Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
YN EISIAU.
YN EISIAU. SEIRI MEINI yn yr Era Welsh Slate Quarries, Esgairgeiliog. Hir waith. Ymof- yner a MR. J. WOOD.
Y * NKGESY30D TELERAU AM H…
Y NKGESY30D TELERAU AM H YSBYSIADA U. Am hysbysiadau o Yn Eisieu," &c., yn cynwys 16 o eiriau 6d. Tair gwaith is. 20 gd is. 6d. 30 is. „ 2S. 40 is. 6d. „ 3s. 50 11 2S. lp 4S Cyteiriad, Negesydd Lffice, CORRIS, R.S.O.
HEDDWCH.
HEDDWCH. Gyda llawenydd y derbyniwyd y newydd o Washington dydd Sadwrn, fod America a Spaen wedi cytuno ar amodau heddwch, a bod gorchymyn wedi ei roddi i'r cad-lyw- yddion i derfynu y rhyfel. Felly cafodd y genedl gryfaf, y fyddin a arfogwyd ac a arweiniwyd oreu, fuddugoliaeth lwyr. Collodd America dros ddwy fil o filwyr, a gwariodd 30 miliwn o arian ond collodd Spaen ei hymerodraeth dramor megis ag un ergyd. Nid damweiniol fu digwyddiadau y misoedd diweddaf, ond ymddatodiad naturiol cenedl wan a dirywiedig ddaeth i wrthdar- awiad a gallu gwareiddiol wedi ei sylfaenu ar egwyddorion cyfiawn. Cynwysa y telerau heddwch roddi anni- byniaeth i Cuba, uno Porto Rico ac ynysoedd eraill a'r Unol Dalaethau, a phorthladd Manila i gael ei feddianu ganddynt hyd nes y penderfynir ffurf llywodraeth y Phillipines. Er mai i'r Talaethau y mae y gwledydd hyn i ddiolch am eu rhyddid o grafangau gormes, diau y caniateir i'r brodorion lais yn y llywodraethiad. Gorchest galed fydd ili. Americaniaid ddwyn trefn ar yr anrhaith y dygwyd yr ynysoedd eang hyn iddo. Un o fendithion amlycaf y rhyfel di- weddar fydd rhyddhad y tiriogaethau hyn o dan draed yr hunllef Pabyddol, a gorthrwm eoelgrefydd offeiriadaeth gul a chaddugol. O'r ddau, mae y Babaeth yn fwy o felldith na Spaeniaeth. Y ddyledswydd gyntaf a phenaf fydd di-freinio a di-etifeddu y Babaeth, ac agor y dorau i awelon iachusol rhyddid crefyddol i anadlu ar y gwledydd. Dyma'r unig ffordd i'w hadgyfodi. Pan goder y maen hwn y gallant glywed llais gwareiddiad.
GLOWYR Y DEHEUDIR.
GLOWYR Y DEHEUDIR. Ni wnaed cynygiad gan un o'r pleidiau yn ystod yr wythnos a basiodd i ddwyn yr anghydfod i ben. Anfonir cyfraniadau helaeth i'r ardaloedd, er hyny mae'r sefyllfa ymhlith gwragedd a phlant yn neillduol o wasgedig. Dyfyniad o lythyr y Parch. T. Manuel a ddywed :—' Mae'r dioddefaint tu hwnt i ddesgrifiad. Yn ol adroddiadau meddygol yn y newyddiaduron, mae llawer yr wythnos hon wedi marw o newyn.
AMRYWiON.
