Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
(feitxion Jlroen.
(feitxion Jlroen. FFARWEL Y FLWYDDYN. GA* MYNYDDOG. Ffarwel!' meddai'r flwyddyn ar derfyn ei thaith, Mae'n tymor i fyny-gorpheilaiii fy ugwuith; Mae'm llaw wedi oeri gan henuint, fy ffrynd, Ac nid oes un funyd i'w cholii—'rwy'n myn'd. •Rvry'u gwel'd fy nhad Amser yn sefyll o draw Yn mhorth trsgwyddoldeb !-amneidia a'i law I ddangos mai yuo y rhaid i mi fyn'd Ffarwel! 'does dim aros-ffarwel i ti ffrynd. 'Rwy'u cofio y Gwanwyn yn d'od a'i law wen I wisgo prydferthwch o amgylch fy mhen Ond wele'i brydferthwch i gyd wedi inyn'd I 'Does dim byd yn aros-ffarwel i ti ffrynd. Doi'r Haf wedi h ny a'i geinion di ri'— Bu'r adar yn tywallt eu moliant i mi; Ond gwywodd y ceinion—mae'r gan wedi myn'd, Yn gnul oer marwolaeth—ffarwel i ti ffrynd. Yn adeg Cynhauaf, cyfrenaiii yn hael- Fy Nuw oedd yn rhoddi, a thithau yn cael; Ac felly cyfrenais y cyfan cyn myn'd— 'Rwy'n marw'n ddi-gyfooth-ffarwel i ti ffrynd. Daeth Gauaf o'r diwedd i welwi fy mryd- Y Gauaf hen angeu blynyddoedd y byd; Mae chwya oer marwolaeth 'nawr cyn i mi fyn'd, Yn rliew ar fy ngruddiau-ffarwel i ti ffrynd. Mi gedwais dy gyfrif bob dydd a phob awr- Beth bynag a wnaethost, mae'r cyfan ar lawr Ffarwel nes b'o amser yn marw, 'rwy'n myn'd— Cawn eto wneyd eyfrif-ffarwel i ti ffrynd. C £ st lawer o roddion erioed o'm llaw i, Ond llaw wag a marwol yn awr a gei di; Mae'r awrlais yn tincian fy nghnul—rhaid yw myn'd— Mae'r byaedd ar ddeuddeg!—ffarwel i ti ffrynd
BLWVDOYH NEWYDD nOA I'R .…
BLWVDOYH NEWYDD nOA I'R HECESYDO: GAN DR. REES, BRONANT. Negesydd yw un yn cario negesau i deiau ymhell ac yn agos. Mae o bwys fod y NEG- ESYDD yn cario newyddion da, cywir, a gwir. ioneddol, i bob ty y mae yn myned". Mae y NEGESYDD hwn wedi ei eni a'i fagu yn mhentref Corris, ac mae yn barchus iawn yn ei gartref, ac yn meddwl nad oes dim y fath le na phobl yn y byd fel pobl Ccrris. Wei, gellir dweyd eu bod yn enwog yn eu gwahanoi gap elau, yn uchel mewn rhinweddau; yn bobl serchog, crefyddol, a gweithgar gyda phobpeth da, yn eu gweinidogion. eu blaenoriaid, a'u haelodau, ac y maent yn ddirwestwyr teltg, fet y gall y NEGESYDD eu canmol. Gellir dweyd am y NEGESYDD ei fod yn dipyn Ð twynog yn ei nagesau, am ei fod yn cario cymaint o newyddion am bawb a phobpeth Nid yw yn dweyd dim yn isel am neb, nac yn ymgecru a busnesioa rhai eraill, ond meindio ei fusnes ei hun. Medr wahaniaethu rhwng yr us a'r gwenith; mae yn pigo y gwenith yn dda, ac yn cario perlau gwerth eu trin a'u meddu. Mae yn gosod allan ei Hysbysiadau yn dden- iadol iawn. Nid oes dim i ddweyd wrtho am hyny, ond gofalu fod y goods yn dda. Nidyw yn faith mewn dim, ac y mae yn rhaid i minau fod yn fyr wrth ddweyd gair am dano Ac y mae wedi dyfod a hen bethau da i'r golwg i'w ddarllenwyr o'i ddechreu, ac yr wyf yn dymuno hir oes iddo. 5 Os bydd ef a minau byw y flwyddyn nesaf, bwriadaf ddyfod a hen lythyrau sydd genyf o waith John Elias, Christmas Evans, Jones, Llangan, Ebenezer Richards ac eraill, gan obeithio y bydd eu.darllen ynlles i'w ddarllenwyr. Yr wyf yn dymuno cylchrediad helaeth i'r NEGESYDD a'i negesau, oblegid yr wyf yn gwelcd ei amcan a'i bethau yn dda.
