Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
OAFWYD.
OAFWYD. PWRS yn cynwys aur yn nghapel y Wesley- aid, Machynl'eth, diwrnod cynhaliad y Gym- anfa Gerddorol. Gall y perchenog gael y cyfryw trwy dalu pob costau ond ymofyn a Mr. Rhys Lewis, Tudor House, Machynlleth.
----Y NEGESTDD TELERAU AM…
Y NEGESTDD TELERAU AM HYSBYSIADAU. Am hysbysiadau o "Yn Eisieu," &c., yn cynwvs 16 o eiriau 6d Tair gwaith i s. 20 „ gd. vp „ is. 6d. 30 1 p is. 11 py 2S. 40 „ is. 6d. „ po 3s. 50 >1 2S. P) 45 Cyfeiriad, "Negesydd" Office, CORRIS, R.S.O,
DAU ETHOLIAD.~-
DAU ETHOLIAD. Cymerir dyddordeb chwanegol yn yr etholiadau seneddol fel y dirwynir tymor y Llywodraeth i ben. Er fod y Rhyddfrydwyr wedi eu hamddifadu 0 arweinydd di-gyffelyb, a neb wedi cymeryd ei le, arwyddoceir eu dychweliad i awdurdod yn yr Etholiad Cyffredinol nesai. Buddugoliaeth bersonol oedd eiddo Mr. Doughty yn Grimsby. Yn ol dadganiad y T'imet, a phapyrau Toriaidd eraill cyn dydd yr etholiad, nid ar dir gwleidyddiaeth yr ymladdwyd y frwydr. Tref enwog am bysgotwyr yw Grimsby, ac mae gan Mr. Doughty fwy o gychod yno na'r un person arall. Mae ar delerau cyfeillgar a'r dynion, y rhai a rifant 4,000, a thai iddynt 70,000p. mewn cyflogau. Aeth canoedd o'r rhai bleidleisiodd drosto fel Rhyddfrydwr, gydag ef drachefn fel Undebwr, heb dalu un ystyriaeth i gwestiwn Ymreolaeth. Nid yw Grimsby ychwaith wedi arfer bod yn brin mewn Iluaws mawr sydd yn edrych ar y bleidlais fel peth marchnadol. Nid oedd dim o'r dylanwad Ileol hwn yn troi y fantol yn etholiad Rhanbarth Laun- ceston; yn hytrach gorfu i'r ymgeisydd buddugol, Mr. Moulton, ymladd o dan anfanteision. Yr oedd ei wrthwynebydd yn adnabyddus yn yr etholaeth, ac yn Ymneill- duwr fel corph yr etholwyr, ac yntau yn ddieithr ac yn Eglwyswr. Mae llawer o ragfarn yn erbyn cyfreithwyr fel gwleid- yddion, a gwnaeth ei wrthwynebwyr y defnydd goreu allent o hyny. Er y cyfan cadarnhawyd canlyniad etholiadau blaenorol, ag eithrio Grimsby, drwy ddewis gyda chwaneg o fwyafrif, Ymreolwr, pleidiwr Dewisiad Lleol, un gondemniai wleidydd- iaeth dramor Arglwydd Salisbury, a'r mesurau cartrefol sydd yn darpar rhoddion blynyddol i'r parsoniaid a'r tirfeddianwyr ar draul y trethdalwyr.
Y RHYFEL.
Y RHYFEL. Ni wnaed un hysbysiad swyddogol eto o ateb Spaen i delerau heddwch y Talaethau, ond credir fod y llywodraeth yno wedi dyfod i'r penderfyniad o ildio i ofynion America, sef colli meddiant 0 Cuba, Porto Rico, ac ynysoedd cyfagos; Manila yn mhrif ynys y Phillipiaid i gael ei meddianu gan y Tal- aethau hyd nea y penderfynir pwy gaiff lywodraethu y tiriogaethau Spaenaidd hyny. Parha America yn ei gweithrediadau mil- wrol yn erbyn Porto Rico, fel pe na byddai telereu heddwch yn cael eu cynyg. Cym- erodd feddiant 0 Guayama ar ol brwydr fer.
CYNCOR RHYDOFBYDOL CYMRU.
