Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
geinion JUven.
geinion JUven. W. ABRAHAM (Mabon), Yaw., A.S. Goludog Gymreig wladwr-a phuraf Gorphorol seneddwr; Yn mri ei gamp dyma'r gwr, Rhagorwych Gymru-garwr. Gwron tryleu, diweuiaeth—yw Mabon Am wybod mantiolaeth Bywdeg fEraethineb odiaeth Wyntia ffroen yr Hwntw lfraetli. Brasder sy'n teg flonegu-hyf frenin Droa freiuiau ullwylgu Ynddo gwel Cwm Khondda gu Wr enwog i'w darianu. Sylw'r Senedd, dyn heddyw-mawrygir Cymreigydd diledryw; Un o'r ffamws Hwntws yw, A chadarn batriarch ydyw. Ar lwyfan eglur lifa-brwd hylif Bri talaeth Cwm Rliondda Yetor dwfn rymusder da Yw golud balchder Gwalia. Dyg urddas ar frwd gyrddau—i'w hebrwng Ceir Abram a'i ddoniau; Gweithwyr fydd i'w rydd fawrhau Heb balliant tra glo-byllau. Machbaeth MoN.
PRYDAIN MEWN ARGYFWNG
PRYDAIN MEWN ARGYFWNG Braidd yn llesg yw y Haw i ysgrifenu ar y rhyfel yn y dyddiau hyn,—dyddiau ein goruhfygiad, dros dymor a dweyd y lleiaf, gan liifer o ffermwyr yn Nehau Affrig. Pell ydym o fod mewn ysbryd i ddanod cam- gymeriadau anoclieladwy yn y dyddiau fu, eto mae ystyried yr hyn a ddigwyddodd mewn ychydig ddyddiau i'n pobl, yn ein llanw a phryder gyda golwg ar y dyfodol agos. Yr ydym newydd fod yn troi dal- enau newyddiaduron wedi eu dyddio yn y flwyddyn hon, yn aibenig y benod ddydciiol, 0 ymdrafodaeth rhwng y Deyrnas Ymber- rr I odrol a Llywodraetli y Transvaal, ao y ae I eu darllen yn ngoleuni ucQgylchiadau ddig-1 wyddodd yn y rhyfel hwn, yn agoriad llygaid i ni ar ryfyg a balehder Ysgrifenydd y Trefedigaethau, ac ynddo ef, y Llywodr- aeth anffodus bresenol. Pan ystyriwn weudid soiliau gofynion Prydain oddiar y Werin- lywodraeth Foraidd, a nerth a deheurwydd y Boriaid fel ymladdwyr, nid ydym Jyn synu dim at :eu gwaith yn gwrthod plygu eu gyddfau i dderbyn iau ormesol y Prydeiniaid Y mae Mr. -IChamberlain yn eu hanerch ac yn eu trin yn yr ymdrafodaeth hon, fel pe bae ganddo hawl oddiuchod i'w rhoddi gyda chwn ei ddefaid. Ond y mae y ffaith i Syr George White golli canoedd mewn carcharorion yn ymyl Ladysmitb, a Gatacve yn Stormberg, ac aflwyddiant torcalonus Methuen a Buller ar afonydd y Modder &'r Tugela, ya araf ddysgu gwladweinwyr amrwd a gwyr gwaedlyd Prydain fodpobl i'w cael yn y byd sydd mor galled a'r Saeson, ac mor ddewr hefyd, ac fod egwydd- orion, ac eiddo, ac awdurdod, a ehartref, ac annibyniaeth, yn meddu eu swyn i rywi-ai hwnt i'r Hen Ynys Wen, a'u bod yn weith eu cadw gan bobl I auwybodus' a I rhog- farnllyd' y Transvaal. Y mae yn ofid calon genym taw ein cig a'n gwaed sydd yn myued yn ebyrth ar allor y balchder a'r anheurwydd hwn. Y mae pob gwir wlad- garwr yn rhwym o orfod gadael i lit ei gydymdeimlad redeg gyda'r bobl sydd yn ymladd am bethau anwylaf dyn yn hyn o fyd. G WLADWR,
[No title]
Mae'r cwestiwn yma yn blino llawer ar btbl y dyddiau hyn. Pa bryd mae'r ganrif hon Jr. terfynu a'r ganrif nesaf yn dechreu ? Min llawer fod y flwyddyn 1900 yn dechreu cauif newydd. Sut mae pobl yn methu deali y cwestiwn ? Dyma mae yn debyg y rheswm im hyny Y gwahaniaetli rhwng cyfrif yjWjm- yddoedd ac oed dyn. Tybier fed dyn weii ei eni ar y iaf o Ionawr yn y flwyddyn Un. Byddai yn awr yn 1899 oed ac nid 1900. Dnd gelwid y flwyddyn 1899 yn 1899 o'r eiliad eltaf y uaeth i fewn. Siaradwn am y flwyddyn goo cyn bodlyna flwyddyn 1900 (wedi ei chwblhu). Nid yw'r ugeinfed ganrif yn bod nes i'r flwyddyn 1900 ddod yn 1901. Braidd yn ddyrus ynte ?
