Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
IIIIYFEL Y TR.AN8VA AL.
IIIIYFEL Y TR.AN8VA AL. ■" .J MAES Y RHYFEL. EGLTTRHAD AH Y MAP UCHOD. Islaw mae enwau'r gwledydd y cerir y Iiliyfel ymlaen, gyda'r rhifnodau ar y Map gyferbyn a hwy: 1 Natal (Prydeinig); 2 Basuto Land (Prydeinig); 3 Orange Free State (Gweriniaeth Boraidd) De- heuol; 4 Eto, eto, Gorllewin; 5 Y Transvaal Orllewinol; 6 Y Transvaal Ogleddol; 7 Y Trans- vaal Ddwyreiniol.
NATAL.
NATAL. YR YMOSODIAD AR LADYSMTTH. Derbyniodd Swyddfa Ryfel hysbysrwydd pellach oddiwrth y Cadfridog Buller, dydd Llun, mewn perthynas i'r ymgais ffyrnig a wnaed gan y Boriaid ar Ladysmith. A ganlyn yw'r frys-neges:- Gwersyll Frere, dydd Llun.—Gwefreba y Cadfridog White am ddau o'r gloch prydnawn ddoe:— Dechreuwyd ymosodiad ar fy sefyllfa, ond yn benaf yn erbyn gwersyll Caesar a Waggon Hill Yr oedd y gelyn yn lluosog iawn, a gwthiasant eu hymosodiad gyda'r gwroldeb a'r ymroddiad mwyaf Cafodd rhai o'n ffosgloddiau ar Waggon Hill eu cymeryd dair gwaith gan y gelyn, a'u hail gymeryd genym ni Parhaodd yr ymosodiad hyd haner awr wedi saith yn yr hwyr. Meddianwyd un pwynt yn ein sefyllfa gan y gelyn yn ystod yr oil o'r dydd ond wedi iddi fyned yn ystcrm drom o wlaw, trowyd hwy o'r sefyllfa hon ar bwynt y bidogau yn y piodd mwyaf gwrolfrydig gan gatrawd Devon, yr hon oedd yn cael ei harwain gan y Mil. Park Y Mil. Ian Hamilton oedd yn llywyddu ar Waggon Hill, ac estynodd wasanaeth gwerthfawr. Cafodd y corphluoedd amser caled iawn, ac ymddygasant mewn modd rhagorol. Dyrchefir hwy am y gwasanaeth y maent wedi ei estyn i'r Frenhines. Gwthiwyd y gelyn yn ol o bob man, gyda cholled drom, llawer mwy na'n hochr i.
CAPE COLONY.
CAPE COLONY. YMLADD YN RENSBURG. Bu ysgarmesoedd rhwng byddin y Cadfridog French a'r Boriaid yn Rensburg, lie y mae gorsaf ffordd haiarn ychydig filldiroedd islaw Colesberg. Yr oedd French wedi derbyn llawer o adgyfnerthion pan ymosodwyd ar y B6riaid yn y lie dydd Mercher. Dywedir mai math o gwrs ydoedd i weled safle y Boriaid. Enfyn gohebydd o Rensburg fel hyn Clwyfwyd yn yr ymladdfa ddoe 16 o'r Prydein- iaid, yr oil yn perthyn i gatrawd swydd Berk. Y colledion Prydeinig i fyny i brydnawn Mercher, oedd 5 wedi eu lladd, a 24 wedi eu clwyfo. Yn ystod yr ymosodiad ar Colesberg, cafodd 25 o New Zealanders ddiangfa gyfyng. Aethant hwy ynghyd a rhai o'r Cape Carabi- neers, a nifer o wyr meirch, i feddianu safle yn agos i Fryn Yokeskeinek, a wyneba'r B6riaid, end cawsant dderbyniad cynes gan lu oedd yn ymguddio ar fryn arall Yn gweled y perygl, prysurodd yr Isgadben Robin a nifer o wylwyr i'w cynorthwyo. Cerddodd filldir yngwyneb tan parhaus, a llwyddodd i'wgwaredu. Encil- iasant o dan gawod 0 fwledi. Ar y bryniau i'r gorllewin i Coleskop y mae yr ymladdfeydd yn cymeryd lie. Mae yr holl filwyr yn ymgysgodi ymysg y creigiau, a chadwa'r cyflegrwyr y B6riaid yn