CYNCOR RHYDOFBYDOL CYMRU. Dydd Gwener, yn y Neuadd Gyhoeddus Llandrindod, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Cyngoi Ehyddfrydol y penderfynwyd arno yn Nghynadledd Caerdydd, Chwefror di- weddaf. Etholwyd Mr. A. Thomas. A.S., i'r gadair, ac ar y Ilwyfan yr oedd amryw o aelodau Seneddol, Mr. Thomas Gee, ac eraill o'r arweinwyr. Yr oedd cynrychiol- aeth o'r oil o'r cymdeithasau etholiadol ag eithvio Mon a Bwrdeisdfefi Dinbych. Ar gynygiad Mr. Lloyd George, A.S., pasiwyd penderfyniad cryf o blaid pum' pwuc :—Dadgygylltiad, diwygio deddfau'r tir, addysg, a'r trwyddedau, ynghyd a Mesur Hunan-lywodraeth i Gymru. Pasiwyd ef yn unfrydol. Etholwyd Mr. T. Gee yn Hywydd am y flwyddyn ddyfodol. Dewis- wyd pwyllgor trefniadol i weithredu hyd y Cyngor nesaf. Cynhaliwyd cyfarfod cy- hoeddus brwdfrydig yn yr hwyr dan lywyddiaeth Mr. T. Gee, a thraddodwyd areithiau gan y Prifathraw Edwards, Caer- dydd, Mri. Lloyd George, Brynmor Jones, Alfred Thomas, W. Jones, &c.
ARDDANGOSFA AltDDWROL CORRIS.
ARDDANGOSFA AltDDWROL CORRIS. Dydd Sadwrn diweddaf, cynhaliwyd yr Wythfed Arddangosfa Arddwrol, &c., Corris. o gychwyniad bychan, y mae hon erbyn hyn wedi d'od yn gyfryw ag y cysylltir a hi gryn bwysigrwydd, yn arbenig felly yn ystod y blynyddoedd diweddaf hyn. Heblaw arddangosiadau helaeth o gynyrchion gerddi, &c., ceir ynglyn a hi yn flynyddol bellach, gystadleuaethau dorus, megis Treialon Cwn Defaid, Hollti Llechau, Tyllu, Bicycle Race, &c. Trodd y diwrnod yn eithriadol o an- ffafriol o ran tywydd, ar wahan i'r anffawd ddigwyddodd i'r babell. Oni bai y pethau hyn, sicr genym yvr y buasai yn Arddang- osfa fwyaf Iwyddianus gynhaliwyd yma orioed. Y Llywydd eleni oedd M. Thomas, Ysw., C.S., un o sylfaenwyr yn ogystal ac un o brif gefnogwyr y sefydliad er y cychwyn- iad cyntaf. Yr ysgrifenydd yw Mr. Hugh Williams (Ap Idris), yr hwn, yn ol ei arfer, a wnaeth ei waith yn anrhydeddus. Mae ei fedrusrwydd a'i yni diflin ef ynglyn a phobpeth yr yinaflo ynddo yn adnabyddus. Deil Mr. E. Lewis, Gaewern Cottage, hefyd i gyflawni y swydd bwysig o drysorydd yr Arddangosfa, er boddlonrwydd i bawb. Mawr obeithiwn iddi droi allan yn llwyddiant mewn ystyr arianol. Llongyfarchwn y pwyllgor ar ansawdd ragorol ynghyd a llu- osogrwydd y cynyrchion y llwyddwyd i'w cael ynghyd. Yn canlyn wele restr o'r buddugwyr:— CYNYRCHION GERDDI. DOSBARTH A.— Cabbages white, R. E Jones, Carmel, D. J. Owen, Garneddwen Cauliflowers, Richard Davies, Penrhos, Vegetable marrow, W. M. Williams, B. G. Villa; Carrots, R. Davies, R. Hughes, Meirion House; Beet, J. Owen, Penrhos, 0. Owen, Troedyrhiw; Turnips, W. M. Williams, D. J. Owen; Parsnips, R. Davies, R. Hughes Spring onions, L. Jones, Dafarn Newydd, R. Hughes Autumn onions, R. Hughes, R. Davies; Potatoe onions, R. Davies, J. Price, Greenfield; Rhubarb, J. Jones. bolybont; D. J. Owen; Peas, Lewis Jones, W. M. Williams; Broad beans, R. Rees, Tanycoed, 0. Owen; Dwarf beans, R. Davies, W. M. Williams; Scarlet runners, R. Hughes; Leeks, Richard Hughes, W. M. Williams; Shallots large, J. Price; Shallots