Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
YSGOL SIROL MACHYNLLETH.
YSGOL SIROL MACHYNLLETH. Cynhaliwyd cyfarfod o'r Llywodraethwyr dydd Gwener, dan lywyddiaeth Mr. Richard Rees, U.H. Y Prifathraw a ysgrifenai yn amgau ymddi- swyddiad yr is-athraw Mr. O. N. Roberts; ac yn hysbysu ei fod wedi apwyntio Mr. E P. Evans, o Ysgol Sirol Llangefni, i lanw ei le, am y cyflog o ioop y flwyddyn ac awgrymai fod Mr. Roberts yn cael ei apwyntio i ofalu am y dosbarth mewn llaw fer hyd fis Gorphenaf, am y cyflog o 5p. a'i dreuliau teithio. Cytun- wyd ar hyn —Hysbysodd y clerc fod y swm o 34p. 6s. 1 ic., wedi eu derbyn o'r Science and Art Department, sef 14P. 6s. I ic. yn fwy na'r llynedd.—Mr. D. Evans, cyfreithiwr, a ysgrif- enai i ddweyd, oherwydd dyledswyddau eraill, nas gallai gynrychioli y Bwrdd hwn ar y Bwrdd Sirol. Pasiwyd gofyn i Mr. R. Gillart ym- gymeryd a hyn.-Galwodd y prifathraw sylw at y pwysigrwydd ar fod y laboratory yn barod yn ddi-oedi Penodwyd y cadeirydd a'r clerc i siarad a'r contractor ar y mater,—Cwynid hefyd fod pobl yn rhoddi eu dillad allan i sychu yn nhir yr ysgol. Rhoddwyd y mater hwn eto i ofal yr un personau.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. MAHWOLAETHAU.—Dydd Sadwrn, bu farw Mrs. Smith, Graigfach, mam y Cyngliorwr David Smith, yn yr oedran addfed o 80 mlwydd. Symudodd yraa i fyw ychydig flynyddau yn ol o Lanbrynmair. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod dichlynaidd yn Ng'hapel y Graig, a gair da iddi gan ei hull gydnabod. Claddwyd hi dydd Mawrth, yn y cemetery gan dyrfa luosog a pliai-cliiis.- Dydd Sadwrn hefyd, bu farw Mr. E. Morgan, Dilledydd, lIfeliu byrhedyn, a Machynlleth, yn 70 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion marwol dydd Mercher, yn ochr ei briod, yr hon a gladdwyd wythnos yn flaenorol. OYNGOR TREFOL. Cynhaliwyd cyfarfod o'r Oyngor Trefol ddydd Mawrth, Mr. John Thomas, Fferyllydd, yn y gadair.-Hysbys- wyd fod y Cyngor Sirol yn caniatau cais y Cyngor hwn am gael gwasanaeth y Steam Roller yn y dref.—Y swyddog meddygol a (idy wedtti y dylid cymeryd sylw uniongyichol o eefyllfa ddrwg ffordd Dervvenlas yn ymyl yr Efail. Cyfarwyddwyd y Surveyor mewn undeb a Phwyllgor yr Heolydd i edrych ar fod y gwelliantau angenrheidiol yn cael eu gwneyd.—Y Surveyor a gyflwynodd blaniau o dai newyddion fwiiedir eu hadeiladu. Pasiwyd fod y planiau i'w dychwelyd i'r architect, gan nad oeddynt i fyny a'r gofyn- ion.—Yr oedd y mater o lanw y sedd ar y Cyngor, aeth yn wag drwy farwolaeth Mr. J. Evans, Fronygog, ar y rhaglen. Gohir- iwyd hyn hyd y cyfarfod nesaf.
TOWY N.
TOWY N. TK A CHYFARFOD.—Dydd Mercher, yn ysgoldy y capel, cafodd aelodau Ysgol Sul y Wesleyaid, eu gwledd o de, &c. Afraid yw hysbysu i'r plant ac eraill fwynhau y darpariadau yn fawr. Wedi clirio y byrddau, cynhaliwyd^ cyfarfod amrywiaethol, o dan lywyddiaeth y Parch. H. Hughes, ar diwedd pa un y rhanwyd anrhegion i'r plant. Y CAPEL SAESNEG.-N os Wener, cafodd plant Capel Saesneg y M.O., eu gwledd o de a theisenau, ynghyd ag eurafalau a melusion Yr oedd y gweinidog newydd-etholedig, Parch. R. R. Williams, M.A., yn bresenol.
