Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
23 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
MINAFUN. CORRIS. All WL IIT I] EIDDO RHYDD-DDALIADOL. TRI THY A WAREHOUSE yn y He mwyaf manteisiol Yrnofyuer á H. S. ROBERTS, Ys-o! y BAr id, Corris. n- TALYLLY SCHOOL BOARD. WANTED, Tenders for erecting a Cloak- room, a Porch, Privies, etc., at Tyny- berth Board School Plans and Specifications may be seen at the Post Office, Corris. The Board do not bind themselves to accept the lowest or any tender. The tenders to be in my hands, sealed and endorsed, on or before February 12, 1900. D. IFOR JONES, Cleik.
AT EIN GOHEB WY R.
AT EIN GOHEB WY R. AELOD—Yr enw priodol heb ei dderbyn.
[No title]
MAE llawer yu gyffredin yn hanes y Boriaid a' 1 Cy ni i y. Heblaw bod y YBoriaid ddwy genedl yn Brotestaniaid a'r Saeson. diledryw, mae gauddynt eu iiiaitl, arferiou a thraddod- iadau gwahanol i bob cenedl arall. Caraut ryddid ac annibyniaeth, ac y uiaent wedi ymladd yn ddewr drostyut yn erbyu yr un gelyn eyffi-edinol. Mae'r ddwy yn genedl- oedd gweiuiaid, yu fiitiio a gallu anrhaethol gvyfacli, yr hwn na ddaugosodd o'i fodd nemawr gyfiawndar na thrugaredd iddynt erioed. Nid am fod gan y Saeson well egwyddorion yr estynant eu teyrnwialeu. Pan ddarostyngwyd y Cymry yr oeddynt fel cenedl yu fwy goleuedig a gwareiddiol na'u gorclifygwyr. Yn adeg Llewelyn ap Gruffydd, y Cymry oedd yr unig genedl gynaliai lamp gwybodaeth a gwareiddiad yn ngwydd y byd, yr unig genedl a ardd- elwai ryddid y bobl, ac a roddai obaith i genedloedd Ewrob i weled toriad gwawr noa gaddugol y Oanoloesoedd a dirymiad ar awdurdod y Pab. Ysgrifenai Owen Glyndwr o Bennal at Frenin Ffrainc i ofyn iddo am gymorth i roddi y barbariaid' i lawr. Ac yr oedd llawer 0 wir yn y darnodiad yna o gyflwr y Saeson y pryd hyny. Y Boriaid fel y Cymry sydd genedl o grefyddolder dwfn. Nid crefydd ofergoelus y Pabyddiou ydyw, oud tardda o ffynhonell bfcraf y Diwygiad Protestanaidd. Yn yr ysttYr yrna mae ganddynt lawer i'w ddysgu i'r milwyr Prydeinig. Aiff y Boriaid 0 ganu Salmau i gyfarfod a'u gwrthwynebwyr, ac yn y teimlad mai amddiffyn eu haelwydydd a'u hannibyniaeth y gelwir hwynt allan, tra y gwaedda y:Prydeiniaid Dial Majuba' a bloeddio I Rule Britannia' ar eu hymdaith i'r gad, ac nis gwyddant am ba beth y maent yn ymladd am dano. Y dydd o'r blaen adroddid fod y Boriaid yn cynal gwasanaeth crefyddol ar y Sabbath ar ben un o'r bryniau, pryd y disgynodd llosg-belen oddiwrth y Prydeiniaid i'w plitli. Er holl gynydd gwybodaeth a diwylliant parha yr un duedd barbaraidd yn y Hew Prydeinig. Beth ond farbareidd-dra yw bygwth a mynu penderfynu cwerylon drwy y cledd ? Cynygiodd yr Arlywydd Kruger yr etholfraint a ofynai Llywodraeth Lloegr, a gadael i'r cwestiynau perthynol iddi a phob cwestiwn arall gael ei derfynu drwy gyflafareddiad, ond gwrthododd y Llywod- raeth y cynygiad, gan ddweyd nad oedd wiw eu hystyried am fod ganddynt gynygion eraill i'w gosod gerbron, y rhai na wnaed byth yn hysbys. Nid oedd teimlad na dynol- iaeth ynddynt i ystyried erchyllderau rhyfel. Diystyr ganddynt wylofain a thrueni'r milwyr anffodus o bob tu ar faes y gwaed, a'r anrhaith a ddug i'w teuluoedd. Mae ym- herodraeth Prydain wedi ei hadeiladu a gwaed, a thrwy dywallt gwaed y cynhelir hi i fyny. Tro y Transvaal ydyw hi yn awr; yno y tywelltir gwaed gwirion i ddim ond boddio chwant addolwyr Mammon am dir- iogaeth eang, nad oes ganddynt, ar dir moesol na chyfreithiol, gysgod o hawl ynddo. Mae y rhan gymer Prydain yn y rhyfel yn wrtkwyneb i ysbryd gwleidyddol yr oes. Ei nodwedd amlycaf yw dyhead am lywodr- aethiad caitrefol. Dyna beth a gais Cymru, Ysgotland, yr Iwerddon, a phob gwlad oleu- edig. Beth bynag fydd y telerau a gynygia Lloegr ar derfyn y rhyfel, a chaniatau y buddugoliaetha, dylai'r Weriniaeth gael aros, neu bydd y diwedd yn wacth na'r declireuad. Mae rhai yn ddigon ehud i feddwl pan gyrhae da'r milwyr Prydeinig i Pretoria, y bydd pobpeth droeodd, ac y tawelir yr Is-Ellmyniaid. Oud dyna'r adeg y dechreua y gwir anhawsderan. Ar ol saitli can' mlynedd o Lywodraeth Seisnig, mae'I Iwerddon heb ei darostwng eto. Ac oni roddir i'r Boriaid eu hawliau cyfiawn, bydd holl Ddeheudir Affrica yn fangre blinfyd a gwae.;
MARWOLAETH.
