Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
JSadolig g Prudd.
TANGNEFEDD ac ewyllys da sy'n gydnaws a'r adeg hon o'r flwyddyn. JSadolig g Prudd. Ond nid felly y mae eleni. Swu rhuad magnelau, gwaedd buddug-oliaetb, dolefain yr ar- cholledig, gruddfan y rhai ar ddarfod am danynt, a chri eu teuluoedd, sydd yn llenwi ein clustiau, fel y mae yn anhawdd gwrando ar ddim arall. Mae canlyniad yr ymgyrch yn Neheudir Affrica wedi troi yn hollol wahanol i'r hyn y tybiai ei gefnogwyr. Gyda Hit y teimlad milwrol a gynyrcbwyd, aed i'r rhyfel gyda cbalon lawen, heb ystyr- ied fod rhyfel ar y goreu yn ddull barbar- aidd o benderfynu ymrafaelion, a derbynid pob can a ddyrchafai allu y cledd gyda chymeradwyaeth fyddarol. Ileddwch ac nid rhyfel yw y drycbfeddvvl Cristionogol, a phriodol i Gristionogion yw ymatal rhag porthi'r nwyd ryfelgar sydd yn y wlad. Mae llawenychu mewn lhyfel yr un peth a llawenychu mewn caethwaaiaeth neu ryw ddrwg arall. Y rhai a farnant fod y lhyfel presenol yn angenrheidiol—er nad ystyriwu ni ei fod—rhaid iddynt gydnabod mai angenrhaid creulawn ydyw, ac mai dyl- edswydd yw cymeryd y cyfleusdta cyntaf i ddwyn i mown amodatt heddwch. Byddai cynyg telerau yn awr, a sicrhai i'r dcIwy "Weriniaeth eu hannibyniaeth, yn rhyw iawn am y byrowylldra a'r anystyriaeth a esgor- odd ar y rhyfel. Aeth Prydain iddo trwy rym teimlad-trwy oruchafiaeth teimlad ar reswm y teimlad haelfrydig i estyn yr etholfraint i'r Outlanders. Nid yw teimlad er hyny yn ddigon i gyfreithloni rhyfel. A gallesid gydag ychydig o ymdrech pellach wast&dhau yr ymryson, canys addefodd Mr. Chamberlain fod cydwelediad ar naw rhan o ddeg o'r hyn y ewerylid am danynt. Ond nid teimlad da a lywodraethai llawer ys- gogid hwy gan ddialgarwch, chwant am olud, ac am diiiogaeth, ac mae'n debyg fod y trychinebau diweddar yn gerydd ar falchder a thrahausder. Un o effeithiau cyntaf y rhyfel yw diffodd y teimlad rhyddgarol a ddygwyd allan yn y drafodaeth. Ni chlywir gair yn awr am yr Outlanders gorthrymedig. Yn hytrach uniad gorfodol a'n trefedigaethau, urddas yr Ymberodraeth, gortbrechiad a thaledig- aeth ddrud, a difodiad y Boriaid a glywir yn awr. Ond yn gysylltiedig a hyn dyg drueni annesgrifiadwy ac annhraethol fwy ar yr holl bleidiau na'r anghyfiawnder cwynid o'i blegid. Rhaid yn awr cymeryd i'r cyfrif y degau o filoedd o galonau archolledig yn Mbrydain a Deheu dir Affrica. Mae lluoedd o wragedd a phlant a rhieni oedranus yn awr ar yr adeg dywyllaf yn eu hanes. Tybia rbai os telir rhyw ychydig yn wythnosol i'r amddifaid, ac y cyhoeddir yn y newyddiaduron fod y dynion wedi ymladd yn ddewr fdros eu gwlad, fod hyny yn ddigon i iachau briwiau yr amddifaid, ac o iawn am y bywydau a gollwyd. Ondni wna hyny na dim arall nior rhyfel hwn yn un eyfiawn ae anrhyd- eddus ar du Prydain.
Y RHYFEL A'l WERTH.