small, D. Jones, Pensarn, H. P. Morris, Gareglwyd; Parsley, R. Davies, J. Owen; Radishes, W. M. Williams, R. Davies; Lettuce, W. M. Williams, O. Owen; Early kidney, R. Edwards, Esgairgeiliog, T. Jones, Pensarn; Early round, W. M. Williams, J. Owen; Late kidney, M. Morris, R. Davies; Late round, M. Morris, H. Davies Goose- berries red, John Owen, W. M. Williams Gooseberris any other kind, M. Morris, Esgair- geiliog, Alun Jones, Post Office; Apples, R. Davies, Pantycelyn, William Jones, Ceinws; Currants red, Lewis Jones Currants black, W. M. Williams. CUT FLOWERS AND FLOWERING PLANTS. —Begonia in pot, Lewis Jones, Pensarn, W. Richards, Corris Fuschia in pot, R. Hughes; Asters, R. Davies, J. Jones, Pensarn; Dahlias single, R. Hughes; Dahlias double, Richard Davies; Pansies, H. P. Morris, R. Davies; Roses, R. Hughes, R. Davieu; Geranium in pot, J. Owen, Llwynygog, R. Hughes best collection of window plants, R. Davies. GERDDI.—Am yr ardd oreu, H. P. Morris, R. Hughes, Owen Owens, W. M. Williams. CYNYRCH GARDDWROL*. DCSBARTH C — Cabbages white, J. Lewis, Abercwmeiddaw, H. Owen, Braichgoch Inn; Cauliflowers, H. Owen, E. Lewis, Gaewern Cabbages red, H Owen; Celery, H. Owen, H. Davies, Aber- corris; Cucumbers, E. Lewis; Lettuce, H. Rowlands, Pantcoch, J. Lewis Carrots, H. Rowlands, E. Lewis Beet, Michael Roberts, H. Rowlands; Turnips, J. Lewis, H. Rowlands; Spring onions, H. Rowlands, H. Davies; Rhubarb, M. Roberts, H. Owen; Parsnips, H. Davies, H. Rowlands; Peas, H. Davies, H. Owen Broad beans, H. Davies, Michael Roberts; Dwarf beans, J Lewis, H. Rowlands; Scarlet runners, H Davies, J. Lewis; Leeks, H. Davies, H. Owen; Shallots large, H. Rowlands, H. Davies Shallots small, M. Roberts, H. Rowlands Parsley, J. Lewis, E. Lewis; Radishes, H. Rowlands, È. Lewis; Early kidney, J. Lewis, E. Lewis Early round, H. Davies, H. Owen Late kidney, E. Lewis, J. Lewis Late round, H. Davies, E. Lewis; Gooseberies red, H. Davies, Michael Roberts Gooseberies any colour, H. Davies, E. Lewis; Currants red, M. Roberts, H. Rowlands; Currants black, H. Rowlands, J. Lewis. CUT FLOWERS AND FLOWERING PLANTS. —Asters, J Lewis, H. Rowlands; Dahlias single, J. Lewis; Dahlias double, J. Lewis, H. Rowlands; Pansies, J. Lewis, E. Lewis; Roses, J. Lewis Fern in pot, J. T. Vaughan Collection of ferns by a child under 16, E. Jones, Dafarn newydd, M. Owen, Ty capel; Collection of wild flowers with names by a child under 16; E. Jones, Jane A. Davies; Collection of six distinct varieties of annual flowers, W. M. Williams. DOSBARTH n. (agored i bawb).—Cabbage white, R. Davies, W. Roberts, Abergynolwyn; Cabbage red, R. W. Jones, Towyn; Celery, R. W. Jones, W. Roberts; Cucumbers, R. Hughes, R. Davies; Cauliflowers, E. Griffith, Llanfachreth, W. Roberts; Spring onions, R. W. Jones, W. Humphreys, Abergynolwyn; Autumn oniens, R. Evans, Abergynolwyn, R. W. Jones; Carrots, R. Davies, J. Davies, Fronfelen; Turnips, Richard Davies, W. M. Williams; Parsnips, R. W. Jones, R. Davies; Tomatoes, R. W Jones Scarlet runners, R. Hughes, E. Griffith; Broad beans, R. Hughes, R. Evans French beans, E. Griffith, Richard Davies; Peas, Rees Evans, John Owen; Vegetable marrow, W. M. Williams, John Davies; Early kidney, R. W. Jones, Rees Evans; Early round, R. W. Jones, Richard Hughes; Late kidney, R. Davies, R. W. Jones. GWOBRWYON ARBENIG.