Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
20 erthygl ar y dudalen hon
eirtio1:t ?t' t1.)elt.
eirtio1:t ?t' t1.)elt. Y FUWCH. Y fuwch rydd faeth tew laeth i'n tylwythau, 0 hon cawn allan wer in canwyllau O'i hesgyrn, a'i chroen, ei chyrn a'i charnau, O mor rinweddol, gwneir amryw nwyddau Cig hon wna i'n ceginau—fwyaf lies Hi yw arglwyddes deg y gweirgloddiau. TALIESIN HIRAETHOG.
Y DYN ODDIALLAN A'R DYN ODDIMEWN.
Y DYN ODDIALLAN A'R DYN ODDIMEWN. Nid dau ddyn sydd genyf mewn golwg, ond gwahanol agweddau ar un dyn sef yr ochr fewnol a'r ochr allanol iddo. Ac mewn cys- ylltiad a'r agweddau hyn y mae diffyg mawr y genedl, yn neillduol yr ienenctyd, yn dyfod i'r golwg-mewn cysylltiad a chorff a meddwl; sef addurno y corff ac esgeuluso y meddwl; rhoddi pob moethau i'r corff ond newynu y meddwl. Dywed Bacon am ddyn, mai yr hyn a wyr ydyw y dyn ac mae lie i gredu a gofidio cyn lleied a wyr dynion ein gwlad ac mor ddiymdrech am wybodaeth ydyw llawer o'n hieuenctyd. Pa le y ceir dyn ieuanc wedi darllen y Gwyddoniadur P Mewn pa faint o dai y mae yn ein gwlad. Dywed hen wireb mai addurn y ty ydyw y llyfrgoll. Os gwir hyn, rhaid coelio fod llawer iawn o dai di- addurn iawn. Y mae cof dyn yn debyg i adeilad yn cynwys llawcr o astellod, ac ar yr astellod hyny y mae gwybodaeth wedi ei rhoddi. Carwn weled dyn a dillad da a thrwsiadus am dano, ond nid gwisgo uwchlaw ei sefyllfa. Myn gweithwyr, mewn rhai manau, y dillad meiniaf a mwyaf costfawr, a'r addurniadau mwyaf drudfawr. Ie, pe heb dalu am danynt, rhaid eu cael; y cadwyni mwyaf praff i groesi y fron, a modrwy emog am y bys, ac yn ben ar y cwbl, ac at y wialen felen, ceir pibell lied werthfawr yn codi ei choes allan o logell y wasgod a rhaid cael y myglys goreu. Ond yn nghanol yr holl rwysg nid oes ond anwy- bodaeth yn ymsymud.-MIN Y MYNYDD.
Y CYNHAUAF.
Y CYNHAUAF. Dywedir yn gyffredinol na fu blwyddyn mor gynyrchiol a hon er's llawer o flynyddau. Nid oes neb yn cofio cnydau mor drymion o wair, a chafwyd ef hyd yn hyn i ddiddos- rwydd heb odid ddim gwlaw. Y mae'r yd hefyd, er nid mor doreithiog a'r gweiriau, yn rhagorol pen godidog ar yr haidd a'r ceirch, tra nad yw y gwenith fawr ddim ar ol. Disgwylir toraeth angliyffredin hefyd o wreiddiau, gan fod y maip a'r rwdins wedi adenill eu diffygion yn neclireu y tymor; ac y mae'r pytatws yn codi yn rhagorol. Ofnid ar ddechreu y tymor y buasai diffyg yn nghynyrchion y berllan, ond er mai lied brin ydyw'r eirin, y mae cyflawnder o afalau. Rhwng y cwbl, gall ein cyfeillion, yr am- aethwyr ganu yn galonog iawn yr emyn hwnw o ddiolchgarwch, 'I Dad y trugar- r, ZD eddau i gyd,' &c. Yn yr iseldirodd mae'r cynhauaf wedi dechreu yn lied gyffredinol. Cafodd y cnydau eu euro i lawr yn dost gan wlawog- ydd trymion yr wythnos ddiweddaf. Pal. hyn gryn chwanegiad at y draul o'u tori, gan nad ellir defnyddio'r peirianau, ond gydag awel dyner a haul cynes, hyderir na cha'r cnwd sydd ar lawr lawer o niwed.
PABYDDIAETH YN NGHYMRU.
