Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
§emion$\,n>en.
§emion$\,n>en. BOB AMSER AR OL. GAN ME. D. IF OH JONES. Corria. Adwaeiioch chwi John Sy'n byw yu y Fron? Mae'u cwyno bob mllser A'i ben dan y don B'le bynag yr a Gefil- gaual a ha', Bob amser ar 61 Ydyw achos ei bla. I'r ysgol,—ar 61, Gyda'i wersi,-ar 61, At ginio a swper Bob amser ar 61; I'r chwarel pan ddaw Ar deg, ac ar wlaw, Ar 61 yno hefyd Gwyr pawb yn mlaen Haw. I'r capel bid siwr, Ar 61 bydd y gwr, Cilwena'r holl dyrfa Pan glywant ei 'stwr; Pe rlio'id iddo*r nel Am fad yn ei Ie Ar ddechreu cyfarfod Ar 61 byddai e\
ADltAN Y ME 11C H ED.
ADltAN Y ME 11C H ED. BESS A BUUDUG. Ymddengys fod rhai pobl yn ystyried eu bod yn talua cymediw nid bychan i'r Frenhines Victoria wrth ei chymharu i'r Wyryf Brenhines Elizabeth ond nid yw yn gwbl ddilys fod hyn yn ganmoliaeth mor drwyadl ag y bwiiedir iddi fod. Mae yn wir y medrai yr hen ferch nodedig hono siarad Lladin ond cyfaddefir maiLladin rydlyd iawn ydoedd. Yr oedd ei chwaeth mor isel mewn rliai pethau, fel na fedrai ddeall pa beth oedd diben cysgod mewn darluniau. Rhaid mai rhyw branciau digrif oedd ei dawns. Yr oedd yn berores, sef yn gyfryw ag a allai offeryn cerdd ei gwneuthur. Yr oedd arni hiraeth am wr, ond nid oedd ganddi ddigon o wroldeb i briodi. Bu farw yn nghanol siomiant ac adgno meddwl; a phan y trengodd nid oedd ganddi na mab na merch i'w holynu ar yr orsedd. Am y Victoria, y mae hi yn gelf- adures gampus, yn gerddores ,addyslwycli, yn wraig tinweddol, ac yn fam ddedwydd. Os oedd llywyddion ac awduron amser Elizabeth yn fwy, y mae gwlad Victoria ganwaith yn fwy, ac y mae ganddi dan ei theyrnwialen wledydd lletach nag unrhyw a freuddwydiodd Elizabeth erioed yn eu cylch. Addurnodd Shacsper oes Elizabeth, ond y mae oes Victoria yn deilyng- ach o Sliacsper.- Canon D. silvan Evans.
ACHOS Y RHYFEL.
ACHOS Y RHYFEL. Mewn llythyr, dywed Mr. Ben Lloyd, glowr yn Johannesburg, ond gynt o Gwm Rhondda, fel y canlyn Yr wyf yn ysgrifenu y llythyr hwn i chwi gartref, ac o bosibl dyma y diweddaf, canys dichon y byddaf wedi fy saethu fel miloedd eraill, ar fyr o dro. Gwn eich bod yn gweled yr hanesion am yr annealldwii-ietli rhwng y Llywodraeth Brydeinig a'r Transvaal. Y gwir am dani, dyma y fradwriaeth benaf a gariwyd allarf erioed. Cymer yr awdurdodau Prydeinig yr esgusawd fod yr Outlanders yn gofyn am yr etholfraint. Nid ydynt yn gofyn dim o'r fath beth. Yr oeddym yn hollol foddlawn fel yr oeddym. Pan ddywedaf hyny, golygaf y dosbarth gweithiol—nid y cyfaIwyr-y giwaid hono sydd wedi achosi yr lioll drafferth a'r alanas hon. Ac yn bresenol, mae y cowardiaid dichellgar wedi gadael y wlad ar ol tynn ac achosi y gwarth oesol hwn ar Brydain. Wedi i'r ysglyfaeth ddyfod i feddiant y Prydeinwyr, sef cael Gweriniaeth y Transvaal i'w crafangau, fel y maent wedi cynllunio, er yr adeg y cafwyd ailan fod