MARWOLAETH. Ionawr 18.—Mr. Evan Evans, saer maen, Greenfield Terrace, Corris, ar ol hirgystudd, yn 68 mlwydd oed. Brodor ydoedd 0 Dinas Mawddwy. Gadawodd briod a plilant mewn galar ar ei hoi. Claddwyd ef dydd Sadwrn, yn mynwent Eglwys Corris,
RHYFEL Y TRANSVAAL.
RHYFEL Y TRANSVAAL. MAES Y RHYFEL.
EGLUHHAD AR Y MAP UCHOD.
EGLUHHAD AR Y MAP UCHOD. Islaw mae enwau'r gwledydd y cerir y Rhyfel ymlaen, gyda'r rliif iiodau ar y Map gyferbyn a hwy: 1 Natal (Prydeinig); 2 Basuto Land (Prydeinig); 3 Orange Free State (Gweriniaeth Boraidd) De- heuol; 4 Eto, eto, Gorllewin; 5 Y Transvaal Orllewinol; 6 Y Transvaal Ogleddol; 7 Y Trans- vaal Ddwyreiniol. Ar ol i'r Cadfridog Buller barotoi a phetruso llawer, mae yr awr yn cario allan y cynllun o ymosodiad cyffredinol ar safleoedd y B6riaid yn Ladysmith, ac yn ol ei eiriau ef nid oes troi yn ol i fod. Mae'r ymosodiad ar y tu gorllewinol ac yn ymestyn o'r afon Tugela dros ddeng milldir Llywyddir adranau y fyddin gan y Cadfridogion Warren, Lyttleton, Clery, a Dundonald. Darfu iddynt groesi'r Tugela er's wythnos, ac yn ol llawer o'r newyddiaduion dylasai Ladysmith fod wedi ei gwaredu er's dyddiau. Dydd Sadwrn, y dech- reuvvyd gweithredu o ddifrif ar linellau y B6riaid, yr holl gadfridogion yn cydweithvedu. Buwyd yn brwydro am dair awr ar ddeg, a Uwyddwyd i enill gwahanol safleoedd oddiar y B6riaid Adnewyddwyd yr ymosodiad dydd Sul. Yr oedd tanio yn ddidor drwy y dydd. Ni chyrhaeddodd hysbysrwydd am ddydd Llun. Yr oedd y colledion Prydeinig dydd Sadwrn, yn rhifo 279.
YR YMGYRCH TUA LADYSMITH.