ddistaw. Dywed newyddion diweddarach o'r un lie, foreu Iau, fod ymladdfa yn myned ymlaen rhwng y cyflegrwyr ar doriad y wawr, ac yn parhau. TREN YN RHEDEG YMAITH Cymerodd tanio bywiog le ddydd Mawrth, ar fryn 0 arngylch Colesberg; ond gorlodwyd y gelyn yn raddol i encilio. Trwy ddamwain ar y ffordd haiarn, aeth tren Prydeinig i lawr goriwared, a dinystriwyd ef; ac ysbeiliodd v Boriaid yr hyn oedd yn cael ei gludo ynddo. Anfonwyd tren cynorthwyol i sicrhau yr ystor- feydd, ond tanbelenwyd arno gan y gelyn, a dychwelodd i Rensburg. Tybir mai rhywrai yn cydymdeimlo a'r Boriaid gychwynodd y tren i lawr y goriwared. CYFFINIAU MODDER RIVER. Derbyniwyd y neges ganlynoI foreu Mawrth, oddiwrth yr Is-filwriad Pilcher 'Llwyr orch- fygwyd catrodau y gelyn yn Sunnyside heddyw, lonawr iaf, gan gymeryd y gwersyll, a 40 0 garcharorion, heblaw y rhai a laddwyd ac a glwytwyd. Ionawr zit Y mae y golofti o Belmont, o dan yr Is-Filwriad Pilcher, ar ol gorchfygu'r Boriaid, wedi meddianu Douglas, a chwyfio'r Union Jack. Mawr ganmolir y medrusrwydd a ddangoswyd gan Pilcher yn y frwydr hon Ymddygodd y Queenlanders yn ardderchog, I gan siarad a chwerthin pan o dan y tan. Enfyn Gatacre 0 Molento, ionawr 3yad, fel y canlyn :—Mae Gorsaf Heddgeidwadol, 250 o ddynion, ddwy filldir o Molteno i'r de, wedi cael ymosod arnynt gan fyddin o 2,000 o ddynion, dau o ynau, o Stormberg yn gynar yn y boreu. Darfu i Armitage agor tin 4,500 o latheni, gan achosi i'r gwn gael ei dynu yn ol, a'r holl fyddin elynol yn dilyn. Enciliodd y Boriaid o Loperberg Y mae'r heddgeidwaid a'r dryllwyr yn cadw meddiant o'r Orsaf Heddgeidwadol; dychwelodd y gweddill i Bushman's. MAFEKING. Nos Wener, cyhoeddwyd y canlynol gan y Swyddfa Ryfel ddydd Gwener :—' Caed hys- bysrwydd oddiwrth Baden-Powell, dyddiedig Mafeking, Rhagfyr 26ain, eu bod wedi ymosod ar gaerfa y Boriaid y boreu hwnw. Parhawyd i ymosod gyda gwrhydri, a hyny 0 dan dan ofnadwy, ond methwyd, oherwydd fod y gaerfa ddwbl oedd y Boriaid wedi godi bron yn ddi- syflyd. Ki encili'odd y Prydeiniaid hyd nes y bu i chwech 0 swyddogioti a nifer fawr 0 fihvyr gaei eu taraw. Dywed gohebydd y Central News mai y newydd diweddaraf dderbyniwyd o Mafeking oedd mewn telegram preifat fel hyn :—" Mafe- king, Ionawr iaf. Piuiner yn ymdaith tua Mochudi.' KlI 13 lZLEY Kimberley, RJiagfyr 28: Y mae'r B6riaid yn parhau yn dawei, ac eithrio swn tanio y cyflegr- wyr o'r pellder. Parha'r wyliadwriaeth yn ddi-ildio, fodd bynag Dywedir fod cryn drafferth yn cael ei gymeryd gan y Bdriaid i gadw yn ddistaw eu colledion yn y brwydrau diweddar. Dywed newyddion o Cape Town, nos Fercher, fod y newyddion gaed o Kimberley y noson cynt yn dangos fod y Bdriaid yn codi amdiffyn- feydd, gyda gynau mawr, arfryniau y Dronfield, i'r gogledd. Yn yr oil, y mae 17 milidir o warchgloddiau ac amddiffynfeydd yn gwynebu caerfa Kimberley.
ADGYFNERTHION.