PABYDDIAETH YN NGHYMRU. Haner can' ^mlynedd yn ol, nid oedd yn Nghymru a Mynwy, ond 11 o gapeli Pab- yddol yn ffurio esgobaeth a elwid Apolonin' Yn neuddeg Sir Cymru nid oedd ond naw capel, tri yn Morganwg, dau yn Fflint, un yn Brycheiniog, un yn Dinbych. Yn bres- enol mae 90 o fanau addoli gan y Pab yn Nghymru a Mynwy, yn gwneyd cynydd o 79 er 1847. Rhif y capeli yn y Deheudir ydyw 41. Yn Ngogledd" Cymru, lie nad oedd ond pedwar 50 mlynedd yn ol, mae heddyw 23 o gapeli. Yn ychwanegol at hyn, ceir amryw ysgolion dyddiol, hefyd coleg Jesuitaidd yn Tremeirchion, a Mynachlog ger Treffynon.
ANGLADO Y PARCH. THOMAS HUGHES,…
ANGLADO Y PARCH. THOMAS HUGHES, MACHYNLLETH. Claddwyd gweddillion y gwr adnabyddus a hybarch uchod dydd Mavvrth, yn mynwent Peninorfa, Tremadog. Yn y ty, yn Nghaer- gybi, gweinyddwyd gan y Parch. R. E. Williams, Llaingoch, ac ar lan y bedd yn Mhenmorfa gan y Parch. T. Owen, Poith- madog, yr hwn a sylwodd ar ei uodweddion fel dyn a phregethwr. Er nad oedd yr angladd yn gyhoeddus, teithiodd llawer o bell i dalu'r gymwynas olaf iddo, ac yn eu plith yr oedd Mri. D. Evans, cyfreithiwr, Machynlleth; H. B. Jones (GarmonyddJ, Glyn Ceiriog; Francis Jones, Caergybi, heblaw wyrion ac eraill. Heddwch i'w lwch, a nodded Duw ar y rhai alarant ar ei ol,
-___âffau.
âffau. GAN LLEW. Bydd Tabernacl Spurgeon yn barod i gael ei agor ymhen deuddeng mis. Bernir y bydd yr holl gost i'w adeiladu yn cyraedd y swm o 32,000p. Dywedir fod symudiad ar droed i geisio cael gan un o Brifysgolion blaenaf yr Unol Dalaethau i roddi y teitl o Ddoethwrmewn Duwinyddiaeth' yn flynyddol i Gorph y Methodistiaid i'w gyflwyno i'r gwr ddyrch- eiir ganddynt i gadair eu Cymanfa Gyffred- inol! Ymborthi yn ddoniol yr oedd y Cenawon y dydd o'r blaen ar ryw gyfieithiad Cymraeg a ddaeth o dan eu palfau, o'r llinellau adnabyddus hyny geir mewu rhifyddiaeth, Thirty days hath September.' Tri deg o ddyddiau sy'n gyfanedd Yn Mehefin, Ebrill, Tachwedd Yn y lleill mae un yn rhagor, Ond wyth ar hugain sy'n mis Chwefror.' Gweithred dda ydyw eiddo Mr. D. Hughes, Lerpwl, yr hwn a adeiladodd Neuadd Gy- hoeddus yn Nghemaes, Mon, ac a'i rhoddodd yn anrheg i'r ptntrefwyr, heb son, meddir, am sect, plaid, nac arall. Os felly, mae i'w ganmol am ei ryddfrydigrwydd. Costiodd oddeutu 2,500p. Hyderwn y bydd bechgyn t,Y v fro yn manteisio ar y cyfie rhagorol yma i ddiwyllio a choethi eu meddyliau, &c. Fe ddylai y Monwysiaid fod yn falch o'r bon- eddwr haelfrydig hwn. Dirwywyd dyn yn un o drefi y Gogledd, yr wythnos o'r blaen yn drwm am werthu diodydd meddwol heb drwydded. Winciai y tafarnwyr ar eu gilydd, a chwarddent yn eu llewis yn braf with weled y truan liwn o dan y fflangeil. Eithr pan- ddelir rhai o honynt hwy weithiau yn rhwyd cyfiawnder, ni bydd diwedd ar eu chwyrniadau. Nid oes genym ronyn o gydymdeimlad a dynion fydd yn ceisio gwerthu diodydd alcoholaidd heb drwyddedau priodol, ac mae genym yr un faint a'r rhai sydd yn gwerthu gyda thrwyddedau. Mae y naill fel y