AMRYWiON. Torwyd y Senedd-dymor i fyny dydd Gwener diweddaf. Y mae haner llongau y byd yn perthyn i Brydain Fawr. Gellid troi llawer o honynt yn llongau rhyfel ar fyr rybudd. Mae Syr Thomas Liptcn, y te-fasnachydd, wedi rhoddi can' mil o bunau yn ngofal ymddiriedolwyr, gyda'r amcan o gychwyn yn mhob parth o Lundain, geginau. yn mha rai y gall y dosbarth gweithiol brynu bwyd maethlon, wedi ei goginio yn dda am y pris iselaf. Cefnogir y mudiad yn egniol gan Dywysoges Cymru. Mewn atebiad i awgrymiad oddiwrth Bwyllgor Coffadwriaethol Gladstone, pen- derfynodd Corfforaeth Dublin 'na byddo iddynt gynorthwyo mewn codi cofgolofn i Mr. Gladstone, nac unrhyw Sais arall yn Dublin, hyd nes yr adeiledir gwyddfa i anrhydeddu gwasanaeth C. S. Parnell i'r Werddon.' Apwyntiwyd Mr. G. N. Curzon, yr Is- ysgiifenydd Tramor, yn Llywodraethwr Cyffredinol India, yn lie Arglwydd Elgin. Mae yr eisteddle yn Southport wedi myned yn wag o'r herwydd. Bydd y polio yn cymeryd lie ar y 24 cyfisol. Yr ymgeiswyr ydynt Syr H. Naylor Leyland (R.), ac Arglwydd Skermersdale (T.)
DINAS MAWDDWY.
DINAS MAWDDWY. Deallwn fod Ysgolion Sul yr Annibynwyr a'r Wesleyaid yn bwriadu myned i Aber- ystwyth am drip dydd Llun nesaf. Y BWRDD Y SGOL.- Cymer etholiad tair blynyddol y Bwrdd le dydd Mercher nesaf. Gobeithiwn y cymer y treth-dalwyr ofal i ddewis y chwe' aelod goreu er lies yr ysgolion.—Cynhaliwyd cyfarfod arferol y Bwrdd prydnawn dydd Llun, Mr. M. Evans, Post Office, yn y gadair. Darllenwyd ad- roddiadau blynyddol Arholwyr ei M awrhydi am y tair Ysgol perthynol i'r Bwrdd. Pasiwyd i anfon llythyr at Mr. Lloyd a'i gynorihwywyr, i'w llongyfarch ar yr ad- roddiad. Dyma gyfarfod olaf yr hen FwrJù, a phasiwyd diolchgarweh i'r cadeir- ydd, Syi E. Buckley, a'r swyddogion eraill, am eu ffyddlondeb yn ystod y tair blynedd. [Ymddengys adroddiadau y tair Ysgol yr wythnos nesaf.—GOL.]
ARDDANGOSFA ARDDWllOL ABEEGr…
ARDDANGOSFA ARDDWllOL ABEEGr YN OL VVTiV. Dydd Sadwrn diweddaf, cynlialiwyd y 5ed Arddangosfa Arddwrol, &c., Abergyn- olwyn. Llywydd, Mr. iUeyrick Roberts, U.H., Towyn; trysoryddion, Mri. E. Jones, Hendrewallog, ac E. M. Jones, Gwernol House; ysgrifenyddion, Mri. J. R. Thomas, B.S., a Rees Watkin. Oafwyd tywydd ffafriol, Arddangosfa ragorol a chynulliad da. Y mae y dyddordeb a g-ymer preswyl- wyr y cymydogaethau hyn mewn cystadleuon o fath y rhai hyn yn siarad yn uchel am danynt. Yn canlyn wele restr o'r dyfarniadau :— CYNYRCHION GERDDI. DOSBARTH A.— Cabbage (white), E. I. Jones, Aber, R. Pugh, Egryn cottage; cabbage (red), W. Humphreys, Aber, R. Pugh; carrots (long), Rees Evans, Aber, R. Pugh; vegetable marrow, M Jones, Nant, W. Humphreys; carrots (short), E. I Jones, W. Humphreys; beet, W Humphreys, E. Rowlands, Aber; turnips, W. Roberts, Joseph Owen, Aber; spring onions, R. Evans, William Humphreys; potatoe onions, W. Humphreys, E. I. Jones autumn onions, R. Evans, W. Roberts; rhubarb, W. Roberts, H. Lewis, Aber; celery, W. Roberts, E. I. Jones peas, W. H. Jones, Nantymynach, R. Evans broad beans, D. Evans, Beudynewydd, R. Evans; scarlet