,. del moil yx 1t)en.
del moil yx 1t)en. Y DYN ANFODDOG. GAN BEREN. Mae ambell gymeriad i'w gael yn y byd, Daroetwng rhai eraill a garant o hyd Mae beiau'r cymdogion mor ami a'r gwlith, A phawb yn cyflawni pob gorchwyl o chwith Bydd rliy wun, o rywle, 'n barhaus dan yr ordd, A rhywbeth ueu gilydd o hyd ar y ffordd; 'Does neb ar y ddaear, mown gwladnacmewntre', Yn dweyd nac yn gwneuthur Y11 iawn ond efe. Mae gormod o ddarllen, a gormod o ddysg, A gormod o lyfrau'n ddibaid yn ein mylg; Mae gormod o gyrddau, a gormod o gan, Yu prysur ddistrywio cymdeithas lan. Mae'r Byrddau Cyhoeddus yn farn ar yr oes, A'u lioll weitlll'ediadau'n gableddus o groes, Mae'r oil o'r Cyngorau, a'r Senedd mewn 'stud Sy'u wartli i wareiddiad, a synwyr y wlad! Mae'r ysgol yn sychlyd, a'r bregeth yn sal; 'Does dim gyda chrefydd o'r diwedd a dâl Oil aiff i Baradwys chwith iawn teimla'r dyn, Heb rgwbeth o'i le yn y nefoedd. ei hun.
DYFERION DIRWESTOL.
DYFERION DIRWESTOL. Barn Dr. Forbes Wiiislow-gyda'r aw(iurdod uchaf ar anhwylderau'r ymenydd—ydyw fod y meddwl dynol yn myned yn gryfach, gryfach ond fod gelyn celfyddydol, sef y ddiod feddwol, yn llesteirio cryn lawer ar ei gynydd. Pe gellid atal dynion a merched chwanog i'r ddiod rhag ymbriodi a dyfod yn rhieni, ei grêd ydyw y lleiheid gwallgofrwydd a gwanbwylledd 50 y cant yn ddioedi. Y mae Cymdeithas Gyfeillgar y Rechabiaid, er fod ei haelodaeth yn gyfyngedig i lwyrym- wrthodwyr, yn dal i gynyddu mewn rhifedi a chyfalaf. Ychwanegwyd 10,653 o rai mewn oed y flwyddyn ddiweddaf, yn gwneyd cyfanrif yr aelodau yn 153,048. Y mae hyn heb gyfrif y plant, o ba rai, ar 01 trosglwyddo 7.322 i'r temlau hyn, yr oedd 5.506 yn rhagor na'r flwyddyn cynt. Y mae'r drysorfa elani yn i,ool,ilgp. 6s. 2C, o'i gyferbyn a 834,o6op. i2s. 3c. y llynedd. Ac y mae cyfartaledd eu maiwolaethau yn llai nag eiddo'r cymdeith- asau cyfeillgar ond anymwrthodol o gryn lawer.
SUDDIAD LLYTHYRLONG.
SUDDIAD LLYTHYRLONG. Foreu dydd Gwener, tarawodd yr agerlong Ibex,' ar graig y tuallan i Geurnsey, a'suddodd wedi hyny. Cario llythyrau a theithwyr rhwng Weymouth a Geurnsey yr ydoedd. Credai y cadben ar y cyntaf y gallai gyraedd i'r harbwr, ond pan welodd nad allai lwyddo gorchymyn- odd i ollwng y cychod. Achubwyd y 43 fceithwyr. a 30 o'r dwylaw oedd ar ei bwrdd. Yn anffodus, oherwydd iddo wrthod neidio i'r cwch hyd nes yr oedd yu rhy hwyr, boddodd un o'r Uongwyr.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. CVMDEITHAS DDADLEUOL Y WESLEY AID.— Nos Iau, yu nghyfarfod y Gymdeithas uchod, darllenwyd papyr llafurfawr a grymua ar I Beryglon Diotwyr,' gan Miss M. Doughton. Yn dilyn, caed ymdrafodaeth ar yr un mater, ymha un y cymerwyd rhau gan y cadeirydd, Mr. Hawkes, Mr. W. Hughes, ac eraill. TB A CIRYNGF,.RDD.-Dycld Mawrth, cafodd aelodau Ysgol Sul capel Saesneg y Bed- yddwyr, eu gwledd fiynyddol o de a theis- enau; a daeth niferluosog ynghyd i fwyuhan m t5 y danteithion. Yn dilyn, cited cyngerdd uwchraddol, dan lywyddiaeth Mr. A. Walker, M.D.