Hall yn gymaint gelynion i ddynoliaeth a daioni. O'r diwedd, mae Spaen wedi derbyn amodau heddwch America. Llawenydd mawr ydyw gweled y rhyfel hwn yn terfynu ac yn enwedig yn terfynu fel y gwna. Bellach ceir y gorllewin wedi ei ysgubo yn llwyr o hunllef y Spaeniaid gormesol, a eha' Ynysoedd Cuba a Port Rico wybod am y waith gyntaf beth ydyw rhyddid a gwar- eiddiad. Yn awr y deuant hwy allan gyntaf o'r cauol-oesau ond y cwestiwn yw a ddefnyddiant hwy eu rhyddid yn briodol wedi ei gael. Hawlia yr Ianci uchel gym- exadwyaeth am y gwaith rhagorol a wnaeth yn Cuba. Dydd Iku diweddaf, neillduwyd brawd ieuanc o'r enw Mr. J. T. Parry, o Brifysgol Caerdydd, i gyflawn waith y weinidogaeth yn eglwysi Cilcenin a Dihewyd. Traethwyd ar Natur Eglwys' gan y Parch. J. M. Prytlierch, Wern. Holwyd y gofyniadau arferol gan y Parch. Lloyd Owen, New Quay. Offrymwyd yrj' Uidd-Weddi' gan y Parch. J. Carolau Davies, Tynygwndwn. Rhoddwyd Siars i'r urddedig gan y Parch. E. Evans, Llanbedr, ac i'r eglwysi gan y Parch. Cadfwlch Davies, St. Clears. Pre- gethwyd yn ystod y cyfarfodydd gan y Parchn. Howell, Barry, Williams, Cilfynydd, Jones, B.D., Pencadair, a Davies, Panteg. Cafwyd cyfarfodydd buddiol iawn, am fod y pregethau yn ymarferol a gafaelgar. Mae gan Mr. Parry faes rhagorol i weithio ynddo, nid yn unig am fod y maes yn eang, ond am fod yno waith i'w gyflawni.
CORRIS.
CORRIS. YR YSTAFELL GYHOEDDUS.—Mae cylch- lythyrau wedi eu hanfon i'r gwahanol eglwysi ynglyn a'r uchod, ac yn gofyn iddynt benodi dau gynrychiolydd i gyfarfod y boneddwr anturiaethus sydd yn cynyg adeiladu yr Ystafell uchod yn Nghorris. Hyderwn y bydd iddynt oil gyd-synio, ac y cyferfydd yr holl gynrycliiolwyr nos Fawrth nesaf, Awst 23, yn Ysgoldy y Bwrdd, er mwyn symud ymlaen yn ddi-ymdroi tuag at ei sicrhau.—LLWYDRUDD. YR ARDDANGOSFA.—Dymunir gwneyd yn hysbys drwy hyn, y bydd CYFARFOD CY- IIOEDDUS yn cael ei gynal yn yr Ysgoldy Cenedlaethol, nos Wenei Nesaf (Awst 19), am 7 o'r gloch, er talu Gwobrwyon yr Ar- ddangosfa ac hefyd er ethol swyddogion a Phwyllgor am y flwyddyn ddyfodol. Gwa- hoddir yn daer holl drigolion y cylch i fod yn bresenol.—H. WILLIAMS, YSG.
ABERDYFI,
ABERDYFI, YMWELWYR URDDASOL -Ceir ymhlith yr ymwelwyr ag Aberdyfi yr wythnos hon Lady Somerset, Syr a Lady Grant, ynghyd a Lady Dixie. Y BYWYD-FAD.-Dydd Llun, lansiwyd y bywyd-fad. Yr oedd tyrfa fawr yn edrych gyda boddineb ar y seremoni. Aed o amgylch a chasglwyd swm da o arian.
MAWREDD.
MAWREDD. Cyfansawdd iawn yw y gair 'mawredd.' Gelwir Gladstone yn fawr, a Bismarc hefyd yn fawr ond y mae cryn wahaniaeth rhwng y ddau. Y tuallan i gylch eu galwedigaeth, sef gwladlywiaeth, yr oedd Gladbtone yn fawr feIllenor a dysgawdwr, a Bismarc yn fawr fel bwytawr, yfwr, ac ysmygwr. Llo bynag y gwelir Gladstone, gwelir llyfr yn agos; y mae arogl llenyddiaeth ar ei fywyd, a pherarogl crefydd ar ei holl weithredoedd ond lie bynag y canfyddir Bismarc, gwelir jiwgiad o gwvw, a chloben o bibell gerllaw yn dwyn delw y daearol.