DADGYSYLLTIAD YN NESHAU.
DADGYSYLLTIAD YN NESHAU. Mewn ystafell yn Pimlico, Llundain, nos Fawrth, bu Mr. Athelstan Ridley yn areithio ar Ddadganiad y ddau archesgob.' Ymysg pethau eraill, dywedodd tod digwyddiadau y deuddeng mis diweddaf yn profi yu eglur iddo ef fod cais neillduol, yn ol cynllun cyfrwys; yn cael ei wneyd i ddinystrio y blaid Uchel. Eglwysig yn Eglwys Loegr, a bod Dadgysyllt- iad yr Eglwys wedi ei ddwyn, trwy hyny, gryn lawer yn nes ymlaen nag oedd. Ond am ymladd y frwydr y mae ef, debygid.
MARWOLAETH DUC WESTMINSTER.
MARWOLAETH DUC WESTMINSTER. Dydd Gwener, bu farw Due Westminster, ar 01 byr saldra o'r fronwst, yn St, Giles, Cran- bourne, swydd Dorset, yn 14 oed. Ei brif balas yw Eaton Hall, Caer. Meddai gyfoeth aruthrol yn Llundain, parthau o Loegr a Chymru, a defnyddiai lawer o hono yn haelionus at achos- ion elusenol a chrefyddol, ac yr oedd yn dir' feddianwr da. Dilynir ef yn ei etifeddiaethau gan ei wyr. Perthynai i blaidy Rhyddfrydwyr Undebol.
TALYBONT.
TALYBONT. PKIODASAU.—Rhagfyr 20fed, yn nghapel Annibynwyr, Aberystwyth, gan y R. E. Jontll, Talybont, priodwyd Mr. Evan Mot gan, Talissin, a Miss Mary Jones, Cou- lanmaesmawr.— Yx un dydd, yn yr un 11., fan y Parch. J. Davies, priodwyd Mr. Evan ones, Glanaber, a Miss Margaret Hughes, llriatedwo4fawrt
AMRYWION.