ADGYFNERTHION. Cynhaliwyd cyfarfod maith o Fwrdd y Fyddin ddydd Mercher, yn Swyddfa Ryfel. Mae Arglwydd Roberts wedi gwneyd cais am nifer luosog o swyddogion at wasanaeth arbenig, yn chwanegol at y nifer sydd eisoes wedi cael eu hanfon i Ddeheudir Affrica ar ddyledswydd arbenig. Hysbysa y Morlys fod y gludlong Victorian' gyda'r 14th Hussars, a bataliwn o fagnelwyr wedi gadael Tref y Pellrhyn am Durban. Aeth y Kildonan Castle o Southampton, dydd Mercher, gyda thua 2,350 o gorphluoedd ar ei bwrdd. Y mae yr amodau 0 dan ba rai y derbynir gwir- foddolwyr i'r gwasanaeth wedi eu cyhoeddi gan y Swyddfa i.'yfel. Cynhaliwyd cyfarfod siriol i gefnogi y cynllun o godi gwirfoddolwyr at y Meirchfllwyr Ymherodrol a cliael arian i arfogi, &c., y cyfryw yn Nhrallwm, dydd LIun. Llywyddid gan Syr Watkin W. Wynn, arglwydd-raglaw y sir. Dywedai Syr Watkin fod angen o leiaf 1,200p. at eu liarfogi, ac addawodd y rhoddai ef 200p. i gyclrwyu. Dywedodd Arglwydd Powis fod y Cyrnry wedi bod bob amser yn genedl ryfeJgar, ac yr oeddynt yn barod, fe deimlai yn sicr, i fyned allan ac yrnosod ar fryniau Deheubarth Affrica, ac enill yn ol y tiriogaethau a ddelid yn awr gan y Boriaid. Byddai yr Arglwyddes Powis ac yntau yn falch i gyfranu lOOp. i'r drysorfa. Cyrhaeddai y swm addawyd yn yr ystafell 800p. t LLYTHYR ODDIWRTH GYMRO. Dyma fel yr ysgrifenai Mr. Robert Evans, gynt o Dalsarnau, at Mr. John E. Griffith, Cambrian View, Penrhyndeudraeth, o Natal, Rhagfyr 3ydd. Yr wyf yn anfon gair atoch oddiyma. An- fonais o Aldershot cyn i mi gychwyn oddiyno Gobeithiaf eich bod chwi fel finaumewn iechyd da. Gwelwch fy mod wedi fy nhrawsffurflo at y West York,' ac yr ydym yma mewn lie o'r enw Estcourt, wedi cael brwydr galed a'r B6riaid y 23ain o'r mis diweddaf. Dringasom fynydd oedd mor uchel a'r Wyddfa, a chymer- asom feddiant o'u setyilfa tua thri o'r gloch y boreu. Cawsom noson ddychrynllyd. Daeth yn ystorm o fellt a chenllysg, oedd fel wyau go fawr. Bu'm am 27 0 oriau yn nghanol y frwydr. Yr oedd 6,000 o'r gelynion yn ein herbyn. Lladdvvyd 150 honom ni. a chlwyfwyd 60. Ar ein taith i ryddhau Ladysmith yr ydym, a dywedir fod 40,000 o'r gelynion rhyngom a'r Cadfridog White. Rhyw saith milldir sydd oddiyma i Colenso. Yr ydym ar fin brwydr fawr eto. Mid oes genyf ddim ychwaneg y tro yma. Bydd yn dela Ünvn genyf glywed oddiwrthych. Yr wyf wedi disgwyl am lythyr, a hwyrach na chaf siawns i anion eto. Nadolig llawen i chwi i gyd. Y mae hi yn boeth iawn yma y dydd, ond yn oer y nos.' — ——————————————————
CORRIS.