CYFRAITH BRATHIADAU CWN.
CYFRAITH BRATHIADAU CWN. Yn Llys Sirol Whitechapel, Llundain, dygodd Mrs. A. Gall, gynghaws yn erbyn cymydog iddi o'r enw Mr. England, yn gofyn iawn am niweidiau a gafodd drwy i'w gi ei brathu. Y Barnwr Bacon a ddywedodd nad oedd y wraig yn gydnabyddus a'r gyfraith, yr hon a ganiatai i'r ci gael ei frathiad cyntaf. Tuag at gael iawn yr oedd raid profi fod y el ci yn un peryglus, a bod ei bei-elionog yn gwybod hyny. Ni wyddai yr erlynes ddim o hanes y ci; dywedai mai cyfraith ryfedd ac anghyfiawn hollol ydoedd yn ymddangos, ac y dylid ei new id. Dyfarnwyd o blaid y diffynydd gyda'r costau.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. Y LLYS SIROL.-Dydd Gwener, o flaen y Barnwr W. Evans, W. H. Truscott, Terrace Road, a erlynai Herbert Watts, Caradog Terrace, am 9p. 13s., pris modrwy diamwnt a werthwyd iddo Hydref diweddaf. Rhoed dyfarniad o blaid yr erlyniad.—Mrs. Roberts, Draper, Borth, gweddw y diweddar R. P. Roberts, a erlynai Cadben Williams, Borth, am y swm o 12p. 5s. am nwyddau a gafwyd. Gwraig y diffynydd a wadai y ddyled. Rhoddodd y barnwr ddyfarniad dros yr erlynydd, a'r swm o 10s. y mis i'w dalu.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. Mae Mr. William Parry, trydydd mab y diweddar Mr. John Parry, o waith aur y Clogau, yn awr ar ymweliad a'r wlad hon. Mae Mr. Parry yn fasnachydd haiarn llwyddianus yn Utica, N.Y., ac yn flaenllaw gyda symudiadau Cymreig talaeth New York. GWIBDAITH.—Cymerodd gwibdaith flyn- yddol y M.O. a'r Wesleyaid le dydd Mercher, pryd yr aeth dros 500 i dreulio'r diwrnod i Aberystwyth, er i'r tywydd droi i raddau yn anffafriol. YR YSGOL SIROL.—Bu Dr. Edward Jones mor ffodus a derbyn lOOp. arall oddiwrth Mr. Henry Tate at yr YE-gol Sirol yn y dref, yr hyn a addawyd ganddo ar y telerau y buasai 500p. yn cael eu casglu gan y cyhoedd. Dyma'r drydedd rodd wnaed ganddo at y sefydliad hwn. Dylid yn ddiau gydnabod ymdrech barhaol Dr. E. Jones, cadeirydd y Llywodraethwyr, tuag at Addysg Ganolraddol y cylch. Bydd yr adeilad ardderchog a godwyd yn golofn iddo am lawer cenhedlaeth. LLYS YR YNADON.—Gerbron Dr. E. Jones, Dr. J. E. Jones, ac R. W. Williams, Ysw., cyhuddwyd Evan Edwards gan D. Baulk, beili Mr. O. R. Williams, Dolmelynllyn, am ladrata wire netting a gate, eiddo Mr. C. R. Williams. Addefodd y diffynydd ei euog- rwydd, a dirwywyd ef i dalu 20s. gyda cherydd llym.
ADDYSG GANOLRADDOL MEIRION.
