymuno, a dywedir ynddi lawer am y tynu a feddylir ond ar y cyfan lied ddi-afael yw. Braidd yn wan yr ystyriwn hi yn ei meddyliau a'i barddoniaeth. Pryddest faith iawn, gyda chynwysiad yn ei dechreu ydyw eiddo Mab loan. Cynilun di-drefn ac amgylchog sydd ganddo, yn cymeryd i mewn lawer mwy nag mae'r testyn yn cyfeirio ato. Darllena'r bryddest yn rhwydd a di-dramgwydd, ond prin iawn 0 ysbrydiaeth ydyw Traethodol yw cynilun ac ansawdd pryddest Azvei Haf eto. Ceir rhai ergydion barddonol ynddi, ond mewn cysylltiad di-berthynas a'r testyn. (I barhau.J
ADRAN Y MERCHED.
ADRAN Y MERCHED. BETH SYDD MEWN ENW. Mae merched cyfoethog America yn meddwl byd o enwau teitlcg Ewrob. Aberthant eu j'oludoedd, eu dedwyddwch, a'u pobpeth i rmheulo 0 dan belydrau urddas enw tywysog- lidd neu bendefigaidd. Cymaiiit yw disgleir- .Ieb a swyn yr enw fel na wneir cyfrif o wag- sawrwydd y bodach sydd yn ei wisgo. Rhaid fbd Cymdeithas yn arwynebol i osod y fath fri i rhoddi y fath drwydded i gymeriadau di- iverth a wisgant urddas anhaeddianol. Y mae imryw o'r pendefigion y blynyddau diweddaf iiyn, wedi dwyn eu hunain i waith, a rhai o lonynt i garchar. Ymddangosodd Syr Robert Peel y dydd o'r blaen, o flaen llys methdaliad, i ddyledion yn 300,ooop. a dim i dalu. Y mae y parch a gaiff gwag-urddas a gwag-enwau yn codi o wagedd y meddwl. Fel yr hudir dyn arwynebol gan urddwisg Mae dies o fotymau ar fynwes ambell i fodach yn ei lenwi ag ym- honiaeth! Y swyn sydd mewn ychydig urddas coeg ac enw di-sylwedd hyd y nod pan y gwyr eu perchenog eu gwagedd Twyllir y truan hyd y nod gan ychydig ffug-enwau neu goeg- addurn ar ymyl ei wisg, ac addolir hwy gan eu tebyg. Y mae y pethau hyn, yn ddiau, yn arwydd-nodau ymddirywiad, a dirmygir y fath ffol-bethau gan garwyr sylwedd. Ymffrost pob dyn a dynes ddylai fod eu rhinwedd, ac nid eu haddurn.
ARWERTHIANT CREIRIAU HYNAFUL…
ARWERTHIANT CREIRIAU HYNAFUL CYMREIG. Dydd Llun, a'r dyddiau canlynol, cynhal- iwyd arwerthiant yn Crosswood, Trrdlwrn, ar greiriau a llyfrau hynalol g n U J, casgliad y diweddar Colonel He)v.«.ju a*l I (iculu. Gwerthwyd cwpan Rhedegia Machynlleth (1815), am 3ip. Queen Anne Porringer-rhed- egfa Towyn (1814), am 35p. penadur Charles 1. am 35s. dwy gini George II am 3p.; Bath- odau Eisteddfodol, y rhan fwyaf o honynt yn wobrwyon i Gwallter Mechain. Cynwysent fathodyn Derwyddol (1793), 32s. 6c. tarian Eisteddfod Corwen (1786), 50s. bathodau Cymdeithas y Cymrodorion (1823, a 1807), 42s. 6c. bathodyn Eisteddfod y Bala (1789, a Llanelli 1790), 47s. 6c bathodyn Cadeir- fardd (1790), 47s. 6c. bathodau Cymreigydd- ion y Fenni (1837), a Cymrodorion (1820), sp crwth blaenorol i'r 18fed ganrif, prynwyd gan Syr John Williams am 3op. Meyrick's,' Her- aldic Visitations of Wales,' prynwyd gan Mr. Ffoulkes, Lerpwl, am 91). ios. Beibl Cymraeg Esgob Morgan, llythyren ddu (1588), prynwyd gan Mr. Chadwick, I-lundiiii, am iop. Cambro-britwn (1592), 2p. 5s. Beibl Cymraeg Esgob Parry, llythyren ddu (1620), zp., ynghyd a lluaws o lyfrau Cymreig eraill ar y rhai y cynygid yn tywiog.