y fath gyfoeth yma, yna, gwna y cyfalwyr fel y mynont a ni wed'yn, yr un fath ag y gwnant a chaethion gwynion Prydain heddyw. Cydnabyddir gan bawb gweithwyr sydd wedi profi y wlad, mai llywod- raeth y Transvaal ydyw yr oreu yn y byd i weithiwr, a dyna lawer o'r rheswm fod gan y cyfalwyr y fath deimladau drwg tuag ati. Y mae eisiau arnynt gael eu ffordd i wneyd a phawb yma fel y mynont, yr un fath ag y gwnant a'n cyd-weithwyr gartref yn Lloegr. Dylai pob gweithiwr godi ei law yn erbyn y gwarthrudd ofnadwy hwn o eiddo Lloegr. Ond dyna, beth dal siarad, mae y dosbarth gweithiol, fel mae gwaethaf y nfodd, hyd eto, heb agor eu lIygaid-maent yn ddeiliion. Ydwyf. gyda'r dymuniadau goreu am flwyddyn newydd dda i bawb o honoch.
ABERHOSAN.
ABERHOSAN. HELA LLWYNOG.—Dydd LIun, cyfarfyddodd cwn hela Plas Machynlleth yn Cefngwyddgrug, ac aethant i fyny i Graig Esgairfochnant, ymha le y cawsant y trwydd, ac fe'i rhedasant i Graig Cwmrerfyd, ac oddiyno yn ol i Graig Esgairfochnant, ac i lawr tiwy'r Murse Lwyd ag i Nant-y-fydfa a Dyffryn Braich Jthel, ag i fyny trwy Aberhosan ag i Penyglog, ag oddiyno i Bryndan, ac aeth i mewn i'r bendy, ac fe ddringodd i'r daflod, ymha le y canfyddodd Mr. R. Breeze, Cefngwyddgrug, ef, ac fe'i tafiodd i lawr i'r Being, ymha le yr oedd ei gyfeiilion, y cwn, yn ei dderbyn. Ni welwyd erioed y fath dyrfa o bobl, ag a welwyd yma heddyw ar ol y cwn ac yn eu mysg yr oedd y Teilwriaid,' pa rai oedd wedi gadael eu nodwyddau a'i gwniaduriau yn llonydd, a'r I Seiri,' a'r 'Sierfeiiii,' a'r Coesau Prenau,' a'r Siopwyr.' Ni wehvyd erioed well pac o gwn yr oeddynt yn gweithio yn ganmoladwy dros ben.—UN Oppp yj* yjr. Hunt,
AMRYYYION.
AMRYYYION. Cyferfydd y Senedd am y tymor dyfodol, dydd Mawrth, y 30ain cyfisol. Ebe hen air Ilaf hyd Galan Ionawr; Gauaf hyd Fai.' Treuliodd Mrs. Gladstone ei plienblwydd yn dawel yn Mhenarlag. Mwynha iechyd rhagorol, or ei bod yn 88 mlwydd oed. Gellid meddwl na wnai ambell lenor Cymreig ddinx byth heb iddo gael ei seboni beuuydd gan ei gyfeillion. Mae ambell bohl, wrth chwilio am le i drugarhau, yn edrych ymhell iawn, a thros ben y trueni sydd yn eu hymyl. Dywedir fod Osman Digna yn ymguddio mown eoedwig ger Tokar, a'i fod yn go- beithio y gall ddianc i Arabia. Cyrhaedd- odd y tren cyntaf Khartoum dydd Mercher. Mae ysgoloriaeth o lOp. y flwyddyn wedi ei sef ydiu yn Ngholeg M. C. Trefecca, er cof am y diweddar Mr. Thomas Gee, i'w galw yn Ysgoloriaeth. Goffa Thomas Gee.' Dywed rhai pobl fod newyddiaduron drwy en hysgrifau yn magu perchyll' i'r Botiaid. Tipin o'u Ri bedd ydyw hyny mae'n debyg, canys nid Boar-baedd a feddylir wrth yr Is-Ellmyniaid, ond Boer-yn eu iaith hwy- fiermwr. Un o'r pethau a ddangosir yn Paris ynglyn ag adran addysg Cymru fydd y beithynen a gyflwynodd Iolo Morganwg i Goleg lesu, Rhydychain, gydag eglurhad arni gan Dr. John Rhys. Yn y dyddiaduron am y