Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Derbyniasom lythyr oddivsrth Mr. William Evans, Birmingham, yn cydnabod gyda diojeh am y c.'redigrwydd gafodd, a'r pleidleisiatt roddwyd drosto a un ar bymtheg o'r rhan- barthau yn ystod ei ymgeisiaeth, a'i fod yn cilio er mwyn sicrhau unfrydedd y blaid Rydd- frydol yn y sir.
Advertising
APPRENTICE WANTED. Apply to J. E. Jones, Ironmonger, Aberdorey. AFAD WEDI CRWYDROi Tyuchaf, MallwydL Nodau Stwb neu garau tan y dde, Stwb oddiar y chwith a tliwll. I'w chael ond talu y costau. ^PAILORS WANTED. Only Practical & Steady men need apply. Also an Apprentice wanted for the Drapery. to J. RICHARDS Alitrket St., Aberystwyth. CYNGOR DINESIG MALLWYD. GWAHODDIR ceisiadau am wneyd a chasglu y Dreth. Enwau, ynyhyd a'r cyflog i'w hanfon tir neu cyn Medi 22ain, 1900, i JOHN ROWLANDS, Cyfreitkiwr, Machynlleth.
TELERAU AM -HYSBYSIADAU.I
TELERAU AM HYSBYSIADAU. Am hysbysitidau o Yn Eisiau," &c., yn eynwys 16 0 eiriau, un waith 6d., tair gwaith la.; 20 o eiriau, 9d., tair gwaith Is. 6d.; 30 o eiriau, lB., tair gwaith 2a.; 40 o eiriau, Is 6d, tair gwaith 3a.; SO o eiriau, 2a., tair gwaith 4s.
HELYNT MEIRION.
HELYNT MEIRION. 0 HOLL sivoodd Cymru, Meirionydd yw yr un a dyna fwyaf o sylw y dyddiau hyn, oherwydd y berw a'r dully gweithredagyda dewis yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn lie Mr. O. M. Edwards, A.S. Ni welwyd o'r blaen gynifer a haner dwsin yn un o'r siroedd yn cyniwair ac yn areithio o le i le, noson ar ol noson, fel y ceir yr wythnos hon, i ddatgan eu golygiadau a'n cymhwysderau o gyn- rychioli Meirion yn y Senedd. Achosir hyn gan y ffaith fod Meirion a'i chymeryd drwodd a thro y gamp uchaf i'w henill o un o'r synrychiolaetbau Cymreig ar gyfrif nerth threfn ei Rhyddfrydiaeth, a'r aelodau enwog a'i gwasanaetliodd. Symbylir yr ymgeiswyr hefyd gan y syniad nad yw y dyn iawn yn y golwg. Tuag at ffurfio barn Rr yr ymgeiswyr sydd ar y maes, rhaid yw clywed yr hyn sydd ganddynt i'w ddweyd, eanys wrth wrando tystiolaethau eraill, yn bersonol a thrwy y wasg, am danynt, maent oil yn annrhaethol well na'u gilydd. Tipyn 0 drwbl i lawer o'r etholwyr yw dilyn yr Ixall gyfarfodydd a gynlieliv, ond y mae iddynt eu gwerth yn auuibyuol ar yr amcan y cynhelir hwy. Ni ohafodd Meirion fiemawr o gyfarfodydd politicaidd er's blyn- yddau, ao mae perygl trwy ddiffyg cyfarfod- ydd i Ryddfrydiaeth golli tir yn y syniad cyhoeddus. Dywedir mai Toriaeth yw greddf gynhenid y meddwl, ac heb oleuni gwybodaeth a deffroad meddyliol y syrth i ufael y Geidwadaeth sydd yn bavhaus ym- drechu am yr oruckafiaetli. Gyda llanw y siarad piesenol a gwyntyllio pynciau y dydd gan amrywiol ddoniau, dylai yr etholwyr tod yn oleuedig iawn a Rhyddfrydiaeth ei ^Wlarnhau. Nid yw yr ymdrechfa yn Anluddiol i'r ymgeiswyr ychwaith. Bydd yn fwy o lea nag o niwed iddynt er colli y dydd. Bydd yn gymorth i'r oil ddyfod i adnabodeu hunain, yn eu nerth a'u gwendid. Deuant wyneb yn wyneba materion cy- hoeddus, anghenion yr