Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
19 erthygl ar y dudalen hon
qeillion t?t' Amen.
qeillion t?t' Amen. YR HAUL. GAN TALHAIARN. Henffych haul mad, tad y tes, Y duw rhawdrydd di-rodres Nefol gawr uwch nifwl gwyn, Molaf dy wyneb melyn Bywyd a nawdd ein byd ni Yw dylanwad d' oleuni- Caraf dy wen ysblenydd, Rho'f folawd i dy rawd rydd; Mor addien yw'th wfin a'th wawr, Der eilun, uwch daearlawr Gwiw a siriol gysurydd Einioes a dawn nos a dydd, Ti wenaist pryd yth anwyd— Gweini'r haf a gwenu'r wyd A gwenu wnei'n ogonawl I Dduw Dad a gwen ddi-dawl.
GAIR AT YR AMAETHWYR.
GAIR AT YR AMAETHWYR. GAN AP Huw. Dywediad cyffredin ydyw fod mwy o wair yn cymeryd tan pan fydd y tywydd yn ffafriol i't cynhauaf, na phan fydd yr hin yn wlyb. Mae Rawer o wir- ionedd yn hyn, a gellir yn hawdd gyfrif am hyny. Mewn tywydd gwlyb a chawodog, cymerir gofal i sychu y gwair yn iawn cyn ei osod yn y ddas. Os bydd y gwair ar y ddaear am amser lied faith, fel ag y mae y rhan amlaf ar hin wlyb, y mae yn hollol farweiddio, ac nid oes ond ychydig wres yn aros ynddo. Pan ei crynhoir, feallai y twymna, ac y cynesa iyw ychydig, ond anaml iawn y gordwymna. Ond mewn tywydd sych, teimlir cryn bryder am ei grynhoi ar unwaith, rhag ofn y dê1 gwlaw, ac yn ami fe'i cludir i'r ddas, pan yn hollol iraidd. Yn fynych ni fydd wedi ei dori er's mwy na dau ddiwrnod, ond bernir yn well ei gasglu i mewn ar unwaith nag anturio iddo gael gwlaw, a dyma yr achos y mae cymaint o ddeisydd yn gordwymno. Mae y cynhauaf gwair eleni wedi bod yn hynod o sych, fel rheol, a gwyddom am amryw ddeisydd wedi tanio, ac y mae llawer o bryder yn eu cylch ymhlith yr amaethwyr. Pan y maent o faintioli mawr, a tua 3oain i 4oain tunell 0 wair ynddynt, mae yn fater pwysig iawn pa fodd i'w trin, ac yn fynych prin y gwyr eu perchenogion pa peth i'w wneyd. Ychydig ystyriaeth yn flaenorol a'u cymhellai i fod yn llai brysiog oherwydd achos yr holl ddrwg ydyw fod y gwair wedi ei roddi yn y ddas yn rhy iraidd, ond pan y mae yno, y mae yn rhy hwyr i gael meddyginiaeth y ffordd hono. Y mae y gwres mwyaf bob amser yn nghanol y ddas. Pa fwyaf iraidd y bydd y gwair pan ei cludir, agosaf i gyd y gorwedd ar ei gilydd, ac nid oes yr un ffordd i'r gwres ddianc. Y gwres cyfyngedig hwn sydd yn beryglus, oblegid cynydda a chynydda hyd nes tori allan yn dan byw. Weithiau, cymer wythnosau cyn tanio, ac feallai yr ystyria yr amaethwr yn eithaf diogel; pan yn ddisymwth y dechreua fygu, ac y teifl allai) golofnau oager yma ac acw ar y copa. Mae y rhai'n yn arwyddion peryglus, ac yn mynegu y dylid gwneuthur rhywbeth ar unwaith. Meddylia rhai am gymeryd haner y ddas i ffwrdd, a'i hail sychu ar y Ilawr, ac yna ei roddi yn ol-drachefn, eraill a dorant ymaith ddarn ysgwar o'i chanol; a rhai amaethwyr a dyllant y ddas er mwyn i'r gwres ddianc. Y mae y ffordd gyntaf yn achosi llawer iawn o lafur ac y mae yr ail ddull yn difrodi'r ddas ac y mae y trydydd modd yn hollol