—Dahlias single, R. Davies Dahlias double, R. Davies; Six dishes of vegetables, E. Lewis, John Lewis; Best collection of vegetables, R. Davies, R. Hughes; Yr ardd oreu ar ystad Abercorris, H. P. Morris, Gareglwyd, O. Owen, Troedy- rhiw; Cerfio ar gareg, H. Jones, Penygraig; Bicycle Race, J. Williams, Dinas Mawddwy, R. Jones, Mallwyd. Gwartho.g.—Am y fuwch oreu, Mrs. Evans, Aberllefenni, E. Evans, B. G. Farm. Cwn. -Collie, J. Jones, Nantyreira, J, Owen, Abercorris; Sheep dog, Welsh, H. Owen, E. Tudor, Esgairgeiliog; Spaniel, R. G. Owen, Corris, J. Williams; Smooth terrier. Mr. Williams, Borth, H. Pugh, Machynlleth; Dog any breed, R. Davies, Penrhos, Frank Birley, Fronfelen Welsh Terrier, M. H..Ellis, Llwyncelyn, a M. Roberts. Dofednod Cock and hen, Redcaps o'r Hamburg, E. Griffiths, iffynonbadarii; Cock and hen Minorcas, E. O. Hughes, Aberllef- enni, H. Owen; Cock and hen game any colour, J. Rees, Aberllefenni, J. Rowland, Tanycoed Cock and hen any other variety, W. Jones, Esgairgeiliog; Drake and duck, H. Rowland, Pantcoch, E. J. Thomas, Aber- liefenni Drake and duck any other variety, E. E. Owen, Garneddwen, J. Owen, Hen- ffactri. Ymenyn, &c. Ymenyn, A. Lewis, Machine, M. Hughes, Garneddwen, M. Ride; Wyau, J. Hughes, Bluemaris, Ellen Williams Mel, M. Roberts, Dinas Mawddwy, T. Davies, Llanbrynmair. Ilafutfawl.-Couple of trussed fowls, M. Griffith, Slaters' Arms, M. Ridge, Bryixllwyd; Loaf of white bread, C. Jones, Henshop, M. Thomas, Gwindy Oatmeal cakes, 0. Jones, Anne J. Owen; For splitting a block to the greatest number of slates the most even, J. Owen, Corris, R. Lewis, Aberllefenni, J. Ellis etc Do., for boys under 20, D. Davies, D. U. Davies, E. Lloyd Slate teapot stand, H. Jones, Penygraig Mantel border, H. Jones; Scythe sharper, W. Pugh, Garneddwen; Sugar tongs, W. Pugh Nnt nippers, W. Jones, Post office; Rope maker, Jcel Roberts; Birch broom, L. Jones, Dafarn newydd Slate splitting chisel, John Gittins; Double hand boring, T. A. Williams, Glandwyryd, R. Jones, Aberllefenni Single eto, E. Jones, Glanrafon, J. Richards, Tanyfron; Walking stick, W. Pugh. Arlunio.—Freehand drawing of a cow, A. E. Jones, Esgairgeiliog; R. O. Griffith, Penrhiw; Do., jug and basin, D. W. Wood, J. T. Evans, Frondeg; Map of Africa, W. Griffith, Penrhiw, W. Lewis, Gaewern. Giviiiadtvaith.-Tea cosy, M. Jones, Glanaber; Antimaccassar, M. Griffith, Slaters' Arms, Ann Owen; Set of D'Oyles, M. Jones, Glanaber; Door mat, Anne Owen, C. Davies, Pantycelyn Beaded pin-cushion, M. Jones, Glanaber Print over all, M. F. Davies Hose for a child, M. E. Davies, Glanydon; Button holes, M. E. Davies i Darning, M, F. Davies, Jane A. Davies Night dress case, J. A. Davies. Cneijio.- John Thomas, Tyglas, Robert Jones, Llwydiarth. Corlann Defaid.—1 a 2 Lewis Vaughan, Tyddyn- yberllftn, S. Williams, Rugog.