oes, a'r feddyginiaeth ar eu cyfer. Yn yr helynt bydd yr uehel- gais, sydd yn ddigon cyfreithlawn ac na chwynir am dano, yn cael ei ddiwallu i raddau mawr, ac ad-daliad nid bychan yw y oyhoeddusrwydd a roddir i'w henwau ar hyd a lied Cymru. Er nas gall ond un lwjddo i enill y gamp, bydd yr ymgeisiaeth, 0 raaeln debyg, yn ris iddynt i ddyrehafiad mewn gwahanol gyfeiriadau, ac feallai yn dibenu mewn cael eu hunain ryw ddydd yn Seneddwyr o fewn muriau St. Stephan. Bydd yr ymgeiswyr yn fuan yn ymneillduo, ac yna gorpkwysa'r cyfrifoldeb ar yr ethol- wyr i benderfynu ar eu dyn. Diau y bydd pwyso a mesur nid ychydig ar eu cymhwys- derau i'r anrhydedd, a gobeithiwn y dewisir yn y diwedd y dyn goreu. Cariwyd yr ymgyreh ymlaen hyd ynhyn mewn ysbryd vhagorol, ymddygodd yr ymgeiswyr yn barchus tuag at eu gilydd, ac ni welwyd llawer o'r ysbryd sectarol sydd yn fynych yn difwyno etholiadau yn Nghymru. Cadwodd y newyddiaduron ar y cyfan, ond nid yn hollol, ddiduedd gyda'r ymgeisiaeth. Yr ydym ninau wedi ymgadw lhag pleidio y naill ymgeisydd mwy na'r Hall, er nad ydym yn gwybod am un reol yn gwarafun i aewyddiadur a gyhoeddir yn y air i wneyd hyny, ao yr ydym yn bwriadu parhau felly hyd y diwedd.
.....■.1_/. CORRIS.
.1 CORRIS. Deallwn tod chwarel y Ratgoed wedi ei gwerthu i Gwmni Chwareli Maglona, acy bydd yno weithio yn fuan. CYNGERDD Y BAND.—Da genym fod rhagol- ygon hwn yn wiraddawol. Bydd cystadleuwyr am y Gwpan Arian, o Ffestiniog, Trawsfynydd, Aberystwyth, Machynlleth, ac amryw leoedd eraill. Nos Fawrth ness-i, fel y cofir y'i cyn- helir, yn yr Ysgoldy Cenedlaethol. DYRCHAFIAD.—Llawenydd genym ddeall fod Mr. H. de Burgh Edwards, Vicarage, Morris, wedi cael ei apwyntio yn Second i Lieutenant yn y Royal Welsh Fusiliers. Y mae hyd yn hyn wedi bod yn gwasanaethu fel swyddog gyda'r 4th Battalion Royal Welsh Fusiliers, y Carnarvon and peitbyuol i'r Met- •ea«tb Militia, yn Devonport*
LiUYFEL Y TRANSVAAL.
LiUYFEL Y TRANSVAAL. Y digwyddiad pwysicaf gymerodd le yr wythnos ddiweddafj oedd yniadawiad y cyu-! Arlywydd Kiiiger a'r Transvaal. Dydd lau, cyrhaeddodd of ac amryw o aelodau y Weriniaetli Maiques gyda threu arbenig. Dywedir- y bydd i Kruger forio i Ewrob yn mheu ychydig ddyddiau. Nid oedd Mr. Steyn gyda hwynt. Dyehwelodd Arglwydd Roberts i Pretoria, ond parha y gwahanol Gadfridogion i ymwthio i gyfeir- iad y gogledd, ac encilia byddin Dotha o'r naill saHe ar ol y Hall. Hysbysir fod corphlu Prydeinig yu nwyrain y Transvaal yn cael eu gwarchae er's pythefnos gan y Boriaid. Anfouir corph cryf 0 feirchfilwyr yno, i'w rhyddhau.
HELYNT CHINA.
HELYNT CHINA. Hysbysir fod Li Hung Chang wedi cyraodd Tientsin, ar ei ffordd i Pekin, gyda'r amcan o benderfynu ar delerau heddwell mewn ymgynghoriad a'r Tywysog Ching. Nid yw Rwsia wedi tynu yn ol el bwriad i syniud y milwyr o Pekin, a dis- gwylia yn ddyddiol wrth gydsyniad America i liyny.- Bu ysgarmes rhwng y milwyr Americanaidd a'r Germaniaid gyda'r Boxers ymlia un y trechwyd yr olaf.
DADGORPHORIAD Y SENEDD.