runners, W. Roberts, R. Evans dwarfs, R. Evans, W. Roberts leeks, R. Evans, W. Humphreys; shallots (large), Lizzie Evans, Llanfihangel, P. C. Barnard shallots (small), R. Evans, J. Owen; parsley, W. Roberts, R. Evans; radishes, William Humphreys, E. Isaac Jones; lettuce, Wm. Humphreys, W. J. Williams; parsnips, W. Humphreys, E. 1. Jones early kidney, P. C. Barnard, D. W. Jones early round, R. Evans, W. J. Williams late kidney, John Evans, W. Humphreys; late round, W. Humphreys, R. Evans; gooseberies, W. Humphreys, Rees Evans apples, J. Evans, Ystadfryn; apples do R. Jones. Bodilan pears, R. Jones eto; begonia in pot, M. A. Roberts, Shop; fuschia, R. Evans, E. 1. Jones; asters, W. Humphreys; dahlias (single), W. Humphreys; dahlias (double), R. Jones, M. Pugh, Wern; pansies, R. Evans, W. Humphreys geranium in pot, R. Evans, E. I Jones; collection of window plants, W. Humphreys, R. Evans; collection of wild flowers by a child, O. Jones, Cantry- bedd collection of medical herbs, L. Evans, Llechwedd collection of cut flowers, Rees Evans, A. Williams, Shop; sample of barley, R. Roberts, Dysefin, R. Jones. GERDDI.-Rees Evans, W. Roberts, E. 1. Jones attached to a house, Rees Evans, M. Meredith, R. E. Pugh. DOSBARTH C (agored).—Cabbage (white), J. Morris, Towyn, R. Evans; cabbage (red), J. Morris, R. W, Jones, Towyn; vegetable marrow, J. Morris, W. M. Williams, Corris; celery, J. Morris, W. Roberts; cucumbers, R. Roberts, W. M. Williams; cauliflowers, J. Morris, R. Pugh; turnips, W. M. Williams, R. Davies, Corris; spring onions, J. Morris, R. W. Jones; autumn onions, R. Roberts, R. W. Jones; potatoe onions, H. R. Ellis, J. Morris carrots, R. Roberts rhubarb, Rees Evans, R. Roberts; parsnips, J. Morris, R. W. Jones leeks, J. Moiris, W. M. Williams scarlet runners, J. Morris; peas,|W. H. Jones, R. Evans broad beans, R. Roberts, Trevor Jones; tomatoes, R. W. Jones; parsley, R. Evans, J. Morris; early kidney, R. Davies, J. Morris; early round, J. Morris, Walter M. Williams; late kidney, R. Davies, W. M. Williams late round, R W. Jones, J. Morris; 6 largest potatoes, J. Morris, R W. Jones; apples, J. Roberts, Towyn pears, J. Morris dahlias (double), R. Davies, J. Morris roses, R. Davies. CWN, &c.—Sheep dog (Welsh), Mr. Scott; sporting dog, T. Wynne, Towyn, R. Roberts, Tynygarnedd; terrier (rough), H. Davies, W. M. Williams; collie, J. Jones, Nantyreira, W. Jones, Penygraig; terrier (smooth), R. Rev. W. Lewis cats, T. Robots, Aber. POULTRY.—Cock & hen (white leghorn), W. Humphreys; cock & hen any breed, E. Griffith, Aberllefenni, D. Roberts eto cock & hen (game), D. Roberts, J. Rees, Aberllefenni; drake & duck (any breed), W. H. Jones, Nantymynech, D. Roberts; cock & hen (black doiking), R. Williams, Rhydygarnedd, E. O. Hughes, Aberllefenni. DEFAID.—3 Mountain Ewes, Wm. Jones, Tynybryn, H. Evans, Maesyllan; 3 Welsli ewe Lambs, W. Jones, H. Evans; Welsh ram, D. Humphreys, Llwynwcws, R. Jones, Nantcaw- fawr; Welsh ram lamb, D. Humphreys, W Jones Welsh ram, W. Jones, J. Jones, Bod- ilan fawr; 3 Mountain ewes, W. Jones, J. Evans. CNEIFIO dau oen, G. Evans, Caerberllan, J. Lloyd, Felin; i rai dan 20 oed, R. Davies, Cwm. GWARTHEG, &C.