flwyddyn hon rhoddir rhif yr Annibynwyr Gymreig sy'n cymuno yw 143,423; Bedyddwyr 109,319; Methodistiaid Calfinaidd, 153,712; a'r Wes- leyaidd 20,627. Nid yw'r achosion Seisnig yn y diweddaf. Rheswm rhai dros beidio cyfranu i weddwon ac amddifaid ein milwyr yn y rhyfel yw am fod hyny yn gymorth i'r rhyfel barhau, yr hwn y teimlant na ddylasai fod o gwbl. Eraill a hona mai y Llywodraeth ei hun ddylai ddarpar ur eu cyfer fel am y milwyr a gyflogant. Nid cybyddion yw'r oil a ddywed hyn. Mewn ymddiddan gafodd y Frenbines gyda Mr. C. Greene, y diweddar lys-genhad- ydd yn Pretoria, ymholai yn neillduol am Mrs. Ktuger. Parha i deimlo yn ddwya oherwydd y trychinebau a ddigwyddodd i'r milwyr Prydeinig. Yr oedd wedi pender- j fynu i ddiwedd ei theyrnasiad fod yn un heddychol, ond perswadiwyd hi gan ei Gwemidogion i gytuno i ryfel a'r Transvaal, am y sicrhaent mai rhyfel bychan fyddai. Hysbysir am farwolaeth y Parch. T. Lloyd Phillips, mab y diweddar Barch. Dr. Thomas Phillips, Henffordd (Phillips y Beiblau fel ei gelwid), yr hwn a in farw yr wythnos o'r blaen yn Bickenham. Dechreu- odd ei yrfa fel argiaphydd gyda Mr. Gee, Dinbych. Yna aeth yn glerigwr, ond ni chafodd fywoliaeth. Yr oedd yn byw gyda'i chwaer, bu hithau farw ddeudydd yn fiaen- orol, a chladdwyd hwy yr un-dydd, ac yn yr un bedd. Yr oedd yn lienor Cymraeg da. Y mae'r wasg Doriaidd, megis y Morning Post, y Standard, a'r Daily Mail, yn dechreu taranu yn enbyd yn erbyn y Llywodraeth, ac yn condemnio araeth Mr. Balfour yn Manchestei yn ddiarbed. Geilw y Morning Post ar y Weinyddiaeth i ymddiswyddo os nad oes ganddi rhyw reswm cryfach dros ei bwriaaau yn ydyfodol na'i bwnglerwaith yn yr amser a aeth heibio. Oynghora ffurfio Llywodraeth gyfunol o'r ddwy blaid bolitic- aidd, gan na ellid dibynu dim ar bwyll na medr yr awdurdod fel y mae. Mae gan y genedl Wyddelig yn yr Unol Dalaethau eu cymdeithasau eu hunain, y rhai sydd yn lluosog, ac wedi dyfod yn allu pwysig yn y wlad—yn neillduol ar adegau o etholiad. Dydd Mawrth diweddaf, cyfar- fyddodd dros 500 o gynrychiolwyr y cym- deithasau hyn o wahanol ranau o'r wlad yn Philadelphia, i'r diben^o gael ymgom ar y rhyfel rhwng Prydain a'r Transvaal. Pen- derfynwyd casglu y swm o 1,000,000 o ddoleri i'r diben o gael y cyfan sydd angen- rheidiol i fyddin o wirfoddolwyi Gwyddelig o'r Talaethau i gvnorthwyo y Boriaid. Bydd Johu Bullyn sicr o wneyd llygad cam ai beth felly. Y mao yn arnlwg y gellid rhoi pob cydymdeimlad a gaiff y Sais gan y Gwyddel, mewn lie go fygban, <
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. CYMDEITHAS LENYDDOL Y GliAIG. -Nos Iau, Ionawr 11, darllenwyd pnpyr ar 'Aelwyd gysurus' gan Mrs. Pierce Ellis, ac adolygwyd gan Mrs. D. Edward Davies; a chafwyd papyrau rhagorol, yn llawn gwersi ac addysgiadau a chyfarwyddyd i wneyd yr aelwyd yn gysurus. Cadeirivryd gan y Parch. Josiah Jones, a chafwyd gair gan U, i-s. Lloyd, ac amryw o'r yrodyr. Hefyd, ddarllenodd Mrs. Ellis chwe' phenill o waith y diweddar Mr. J. B. Davies ar 'Gartref Gysurus.' Wedi hyny, pasi w yd yn unfrydol ein bod fel cymdeithas yn datgan ein cydymdeimlad a'u galar a theulu y di- weddar Mr. Davies, yr hwn oedd yn aelod ffyddlawn a defnyddiol o'r gymdeithas.— W. J. WILLIAMS, YSG.