Y RHYFEL A'l WERTH. Er nad oes petrusder nad Prydain fydd yn orchfygol yn y diwedd, eto of air yr aiff miloedd yn ychwaneg yn ebyrth i'r cleddyf cyn y rhoddir ef yn y wain. Bydd yr oruchafiaeth er ei chael yn un ddrud i Brydain. Beth ydyw holl aur y Rand a diamonds Kimberley i werth y bywydau gwerthfawr a gollir ? Ac nid hyny yn unig, ond y draul enfawr a'r tristwch a'r galar a ddaw i filoedd o fynwesau. Pa glod, pa ogoniant i allu mawr Cristionogol fel Prydain, i goncro dyrnaid o bobl ddiniwed yn mherfeddion Affrica. Ni bydd yn ddim. Ond y mae yn anrhydedd i'r Boriaid ymladd dros annibyniaeth eu gvrlad a'u oartrefi. Am lain o dir, milain daerent-dan Iw, A dwy wlad gynhyrfent; Dwy genedl a gyd-gwynent-yn awchus, Mor ryfygus i'r gAd ymarfogent.' Diau y dylai dyngarwyr pob gwlad, a Christionogion yn gyff i-edinol, ddymuno a gweddio am i egwyddorion teyrnas Tywyaog Tangnefedd ffynu ymhob man.
PRINDER GLO
PRINDER GLO Darogenir y bydd y glo yn brin ddechreu y flwyddyn newydd. Mae'r galw yn iwy a'r cyflenwad yn llai nag erioed. Y rhesymau am hyn vw fod y glowyr yn enill mwy, ac na weithant amser llawn, fod llawer o'r glowyr wedi myn'd i'r rhyfel, ac eraill xnilisia. Ofnir y bydd raid eau aniryw lofeydd mawrion yn rhanol, neu yn hollol yn fuan iawn. Mae'r pi inder, wrth gwre, yn codi'r prisiaii,
MAES Y RHYFEL.I
MAES Y RHYFEL. EGLURHAD Alt Y MAP UCHOD. Islaw mae enwau'r gwledydd y cerir y Rhyfel ymlaen, gyda'r rbifnodau ar y Map gyferbyn a hwy: 1 Natal (Prydeinig); 2 BasutoLand (Prydeinig); 3 Orange Free State (Gweriniaeth Boraidd) De- heuol; 4 Eto, eto, Gorllewin; 5 Y Transvaal Orllewinol; 6 Y Transvaal Ogleddol; 7 Y Trans- vaal Ddwyreiniol. Ychydig sydd i'w gofnodi o weithrecliadau y rhyfel am yr wythnos a basiodd. Ar ol y brwydrau caled-ion ddilynodd eu gilydd, a'r rhai hyny wedi troi yn siomedig i'r cadfrid- ogion Prydeinig, mae ad-weithiad wedi cym- eryd lie, a'r symudiadau nesaf yn cael eu hoedi er ad-diefu y byddinoedd a derbyn adgyfnerthion pellach. Mae'r newyddion y dyddiau diweddaf, yn gynwysedig yn benaf o fanylion am y brwydrau ymladdwyd yn Stormberg, Magersfontein, a Colenso, yn nghyd a chyfrif o'r colledion. Ymwthia hyddin y Milwriad Plumer draws rhanau gogleddol y Transvaal, i'r amcan o lyddhau Mafekiug o'r gwarchae. Parha y Boriaid i dan-belenu Ladysmith. Yr byn ddichon bei-i i'r trefydd gwarchaeol syrthio yw diffyg ymbol th, ac o'r tu arail, yr hyn all fyrhau y rhyfel yw diffyg cad-ddarpariadau, yn ar- benig bwledi gan y Boriaid. Ond nis gellir yn awr ddweyd dim gyda sicrwydd am eu sefyllfa gyda hyn. BRWYDR MAGERSFONTEIN. Fel y canlyn y mae adroddiad y B6riaid o frwydr Magersfontein Wedi derbyn adgyfnerthion mawrion, a'i fyddin wedi gorphwys er yr 28ain o Dachwedd, symudodd Arglwydd Methuen ymlaen yn erbyn byddin y Cadfridog Cronje, yr hon a feddianai safle yn ymestyn am rai milldiroedd o bobtu y rheilffordd. Agorwyd y frwydr drwy dan- beleniad trwm am bedwar o'r gloch boreu Sul, o dan gysgod yr hwn y symudodd lluoedd o wyr traed at ein safle. Derbyniwyd hwy gyda than trwm, cyson, yr hyn a barodd i'r