YR YMGYRCH TUA LADYSMITH. BRWYDR DYDD SUL. Dyma y desgrifiad a ddyry gohebydd arbenig o Wersyll Spearman, am yr ymosodiad dydd SuI :-Ail ddechreuodd Syr C. Warren ar ei ymosodiad ar sefyllfa y BAriaid boteu heddyw, a chariwyd yr ymgyrch ymlaen drwy y dydd. Yr oedd ei symudiad yn cael ei gyfeirio yn erbyn y truman uchel a serth yr oedd ei gorph- luoedd wedi sefyll o'i flaen nos Sadwrn. Darfu i'r B6riaid, y rhai oedd ar y truman, i'r gogledd orllewin o'u prif sefyllfa, atal ein symudiad ymlaen am rai oriau. Am ddeg yn y boreu, modd bynag, darfu i Fusiliers Dublin wneyd ymosudiad a'r bidog, a chymeryd meddiant o tfos-gloddiau y B6riaid. Gan faint eu llawenydd, torasant mewn cymer- adwyaeth galonog, ac yr oedd eu gwaeddiadau i'w clywed dros yr oil 0 faes y frwydr Yna collwyd golwg ar frigad y Cadfridog Hart, y rhai a aethant dros ran arall o'r truman, a chymerodd tanio mwsgedau maith le rhyng- ddynt hwy a'r B6riaid. Tra yr oedd yr ymgyrch hon yn cael ei chario ymlaen, cyrhaeddodd y newydd fod catrodau y B6riaid yn gwneyd ymdrech i'n gorasgellu ar yr aswy. Cymerodd dwy fag- nelfa o faes fagnelwyr safle ar unwaith yn y gwastadedd gyferbyn A chadwen o fryniau, a thaniasant shrapnel ar y B6riaid a geid yn symud, ac ataliwyd hwy yn yr amcan.
COLLEDION Y BORIAID.
COLLEDION Y BORIAID. Gohebydd arbenig o Rensburg, a esyd holl golledion y Boriaid er dechreu y rhyfel, mewn lladd, clwyfo, a chymeryd yn garcharorion, yn '425' CYMRY YN MYDD1N Y BORIAID.
CYMRY YN MYDD1N Y BORIAID.
Fel y canlyn yr ysgrifenodd un o filwyr y Gordon Highlanders adref at ei chwaer, ar ol brwydr anffodus Magersfontein :— Mae'n debyg genyf eich bod erbyn hyn wedi clywed am frwydr Magersfontein. Nid anghofiaf byth mo'ni—saethu dynion i lawr fel cwn cynddeiriog ar bob ochr. Credaf fod y diawl yn y dynion. Yr oil oedd ganddynt eisiau oedd bywydau'r B6riaid. Yr oeddynt yn crochlefain am waed y B6riaid wrth ruthro, ac yn gwaeddi 'Majuba! Majuba!' Ac fe gawsom Majuba o ddifrif. Yr oedd yn dda genym encilio fel cwn a'u cynffonau yn eu gafl. Diolch i Dduw na chefais mo fy nharo. Anaf- wyd fy nghoesau gan wifrau barfog. Fy anwyl chwaer, 'rwyf yn cofio eich geiriau, ac maent fyth yn swnio yn fy nghlustiau, Peidiwch myn'd yn llofrudd.' Ni fyddaf yn anghofio tanio i'r awyr. Ni fyddaf yn bawen i unrhyw genedl. Pe lladdwn ddyn yn Lloegr, fe'm crogid o'r herwydd ac os arch y Llywodraeth i mi ladd, pobpeth yn iawn. Dygodd ein gwylwyr bedwar carcharor i fewn-Gwyddel, dau Gymro, a German. Darfu i'r Corporal yn fwriadol a b6n ei wn dori braich un o'r Cymry am ei fod yn ymladd yn erbyn Lloegr. Mwnwr yw ef, a dywedodd mai telerau Arglwydd Penrhyn barodd iddo adael ei wlad, ac ym- gartrefu yn y Transvaal. Sut bynag, yr oedd yno amryw a ddywedant y talent i'r Corporal. Wel, maehiarbengydafo'nawr. Ymddengys ei fod wedi myn'd i'r tu ol, ac ni ddaeth oddi- yno'n fyw Holltwyd ei benglog, a chaed ef yno'n farw. Os cleddir fi yma, na ofidiwch. Fy mai i ydoedd, canys nid oedd genyf unrhyw fusnes i werthu fy hun fel llotrudd cyflogedig.'
LLANBRYNMAIR.
LLANBRYNMAIR. EGLWYS YR HEN GAPEL.— Dydd Sabbath diweddaf, pasiodd yr eglwys yn unfrydol a chalonog i roddi galwad i'r Parch. R. 0. Hughes, Plas Marl, Abertawe i ddyfod yn weinidog iddi. Disgwylir y bydd ei atebiad yn gadarnhaol.
DWYN TRAUL Y RHYFEL.