ABERDYFI.
ABERDYFI. CY?ABFOD ADLONXADOL.—Cynhaliwyd cyf- arfod adloniadol llwyddianus yn y Market Hall, nos Lun, dan nawdd y Gymdeithas Ddirwestol. Llywydd, Mr. D. Hughes, Royal House ac arw«iniwyd yn ddeheuig a doniol gan Talfardd. Cymerwyd rhau mewn canu, adrodd, &c., gan amryw o dalentau lleol. Euillwyd gwobrwyon gan y rhai canlynol: Mri. E. Hughes, A. Williams, D. Roberts, W. J. Hughes, H. Griffiths, R. 0, Richards, a Miss Floijo Qwm,
AMRYWION.
AMRYWION. Disgwylir y bydd y Cadfridogion Roberts a Kitchener wedi eyraedd Deheubarth Aff rica tua'r 13eg o'r mis; ac wed'yu disgwylir pethaumawrion oddiwrthynt. Mae Mr. H. Lester Smith, Helygain, goruchwyliwr i'r Due Westminster (gynt o Lanbrynmair), wedi cael ei ddyrchafu i'r faine ynadol yn Sir Eflint. Yn ei araeth yn Fflint, nos Wener, dy- wedai Mr. Lloyd George fod y Prydeiniaid yn Hydref yn son am giuiawa yn Pretoria ddvdd Nadolig. Yr oedd yno amryw o'r fyddin Brydeinig ddydd Nadolig Mae Gwirfoddolwyr yn parotoi i fyned ar alwad y Llywodraeth o wahanol rauau y deyrnas. Yn eu plith, ymadawa rhai o Landudno, Bangor, Bethesda, Porthmadog, Caernarfon, Rhyl, Fflint, ac o Faldwyn. Yn Mrawdlysoedd Chwarterol Meirion a Maldwyn a gynhaliwyd yr wythnos ddi- weddaf, nid oedd un carcharor i'w brofi, ac yn Ngheredigion ddim ond un carcharor, sef gwas fferm, yn Llwynpiod am anafu yn faleisus weithiwr ar daith. Dirwywyd ef i lOp. am ymosodiad cyffrediu. Dydd Iau, bu Senedd Ffrainc yn eistedd fel uf hel-lys i brufi cyhuddiadau o fradwr- iaeth. Dedfrydwyd M. Derouledr, M. Bouffet, ar Marquis de Lar-Saluc- s i ddeng mlynedd o alltudiaeth o'r wlad. M. Jules Guerin i gael ei gaethiwo mewn caerfa am ddeng mlynedd. Daeth llwyddiant di-gyffelyb mewn enill Oadeiriau Eisteddfodol a gwobrau i ran y Parch. John Owen (A.) (Byfnallt), Traws- fynydd. Y Sadwrn cyn y Nadolig, enillodd Gadair Penygroes; yna y Nadolig, yn Mlaenau Ffestiniog, ac yn Nolgellau ar y Calan-a'r oil am bryddest ar yr un testyn, sef Mr. T. E. Ellis, A.S.' Rhoddv'yd tabl pres i fyny yn Eglwys Blwyfol Llanrhaiadr, er cof am yr Esgob Morgan. Mae'r cerfiad canlynol ar y tabl- 'Er gogoniant i Ddu w, ac anrhydeddus gof am William Morgan, D.D., ficer y plwyf hwn 1578--1588, cyfieithydd y Beibl i'r iaith Gymraeg, Esgob Llandaf 1595-1601, Esgob Llanelwy 1601-1604. Agorwyd Eglwys Fair yn y Brithdir 1892, a gosodwyd y cof argraph hwn yn 1899.' Geilw gohebydd sylw at y nifer luosog o frwydrau a gymerodd le yn y rhyfelawd hwn trwy i'r Saeson eu dechreu gydag ymosodiadau ar nos Sadwrn neu nos Sul; a gofyna ai gweithredu y maent ar un o'u hen ddiarhebion, sef 1 Better the day, better the deed.' Digon gwir fod mwy o ymosodiadau wedi eu gwneyd gan y Prydeiniaid ar y bul nag ar yr un diwrnod arall o'r wythnos yn ol yr herwydd, a ffaith ydyw