Saeson droi yn ol cyn iddynt ddyfod yn agos. Cyfarfu ail ymosodiad a thynged gyffelyb. Yr oedd gwroldeb y Saeson yn rhyfeddol, yn wyneb y cawodydd o fwledau Mauser a'u cyfarfu. Ar hyn gwnaed rhuthr gan gorphlu y Scandinav- iaid, y rhai sydd yn ddiarhebol am eu dewrder. Ond torwyd hwynt ymaitharfryncyn; collasant amryw diwy gael eu lladd a'u clvvyfo, a chymerwyd rhai yn garcharorion. Yn y prydnawn dygwyd yr oil o'r ad-filwyr Prydeinig i'r ymosodiad, yr hyn a wnaed gyda gwrolder dihafal. Yr oedd y gwastadeddau i'r gogledd ar yr Afon Modeler yn ddu gan filwyr wrth y gwaith. Ond nis gallai un math o ddewrder dori rengoedd y B6riaid, ac yn hwyrach ar y dydd enciliodd y Prydeinwyr at Afon Modder, gan adael y ddaear wedi ei chuddio gan feirwon a rhai yn marw. Ar w'ahan i golledion y Scandinaviaid, o'r rhai y lladdwyd deunaw ac y cymerwyd tri a deugain o glwyfedigion yn garcharorion, bychanydoedd colledion y Boriaid. Cyfrifir fod coiledion y Saeson. rhwng eu lladd a'u clwyfo, yn ddwy fil. Dywed y carcharorion a gymerason ni fod y Black Watch wedi eu tori i fyny yn llwyr. Y MAGNELAU COLLEDIG YN Y TUGELA. Gohebydd y Times o wersyll Chiveley, dydd Sadwrn, a liaul-gymundeba fel y canlyn :—Ar 01 i'n cyflegau gael eu gadael yn mrwydr ddoe, gvvnaeth Cadben Schofield, Cadben Congreve, a'r Is-gadben Roberts, ynghyd a dwy wedd, gais|gwrol i achub y magnelau, a methasant. Gofynasom am gadoediad boreu heddyw, a'r hyn y cydsyniodd y Bdriaid hyd haner dydd. Y mae llu allan yn awr yn claddu y lladdedigion. Bu y Cadfridogion Buller a Clery o dan dan trwm yn ystod y frwydr. Y mae'r B6riaid wedi argloddi yr afon islaw Bridledrift, gan ei gwneyd annhramadwy. Boddodd pedwar o'r Dublin Fusiliers wrth geisio croesi. Ystyria pobl a adnabyddant y wlad fod safle y B6riaid y cadarnaf yn Natal. YMGYRCH Y MILWRIAD PLUMER AM MAFEKING. Lourenzo Marquez, Sadwrn. Anfonwyd amryw genadwriau oddiwrth y gohebydd sydd gyda cholofn y Milwriad Plumer.-Darfu i'r Milwriad Plumer, gyda adran gref adael Fort Tuli ar y iaf cyfisol, ac aeth i mewn i diriogaeth y Transvaal yr un dydd, yn y gyffordd rhwng afonydd y Crocodile a'r Maklutsi. Yna teithiodd ymlaen ar hyd y gwastad-dir am haner can' milldir i'r gogledd o Pietersburg. Oherwydd y sychder mawr nid aeth ymhell- lach. Daethpwyd yn ol i Rhodes Drift. Ni welwyd y B6riaid.—Eto, y mae colofn y Mil- wriad Plumer yn awr yn Pontyopje, ger Rhodes Drift, mewn safle gadarn a feddianid yn ddi- weddar gan y B6riaid. Deil y Milwriad Plumer i wneyd ymchwiliadau rhag ofn i'r gelyn ddychwelyd. NEWYDDION 0 COLENSO. Deallir fod y gynau llyngesol yn ngwersyll y Cadfridog Buller wythnos yn ol, tra'n tanio ar warchgloddiau y Boriaid, yn Colenso, wedi dinystrio'r bont. fel y bydd yn anhawdd i'r Boriaid ar yr ochr ddeheuol i'r Tugela groesi yn 01. Yn ol adroddiad swyddogol y Boriaid am Frwydr Tugela, ni rifai eu colledion hwy fwy na 30 rhwng lladdedigion a chlwyfedigon. Ar y igeg o'r mis hwn, pelenwyd Ladysmith yn drymach nag arfer. Hysbysir o Pretoria fod 5°0 o'r milwyr Prydeinig wnaed yn garch- aiofion yn Stormberg wedi eu dwyn yno.