ddi-werth. Clywais un o amaethwyr mwyaf Bro Morganwg, —boneddwr o brofiad helaeth iawn,—yn dweyd mai y ffordd oreu i drafod gordwymn- iad ydyw myned i ben y ddas, a symud y copa a'i roddi ar hyd yr ymylau. Dalier ati i wneuthur hyn hyd nes y byddis wedi tori rhigol- o'r naill ben i'r Hall o'r ddas, fel y bydd genych ffos drwy'r ddas, a'r gwair wedi ei gloddio ar y naill ochr. Gall un dyn wneuthur hyn mewn awr o amser. Dylasid gwneuthur hyn ar foreu braf, a'i adael yn agored ar hyd y dydd. Trwy wneuthur y ffos yn ddigon dwfn yn y ddas, gall y gwres ddianc yn rhwydd o'r rhan hyny, a gwnaiff hyny mewn byr amser, ac oherwydd fod yr holl gopa wedi ei ryddhau, fe sych y gwair a'r unwaith a phan ei dodir yn ol yn yr hwyr, bydd pob perygl o dan wedi myned heibio. Nid yn unig dyma y ffordd rataf, ond hefyd y sicraf i leihau y gwres, ac ni fyddai yn ddoeth i unrhyw amaethwr gynyg un ffordd arall. Gwyddom am ddeisydd yn tanio wedi eu toi, a phan y bydd unrhyw dyb eu bod yn rhy boeth, peidier a bod mewn unrhyw frys i'w toi. Os gosodir gwialen haiarn ar ei phen yn y ddas, gadawer i hon fod yn hollol oer cyn y cyaygir toi,
CLYWEDION.
CLYWEDION. Clywed fod siopwyr y cau cynar yn credu yn yr open air treatment. Clywed mai tra y mae Gwarchodwyr yr afonydd yn areithio, fod yr herw-bysgotwyr yn dal y pysgod. Clywed nad yw yn debyg y terfynir yr anghydfod yn Neheudir Cymru hyd y gauaf nesaf. Clywed am ddyn yn y Oanolbarth roddodd bris mor isel ar ei fywyd a myned am elw ac enw i'r fiau lie y cedwid Hew mewn milodfa yn Towyn. Olywed y bydd trigolion Machynlleth yn yfed dwfr pur pan wneir filtering basin, perthynol i'r gwaith dwfr, ag y cedwir yr anifeiliaid allan o'r ffrwd sydd yn rhedeg i'r gronfa. Clywed mai y nuisanee diweddaraf ar Reilifordd Corris yw y mwg drygsawrus sydd yn dyfod allan c ffumer y peiriant. Ai anghydfod y Deheudir yw yr achos am hyn?
CORRIS.
CORRIS. Y mae y Parch. D. J. Lewis, rheithor Llanidan, Mon (diweddar o Corris), wedi ei apwyntio i fywoliaeth Amlwch. Y COIL MEIBION.-Bydd y Cor hwn yn cyfarfod Nos Wener nesaf. Erfynir am i'r holl aelodau fod yn bresenol. YR EISTEDDFOD.-Nos Wener, cynhaliwyd pwyllgor Eisteddfod Gwyr Ieuainc Corris, dan lywyddiaeth y Parch. W. G. Owen (Llifon), pryd y rhoddwyd ar ddeallfod elw sylweddol oddiwrthi i'w gyflwyno at achos newydd y Bedyddwyr yn y lie. Penderfynwyd cynal Eisteddfod eto y flwyddyn nesaf. CTNYG HAEL.—Mae boneddwr o'r ardal wedi fy hysbysu o'i barodrwydd i adeiladu Ystafell Gyhoeddus ar unwaith yn Nghorris, ar ei gyfrifoldeb ei hun, ar un amod, a'i fod yn barod i gyfarfod cynrychiolaeth o wahanol eglwysi y cylch i egluro yr amod hono. Yn awr, dyma I gyfle euraidd i Gorris gael yr hyn y teimlir gan bawb sydd yn wir angen- rheidiol yma, tuag at gynal Cyngherddau, Eisteddfodau, &c. A ellir trefnu i osod y mater o flaen eglwysi y cylch fel ag i gaol cyfarfod i'r amcan hwnw yn fuan? Am ragor o fanylion ymofyner a H. R. WILLIAMS (Llwydrudd).