na fu un o'r cyfryw ond aflwyddiant; megis, Ladysmith, Stormberg, Magersfontein, ac amryw eraill. Gwnaed cynydd mawr yn ystod y ganrif sydd ar derfynu mewn Llenyddiaeth Gof- nodol Gymreig heblaw llyfrau afrifed. Yn 1800, yr unig gyhoeddiad yn y Gymraeg oedd y Drysorfa Ysbrydol, tan olygiad y Parchn..Thomas Charles, a Thomas Jones, o Ddinbych. Nid oedd gan y genedl yr un papyr newydd am 14eg mlynedd wed'yn pan y gwnaed gan Joseph Harris y cais cyntaf, yr hyn a drodd allan yn golled drom i'r perchenog a'r golygydd llengar. Yn awr, y mae rhif y newyddiaduron Cymraeg wyth- nosol tua 25, a'r misolion, &c., tua'r un nifer. Yn araeth Syr H. Campbell-Bannerman yn Aberdeen, cyfeiriodd at dreuliau milwrol y Transvaal. 'Yroeddynt' meddai, 'yn 1893, yn 19,000p.; yn 1894, yn 28,000p.; yn 1895, yn 87,000p.; yn 1896, yn 495,000p.; yn 1897, yn 396,000p.; ac am y nuw mis cyntaf o 1898 yn ol 220,000p. Ymha flwyddyn y cymerodd y naid fawr i haner miliwn o bunau ? Yn mlwyddyn trais Dr. Jameson. Cymerodd le pan ddarganfydd- wyd ao y dygwyd i'r goleu frad-ymgais plaid Jameson i ddymchwelyd y Weriniaeth.' Ac mae'r Llywodraeth hon wedi achlesu a gwyngalchu prif symudwyr y trais—Mr. Cecil Rhodes a'r cyfalwyr mawrion ar hyd yr amser.
BORTH.
BORTH. LLWYDDIANT.—Pleser genym ydyw cofnodi llwyddiant Mr. Enoch Davies, Grosvenor Villa, yn arholiad diweddar y Bwrdd Masnach, yn Southampton. Llwyddodd Mr. Davies i basio yn y dosbarth cyntaf arholiad yn rhoddi hawl iddo weithredu fel marine engineer. Mac hyn yn glod mawr iddo, gan nad yw eto ond 22 mlwydd oed, j
ARDDANCOSFA AMAETHYDDOL MEIRION.
ARDDANCOSFA AMAETHYDDOL MEIRION. Prydnawn ddydd Mawrth, yn y Neuadd Sirol, Dolgellau, cynhaliwyd cyfarfod blyn- yddol Oymdeithas yr Arddangosfa uchod, dan lywyddiaeth Mr. R. Jones Morris, Talsarnau. Darllenodd yr ysgrifenydd (Mr. E. M. Roberts, Talsarnau), fantolen yn dangos fod cyfanswm y derbyniadau yn 685p. 12s. 5c., yn cynwys y gweddill oedd mewn Haw ar ddechreu y flwyddyn o 112p. 12s. tanysgrifiadau 191p. 6s. derbyniadau am fynediad i'r Arddangosfa, 241p. 5s. 9c; Special Prizes, rhoddedig gan gyfeillion 77p. 16s. 6c. Cvnwysai y treuliau 262p. mewn gwobrwyon. Yr oedd gweddill mewn Haw ar ol talu pob costau, o 143p. 4s. 9c. Der- byniwyd y cyfrifon hyn gyda chymeradwy- aeth a phasiwyd diolchgarwch unfrydol i'r ysgrifenydd llafurus, am ei lafur mawr ac yn ei longyfarch ar sefyllfa lwyddianus yr Arddangosfa, a dywedid mai ef yn benaf oedd gyfrifol am y llwyddiant. Yn nghyf- arfod y Pwyllgor Gweithiol yr un dydd, pasiwyd fod yr Arddangosfa nesaf i'w chynal yn Harlech, Medi 14eg. Dewiswyd Mr. Oakcley, Tanybwlch, yn Llywydd am y flwyddyn; Mr. D. Evans, Brynllin, yn is- lywydd Mr. rr, P. Jones Parry, Dolgellau, Y. yn drysorydd a'r ysgrifenydd i barhau yn ei swydd.