ARFAU Y TRANSVAAL.
ARFAU Y TRANSVAAL. Yn un o'i anerchiadau diweddaryn Aberdeta, dywedodd Syr Henry Campbell-Bannermar y dylasai y Llywodraeth egluro paham y qu- asant eu llygaid ar yr ychwanegiad mawryn nhreuliau milwrol y Transvaal. Yn awt y mae dau wr ieuanc wedi dychwelyd i'r "ad hon, a fuont am rai blynyddoedd mewn gAs- anaeth ariandy yn Johanesburg. Dywedet i reolwyr yr Ariandy yn Neheudir Affrica aeoti at y rheolwyr yn Llundain ymheU cyn i'r anghydfod dori allan, yn dymuno arnynt lis- bysu yr awdurdodau Prydeinig o'r symiu anferth o arian oedd yn pasio trwy eu dwytw oddiwrth Lywodraeth y Transvaal i weithfejjd Creus a Krupp, am arfau. Gwnaeth yr arin- wyr Llundeinig fel y gofynid iddynt, gy<i'r canlyniad iJdynt dderbyn sen, a chysta a dweyd wrthynt meind i weh eich busnes tseh feuwin.'
AMRYWION.
AMRYWION. Derbyniwyd y radd o D.D., gan y Parch. J. Pugh, Caerdydd, oddiwrth Athrofa Bres- byteraidd Kentucky, U.D. Y mae Arglwydd Charles Beresford wedi rhoi ei sedd i fynu yn York ar ei benodiad yn ail swyddog ar lynges 'y Mediterranean. Dydd Iau, ordeiniwyd Mr. Jonathan R. Evans, myfyriwr yn Ngholeg Aberystwyth, i gyflawn waith y weinidogaeth, yn nghapel Annibynwyr Pennal, gerllaw Machynlleth. Ymhlitli y gwirfoddolwyr ar geffylau i ryfel Deheudir Affrica y mae Cadben R. W. Williams-Wynn, yr ymgeisydd Toriaidd dros Faldwyn, gyda tua chant:o rai eraill o'r sir. Y Parch. R.. W. Jones ( Cynolwyn), Towyn, enillodd Gadair Eisteddfod Conwy y Nadolig ;diweddaf. Y testyn oedd A theml ni welais yno,' a Machraeth Mon yn feirniad. Dywedir fod Rhyddfrydwyr Bwrdeisdrefi Sir Ddinbych yn bwriadu gwahodd Mr. Clem Edwards, awdwr Railway Nationalisation a gweithiau eraill, i ddyfod allan yn erbyn yr Anrhyd. G. T. Kenyon yn yr etholiad nesaf. Mae gan y Methodistiaid 795 o weinidog- ion, a 411 o bregethwyr, yn gwneyd eyfanrif y llefaiwyr yn 1,206. Ar gyfer hyn y mae ganddynt 977 0 deithiau Sabbothol. Cwestiwn: I ba le y mae y pregethwyr sydd yn tori eu cyhoeddiadau yn myned ? Y mae'r Boriaid, cystal a'r Saeson, wedi eu siomi yn y rhyfel. Dywedai carcharorion Boraidd wrth Torrence fod eu pobl hwy yn disgwyl meddianu Durban, prifddinas Natal, cyn pen pythefnos ar ol i'r rhyfel ddechreu yn union fel y disgwyliai y Saeson gynal uchelwyl yn Pretoria, prifddinas y Transvaal, yn yr un amser. Cymro o Ddowlais, o'r enw Crad. Evans, a ysgrifena o Mafeking ei fod heb ymolchi er's pum' niwrnod, ac na welodd wely er's 11 niwrnod. Un diwrnod ymlidiodd llewpai t ef, a diwrnod