YR HELYNT DDEFODOL.
YR HELYNT DDEFODOL. Dywed y gwrth-ddefodwr Kensit, yn un o'r papyrau Seisnig, Carwn ddweyd, gan yr ymddengys fod rhai yn ofni ac yn ar- swydo rhag fy ngweled, nad oes genyf fwriad i wneyd gwrth-dystiad (yn erbyn Defodaeth), mewn unrhyw Eglwys eto hyd y Sabbath laf yn Tachwedd. Yn y cyf- amser, hyderaf y bydd yr esgobion wedi edrych i mewn i'r mater, ac wedi gwneyd rhywbeth er ei atal. Os na fyddant, dis- gwyliaf allu trefnu mil o wrth-dystiadau mewn gwahanol ranau o Loegr, a hyny cofier heb unrhyw gynwrf.
REILFFORDD DYFFRYN RHEIDIOl
REILFFORDD DYFFRYN RHEIDIOl Dygwyd mater cadarnhad neu wrthodiad y reilffordd o Aberystwyth i Bont-ar-Fynach, o flaeu Dirprwywyr Reilffyrdd Ysgafn, dydd Mercher, yn Llundain, gerbron Syr Court- enoy Boyle, ysgrifenydd y BWldd Masnach. Yr unig wrthwynebiad oedd eiddo cwmni reilffordd Manchester & Milford, ar y tir y buasai y reilffoidd newydd yn ei niweidio. Gofynent na byddo gorsaf yn cael ei chodi o fewn dwy filldir i Llanrhystyd Road. Pen- derfynodd Syr Courtenoy Boyle yn mhlaid gwneuthur reilffordd Dyffryn Rheidiol..
YSGOL GANOLRADDOL TOWYN.
YSGOL GANOLRADDOL TOWYN. Yn chwanegol at y rhestr a gyhoeddwyd, mae yr ysgolorion a ganlyn wedi pasio yn yr arholiadau a gynhaliwyd yn Mehefin diweddaf. Mathematics Dosbarth iaf, Winifred Conn, Annie M. Evans, Maud Cotterill; dosbarth 2il, Rowland Davies, David James, David Jones, John O. Jones, Herbert W.Evans, Maud Evans, a Susannah Davies. Science & Art Department Examination. Practical Inorganic Chemistry, advanced stage Llewelyn B. Williams, Hugh W. Evans, William Roberts. Theoretical Inorganic Chemistry Dosbarth iaf, Derwent Cotterill, Humphrey Hughes, Robert D. Parry, Hugh D. Humphreys, David Jones, John O. Jones, Maggie Owen, Susannah Davies, W. A. Conn, Arthur E. Rowlands, Maud K. Cotterill, Herbert W. Edward, David James, Rowland Davies, William E.Jones. Dosbarth 2il, Thomas Davies, David J. Roberts, LI. B. Williams, W. Roberts, William L. Hughes. Practical Inorganic Chemistry, elementary stage: Dosbarth iaf, Winifred Conn, Maud K. Cotterill, John O. Jones, Rowland Davies, H. W Edwards, W. L. Hughes. Dosbarth 2)1, Maggie Owen, Susannah Davies, Hugh D. Humphreys, R. D. Parry, Thomas Davies. Botany Dosbarth iaf, Annie C. Pughe, W. A. Conn, Maggie Owen, Maud K. Cotterill'. Dosbarth 2il, Ellen J. Roberts, A. M. Evans, Sarah E. Jones, Susannah Davies, M. Evans I
