Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
SEFYLLFA CWAITH YM HOOGLEDD…
SEFYLLFA CWAITH YM HOOGLEDD CYMRU. Dyma adroddiad Mr. George Rowley am sefyllfa gwaith yn Ngogledd Cymru yn ystod y mis diweddaf:— Mwnaeth.—Y glofeydd yn nodedig o fywiog yn mhob ardal. Gwaith yn weddol fywiog yn y glofeydd plwm. Chwarelyddiaeth. Yn yr holl chwareli hysbysir fod cryn brysurdeb. Tawel yw peirianwyr Croesoswallt, ond y mae peirianwyr Rhiwabon yn fywiocach a'r gweithwyr haiarn a dur yn brysur. Adeiladwyr a'u gweithwyr yn weddol brysur yn mhob ardal. Y gweithfeydd priddfeini a terra cotta yn fywiog. Difywyd ac ansefydlog yw'r gweithfeydd fferyllol yn Sir Fflint. Yn y gweithfoydd gwlaneni a brethyn, cwynir yn dost oblegid prinder gwaith, ac ni weithir oriau 11awn mewn lluaws o felinau. Teilwriaid ar y cyfan yn lied btysur.
DINAS MAWDDWY:
DINAS MAWDDWY: BWRDD YSGOL MALLWYD A LLANYMAW- DDWY. Wele adrodcfiadau Arolygydd ei Mawrhydi ar y tair ysgol. Ysgol Minllyn The condition of this school, both as regards attainments and discipline is highly creditable to the teachers. The needlework deserves praise, and the Map Drawing is excellent. The Arithmetic of the second division of the infants class might perhaps be a little stronger. Another cupboard is wanted in the main room, and guards are required before all the fire places. The office accommodation is not sufficient. It would be well for a school from a sanitary point of view if the closets could be removed to a greater distance from the building. A window could then be inserted in the lower end of the main room, which is at present somewhat dark. The Board is re- minded that the additional cloak rocm accom- modation suggested two years ago has not yet been provided. The woodwork of the windows is much in need of a coat of paint. The Board should submit plans for carrying out the alterations to the school recommended by H. M. Inspector. The special attention of the Managers is requested to the enclosed Form f9. A. Edmunds is continued under Article 68. Total sum payable 133P. 6s. Ysgol Llanymawddwy I This school has passed a fair examination in most respects The reading of the first standard and the arithmetic of the three highest standards fall below the level of the rest of the work the spelling of the fourth standard was poor, and the writing and figuring might have shown more care and finish throughout the school. The class subjects were uneven, but fair on the whole The two boys presented in Algebra and Latin did fairly in the latter subject but poorly in the former. A classroom is much needed. The defects in the premises pointed out in last year's report have not yet been remeded. No Manager was present on the day of inspection.' Amount of grant 5op. 14s. 3c. Ysgol Aberangell: 'This school has considerably fallen off in point of efficiency during the past year It is with much hesitation that the same grants as last year are recommen- ded for elementary and class subjects. Unless general improvement takes place a reduction of grant will next year be unevitable. It is fair to say that the present Mistress is in no way responsible for this falling off. Singing by note is barely passable. The attendance is very poor. No grant is payable under Art. 105, since H. M. Inspector is unable to repoit that the school is well taught within the meaning of that Article.' 6ip. 12s. 3c.