DADGORPHORIAD Y SENEDD. Cynhaliwyd cyfarfod o'r Cyfrin-gyngor dydd Llun, yn Balmoral, pryd yr arwyddodd y Frenhines broclamasiwn yn dadgorphori'r Seuedd bresenol ar y 25ain oyfisoli Bydd yr aelodau newyddion yu cyfarfod dydd lau, Tachwedd laf. Gellir enwebu yr ymgeis- wyr cyntaf y Sadwrn diweddaf o'r mis hwn, a'r polio cyntaf I-lydref laf. Par hyn i'r Etholiad Cyffiedinol gymeryd lie o fewn amser byr, a chredir yr etholir y Ty Cyff redin newydd erbyn Hydref 20fed.
(i (t b e b i Ret b it U.
(i (t b e b i Ret b it U. CYNRYCHIOLAETH MFIRION. Syr,-Addefir gan bawb fod yr holl rai sydd yn cael eu henwi fel ymgeiswyr am y gynrych- iolaeth uchod, ynjgyffredinol ddieithr i'r sir, gan hyny teg mi dybiaf ydyw i ni geisio goleuo ein gilydd, er cael allan y cynrychiolydd goreu a dyna yn unig amcan y llythyr hwn. Y boneddwr ag y cefais i gyfleusdra i'w adnabod oreu ydyw Howell J. Williams, L.C.C., Liundaiii-bon- eddwr ieuanc ag sydd yn hynod o gyfaddas i gynrychioli Meirion ac os na fydd y tro hwn yn ddewis-ddyn Etholaeth Meirion, bydd felly mewn ryw etholaeth arall yn y dyfodol agos. Mae Mr. Williams yn hanu o hen deulu Cymreig,—hen deulu ac mae iddo hanes yn ei sel grefyddol Ymneillduol. Ganwyd taid Mr. Williams, o du ei dad, yn y Dunant, Llan- ymawddwy ond wedi tyfu i fyny trefnodii amgylchiadau ei symudiad i ardal Cot-iis, yn yr hwn le yr ymbriododd. ac y d-tetli i sylw tei blaenor parchus gyda'r Methodistiaid yn y lie. Y mae coffawdwiiaeth parchus i William Richard, Tycapel (dyiia fel yr adnabyddid ef). Dywedir am dano mewn nodion coffadwriaethol ei fod yn wr 0 amgyffredion cryfion, ac 0 feddwl craffus a gwieiddiol; ac oherwydd ei fod 0 ddoniau helaethach na'r cyffredin, byddai yn fynych yn gwasanatthu mewn angladdau yn y cylch. Mab i'r William Richard hwn, ydyw Mr. R. Wiliams, Llundain, yr hwn sydd fel ei dad yn fiaenor parchus gyda'r un enwad yn Charing Cross, Llundain; a'r Mr. Richard Williams hwn, yw tad ein gwrthddrych. Hyn- yna am achau ein gwrthddrych; arweinir ni yn awr at ei gymwysderau i fod yn gynrychiolydd Seneddol. Y mae yn Gymro trwyadl, o ran iaith a theimlad; a'i aiddgarwch a'i sel Gymroaidd wedi ei osod yn y front yn Nghyngor.Sirol Llundain, fel un sydd yn cymeryd i fyny achos y gweithwyr ymhob modd. Nid oes neb ychwaith a wyr pa faint mae Mr. Williams wedi ac yn ei wneyd.ymhlith Cymry Llundain, er cynorthwyo yr ieuenctyd sydd yn ymfudo 0 Gymru yno, i gael eu hunain i gychwyn ar lwybr dyrchafiad, ac eiiill- safleoedd o nod mewn cymdeithas yn y Brifddinas; a gwna hyn oil o gariad at ei genedl. Mewn difrif, onid yw'r boneddwr yn deilwng o gael eangu ei gyfleusderau i wneyd daioni i'w genedl ? Ydyw yn ddios, a meiddiaf ddweyd, pe byddai i Meirion ei ddewis, na byddai raid iddi byth betruso tia byddai ganddi ynddo gynrychiolydd lawn mor ffyddlon ag a tu ganddi erioed. Nid wyf yn dweyd hyn heb gofio ifyddloadeb ein cynrychiolwyr blaenorol, a chyda phob dyledus barch 'rwy'n gwneyd y mynegiad. Digon yw dweyd fod Mr. Williams yn gwbl a hollol iach yn y ffydd ar brif bynciau Rhyddfrydig. Cymer ddyddordeb neillduol gyda'r pwnc dirwestol yn ei holl agweddau, nid yn unig mewn siarad a dadleu y pwnc, ond hefyd mewn byw yn ddiargyhoedd yr egwyddorion. Nid yw ychwaith, er byw yn Llundain, wedi gwyro gam oddiar ffyrdd crefyddol ei dadau canys ar ei ymweliadau blynyddol a Chymru, bydd bob amser yn mynychu ty addoliad, ac yn selog yn yr Ysgol Sabbothol. Y mae Mr. Williams hefyd yn foneddwr o foddion anni- bynol, ac yn barod i roddi ei hall amser a'i allu- oedd ar allor gwasanaeth ein gwlad yn y cyf- eiriad yn-ia.-M'YFYR ELEN.