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. Crybwyllir yn y Dnjch am ymweliad y Parch. Idris Jones, Hancock, Wis., mab i'r Parch. J. Jones o'r dref hon, ag ardal Dodgeville, Wis. Pregethodd mewn amryw fanau yn y cylch. Cyfrifir ef yn wr dysgedig CD ac yn bregethwr da. FFAIR AWST.—Cynhaliwyd hon y LIun diweddaf. Ffair gymharol fechan o ran rhif y prynwyr a'r gwerthwyr. Ychydig o geffylau a gwartheg ddaeth ynghyd, ond gyda'r fasnach wnaed, yr oedd y prisiau yn dda. YR ARDDANGOSFA.-Cynholir yr Ardd- angosfa uchod dydd Iau, y 18fed eyfisol. Deallwn fod rbagolygon addawol am Ardd- angosfa lwyddianus.
LLYS YR YNADON.
LLYS YR YNADON. Cynhaliwyd dydd Mercher, gerbron Major Bonsall. MEDDWDOD.—David Pugh, Drainllwyd- ion, Pennal, ynghyd a David J. Evans, Rafod, Pennal, a gyhuddwyd gan yr hedd- geidwad Tudor o'r trosedd uchod, ar y 7fed o Gorphenaf. Dirwywyd y ddau i 10s. yr un yn cynwys y costau, neu saith niwrnod o garchar. MARCHOGAETH HEB OLEU.—Yr heddgeid- wad H. Jones, a gyhuddai T. Williams, Clegyrddwr, Llanbrynmair, o farchogaeth bicycle heb oleuni ar y 15fed cynfisol. Hys- bysid mai dyma ei drosedd cyntaf, ac felly dirwywyd ef i Is. yn unig. PYSGOTA ANGIIYFREITIILON. Rowland Edwards, a Richard Ellis, Pentrerhedyn Street, Machynlleth, a gyhuddid gan J. Griffin, ceidwad afonydd, o rwydo yr afon Dyfi mewn ymchwil am eogiaid ar y 5ed cynfisol. Cyhuddid R. Edwards hefyd o ymosod ar Griffin ac Ellis Jones, ceidwad arall, yr un noson. Nid ymddangosodd yr un o'r troseddwyr yn y llys. Nid oes ond ychydig er pan ddychwelodd H. Edwards o'r carchar, lie y bu am dri mis am dyngu anudon. Mae yn hen drosedd wr. O'r ochr arall dyma drosedd cyntaf Ellis, a cheir fod cryn gydymdeimlad ag ef. Ym- ddangosodd ei briod ar ei ran ef, yn cario gyda hi faban bychan. Llewygodd amryw droion. Mr. Woosnam, ar ran Clwb yDyfi, a apeliodd am warrants yn y ddau achos, er nad oedd yn pwyso cymaint yn achos Ellis. Caniatawyd yr apel.
ABERMAW.
ABERMAW. Y PRIFATHRAW RHYS.—Yr wythnos ddi- weddaf, ymwelodd Prifathraw Coleg yr Iesu, Rhydychain, ynghyd a Mrs. Rhys a'r Abermaw. Arhosasant ar y pryd gyda Mrs. Griffiths, Arianfryn.. O'r Abermaw aethant i Sir Fon, ac oddiyno am bleserdaith i'r Werddon. O'r Werddon bwriadanl groesi i Aberdaugleddyf, a threulio ychydig ddyddiau gyda Syr John Williams yn Llanstephan.