- ARDDANGOSFA MACHYNLLETH,
ARDDANGOSFA MACHYNLLETH, Cynhaliwyd yr unfedarddeg arddangosfa ilynyddol mewn ceffylau, gwartheg, defaid, own, dofednod, cynyrchion gerddi. &c., dydd Iau diweddaf, ar y maes gyferbyn a Plas, Machynlleth, yr hwn a roddwyd i'r amcan gan Ardalyddes (W.) Londonderry. Yr oedd y cystadIeuon yn Iluosocach na'r fi wyddyn ddiweddaf, ac o ansawdd ragorol iawn. Oni bae y tywydd anffafriol, buasai y cyfan wedi troi allan yn llwyddiaut hollol. y swyddogiollJdynt: Llywydd, Arglwydd H. V. Tempest; is-lywydd, Mr. R.C. Anwyl, Llugwy; cadeirydd y pwyllgc-r, Major Bonsall, Galltyllan trysorydd, Mr. D. E. R. Griffith, Bank; ysgrifenyddion anrhyd- eddus, Mr. R. Gillart, Llynlloedd, a Mr. G. W. H. Wakefield, Caersaer; ysgrifenydd, Mr. John Lewis, Machynlleth. A ganlyn sydd restr o'r enillwyr blaenaf yn y gwahanol ddosbarthiadau CYNYRCHION GERDDI. CLASS A. J. Morris, Towyn; G. Morgan, Glandyfi; \V. M. Williams, Corris T. Jones, Llaniestyn E. Edwards, Borth E. Edwards, Doll street; J. Griffin, Pont-ar-Ddyfi; E. Griffiths, Llan- fachreth H. Edwards, Corris; R. Hughes, Corris; R Evans, Abergynolwyn Richard Davies, Corris; Owen Owen, Corris M. JI Pierce, Taliesin; A. LI. J. Hughes, Borth; Mary Jones, Taliesin E Jones, Machynlleth E. Jones, Forge J. Leek, Machynlleth John Davies, Aberdulas. CLASS B.—E. Rees, Pantlludw Canon Trevor, E. Edwards, Clarach; W. Rowlands, Borth; J. Morris, Towyn; J. Davies, Fronfelen; J. Jones, Workhouse Sergeant Hughes, Towyn G. R. Williams, Pantglas J. Lewis, Abercwmeiddaw E. Evans, Llanfachreth W. Paterson, D. Phillip Jones, E. Griffiths, Llanfachreth; E. Hughes, Meirion house, Corris D. Ll. Leek. CEFFYLAu.-Neidio, Dr. A. O. Davies. Ystalwyn, E. Griffith, Towyn. Ceffylau, J. Thomas, Tre'rddol; T. Steadman, Dinas Mawddwy; E. Bennett, Trefeglwys; D.Jenkins, Cerygcyranau, Talybont; J M. Williams, Borth; N. B. Owen, Penegoes D. Hughes, Pantydderwen, Borth; O. G. Owen, Mathafarn; R. Ryder, Cemmes E. Hughes, Aberffrydlan. GWARTHEG.D. Howell, NantceUanfawr; T. H. Vaughan, Sychtyn E. Hughes, Aber- ffrydlan; E. Davies, Groft; E. P. Davies, Caersws D. Price, Trefaldwyn M. Ryder. Llanwrin; Ardalyddes Londonderry Henry Evans, Towyn R. Ryder, Maesmachreth. DEFAID -Henry Evans, Towyn; D. Jones, Machynlleth; n James, Cefncoch J. Jones, Ynyshir. CNEIFIO.—H. Hughes, Lluestyrhos, Taly- bont; John Morgan, Cymerau, Corris H. Rowlands, Ceinws. CWN. M. Jones, Llanidloes W. Davies, Brynclygo W. V. H. Thomas, Llandrindod T. H. Harris eto; D. E. R. Griffiths, Mach- ynlleth; D. C. Davies, Aberdyfi. DOFEDNOD-- J. Rees, Aberllefenni T. D. Roberts, Tre'rddol; W. Jones, Post Office, Ceinws; R. Rees, Garshon; E. Griffiths, Aberllefenni; M. Davies, Commins Coch T. Lloyd, Penybont Hotel; H. Hughes, Aber- ystwyth M. Stuart, Peniarthuchaf; D. J. Davies, Groft. MOCH.—D. Jones, Machynlleth E. Jones, Tanybryn. YAIENYN.-Ardalyddes Londonderry, Miss Davies, Ffridd. WYAU —Mrs. Williams, B. G. Terrace, Corris. YD.—R. R. Jones, Tynyrhos E. Pritchard, Tynohir; J. Jones, Ynyshir. GWREIDDlAU.- r Jenkins, Glandyfi; W. Edwards, Rhydygvviailuchaf; J. Whittington, Cemmes. MEL.-Iarll Lisburne, J. Veary, Gogerddan.