Y MAROHNADOEDD.
Y MAROHNADOEDD. MARCHNAD YD LERPWL, MEDI i8fed. Gwenithyn sefydlog, yn ol prisiau diweddar, a galw cymedrol am dano gwenith Calitforn- iaidd, 0 6s. 5c. i 6s. sic. y can'pwys. Yr oedd galw gweddol am flawd, ac yr oedd 6ch. y sach yn uwch. Ceirch a blawd ceirch yn sef- ydlog. Indrawn Americanaidd cymysgedig newydd, 0 4s -4c. i 4s. 4fC.
Marchnadoedd Anifbiliaid.
Marchnadoedd Anifbiliaid. Llundair, Medi 17eg.—Gwartheg—Dangoswyd 1,770 o wartheg. Araf y gwercliai pob mathau, a'r prisiau 2c. yr wyth pwys yn is. —Defaid. Y cyflen- wad o ddefaid yn llawer mwy a chan fod y galw yu hynod o araf am fyllt a mamogau, yr oedd y blaenaf 4c., a'r diwedduf 0 6e. i 8c yr wyth pwys yn rhatach. Leicester, Medi 15fed.-Yr oedd y rasnach heb fod mor fywiog a'r wythnos flaenorol. Fodd bynag, dangoswyd nifer dda 0 wartheg ystor Cymreig a Gwyddelig, ac yr oeddynt mewu cyflwr campus. Yr oedd galw am y thai byrgorn goreu yu ol 14p, i ISp., tra j newidiai y rhai Cymreig ddwylftw 010p. i 15p, j pea^ ddwylaw 010p. i Isp. y peD,
CYNRYCHIOLAETH MEIRION.
CYNRYCHIOLAETH MEIRION. MR. LEIF JONES. Dechreuodd Mr. Leif Jones ar ei ymgytch etholiadol nos Lun, yn Ysgoldy y Bwrdd, Corris, pryd y traddodudd araeth wleidyddol i gynuUiadoardaHyr Corns a'r cylch. Mae'r dyddordeb yn cynyddu yn yr dholiad, yr oedd yr ystafell yn llawn, a c:;a!udd yr ymgeisydd dderbyniad gwresog. Cymerwyd y gadair gan Mr. Morris Thomas, C.S., yr hwn ar ol ychydig sylwadau a alwodd ar Mr, Leif jones ianerch y eyfarfod. Mr Leif Tones i-Gtvyddoeli oil mai amtan y cyfarfodydd hyn yw dewis o blith y rhai sydd yn yingyiiyg, ymgeisydd am y sedd sydd i fynad yn wA drwy ymddiswyddiad Mr. O. M Edwards. Yn wahanoli lawer 11., pan mae Rhyddfrydwyr Meiiion yn dewis ymgeisydd, ar yr un pryd dewisa aelod, gan fod y sedd yn un ddiogel i'r blaid Pan oeddefyn Rhydychain. yr oedd y diweddar Mr. Tom Ellis yno yr un pryd, gan yr hwn y clywodd lawer am Feirion a'i Rhyddtrydiaeth. Nid oedd ef am wthio ei hunan ar y Sir. 88 nad oeddynt yn dewis. cael ei wasanaeth. Yn wir, ni buasal yn ymgeisydd yn awr, ohi bae iddo gael anogaethau oddiwrth amryw 0 arwelnwyr y blaid yn y Sir i ddyfod allan. Yr oedd ganddo reawm dros beidio cynyg ei hun, sef yr ystyiiai y dylai cynrych- iolydd Meirion fod yn gallu siarad Cymraeg er nad oedd llawer o siarad Cymraeg yn y Senedd (chwerthin). Gwir i Mabon adrodd Gweddi yr Arglwydd yno; ond nid oedd y Seneddwyr yn alluog i ddeall fawr o hono hyd nes i Mabon egluro iddynt beth a adroddai. Nid oedd of er hyny heb deimlo yr anfantais yr oedd ynddo am nad allai siarad Cymraeg. Os dewisid ef, ymrwymai i ddysgu y Gymraeg. Os nad oedd yn Gymro o iaith, yr oedd yn Gymro 0 waed a chalon. Hanai o hen deulu Cymreig. Ei dad oedd y Parch. Thomas Jones, Treforris, gynt, pre- gethwr gyda'r Annibynwyr. Yr oedd ei dad yn 14eg oed cyn y gallai siarad dim ond Cymraeg. Daeth yn bregethwir cymetadwy gyda'r Saeson; er hyny tystiai bob amser fod yn