—Y fuwch fwyaf golygus, Dos. iaf, G. Evans, Aber, D. Evans; Dos. 2il, W. Jones, Tynybryn mochyn mwyaf golygus, Mrs.A. Williams, Aber, Mrs Edwards, Gwernol house. ADRAN CELFYDDYD—Ymenyn, Dos. I, Miss Evans, Hendrewallog; eto 2il ddos., Mrs. Morris, Beadynewyddd, Mrs Williams, Gam- allt; trussed fowls, Mrs Williams, Rhydyr- onen. Wyau, Mrs Jones, Bodilanfawr, Mrs J. T. Jones, Aberllefenni Mel, G Thomas, Llanegryn torth liaidd, Mrs Edwards, Mrs C. Lewis; bara gwyn, Mrs Edwards; bara ceirch, Mrs Morris, Aber, Mrs Lloyd, Felin ffon bugail, W. Jones, Ceinws; pren grut, Owen Owens, Tanycoed; llwy bren, Wm. Jones; map of Abergynolwyn & district, R. Pugh, Egryn cottage drawing, a house, T. Jones, T. Pugh do., spoon, J. Morris, Tanybryn; do., shield, R. Humphreys, Teddy Pughe print quilt, Kate Lewis, Aber, Kitty Evans hearthrug, Mrs. Jones, Bwlch, C. Evans, Corris flannel shirt, E. Thomas, Llanegryn stockings, M. Morris, Aber; darning, Mrs. Jones, Bwlchcyfyng, Ellen Humphreys, Aber; patching, E. Humphreys; button holes, E. Morris, Jane Lloyd; tyllu, double hand, R. Lloyd a'i gyfaill, Aberllefenni, John Jones a'i gyfaill eto, R. Whittington a'i gyfaill; eto single hand, Robeit Thrower, R Lloyd, John Roberts, oll o Abcrllefeiiiii. GWOBRWYON YCHvVANEGOL. --(Clibran & Son), collection of vegetables, W. Humphreys, E. 1. Jones, R. Evans; (Mr. Willi^m Lewis, Arthog), dahlias double, R. Jones, E. 1. Jones; (Mr. Fisher, Manchester), stone inkstand, T. Hughes, Towyn; (By a lYieud), pair of gent's stockings, M. Morris, Aber.
CYNGOR TREFOL MACHYNLLEl H.
CYNGOR TREFOL MACHYNLLEl H. Cynaliwyd cyfarfod arbenig dydd Mawrth, dan lywyddiaeth Mr. Richard Rees. Gos- ododd y clerc gerbron y Cyngor amcan bris o dreuliau y flwyddyn yn diweddu Mawrth, 1899, sef 847p. 2s. Sylwodd Mr. W. M. Jones nad oedd yn y swm uchod ddarpar- iaeth ar gyfer Deddf Llyfrgell Gyhoeddus a fabwysiadwyd gan y Cyngor. Penderfynwyd fod i'r lioll Gyngor ymfluriio yu bwyllgor er ystyried y moddion mwyaf effeithiol i gario allan y ddeddf hon. Pasiwyd i godi treth ddosbarthol o -'is. y bunt, yn daladwy ar ddwywaith.—Ail benodwyd Mr. Ehys Lewis yn dreth-gasglydd. Derbyniwyd telerau Mr. Flowerden am roddi ben thy g 1,200p. i'r Cyngor yn ol 3p. y cant, a 32p. er cyfarfod a phob archiadau.—Gosodwyd sel y Cyngor wrth y deddfau lleol.—Cymer- adwywyd cynlluniau o dai gan Mr. E. Morgan.
BWRDD YSGOL TALYLLYN.
BWRDD YSGOL TALYLLYN. Nos Fawrth diweddaf. Presenol, Mri. Richard Owen, is-gadeirydd, Daniel Davies, Hugh Evans, J. Lewis, Jeremiah Williams, a D. Ifor Jones, clerc. Trwy farwolaeth swyddog presenoldeb dros ddosbarth Corris, ystyriwyd y ceisiadau a anfonwyd i mown ar wahoddiad y Bwrdd. Ymgeisiodd wyth, o ba rai y dewiswyd Mr. John Morgan, Glanderri, ar delerau neillduol. Pender- fynwyd rhanu copiau argraffedig o adrodd- iadau yr arholiadau diweddarar yr ysgolion, yn cynwys anerchiad at rieni plant drwy y plwyf.