AMRYWION. Bu farw y Parch. W. Thomas, Gwynfe, gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y mae yr Arglwydd Roberts a'r Arglwydd Kitchener yn meddu anrhydedd dinasframt Caordydd. Y mae symudiad ar droed i gyflwyno tysteb i'r Parch. W. Edwards, D.D., LIywydd Athrofa Caerdydd. Ceridwen1 yw enw gwaith eerddorol olaf Dr. Joseph Parry. Ysgrifenwyd ef ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl. Ceir Syr W. T. Lewis wedi tynu yn ol ei rybudd o'i ymneillduad o Gymdeithas y Meistriadoedd yn Neheudir Cymru. Yn y 1J edmintter Gazotto, dydd Mawrth, ceir llythyr llawn o synwyr gan Mr. Bryn Roberts, A.S., ar achosion a ffolineb y rhyfel. Cyfarfu pwyllgor gweitliiol Tysteb Goff- adwriaethol Mr. Thomas Ellis, dan lywydd- ittot4 Mr. D. Lloyd George, A.S., nos Wener diw6ddaf. Cauir y drysorfa yn fuan. Dydd Llun, Rhagfyr 18fed, rhoddodd Mrs. Ellis, priod y diweddar Mr. T. E. Ellis, A.S., enedigaoth i fab, yn 9, Cowley Street, Llundain. Mae y fam a'r plentyn yn dyfod ymlaen yn dda. Dydd Gwener, aeth y Cadfridog Roberts i Gastell Windsor, ar wahoddiad ei Mawr- hydi, cyn ymadael am Ddeheudir Affrica. Deallir fod y ffarweliad rhyngddo a'r Fren- hines yn un tra dwys. Dydd Sabbath, bu farw Mr. B. Quaritch, prif lyfrwerthydd ei oes, yn 80 mlwydd oed, yn Piccadilly, Llundain. Brodor o Saxony oedd, ond wedi preswylio ynLloegr er 1842, a chododd o ddinodedd i safle uchel fel mas- nachydd llyfrau hynafol a drudfawr. Nos Fawrth, bu Syr Henry Campbell- Bannerman yn siarad yn Aberdeen. Dy- wedodd ein bod wedi brwydro yn awr er's wyth wythnos. y oedd dau beth i'w weled yn amlwg: dewrder dihafal ein milwyr, a naturdditrifol y gwaith a gymerasom mewn llaw. Miv Chamberlain, meddai, oedd yn gyfrifol fwyal am, y rhyfeL Fe wyr pawb fod gan y wasg allu mawr mewn amseroedd fel hyn, a dylai deimlo ei chyfrifoldeb. Cyfaddefodd Arglwydd Ab- erdeen wrth Mr. Cobden mai y wasg oedd wedi gorfodi y Weinyddiaeth i fyned i ryfel yn erbyn Rwaia yn 1854, a dywedodd Arglwydd Derby y dylai y newyddiaduron deimlo yr un cyfrifoldeb wrth ysgrifenu ag y mae aelod doeth o'r Weinyddiaeth yn ei deimlo wrth siarad yn gyhoeddus, oblegid nid oes un call o honynt yn ymgegu fel y gwna Joseph Chamberlain. Ond yn lie mesur a phwyso ei geiriau, mae y wasg Jingoaidd wedi chwythu fflam rhyfel nes yw yn awr yn goddeithio pob peth o'i blaen ac y mae yr un papyrau, wrth weled nad yw y fflam yn llosgi yn y cyfeiriad y dymunent, yn bytheirio yn erbyn y swyddogion druain, y rhai nad ydynt mewn gwirionedd ond y ffaglau y maent hwy yn eu pentyru ar y tanllwyth dinystriol. Gofidus ydyw meddwl mor ddistaw y mae y wasg grllyddol a'r pwlpud wedi bod pan oedd yr ymdrafodaethau