Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

19 erthygl ar y dudalen hon

YMREOLAETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMREOLAETH. Un o nodweddion y Senedd-dymor di- weddaf oedd diffrwythdra mewn mesurau a gynygiwyd gan y Llywodraetli uc aelodau preifat Ty'r Cyffredin. Nid yw y diffyg hwn yn perthyn i un blaid wleidyddol yn unig; yr oedd yn ddigon amlwg yn amser y Llywodraeth Ryddfrydol. Cyfyd hyn o herwydd amledd y cwestiynau yr ymdrinir a hwy mae achosion tramor yn hawlio annhraetliol fwy o sylw nag ydoedd ddeng mlynedd yn ol. At hyn mae gwastraff dybryd ar amser drwy siarad yn lie gwneyd gwaith. Po fwyaf y pery y sefyllfa hon, mwyaf difrifol y niwed a achosa. Bydd i'r Senedd fyned yn wrthddrych gwawd a dirmyg oni phenderfynir ar ryw ffordd i drosglwyddo achosion Ileol yn gyfangwbl i bedair rhan y deyrnas, iddynt hwy ddeddfu arnynt a'u gweinyddu. Mae pob cynllun o lywodraeth leol yn anghyflawn heb Ymre- olaeth. Tybia y Ceidwadwyr fod Meeui Llywodraeth Leol y Werddon yn ddigon i'r Gwyddelod; ond gadawa'r Mesur y prif bwynt heb ei gyffwrdd, sof cenedl yn gweithio allan ei thynged drwy *i hanian ei hun. Pan bendeiiynir y cwestiwn Gwydd- elig bydd eiddo Cymru ag Ysgotlaud yn aros wed'yn. Feallai mai yr hyn fu fwyaf dyddorol i Gymru yn ystod y Senedd-dymor oedd ateb- iad Mr. Chaplin i gwestiwn a ofynodd Mr. Lloyd George. Addawodd Mr. Chaplin ystyried cynllun a gyflwynid iddo o blaid trosglwyddo galluoedd gweinyddol chwaneg- ol i Gynghorau Sirol Cymra, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888. Gweithredir y rhai hyn yn awr gan y Cyfrin-gyngor, yr Ysg- rifenydd Cartrefol, Bwrdd Masnaeh, Bwrdd Llywodraeth Leol, Bwrdd Addysg, a swydd- feydd eraitt. Os bydd Cynghorau Sirol Cymru yn cytuno ar nifer o faterion ag y dylent gydweithredu yn mherthynas iddynt, byddai yn hawdd ffurfio, i bob amcan a bwriad, Senedd Gymreig, i gyfarfod o bryd i bryd at amcanion gweinyddol. Byddai hyn af unwaith yn gyullun rhesymol ac ymar- frrol yn nghyfeiriad Ymreolaeth, manteisiol iwelliant cynrdeithasol, ac yn cymerydllawer o gyfrifoldeb oddiar ysgwyddau y llywodr- aeth ganolog.

YR HELYNT DDEFODOL.

ETHOLIAD SOUTHPORT.

TOWYN.

DOLGELLAU.

ARDDANGOSFA ARDDWROL PENIARTH.

YSTORI ENBYD.

Family Notices

nb£hía£tball.

Advertising

COLLWYD.

YN ELSIAU.

yTHSGHTDD

LLANBEDR, MEIRIONYDD.

Al\fR \ \V 10 l{.

ABERGYNOLWYN.I

LLYS YR YNADON. DYDD GWENER.

|CORRIS.

CWMLLUNE.