CORRIS. I -kMWAIN.f)rWg genym ddeall i'r Cyng- horwi Rhys Owen, Bronmeirion, cadeirydd Bwrdd Ysgol Talyllyn, gyfarfod a damwain, y nos Lun cyntaf o'r flwyddyn, tra yn croeH Pont y Cob. Yn y tywyllwch, methodd oi gyteirjad, a syrthiodd drosodd, gan dderbyn niweidiau trymion. Mae yn dda genym ddeall ei fod yn gwella cystala'r disgwyliad. ARWERTHIANT.-Cynhelir arwerthiant gar Mr. E. R. Jones, Cemtnes, dyJd Sadwrn ncs-a1 ar ddodrefn, &c., y ddiweddar Mrs. Williams, Greenfield. CLADDEDIGAETH MRS, J ROBERTS.—(. M erodd angladd Mrs. Jane Roberts, Minafoi, dydd Sadwrn, ac yr oedd cynulliad lluoro pfiarchus yn talu eu teyrnged olaf iddi. Gna anaethwyd wrth y ty, yn y capel, ac wrth y bedd, gan y Parchn. J. Roberts, W. Williams, Talvsarn, ac eraill. Claddwyd hi wrth ochr ei phnod, y Parch. Hugh Roberts, yn mynwent Rehoboth. CVMDEITHAS DDIRWESTOL Y MERCHED.— Nos Wener, cynhaliwjd cyfarfod dan lywydd- iaeth Mrs. Roberts, Aelybryn. Darileawyd papyr gan Miss Jones, Ty'nyftridd, ar Fywyd Miss Willard,' gan dynu addysgiadau oddi- wrtho. Gwnaed sylwadau pellach gan y Bonesau Lewis, Pantycelyn Ridge, Brynllvvyd Cottage Winiams, Brynteg'; Williams, Hills- boro a Jones, Dafarn Newydd. CYFARFOD YSGOLION.-Dydd I Sul. cynhal- iwyd cyfarfod dau-fisoi M.C. y dosbarth, yn Rehoboth, dan lywyddiaeth Mr. E. T. Williams, Ysgol Ty'nyberth. Y boreu, holwyd y plant yn Hanes Iesu Grist' gan yr ysgrifenydd, J. R. Evans, Aberllefenni, a'r dosbarth canol yn II Samuel gan y Llywydd. Yr.oedd yr holi a'r ateb yn bur foddhi.ol.-Am 2 o'r gloch, cafwyd anerchiad rhagorol gan Mr. D. O.weB, Penygareg, ar Gysylltiad gweddia llwyddiant yr Ysgol Sul.' Gwnaed sylwadau dilynol gan amryw o frodyr. Yna holwyd am ansawdd yr ysgol. Cafwyd fod cynydd yn y llafur. mewn adrodd, ftydalondeb neillduol yn mhresenoldeb yr athrawon, agwedd lewyrchus ar yr holl vRtrol.—Oherwvdd afiechyd v Gofaiwr, Mr. D. ffor Ioiies, ni holwvd y dosbarth hynaf yn Epistol lago. Pasiwyd i anfon cydymdeimlad y cyfarfod a Mr. Jones yn ei waeledd, ac yn amlygu gwerthfawrogiad o'i lafur fel Gofaiwr yn ystod y tair blynedd diweddaf.—Canodd y plant yn soniarus, o dan arweiniad Mri. R. O. Thrower, a D. Humphreys Mr. J. Lewis yn gyfeilydd. Cynhelir y cyfariod nesaf yn Bethania^
Y MARCHNADOEDD..
Y MARCHNADOEDD.. MAUCHNAIJOEIH.) YD. Llundain, dydd Gwener. Gofynid y prisiau blaenorol am wenith cartrefol a thramor, ond ychydig fusnes a wnaed. Galw cymedrol am flawd, yn ol prisiau sefydlog. Haidd at faIu yn farwaidd, ac heb gyfnewidiad. Lerpwl, Ionawr 9fed.—Gwenith yn dawel ar ddechreu y farchnad, yn ol prisiau diweddar; gwenith CalifEornaidd, o 6s. 3c. i 6s. 3-c. y can'pwys.
Advertising
AVANTKi). A Competent CLMRK, who is conversant with the accounts of White Quiu-ries and Slate Mills. Apply, stating age, salary retired, and giving one or two 1110s: recent references to: _JThe Era Welsh Siuto Qu rries, Ceinws, R.S.O __n_ AT DKLMVK1 All). YN yn ddioe d> ii lcuano, yu deiliwr medrus. Gwaith parli-ms i t.l. n so r. Ymofyner a Eviu •! i(Jjiiiines, Il.S.O., Mont.