<1""""1:1'1a}f...4:&V'WI'&:.&1I…
<1"1:1'1 a}f.4:&V'WI'&&1I ADGYFNERTHION. Y ma;; brvs ••<no]i^ffredin a ddangosir g m ySwydi'i-; Rh)fci anfon allan adgyfneuhion yn pron tod v selyllfa yn ildifrifol. i)an»osir hyn drwy y ffaitii anarferoi ddarfod i Swyddfa D Kityfcl logi >i' agerlong Umbria,' pert:.yno! i fc, cludlong. Yr oe-.ld yr ü mbt ia' i adael Lerpwl dydd Sul, gyda Uythyrau i Efrog Nowvdd ond yn awr anionir hi gyda milwyr i J .hiel-eubarth Affrica. Ni chlywyd erioeJ o'r blaen yn hanes morwriaeth y porthladd yma fod llythyrau dydd Sadwrn yn cael eu hatal rhwng-Leipwl ac Efrog Newydd Y mae tynged Ladysmith a Kimberley yn di- bynu ar ein gwaith yn brysio i aufon adgyf- nerthion. Boreu dydd Iau, gadawodd 3ydd Bataliwn o'r Northumberland Fusiliers (Militia) Portsmouth, a theithiasant i Southampton, ar eu ffordd i'r Cape, i lenwi y gwagleoedd yn Mataliynau iaf ac 2il y corphlu. Ymadavvodd hefyd adran gref o'r Dublin Fusiliers a'r Cyflegrwyr Bren- liinol, yn gwneyd y cyfanrif y milwyr yn naw cant. Yr un dydd, hefyd, gadawodd haner cant o'r Royal Welsh Fusiliers Poitsmouth, ar eu ffordd i Southampton, o'r hwn le y cludir hwy gan y llestr Cestrian i 1 Kleheudir Affrica
YSGOL SIROL Tit ALL WM.
YSGOL SIROL Tit ALL WM. Llywydtlodd Mr. W. Forrester Addie dros gyfuffod ddydd Mawi-tli, yn yr hwn y rhauvfyd y gwobrwyon eniliwyd gau ddis- gyblion Ysgol Sirol Trailvvm yn ystod y flwyddyn. Cyflwynwyd y gwobrwyon gan Mrs. Huniplireys-Oweu, ae ymhlith v siarad- wyr yr oedd y Prifathraw T. P. Koberts, M.A., Aberystwyth, yr hwn a ymdriniodd ar uddysg yn ei wabanol agwed>lau.
ZDI GYNGOR PLWYF TALYLLYJN.'
ZD GYNGOR PLWYF TALYLLYJN. Cynhaliwyd nos Fawith, Mr; H. Davies yn y gLdaii-Darlleuwyd a chadarnhawyd y cofuodion.-))arllen wyd llytliyr oddiwith glerc y Cyngor Dobbarth yn gofidio na buasai y Oyngor Plvvyf yn pasio penderfyn- iad yn gofyn i'r Cyngor Dosbarth wneyd dyfrffos gydag ochr y ffordd wrth Shop Newydd, end y byddai y Cyngor yn Dol- gollau yn gwasgu ar berchenogion y tai i'w wneyd yn ol awgrymiad y Cyngor Plvvyf.— Dygwyd i sylw gyflwr pont Ysgubor Aber- llefenni ar y llwybr sydd yn arwain i Blwyf liianwrin. Dywedid fod y bont mewn sefyllfa hynod beryglus, ac yn bont sydd a llawer o dramwyo ar hyd-ddi a phasiwyd i anfon at Gyngor Llanwrin i ofyn iddynt benodi pwyllgor i ddyfod i gyfarfod pwyllgor o'r Cyngor hwn, i edrych beth ellir wneyd iddi.—Pasiwyd 1 dalu amryw filiau.
TOWYN.