eitiOt JVroen.
eitiOt JVroen. YR HAUL. GAN TALHAIARN. Canaf a chlodforaf fi Dy lun a'th oleuni; Ti huan hoff wyt yn hau Gwawl anwyl yn ei glynau, A miwsig hyd y meusydd, Ceinion flodau, gemau'r gwydd; Amrywolion ymryliw, O mor gun ei llun a'i lliw Arianu wnei ar unwaith, Aberoedd a llynoedd llaith Lliwydd ac eurydd goron Dolydd, a mynydd, a mor. Dy ddelw di addolaf, Dragwyddol a nefawl Nâf; Tywynydd gwych-taenydd gwawl- Cawr ufudd cu rhyfeddawl- Enaid a llygad anian- Eilun Duw—olwyn o dan.
§?fau.
§?fau. GAN LLEW. Sibrydir mai y gymdeithas nesaf a sef- ydlir yn Dyffryn Madog fydel y Ministers C. r. C. Mr. Arthur Balfour fydd y pen rlieolwr yn y Swyddfa Dramor tra yr erys ei ewythr yn Neheubarth Ffrainc. Beth ydi'r anifail yr ydym ni yn cael llaeth oddiwriho ?' ebai yr athraw wrth onoth fechad. I Y Ilaethwr,' ebai'r eneth. Gwonodd y Cenawon. Derbyniwyd a ganlyn oddiwrth ddilledydd sydd yn rhoi fflts i bob un ddaw i mewn i'w Stor — Pa beth yw made to order 0 werth os na fydd maint, Trowsusau wedi'u mesur Yn gweddu coesau'r saint ? Un o brif ddigwyddiadau gwleidyddol y deyrnas oedd penodiad Mr. G. N. Curzon yn Rhaglaw yr India. Arglwydd Elgin yw yr un presenol, a chan fod ei dymor ef ar der- fynu, yr oedd yn rhaid dewis un yn ei le. Y Goron sydd yn gwneyd y penodiad, a cheir mai un o'r prif wobrau ydyw Rhaglaw- iaeth India, felly mae anrhydedd mawr wedi ei roddi ar Mr. Curzon. Mae y penodiad wedi derbyn cymeradwyaeth gyffredinol. Yr unig fai hwyrach a ddygir yn ei erbyn yw ei fod yn rhy ieuanc i'r swydd bwysig. Ond fe aiff y bai hwn yn llai bob dydd. Mawr yw y dyfalu pwy fydd ei olynydd fel Is-ysgrifenydd Tramor. Crybwyllir enwau amryw, ond nid oes wybod pwy benodir. Nid yw preswylwyr y Ffau yn hoffi gweled hen emynau yn cael eu haralleirio, fel y gwneir yn ami y dyddiau hyn. Y diweddaf a welsom oedd y canlynol wedi ei aralleirio, ac yn cael ei ganu mewn picnics ac yn y gyfeddach:— Bydd myrdd o ryfeddodau Ar doriad boreu wawr, Pan ddelo plant y camrau I'r ]an 0 droedio'r llawr, Oil yn eu llydan lodrau, Ac ar eu newydd chwil— Pob gwraig a'i phriod hawddgar, A'r dandem wrth ei sgîl. Yn y blynyddoedd diweddaf, ffurfiwyd nifer mawr o Fyrddau a Ohynghorau. Cwyna llawer fod rhai o'n swyddogion eglwysig yn ddigon tawel eu meddyliau yn gallu esgeuluso y cyfeillachau a chyfar- fodydd eraill yr eglwys er mwyn gwasan- aethu Byrddau. Mae'n rhaid i rywrai was- anaethu y cyfryw er budd y cyhoedd yn y gwahanol gymydogaethau. Ond dylid cofio fod crefydd yn hawlio y flaenoriaeth; ac ni ddylai pethau ail raddol gael ein sylw penaf. Mae hyn yn brawf diamheuol fod rhywbeth allan o le yn nghalon y dyn.