Y MAIICHNADOEDD.
Y MAIICHNADOEDD. Fel arfer ar adeg cynhauaf, tawel ydyw y marchnadoedd. Ni cheir ynddynt y bywiog- rwydd eithriadol a welid flwyddyn yn ol Y chydig samplau o wenith Seisnig newydd sydd wedi ei ddwyn etc i'r farchnad. Am yr hyn a ddygid, ceid 0 36s i 418 y. chwarter, Gwerthai hen wenith 6c y chwarter yn îs. Mewn gwenith tramor, gwerthai yr hen yn uwch na'r newydd. Blawd ydoedd fwy sefydlog, a cheirch a werthai yn lied dda MARCHNADOEDD ANIFEILIAID. SMITHFIELD, Awst 15-Gwarllzeg. Er nad oedd y cyflanwad gymaint, pur araf oedd y farchnad, a'r prisiau yn is.Defaid. Y cyf- lenwad o ddefaid ac wyn yn fwy, ac yn gwerthu yn araf Prisiau y rhai goreu yn sefydlog, defaid mawr a mamogau yn is LEICESTER, Awst 13. Cyflenwad gweddol, a cnynulliad da o brynwyr Yr oedd y fasnach yn lied sefydlog, ond y prisiau braidd yn is Bustych o iop i I3P; buchod godro o 14P i 2op y pen
Family Notices
GENEDIGAETHAU. ROWLANDS.—Awst 6ed, priod y Parch. R. Rowlands, Bronffynon, Corris, ar fab. THOMAS.—Awst 13, priod Mr. Robert Owen Thomas, Dafarn newydd, ar ferch—cyntaf- anedig. PRIODAS. REESE—OWEN.—Awst 6, yn nghapel y M.C., Llanfyllin, gan y Parch. J. Richards, Mr. J. 0. Reese, prifathraw Ysgol y Bwrdd, Llan- gynog, a Miss Lena C. Owen (Lilian Dyfi), merch hynaf Mr. Owen, Ysgol y Bwrdd, GlandyfL MARWOLAETH. EVANS.-Awst 11, Mr L. Evans, Ynysfechan, Arthog. Claddwyd ef yn mynwent Llwyn- gwril, Awst isfed
(D lalithi art li all. I--
(D lalithi art li all. LLIFON AC EISTEDDFOD CORRIS YN Y PRAWF. Syr,—Anhawdd peidio diolch i Llifon am fod mor raslawn a thori dros ben haeddiant fy 'mymryn ysgrif,' ond yr wyf yn fyw ac iach. Hwyrach y bydd rhai yn synu at hyny, a finau wedi bod dan y golchbren, a chael y fath gurfa Prawf fod achos yn ddrwg yn y llys gwladol ydyw fod y daclleuydd yn ymosod ar y dadl- euydd fydd yn ei erbyn, a hawdd gweled fod achos hwn yn un drwg, canys mae yn osgoi ar ei union bron bob pwynt sydd yn fy llythyr, ac yn defnyddio y rhan fwyaf o goloftim a haner yn y NEGESYDD i wneyd ymosodiadau arnaf fi. Yr ail frawddeg yn ei lythyr ydyw nid wyf yn cofio i mi erioed ddarllen dim mwy tila, di-bwynt, ac anfoesgar.' Dichon fod cof Llifon yn ansicr ar adegau fel hyn, a thrwy fod cylch ei ddarllen mor substantial, rhesymegol, a moesgar cynghorwn ef er mwyn amrywiaeth, i ail ddarllen ei druth os am weled ysgrif fwy 'tila, dibwynt, &c.' nag a anfonais i, ie, mwy anfoneddigaidd hefyd. Ofnaf hefyd fod yr yswigenod gwynt,' yn nes at Llifon nag at Aber Farm, a hwyrach mai fy mhechod mawr oedd cyffwrdd a rhai o honynt yn ddamweiniol. Sicrhaf ef mai rhoddi atebiad i fy llythyr a'r cwestiynau ynddo yw y ffordd fwyaf effeithiol i dori yr yswigenod