EISTEDDFOD GADEIRIOL CORRIS…
EISTEDDFOD GADEIRIOL CORRIS DAN FEIRNIADAETH. Syr,—Haeddiant y mymryn ysgrif anfonwyd i'r NEGESYDD gan Mr W. Williams, Aber- llefenny Farm, ydyw diystyrwch distawrwydd. Nid wyf yn cofio i mi erioed ddarllen dim mwy tila, di-bwynt, ac anfoesgar. Buasai yn cael dianc yn hollol ddi-sylw' oni bai am y posibil- rwydd i'w hysgrifenydd ac eraill dynu cam- gasgliad. Ac ar wahan i glirio ychydig ar yr awyr, dichon y llwyddir i wneyd peth lies i'r ymyrwr ei hun. Posibl y bydd yr oruchwyliaeth arferir tra yn tori ambell yswigen wynt yn ymddangos yn un led lem. Ond digied a ddigio, yr ydym wedi penderfynu na chaiff gorofal am dynerwch ein hatal rhag rhoddi y driniaeth a ystyriwn yn ofynol. Mewn un ystyr y mae yn dda genyf fod W. W. wedi cymeryd y maes ar bwnc yr Eisteddfod ac yn arbenig wedi ei gymeryd heb hugan ffug- enw. Hysbyswyd fi y buasem wedi ein breintio (?) a'i ysgrif un wythnos yn nghynt oni bai iddo fethu gweled ei ffordd yn glir i roi ei enw dani yn y modd a roddasai i'r darllenydd fantais i'w adnabod. Llongyfarchwn ef ar yr ychwanegiad presenol at ystorfa ei wroldeb. Y peth cyntaf ddaw dan ein sylw ydyw ei gyfeiriad at y chwedleuon y rhoddais awgrym chwareus am danynt. Dynaa fel yr ymddoctora W. W. uwchben yr awgrym hwnw :—' Hyd y gwn i, ni wnaed dim i'r cyfeiriad a nodwyd fel ag i ddrygu dim ar Iwyddiant yr Eisteddfod.' Ie siwr, hyd y gwn i.' Eglur yw fod terfynau eich gwybodaeth, fel pob meidrolyn arall, yn gyfyngedig, a mantais fawr yw tewi pan heb wybod. Soniais am y chwedleuon nid am eu bod wedi drygu yr Eisteddfod, ond er dangos eu bod yn ddi-sail. Ceisia W. W. roddi ar ddeall i mi grybwyll am duchangerddi i ardal- wyr Corris fel y cyfryw. Onid awgrymu am un i Ddyfeiswyr ystoriau gau' a wnaethum ? Nis gallaf lai na thybio fod rhywbeth tebyg a dweyd y lleiaf, i falais wenwynig yn llechu yn bur agos i galon yr un allai lunio ac ysgrifenu y braw- ddegau sydd yn niwedd y paragraff cyntaf. Cyn gadael pwnc y chwedlau yma, nid anfudd- iol fyddai adgoffa fod chwedl arall wedi ei geni yn ardal Corris er ymddangosiad ei ysgrif. Y chwedl yw hon Nad yw W. W. ond twlyn yn llaw arall neu eraill yn y drafodaeth hon. Chwedl ddi-sail yw hon mae'n dra thebyg. Os felly, disgwyliaf y daw yn gefnogol i'm testyn, a phosibl y daw yn barod i chwanegu at y wobr. Sylwer, nid yn unig gwneir cais i greu atgasedd tudg ataf fi yn bersonol, ond amcenir hefyd osod y Pwyllgor a'r Corrisiaid yn ddau barti anghydgordiol. Ond dilys genyf fod craffder y Corrisiaid yn ddigon i'w cadw allan o rwyd fel hon. Gwyr y Pwyllgor yn dda am y rhan ar- benig fu ganddynt yn nghyfodiad yr oil o'r corau. Gwyddant hefyd iddynt gael yr ael- odau yn gwbl barod i ymuno, ac ar ol ymuno, canasant yn deilwng o ardal gerddgar Corris. Gwelir felly fod y methiant' a'r I Ilwyddiant' y sonia W. W. am dano ynglyn a chodi'r corau yn bodoli yn unig yn ei ben ef ei hun. Do, cafodd yr Eisteddfod gefnogaeth ardderchog gan gyfangorph yr ardaloedd, ac o ddyfnder calon diolchir am y cyfryw. Methwn yn lan a deall beth sydd yn tueddu W. W. i wneyd cyfeiriadau mor sarhaus at y Pwyllgor. Os honodd rhywrai 0 honynt eu bod yn hufen yr ardal,' pa niwed sydd yn hyny? Heb fyned i athronyddu beth yw hufen llefrith na hufen ardal,' dywedwn yn ddibetrus ei fod yn Bwyllgor digon hufenaidd i gael ei barchu, a chredwn mai ychydig ddiolch dderbynia y neb a'u bychana heb achos. Yn awr, dilynwn yr awdwr i dir ei siomedig- aeth ar ol darllen fy eglurhad. Dyma fel y llefara Ond er fy siomedigaeth eglurhad annigonol yw, ni cheir ynddo ond swp o haer- iadau heb gymaint ag un prawf.' Hawyr bach, ni wyddwn fod gwr mor orad i,1d yn byw mor agos ataf Cofiecl pdwb a ddymuna gynyg eglurhad rhagllaw am y gorseddedig oracl hwn fel na'i siumer mwy. Yn dilyn ceir dau b tragraph ydynt yn ardd- angosiad o fedc \V \V. fel ymresymwr Wrth fyned drwy