El CARIO MEWN BERFA DROL.
El CARIO MEWN BERFA DROL. Yn yr ymchwiliad dydd Iau ar George Haves, sef y dyn a gyhuddwyd o bigo llogell ffermwr o Towyn ar orsaf Machynlleth, taflwyd yr achos i'r Frawdlys Chwarterol. Yna cymerwyd y dyn i garchar y dref dros y noson. Boreu dranoeth, ar ei symudiad i garchar Amwythig, ymesgusodai rhag cerdded, ar y tir ei fod yn wael. Mewn canlyniad, cyrchwyd berfa drol, yn yr hon ei dodwyd, a hwyliwyd ef i'r orsaf er mawi ddifyrwoh i lu o edryohwyr. Ymddangosai yn mwynhau y sefyllfa. Cerddodd yn hwylus o'r tren yn Amwythig i'r carchar.
BANCER TWYLLODRUS.
BANCER TWYLLODRUS. Yn heddlys Wallasey, ddydd Sadwrn, addefodd John Henry Jones, rlieolwr cangen Seacombe o Ariandy Gogledd a Deheudir Cymru, ei fod yn euog oladrata 1,900p. o arian ei feistradoedd. Dywedai iddo eu colli drwy fetio. Bu am 34 mlynedd yn ngwas- anaeth y bane, ac yn rheolwr cangen Sea- combe am ugain mlynedd. Anfonwyd ef i garchar am chwe' mis.
BORTH.
BORTH. Oynhaliwyd nodachfau dydd Mawrth a dydd Mercher, yn yr Ystafell Gyhoeddus, yr elw i fyned at gronfa i ddwyn traul y gwaith 0 wrthsefyll ymosodiadau y mor ar y glanau. Cofir am y dinystr mawr a wnaed ar y pentref yn Hydref 1896. Gol- ygir y bydd y gost yn l,300p., at yr hyn y derbyniwyd oOOp. Gwnaedelwda oddiwith y nodachfa. Agorwyd hi dydd Mawrth gan Mrs. J. C. Harford, Falcondale; a dydd Mercher gan Mrs. B. Jones, Gwynfi-yn. Rhoddodd boneddigion a boneddigesau y cylch gryn gymorth at y symudiad.
CLYWEDION.
CLYWEDION. Clywed nad oes fawr bellder rhwng Eglwys newydd y Brithdir a Rhufain. Clywed fod Gorsedd yr Eisteddfod gynt yn Orsedd Gras, ond ei bod yn awr yn Orsedd Barn. Clywed fod yr Eglwyswyr ar ol yfed y sahne yn ffynhonau Llandrindod yn troi yn Ymneillduwyr. Clywed mai cloadur effeithiol yw cerbydau trystiog Reilffordd Oorris, digon i. l'oddi taw ar Gyngor Trefol Dolgellau. Clywed fod y Prydeiniaid yn arfer rhoddi eu trwynau yn y ffenestri, ond yr American- iaid eu traed ar y tywydd poeth. Clywed fod eisiau cenhadaeth i fynod at yr ieuenctyd yn ngorsaf reilffordd Corris ar y Suliau. Clywed mai Tafolog oedd yr ail oreu ar destyn y gadair yn Eisteddfod Ffestiniog, ac Eifion Wyn yn agos ato. Cynhafal hefyd yn ail ar y Bryddest. Clywed y gall ymgeiswyr yn yr arddang- osiadau lleol enill mewn unrliyw gystadleu- aeth, am resymau penodol, tog neu annheg. Clywed sibrydon rhyfedd am y Bryddest fuddugol yn Eisteddfod Ffestiniog. Gofynir yn awgrymiadol pa ran gymerodd Rhys J. Huws ynddi.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. ETHOLIAD.—Yr oedd pedwar ymgeisydd wedi eu henwebu i lanw y tair sedd wag ar Fwrdd Llywodraethol yr Ysgol Sirol. Tynodd Mr. T. R. Morgan ei enw yn ol, felly nid oedd etholiad, a ehyhoeddwyd Mri. John Thomas, W. M. Jones, a Mrs. Davies, oil yn hen aelodau, wedi eu hethol yn rheolaidd. PRIODAS.