!.CORRIS.
CORRIS. Trwy yr wythnos ddiweddaf, cynhaliwyd y cyfarfodydd gweddi arferol ar ddechreu y flwyddyn yn y gwalianol gapelau, ac yr oedd arogl esmwyth ar y gwasanaethau. DIRWESTOL.-Cyiiiielir y cyfarfod cystad- leuol perthyuol i Gymdeithas Corris, nos Lun nesaf, a disgwylir y ceir cyfarfod hwyliog. Safodd nifer dda o'r plant YII yr. arholiad dydd Sadwrn di weddaf.-Cyfarfod aiferol y Merched i'w gynal nos Wener nesaf, yn Bethel. DAMWAIN. Boreu dydd Llun, tra yr oedd Mr. David Owen, Ffactri, Corris, yn dilyn ei orchwyl yn chwarel Braichgoch. llithrodd yr ysgol ar ba un y safai, a syrthiodd yntau gryn bellder. Derbyniodd gryn niweidiau i'w ben; ond da genym ddeall nad yw y niweidiau mor drymion ag yr ofnid ar y cyntaf, a'i fod yn gwella yn dda dan ofal Dr. Jones. IECHYDOL.—Ami yw y dioddefwyr dan wahanol anhwylderau yn yr ardaloedd hyn, a llawer o honynt yn gorwedd dan afiechyd trwm a pheryglus. Hyd yn hyn o dru- garedd arbedwyd ni rhag ymweliad angau, gydag eithriad o un neu ddau. Dydd Iau, hebryngwyd rlian farwol Mr. John Lewis (Penstaer gynt), Corris Uchaf, i'w hir gartref, yn mynwent Rehoboth. Bu yn wael am tua dwy flynedd. Gadawodd bump o blant i alaru ar ei ol. Y RHYFEL-Dyma brif destyn siarad y gymydogaeth, a dilynir y digwyddiadau o ddydd i ddydd yn bur fanwl. Mae mwy o amrywiaeth opiniynau am y rhyfel ar ol iddo dori allan na chynt. Mae rhai yn benboeth o'i blaid, ac fel yn ei gymeryd yn fater personol iddynt eu hunain. Eraill nad ydynt yn cymeradwyo y drafodaeth a ar- weiniodd:iddo,oiad ajddymunant yn awr weled llwyddiant ar arfau Prydain gyda rhyfel byr. Mae yma eraill a gydymdeimlant a'r Boriaid, gan gondemnio rhaib Prydain, a honant nad yw yn haeddu enill y dydd am fod ei hachos yn anghyfiawn, ac y dylai y Bor gael llonyddwch bellach oddiar law Lloegr. Cydsyniant yn gyffredin na bu Lloegr yn y fath drybini er cyn cof, a bod y rhyfel yn agoriad llygaid i wledydd Ewrob ar ein gallu milwrol.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. GALWAD. Deallwn fod Mr. D. M. Rowlands, North Parade, wedi derbyn yr alwad a gafodd o eglwys yM.C., Amwythig. DADGYSYLLTIAD.—Yn nghyfarfod Cym- deithas Lenyddol y Tabernacl, nos Fercher, cafwyd dadl ar 'Pet un a'i Dadgysylltiad ynte Llywodraeth Leol ddylai Cymru gael yn gyntaf?' Wedi dadleu brwd, pasiwyd mai Dadgysylltiad ddylid gael gyntaf. Cadeiriwyd gan Mr. E. Evans, eyfreithiwr. Agorwyd o blaid Dadgysylltiad gan Mr. V. Edwards, eyfreithiwr; ac o blaid Llywodr- aeth Leol, gan Mr. D. C. Roberts, U.H.