DWYN TRAUL Y RHYFEL. Dywed gohebydd arbenig y Manchester Guardian, 0 Lundain dydd Lluu diweddaf, fod y tebygolrwydd cryfaf y codir treth yr incwm 0 8 geiniog i swllt y bunt, ac y uhwanegir y tollau ar dybaco, gwirodydd, te, a choffi, er mwyn dwyn traul y rhyfel. Amcenir felly roddi'r baich i orphwys ar holl ddosbarthiadau cymdeithas. Cyfrifir y cyst y rhyfel X00 miliwu Q bu,nau,
,....,..=;I(......,.""-..;JIO'--"'''''''''-------''-¡;''''...IIP)--<:i,.-t:.:.…
,=;I(.JIO'¡;IIP)--<:i,t: A-JE TH. DAI?LITu. Xoa Ltu, vu n^hapei y "Wes- leyaid, traddo i-vyd d.-nlith ar Y Ddynes Kewydd,' i gymu: liuosog ac astud. Mrs. Uoyd, Bank, a iy MAXC^OLAETH. — Boron dydd Lhin, yn Switzerland (lie yr oedd wedi myned er ceisio adferiad i'w hiecliyd), bu farw Miss Beresford, merch j diweddar Farnwr Beres- ford, a chwaer y barnwr presenol o'r un enw. Yn ystod y ddwy ilyuedd ddiweddaf, bu yn ti-igiunu gyda'i chwaer, Mrs. Kenyon, yn Dovey Yiew, Glandyfi. Ymddengys iddi gael yr anvvydwst, yr hyn a ddadblygodd yn pneumonia. Deibynivvyd y newydd am ei marwolaetli gyda galar yn Machynlleth, gan ei bod yn adnabyddus iawn yn y lle.
ABERDYFI.
ABERDYFI. Deallwn nad ydyw y Parch. J. D. Jones, M.G., yn dda o ran ei ieehyd ar hyn 0 bryd Hyderwn fod iddo adferiad buan. CYMDEITIIASAU LLENYDDOL, Yll Nghym- deithas y Tabernacl, M.O., nos Lun, dat- llenwyd papyr ar Boneddigoiddrwydd,' gan Miss M. Jones, Minafou a chaed papyr gall Mr. J. Jones, Cop])erhill Street, ar 'Crydlullcloh,' Dilynwyd gan amryw ar yr un pwiie.Yi-i Ngliynideitlias yr Annibyn- wyr, cafwyd dad I ar Pa un sydd yn meddu mwyaf o ddyianwad, llyfrau ynte cyfeiilion?' 0 blaid llyfrau, siaradwyd gan Mr. Phillip Evans, a Cadben Walters ac o blaid cyf- eiilion gan Miss Owen, Pier House, a Miss Yaughan a'r ochr ddiweddaf gafodd fwyafrif yn y pleidleisiad.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. Y CYNGOR THEFOJU.—Dydd Mawrth, Mr. C. M. Williams yn y gadair.—Gyda golwg ar osod gynau ychwanegoi ar dir y casteil, yr oedd yr Is-gadben Stephens, R.A., wedi anfon i ofyn a oedd y Oyngor yn parhau yn ei benderfyniad i sofyll yn erbyn y Jtrefniant bwriadedig. Nid oedd ganddynt le arall ddigon priodol i roddi y gynau diweddaraf, ac os byddai iddynt gael en lluddiais i add- ysgu y milwyr i ddefnyddio yr arfau hyny, byddai yn sicr o fod yn niweidiol i Gatrawd Magnelwyr Aberteifi.—Dyvvedodd yr Hen- adur Doughton nad oedd y gyfraith yn caniatau i ynau gael eu tanio dros y brif- ffordd.—-Penderlynwyd i'r clerc roddi'r mater ar ragleu y cyfarfod nesaf.—Darllen- wyd llythyr oddiwrth gofrestrydd y coleg yn gofyn i'r Oyngor benodi pwyligor i gyfarfod a phwyllgor y coleg i drefnu ynghylch y rhodfa newydd yn ffrynt y coleg. Cyd- syniwyd.—Darfu i'r Oyngor fabwysiadu anogaeth y pwyllgor i helaethu y brif garthffos i waelod yr harbwr gyda phibelli heiyrn gwerth 2.900p.—Cafwyd dadl ar y cynygiad a roddodd Mr. H, J. Jones i godi tal o ddwy i dair ceiniog y dunell yn ych- wanegoi ar y metel cvnygiedig. Dywedwyd wrtho ef y byddai 6,000 o dunelli i eu banfon bob blwyddyu o'r porthladd, a byddai byey yn 50p. ycliwanegol at y cyllid, bob blwyddyn. Yr oedd pris y metel wedi codi o 4p. i op.) ac nid oeddynt hwy am godi ond yr un faint a phan werthid y motel am 2p. 10s.—Pasiwyd y penderfyniad.