—Dydd Mercher, yn nghapel Maengwyn, unwyd mewn glan briodas Mr. T. Ll. Evans, mab y Parch. E. Evans, Dylife, a Miss Annie Williams, Llanfyllin. Gweinyddwyd gan y Parchn. T. F. Roberts, ac E. T. Evans (brawd y priodfab). TAN.—Prydnawn Sul, torodd tan allan yn ysgubor Caedu, yn agos i'r dref, a llosgwyd yr oil o'r gwair oedd newydd eu gynhafu ynghyd a'r adeilad, mewn byr amser. LLYS YR YNADON.—Dydd Iau, daeth achos gohiriedig 0 flaen y fainc, sef cyhudd- iad yn erbyn George Haves, yr hwn a roddai gyfeiriad 4, Broad St., New York, o ladrata o logell Mr. John Owen, Penllyn, Towyn, ar orsaf reilffordd y dref, y swm o 7p. 10s. Yr oedd dynes a honai fod yn Ffrangees, ac nad allai siarad Saesneg, yn cael ei chyhuddo am yr un trosedd. Tyst- iolaethwyd gan Sergeant Morgan, Dref- newydd, iddo tra mewn gwisg blaen wylio y ddau garcharor, a'u cael yn gwthio yn erbyn J. Owen ar ei waith yn myned i'r tren, yna gwelodd y dyn yn estyn rhywbeth i'r ddynes, yr hon a ddiangodd ymaitli. Cymerodd y ddau i'r ddalfa. Cafwyd y pwrs gwag yn ystafell y boneddigeaau. Gwadai Haves iddo erioed weled y ddynes o'r blaen. Rhoddwyd tystiolaeth i un weled y carchaioi-ion ynghyd mewn tafarndy yn y dref. Traddodwyd y ddau garcharor i sefyll eu prawf yn y Frawdlys Chwarterol. GWLEDD AC ANEIIEGIAD.—Piydnawn dydd Iau, ar wahoddiad Canon a Mrs. Trevor cafodd Cor yr Eglwys a nifer o gyfoillioll, yn rhifo tua 60, de a danteithion ar lawnt y Rheithordy. Yna mwynhaodd y rhai ieuainc o honynt eu hunain mewn chwareuon. Am chwech oll gloch, cynhaliwyd cyfarfod o dan lywyddiaeth y Rheithor. Darllenodd anerchiad prydferth cyflwyniadol i Mr. T. Parsons ar achlysur oi briodas, a chyflwyn- odd Mr. Trevor set of stlrer tea service—rhodd lluaws o'i gyfeillion yn y dref. Cydnab- yddodd Mr. Parsons y rhodd yn deimladwy drosto ei hunan a'i briod.
ARDDANGOSFA AMAETHYDDOL MEIRION.
ARDDANGOSFA AMAETHYDDOL MEIRION. Fel y gwelir yn ngholofnau yr hysbysiadau cynhelir yr Arddangosfa nesaf yn Towyn, Medi 14. Ychydig sydd o arddangosfeydd sirol yn Nghymru, ond mae un Meirion yn hen, ac yn dal ei thir yn rhagorol drwy undeb ac aberth ar ran y boneddigion a'r ffermwyr, yn gystal a swyddogion deheuig a ffyddlon. Bydd yr un eleni yn ol yr arwyddion ar raddfa eang. Ceir y manylion gan yr ysgrifenydd, Mr. E. M. Roberts, Cefntrefor Isaf, Talsarnau. Dymunwn alw sylw at gystadleuaeth hollti llechi, yr hon sydd yn gyfyngedig i'r llechi a godir ar ochr ddeheuol y Mawddaeh, sef o Arthog i Dinas Mawddwy. Rhoddir gwobrau o 2p., lp., a 10s. yr enwau a'r entrance fee o 2s. yr un i'w lianfon i mswn erbyn Medi 3.