DINAS MAWDDWY.
DINAS MAWDDWY. Cofir yr amgylchiadau gofidus ynglyn a marwolaeth adfydus Mr. Charles Ashton, Dinas Mawddwy. Ymddengys iddo adael yn ei ewyllys gyfran helaeth i ferch ieuanc o ysgolfeistres, a swm gryn lawer llai i'w wraig ei hun. Dywedir y bydd yn Mrawdlys nesaf sir Feirionydd ymgais ar ran y wraig i 'dori yr ewyllys,' ar yr honiad nad oedd y trancedig yn ei bwyll pan yn trefnu yr eiddo. Bydd yr achos yn un dyddorol sut bynag y try. Y cyfreithwyr ydynt Mr. Hughes, Aberystwyth, ar ran y wraig; a Mr. William George, ar ran yr ysgolfeistres.
RHYFEL Y TRANSVAAL CAPE COLONY.
RHYFEL Y TRANSVAAL CAPE COLONY. ARGLWYDD ROBERTS AC ARGLWYDD KITCHENER. Nos Fercher, cyhoeddodd y Swyddfa Ryfel y genadwri a ganlyn:- Derbyniwyd gwefr-hysbysiad yn adrodd fod y Pen Cadlywydd Arglwydd Roberts ac Arglwydd Kitchener a swyddogion wedi cyraedd Cape Town Wedi cyraedd bydd raid cael cynllun newydd o'r rhyfelgyrch, a dull newydd o'i gario allan. Er hyny hyd nes y cyrhaedda ychwaneg o ad- gyfnerthion, nis gellir disgwyl cynydd mawr. Y mae ein cadfridogon yn aros yn llonydd yn y lie cyntaf, oherwydd eu methiant; ac yn yr ail le, oherwydd nad oes ganddynt ddigon o filwyr. Nis geiiir meddyginiaethu y naill na'r Hall o'r dilfygion hyn ar unwaith.
ADGYFNERT HION.
ADGYFNERT HION. Dydd Sadwrn, ymadawodd yr adran gyntaf o'r London Imperial Volunteers am Ddeheudir Affrica. Yr oedd yr edrychwyr mor luosog fel mai gydag anhawsder dirfawr y llwyddasant i gyraecid yr orsaf. Yn mhellach ymlaen ar y diwrnod, hwyliasant o Southampton. Hefyd, hwyliodd oddeutu 2,500 o'r milwyr rheoiaidd, yn cynwys yr adran gyntaf o'r East Lancashire Regiment. Cyrhaeddodd dwy gludlong Cape Town ddydd Sul, ja disgwylir y bydd i 7,000 ya ychwaneg gyraedd yn ystod yr wythnos bre- senol. Bydd gyda hwynt 18 o ynau, a bydd ychwanegiad i gymeryd lie yn fuan. Aiae dau gwrnni 0 fagnelw) l v, '1 derbyn gorchymyu i fyned i Ddeheudii »')■
ABERDYFI.