arall dychrynodd new ef. Yn y dref dywed fod blawd yn 6c. y pwys; ymenyn, 38. i cig 6s. y pwys gwydriad o gwrw, I a. ac o frandi, Is. 6c. Mae Mr. T. Marchant Williams, wedi cael oi apwyntio gan yr Ysgrifenydd Cartrefol yn ynad cyflogedig Abertawe, yn lie y di- weddar Mr. Fowler. Mae Mr Williams yn enedigol o Aberdar. Cychwynodd ei yrfa Ifel ysgolfeistr, yna bu yn arolygydd Ysgol y Bwrdd, Llundain. Wed'yn aeth yn far- gyfreithiwr. Gweithredodd er's rhai blyn- yddau fel Dirprwywr Elusenau Plwyfol dmryw 0 siroedd Cymru. Erbyn hyn, y mae Ymneillduwyr Llundain wedi cwblhau eu trefniadau ar gyfer y cyf- arfod pregethu mawr a gynhelir yn y City Temple, Lluudain, Chwefror 28ain. Y pregethwyr arbenig ydynt:—v Parchn. C. Davies (B.), Caerdydd; ac 0. Prys (M.C.), Prifathraw Coleg Duwinyddol Tref- ecca. Bydd i ddau weinidog arall-un yn cynrychioli yr Annibynwyr, a'r Hall y Wes- leyaid—gymeryd rhan yn y gwasanaeth. Ychydig sydd yn ystyried fod gwerth 16,000,000p. o ymenyn yn cael ei ddwyu i'r wlad hon bob blwyddyn o wledydd tramor. Dywedai un o farsiaudwyr ymenyn yn Llundain ychydig wythnosau yn ol ei fod yn gwerthu tua deugain tunell bob wythnos o'r enllyn hwn. Nid oes fawr o ymenyn Seisnig yn cael ei ddefnyddio yn y Brifddinas. Daw yno gan inwyaf o Normandy, Gogledd Ffrainc, ac o'r Trefedigaethau. Ymenyn Zealand Newydd ydyw'r ffefryn penaf o'r manau olaf. Fel y dywedai'r marsiandwr a nodwyd, y mae yn beraidd a blasus, ac nis gellir ei gael ond oddiwrth wartheg at hyd eu coesau mewn meillion.' Rhydd prif arolygwr yr Ysgolion Sirol y rhybudd arwyddocWl a ganlyn :—' Y mae ymchwiliad i anudau ieithyddol wedi fy arwain i'r terfyniad y gellir dwyn i mewn gynllun cyfundrtfnol o ddysgu yr iaith Gymraeg gyda mintais i 66 o ysgolion 0 leiaf. Yn yr arliiliad diweddaf, cymei-wyd y Gymraeg gan ? o ysgolion. Y mae yn eglur, gan hyny, fod y fantais ar y safle ddwyieithog yn cael ei thaflu ymaith mewn amiyw ranbartlillu. Mewn un enghrafft, er I fod 90 y cant o'r ysgolheigion yn ddwy- ieithiog, sylwais nad oedd yr iaith Gymraeg yn cael un He artabl amser, a bod gwaith ieithyddgl yr ystol yu dioddefmewn canlyn- lad, »