y brawddegau hyn, y mae yr arddull mor wasgarog ac i fesur yn wallus, fel y mae dyn weithiau mewn penbleth i wybod yn sicr beth sydd ganddo mewn golwg. uwn ef yn bur debyg i ddyn gyda mwgwd rhagfarn ar ei lygaid, yn mynu curo ei ben yn erbyn parwydydd ei gam-gasgliadau ei hun. Dy- laswn ddweyd, meddai W. W., a phwy yr ymgynghorais Er mwyn pwy neu beth y dylaswn ddweyd, tybed ? Pa egwyddor sydd yn oblygedig mewn dweyd neu beidio dweyd ? I bawb ydynt yn meddu meddwl clir i iawn- farnu myntumiaf fod yr eglurhad a roddwydyn ddigonol. Canfyddir fod ffordd chwithig \V. W. o ymresymu wedi peri iddo gasglu fod yn rhaid fy mod weJi ymgynghori a rhywrai cwbl wahanedig oddiwrth y Gwyr Ieuaiuc a ffurfient y Pwyllgor. Nid wyf yn dymuno bod yn hallt mewn beirniadaeth, ond yn sicr nid yn hawdd y ceir engiaitft o resymeg druenusach na hon. Gwn y cenfydd y darllenydd eudeb ei osodiad a geudeb ei gasgliad. Waeth heb ddyfetha gofod, digon yw dweyd fod yr ymresymiad oil yn un coeg, cibddall, ac anghywir. Yn sicr i chwi, nid peth fel hyn a'm hatalia rhag honi yma eto fod pobpeth wedi ei wneyd yn gwbl reolaidd ac anrhydeddus; a rhoddaf eilwaith her i undyn i brofi drwy resymeg deg, fod yn nglyn a'r Pwyllgor na'r Eisteddfod ddim anghyfansoddiadol na dim ag arlliw gwaith under-handed arno. Gwn yn dda fod y Pwyllgor yn barod i ddwyn tystiolaeth fod y cyfan oil o'r cychwyn hyd y terfyn wedi eu cario yn mlaen 'yn ngwyneb haul llygad goleuni.' Yn awr, gofynaf i Mr. W. Williams dderbyn yr her hon. Dealled mai nid y fi sydd i ymwaseiddio i fyned i ateb ei gwestiynau ef. Gorphwys baich y cyfrifoldeb o angenrheid- rwydd arno ef. Efe ddylai brofi yr hyn y mae mor anfoneddigaidd wedi ei ensynio. Os na wna hyn, bydd gan y darllenydd hawl i dynu ei gasgliad naturiol am dano, ac am y safie wrthun yr arweiniwyd ef iddi, Gorfodir fi i ddweyd gair neu ddau lied finiog parthed y cwestiynau a geir ar derfyn yr ysgrif. Teimlaf en bod yn rhai hynod an- foesgar, ac y mae urddas fy natur yn gwrth- dystio yn erbyn i mi ymostwng i'w hateb er mor hawdd fuasai hyny. Beth fuasai W. W. yn ei feddwl 0 honof fi, tybed, pe cyfeiriasiwn nifer o ofyniadau ato gan awgrymu nad wyf yn derbyn ei air am y pris dalwyd ganddo am fuwch neu geffyl, am bod yn hawlio y manyl- ion yn y ffordd o enw y gwerthwr a chopi o'r receipt, ac heblaw hyny fy mod yn ensynio na chredwn fod y drafodaeth yn un reolaidd ac anrhydeddus heb bob manylion o'r natur a nodwyd. Byddai genyf yr un hawl i wneyd y peth gwrthun ac anfoneddigaidd yna ag sydd ganddo yntau i'm coeg holi fel y gwna. Am wn i nad allaf ystyried y llith hwn yn derfynol cyn belled ag y mae a wnelwyf fi a'r drafodaeth; hyny yw, oni chyfyd rhywbeth cysylltiedig a. mi a'r hyn ysgrifenais. Ond os cir W. W. ysgrifenu rhywbeth yn dal perthynas a'r Pwyllgor a'r Eisteddfod, mae yr Ysgrifen- ydd llengar Ap Idris wedi addaw cymeryd y ddadl mewn llaw. Ganddo ef mae y cofnodion o weithrediadau y Pwyllgor, a thra yr erys y rhai hyn, gellir yn hawdd fforddio teimlo'n ddiogel er herio pob ymyrwr. Unig bwnc y ddadl yw, A sylfaenwyd yr Eisteddfod yn rheolaidd ac anrhyd- eddus ? Do, meddaf ft. Do, meddai'r gwyr craff a goleuedig a gyfansoddeiit y Pwyllgor. Yn awr, dyma'r her, Profer i'r gwrthwyneb. Ni honir perffeithrwydd, ond honir fod y cyfau oil yn gwbl reolaidd a chlir o bob arlliw hoced. Cyn sychu yr ysgrifbin, dymunwn ddweyd gair fel hyn wrth W. W., yr hwn sydd ddieithr ddyn hollol i mi. Gallaf eich sicrhau mai o anfodd y darfu i mi ysgrifenu y feirniadaeth hon ar yr eiddoch. Gwyddoch i chwi amcaiiu gwneyd cam difrifol a mi, a hyny yn hollol annheg a di-achos. Sicrhaf chwi na lwyddwcli i'm dilorni i, heb ddi- lorni Pwyllgor sydd a'u barn a'u cymeriadau uwchlaw amheuaeth. Gwyliwch gyfaill rhag cymeryd eich arwain yn ddyfnach eto i glai tomlyd eich amryfusedd. Yr eiddoch yn ddiogel, gydag asgre I.An.-LLIIION.