PENOD YR ENWOGIQN
PENOD YR ENWOGIQN Y PARCH. T. HUCHES (MACHYNLLETH CYNT). Ganwyd y Parch. Thomas Hughes yn Nhrawsfynydd, yn 1802. Dechreuodd gadw ysgol pan yn lied ieuanc, ac ymgymerodd a i gweini 'mysg eginau man' yn nheulu y Parch. Richard Jones o'r Worn, awdwr Dry eh y Dadleuwr, lienor a phregethwr o fri yn ei ddydd. Tra gyda'r gwaith hwn y dechreuodd bregethu yn Ffestiniog, ac yn fuan enillodd radd dda 0 boblogrwydd, fel y bu iddo yn 1823 roddi'r ysgol i fyny, a chysegru ei hun yn hollol i'r pwlpud. Felly gwelir iddo fod yn pregethu am dros 76 mlynedd. Ar y pryd y dechreuodd efengylu, trigianai yn Llanelltyd, ger Dol- gellau ond yn 1825 symudodd i Fachyn- lleth, ac oddeutu deugain neu haner can' mlynedd yn ol nid oedd bregethwr mwy adnabyddus na 'Thomas Hughes, Machyn- lleth,' ac wrth yr enw hwn yr adnabyddid ef hyd ddiwedd ei oes, er iddo symud i Benmorfa, ac oddiyno i Gaergybi, at ei feicli bymtheng mlynedd yn ol. Gwr nodedig ar lawer ystyr oedd y Parch. Thomas Hughes. Yn nyddiau ei nerth anfynych y gellid taro ar ddyn harddach-yr oedd yn dal a chydnerth, ac agwedd bendefigaidd arno pan yn cerdded. Meddai lais ystwyth a pher, a gallai ei reoli yn dda i ddylanwadu ar feddwl a theimlad ei wrandawyr, ac yr oedd yn fedrus iawn i gyffwrdd a I thanau euraidd tynerwch.' Yr oedd yn ddigymar o ran ei allu i gyraedd y serch a'r teimlad. Yr oedd efe ei hun yn un o'r dynion mwyaf teimladwy, ao felly yn meddu cymwysder neillduol i effeithio ar y teimlad. Yr oedd ei gyfundrefn gieuol (nervou8 systeiii) fel telyn awelaidd, yn teimlo cyffyrddiad bysedd yr awel dyneraf. Byddai y neillduolrwydd hwn yn ei gyfansoddiad corphorol yn fagl iddo weithiau. Caffai ansawdd y tywydd ddylanwad rhyfedd arno. weithiau yn nyfnderoedd y pruddglwyf, ac ar adegau eraill, yn ehedeg fel aderyn yn awyr afiaeth ac ysmaldod diniwed. I'r rhai oedd yn ei adwaen oreu, yr oedd yr hynod- rwydd hwn yn ei gyfansoddiad naturiol yn rhoddi cyfrif i fesur am rai digwyddiadau ynglyn a'i hanes oeddynt i eraill yn anhawdd eu hesbonio. Nodweddid ei bregethau gan ddywediadau byw, ergydion cryfion, ac fel y rhan fwyaf o bregethwyr Cymru yr oedd yn hapus neillduol yn ei gymhariaethau. Yr oedd yn llygadgraff anarferol i ganfod cyfatebiaeth rhwng gwrthddrychau naturiol a gwirioneddau ysbrydol. Fel bardd-bre- gethwr yr oedd teml natur yn dryloew iddo, a thrwyddi canfyddai yr ysbrydol, y nefol, a'r tragwyddol. Yr oedd dameg dlos neu alegori bert yn offerynau effeithiol ganddo i ddanfon gwirioneddau adref i galon ei wrandawyr. Trwy y cyfryw