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. MAGIC LANTKRK.—Nos Iau, enfodd ael- odau Go oeithluoedd Unedig y Bedyddwyr, fwynhau noson gyda'r Magic Lantern, drwy gyfrwng pa un y dangoswyd amryw ar- weddion anghymedroldeb. Cadeiriwyd gan y Parchn. T. E. Williams. Eglurid y dar- luniau i'r plant gan Cadben James a Mr. J. L. Evans. Y RHYFEL.—Yn nghapel Seienig yr Annibynwyr, wrth gyfeirio at y rhyfel, dywedodd y Parch. T. A. Penry ei bod yn ddyledswydd arbenig ar Gristiouogion i gyhoeddi cenadwri ogoneddus tangnefedd ac ewyllys da. Er mor ddifrifol y syniad o golli unrhyw ran o'n Hymerodraeth eang; eto da i ni fyddai cofio nad yw Duw wedi addaw amddiffyn ein tiriogaothau, ond ei fod wedi ymrwymo i amddiffyn cyfiawnder. CYSTADLEUOL.—Nos Fercher, yn ysgoldy capel Salem, cynhaliwyd cyfarfod cystad- leuol i'r plant, dan Iywyddiaeth y Parch. D. R. Williams, gweinidog. Cafwyd cystad- leuaethau dyddorol mewn canu, adrodd, &c., tie ymddangosai y plant yn mwynhau eu hunain yn fawr.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. ANKHEGIAD. Nos Wèner, yn nghapel Soar, Uwchygarpg, cyflwynwyd anrheg o Anerchiad album, a Medal aur goreuredig i Mr. Richard Morgan, Rhiwlwyfen, ar ei ymadawiad a'r lie, fel amlygiad o werth- fawrogiad o lafur mawr Mr. Morgan gyda'r achos yn Soar. Gwnaed y cyflwyniad gan y Purch. E. Wnion Evans, gweinidog. CYNGERDD.—Nos Fercher, yn y Neuadd Drefol, cynhaliodd Cor y Graig gyngerdd llwyddianue. Cymerwyd rhan ynddo gan y Cor ynghyd ag amryw cantorion lleol. Cadeiriwyd gan Mr. J. Lascslles, Penmaen Dyfi. Elai yr elw tuag at dalu treuliau y cor i Eisteddfod Meirion yn Dolgellau.
BWRDD Y G WAROHEIDWAID.
BWRDD Y G WAROHEIDWAID. Cynhaliwyd dydd Mereher, dan lywydd- iaeth Mr. David Evans. Talwyd allan i dlodion 28p. 14s., yn Nosbarth Pennal; a 37p. 6s, ynANosbarth Darowen.—Dosranwyd yr Abttract of Account ymysg yr aelodau. Pasiwyd diolcbgarwch cynes i'r boneddig- esau a'r boneddigon oeddynt wedi ymweled a rhoddi anrhegion i dlodion y Tlotdy, dydd Nadolig.-Pasiwyd talu biliau i'r Iwm o 152p.
ABERDYFI.
ABERDYFI. Y GUILD WABLEY.&IDD.-Nos Fercher, oynhaliwyd cyfarfod o'r uchod dan lywydd- iaeth y Parch. J. W. Davies. Darllenwyd papyr ar Ddefodau Ciistionogol,' gan Miss J. A. Jones. Cafwyd caneuon gan Mri. J. Jones, T. Jones, T. Richards, Miss S. Vavies, a'r oor dan arweiniad Mr. Hugh Lewis. COFIO'B TLAWD.—Yr wythnos ddiweddaf, rhanodd Mr. J. Hughes Jones, U.H., amryw dunelli 0 16 i dlodion y dref. YSGOL Y BWBDD.-N os Wener, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr ysgoldy, i'r diben o gyflwyno gwobrwyon cynwysedig o fedalau a llyfrau, i'r plant oedd wedi mynychu yr ysgol gyda chysondeb yn ystod y flwyddyn. Cymerwyd y gadair gan Mr. W. Jones, Relieving Officer. Cyflwynwyd y medalau gan y Parch. R. Jones, a r llyfrau, y rhai oeddynt oil yn werth dros 8p., gan Mr. J. Lumley.