ABERDYFI.
ABERDYFI. COFFADWRIETHOL.-Dydd Mawrth, gos- odwyd cof-faen ar fedd y diweddar Mr. E. R. Roberts, ysgolfeistr, gan ei weddw ynghyd a nifer o gyfeillion. Defnydd y maen sydd o farmor, pum' troedfedd, a chwe' modfedd o hyd. Yr oedd yr ymad- awedig yn ffafr-ddyn yn y lie.
LLANF AIRCAEREINION.
LLANF AIRCAEREINION. LLYS YR YNADON.—Cynhaliwyd dydd Sadwrn, gerbion Mri. Tliomas Watkins a John Jehu. Cyhuddwyd D. Oliver ac R. Roberts o dori yr heddwch drwy ymladd ar y 25ain eynfisol. Nid ymddangosodd Oliver. Rhwymwyd Roberts yn y swm o 2p. i gadw yr heddwch am 12 mis, ac i dalu 7s. o gostau. David Oliver, am nad ymddang- osodd, a rwymwyd yn y swmo 5p. am yr un amser, ac i dalu 8s. o gostau.—J. Edwaids, Peuparc, Llanerfyl, a gyhuddwyd o ymosod ar M. Morgan, Penymynydd, ar y lOfed cynfisol. Rhwymwyd ef yn y swm o 5p. i gadw yr heddwch am 12 mis. ac i dalu 5s. o gostau.
ARTHOG.
ARTHOG. YSTAD YNYSFAIG.—Y mae Mr. Solomon Andrews, yr hwn sydd wedi gwneyd cymaint i Bwllheli, yn awr ar droi ei sylw i'r ysmotyn prydferth hwn ar yr ochr ddeheuol i'r Mawddach. Mor illan ag y bydd y tymor presenol heibio, bwriada ddechreu y gweith- rediadau. Cynwysa y cynllun yn (1) Ffordd Gerbydau o ddwy filldir o hyd yn nghyfeir- iad Dolgellau, (2) adeiladu oddeutu 50 o dai ar ochr y ffordd, (3) Pont gerbydau dros yr afon i g-ysylltu Aithog a'r Abermaw. Prynodd Mr. Andrews dro yn ol y rhan yma 0 Ystad Ynysfaig.
BORTH.
BORTH. LLWYDDIANT.—Da genym longyfarch Miss Frances Blodwen Jones, Bronheulyn, ar ei gwaith yn pasio yn llwyddianus arholiad y London College of Music. YR YSGOL GENEDLAETIIOL.—Llwyddodd Miss M. Lewis, is-athrawes yn yr ysgol uchod, i basio yn ail yn y dosbarth blaenaf yn y diocesan examination,
I TOWYN.
TOWYN. ETHOLIAD.—Cymerodd etholiad le i lenwi sedd wag ar y Cyngor Trefol dydd Mercher, yr hyn a ddatganodd y swyddog dychwel- iadol fol y canlyn:—R. P. Morgan 178; W. Rowlands 104. APWYNTIAD.—Cafodd Mr. D. H. Davies, B.A., B.Sc., Prifathraw yr Ysgol Sirol yn y dref hon, ei apwyntio yn Brifathraw Ysgo! Sirol Dinbych. Enillodd y swydd ar gyfrif cymwysderau personol, a'r safle uchel y mae yr ysgol hon wedi ei gyraedd.
CORRIS UCHAF.