TOWYN. MAKWOLAETH. Prydnawn Sadwrn, bu farw Mrs. Jones, Tremydon, yn yr oedran addfed o 80 mlwydd. Gweddw ydoedd i'r diweddar Mr. John Jones, Glanmachlas, Llav.egryn. Cymerodd y gladdedigaeth le dydd Mercher, yn Hen Pyuwent yr Eglwys, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. J. H. Bymond, a Lewis. Y GYMDEIXXIAS 1 )DADLEUOL.—Cynhaliwyd nos Fawrtb, yn Cadvan House. Cafwyd darlieniad papyr galluog a gwir ddyddorol gan Mr. P. H. Hughes, ar Hen Draddod- iadau Lleol.' Dynxa y cyfarfod lluosocaf ac un o rai goreu y tymor. CYMANFA GANU.—Dydd Llun, cynhaliwyd Cymanfa Ganu flynyddol M.C. Dosbarth Towyn. Yr arweinydd oedd Mr. J. Thomas, Llauwityd, yr hwn a ddywedai na chlywodd erioed mewn na chymanfa nag eisteddfod well canu. Llongyfarchai yr arweinyddion canu am hyn. Llywyddid cyfarfod y prydnawn gan Mr. E. Rowlands, Pennal; a chyfarfod yr hwyr gan y Parch. R. H. Watkins. Cyfeiliwyd gan Miss M. Richards, Aberdyfi; a Miss May Roberts, Towyn. Yn ychwanegol at luaws o donau, dadgan- wyd yr anthem 'Enaid Ou,' a Salmdon. Cyflawnwyd y swydd o ysgrifenydd gan Mr. H. M. Jones, Mynorydd House, yn ei ddull deheuig arferol. Damwain Angeuol ar Reilffordd y Cambrian. Wedi i Mr. Richard Newell, mab Mr. N ewll, South Beach, Pwllheli, gyraedd gorsaf Minffordd o Porthmadog nos Sadwrn, safodd ar risiau un o'r cerbydau i siarad ag un oedd oddimewn. Pan gychwynodd y tren, gwelwyd ef yn syrthio rhwng dau 0'1 cerbydau. Aeth yr olwynion drosto a bu farw yn y fan. Llanfihangel-y-Pennant. Nos Sadwrn, aeth helm fawr oedd yn llawn o yd, gwellt, a gwair ar dan yn Cuer- berllan, eiddo Mr. Hugh Vaughan, y tenant. Cyfrifir ei bod yn golled drom, ac heb gael ei hyswirio. Ychydig a arbedwyd, ac ni wyddys pa fodd y cymerodd y digwydd- iad le. Cydymdeimlir yn fawr iawn a Air. Vaughan yn yr anffawd. YSGOL SIROL ABERYSTWYTH. Rhan wyd y gwobrwyon blynyddol i ddis- gyblion ysgol Aberystwyth dydd Iau. Llywyddwyd gan y Maer. Cyflwynodd y Prifathraw (Mr. D. Samuel, M.A.,) ei ad- roddiad. Nifer y merched yn yr ysgol yn awr ydyw 74, bechgyn 81. Pan ymwelodd y prif arolygydd a'r ysgol, -nnynegodd ei i'oddhad o'r gvvaith a'r modd y cerid ef ymlaen. Canmolai y classrooms newydd hefyd yn arbenig. Yr oedd adroddiad y gwahanol arholwyr ar y cyfan yn foddhaol. Cyflwynwyd y gwobrwyon gan Mrs. Fryer. Yna, anerchodd y Proffeswr Angus y plant, a eiaradwyd ymhellach gan Mr. H. C. Fryer, yr Archddiacon Protheroe, ac eraill.
DVFODOL OEHEUOSR AFFRICA-
DVFODOL OEHEUOSR AFFRICA- Y Globe a gylioedda yr hyn a ganlyn: Dywed brysneges o Natal na fydd i'n Llyw- odraeth dderbyn un math o gynygion heddwch cyn cyhwfanu y fclOer Brydeinig a sefydIu caerfa Brydeinig gref yo Pretoria a Bloemfon- tein. Y mae hyn yn angenrheidiol er osgoi gwrthryfel,ac er sefydlu heddwchary cyfandir.'