PYSCODFEYDD DYFI, filAWDDACH,…
PYSCODFEYDD DYFI, filAWDDACH, A CLASLYN. Oynhalivvyd cyfarfod chwarterol y Bwrdd uchod, ddydd Ian, yn Abermaw, dan lyw- yddiaeth Mr. II, Bonsall. Adroddodd gwyliwr afon Dyfi fod yr afon yn cael ei llygru gan yr ysbwriel sydd yn disgyn o weithydd plwm Dylife, ac awdurdodwyd y clerc i ysgrifenu at y goruchwyliwr yn galw sylw at y peth.—Rhoddodd Mr. W. R. M. Wynne rybudd y byddai iddo yn y cyfarfod nesaf gynyg rlieol newydd yn estyn tymor i bysgota a gwialen hyd ddiwedd Tachwedd. Penderfynwyd (1), Fod y bwrdd yn rhoddi trvvyddedau i bysgota brithyll o'r dydd cyntaf o Fai nesaf; (2), Mai Is. fyddai pris y cyfryw drwydded am y tymor nou ran 0 hono. Hefyd fod trwydded gyffredinol yn cael ei chaniatau i Gymdeithas Enweiriol Ffestiniog ar daliad y swm 0 10s.-Dei-byn- iwyd llythyr oddiwrth Fwrdcl Masnach yn dweyd eu bod ar ol ystyried adroddiad prif arolygydd y pysgodfevdd ar ol ymchwiliad Machynlleth, yn rhoi allan dystysgrif cadarn- had man-ddeddfau bwrdd pysgota dosbarth Dyfi :—1, Fod y maint lleiaf i rwydi at ddal eogiaid a ellir yn gyfreithlawn eu defnyddio ar y rhan hwnw o'r Dyfi i fod yn 2! modfedd o gwlwm i gwlwm, neu 10 modfedd o amgylch, wedi ei mesur pan yn wlyb. 2, Fod yr amser cau wythnosol at rwydi eogiaid yn dechreu 6 o'r gloch boreu Sadwrn, ac yn gorphen 6 o'r gloch boreu Llun. 3, Fod pris y drwydded am dymor yn lp.; am fis, 10s.; vythnos, 5s.; diwrnod, Is.
ABERGYNOL WYN.
ABERGYNOL WYN. Nos Fawrth, yn nghapel yr Annibynwyr, dan lywyddiaeth Mr. J. Evans, Gwastadfryn, ac arweinyddiaeth Erfyl, Pennal, cynhaliwyd cyf- arfod cystadleuol, pa un a drodd allan yn llwyddiant mawr ymhob ystyr. Yr oedd y rhaglen fel y canlyn :—Anerchiad gan y Llywydd, gwobrwywyd Miss Sarah A. Smith am ddadganu unawd, 'Gweddi Mam.' Am adrodd Ben yn y ffos,' goreu Teddy Pughe, Lewis Pughe a Maggie Jones yn gyfartal ail, a gwobrwywyd yr oil o'r plant. Gwobrwywyd y plant canlynol yn y safonau Saton I, goreu David O. Williams, ail John C Griffiths; If Safon, Robert Griffiths, ail W R. Williams, 3ydd Mary A. Ellis, 4ydd Robert Hughes, Cornelius Williams a Teddy Williams yn gydradd III Safon, yn oreu, Maggie Jones, ail Sarah M. Edwards, 3ydd Edward Hughes, Maggie Evans, Anne J. Jones yn gydradd V Safon, Jennie Davies, ail Catherine J. Roberts. Am ddadganu unawd, Dim ond cludydd arfaa,' goreu Richard E. Pughe, ail Tommy Pughe Am gyfansoddi engiyn Y Bryn,' goreu 'Jr. Owen 0. Ellis, Abergynul- wyn. Dad ganu deuawd, 'Dyma Feibl anwyJ lesu,' goreu Richard E. Pugh ac Edward Pugh. Goreu am ateb cwestiynau mewn ys- j _'ln-ü;Vw: grifen ar Y Tabernacl a'i wasanaeth/ Owen J. Davies, Tommy Roberts ac Edward P. Roberts yn gyfartal ail, Catherine Griffiths a Thomas 0. Jones yn gyfartal 3ydd. Goreu am adrodd le 'rwyt ti myn'd,' Richard E. Pughe. F 1 wis, Machynlleth, yn oreu :im ddadganu unawd Soprano, '0 pa'm na bae Llewelyn Cystadleuaeth unrhyw ddeuawc i unrhyw leisiau, goreu John E. Roberts ac Isaac Jones, Abergynolwyn. Miss M. Roberts, Abergynolwyn, yn oreu ar y traethawd 'Y llances ynlnhy Naaman.' Ymson-gan, Pwy yw y Bardd,' goreu Mr. E. E. Roberts. Mri. G. Griffiths a W. Edwards yn gyfartal oreu am ateb gofyniadau ar Epistol Cyntaf Pedr. Am y traethawd i rai dan 21 oed, goreu Mr. O. R. Owens, Water