CYNGOR TREFOL ABERYSTWYTH
CYNGOR TREFOL ABERYSTWYTH YMCHWILIAD.—Dydd Gwener, yn Neuadd Gyhoeddus, Aberystwyth, cynhaliodd y Col. DurnfieJd, o Fwrdd Llywodraeth Leol, ym- chwiliad i apel y Cyngor Trefol i gael hawl i fenthyca i2,723p., er helaethu ypromenade o flaen y Coleg, ac o amgylch y Castell Hefyd apel am yr un awdurdod i fenthyca,,300p. er adeiladu tai i weithwyryn Smithfield. Rhodd- wyd y cais gerbron ar ran y Cyngor, gan y clerc, Mr. A. J. Hughes, cyfreithiwr, yr hwn a ofynai hefyd ar fod 50 mlynedd o amser yn cael ei roddi i'w had-dalu. Gosododd y clerc gerbron iesymau y Cyngor dros geisio y ben- thyciad er helaethu y promenade, ac wedi i rai cwestiynau gael eu gofyn gan Mr. W. Thomas, ac i'r clerc, ynghyd a'r Surveyor eu hateb, cauwyd yr ymchwiliad hwn i fyny.- Yna gwnaeth y clerc, ar ran y Cyngor, gais am fenthyciad 3,30op. tuag at adeiladu 18 o dai i weithwyr, a bod 40 mlynedd o amser yn cael ei roddi i'w had-dalu. Rhoddodd y maer dystiolaeth gref yn ffafr y cais, gan sylwi fod angen mawr am y cyfryw dai yn y dref.—Mr. W. Thomas a wrthwynebai y safle y bwriedid codi y tai arni, am, fel yr honai, fod y He dan ddwfr yn fynych, a'i fod yn safle afiachus oherwydd ei agosrwydd at y lladd-dy, ac yn ymyi lie y cynhelid ffeiriau Ystyriai ef Cae Charles yn welllle o lawer.—Gwadai y clerc fod y He yn cael ei lanw a dwfr, ac am yr honiad ynglyn a'r lladd-dy, &c., dywedai fod boneddigitm wedi adeiladu tai gwerth canoedd o bunau yn agosach i'r lie, na'r fan y bwriadai y Cyngor adeiladu y tai hyn. Wedi rhai sylw- adau personol, ac i ddiolchgarwch gael ei dalu i CpJ, Purnfield, cauwyd yr ymchwiliad i fyny.