IMARWOLAETH PARCH. T. HUGHES,…
MARWOLAETH PARCH. T. HUGHES, MACHYNLLETH Dydd Gwener, ar ol cystudd o oddeutu mis, bu farw y Parch. T. Hughes, yr hwn a adnabyddid fel y I Parch. Thomas Hughes, Machynlleth,' yn Nghaergybi. Yr oedd wedi cyraedd yr oedran teg o 95. Cafodd ei ordeinio yn 1822. Oddeutu 15eg mlynedd yn ol, symudodd i Gaergybi at ei fab-yn- nghyfraith a'i ferch, gyda'r rhai y treuliodd weddill ei oes. Cymerodd y gladdedigaeth le dydd Mawrth, yn Penmorfa, Tremadog. Brodor ydoedd o Trawsfynydd. Bu yn athraw yn nheulu y Parch. Rd. Jones, Wern, ae yna yn cadw ysgol yn Ffestiniog. Sym- udodd i Lanelltyd, ac oddiyno i Machynlleth, lie y darfu iddo dreulio y rhan fwyaf o'i oes. Teithiodd dros Gymru am gyfnod o haner canrif, ac yr oedd yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd. Cyhoeddodd lyir bardd- onol, a elwir Y Garuedd Arian.'
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. YR YSGOL SIttOL.-Da genym glywed am Iwyddiant y ddau ymgeisydd a safasant arholiad Matriculation Prifysgol Cymru eleni, sef Mr. G. A. Edwards, mab i'r di- weddar Barch. O. Edwards, Melbourne; a Mr. E. Owen, Cross Keys. O'r Ysgol hou llwyddodd 7 i basio arholiad South Ken- sington Mri. G. C. Williams, Maesyffynon M. H. Roberts, Penybanc; A. Roberts. Workhouse; Percy St. Clair; W. M. Jones, Golden Goat; W. Roberts, Springfield street; a L. Jones, Brynteg. Llwyddodd y rhai canlynol mewn Fferylliaeth :-Dosbarth I., Mri. G. W. Williams, Derwen House; E. Owen; Percy St. Clair; a G. James, Frondirion. Dosbarth II., Mr. Richard J. Edwards, Penbryn View.
PICO LLOCELIAD YN FFAIR MACHYNLLETH.
PICO LLOCELIAD YN FFAIR MACHYNLLETH. Dydd Mawrth, 0 flaen yr Ynadon, cyhudd- wyd dyn a dynes o ladrata pwrs yn cynwys 7p. 13s., o logell Mr. John Owen, Penllyn, Iowyn, tra yr oedd yn myn'd i'r tren. Gohir- iwyd yr ymchwiliad.
BWLCH, ger TOWYN.
BWLCH, ger TOWYN. Nos Luu, daeth cynulliad iluosog ynghyd i gapel y M.O., y Bwlch, pryd y darfu i blant yr eglwys gyfiwvno Silver Tea and- Cojfee Service yn anrheg briodusol i'r Parch, a Airs. James, Llanegryu. Llywyddwyd y cyfarfod gau Mr. G. Hughes" Tyceryg, yr hwn a roddodd dystiolaeth ueliel i lafur ac ymdrechion Mr. James yn eu plith. Caed auerchiadau gall swyddogion yr eglwys ac eraill; gwnaeth y beirdd a'r cantorion eu rhau i gadw i fyny ddyddordeb y cyfarfod. Diolchodd Mr. James yn gynes am yr am- lygiad hwn eto ou teimladau tuag ato ef a'i briod.
Family Notices
PRIODAS. EDWARDS—HOWELL.—Awst 2il, yn Nghapel Pennant, Llanbrynmair, gan y Parch. J. Jones, Mr. T. Ll. Edwards, Rotherhithe, Llundain, a Miss S. A Howell, merch hynaf Air. A. P. Howell, Llanbrynmair. MARWOLAETHAU. IDRIS.—Gorphenaf 29, Gladys Lillian, plentyn ieuangaf T. H. Williams-Idris, Ysw., 58 Lady Margaret Road, Llundain, yn chwe' mlwydd oed. WIGLEY.Gorplienaf 25, yn 41 oed, Mrs. M. Wigley, Rhosgoch, irefeghvys. Yr oedd yn aelod ffyddlawn o eglwys y Graig.