ADDYSG GANOLRADDOL MEIRION. Cynhaliwyd cyfarfod arbenig o'r pwyllgor dydd Gwener, Dr. E. Jones yn y gadair. Darllen wyd llythyr oddiwrth Mr. D. H. Davies, yn ymddiswyddo o fod yn Brifathraw Ysgol Sirol Towyn ar ei apwyntiad fel Prifathraw Ysgol Sirol Dinbych: Derbyn- iwyd yr ymddiswyddiad, a phasiwyd fod tymor gwasanaeth Mr. Davies yn terfynu Awst 17. Nod wyd wyth o bersonau i fod yn bwyllgor dewis prifathraw newydd.— Darllenwyd llythyr yn hysbysu fod y Parch. D. Hughes, ficer, Llanegryn, yn cytuno i dalu 15p. y flwyddyn am y. ty yn Llanegryn, a gwneyd yr adgyweiriadau gofynol arno.— Gan fod Llywodraethwyr Ysgol Ffestiniog ) wedi gwneyd ymrwymiad am swm digonol at godi yr adeiladau llewydJion, cytunwyd i osod y gwaith gyda chymeradwyaeth y Dirprwywyr Elusenol, I
PENOD YR ENWOGI Ji\
PENOD YR ENWOGI Ji\ CADIXTO GARCIA. Nid annyddorol nac anamserol o bosibl. fydd ychydig- o hanes y gwr uchod, sydd wedi cyraedd enwogrwydd yn'y cymeriad o arweinydd neu benaeth y gwrthryfelwyr yu Cuba. Brodor o Cuba ydyw Garcia, ac mae yn awr oddeutu 60 mlwydd oed. Ym ddengys mai bywyd caled fu ei ran fel Insurgent, a bod hyn, yn ogystal ag iddo fod droion yn garcharor politicaidd, wedi bod yn foddion i chwerwi ei ysbryd, ac i weitho allan o'i natur ei dynerwch cyntefig. Yn nyddiau boreuaf ei ymdrech gyda Spaen, dywedir iddo arfer llawer o dynerweh a charedigrwydd tuag at y Spaeniaid a gym- erid ganddo yn garcharorion. Dilynwyd ei ymdrechion gan lvvyddiant arbenig. Anfonodd y Spaeniaid allan o'r naill dref ar ol y llall. Yn fuan, dyrch- afwyd ef i'r swydd o Brigadier General, ac am ysbaid, bu yn dal y swydd o Brif Gadlywydd yr Insurgent Forces. Oddeutu diwedd y flwyddyn 1873, ymosodwyd arno ef a rhyw ugain o filwyr, gan 500 o filwyr Spaenaidd. Wedi ymladdfa ddewr a'r llu anghyfartal hwn, yn hytrach na goddef cael ei ddal gan y gelyn, saethodd Garcia gynwys llawddryll i'w enau, a syrthiodd ymysg ei gyfaillion lladdedig. Cariodd y Spaeniaid ei gorlf marw (fel y tybient hwy), mewn llawenydd a rhialtwch i Mansanillo ond er eu syndod, deallwyd nad oedd wedi marw; ac yn fuangwellhaodd yn hollol. Carehar- wyd ef yn Valencia hyd 1877, pryd y rhydd- hawyd ef, ac yr ymsefydlodd yn Efrog Newydd. Pan y torodd allan y I rhyfel, bach,' fel y gelwir ef, ymddangosodd Garcia ar y maes unwaith eto; ond cymerwyd ef yn garcharor yr ail waith. Arbedwyd ei fywyd, ac anfonwyd ef i Madrid, gan ganiatau iddo fesur o ryddid, er na chaniateid iddo ymadael a'r wlad. Yr oedd o dan arolygiaeth yr heddgeidwaid. Enillai ei fywoliaeth drwy roddi hyfforddiant mewn Ffrancaeg a Saesneg. Ond yn 1894, pan y dechreuodd y cynwrf yn Cuba, profwyd nad oedd Garcia, er ei alltudiaeth, &c., ddim wedi newid ei anianawd. Er taflu dieithrweh, lledaenodd y stori ei fod ef bellach am dreulio gweddill ei oes mewn tawelwch a heddwch yn Madrid. Yn fuan ar ol hyn ffodd yn nghanol y nos, a chaed ef drachefn yn Efrog Newydd. Yn 1895, ceisiodd ffurfio ymgyrch i Cuba ond aflwyddianus fu. Ni ddigalonwyd ef gan hyn. Parotodd agerlong arall, ond cyf- ryngwyd gan Lywodraeth Washington. Cymerwyd Garcia i fyny. Rhoddodd yntau feichniafon am ond cyn dyddiad ei brawf yr oedd ef wedi tirio yn Cuba. Cyhoeddodd broclamasiwn chwyldroadol i'r perwyl a ganlyn at y Oubiaid Mae miloedd o ddynionyn ehwyddo ein rhengoedd ac agorir drysau y dinasoedd i'n byddinoedd, oblegid mae y bobl yn casau gormesiaeth y Spaeniaid. Os na agorir drysau y dinasoedd i râ, bwriadwn fyned trwyddynt trwy waed.' Wrth anerch y fyddin, dywedai, Fyddin Werinol, mae eich hen Gadlywydd wedi dyfod i farw wrth eich ochr os yn angen- rheidiol. Na foed i neb encilio hyd nes enill annibyniaeth-rhydd am byth, neu ymladd am byth nes d'od yn rhydd.' Byth er hyny, mae Garcia wedi bod yn ymladd a'r Spaeniaid yn Cuba. Ei brif orchestwaith oedd cymeryd meddiant o Guaimaro yn Rhagfyr, 1896. Ar ol ymos- odiad am 12 diwrnod, cymerodd feddiant o ddeuddeg o amddiffynfeydd y naill ar ol y llall, gan ymlid y gelyn, y rhai a geisiasent loches mewn hen eglwys yn nghanol y dref. Ymosododd ar y lie hwnw gan orfodi 300 o swyddogion a milwyr i roddi eu hunain i fyny iddo. Ymunodd Garcia a'r Americaniaid tu allan i Santiago, ac ymgynghorwyd ag ef am gynllun y gad-ymgyrch gan y Cad- lywydd Americanaidd.