[No title]
-= MAE arwyddion i'w canfod o'r hyn y proph- wydwyd am dano, sei y Symucliad byddai cyfyngdra Prydain tra Rtvsia. menu rhyfel yn gylleusdra i Alluoodd eraill i'w niweidio, ac y diclion i llyny drui yn ffaith, Yn awr y mae yr arth o'r gogledd fel y Hew Pryd- einig, yn dangos ei lielf'en ysglyfaethgar i oresgyn cenliedioedd eraiildrwy drais. G wel Rwsia liyny yn fanteisiol pan y mae ei lien elyn Prydoiuig meWll penbietk. Hysbysir gan awdmdod ei bod yn parotoi i gasglu byddin ynghyd. ar gyffiuiau Afghanistan. Grwnaed reii ffordd gan nwsiu, o Tiflis, yr hWll Ie yw canolbwynt ei gallu mihvrol yn y Caucasus, i Kushlra, yr Jivvn sydd o fewn 60 milidir i Herat, portli Afghanistan, y wlad sydd urth-giawdd rhwng Rwsia ac India. Yuiffrostia gohebydd milwvol y gellir pan ddymunir anion byddin fawr o'r Caucasus i Kushka mewn wyth niwruod. Mewn geiriau eraill, dygir y teifyndir Afglianistaidd o fewn cymundeb uniongyrchol a phrif ad- noddau milwrol Hwsia, Fel rlieswm am y symudiad, dywedir wrthym ei bod am wneyd arbrawf' ar gludo milwyr rhwng y ddau Ie, rhag y bydd galwad am iddynt fyned. Honir hefyd fod cyflwr ansefydlog Afghanistan yn galw am i t) arddangosiad gael ei wueyd ar y cyffiniau. Oud nid oes sail i liyny. Mwyaf tebygol yw fod y symudiad yn gynyieli asbri yi ysbrydoedd aflonydd sydd yn Rwsia fel yn y wlad hon. Mae yn yr ymherodraeth blaid g'ref o Jingoaid a phlaid filwrol, y rhai ag mae'n anhawdd i dueddiadau heddychol y Czar eu gwrthsefyll. Ainean y rhai liyn yw estyn yr ymherodraeth i Gaercystenyn. Mae y Rwsiaid o'r farn fod Prydain yn ys- twytliack i'w thrin gyda gwleidyddiaeth dramor tra mewn rbyfel a'r Transvaal nag ar un adeg arall. A diameu y buasai gwaedd enbyd yn codi yn y wlad hon gan y newydd hwn oni bae fod rhylel mwyaf yr oes hon ar ein dwylaw. Gobeithiwn nad oes aehos am berygl Ilfibra W oherwydd yr liyn a draethir, ond pe byddai, y ffordd briodol i ni yw gweithredu yn gyfeill-ar tuag at Rwsia, gan gydnabod a chydymdeimlo a'i hamcanion a'i dyheadau eyfreithlawn. Nid heddgeidwad Ewrob yw Prydain, ac ni ddylai rutbro i ymyryd ymhob helynt, fel y mae yn awr yn hollol angliyfiawn a di-achos yn y Transvaal. Canys ni ddaetb ac ni ddaw dim ond cywilydd i'w l'han drwy hyny. Dylai ymyraeth yn unig pan y mae ei hawlian uchaf yn cael eu peryglu. FFAITH fwyaf yr wythnos ddiweddaf yw ymosodiad cethin y Boriaid Y Rhyfel. ar Ladysmith. Penderfynodd Joubert ei chymeryd drwy ruthr. Gyda'r wawr dydd Sadwrn, tanbel- enwyd y dref o bob cyfeiriad yna gwnaed ymgais erwin ar y gwarchgioddiau Pryd- m einig, ond gwthiodd byddin White y Boriaid yn ol dair gwaith drosodd. Parhawyd i ymladd nes y daeth tywyliwch yr hwyr. Metliodd y Boriaid yn eu hymgais, ac y mae y ddwy blaid yn dal eu safleoedd blaenorol. Yr oedd yr ymladdfa yn waedlyd dros ben. Collodd y Boriaid, mae'n debyg fwy y dydd hwn nag a gollasant o'r dechreu, am eu bod yn ymladd y tro hwn ar dir agored. Y mae y many lion heb gyraedd eto. Ehifedi y milwyr o dan White ydoedd 10,000. Ni roddodd Buller un cymorth yn y frwydr dost, heblaw gwneyd arddangosiad i gadw y Boriaid ger Colenso rhag estyn cynorthwy i'w cyd-filwyr o flaen Ladysmith. Synir llawer paham yr arliosodd Buller yn llonydd pan y mae ganddo 30,000 o filwyr a ehyflegrau afrifed. Onid y cyfrif i'w roddi yw goruwchreolaeth aryr holl amgylchiadau? Cyfarfu French a thrychineb drwy i 70 o'r golofn oedd ganddo gael eu cymeryd yn garcharorion mewn ysgarmes. Syrthiodd gwarchodlu Kuiuman i ddwyla w y Boriaid. Ni chymerodd digwyddiad pwysig le yn Mohier River, Kin:berley, na Mafeking. PHI aiuryw ysgaimesoedd rhwng French a (judaci-e a'r Boriaid yn Capo Colony. J '\lifa adgyfiieitliion bob wythnos i Cape Tow n, a bydd Roberts a Kitchener yn cymeryd y llywyddiaeth ar eu glaniad.