yn myned ymlaen, i ddatgan barn ar wedd foesol a chrefyddol myned i ryfel. Y mae y lladd a'r dinystrio sydd yn cymeryd lie yn Affrica, yn peri fod dagrau y gweddwon a'r amddifaid yn dyrch- afu i'r nef ac mewn canlyniad, yn btchod ofnadwy os oedd yn ddi-angenrhaid. Yimae pechod ysgeler yn gorwedd yn rhywle. Os oedd modd ysgoi y fath anfadwaith, fel yr hona y dynion mwyaf meddylgar yn y deyrnas y gallesid, dylasai y wasg grefyddol fod yn fyw i'r cwestiwn. Yn lie hyny mae y cyheeddiadau crefyddol Seisnig, megis y Christian World a'r Christian Htrald wedi enyn ysbryd rhyfel Icyn i'r frwydr gyntaf gael ei hymladd. Anfonodd y Gymdeithas Heddwch 35,000 o gylchlythyrau at wein- idogon yr efengyl i erfyn arnynt bregethu o blaid heddwch y Sul diweddaf. Pa faint o honynt a wnaethant? Os ydyw yr hyn gymerodd le yn amqser rhyfel y Grimea o ryw werth, ofnwn na wna llawer, yn enwedig o weinidogion yr Eglwys Sefydledig, ddim ond defnyddio y cyfleustra i ddadleu cyf- reithlondeb rhyfel, a son am ddewrder ein milwyr yn ymladd o blaid rhyddid a chyf- iawnder' i'r Outianders a thrwy hyny ddangos eu rhagfarn neu anwybodaeth o'r
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. CYFARFOD DIRWESTOL.—Nos Sadwrn, cyn- haliwyd un arall o'r gyfres o gyfarfodydd dirwestol adloniadol, dan nawdd Cymdeithas y Merched. Parotoir bwyd, papyrau, &c., a cheir caneuon, adroddiadau, ac anerch- iadau ymhob cyfarfod. Eu hamcan i'w gwasanaethu fel gwrth-swyn i'r dafarn a dylent gael cefnogaeth wresocach nag a gant gan arweinwyr crefyddol y dref. CYFABFOD YSGOLION. Dydd Sul, yn nghapel Soar, Bontddu, cynhalivvyd cyfarfod ysgoHon M. C. dosbarth Dolgellau, dan lyw- yddiaeth Mr. R. Mills. Dewiswyd Mr. R. C. Evans yn llywydd am y flwyddyn, a Mr. John Thomas yn drysorydd. Yn y pryd- nawn, holwyd y plant yn Rhodd Ham, gan y Parch. E. J. Edwards, a chafwyd anerchiad maith ar Gynydd yr Ysgol Sul yn y cylch yn yetod y can' mlynedd diweddaf,' gau Mr. R. 0. Evans.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. DARLITH.-Nos Fawrth, traddododd y Parch. T. E. Roberts, M.A., ddarlith ddydd- orol ar ei Daith i Norway,' yn y Waun. Cadeiriwyd gan Mr. Isaac Griffiths. Eg- lurid y ddarlith drwy gyfrwng y Magic Lantern. MARWOLAETH.—Boreu dydd Sadwrn,bu farw Mrs. (Villiams, Bodlondeb, yn 73 mlwydd oed. Yr oedd yn wael ei hiechyd er's misoedd. Gweddw ydoedd i'r diweddar Mr. Griffith Williams, U.H., a chyn hyny, gweddw y Parch. John Charles. Genedigol ydoedd o Llangristiolus, Mon. Yr oedd yn gymeriad diargyhoedd a hoffus gan ei holl gydnabod. Bydd y golled yn fawr ar ei hoi yn nghapel Salem, ymha le yr oedd yn aelod. Claddwyd hi dydd Mawrth, yn mynwent Gwalchmai, Sir Fon.