ABEEMAW,
ABEEMAW, Y GUILD WMLEYAIDD.—Yn nghyfarfod yr uchod nos Iau, darllenwyd papyr dydd- orol ar 4 Hen Draddodiadau' gan Mr. G. E. Owen, Greenwich House. Hefyd cafwyd adroddiad gan Mr. D. Owen; a chaneuon gan Mri. H. E. Williams, R. Ll. Williams, a Miss Winnie Williams. Cafwyd cyfarfod da.
TOWYN.
TOWYN. LLWYDDIANT.—Yn Eisteddfod y Bedydd- wyr Couwy, y Nadolig, enillodd y Parch. R. W. Jones ( Cynolwyn j, y Gadair, allan o nifer dda o ywgeiswyr. DIRWEST.Nos lwener, cafwyd cyfarfod rhagorol o gyfrinfa y Temlwyr Da, pryd y darllan wyd papyr ar 4 Ddirwest o safbwynt cymdeithasol' gan Mr. liar Davies, a chaed papyr hefyd gan Mr. J. M. James ar 4 Ddirwest o safbwynt wleidyddol.' I'a GAD. Derbyniodd Gwirfoddolwyr Towyn, archiad o'r Swyddfa Rhyfel i fod yn barod pe y gelwid am ei gwasanaeth yn y rhyfel presenol. Deallwn fod Cadben Kirkby wedi anfon i gymell ei wasanaeth, a'i f-od wedi cael ateb yn hysbysu fod yn debyg y gelwir am dano. Derbyniwyd hefyd orchymyn am i hysbysrwydd gael ei anfon i'r prif Gndlywydd am bawb sydd yn ewyll- ysio gwasanaethu yn Neheudir Affrica. Gan mai ieuanc yw y corphlu hwn y tebyg yw er hyny na elwir am eu gwasanaeth i fyued yno. Er hyny o bosibl y gelwir am eu gvrtisangdth yn nes fartref.
PENOD YR ENWOGION Y GALLOFYDD…
PENOD YR ENWOGION Y GALLOFYDD GALILEO. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg cydweith- iai tri dyn enwog mown ymchwiliad am wybodaeth a gwirionedd seryddol-Tycho yn Denmark, Kepler yn Germani a Galileo yn Itali. Tra yr oedd Tycho yn syllu ar y ser, ac yn gwylio eu symudiadau oddiar y tyrau 0 fewn terfynau ei ynys fechan, ac yn casglu y defnyddiau trwy y rhai yr oedd meddwl treiddgar ac ymehwilgar Kepler i enill ei fuddugoliaethau ardderchog, yr oedd Galileo yn synu y byd gyda'i ddarganfydd- iadau gallofyddol. Qanwyd Galileo yn Pisa, dinas yn Tuscany, yn yr Ital, ar y 15fed o Chwefror 1564, wyth mlynedd 0 flaen Kepler; ac yr oedd y ddau yn gyfeillion mawr. Dangosai Galileo lawer o athrylith a medrus- rwydd pan yn plentyn, trwy ddyfeisio lla.wer o chwareu bethau a theganau cywraiu, yr hyn a'i codai i fri mawr ymysg ei gyd- chwareuwyr. Gwelodd ei dad yr hwn oedd yn medru gworthfawrogi galluoedd ac addysg, er fod ei amgylchiadau yn isel, fod defnyddiau yn ei blentyn, a llwyddodd i'w anfon i Athrofa Pisa, pan ydoedd yn 17 oed, ar fedr ei godi yn feddyg, a'r diwrnod hwnw hyd ddiwedd ei oes ymledodd y son am Galileo fwyfwy nes y daeth ei alluoedd anni- bynol, ei wroldeb, ei ymroddiad a'i lwyddiant yn destynau eiddigedd a] chasineb ei gyd- yagolheigion, ei athrawon a'i wlad. Ni