St. Cystadleuaeth unawd Tenor, goreu Mr. J. E. Roberts. Am ateb cwestiynau ar Hanes Iesu Grist o'r gysegr wyl hyd y Pasg,' goreu Owen R. Owens, ail William J. Evans, Pandy Square. Dyfarnodd y beirniaid Mr. A. Jones yn oreu ar y prif draethawd, 'Oliver Cromwell, ei hanes, a'i wersi i ni.' Mr. J. Edwards yn oreu am ddad- ganu unawd, Y penill a ganai fy nhad.' Mr. J. Owen, Bryncrug, yn oreu am adrodd 'Y boreu olaf.' Mr I Jones, Abergynolwyn, yn oreu am ddadganu unawd Baritone, Brad Dynrafon.' Gwasanaethwyd fel beirniaid gan y boneddigion canlynol: cerddoriaeth, Mr. D. Lloyd Evans, Machynlleth barddoniaeth, y Parch. R H. Watkins (M.C ), Bryncrug; traethodau, Parchn. Z. Mather, Abermaw, W. Davies, a Mr. E. Ellis, Abergynolwyn ad- roddiadau, Mri J. R. Thomas, Ysgol y Bwrdd, a Ellis, Tanybryn Wedi y diolchiadau arferol, terfynwyd cyfarfod rhagorol. Yn ystod y cyfarfod, cyfiwynodd Mr. W. Jones, ar ran yr ardal, godaid o aur i'r Parch. W. Davies, ar ei ymadawiad o'n plith, fel arwydd o barch a gwerthfawrogiad o'i lafur. Oherwydd prinder amser, gwnaed y cyflwyuiad yn syml a di-gwmpas.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. YSGOL DR. WILLIAMS.—Cofir fod mwyaf- rif Llywodraethwyr Ysgol y Merched, Dol- gellau, wedi apelio at Fwrdd Addysg y Sir am gynorthwy o dreth y sir at gynal eu hysgol. Gvvithodwyd eu hapel. Yn ddi- lynol, apeliwyd gan gefnogwyr y cais at y Dirprwywyr Eiusenol, ac y mae y rhai hyny o'r diwedd wedi penderfynu y mater drwy sicrhau nad yw Ysgol Dr. Williams yn Nolgellau dan Ddeddf yr Ysgolion Canol- raddol, ac am hyny nad yw i gael help o gronfa addysg y sir. o
ABERMAW.
ABERMAW. Y PORTHLADD. Cynhaliwyd cyfarfod Ymddiriedolwyr y Porthladd, dydd Llun, o dan lywyddiaeth Mi. Lewis Lewis.—Hysbys- wyd fod yr adgyweiriadau i'r morfur yn Ynysybrawd wedi eu gorphen, ac fod y swm o 103p. wedi eu gwario yno.—Hysbyswyd eto fod Mr. D. Davies, Beach-road, yn parhau i roi ysbwriel, cerig, &c., ar ddarn o dir 0 flaen Balmoral House, lie y mae yn a gored i gael ei olchi i ffwrdd gan y mor, a'i gario i'r harbwr. Penderfynwyd anfon llythyr ato.—Derbyniwyd llythyr oddiwrth y Oyngor Dinesig yn gofyn caniatad i symud wal gyferbyn a Quay Cottage, yn Church- street, er eu galluogi i ledu yr heol, ac hefyd i gael tir agored yn ffrynt y mynediad i'r harbwr. Caniatawyd y cais.
---o fit bi at au.
o fit bi at au. BWRDD PYSGOTA DYFI, MAWDDACH, A GLASLYN. Syr,—Goddefwch i mi air ar y Bwrdd uchod. Penodir nifer, os nad y rhan fwyaf, o aelodau y Bwrdd uchod gan y Cyngor Sir ond rhyfedd mor anghyson eu presenoldeb yn nghyfarfodydd y Bwrdd. Y mae yr holl waith wedi syrthio bron i ddwylaw y riparian owners a pher- sonau cytfelyb ac amlwg mewn rhai pender- fyniadau a bye-laws a basiwyd ganddynt yn ddiweddar, y duedd i fyned a'r hen wlad yn ei hoi. Addefwn nad yw trwydded o is. y tymor yn dreth drom ar ddyn er pysgota am frithyll a gwialen ond y mae wrth wraidd y cyfryw ddeddf egwyddor o'r fath fwyaf gormesol a'r tcbyg yw y cynygir eto ei chodi cyn hir, fel y gwnaed eisoes mewn manau eraill i swm mwy. Pan yn penodi cynrychiolwyr ar y Bwrdd hwn y waith nesaf, hyderwn y gofala Cyngor Sirol Meirion benodi dynion a ddilynant ei gyfar- fodydd, ac y cydymdeimlant a diwygiadau Rhyddfrydig.—GWEITHIWR.