RHWYDO Y DDYFI.
RHWYDO Y DDYFI. Mae Bwrdd Masnach ar ol derbyn ad- roddiad y dirprwywr, Mr. Archer, i gais Bwrdd Pysgota Dyfi, &c., am fwyhau rhwyd Clwb y Ddyfi o 2 fodfedd i 2! modfedd wedi penderfynu ymhlaid y Bwrdd. Y dadleuydd dros y Bwrdd oedd Mr. W. R. Davies, Dolgellau. Gwrthwynebwyd y cyn- ygiad yn gyndyn gan Glwb y Ddyfi, yn yr ymchwiliad gan Mr. Archer, Hydref lOfed a'r lleg, a'u dadleuydd oedd Mr. Martin Woosnam. Pasiwyd estyn amser wythnosol peidio rhwydo, sef i fod o hyn allan o 6 o'r gloch boreu Sadwrn hyd 6 o'r gloch boreu Llun. Hefyd codwyd pris trwydded gwialen am y tymor o 10s. i lp.; am dri mis o 5s. i 10s.; ac am fis o 2s. 60. i 5s., yr hyn oeddynt yn 1889. Gadawyd pris trwydded am ddiwrnod yn Is. fel y mae, er pan y gostyngwyd ef o 2s. 6c., er mwyn cyfarfod a'r dosbarth gweithiol. Buddugoliaeth fawr ar or-faeliaeth Clwb y Ddyfi oedd mwyhau magi y rhwydi a ym- laddwyd yn Mwrdd y Gwarchodwyr mewn gwahanol ffurfiau er's deng mlynedd.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. MARCHNAD Y N ADOLIG,- Yr oedd y farchnad uchod, a gynhaliwyd dydd Mercher, yn un o'r rhai lluosocaf er's llawer blwyddyn. Yr oedd prisiau y gwyddau, &c., yn hynod o uchel, y rhai a werthwyd yn ddi-ymdroi. SOIREx.-Cynhali wyd yr uohod yn Ysgoldy Maengwyn, nos Lun, dan nawdd y Gym- deithas Lenyddol. Gwnaed y parotoadau angenrheidiol gan Miss Rees a Miss Marpole, am yr hyn yr haeddant ganmoliaeth uchel. Wedi olirio y byrddau, galwodd y Parch. W. S. Jones, at Mr. D. Ll. Jones, i roddi adolygiad o weithrediadau y Gymdeithas am y tymor. Yna caed crynhodeb o ddigwydd- iadau yr wythnos gan Master E. Hughes. Cymerwyd rhan hefyd gan Mri. R. Ll. Jones, G. Owen, J. Thomas, T. Powell, a D. J. Jones. Diwedd wyd drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau.' GORMFIAD Y DDYFI.—Nid yn rhy fuan y darfu i M. Richard Rees, U.H., alw sylw y Cyngor Sirol diweddaf at y ffaith fod yr afon Ddyfi ar amserau yn tori dros y glanau, new peri fod y ffordd fawr yn cael ei llanw a dwfr; a hyny am fo,d y flordd oddeutu llathen islaw y tir oddiamgylch. Da genym i Mr. Rees lwyddo i gael gan y Cyngor i edrych i mewn i'r mater. Mae gwir angen gwneyd rhywbeth.
GO GIN AN.
GO GIN AN. MARWOLARTH.-Gofidus genym groniclo marwolaeth Mr. James Davies, Nantymoel, yr hyn a gymerodd le dydd Llun, ar el cystudd byr. Yr oedd yr ymadawedig yn fab i'r di- weddar Mr. J. Davies, South View, o'r He yma, yr hwn oedd flaenor parchus gyda'r M. C. yn y lie. Symudodd yr ymadawedig i'r Deheudir 14 mlynedd yn ol. Yr oedd yn 36 mlwydd oed. Claddwyd ef dydd Iau, yn XantymoeI. Gad-s awa ar ei ol weddw ac un plentyn, j
EANGU DIWYLLIANT CYMREIG.