PENOD YR ENWOGION Y GALLOFYDD…
PENOD YR ENWOGION Y GALLOFYDD GALILEO. (Parhad). Yn fuan wedi hyn aeth Pisa yn lie rhy boeth i Galileo, a gorfu iddo ymadael. Y lie nesaf y cawn ef yw Padua, yn cael ei ddewis i'r gadair wyddonol yn 1592. Parhaodd yn ei lafur a'i ymchwiliadau, y rhai a esgorasant yn fuan ar ddarganfydd- iadau pwysig mewn Gallofyddiaeth. Y gyfundrefn Ptolemaidd a fabwysiadodd gyntaf ond yn raddol en- illwyd ef yn ddilynwr argyhoeddedig a phenderfynol i Copernicus. Yn 1609, y cafodd allan y darganfyddiad mawr, mewn cyaylltiad a'r hwn yn benaf y cofir ei enw, ac y cludir ef ymlaen i genedlaethau olaf y ddaear—yr Ysbieinddrych. Clybu Galileo fod un Jensen o Holland wedi dyfeisio oheryn, yr hwn, with edrych trwyddo, a ddangosai wrthddrychau pell yn agos ac yn eglur. Tarawyd ef ar unwaith gan y newydd. Yr oedd yn bur gyfarwydd a thremyddiaeth (olgties) teimlodd y buasai y cyfryw offeryn o werth annhraethol, a dechreuodd ddyfeisio pa fodd y gallai gwydr effeithio hyny. Rhoddodd ei holl feddwl ar waith cynygiai eilwaith a thrachefn; ac o'r diweddd dacw bibell blwm yn ei law, ac yntau yn gosod gwydr crwn ag un wyneb iddo yn wastad a'r llall yn grymaidd, yn un pen iddo, ac yn gosod gwydr arall ag un wyneb iddo yn wastad a'r llall yn geuol yn y pen arall. Gosododd y pen i'r bibell oedd a'r drych ceuol ar ei lygaidjac er ei foddhad gwelai wrthrychau drwyddo naw cymaint o faintioli, a theirgwaith yn agosach. Gwnaeth un wed'yn i ddangos gymaint driugain o weithiau, ac wedi hyny cymaint fil o weithiau. Gyda'r fath lawenydd yr oedd Galilio yn codi ei ysb,ieinddrych tua'r nefoedd, i edrych ar y lien fawr ogoneddus, yr hon oedd wedi ei gostwng fil o weithiau yn nes ato-i gael golwg ar fydoedd mawrion am y waith gyntaf, y rhai na welodd llygaid erioed o'r blaen. Edrychodd yn gyntaf, ar y lleuad, a chafodd olwg newydd arni. Gwelai ei harwyneb yn eglur, ei mynyddoedd, ei dyffrynoedd, ei gwastadedd, a'i moroedd. Ar yr 8fed o Ionawr, 1610, cyfeiriwyd yr ysbieinddrych am y waith gyntaf i syllu ar y blaned Iau. Cafwyd golwg eglur a go- goneddus arni, a chafwyd allan ei phedair lleuad. Profodd yr ysbieinddrych hefyd amryw bethau oedd Copernicus wedi ddweyd am y blaned Gwener, a bu hyn yn foddion i ddyrchafu Copernicus i olwg y byd, ac i roi cadarnhad diysgog i'w syniadau a'i gyfun- drefn. Ond yr oedd casineb tuag ato fel yr oedd ei lwyddiant a'i glod yn ymledu; ac o'r diwedd cynhyrfwyd awduidodau yr eglwys Babaidd yn ei erbyn. Cyhuddwyd ef ganddi o goleddu syniadau. hereticaicld, sef fod yr haul yn sefydlog, a bod y ddaear yn troi yn ddyddiol; ei fod yn dysgu y cyf- eiliornadau yma i'vr ddisgyblion, ac yn ddigon presaidd ei wyneb i'w hareithio, a'u cyhoeddi yn ei lyfrau; a bod y cyfryw syn- iadau yn gwyrdroi yr Ysgrythyrau. Oly diwedd, wedi cadw llawer lIys ar ei achos, a chyfyngu ei ryddid, gwysiwyd ef i Rufain pan yn 70 mlwydd oed i fyned o flaen y Chwil-lys; ac ar yr 21ain a Medi, 1632, dedfrydwyd ef i wadu ar lw yr athrawiaeth ag y treuliodd fywyd hir o lafur caled i'w chwilio allan, ei phrofl, a'i dysgu. Ysgrif- enwyd cyffesiad hir iddo i'w ddarllen ar ei liniau, gydag un llaw ar y Beibl; ond wedi myned drosto yn drwsgl ac aneglur, a phan nad oedd ond braidd wedi codi oddiar ei liniau, dywedir iddo droi at gyfaill a dy- wedyd yn ei glubt, Y mae y ddaear yn troi wedi'r cyfan.' Ysgafnhawyd ei ddedfryd, cafodd fyned adref; ond nid oedd i gael myned o'i dy, na derbyn ei gyfeillion ato. Bu Galileo farw Ionawr 8, yn 78 oed, yn yr un flwyddyn ag y ganwyd Syr Isaac Newton
Y CYNGHORAU PLWYFOL.