4"1\1,:J.¡;'tN-ap1.;:;:tU..(t'¡_I_,I…
4"1\1,:J.¡;'tN-ap1.tU..(t'¡_I_- COURTS, BAND OF HOPE.—Nos We^er nesaf, Rhagtyr 29, yn n^hapel k-elwboth, bydd Band c; Kope y lIe yn cvnai cyfarfod adloniadol. Deallwn fod rhaglen rhwaethus ac amrywiol wedi ei t.hynu a linn g«>yfer a'r achlysur. Gwahoddir pawb si u w a h a ni aeth i'r eyiarfed-. Myueu- iad i mewn yn rhad CYFARFODYDD NADOLTG,—Yn ol L-sr. arfer yr ardal, cynhaliwyd c) farfodydd pregethu mewn amryw o'r capclau. Yr oedd y gweini- dogion yn gwasanaethu dros y Sabbath a'r Nadolig. Yn Moriah (W.), Corris Uchaf, pregethwyd gan y Parchn. H. Hughes, Towyn, a G. O. Roberts, Tredegar.. Yn Rehoboth (M.C.), Parchn. T. Williams, Caergybi, a D Lloyd] ônes, Llandinam. Yn Aberllefenni (INI.C.), Parcliti. T. J. Edwards, Merthyr, a Francis Jones, Abergele. Yr oedd y cynull- iadav yn lluosog, y gwrandawiad,yji astud, a'r weinidogaeth yn rymus a dylanwadol./ MAKWOLAETH. — Dydd Nadolig, ar ol cvstudd maith, )'n' 24 mlwydd oed, Mr William Owen Jones, trydydd mab Mr William Jones, Tycapel, Rehoboth, Corris. Yr oedd yn ddyn ieuanc hynaws a di-argyhoedd ei rodiad. Bu yn rhodio glan yr afon' am flynyddau, ac megis yn chwilio am fan i'w chroesi qtiAl ar y dyddiad uchod cafodd ollyngdod. Gadawa i alaru ar ei ol dad a mam, pedwar brawd a dwy chwaer. Y mae dau o':i frodyr ac un chwaer yn Neheudir Affrica. Cleddir ef dydd Iau, :yn YI] mynwent Rehoboth. Y mae cydymdeimlad cyffredinol a dwfn a'rjteula yn eu trallod mawr.
DOLC-TELLAU.
DOLC-TELLAU. EISTEDDFOD MEIRION.-Mawr yw y par- otoadau ar gyfer yr uchod, a gynhelir dydd Llun nesaf, ionawr laf, 1900. Deallwn fod y rhagolygon yn eithriadol am Eisteddfod Iwyddianus. Niferi mawr yn cystadlu ymhob adran. Corau Meibion a chorau cymysg yn lluosocaeh nag arfer, a phobpeth yn arwyddo y bydd yr lien sefydliad hyglodus yn fwy poblogaidd nag erioed. Y GWEITIIYDD. Mae swn ar led fod hen Chwarel Penrhyngwyn i ail gychwyn ddechreu y flwyddyn. Gobeithio y bydd. MAKWOLAETH MR. FKANOIS EVANS.—Drwg genym orfod cofnodi marwolaeth y gwr hwn --mab i'r diweddar adnabyddus Dr. Evans. Bu yn wael am fisoedd. Collodd y tlawd gyfaill parod i estyn cynorthwy.,
OWRTHBARAWIAD AR Y REILFfORBD.
OWRTHBARAWIAD AR Y REILFfORBD. Cymerodd amryw ddamweiniau le ar y reilffyrdd dydd Sadwrn*Y pwysicaf o honynt oedd y gwrthdarawiad gymerodd le rhwng dau dren teithwyr yn ngorsaf Wivelsfield, rhwng Brighton a Newhaven. Wedi i dreri -o gyfeir- iad Newhaven, yr hwn a ddygai deithwyr o Ffrainc. gyraedd gorsaf Wivelsfieid, daeth tren Pullman o Brighton i mewn yn dra chyflym, gan hyrddio yn erbyn y llall. Dywedir i'r ddamwain ddigwydd drwy i guard yr olaffethu gweled yr arwyddion oherwydd y niwl. Aeth rhan o dren Pullman ar dan. Collodd chwech eu bywydau, a niweidiwyd Iluaws.