gyfryngau, enillai'r serch a deffroai'r gydwybod, a chafodd lawer odfa gofiadwy. Hysbysir fod ei bortread o uffern mor fyw unwaith wrth bregethu mewn Sasiwn yn Sir Flych- einiog, fel y gwaeddodd y Parch. William Havard, hen bregethwr hynod, Hawyr! Fu'm i 'rioed o'r blaen mor agos i dan uffern.' Yn Sir Benfro y pregethodd gyntaf mewn Sasiwn, a chlywid ei Iais yn fynych yn uchel wyliau ei enwad. Nodir fod dros haner cant wedi ymuno a chrefydd fel effaith pregeth o'i eiddo yn Llangollen, pan y cydweinyddai a'r Parch. Henry Rees. Ei deatyn oedd, 'Na thwyller chwi, ni watwarir Duw; canys pa beth bynag a hauo dyn, hyny hefyd a fed efe.' Dywedai Dr. Owen Thomas, rhyw ddwy flynedd cyn ei farwolaeth, am bregeth Mr. Hughes ar Baich glyn gweledigaeth,' mai hi oedd un o'r pregethau mwyaf effeithiol a wrandawsai ef; a chwanegai, Yn wir, nid wyf yn sicr nad allwn ddweyd mai hi oedd y bregeth fwyaf effeithiol a wrandewais erioed.' Ac yn ddiau bu ei weinidogaeth yn nerthol am dymor hir. Yr oedd neillduolrwydd hefyd yn ddewisiad o destynau. Tynai fel o lawer adnod na thybid fod nemawr o gyfoeth ynddi; a gwisgai eraill a newydd-deb hudol. Dyn anghyff) edin ydoedd yn ei ddull o feddwl, traddodi, a gweithredu ac ni allai neb ei gyhuddo o fod yn ystrydebol. (I barhau.)
ARTHOG.
ARTHOG. MARWOLAETH.-Dydd Gwener, bu farw Mr. Lewis Evans, Ynysfechan, yn 58 mlwydd oed. Yr oedd yr yniadawedig yn ffermwr cyfrifol. Yr oedd efe hefyd yn ddiacon defnyddiol yn eglwys Seion, M.C. Arthog. Claddwyd ef dydd Llun, yn mynwent Llwyngwril, pryd y gwasanaeth- wyd gan y Parchn. E. Jones Edwards, John William*, Evan Roberts, Dolgellau; a J. W. Roberts, Llanbedr,
CYNGOR SIROL CEREDIGION.
CYNGOR SIROL CEREDIGION. Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol yn Llanbedr, dydd lau, o dan lywyddiaeth Mr. J. C. Harford. Pasiwyd pleidlais o gyd- ymdeimlad a theulu Mr. Gladstone ar eu colled yn ei farwolaeth.—Bu y cwestiwn o gynorthwyo gwneuthurwyr gwlaneni a brethynau mewn lliwio, &c., yn y sir dan ystyriaeth, a chyfarwyddwyd y clerc i anfon at glerc Cyngor Sirol Caerfyrddin gyda'r amcan o gydweithrediad yn y mater. Ar argymhelliad is-bwyllgor, pasiwyd i ddi- swyddo gyriedydd un o'r steam rollers, a dorodd drwy ddamwain yn ddiweddar.— Apeliodd Cyngor Gwledig Aberystwyth am i'r Cyngor adgyweino'r ffordd sydd yn arwain i orsaf Llanfihangel, ond gwrthod- wyd am nad oeddynt wedi cydffurfio a'r telerau a osodwyd gan y Cyngor tuag at ei chymeryd drosodd.—Pasiwyd gwneyd rhodd o lOOp. at Gronfa Araddiffyaol y Borth rhag ymosodiadau y mor yn y lle.