ddi- galonai hyn y llanc Italaidd, eithr ceiddai rhagddo fel cawr, gan enill ei ffordd trwy ei ymchwiliadau a'i brofion ei hun a bydd ei enw byth mown bri t gan fawrygwyr y wybodaeth seryddol. Cafodd Galileo y cyntaf o'i ddargaafyddiadau gallofyddol allan mewn ffordd hynod pan yn Athrofa Pisa. Tynwyd ei sylw un ddiwrnod gan dalliadau y lamp yn yr eglwys yr hon oedd yn crogi o'r nenfwd. Gwelai fod ei thafliadau wrth siglo yn cymeryd yr un faint o amser, pa un bynag a'i tafliad mawr a'i un bychan a fyddai. Tarawodd y syniad ei feddwl; rhoddodd ei fys ar ei arddwrn i gael profi ei gywirdeb wrth guriad y gwaed, a chafodd y prawf cyn gadael yr eglwys. Gan fod ei fryd ar ddyfod yn feddyg, meddyliodd y gallasai y darganfyddiad fod ° gryn wasanaeth iddo at ei alwadigaeth, ac y gallesid gwrthdroi a gwneyd offeryn i fesur curiadau y gwaed. Gwaeth hyny yn ddioed, a daeth ei ddyfais yn fuan i fri mawr gan feddygon yr oes. Dyna ddarganfydd- iad cyntaf y ptndulum, ar diben cyntaf y bwriadwyd ef iddo. Ymhen amser wedi hyn cymwysodd ef at yr awrlais. Er gwaethaf gwrthwynebiadau cawn Gali- leo wedi ei ddewis yn ddysgawdwr athron- yddol yn Pisa, ac wrth astudio Aristotle, athroniaeth yr hwn oedd y pryd hwnw yn llenwi yr athrofeydd, ac yn cael ei derbyn fel un anffaeledig gan bawb, er's dwy fil o flynyddoedd. Amheuai Galileo gywirdeb y casgliadau dynid oddiwrth ysgiifau yr hen athronydd. Yr oedd yr ysgol wyr gan bwyso ar ddyfyniadau o Aristotle wedi cy- hoeddi yn neddf syrthiad cyrff, fod cyflymdra unrhyw gorff yn ei syrthiad yn gyfartal i'w bwysau, a phan yn cael ei ollwng o'r un uchder, yr un pryd, y buasai y trymaf yn cyraedd y ddaear yn gynt o'r haner na'r llall Amheuai Galileo yr egwyddor, ac wedi gwneyd prawf cafodd ei bod yn berffaith gyfeiliornus. Heriodd ei wrthwynebwyr i ddyfod i wneyd prawf cyhoeddus ar wir- ionedd neu dwyll eu hen gyfundrefn. Der- byniwyd yr haeriad, a dewiswyd twr gogwyddedig Pisa i wneyd y prawf. Di- wrnod mawr oedd diwrnod y prawf hwnw. Yr oedd tyrfa fawr o ediychwyr wedi ym- gasglu yn llawn pryder am y canlyniadau pwysig. Y mae yr adeg i fyny; y peleni wedi eu pwyso yn fanwl—y naill yn gymaint arall ei phwysau a'r llall. Yn ngwydd miloedd a safent yn y gwaelod, gollyngwyd y peleni a tharawsant y ddaear yr un foment. Enillodd Galileo fuddugoliaeth deg a pherffaith; ond yn lie derbyn llongyfarch- iadau rhai wedi eu hargyhoeddi ni wnaeth hyn ond ychwanegu dygasedd ei wrthwyn- ebwyr. Yr oeddynt yn rhy falch i ildio, ac ymlynasant wrth eu hen opiniynau, yn erbyn tyatiolaeth eu llygaid a'u clustiau eu hunain. (1 barhau).