Y CYNGHORAU PLWYFOL. Anfonodd Bwrdd Llywodraeth Leol at ysgrifenyddion y Cynghorau Plwyfol i hys- bysu na chymer etholiad y flwyddyn hon ar yr aelodau. Erys y rhai presenol mewn swydd hyd Ebrill 15,1901. Mae hyn yn gan- lyniad Deddf a basiwyd yn y Senedd-dymor ddiweddaf. Ar ol y dyddiad uchod etholir y Cynghorau bob tair blynedd, yn lie yn fiynyddol.
ABERMAW.
ABERMAW. Y CYNGOB DINKSIQ.—Deallwn fod Mr. H. Evans, Cliffe, a Mr. J. Adams, Surveyor wedi talu ymweliad yr wythnos ddiweddaf, a Llandudno, Llanrwst, Colwyn Bay, &o., gyda'r amcan o aetudio y canllawfuriau (parapetsj yn y lleoedd hyny ac i weled sut y gweithia y goleuni trydanol yuddynt. Rhoddant yn ol llaw adroddiad o fIrwyth eu hymweliad i'l Cyngor Dinesig, ac nid ychydig y cynorthwy a rydd eu hadroddiad i'r Cyngor 1 fyned ymlaen gyda diwygiadau yn Jyr Abernaw yn yr uu c^feiviad,
RHYFEL Y TRANSVAAL NATAL.
RHYFEL Y TRANSVAAL NATAL. YMOSODIAD FFYRNIG AR LADYSMITH Nos Sadwrn, derbyniwyd telegram yn y Swyddfa Ryfel oddiwrth y Cadfridog Buller o'r gwersyll yn Frere, yn dweyd ei fod wedi derbyn hysbysrwydd oddiwrth y Cadfridog White drwy yr haul-fynag, yn dweyd fod sefyllfa ei fyddin yn un o gryn berygl. Yr oedd y B6riaid boreu Sadwrn, wedi tanbelenu y dref yn drymach nag a wnaed eto. Y peleni ffrwydrol yn cael eu hyrddio o bob cyfeiriad ar y dref. Gwnaeth y B6riaid ymosodiad ar wersyll Casar am dri o'r gloch boreu dydd Sadwrn, mewn nifer mawr, ond gwthiwyd hwy yn ol. Parhaodd yr ymladd hyd naw o'r gloch, pan yr anfonwyd y genad. Hysbysrwydd diweddarach ganol dydd a ddywed fod White yn parhau i yru y B6riaid yn ol, ond yr oeddynt wedi derbyn adgyfnerth- iun o gyfeiriad y dehau, a'u bod yn ei amgylchu ar bob ochr. Am 3.15 o'r gloch, anfonodd White, 'Yr ymosodiad wedi ei adnewyddu. Pwysir yn galed iawn arnom. Hysbysai Buller ymhellach fod adroddiad yn ngwersyll Frere fod White wedi gorchfygu'r B6riaid am 5 o'r gloch dydd Sadwrn, ac wedi cymeryd 400 yn garcharorion. Anfonodd ef yr holl filwyr eedd wrth law i wneyd ymosodiad ar Colenso. Yr oedd y ffosydd yn liawn o'r B6riaid.
CAPE COLONY.