ABERDYFI. Y LLYI-BGELL. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y sefydliad dydd Gwener, Mr. J. Edwards yn y gadttir.-Hysbysodd y trysor- ydd (Mr. W. J. Hughes), y derbyniwyd 75p. ac y gwariwyd 83p. Ohwanegwyd 156 o lyfrau at y llyfrgell yn ystod y flwyddyn. Diolchwyd i'r swyddogion, &c. Ail-ddewis- wyd Mr. J. Corbett yn llywydd, a dewiswyd 12 o is-iywyddion. Penderfynwyd ceisio gan bwyilgor y trethi ryddhau'r adeilad riiag tretliiad. e
EGWYDD0RI0N.
EGWYDD0RI0N. Y mae egwyddor jrn gorwedd yn ddvvfn ac i fesur yn anweledig, ond i lygad wedi ei I ddieg-yblu yn dda yn y cyfeiriad hwnw. Y mae cymdeithas yn sylfaenedig ar nifer o egwyddorion— dyma yr edafedd euraidd sydd yn rhedeg trwy gymdeithas, ac yn gwneyd un o'r amryw a'r lluosog—ie, yn cymwys gydgysylltu pob rhan. Nid oes un adran o'r byd yn eithriad yn hyn o beth. I edrychwn ar dde neu asvry. Oymerer or I engraifft y byd gwleidyddol dyma fyd I ,yct egwyddorion, Gellir ei alw gyda phriodoldeb yn gyfandir egwyddorion. Os syllwii yn fanwl arno gwelwn egwyddorion gwahanoi a gwrthgyferbyniol a'u gilydd, fel rhyddid a chaethiwed, unbenaeth a gwerin-Iywodr- raeth, &c. Yn y rhyfel presenol yn Neheu- dir Affrig, caiff y byd gyfieusdra i farnu egwyddorion y ddwy wlad sydd yn rhyfela ac yn ol ein barn ni y mae yr egwyddorion sydd yn cynal ac yn llywodraethu Prydain Fawr yn y rhyfel hon yn xliai pwdr, a llefaru yn gymedrol am danynt. Yr ydym yn apelio at ein darllenwyr i fwrw 'ymaith eu rhagfarnau, gan edrych ffeithiau yn eu gwyneb, a chofio fod llygad y byd arnom, ac y bydd i'r hanesydd groniclo i'r oesau a ddel y cam a'r cymwys yn niwedd y bedwar- edd ganrif ar bymtheg. Tua thair neu bedair blynedd yn ol, clywodd Ewrob a'r byd o ran hyny, waedd o'r dwyrain—gwaedd miloedd ar filoedd o drueiniaid yn marw ac ar; ddarfod am danynt. Y chwalwr wedi dyfod i fydy I yn mherson y Sultan, ac yn lladd ac yn anrheithio fiordd y cerddai ei wyr llaw- ruddiog. Yr oedd yr adyn hwn yn feddw gan waed dynol. Dywedais fod Ewrob a'r byd wedi "clywed 'y waedd adfydus o'r dwyrain am gymorth, ac amddiffyniad. Gyda chywilydd wyneb yr wyf yn gorfod cydnabod y gwir, a galw fy ngeiriau yn ol. Ni chlybuwyd y. waedd yn Ewrob a'r byd, anfonwyd ychydig arian i'r truemiaid oedd yn digwydd bod yn fyw, I ae areithiodd rhai yn erbyn y dyn clai,' dyna'r oil a wnaed. Onid .oedd gan Brydain ddigon o allu i'w hamddiffyn ? Na, buasai wrth hyny yn tori Cytundeb Rhyng-Gened- laethol a'r Galluoedd Mawrion. Dyna yn fyr y prif leswm roddid dros beidio; ond yr oedd rheswm cryfach na'r llall, ond fod yn gyfleus i'w gadw yn ddistaw yr adeg hono, sef fod canoedd o filoedd o arian Prydain yn fuddsoddedig yn nheyrnas y Twrc; felly, pan ddymchwelid y deyrnas hono, collid pob gobaith am ad-daliad i logellau cyfoethogion y wlad hon oddiwrth y Turkish Bonds. Er's pedair blynedd, y mae pethau wedi bod yn bur anfoddhaol yn y Transvaal. Dywedid fod camwri yno, ond nid oes