LLANIDLOES.
LLANIDLOES. Him GAEBL T MITHOI)ISTIAID.-Adoilad. wyd Bethel yn 1779. Ail-adeiladwyd yn 1804, a thrachefn yn 1821. Pan adeiladwyd Capel China-street, torwyd yr hen gapel at ddibenion bydol. Yn awr, y mae eglwys Seianig y Corph, wedi ei brynu, ac wedi dechreu ei gyfaddasu at wasanaeth yr Ysgol Sul. Costiodd yr adeilad 350p., a chyst yr ,ad"weil'iadau 660ft
. ADRAN Y MEROHED.
ADRAN Y MEROHED. Mae ffarmio merlynod, medd y Daily Tele- graph, Llundain, yn fasnach hudolus i ferched sydd yn hoff o geftylau. Mae un foneddiges yn swydd Devon er's blynyddau wedi prynu merlynod bychain yn Dartmoor, ac yna eu traenio, a'u gwerthu am brisiau uchel Er pan ddaeth polo i'r ffasiwn, bu i'r foneddiges hon dalu sylw i fagu merlynod priodol i'r chwareu yma, a chafodd lwyddiant mawr. 3 Tra yr oedd Jacques de Morgan yn gwneyd ei ymchwiliadau diweddar yn Dashour, yr Aifft, daeth o hyd i dlysau yn dyddio er 2,600 C.C. Hefyd gwnaeth ddarganfyddiad yn mhyram- idiau gogleddol a deheuol Dashour, ac agorodd rai o briddfeini y pyramidiau, ymha rai y gwelodd feddrodau dwy dywysoges, yn cynwys ynddynt ddrychau, priddlestri, gwddf-dlysau, a breichledau claspiog.
CADWRAETH IECHYD.
CADWRAETH IECHYD. GAN EOS GLAN TEIFI, MACHYNLLETH. Mae cadwraeth iechyd yn bwnc sydd yn dal cysylltiad a phob dyn a dynes, tlawd a chyf. oethog, bychain a mawrion, a dyledswydd arnom oil yw talu y sylw dyladwy iddo. Mae ein manteision yn Ilawer lluosocach nag eiddo ein hynafiaid i ochel y Iluaws anhwylderau sydd yn agored i'n gorddiwes ar ein gyrfa yn y fuchedd hon. Dosbaithwn y dyledswydd i saith 0 wahanol adranau:—
I, ANADLU AWYR BUR AC IACH.
I, ANADLU AWYR BUR AC IACH. Ein rheswm dros alw sylw at hyn yn gyntaf ydyw, am fod yn anmhosibl i ddyn nac anifail fyw ond am ychydig iawn o amser hebddo. Mae hyn wedi cael ei brofi gynifer o weithiau fel mai gwastraff ar amser fyddai ymhelaethu arno. Mae yn wybyddus i bawb sydd yn darllen ychydig na wna yr un awyr y tro i'w anadlu drosodd a throsodd. Rhaid cael awyr newydd parhaus i amddiffyn iechyd, am y rheswm nad ydyw yr awyr yr un wedi ei anadlu ag ydoedd cyn hyny. Mae yr awyr wedi ei anadlu yn gymysgedig ag elfenau treuliedig y cyfansoddiad dynol, ac felly yn anmhur ac anaddas i'w anadlu drachefn. Mae y Cre- awdwr Holl-ddoeth wedi cynysgaedvJ'' pob dyn a pheiriant bychan i brofi yr awyr, yr hwn sydd wedi ei osod yn y ffroenau. Ac mae athronwyr yn ein dysgu mai hwn ydyw'r hawddaf o holl beirianau y cyfansodd- iad dynol i'w daflu allan o'i berfteithrwydd cynefin a gellir yn hawdd profi hyny i raddau pell fel hyn. Pan a un i fewn i ystafell gau- edig yn yr hon y mae nifer luosog wedi bod yn eistedd am gyfnod o amser, arogla ar ei fynediad yr awyr