GLASBWLL.
GLASBWLL. Syr,—Clywais fod y Methodistiaid yn bwriadu sefydlu achos yn y dyffryn uchod a hyny ar gais rhai o deuluoedd y dyffryn, y rhai a ddygwyd i fyny gyda'r Methodistiaid, ag sydd hefyd yn hiraethu am eu gweinidogaeth. Oni fydd codi achos newydd yn y dyffryn hwn, lie y mae dau gapej, un gan yr Annibynwyr a'r llall gan y Wesleyaid, yn ymddangos yn gosod allan yn ormodol ysbryd enwadol ? Nid yw y bobiogaeth ond teneu ar y goreu. Felly, yn ddiau, yr edrychir ar hyn heb ys- tyried cais teuluoedd y dyffryn, a phe heb hyny ni fyddai yn gosod allan gymaint 0 ysbryd enwadol ag a ddangosai gan yr Annibynwyr yn Eglwysfach, y rhai sydd yn trefnu i godi capel newydd mewn lie y mae dau gapel ac Eglwys y Plwyf,-un gan y Wesleyaid ac un gan y Methodistiaid, ac nid yw y boblogaeth yn ormod i lenwi y lleoedd hyn. Bydd capel newydd yno yn gofgolofn o enwadaeth. CYMYDOG.
Y MARCHNADOEDD.
Y MARCHNADOEDD. MARCHNAD YD LEltPWL, IONAwR 23. Yr oedd perchenogion yn dal y Ie. can'pwys chwaneg am wenith heddyw na dydd Gwener, am yr hwn yr oedd galw cymedrol; gwenith Califforn- aidd, o 6s. 3c. i 6s. 31, y can'pwys' Blawd gwenith, ceirch, a blawd ceirch yn eefydlog eu prbiau, ond yn dawel.
MAKCHKADOBDD ANIFEILIAID.
MAKCHKADOBDD ANIFEILIAID. Llundain, Ionawr 22. Gwartheg. Cyflenwad gweddol, ond eto araf oedd y fasnach, a'r prisiau 2c. yr wyth pwys rhatach. Gwartheg Ysgotaidd goreu, 4s. 8c. yr wyth pwys. Defaid.-Yeyflenwad ) ii ilai, a'r Downs a'r haner-brid yn brinion ond yr oedd mathau eraill briddd yn is. Leicester, Ionawr 20.—Y cyflenwad o stoc yn gyrao.drol, ond ar y cvfan, masnacli dawel a wnaed. Cyrliaeddai buchod a hefErod cyfloion o 18p i 22p y pen bnchod a heffrod swynog, o 9p. i 13p. 10s,; bustych dwyflwydd a haner, 0 13p. i 15p. lOs,
Advertising
n.pl!<.t.< > -C'- )'1' (t- 1;J ,(.,¡" MA ;'v i:i Jri'JO: "'<II!:oI!If'4' Pryddest i'r diweddar Mr. Robert Tones, Ty'nybraich. a Thiws Arian. Engiyn, i'r un. Gwubr 10s. 6c. (Rhoddedig gan ei ddosbarch). Y cyfansod(Jiadau i law y beirniad, Mr. R. Davies fTafologJ, The Elms, Worthen, Salop, erbyn Mawrth í, 1900. YR ANWYDWST (INFLUENZA) ac ANHWYLDERAU Y GW ANWYN PA FODD I'W GWRTHSEFYLL ? Mae yr afiechyd peryglus hwn—yr An- wydwst-yn ffynu eto yn ein gwlad, ac yn difrodi ac anrheithio mewn gwahanol gyrau o'r deyrnas. Mae y tywydd llaith ac afiach a gawsom yn ddiweddar, ar ol hat maith a sych, wedi hau hadau afiechyd yn nghyfansoddiad miloedd, ac eisoes mae canoedd yn dioddef dan arteithiau poenus o'r INFLUENZA, BRONCHITIS, ac anhwylderau craill. Cytuna nieddygon goreu Lloegr a Ffrainc, mai QUININE yw yr unig feddyginiaeth Ddiogel a Sicr, a'i fod hefyd yn gyffyr ataliol ac elfeithiol. Cafwyd profion eglur hefyd mai y dull goreu i weinyddu Quinine yw y ffurf o BITTERS GWILYM EVANS. Yr hwn yw y nreddyglyn mwyaf effeitliiol a llwyddianus i wrthsefyll yr Anwydwst. Tystiolaeth Bwysig. 