CORRIS UCHAF. Mae siopwyr yr ardal hon wedi mabwys- iadu y cynllun o g-au eu maeldai bob prydnawn dydd Iau, gan ddechreu yi wythnos ddiweddaf. CYFARFOD MISOL.—Cynhaliwyd C.M. y Methodistiaid yn Bethania, dydd Llun, a dydd Mawrth. Boreu y dydd cyntaf, ym- ddiddanwyd a swyddogion y lie, a holwyd am ansawdd yr achos yma ac yn Ystrad- gwyn, yr hyn oedd yn galonogol.—Am un o'r gloch, dan lywyddiaeth Mr. R. Williams, Dyffryn, gwrandawyd profiad pump o bregethwyr ieuainc, ac yna rhoddwyd cyng- horion addas iddynt gan y Parch. Evan Roberts, Dolgellau. Ei destyn oedd Yr anfoniad yn ei arwyddion, ei gymwysderau a'i ffrwyth. Hysbyswyd fod Mri E. Humphreys, a Morris Jones wedi eu dewis yn swyddogion yn Towyn, a J. G. Jones yn y Penrhyn.—'Dygwyd i sylw y disgwylir i holl aelodau y C.M. arwyddo y llyfr dirwest. -Yr oedd blwyddyn brawf D. W. Morgan, 0. Lloyd Jones, a D. J. Lewis, ar derfynu, a disgwylir llais yr eglwysi arnynt yn y C.M. nesaf. Hysbysodd Mr. J. H. Symond am ei ymnillduad o fugeilaeth Towyn. Datganwyd gobaith y bydd iddo aros eto o fewn cylch y C.M.-Gwnaed coffa parchus am farwolaeth Mr. W. Lloyd, Aberdyfi, blaenor ffyddlawn yn yr oglwys Gymreig, a fu farw yn dra sydyn y Sadwrn diweddaf.— Cyflwynwyd dau lyfr i fylw-' Hen ysgol- feistriaid Mr. Charles' gan y Parch. R. Owen, M.A., Pennal, a I Hunan-goflant R. Owen, Rhyl (Apostol y plant).'—Ystyriwyd cenadwri o Ddosbarth Ysgolion y Dyffryn, a phasiwyd penderfyniad ami, sef anog yr eglwysi i beidio cynal rehearsal, cyngherddau, a chystadleuon cerddorol ar y Sabbath.— Caniatawyd i Mr. H. Jones, Aberllefenni, i sefyll arholiad Athrofa Dduwinyddol y Bala. Traethwyd ar yr angen sydd i'r Eglwysi Rhyddion ymuno i wrthsefyll Defodaeth a Phabyddiaeth yr oes. Pregethwyd yn yr hwyr gan y Parch. D. Jones, ac yna cynhaliwyd seiat, y mater dan ymdriniaeth oedd 4 Rhodiad addas i'r Arglwydd.' Dydd Mawrth, pregethwyd gan y Parchn. W. R. Jones, D. Hughes, W. Roberts, H. Roberts, T. Williams, ac E. Roberts.
ADOLYGIADATJ.
ADOLYGIADATJ. [GLADSTONE Ei FYWYD A'I WAITH. Gan y Parch. G. Ellis, M.A. Gwrecsam, Hughes a'i Fab. Rhan III., Pris 6c.] Wele y drydedd Ran o'r gwaith llafurfawr hwn ger ein bron a theimlwn wedi ei darllen fod yr awdwr yn grymuso wrth fyned ymlaen. Rydd y gwaith hwn pan y'i gorphenir yn safonol yn ddi-os. Y rhifyn hwn a gynwysa benod ar Briodas Mr. Gladstone penod arall ar y gwrthddrych fel Llywydd Bwrdd Masnach; penod eto ar ei Frwydrau o Blaid Masnach Rydd, gyda'r hon y ceir darlun rhagorol o'r anfarwol Richard Cobden penod eto arno fel aelod dros Brifysgol Rhydychain; eto fel Canghellydd y Trysorlys a rhan 0 benod ar Ryfel y Crimea. 