MANION.
MANION. Goruchwyliwr y Central Nezvs yn New York a hysbysa fod cymdeithas, yn gymysgedig o Wyddelod ac Almaenwyr, yn gwneyd ymgais i godi pedair catrawd i wasanaethu gyda'r B6riaid. Y mae y dynion yn myned 0 .ian ddis- gyblaeth filwrol bob nos yn swyddfeydd yGlan- na-Gael, Philadelphia. Ataliwyd yr agerlong Germanaidd General yn Aden dydd Iau, a byrddiwyd hi gan swydd- ogion Prydeinig er mwyn archwilio ei llwyth. I Ddwyrain Affrica yr oedd yn rlrwym. Mae Llywodraetl. Germani wedi protestio yn erbyn y weithred am mai bwydydd a gludai y llotig. —Hysbyswyd yn Berlin, nos Iau, fod agerlong arall-y drydedd—wedi ei hatal. Crewyd cryn gyffro yn Berlin oherwydd y newydd. Y Central News a ddywed :—Dydd Sul, cyrhaeddodd gohehydd rhyfel i Lundain o faes y frwydr. Mynega fod gan y Boiiaid ddeg a phedwar ugain o filoedd 0 filwyr ar y maes, ac fod y ffermwyr Is-Ellmynig yn Cape Colony, gydag ychydig o eithriadau, wedi bwrw eu coelbreu gyda'r Boriaid. Rhaid i'n byddin ni gael ei chodi i gaiit a phedwar ugain 0 fiioedd Derbyniwyd dwy wifreb fer yn y Swyddfa Ryfel dydd Mercher, oddiwrth Syr F. Forestier Walter, yn Nhref y Penrhyn. Hysbysa un fod brigad gwyr meirch Arglwydd Methuen yn cynorthwyo, ac mewn cyniundeb a chadymchwil y Mil. Pilcher i Douglas, yn gwylio Koodoos Drift. Adroddai y Hall fod sefyllfa y Cadfridog French yr un a'r diwrnod blaenorol. Dywedai y Cadfridog French y gallai ef, gydag ychydig o adgyfnerthion, symud y gelyn o Colesberg.
NODION MOELYDRE.
NODION MOELYDRE. MAEWOLAETH HEN ARDALWYR. Dydd olaf o'r hen flwyddyu, bu farw Mrs. Cathe) ine Davies, Ty'nycoed. Cafodd ei dwyn i fyny yu grefyddol o'i mebyd, a chafodd drigo yn nhy yr Arglwydd holl ddyddiau ei bywyd. Ystyrid hi er yn ieuanc, yn un ragorol mewn crefydd, ac yn un ddiwyd a gofalus gyda'r byd hwn. Yn 1859 (blwyddyn y diwygiad), yr oedd crefydd wedi cael gafael cryf ar ei bysbryd. Hoffai dangnefedd, ac ymdrechai fod yn un o wneuthurwyr tangnefedd. Yr oedd yn meddu hyder tawel yn y Gwaredwr. Hunodd yn sydyn a thawel yn yr Iesu, yn 62 mlwydd oed, gan adael plant i alaru eu colled ar ei hoi. Teimla eglwys y Wesley- aid yn y Vinas fod un o'r mamau yn Israel, un 0 brif golofnau y gyfeillaeh eglwysig wedi ei symud o'n plith. Oladdwyd hi yn mynwent Llanymawdd wy, yn ol y Uroin NewJdd. Hwn ydoedd y claddedigaeth cyntaf yn y fJUff yma. Drwg genym orfod cofnodi i'r person ddangos oi deimlad gwrth- ymueill.iuol ar yr amgylchiad, drwy i'ynu tal o sofren am gaei rhoi gwaith yn y bedd, yr hyn nad ydyv\ yn arfarcl g v:i v 1. Cafwyd g-wasauaeih eiTeitbiol wrth y ty, ac wrth y bedd. gan y Parch. D. M. Jones. CofT,, v fiawn sydd fendigedigC Mil, UuBJSRT