fawr o sail i hyny. Y camwri mwyaf yn ddiau oedd rhuttr-ymgyrch Jameson a'i wyr glew (yn yr ystyr ddigywilydd i'r gair), a wnaed ar y Weriniaeth. Ond yn ystod y blynydd- oedd diweddaf, mae yr un gwyr ag oedd yn atal dial cam y diniwed yn Armenia wedi gwneyd pob ystryw all dynion wneyd i arwain y wlad hon i ryfel a'r Transvaal. Y mae y gwyn wedi ei daeru yn ddu i wneyd rhyfel yn beth posibl yn awr yno. Y mae y Transvaal yn wlad yr aur a golwg lwyddianus iddi, ac nis gall y Sais oddef y syniad i wlad gyfoethog fod yn nwylaw neb ond ef ei hun. Y mae ei wane am olud yn ei yru oddicartref, a'i nwyd am awdurdod yn ei yru i drachwantu a blysio eiddo pobl eraill, ac ar flaen y bidog a min y cledd y mae yn rhyfela heddyw am yr hyn ni pherthyn iddo yn Affrig. Cyngrair Rhyng-Genedlaethol a'r Galluoedd Mawr yn ei rwystro i geryddu y Sultan am gig- yddio dynoliaeth, a gadael i bobl farw ar fynyddoedd oerion Armenia. Ond a'i nid Cyngrair a Galluoedd Mawr Mamon sydd yn achosi l'hyfel ofnadwy 1899-1900 ? Pa le y mae y Cyngrair ddylai fod rhwng Prydain a'r egwyddor o gyfiawnder a gon- estrwydd, heb son am gariad. Y mae yn syn genym weled dynion o weithwyr yn pleidio egwyddorion a gweith- rediadau sydd yn ysu y dosbarth gweithiol ac yn eu cadw i lawr ar hyd yr oesoedd. 'Llwydd i Brydain yn Affrig,' meddai miloedd o weithwyr y wlad hon. Beth yw hyn o'i ddehongli ? Gweithwyr Prydain yn ymuno am unwaith a'r cyfalwyr—eu gormeswyr i ddamsang dynion o weithwyr fel hwythau eu hunain yn Affrig. Gweithwyr Prydain yn ymuno a miliwnwyr y byd i orfodi tyddynwyr y Transvaal i roddi i fyny eufhawl i'w gwlad. Nid gwladgarwch i gyd, nac yn agos, sydd yn gyfrifol am fod cwmniau cryf fel y London & North Western, a phersonau unigol yn baiod i adael i'w gweithwyr adael eu gwaith ac ymfyddino i ryfel. Y mae gan y cwmniau hyn egwyddorion dwfn a dirgel i'w hamddiffyn, ac o dan y gochl o wladgarwch difiuant y maent yn gollwng eu gweithwyr i drin y gwn a'r cledd. Dibris g&nddynt waed eu gweithwyr i amddiiVyn eu lmdd personol. Petli rhyfedd fod Prydain, yr hon fu morhwyrdrwm i glywed gwaedd Armenia, mor effro i glywed gwaedd anturiaethwyr yn y Transvaal. Cai y oythraul o ran Lloegr, deyrnasu yn C cystenyn, cyhyd ag y telid llogau y lohds, ond ni chaiff cyfiawnder deyrnasu yn Pre- toria, cyhyd ag y bydd y SicEon allan o awdurdod yno ac o dan dreth i bobl eraill. Un o'r golygfeydd mwyaf. ardderchog fuasai gweled Uongau rhyfel Prydain Fawr yii gwneyd Caercystenyn yn garneddau, cdierwydd creulondeb y Twrc, ac i amddiffyn. y gwan. Un o'r golygfeydd mwyaf pruddaidd yw gweled ein liongau ardderchog heddyw wedi cludo yn agos i 150,000 o filwyr i Affrig i ysbeilio gweithwyr o'u gwlad, gan eu lladd wrth y miloedd wrth. wneyd hyny. Nid yw yn syn genym fod perchenogion pyllau glo a chwareli, a'u stiwardiaid yn Frythoniaid i'r earn. Y mae y bobi hyn yn gywir i'r egwydddorion dyfnaf a feddant ac anwylaf ganddynt.—GWLADWB.