y sonia am danynt, a synaf at hen law fel efe na buasai wedi deall hyny. Ymddengys i mi fed L'ifcn yn cael llawer o chwedlau, ac mae chwedlau yn debyg i gar dotwyr, yn myned yn gyson i'r lie y cAnt groesaw, a dichon mai dyna y rheswrn paham y ca yntau gynifer o honynt—cael croesaw y maent. Yr wyf yn barod i gynyg gwobr syl- weddol am brofiadol i ddcrbynwyr ystoriau gau, a hwyrach mai Llifon gai y wobr Y chwedl ddiweddaf gafodd mai twlyn wyf i arall neu eraill yn y drafodaeth hon. Twlyn neu beidio, mae yn dwlyn effeithiol; mae y llythyr a anfonais wedi selio genau Llifon ar y materion mewn dadl, acnid wyf wedi gweled dim yn y drafodaeth hon sydd yn galw am yr un twlyn anghyffredin iawn, mwy nac ysgrifbin, papyr ac inc. Ni ofynais iddo beth oedd hufen llefrith nac hufen ardal,' nac ymddoctora,' athron- yddu hanfod y naill na'r llall. Nid oeddwn yn synio yr adeg hono ei fod yn specialist mewn athroniaeth, ac yn sicr ar ol darllen ei lythyr, tosturiaf wrth ei athroniaeth. Gwaith dyddorol yw cymharu ei lythyr a'r Byr-nodion. Yn Byr-nodion, saif ar wahan i'r pwyllgor, a diolcha iddynt yn ddefosiynol, ond yn ei lythyr, mae yn rhedeg i gysgod y pwyllgor. ac yn nghysgod hwnw yn troi ei wyneb ataf ac yn gwaeddi sicrhaf chwi na lwyddwch i'm dilorni i heb ddilorni y pwyllgor sydd a'u barn a'u cymeriadau uwchlaw ainlieuaetli.' Wrth gvvrs, mi a wn mai ysgil Llifon i ddenu y darllenwyr oddiar y llwybr yw hwn, fel y dyrysir y cwn ar drywydd y llwynog gan ysgadenyn coch. Ond bydded hysbys, na bydd dim a wnelwyf fi a'r pwyllgor, nac a'r gwr hwnw, Ap Idris,—gwr sydd mor barod fel y gellir tybio, i wasanaethu ar Llifon. Dywed Llifon, Er mwyn pwy neu beth y dylaswn ddweyd tybed ? Pa egwyddor sydd yn oblygedig mewn dweyd neu beidio dweyd ?' Cynygiaf roi ateb i'r cwestiwn cyntaf yn yr adran hon fel liyn:-i Er mwyn Llifon 2 Er mwyn yr Eisteddfod a'i hyrwyddwyr; 3 Er mwyn achos y Bedyddwyr yn Coriis; 4 Er mwyn y gwirionedd. Yn awr, gofynaf os oedd yr ymdrafodaeth uwchlaw bod yn tinder handed pa ddarostyngiad ydyw i urddas natur neb, boed ddyn neu angel, i brofi hyny drwy atebiad syml? Nid trwy gyhoeddi urddas ein natur y credir ni fod yr oil yn gwbl reolaidd a chlir 0 bob hoced. Gwelwn fel y mae y Byr-nodion a'r llythyr wedi eu trydaneiddio a her ond nid yr un yw her y naill a'r llall, her i gyfeirio sydd yn y cyntaf, her i brofi' yn yr ail. Meddyliais fod fy nghwestiynau yn cyfeirio a dweyd y lleiai at arlliw gwaith underhanded, ond wele Llifon yn eu diystyru, ac yn gwaeddi Profer.' O'r goreu yr wyf yn derbyn yr her. Yn awr at y prawfion Dyna un prawf o waith underhanded yn nghychwyniad yr Eisteddfod, honir ei bod yn Eisteddfod Gwyr leuainc Corris. Wrth