0 galon argymheliwn ein darllenwyr i brynu y gwaith hwn. [Y CERDDOR, Awst iaf, 1898. Yr un Cy- hoeddwyr. Pris 2c.] Mae y cyhoeddiad misol hwn yn gwasan- aethu cylch pwysig yn y dyddiau presenol. Yr ysgrif arweiniol y tro hwn a ysgrifenir gan un o'r golygwyr, sef Mr. D. Jenkins, ar Ddysgu tonau ac emynau ar y Sul.' Er na chydolygwn 0 lawer ag ef parth y gyfeillach ar nos Sul, eto hyderwn y bydd i'r awgrymiadau geir yn yr ysgrif ddeffroi ystyriaeth y rhai y perthyn iddynt er ceisio gwella caniadaeth gysegredig. Ceir ysgrif ragoiol hefyd gan Mr. D Etnlyn Evans, dan y penawd Awgrym- iadau i gantorion.' Difyrus yw yr ysgrif ar y Plentyn Delynor,' felly yr 'Amrywion,' a Hyn a'r Llall.' Hefyd ceir Rhyfelgan Ddir- westol, ynghyd ag Anthem, &c. Rhifyn da iawn yw hwn ar y cyfan. [Y BRYTHON: R 1. Jones, Tremadog. Ail Argraffiad. Pris 6c.] I'r sawl a hoffa henafiaethau; ac ychydig sydd na wna, y mae y Brython yn gyhoeddiad a fawr werthfawrogir. Cyhoeddwyd ef y tro cyntaf yn Newyddiadur, yn y flwyddyn 1858. A dywed y cyhoeddwr mai ar gais taer Iluaws o lenorion Cymru y dygir yr ail argraffiad hwn allan. Gan hyny, hyderwn y caiff y gefnog- aeth ddyladwy, fel y di-golledir ef yn yr anturiaeth y tro hwn,
EISTEDDFOD GADEIRlOl GWYR…
EISTEDDFOD GADEIRlOl GWYR IEUAINC CORRIS. GORPHENAF 9FED, 1898. Beimiadaeth ar yr Englyn, Dihareb Derbyniwyd i6eg, am y rhai nis gellir dweyd eu bod oil yn ddiarhebol o dda, na chwaith ddweyd fod hyd yn nod ychydig 0 honynt 'yn sobor o sâl.' Nid englyn sydd gan Aralleg ond rhyw arall beth. Braidd yn gyffredin ac anghelfydd yw englynion Llejenwr, Solomon, Cymro Gwyn, Mwynaidd lais Menyw, Salaf, Hen lelo, Goronwy a Gwerinwr. Y mae englynion Sam, Cledd gwirionedd, Iago, Dafydd Wyn, a Hogyn, vn rhai pur dda, ond yn cael eu difwyno i fesur bychan gan fan feflau. Trydedd linell Sam yn rhy hir 0 sill llinell olaf Cleddgwirioi7edd ddim yn ddymuncl; dau ffugr anghyson yn haner olaf un Iago; dihareb yn ddim ond gzutsg gwirionedd gan Dafydd TVyn, a'r llinell olaf dipyn yn hen ac adnabyddus; a Hogyn yn son am eiriad mewn gwirionedd.' Y ddau oreu, heb os nac oni bae, yw Gomer a lIdez'rzon,-a'r goreu o'r ddau, ar fwy nag un cyfrif, yw Meirion. Iddo ef y rhoddwyd yr ysbrydiaeth i wneyd englyn arbenig y gystad- leuaeth hon. Fe lwyddodd i wneyd englyn pert a hapus iawn Nid hawdd fuasai rhoi gwell syniad am ddihareb mewn pedair llinell o unrhyw fath. Mae szvn diharebyn llanw'r englyn. Dymafo:— Dihareb, adnod y werin,—ei swyn Yw synwyr cyffredin Mewn gwlad a thref cynefin Ei gwir praff a'i geiriau prin. ALAFON a RHYS J. Huws. Y Parch. R. H. Watkins, Bryncrug, oedd y buddugol. Beimiadaeth ar y Chwe1 Englyn, I -P.,o-lzvj,sbach.' Daeth i'n Haw 110 gynygion. Y mae dau o honynt yn dwyn yr enw Hiraeth. Nid oes yn ngwaith un o'r ddau awdwr yma ond ryw ambell gyffyrddiad 0 gynghanedd, ac y mae'r mynegiad o'r meddwl yn bur ddiffygiol ganddo. Lied wan a di-afael ydyw gwaith yr Hiraeth. sydd wedi ysgrifenu ar notefafer hefyd ac y mae yntau yn ddiffygiol mewn mynegiant. Fe sonia hefyd mewn un lie am seraph yn machludo. Ymgeisiwr.