ANRHEGU MR. A MRS. T. H. W.…
ANRHEGU MR. A MRS. T. H. W. IDRIS. Y mae pum' mlynedd ar hugain oddiar pan briododd Mr. a Mrs. T. H. W Idris, yn Mhenfro; ac i ddathlu gwyl priodaliarian- aidd,' cyflwynwyd anrheg hardd iddynt dydd Sadwrn, gan weithwyr Mr. Idris yn ei fas- nachdy eang yn Camden Town, Llundaiii. Ymgynullodd canoedd o weithwyr y firm fawr —Idris a'i Gyf.-o flaen y swyddfa yn y borcu i roddi derbyniad serchog i Mr. Idris a'i briod. Ar ol derbyn yr anrheg, diolchodd Mr. Idris yn gynes i'r gweithwy, gan ddatgan ei obaith y parhai y teimladau da oedd rhyngddynt bob amser. Hefyd, cafwyd anerchiad fer a theimladwy gan Mrs. Idris. Cofir am ymgeisiaeth Mr. T. H. W. Idris dros fwrdeisdrefi Dinbych, rai blynyddoedd yn ol, ac yn ddiweddar prynodd ffermydd yn Ystadgwyn, un o honynt a gyrhaedda i gopa Cader Idris.
LLANGADFAN.,.
LLANGADFAN. Y PELLEBYR.—Cynhaliwyd pwyllgor nos LUll, yn yr Ysgoldy Genedlaethol i ystyried y cwestiwn o estyn y pellebyr i'r dosbarth hwn. Bychan oedd y cynuiliad. Pender- fynwyd galw am lais y gwahauol blwyfydd yn dra buall, er cael gweled eu teuniad. a'u parodrwydd i ymgymeryd a'r cylnioiaeb ynglyn a'r mater. o.Y
CEMMES.
CEMMES. BUDD- G YN GE]ELDD. -Nos Fercher, cynhal- iwyd cyngerdd yn yr Ysgoldy Oenedlaethol, yr hwn drodd allan yu dra llwyddianus. Cymerwyd rhan ynddo gan bartion Mri. E. Humphreys, Breeze, R. Jones, L. Richards a chan M. a G. Davies, H. J. Evans I- 1). Howells, ac eraill. Llywyuuwyd gan Rheithor. Yr oedd yr elw er cynorth wyo Morris George yn ei hir waeledd. Gwnaeq swm sylweddol,
CORRIS.
CORRIS. BWRDD YSGOL. Cynhaliwyd cyfarfod arferol y Bwrdd nos Wener, Mr. Rhys 0 wen yn y gadair. Darllenwyd adroddiadau blynyddol arholwyr ei Mawrhydi am y tair ysgol perthynol i'r Bwrdd. Bydd yr ad- roddiadau hyn yn cael eu hargraphu a'u lledaenu drwy y plwyf, a chymerir mantais ar y cyfleusdra i alw sylw y rhieni at sefyllfa ddifrifol y presenoldeb, &c. CYD-DAHAWIADAU.—Yn Eisteddfod Corris 1894, testyn y Gadait oedd 'Hwn fydd Mawr,' ac ychydig amser cyn ei chynhaliad traddodwyd pregeth ar y testyn gan Dr. Herber Evans, yn nghapel Rehoboth. Yn yr Eisteddfod a gynhaliwyd yma ar y 9fed cyfisol, testyn y Gadair oedd 'A dynaf bawb ataf fy hun,' a nos Sul diweddaf, traddodwyd pregeth ar y testyn hwn eto yn yr un lie gan y Parch. Evan Evans, Pennant. CERDDOKOL.—Dygwyd allan o'r swyddfa hon raglen Cymanfa Gerddorol M.C., dosbarth Corris. Dewiswyd tonau ac an- themau chwaethus. Yr arweinydd yw Mr. John Thomas, Llanwrtyd. Dyma'r waith gyntaf iddo gymeryd rhan yn nghaniadaeth y cysegr yn yr ardal hon. Cynhelir y Gym- anfa Hydref 3lain.