JONKS, cofiiodiad am I'.v* olaefclx y cyfaill l il yn y NfiGBSV^T) • Yr oedd ein hen gyfaili yn iawn. Yr oedd yn hanu o un o aeuiuoedci hynaf a pharchusaf Alawddwy. Yn wir. y inao yr un teulu yn Ty'nybraich er's dros chwe' chant 0 flynyddoedd. Yr hvn oedd yn neillduol yn ein hen gyfaili ycloedd ei feddylgarwch. Darllenodd lawer. Yroedd yn dra chydnabyddus a hanes byd ac egl-v t Yr oedd hefyd yn dra gwybodus yn y c'dr Destament. Bu drwy ei oes vn Syddx u a'r YsgolSabbotnol. Cymerodd ddyddora neillduol yn mhlant a phobl ieuaino Her^i v Mab dyddanwch oedd Robert Jones. Yi oedd mor bur a'r haul, ac mor brydferth J fill. Nodweddid ef gan dynerwch, caredig- rwydd, a sefydlogrwydd. • Gorphwys yn dawel bellach, frawd, hyd ganiad yr udgorc. [ Ymddengys y cywydd ar o'i waith yn ein nesaf.—Gol.] MR. WILLIAM MORRIS, T^'NYBAI-ON.—Bu faTW y cyi'aill nchocl dydd Gwener, a i. ef yn Garthbeibio. Gwelodd ami a bliii gys- tuddiau, ond aeth y eyfan heibio.
.DOLGELLAU.
DOLGELLAU. MARWOLAETH.—Ionawr 3, yn mhreswyl- fod ei luerch, 4, Port terrace, Porthdinorwig, yn 76 mlwydd oed, Mrs. Jane Jones, priod y diweddar.. Gad ben. Thomns S. Jones, a chwaer hynaf y Parch. Evan Roberts (M.C..). Dolgellau (a modryb i Mr. H. R. Williams, Swyddfa'r NEGESYDD), Yr oedd yn v.-L.3,i;. hynod dawel, garedig, a chrefyddol Ïtnvn, Nid yn fynycli y deuid i gyffyrddiad ag un mor oleuedig a hi yn yr Ysgrythyrau. Un fwynaidd, megis Iiaf-hiirion,—ydoedd Dan nodau'r gwir Gristion A choleg serch ei chalon Addumai hedd rinau hon.—Menaifab.
ABERIjLEFENNl. -
ABERIjLEFENNl. Y GYMDEITHAS IJEKYDDOL.—Nos Ferchei diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod o'r uchod, dan lywyddiaeth Mr. M. Roberts, Plas. Oafwyd papyr ar hanes bywyd Dafycld al; Gwilym,' gan Mr. D. H. Pees, ac ai hanes bywyd 'Owain Gtyndwr,' gan Mr. G. E Jones, ac a.r hanes bywyd 'Dewi Sail, gan Mr. IT. Griffiths. Siariadwyd ymhellach gan Mri. H. Jones, Tycapel; Mr. R. Morris, Dinas Mawddwy; a'r Parch. H. W. Parry. Ar y diwedd rhoed pleidlais 0 ddiolchgarwcb am y papyrau gwerthfawr. Y tro Hesa; ceir dadl ar Pa uil bwysicaf i gymdeithas y gweithwyr ynte yr amaethwyr. Mr. E. Griffitbs, Ffyhonbadarn, 0 ochr y gweithwyr, a Mr. D. Jones (ieu.), Llwydiarth, o ochr yr amaethwyr.
MAitcKNAnoEDr ANIFEILIAID.
MAitcKNAnoEDr ANIFEILIAID. Llundain, Rhagfyr 4ydd.~Yr oedd cyllenwad da o wartheg yn y farclmad, a galw gweddol am danynt yn ol prisiau sefydlog. Nifer eymedioi o dderaid; ond galw araf oedd am fyllt amamogau; Leicester, Ionawr 6ed.—Y eyflenw;;d o ystcc yn fychan a'r fasnach yn sefydlog. Buchod lluetli yn gwerthu 0 16p. i 22p. y pen; a helxrod, o 12p. i 16f. Bustych o 9p. i 12p. y pen.