hyn, golygir fod yr Eisteddfod yn cael ei chychwyn a'i chario yrnlaen gan wyr ieuainc Corris yn gyffredinol. A yw hyn yn wir ? Dim o'r fath beth. Pasiwyd i'r Eisteddfod fod heb i wyr ieuainc yr ardal gael llais ynddi, a heb i'r rhan fwyaf o honynt wybod dim am dani. Prawf arall oedd y ffordd gymerwyd i alw ynghyd y pwyllgor oedd i drefnu cyfarfod cyhoeddus yn yr ardal. Daeth pwyllgor o ddewisiad un dyn ynghyd yn ddistaw rhyw noson heb i'r ardal wybod dim am dano, i drefnu y cyfarfod cy- hoeddus hwn. Prawf arall oedd y brys ag y pasiwyd yn y pwyllgor cyntaf i ba le yr oedd yr elw i fyned. Wele Llifon cyn gwybod o'r ardal ddim am y pwyllgor na'r Eisteddfod, yn sicrhau y peth prin a blasus hwnw at achos y Bedyddwyr. Prawf arall. Dywedir i rai o'r gweinidogion gael eu cynyg ar y pwyllgor" ond gwrthwyneb- odd Llifon hyn, er fod rhai o honynt yn llawn asbri eisteddfodol. Mae saith o weini- dogion eraill yn yr ardal, a chwech y gellir eu rhestru ymhlith y bobl ieuainc os rhestrir Llifon felly, a thri o honynt yn ieuengach eto: Ond nid ynganodd air wrth un o honynt am yr Eisteddfod hyd o fewn ychydig ddyddiau i ddygiad allan y rhaglen, er iddo fod yn cyd- gynal cyfarfodydd a hwynt. A yw hyn yn argoeli fod ei asgre mor lan ag y myn i ni gredu. Eto, gofynaf paham na buasai yn rhoddi ei her cyn yr Eisteddfod ac yntau yn gwybod fod llawer yn ei herbyn oherwydd y dull y cychwyn- wyd hi ? Sylwer pan y sonia am fargen am fuwch neu geffyl, dengys ei fod un ai yn taflu llwch i lygaid y darllenwyr neu yn twyll ymresymu. Mae gwahaniaethj rhwng gwerthu buwch neu geffyl, a nofio eisteddfod Nid oes ond dau i fod yn enillwyr neu golledwyr gyda'r fargen gyntaf, ond rhaid wrth gydweithrediad canoedd os nad miloedd i nofio, eisteddfod, ac os bydd yr elw at achos arbenig, fod hyrwyddwyr yr Eisteddfod yn foesol rwym i'r ardalwyr Nis gellir cydnabod yr egwyddor hon tra na byddo ond dau yn y parti. Mae y prynwr a'r gvverthwr ar eu own hooks, ond ar hooks pwy yr oedd yr Eisteddfod. Pwy roddes ei nawdd iddi ? Onid yr ardalwyr yn benaf ? Mae ei hyrwyddwyr yn gyfrifol i'r ardal, ac i ardalwr os bydd yn enau drostynt. Rhydd Llifon gynghorion difrifol i mi. Ceisia gasglu y pwyllgor i'w lawes, ond cofied nid ag us y delir hen adar;' hen adar yr ardal, yn ogystal a'r pwyllgor. A yw peth fel hyn heb arlliw hoced arno? Yr wyf yn cymeryd y cynghorion am eu gwerth, ond nid wyf yn strikio o'r ring yn enw neb pwy bynag. Atebion a ofynais, cynghorion mursenaidd a gefais, yn nghanol tryblith aflunaidd, myfiol, honiadol, a gwag. Yr eiddoch yn ddiogel, Aberllefenny Farm. W. WILLIAMS. [Gorfu i ni dalfyru y llythyr o herwydd diffyg gofod.-GOL. ]
HOFF GI MR. GLADSTONE.