EANGU DIWYLLIANT CYMREIG. GAN Y PRIFATHRAW T. F ROBERTS, M.A. Yn nhrydydd cyfarfod y Gymdeithas Geltaidd, perthynol i Goleg Aberystwyth, traddodwyd anerchiad gan y Prifathraw T. F. Roberts, M.A., ar Yr angen am eangu diwylliant Cymreig.' Gwnaeth y sylwadau a ganlyn Sylwai fod cwrs hynod dyn i raddau pell yn derbyn ei ffurf oddiwrth y dylanwadau fu yn gweithvedu arno yn ei dymor boreuol. Ceir engreifftiau amlwg o hyn yn mywyd rhai o arwyr ein gwlad, megis Tennyson, John Stuart Mill, ac eraill. Priodolai Stuart Mill ei lwyddiant i'r cyohwyniad gafodd gan ei dad yn nechreu ei yrfa. Mae hyffordd- iant yr aelwyd felly yn elfen bwysig yn hanes pob dyn. Felly, yn yllecyntaf, dylid eangu diwylliant y cartref. Nid yw Cymry wedi cyraedd y safle a ddyl- asai yn y cyfeiriad yma. Mae yn wir fod enghreifftiau anrhydeddus o Gymry wedi elwa ar y cychwyniad gawsant yn moreu eu hoes, megis Charles o'r Bala, y Prifathraw T. C. Edwards, David Charles, Caerfyrddin, a Roberts, Manceinion; eto, rhaid addef nad yw gwerin Cymru yn gofalu am sylfaeni digon cadarn i gymeriad ac addysg ieuenctyd ein gwlad. Dylid, yn y lie nesaf, eangu diwylliant yr ysgol. Nid yw Cymru wedi sylweddoli gwerth a phwysigrwydd y diwylliant hwn yn ei ddylanwad ar gymeriad y genedi, a hyny oblegid fod ei chyfundrefn addysg ar hyn o bryd yn ei fabandod. Gellir yn hawdd ganfod effeithiau cynllun addysg yr ysgolion yn Lloegr oddiwrth hanes sefyd- liadau megis Harrow, Eton, Rugby, a'r cyffelyb. Ymhen ychydig flynyddau, gwelir effeithiau cynllun addysg Ysgolion Canol- raddol Cymru. Ond rhaid wrth ymdreeh a ffyddlondeb, ac ymryddhau oddiwrth y syniad sydd yn ffynu yn rhy gyffredin fod addysg yn angenrheidiol er llwyddo mewn arholiadau yn unig. cymeryd golwg newydd ar addysg, a'i geisio er mwyn ei werth cynhenid ei hun. Ceisier, ynte, ymgyraedd at safon uchel, or cynyrchu yn y meddwl Cymreig ledneis- rwydd ac ysgafnder,; (refinement) na welwyd mo hono o'r blaen. Eto, mae angen eangu diwylliant yr Ath- rofa, nid fei myn rhai, trwy beri iddo gynwys pob peth. Mae y maes yn rhy doreithiog, a'r amser yn rhy brin i feddwl am ei ddi- hysbyddu. Gan hyny,"rhaid wrth ddewisiad o'r pethau goreu a ysgrifenir. Dylai pob Cymro geisio yn gyntaf ddiwylliant Cymreig neu genedlaethol, a defnyddio hwnw fel cyfrwng i ddeall diwylliant cyffredinol y byd. Hyny yw, edrycher ar y byd o gyfeiriad Cymru. A thuag at hyn, dylid ymgydna- byddu a phrif linellau hanes Cymru, ac a phrif gynygion llenyddol Cymru, megis, 1 Maiinogion, Cywyddau Dafydd ap Gwilym, Bardd Cwsg, Llyfr y Tri Aderyn, lJrych y Pnf Oesoedd, gweithiau Goronwy Owen, Ceiriog, Islwyn, a Dewi Wyn o Eifion. Disgwylir i ddiwylliant eang, hefyd, gymeryd i mewn bynciau cymdeithasol a gwleidyddol. Cymorth arall i enill diwylliant yw meithrin dyddordeb mewn hynafiaethau. Nid amcan diwylliant Cymreig yw cyfyngu'r Cymro i'w wlad ei hun, ond ei wneyd trwy gyfrwng ei ddiwylliant cartref yn gymwys i iyned i mewn i ddiwylliant a chymdeithas y byd. Os am ddiwylliant eangach y byd, rhaid ymgynefino a chewri llenyddol y byd, megis, Shakespeare, Milton, Plato, Aristotle, Aech- ylus, ac eraill. I ddysgu cyfrinach y 19eg ganrif darllener Dante, Goethe, Carlyle, Ruskin, Tennyson, Browning, a Wordsworth. Hefyd, dylid ymgydnabyddu a rhai o'r gweithiau gwyddonol ac athronyddol, megis, eiddo Kant, Proff. Ward, ac eraill. Mae y safon yn uchel, ydyw; ond a yw yn rhy uchel ? Yn ngwyneb manteision addysg y dyddiau hyn, hwyrach ei fod; ond cyn hir, daw yn gyrhaeddadwy. Trwy benderfyniad di-ildio a ffyddlondeb diysgog, sicrheir ef. Nesawn fel Cymry at ein gwaith, gan gredu yn mawredd ein cenedl.' Gochelwn waseidd dra ac ysbryd pruddglwyfus, ac ymdaflwn i ganol y galluoedd mawrion sydd yn dyrch- af u'r byd. Ymgydnabyddwu a phrif bynciau y dydd, megis, addysg, cydweithrediad cym- deithasol, penarglwyddiaeth yr ysbrydol ar y materol, ac achos mawr heddwch. Dyma bynciau ymdrafodaeth y byd gwareiddiedig, dyma bynciau ein tadau, dyma'n hetifedd- iaeth ainau. Mawrhawn ein braint, a gwsrthfawrogwn ein hetifeddiaetlt.