YSGOL SIROL DOLGELLAU-
YSGOL SIROL DOLGELLAU- Dydd Mercher, dan lywyddiaeth .Dr,^ E. Jones, rhanwyd y gwobrwyon gan Mr.. C. R. Williams, Dolmelyrllyn, i blant yr Ysgol Sirol. VVele restr o'r enillwyr Form III., Gwilym James a R. J. Edwards Form II., Ll. Edwards a D. R Meredith Form I., J. Griffin a W. Wynne Williams Gwobrau yn ganlyniad ar- holiad y Bwrdd Canol, Gwilym A. Edwards, Gwilym James, R. J. Edwards, Glyn Edwards, Authur Roberts, S. Haydn Griffith,, a J. V. Pugh. Gwobrau arbenig: Rhifyddiaeth, G James; tynu Iluniau a modelir, 1. Griffin; gwaith coed, J, Gallenkamp attendance, G. James, J. Gallenkamp, a j. Griffin; gwobr ychwanegol (fferylliaeth), G. Wynne Williams
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. CYNGOR TREFOL.—Llywyddwyd gan y Cyn- ghorwr C. M. Williams, dydd -Mawrth.-Dar- llenwyd llythyr oddiwrth y Bwrdd Ysgol yn galw sylw at yr angen am ystafell gymhwysach at gynal y dosbarthiadau celf- a "gwyddor ynddi. Cyfeiriwyd y mater i'r pwyllgor arianol. —Boddlonai y Cyngor Sirol i gyfranu tuag at y draul o wella y Neuadd Drefol, aryr:a.mod y gwneid ystafell bwyllgor, swyddfeydd; sirol,. a strong room yn y rhan oedd o dan lywodraeth y sir. Cyfarwyddwyd cyfnewid y cynlluniau yn unol a'r gofynion hyn.—Boddlonai Bwrdd Llywodraeth Leol i gynal :ymchw.iiiad. i holl geisiadau y Cyngor, ar yr amod y-'cyflwynid y cynlluniau a'r amcangyfrifon -cysylltiedig a'r cyfryw ar unwaith.—Caniatawyd archeb am 35op. at amcanion y Bwrdd Ysgol.
O'R AMERICA.
O'R AMERICA. MARWOLAETHAU Y mis diweddaf, bu farw y Parch. J. M. Jones (Glan Dysyni), yn 74 oed. Yr oedd yn enedigol o Aberdyfi. Bu yn pregethu gyda y Wesleyaid yn Nghymru. Daeth ef a'i deulu i America yn 1871. Aeth i Pensylvania, a cliafodd ei ordeinio yn weinidog yn Pittston. Oddiyno aeth i'r Bala, Kansas. Yn 1884, daeth i Beacon, a bu yn weinidog ar yr eglwys Gynulleidfaol. Cafodd ergyd o'r parlys", ac am tua dwy flynedd yr oedd mewn cryn waeledd, ond daeth angau o'r diwedd i'w ollwng yn rhydd. Ymbriododd ddwyaith. Gadawodd briod a phedwar o blant i alaru.1 Drwy effeithiau y parlys, bu farw y Parch. Dr. H. P. Howell, Columbus, Ohio, Tachwedd 2iain. Ganwyd ef yn Cemmes, Maldwyn, yn 1837. Enwau ei rieni oedd Edward a Mary Howell. Daeth Mr. Howelll America yn fachgen ieuanc, heb gaeUond ychydig o fan- teision addysg. Tra yn .Paddy's Run, Ohio, y dechreuodd bregethu yn 1862. Yn. Awst, 1862, aeth i Athrofa y Bala, a bu yncfaIlJ bedair blynedd. Yna dychwelodd i America ac yn 1869, derbyniodd alwad i weinidoga6thu yn Milwankee. Bu yno hyd 1884, pryd y cafodd alwad i Columbus, Ohio.: Yr. oedd yn bre- gethwr o ddoniau poblogaidd, a daeth yn naturiol i hawlio y lie blaenaf yn nghymanfa- oedd ei gyfundeb. Yr oedd hefyd yn Ilenor da ac ar waith y Parch. Dr. W. Roberts yn rhoddi i fyny olygiaeth Y Cyfaill, dewiswyd Mr. Howell yn olynydd iddo. Gadawodd briod ac amryw blant yn amddifaid. Tachwedd 18, yn Norwich Corners, N. Y., priod Mr. John Howells Ganwyd hi yn Dolror, Llanwrin, Maldwyn, yn 1827. Priododd John Howells yn 1850. Symudasant wed'yn i America Bu iddynt wyth o blant. Yr oedd Mrs. Howells yn un o ffyddloniaid yr Arglwydd. | Y Drych,