HOFF GI MR. GLADSTONE. Drwy orchymyn a roddwyd, darparwyd gan gerfiwr ceryg yn y Wyddgrug, gareg. goffa ar fedd ci fu yn gydymaith parhaus i Mr. Gladstone. Mae yr ar-ysgrifen mewn llythyrenau duon yn darllen: Petz; gan wyd yn Schwalbach, 1886; bu farw yn Hawarden, Mawrth 27, 1898. Holt Gi Mr. Gladstone. Ffyddlawn hyd angau,'
Advertising
OS YDYCH AM FWYN11AU IEC1IYD DA Y GWill)DILL FJAVYDDYN, BITTERS GV/IL YM EVANS. Cynwysa y Meddyglyn rhagorol hwn rin- weddau iachaol ac "adgryfhaol y prif lysiau meddyginiaethol adnabyddus trwy yr holl fyd. Cymeradwyir gan FEDDYGON, DADANSODDWYR, g A FFERYLLWYR, ,'A chanmolir gan bawb sydd wedi rhodd, prawf arni fel Meddyginiaetli Oreu yr Oes, A phob math o wendid. Y mae yn gwella doluriau a chIwyfau yn yr Ymysgaroedd, yr Arenau, a'r Afu, ac yn feddyginiaeth sicr iddynt. BITTERS GVýI L YM EVANS. 1YSTIOLAETHAU. Mae'r cryd a'r rnwyth, a liesgedd, A phob anhwyldeb blin, O flaen y Quinine Bitters, Yn lfoi i'w le ei hun. CYNONFARDD. PHE, AWST IT eg, 1897. LLESGEDD. Anwyl Syi-Paii cldychwelais aclref yehyclig ddyddiau yn ol, ar ol llafurio galed am rai wythuosau, tcimlwn yn lluddedig iawn, ac wedi 11 wyr ddiffygio, ac mewn angen am donic da i'ra liadgryfliau. Anogwyd fi i roddi prawf ar eich Quinine Bitters euwog. Gwnaetlmm liyny, a cheiais ef yn liynod elfeithiol. Mae yn rhoddi yni ncwydd yiiof, ac yn bywiocau yr ysbryd; mewn gair, teimlaf ei fod yii gwneyd dyn i-Lewydd o liol),of.- (Parch.) GVIINOS Joxts ¡ BITTERS GW1LYM EVANS. Goclielwcli Dwyllwyr. Edrychwch fod enw Grwilym Evans ar bob label, stamp, a pliotel. Gwertliir hwynt mewn poteli 2s. 9c., a is. 6c. yr un; Blychau yn cynwys tair potel 4s. Gc. am 12s. 6c. l'w cael yn mhob mall, neu danfollirhwy yn rhad am y prisiau uchod yu ddyogei drwy y post oddiwrth y perchellog-ioll,- QltlHIHE BITTERS MANUFACTURING COMPAiiY LIMITED, LLANELLY, SOUTH WALES. GORUCHWYLIWll YN AMERICA— Mr. E. D. WILLIAMS, Plymouth, Penn. Dillad Newyddion at yr haf. DYMUNA EVAN ONES, CEMMES, Hysbysn pawb sydd yn bwriadu cael dillad newyddion at yr Haf, ei fod wedi cael STOC I-IELAETH 0 ddefnyddiau dillad i ddynion a merched, A'i fod wedi sicrhau gwas- anaeth G-WEITHWYK PilOFIADOL, fel y bydd i bob dilledyn gael ei droi allan yn iiitio, ac yn y Style mwyaf diweddar. Pobpetli yn newydd Pobpetli yn dda. CAMBRIAN RAILWAYS. RAIL & COACH EXCURSIONS Are now run on EVERY WEEK-DAY As under:— By Rail to Llanfyllin, Rhayader, Glandovey, Aberystwyth, Towyn, Corris, Dolgelley, Llanbedr & Pensarn, Portmadoc, Pwllheli. Thence by road conveyance to Lake Vyrnwy, Nantgwillt and Elan Valley (Birmingham Corpor- ation Waterworks), Llyfnant Valley (Glaspwll Cascade and Cwmrhaiadr Waterfall), Devil's Bridge, *Talyllyn Lake and *Cader Idris, Torrent Walk, Precipice walk, Tynygroes, Rkaiadr Du, Rliaiadr Mawddach, and Pistyll y Caen Mochras Island (the Island of Shells), Cwmhychan Lake, Drws Ardudwy, and Rhinog Valley; Tanybwlch and Maentwrog Waterfalls, Beddgelert, Abersoch and Nevin *Passengers may either travel to Towyn, thence by Coach to Talyllyn and back, or by Circular Tour via Towyn to Talyllyn Lake, returning via Corris and Macllynlleth, or vice versa. They may also travel via Machynlleth and Corris to Talyllyn, and return by same route. A New Tour from Towyn to Gwastadfryn, at the foot of Cader Idris is now in operation, C. S. DENNISS, General Manager.