UNDEB DOLGELLAU.
UNDEB DOLGELLAU. BWRDD Y GWARCHEIDWAID. Dydd S'adwrn, Mr. John Evans yn y gadair. Hysbysodd y Pwyllgor Arianol fod yr ol-ddyledion yn 545p.; yn y bane 1,034p.; arwyddwyd arian-nodau am 82lp. —Apwyntiwyd Mr. Martin Williams yn dreth-gasglydd darbodol i Lanaber a'r Abermaw.—Ar ol cryn ddadieu, cadarnha- wyd y penderfyniad i godi cyflog. treth- gasglydd Dolgellau, Brithdir ac Islaw'rdref, i 60p.—Darllenwyd gohebiaeth oddiwrth Bwyllgor Heddlu Meirion yn galw sylw at yr angen mawr am letydai cyffredin i grwydriaid. Apwyntiwyd pwyllgor i gym- eryd y mater i ystyriaeth, ac i ddwyn adroddiadimewn. Hysbyswyd fod Abermaw yn yr un sefyllfa,
TROSCLWYDDIAD CWEINYDDIADAU…
TROSCLWYDDIAD CWEINYDDIADAU I CYMRU. Cafodd Cymru sylw'r Senedd nos Fawrth, ac amlygodd y Ty fwy o raslonrwydd nag arfer at ein cynrychiolwyr. Mewn atebiad i gwestiwn Mr. William Jones, dyweiai Syr John Gorst y byddai i Fwrdd Canolog Addysg Cymru yn y dyfodol gael ei ystyried yn gyfrifol am hyfforddiMnt Celf a Gwyddor yn y Dywys- ogaeth. Y mae hyn yn fraint fawr, oblegid ei ystyr yw fod cyfraniad y rhoddion a enillir am Gelf a Gwyddor yn gystal a'r gallu gweinydd- iadol yn cael eu trosghvyddo o'r Swyddfa Addysg yn Llundain i'r Bwrdd Canolog yn Nghymru. Ar ol i'r Ty gydnabod egwyddor rheolaeth leol trwy estyn y fraint a nodwyd, apeliodd Mr. Lloyd George am i'r Senedd drosglwyddo rhai o'r galluoedd gweinyddiadol lleiaf sydd Z!1 gan Fwrdd Llywodraeth Led i Gynghorau Sirol Cymru. Cyfnerthwyd y cais gan Mr. Herbert Lewis. Wrth ateb, dywedai Mr. Chaplin y rhoddai ystyriaeth ofalus, os nad ffafriol hefyd, i unrliyw gynllun odrosglwyddiad galluoedd a ddygid i'w sylw gan y Cynghorau Sirol a Threfol. Y mae Mr. Chaplin wrth addaw ystyried y mater yn dangos mwy o fawrfrydigrwydd na'i llaenoriaid yn y swydd.
ABERMAW.