LLANEGRYN.
LLANEGRYN. Y LLYTHYBDY.—Ionawr laf, ac ar olhyny, yr ydys wedi trefnu sefydlu yn y llythyrdy yma fusues Money Orders a Bano Oynilo.
SYR WM. BUTLER A'R RHYFEL.
SYR WM. BUTLER A'R RHYFEL. Un o'r dynion a ddifenwir ac a gam-liwir fwyaf yn y wlad hon yw Syr William Butler. Beir ef am holl anffodion Deheudir Affrica, am gyfrifiad anghywir o ynau a milwyr y Boriaid, ^m wendid ein byddin yn Neheudir Affrica yr adeg y torodd y rhyfel allan mewn gair, yn ol gwasg ryfelgar Prydain, efe sydd gyfrifol am ein holl aflwyddiant. Ond i bob dyn ystyriol, sydd wedi gwylio y symudiadau, cyhuddiadau gwarthus o anghywir yw'r cyfan. Gwyddis i Syr W. Butler gael ei benodi fel Llywydd Cape Colony ac Uchel Ddirprwywr Deheudir Affrica yn ystod ymweliad byr Syr Alfred Milner a Phrydain. Ni roed iddo unrhyw gyfarwydd- iadau, a cheisiodd yntau wneyd yr hyn, mewn naw amgylchiad o bob deg, fuasai yn dderbyn- iol gan y Llywodraeth, sef meithrin heddwch. Gwnaeth yr oil yn ei allu i gadw pethau yn dawel, a'n cadw ninau rhag pob helyntion. Yr oedd y cynwrf wedi dechreu yn y Transvaal, a gwelodd Syr William yn eglurach na neb arall faint y gwaith oedd o'n blaenau os rhuthrem i ryfel a'r Boriaid Dychwelodd Syr A. Milner i'r Cape yn llawn awydd am ryfel, a daethant eu dau i wrthdarawiad, gyda'r canlyniad i'r Llywodraeth fod mor tfol a derbyn ymddiswydd* iad y gwr cymhwysaf i'w cyfarwyddo, a thrwy hyny, collodd Prydain un o'i chynghorwyr goreu. Cyn dychwelyd o Affrica, dywedodd y dylid gosod byddin 0 20,000 i wylio llinell y Tugela, ac y byddai raid cael byddin arall ddim llai na 100,000 i ymdaith tua Bloemfontein trwy Cape Colony. Diystyrwyd ei gyngor a chwar- wyd am ei ben. Mae profiad yr wythnosau di. weddaf hyn yn dangos yn eglur fod Syr William Butler wedi mesur a phwyso y sefyllfa yn bur gywir.
IGORLIFIAD AFON DYFI.