CAPE COLONY. COLLED Y PRYDEINIAID GER COLESBERG. Cyhoeddir yn swyddogol fod y Cadfridog French wedi cyfarfod a thrychineb gyda rhan o'i fyddin. Aeth pedwar cwmni perthynol i gatrawd 1st Suffolk yn y nos filldir o'r gwersyll i gyfeiriad un o'r bryniau. Gyda'r wawr, rhoddodd y Col. Watson orchymyn i ymosod, ac ar unwaith cafodd ei glwyfo. Rhoddwyd archiad i gilio-gan y gelyn fe ddywedir-ac yn unol a hyny ymgiliodd tair rhan o bedair o'r milwyr tua'r gwersyll Daliodd y gweddill eu tir hyd nes y llwyr orthrechwyd hwy, ac yna rhoisant eu hunain i fyny. Cymerwyd 70 yn garcharorion, yn cynwys saith o swyddogion. MEDDIANU DORDRECHT GAN Y BORIAID. Dydd Gwener ail feddianodd y B6riaid dref Dordrecht, yr hon sydd ar un o lethrau myn- yddoedd Stormberg yn Ngogledd Cape Colony. Daethant i'r lie yn llu cryf, fel yr ymgiliodd adran y Cadfridog Gatacre oddiyno tua Molteno. CWYMP KURUMAN. Adroddiad oddiwrth y B6riaid a ddywed fod tref Kuruman, yn Rhodesia, ar ol cael ei thanbelenu yn drwm trwy dydd Mawrth, wedi rhoddi ei hun i fyny. Cymerwyd 120 yn garcharorion, yn cynwys 12 o swyddogion, a nifer o ddrylliau a chyflenwadau. MR. WINTSON CHURCHILL AR Y BORIAID. Diangodd Mr. W. Churchill, gohebydd y Mornitig Post, o Pretoria, ac wed'yn ysgrif- enodd amryw lythyrau i'r newyddiadur uchod. I Yn un o konynt dywed :— Fath bobl ydyw'r B6riaid hyn Gwelais hwy yn y bore yn marchogaeth trwy y gw la w- filoedd o ddynion annibynol, yn meddwl drostynt eu hunain, ganddynt arfau godidog, yn cael eu harwain yn fedrus, yn ymdaith ymlaen heb golofn o wyr yn cludo eu porthiant a'u hadnoddau ymladd, ac yn cael eu cynal gan gyrph o haiarn a Duw yr Hen Destameut, yr Hwn yn sicr a darawai yr Amaleciaid glun a morddwyd. Ac yn y prydnawn, uwchlaw swn y gwynt a'r gwlaw, mi a'u clywais yn canu rhyw d6n syml leddf-eu Salm hwyrol, a mwy o lidiogrwydd rhyfel ynddi nag o dosturi a chariad. Gyrodd ids i fy nghalon, nes y meddyliais ar ol y cwbl fod y rhyfel yn anghyf- iawn, fod y Bdriaid yn well dynion na ni, fod y nef yn ymladd yn ein herbyn, y cwympai Ladysmith, Mafeking, a Kimberley, y dyfethid gwarchodlu Estcourt, yr ymyrai Galluoedd Tramor a'r achos i'n herbyn, y collem Dde- heubarth Affrica, ac y byddai hyny yn ddechreu ein diwedd. Felly am enyd anobeithiais am yr Ymherodraeth a phan gododd haul y bore yn ddisgleiriach ar ol y gwlaw, yn gynhesach ar ol y ddrycin-a phelydru trwy y iienestr, y dychwelodd pethau i'w lliw priodol. Y mae gweledigaeth y gohebydd yn gywir a barddonol, a gresyn i baul y boreu ei difoui. Ond pan ddelo amser setlo y cyfrif, gobeithio na fydd i Brydain anghofio'r desgrihad, a chofio yn y telerau mai nid yr ellyllon y myn rhai eu portreadu ydyw'r BoriaiJ, ond dynion llawn cystal a ninau, ac yn haeddu tegweh. Y fath gyfeillion ardderchog fuasai'r gelynion hyn! Y BORIAID YN CODI GWERSYLL NEWYDD. Boreu dydd Llun, cafodd scouts allan fod y Bdriaid yn ffurfio gwersyll mawr newydd mewn He o'r enw Springfield, chwe' milluir yn uwch i fyny ar yr afon Tugela na Colenso. Bwriedir y gwersyll newydd er rhwystro y Prydeiniaid rhag ymosod ar eu hystlys dde. Taniwyd arnynt, ond Ant ymlaen gyda'r gwaith.
CORRIS.
CORRIS. Mae afiechydon yn lluosog a thrwm drwy yr ardaloedd yma. Ychydig o deuluoedd sydd heb fod dan ryw anhwyldeb. EGLWVSI RHYDDION.-Mae rhyw atalfeydd wedi bod ar draddodiad yr ail araeth mewn cysylltiad a'r Undeb uchod. Deallwn y cymer le yn fuan yn Esgairgeiliog. Y testyn yw Yr Eglwys Ymneillduol,' a'r areithydd y Parch, Evans, Aberllefenni,