—Yn ei waith ef ceir ambell darawiad da, gydag amryw ffaeleddau amlwg; megis yn lethol,' Gwiwnef Wesleyaidd genad,' Ion faner,' Ion adeilad^' &c. Di-azuen.-Cywirach, a rhai rhanau yn bur dda. Ediizygydd.-Cryf a" phriodol 0 feddwl, ond y gweithiad yn afrwydd braidd, a'r bai rhy debyg yn yr ail a'r trydydd englyn. Hiraethus.—Swn y 'rhy debyg' ganddo yntau yn ei ail a'i bedwerydd englyn y llinell anghelfydd Pen campwr o 'reithiwr oedd "yo y pumed a'r chweched yn englyn toddaid, heb fod yn bwrpasol iawn ei gynwys. Ar wahan i hyn y mae'r gwaith ar englynion Hiraethus yn waith glan a da. Is-yr-Ywen.—Englynion cywir, da mewn rhan, ond lied gyffredin. Da?i-yr-Helyg.—Ar wahan i son am lais aur yn Ilifo nef, a 'gwledd olewydd,' ac un ystumiad ar gystrawen er mwyn cynghanedd, y mae y rhai hyn yn englynion rhwydd a dymunol iawn. Dari-yr-Ywen.—Llinell ry hir yn yr ail a'r 5ed englyn (hawdd eu cywiro). Englynion cryfion a da gan mwyaf. Iag-o —Dechreu lied wael, a llinell wallus ei chynghanedd yn y 4ydd englyn, y gweddill yn ganmoladwy iawn. Dilytadl.Prin yr oedd galw am ryfeddnod ar ddiwedd pob un o englynion Distadl, er fod pob un yn dda. Dyma, yn ddiamheu, y chwe' englyn goreu yn y gystadleuaeth. Y maent yn gelfydd, yn briodol, ac yn darawiadol trwyddynt-heb ond ychydig iawn o ddim y gellid dymuno ei well. Mae Distadl yn llwyr haeddu y wobr. ALAFON a RHYS J. Huws Dewi Mai 0 Feirion, Ffestiniog, oedd y buddugol.
ADDYSG CELFYDDYDOL YN NCHEREDICION.
ADDYSG CELFYDDYDOL YN NCHEREDICION. Dydd Mercher, cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Addysg Gelfyddydol y Sir, yn Llanbedr. Pasiwyd pleidleisio 50p. tuag at y Travelling Dairy Schools; 40p. er ychwan- egu Darlithoedd 20p. tuag at Ddosbarth- iadau Ysgolfeistriaid yn Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth ac i gynyg 12 ysgoloriaeth o 6p. yr un i feibion ffermwyr; 12 ysgoloriaeth o 9p. yr un i dairy-maids; dwy ysgoloriaeth amaethydclol o lOp. yr un; ac os mynychir y cwrs nesaf gan fyfyrwyr addas, rhoddir dwy ysgoloriaeth ychwanegol o'r un gwerth. Ymdriniwyd hefyd a'r priodoldeb O apwyntio darlithydd teithiol ar Liwio (dyeing), gan y dywedid fod gwehyddion y sir dan orfod i anfon eu brethynau i Yorkshire. Pasiwyd gofyn cydweithrediad Cyngor Sirol citex. fyrddin i gario hyn allan,