ABERMAW. Dydd Mercher, cafwyd corph dynes ar y traeth oddeutu milldir o'r Abermaw. Yr oedd wedi bod yn y dwfr er's rhai wythnosau, a thybir ei bod yn gogyddes neu weinyddes mewn llong. Cynhaliwyd trengholiad dydd lau gerbron Mr. W. R. Davies, crwner, a phasiwyd rheithfarn Cafwyd ar y traeth, wedi ei thaflu o'r mor Claddwyd y corph y prydnawn yn mynwent Eglwys Llanaber. Y PABYDDION.—Yr wythnos ddiweddaf cyn- haliwyd nodachfa yn yr ystafell gyhoeddus tuag at Eglwys Babaidd newydd fwriedir ei hadeiladu yn y dref, i gymeryd lie yr Eglwys haiarn a godwyd yn Park Road tua 8 mlynedd yn ol. Bwriedir i'r newydd gynwys lie i tua 150, ar gost 0 2,ooop. Agorwyd y nodachfa dydd Mawrth gan yr Esgob Mostyn, yr hwn a draddododd araeth yn mha y datganai obaith am gynydd yn nifer y gynulleidfa, heblaw yr ymwelwyr. Yr oedd yn bresenol Syr ac Arglwyddes Radcliffe, Dr. a Mrs. Lloyd, Tanycoed, Mr. Edmond, Bodowen, Mr. Robert Jones, Banc, ac eraill. Gwnaed elw lied dda at yr am can.
CWMNI Y CAMBRIAN.
CWMNI Y CAMBRIAN. Cynhaliwyd cyfarfod haner blynyddol Cwmni y Cambrian yn Llundain, dydd Sadwrn. Mr. J. F. Buckley, y cadeirydd, wrth gynyg fod yr adroddiad yn cael ei fabwysiadu, a ddywedodd fod y Llinell wedi cael ei cliQ^i chwe' modfedd am bellder o 85 o filldiroedd. Yr oedd y bolisi o leihau oriau y dynion, a thalu gwell cyfiogau wedi cael ei pharhau. Yr oedd symiau a gyrhaeddent i 4,441P, wedi cael eu talu fel iawn mewn cysylltiad a damwain Welshainpton, ac nid oedd un hawl yn aros heb ei dalu.- Yr oedd y cyfarwyddwyr yn benderfynol o ddad- blygu eu cynllun hyd eithaf eu gallu; a byddai i'r peirianwyr yn fuan droi eu sylw at y ddar- panaeth o gylleusderau cliwanegol yn Trallwm a Chroesoswallt.
LLANGELYNIN.
LLANGELYNIN. Etholwyd aelodau Bwrdd Ysgol y plwyf hwn am y tair blyuedd dyiodol, dydd Mercher. Cynwysa Arthog, Llwyngwril, a Rhoslefen. Fel hyn y safai y pleidleisiau: Ellis Williams, 351 J. 0. Jones, 170 Ellis Parry. 155; Thomas Griffith, 154; Owen Jones, 129; Griffith Davies, 115. Yr hen aelodau oeddynt Owen Jones, J. O. Jones, J. P. Richards, Richard Owen, a G. Davies. Trodd yr etholiad ar waith yr hen Fwrdd yn gostwng 16p. yn nghyflog ysgolfeistr Llwyn- gwril, sef Mr. Fioulkes Jones, a rhybudd i'w ddiswyddo, yn ogystal a diswyddiad y clerc, Mr. NV. Lloy(i. Y gwrthwynebwyr enillodd y fuddugoliaeth.
YSGOL SIROL MACHYNLLETH.
YSGOL SIROL MACHYNLLETH. Llwyddodd yr ysgolorion a ganlyn i basio'r arholiadau diweddar. London Matriculation Richard Hughes, 2nd division. Welsh Mat- riculation Frances A, Reese. Science & Art Department—Theoretical Mechanics (Fluids): 1. W. Phillips, 1st class John E. Reese, W. A. Williams, 2nd class. Theoretical Mech- anics (solids): Thos W. Phillips, 1st class. Theoretical Inorganic Chemistry: Frances A. Reese, Sarah J. Jones, Richard R. Morris, 1st class; Evan A. Humphreys, Llewelyn Hughes, Lewis O. Jones, Willian A. Williams, Richard Hughes, Allen Jones, Humphrey R. Owen, Richard J. Humphreys, Emrys Jones, R W. Morgan, John E Reese, Alice Morgan, 2nd class. Physiology and Hygiene Margaret E. Williams, 1st class Margretta Breeze, 2nd class. Mathematics T. W. Phillips, Emrys Jones, Humphrey R. Owen, 1St class; Evan A. Humphreys, Richard J. Humphreys, Lewis O. Jones, John W. Lloyd, Richard W. Morgan, Mary E. Jones, Frances G. Morgan, Richard R. Morris, 2nd class,