GORLIFIAD AFON DYFI. Yn nghyfarfod diweddaf Cyngor Sirol Tref- aldwyn, dygodd Mr. R. Rees, Machynlleth, sylw y Cyngor at y brif-ffordd sydd rhwng gorsaf Reilffyrdd y Cambrian yn Machynlleth a Phont-ar-Ddyfi. Dywedodd Mr. Rees bod cryn anghyfleusdra yn cael eu achosioherwydd gorlifiad yr afon dros y ftordd, am rai dyddiau nis gellir myned yn hawdd o'r dref i orsaf Reilffordd Corris na chwaith i ran helaeth o orsaf Reilffyrdd y Cambrian. Hefyd, bydd y trafnidiaeth rhwng rhanau o Sir Feirionydd a Machynlleth yn sefyll yn hollol, achosir llawer o anghyfleusdra i awdurdodau y Post Office, gan fod yn rhaid anfon y bags mewn cwch dros y dwr, ac ychydig amser yn ol bu agos i Bostfeistr Machynlleth foddi wrth geisio cael y bags drosodd. Y mae y ffordd yn bresenol oddeutu tair troedfedd yn is nag arwynebedd y tir ar y ddwy ochr, a chredai Mr. Rees pe byddai i'r Cyngor Sirol godi'r ffordd yn wastad a'r tir y byddai yn llawer gwell. Diffyg arall barnai fod y culvert ag oedd yn myned o dan y reilffordd yn llawer rhy fychan i gymeryd y dwfr trwodd.—Penderfynwyd fod y County Surveyor yn ymwsled a'r He, a dwyn adroddiad ar y mater i'r Cyngor nesaf.
YSGOL SIROL MACHYNLLETH.
YSGOL SIROL MACHYNLLETH. RHANU Y GWOBRWYON, &C. Prydnawn dydd Mawrth, ymgynullodd lluaws mawr ynghyd i'r Ysgoldy, ar wahoddiad y Prifathraw a'r Llywodraethwyr, ar yr achlysur e ranu gwobrwyon. Llywyddwyd y gweithred- iadau gan Mr. R. Rees, U.H., cadeirydd y Llywodraethwyr. Wedi ychydig eiriau gan y llywydd, darllenodd y prifathraw, Mr. Meyler, lythyrau oddiwrth amryw foneddigesau a bon- eddigion, yn amlygu gofid na allasent fod yn bresenol. Yna adolygodd Mr. Meyler waith yr Ysgol yn y gorphenol, yr hwn oedd yn galonogol iawn. Rhanwyd gwobrwyon i'r ysgolorion gan Miss Maglona Rees, fel y canlyn Form 6, Thomas W. Phillips a R. Hughes. Form 5, Emrys Jones a R. R. Morris. Form 4, Richard J. Humphreys a Edward R. Vaughan Form 3, Elwy ap Ivor, Llewelyn M. Jenkins, a John Edward Evans. Form 2, 1 Gwendolione LI. Rowlands, 2 Annie M. James a James T. Reese. Extra prizes Thorn.is W. Phillips (y iaf drwy y Dywysogaetii yn Arholiad Lleol Caergrawnt, a'r Se, yn y London Matricula- tion) Richard J. Humphreys 1st classes in Science and Art; Edward R. Vaughan, two J st classes Science and Art; Percy Lewis, Form 6, Montgomery County Exhibition; Jannett Davies, Form 6, general proficiency and good moral influence John Hughes, Form 4 Ivor Jones, Form 4 John Evans, Form 3 Goronwy Davies, Form 3; Margaret Williams, coginio. Rhanwyd hefyd nifer fawr o dystysgrifau y Science and Art Department, gan Miss Meredith. Ar ol hyn, traddododd y Proff. W. Jenkyn Jones, M.A., Prifysgol Cymru, anerch- iad maith a galluog, yr hwn a wrandawyd gydag astudrwydd a boddhad. Cynygiwyd diolchgarwch cynes i'r Proffeswr am ei anerch- iad gan Mr. J. Rowlands, clerc y Llywod- raethwyr; a chefnogwyd gan y Prifathraw, a phasiwyd hyn, yn ogystal a diolchgarwch i'r Prifathraw a'r is-athrawon. Bydd tymor nesaf yr Ysgol yn dechreu Ionawr 16, igoo.1,