Advertising
OS YDYCH AM FWYNHAU IECHYD DA Y GWEDDILL O'H FLWYDDYN, DEFNYDDIWCH BITTERS GWILYM EVANS. Cynwysa y Meddyglyn rhagorol hwn rin- weddau iachaol ac adgryfhaol y prif lysiau meddyginiaethol adnabyddus trwy yr holl fyd. Cymeradvvyir gan FEDDYGON, DADANSODDWYR, A FFERYLLWYR, A cha nmolir gan bawb sydd wedi rhoddi prawf ami fel Medclygirriaeth Oreu yr Des. A phob math o wendid. Y mae yn gwella doluriau a chlwyfau yn yr Ymysgaroedd, yr Arenau, a'r Afu, ac yn feddyginiaeth sicr iddynt. BITTERS GWILYM EVANS. 1YSTIOLAETHAU. Mae'r cryd a'r mwyth, a Uesgedd, A phob anhwyldeb blin, o fiaen y Quinine Bitters, Yn ffoi i'w le ei hun. CYNONFARDD. PYLE, AWST ITeg, 1897. LLESGEDD. Anwyl Syr,—Pan ddychwelais adref ychydig ddyddiau yn ol, ar ol llafurio galed am rai wythnosau, teimlwn yn lluddedig iawn, ac wedi llwyr ddiffygio, ac mewn angeii am douic da i'm liadgryfhau. Anogwyd fi i roddi prawf ar eich Quinine Bitters euwog. Gwnaethum liyny, a chefais ef yn hyuod elteithiol. Mae yn rhoddi yni newydd yiiof, ac yn bywiocau yr ysbryd; mewn gair, teimlaf ei fod yn gwneyd dyn newydd o honof.—(Parch.) GUKNOS JONES BITTERS GWILYM EVAN8. RHYBUDD °%jia Gochelwch Dwyllwyr. Edrychwch fod enw Gwilym Evans ar bob label, stamp, a photel. Gwerthir hwynt mewn poteli 2s. 9c., a 4s. 6c. yr un; Blychau yn cynwys tair potel 4s. 6c. am 12s. 6c. I'w cael yn mliob man, neu danfouirlxwy yn rhad am y prisiau uchod yu ddyogel drwy y post oddiwrth y percheuogion,- QUININE BITTERS MANUFACTURING COMPANY LIMITED, LLANELLY, SOUTH WALES. GOEUCHWYLIWE YN AMEHICA- Mr. R. D. WILLIAMS, Plymouth, Penn. Dillad Newyddion at yr haf D YM UNA EVAN JONES, CEMMES, llysby su pawb sydd yn bwriadu cael dillad newyddion at yr Haf, ei fod wedi cael STOC HELAETH o ddefnyddiau dillad i ddynion a iiierched, A'i fod wedi sicrhau gwas- anaeth GW EITH WY R PKOFIADOL, fel y bydd i bob dilledyn gael ei droi allan yn ffitio, ac yu y Style niwyaf diweddar. Pobpeth yn newydd Pobpeth yn dda.
AMRYWION.
AMRYWION. Dydd Gwener, ymadawodd cyfran o'r fyddin Brydeinig dan arweiniad y Cadfridog Kitchener ar yr ymgyreh i Khartoum yn erbyn byddin y Mahdi. Claddwyd y Tywysog Bismarc yn Fried- richsruh, dydd Mawrth, mewn dull syml a dirodres. Yr oedd yno tua 40 o alarwyr, ac yn eu plith yr oedd Ymherawdwr ac Ym- herodres Germani. Nid oes dim argoelion heddwch rhwng y pleidiau yn y Deheudir. Mae Cwmni Glo Tredegar yn trefnu i gymodi a'u gweithwyr ar wahan i Gymdeithas y Meistri, ar sail llithr-iaddfa gyda safon-bris isaf cyflog. Gweithia 4,000 yn y glofeydd hyn. Cymerodd damwain alaethus le dydd Llun, yn Moat Lane Junction, ar Linell y Cambrian. Tra yr oedd Edward Bolas, yr hwn a brofai yr olwynion, yn sefyll ar y llinell, cymerodd tren gyfeiriad gwahanol wrth shuntio i'r hyn fyddai arferol. Heb sylwi arno, tarawyd Bolas i lawr, ac aeth olwynion y cerbydau dros ei frest, fel y bu farw yn y fan.