NERTH Y PRYDEINIAID.
NERTH Y PRYDEINIAID. Y peth cyntaf a wiaa y Prif Gadlywydd fydd cael allan nerth y fyddin sydd ganddo ar ei law. Mor bell ag y gellir dean, anfonwyd o Loegr er dechreu y rhyfel, ac sydd yn awr yn Neheudir Affrica, bedwar ugain mil o filwyr rheoiaidd, yn cynwys y rhai gyrhaeddodd yno ddiweddaf. Yti vcliwai-egol at hyn, yr oedd pymtheng mil o fdwyr rheoiaidd yn Neheudir Affrica pan dorodd y rhyfel allan. Y mae yno hefyd ddeng mil o filwyr trefedigaethol a milwyr afreolaidd eraill. i i ni t1)IU saith mil drwy golledion o'r rhif; ac nis gellir cyfrif byddiu y Cadfridog White, gan ei bod hi ar yr 'fvii ochr amddiffynol. Felly gellir dweyd fod gan Arglwydd Roberts rhwng 90,000 a 100,000 o filwyr. Nis gellir dweyd i sicrwydd pa fodd y rhenir y nifer yma ond cymerer y ffigyrau a ganlyn fel rhyw gyfrif brysiog Y mae gan Arglwydd Methuen, ar yr Orange River, unfil ar bymtheg o Ülwyr. YnCape Colony, o dan Cadfridogion Gatacre a French, y mae pymtheng iril a chan y Cadfridog Buller rhwng Estcourt a Colenso, y mae deugain mil. Am y gweddiil o ugain neu ddeng- mil ar hugain 0 wyr, y maent hwy yn dal llinellau o gymundeb, neu ar eu ffordd i'r ffrynt, neu yn disgwyi am orchymynion yn Cape Town.
COLOFN METHUEN.
COLOFN METHUEN. Gohebydd arbenig o Modder River, ddydd Llun, a ddywed :—Ddoe, bu y gynau-llyngesol yn tanbelenu safle y B6riaid. Cyrhaeddodd adroddiadau i'r gwersyll yma ddarfod i ni beri colledion dirfawr i'r gelyn, ac fod Jacobsdaal yn cynwys nifer mawr o'r Boriaid a glwyfwyd yn ystod y tanbeleniad diweddaf. Dywedir fod y gelyn yn brysur yn gosod i fyny fagnel fawr. Y mae effeithiau rhuthrgyrch y Miiwriad Pilcher i Sunnyside yn dra amlwg. Y mae y gwrthryfelwyr yn teimlo yn hynod o anesmwyth oherwydd yr annheyrngarwch. Newyddion diweddarach a'n hysbysant nad yw y Edriaid wedi myned i Douglas er pan adawyd y lie gan y Milwriad Pilcher.
ARSYLLU*SAFLE STORMBERG.
ARSYLLU*SAFLE STORMBERG. Gwefr-hysbysiad Reuter o Molteno, Ionawr 8fed, a ddywed i adran gref, yn gynar boreu y diwrnod hwnw, adael Sterkstroom, ar neges ddeublyg Un neges oedd meddianu y biawd a'r grawn o felinau Molteno, a chael ailan safle y Bdriaid yn Stormberg. Llwyddwyd i gael yr holl ymborth o'r melinau, a dinystriwya y peirianau. Yna aeth y 7gain Cyfiegrfa, o dan Iywyddiaeth yr Uwch-gadben Armitage, a'r gwyr meirch, i ^-feiriad Stormberg. Derbyniwyd adroouiadau fod y BOriaid wedi gadael Stormberg, ond canfyddwyd hwy mewn nerth yn y pellder o ddwy filidir.