Advertising
r lJ J. L •' faaaygon, :j;:AWYI", a F""epyiiwyf. pra \v Meddygin^a LNI cl e-; i'r :ri::iaeth Lwyddianus, Me.l l ,¡, « v 115'11 r umhrie- 11, v .« £ iii brof- i X 1. » t vr, Fteryllwyr, ■ i 1 i inoecid law _r o j-leitlon •Mae'^n-Fedd- < aniraeicdig.' P'ani "joj" r mwyach oddiwrthydolRiian P*-Il Y Tl-te iaieddyg- iniaeth naturiol, syml ac efieitldol i'w • ^cliael. Y MAS YH fcHODDI NERI ij i iVAN, Tl"i-!YD T".P, CLAF, MW YN H AbrBY"\Y YDU|BAWB BITTERS' GWILYM '"eyans; ITTEH8 GWIL-Y.M ■■EVAN'S. Tystiolaeih BwysigX•. 1;j8tlOú(u{h Bùuysùg. Pyle, A wet 17, 1895. Aiiwyl Syr,— Pan ddychwelais adref ychydig ddyddiau yn ol, ar ol llafurio yn galed am rai wythi:os;.iu, teirnlvni yn lluddedig iawn ac wedi .'Iwyr duillygio, ac mewn augen am ,d{)J<iQd, i)n hadgfyfha'u; Asogwyd fi i roddi .pEaVtar .eijchtf Quinine Bitters 'enwog. Gwnaethum hyuy, ar y. cliefaig ef yn hynod eSeithioL Mae yn rhoddi viii. newydd ynof, ac yn bywiocau yr ysbryd gair. teimlaf ei fod yn gwneyd dyn newydd ohondfl. J (Parch) Gun. us JoNFs. BITTELiS _X:t" "6liill!(- gg- RHYBUDD •• '• Gochelwch DwyUwyr. Edrychwch fod, enw Gwilym Evans at- bob Label, Stamp'å'PhQtt. I Gwerthir-hwyat mewn poteli 2s. (jq. a. 4s. 6c. yr un Blychau yn cynwys tair.potisf 4s. 6c..am 12s. 6c. I'w cael. ytr.hob man,, neu danfoiiir' hwy yn rhad afci' y prisiau uchod' yn ddiogei y y post oddiwrth y ri JliiSIIHE BITTERS MAKUfACTUBiNfl Cflfeii¥ • LIMITED, LLANELLY, SOUTH WALES.. ■, Goruthwyliwl' yn 'Ametica i Mr. R. D. WILLIAMS, Plymouth, Penn ..C'RSH PDWDiW <: 1. '.— 17. } v\ Sil VAED. -,f ¿, YS1'lF'YI£lÖ: of. Davies's Horse Powder. v iBp.ddi<)n;. uiogelaf at gadw Ceffylau mewn cyflwr :da, llC at godi- CefTylau fyddo wedi eu- yn ormodoi, a thnvy hyny werli myned i edrychyn salw eu gwedd. oJ Argymhellir ef yn neillduol at wella y blewyn, at y-dwfr, ystwyfho y cytiialaui yn ogystal a chodi ysbryd yr anifail, Nid oes dim Antimbliy. -ynddo, nac unrhyw gjityr peryglus arall, ac y mae yn ddioget i anifail ymlrob cyflwr. .t Tirs, is. yr-in; (Telir cludiad i unrhyw gyfeiriad [; dderbyniad .Postal Order am 10s). HUGH V E s, èhemjst,Ma'ChYlneth. preTBnted by tke timely u- s ,J ..y ri'EKRY. LP, 0 itA JsPECTAQLES & EVE-GtASSES V; wilier L .have proved benelicial to tlibusands, Hundreds of Testimoiiiajs. i Have been received from Medical Greiitlomefi,- ■" the Clergy, &c., whose eight :lias • beerf beuerited by their use when all others lLad; failed. A lengthened list gratis 04.. application, to lH. A OllEMlST & fc5T„OOdiKIS^. )Jl .u,,TL' JJ -.J.I L (iHKAI' rlilNTIMi AT NEGESYDD" OIFFIeE.f. li. S-0 Os bydd arnoch eisiau Watdh. Aur jaeU": Arian, Chains, Brooches, Bangles,• &c., y- lie goreu yw ]Œa$naph.ly Dolgellau. TalEi i f'rigolicn Corris,t Aberllefenni, /yn, &c.1, dalu ymweiiad. a'r lie ei- drostynt eu hunain. t I, AT T2, OEfcEEg, ■- x)ru.-p-*rt, TJ. '■<■> -i'ivr *1- iCc -i -j '.tI"e4aS. JLVJ VV ■' V "v I v, LI-.