Advertising
oiieu _YE EXT GWILYNC EYANS. IT EV'AisS. C e: a Feciciygon, aû '-t.. J yi a Ffepyliv/yr'. A chanmoiir gan bawb sydd wedi rhoddi prawf amitel Meddyginiaeth Bur, Meddyginiaeth Lysieuol, Meddyginiaeth Effeithiol, Med.dyg-iniaeth Lwyd Jianus, Meddyginiaeth oreu yr oes. Gvrclir, [felly fod y Quinine Bitters h 11 yn Feddyginiaeth anmhris- iadwy, a barnu oddi-wrth brof- iad Doc'toriaid, Teithwyr, FierylK\-yr, G weinidogion, a chanoedd lawer o gieilion wedi gwelia. Mae yn Peddyginiaeth aufllaeledig. p'am y dioddefweh mwyach oddiwrth y doluriau b uchod, pan ymae-Meddyg- iniaetli naturiol, syml ac eJMtiiiol i'w ChClel. Y MAE YN laiODDI NBRTHp'ESGWAN, lECRYDrRCLAF, MWY Nil AD BYWYDI BAWB BITTERS 1TTEKS GWILYM GWILYM EVANS. EVANS. Tystiolaeth Bwysig. Pyle, Awst 17, 1895." Anwyl Syr,—Pan ddychwelais adref ychydig ddyddiauyn ol, ar 01 llafurio yn .galed am rai wythnosau, teimlwn yn Uuddedig ,iawn, ac, ,w.edi Jlwyr. ddiffygio, no mewn angen ato' haclgryfhau: Anogwyd ii iroddi eibh Quinine Bitters enwog. Gwnaethuor.diyny, a chefais ef yn hynod eHeithiol. Mae yn rhoddi yni newydd ynof, ac yn bywiocau yr ysbryd,; mewn gair, teimlaf ei fod yn gwneyd dyn newydd ohonof. (Parch) GUIINOS JONES. BITTEUS GrWILYM EYAKS. RILflnJDD Gochehvch Dwyll-wyr. Edrychwch fod enw Gwilym Evans at* bob Label, Stamp a Photeh i* Gwerthir hwyttt' mewn poteli 2s. gc. a 4s. 6c. yr un Blychau yn cynwys tair potel 4s. 6c. am 12s. 6c. I'w cael ymhob man, neu danfonir hwy yn rhad am y prisiau uchod yn adiogel drwy y p-ost oddiwrth y perchenogion,— QUINIRE BITTERS MANUFACTURING COMPAtiY. LIMITED, LLANELLY, SOUTH VlALES. .Gcruchwyliwryn America—• Mr. R. D. WILLIAMS, Plymouth, Pe.nn.v KTK STRAfiC prevented by the timely use of v HENRY LAURAMCES": IMPROVED SPECTACLES & EVE-CLASSES which have proved bGIJeiÎcial to thousands. Hundreds of Testimonials Have been received from Medical Gentlemen, the Clergy, &c., whose sight has been benehted. by their use when all others had failed. A lengthened list gratis on -i application to M. THOAilAS- CHEMIST & OPTICIAN, BBIDGE ST., CORRIS U D CORRIS HOUSE, PER:-CORRIS. Dyrnuna MISS L. J. JONES "Wneyd yn,. hysby.s, ei.bod, ar gai§ anlry-W-e ■" gyfeillio'n, yn b'Wriadu rhoddi MPfelO LESSONS ar yr Organ neu'r Piano. Telerau Rhesymol. Telir sylw neillduol i rai yn dechreu. dayiES'S '7 HORSE POWDER r: -c.("1:° \)'" A 7 Y DTVFR. • AT Y BLEWYN. AT Y GWAED. AT YSl 'W.Yi'HO i CrMALA U. Davies's Horse Powder y moddion aiogelaf at gadw Ceffylau -mewn cyflwr da, ac at godi Ceffylau fyddo wedi eu gweithio yn ormodol, a thrwy hyny wedi myned i edrych yn salw eu gwed-d. Argymheliir ef yn neillduol at wella y blewyn, at y dwfr, ystwytho y cymalan," yn ogystal a chodi ysbryd yr anifail. Nid oes dim A ntinlony ynddo, nac unrhyw gyffyr peryglus arall, ac y mae yn dd-iogel i anifail ymhol; cyffwr., Mewn Tins, is. yr. uij ios; y dwsin: (Telir cludi&d Dwsin i unrhyw gyfeiriad ar dderbyniad Postal Order am ios). HUGH. nAVIES, Chemist, Machynlleth. OHEltP MINTING AT "NEGESYDD" OFFICE, CORRIS, R.S.O