ddrwg, tra nad yw yr un o'r rhai oedd i fewn yn flaenorol yn teimlo dim oddiwrtho. Wedi iddo yntau eistedd nes i'w ffroenau gynefino a'r awyr, ni theimlaf yn fwv annymunol na'r rhai oedd yno yn flaenoiul Ni ddarfu presenoldeb y person yma wella dim ar awyriad yr ystafell; ond darfu yr awyr ddrwg oedd yno effeithio ar ei beiriant arag Ii ef, nes i'w analluogi i gyflawni ei waith yn briodol. Y mae mewn awyr bur ddwy elfen hanfodol— un a elwir oxygen, ) r hon sydd yn llawn bywyd ac yni, a'r llall a elwir nitrogen, yr hon sydd yn farwaidd a di-yni. Mae rhyw athronydd yn cymharu bywyd i ganwyll. Os gosodwn ganwyll wedi ei goleuo, mewn ystafell gauedig oddiwrth awyr newydd, fe losga yr oil o'r oxygen, ac yna diffodda. Gwna bywyd dynol neu anifailaidd yr un peth, wedi iddo anadlu yr holl oxygen-trenga, Y mae o'r pwys mwyaf fod ein hystafellcedd gwelyau yn cael eu hawyru yn briodol, ac mae lie i ofni fod hyn yn cael ei esgeuluso i raddau mawr gan ddosbarth gweithiol ein gwlad. Mae yn sicr fod cysgu mewn ystafelloedd di- awyr wedi bod yn achos afiechyd i filoedd, ac nid oes modd bod yn rhy ofalus yn y cyfeiriad hwn. Hefyd, dylem gofiofod llawer o bethau yn anmhuro yr awyr, megis tai budr, ceuffos- ydd drwg, &c. Dylem fod ar ein gwyliadwr- iaeth yn wastadol i symud ymaith bob peth sydd a thuedd ynddo i wenwyno yr awyr, ac oni wnawn hyny nid ydym yn gwneyd ein dyledswydd er cadwraeth ein hiechyd. (I barkau).
TALYBONT.
TALYBONT. EISTEDDFOD.—Dydd Nadolig. cynhaliodd yr Annibynwyr eu heisteddfod flynyddol yn y lie. Cyflawnwyd y gwaith o arweinydd yn ei ddull medrus arferol gan y Parch. R. E.Jones, y gweinidog. Clorianwyd y cerddorion gan Mr. John Williams, Machynlleth; y farddon- iaeth a'r rhyddiaeth gan y Parch. D. C. Davies; a cliyfeiliwyd gan Miss Ashton, a Miss Williams, A.L.C.M Enillwyd y prif wobrwyon gan y rhai canlynolJohn M. Evans a Tommy Jenkins, Emma Beaumont, Richard Rees, Gwilym Davies, Austin Hughes, Thomas Pritchard, E. Owen, Eglwysfach, Miss Pritchard, Mrs. Evans, Shop, Mrs. Jones, Ceulan Cottage, cor plant Talybont, dan ar- weiniad Mr. J. H. Evans, Elizabeth James, David Hughes, Miss M. J. Jenkins, Talybont, Mrs. Davies, Leny View, Parti Meibion Uan. badarn, John T. Edwards, Talybout, cor o Talybont, dan arweiniad Mr. D. Jones, Rock House, Miss Edwards, London House, Eglwys- fach, J. Pritchard, Talybont. Basil Hughes, Mr. Evans, Shop, Mr. E. Owen, Penwern, Mri. G. H. Jones a C. Jones, Annie Leek, Kate A. Lloyd, Miss Jones, Forge Factory, Misses M. J. Samuel, Penrhyncoch, a C. J. Pritchard, Talybont, Cor Merched Talybont, dan arweiniad Miss Williams, A.L.C.M., Prif Gystadleuaeth Gorawl, cor Talybont, gin} arweiniad Mr, Ted Jones, Flmporlurn,