18, Prescott Street, West Gorton, Manchester, Rhagfyr 7fed, 1894. Anwyl Syr,-Tua pythefnos yn ol, gorfodwyd fi i adael fy ngwaith gan waeledd. Ar ddechreu fy afiechyd teimlwn ryw oerfel a chryndod yn myned trosof, a phoenau yn ymsaethu drwy fy mhen. Dywedodd y meddyg mai Influenza oedd, a bu'm yn cymeryd meddyginiaeth ganddo am wythnos, ond nid oedd yn gwneyd un lies i mi. Yna cym- erwyd gwraig y ty lie yr wyf yn lletya yn glaf gan yr un afiechyd, ac anogodd ei gwr ni i roddi prawf ar botelaid 0 Quinine Bitters Gwilym Evans. Rhoddodd y ddogn gyntaf esmwythad i ni, ac yn, awr ar ol cymeryd un botelaid 2s. 9c. 0 hc^ wyf wedi cwbl wella, ac ail ymaflyd yn fy ac nid oes genyf -an amheuaeth pe buaswn i 1 cymeryd y Bitters ar ddechreu fy afiechyd, na fuaswn wedi gorfod colli un diwrnod o'm r t Dymunaf ddiolch i cTiwi am ddwyn y fath fc i J iniaeth wertlifawr i eylw v cyhoedd, ei b canoedd ¡ o rai sydd yir dioddef; cymeradw e. i bawb o'm cyfeilli.m, ac ni aliaf' byth I gorniod arno, g:ru i* :,no.l wedi ei a:ael yn v/erth ei bwysau mewn aur i mi, Yr eiddooh, JAMES SAGAR. UEYIHJDD Gochelwch Dwyllwyr. Edrycliwch fod enw Gwilym Evans ar bob Label, Stamp a Photel. Gwerthir hwynt mewn poteli 2s. 9c. a 4s. 6c. yr un; Blychau yn cynwys tair potel 4s. 6c. am 12s. 6c. I'w cael ymhob man, neu danfonir hwy yn rhad am y prisiau uchod yn ddiogel drwy y post oddiwrth y perchenogion,- QUININE BITTERS MANUFACTURING COMPANY LIMITED, LLANELLY, SOUTH WALES. Goruchwyliwr yn America— Mr. R. D. WILLIAMS, Plymouth, Penn. ■CYFARFOD LLENYDDOL ABERANGELL, Nos Fercher, Cliwef. 28, 1900. < TEST YNA U A G OREL) Til B YD. 1 Dadganu y don Wesley,' Emyn 905 (525), 1-5 (Llyfr Emynau M.C.), i bedwar. Gwobr 8s. 2 Leuawd Tenor a Bass, Mae'r lan gerllaw' (T. Williams J. Gwobr 4s. 3 Unrhyw unawd. Gwobr 4s. 4 Unawd Soprano, Llytliyr fy mam' (W. Evans). Gwobr 2s. 6c. 5 Unawd Tenor, Teyrn y Coed I (H. Davies). Gwobr 2s. 6c. 6 Unawd Baritone, Rhyddid Cymru' (E. S. Hughes). Gwobr 2s. 6c. 7 Englyn Y I)deugyieh I Gwobr Is. 8 Ugain o BeuilIion Coffadwriaethol am y di- weddar Mr. David Evans, blaenor, Aberangell. Gwobr 11. Y rhai buddu.,01 yn eiddo y pwyllgor. (Am ei hanes a'i nodweddion, ymofyner a Mr. Rd. Jones, Bookseller, Aberangell, R.S.O.) 9 Pencil Drawing o ftrynt capel M.C. Aberangell. Gwobr Is. 10 Rhestr Testynau at Gyfarfod Llenyddol dyf- odol. Gwobr Is. 11 Araeth, 5 munyd, Buddioldeb Cymdeithas Lenyddol.' Gwobr Is. Beirniaid: Rhif 1-6, Mr. T. C. Davies, Dinas Mawddwy; 7, 8, Mr. W. Roberts (Ap Meirig), Aberangell; 9 Mr. E. H. Davies 10 Parch. R W. Jones, Aberangell. Y cyfansoddiadau i fod yn llaw eu priodol feirniaid erbyn Cliwefror 21. Enwau yr ymgeibwy r ar yr areithio a'r canu i'r ysgrifenydd erbyn Cliwefror 26. Rhestr Testynau, &c., i'w chael am lc. gan H. HOWELLS, Ysg., Brongamlan, Abeiaegell. '1'f I T) y j V .L.k i.11 i Ai i\.cU iJD" OFFICE, OOEEIS, B.S.O, OOEEIS, U.S.O.