well ganddo bregethu yn Gymraeg. Symudodd ei rieni i Lundain, ac yno y ganwyd ef (Mr. Leif Jones); ac nis gallent ei feio ef am hyny (chwerthin mawr). Honai modd bynag ei fod yn hanu 0 hen deulu Ryddfrydol. Wrth Ryddirydiaeth y golygai nid swp o Fesur- au penodol; nid Rhaglen Ryddfrydol—New- castle nac arall-tiage, nac hyd yn nod arwein- wyr poblogaidd-yn nghwrs amser, yr ydym yn colli y rhai hyn, ond mae Rhyddfrydiaeth yn aros yn egwyddorion anfarwol o hyd. Rhydd- frydiaeth yw yr egwyddorion sydd, a'u hamcan i fyned o dan wraidd anghyfiawnder, i wneyd y gwyrgam yn uniawn, ac i ddarostwng gormes ymhob agwedd arno. Ac ymhlaid yr egwyJd- orion hyn, yr oedd ef sefyll. Yr ydym yn awr megis yn gwylio tranc un o'r Gweinyddiaethau mwyaf an-Rhyddfrydol tu mewn awdurdod erioed. Un o atneanion Rhyddfrydiaeth i'w gwella y bobl' a'u sefyllfaoedd yn gyffredinol, pob dosbarth — amcan blaenaf a phenaf y Weinyddiaeth breseitol oedd gofalu am un dosbarth, a hwnw y dosbarth ag yr oedd lleiaf o eisiau gofalu am dano. Er yr Etholiad Cyffredinol diweddaf—adeg y diluw Ceidwadol, y mae y 4-lywodraetli, wedi bod yn llawn prysurdebyn cofioam un dosbarth -eu cyfeillion. I ddechreu, troisant eu sylw at fuddiant y tirfeddanwyr-y dioddefwyr hyn -drwy basio Deddf Trethiant Amaethyddol, trwy yr hon y mae arian y cyffredin—y bobl^— yn cael eu rhoddi yn Uogellau y tirfeddianwyr cyfoethog. Gwir fod y tenant yn derbyn rhyw gymaint o fudd, ond ychydig oedd hyn mewn cymhariaeth i'r hyn dderbynia y tirfeddianwyr. Dylid cael Llywodraeth Ryddfrydol i ddeddfu ar Bwnc y Tir, os am ddeddfau fydd yn sicrhau lies y cyhoedd-Rhydd-ddaliadaeth am bris teg a rhesymol. Ni cheir hyn byth gan Lywodraeth Doriaidd. Mae gan Ymneillduwyr Cymru a'r wlad brofiad chwerw ynglyn A anghyfiawnder Deddf bresenol y Prydlesoedd,-adeiladu cap- elau, a'r rhai hyny mewn amser penodol yn myned yn feddiant i arall, a'u defnyddio i am- canion gwahanol i'r hyn a fwriadwyd. Yr oedd angen diwygiad yn y peth hyn. Cyfeir- iodd at ffaith ynglyn a bod chwarter acr 0 dir yn Chicago, America, yr hwn a gynygid am ugain doler yn 1850; ond arbyn 1894, oedd yn cael ei brisio yn werth chwarter miliwn. Cynyddai gwerth tir fel yr oedd y wlad yn cael ei phoblogi, a phobl yn aros ynddi Yn awr, os y boblogaeth oedd yn gosod gwerth ac yn codi gwerth tir, onid y bobl ddylent dderbyn yr elw oddiwrth hyn ? Dosbarth arall o dlodion y bu y Llywodraeth bresenol yn gofalu am eu buddiant oedd y per- soniaid, a Llywodraethwyr yr Ysgolion Gwir- foddol (chwerthin), drwy basio deddf yn Cyflwyno i'r ysgolion hyn filoedd o bunau o arian y wlad. Pasiwyd y ddeddf dan sylw yn 1897. Ond rhaid iddo addef, er cynddrwg oedd y ddeddf hon, ei bod gryn dipyn cyfiawn- ach na'r un a gynygiwyd, ond a orchfygwyd yn 1896 Mae addysg yr ieuanc yn wir bwysig, 1 9 er cymhwyso y cyfryw gogyfer a brwydr fawr bywyd. Dadleua a chreda y Rhyddfrydwyr mewn rhoddi addysg ganolraddol ac uwch-1 raddol i'r plant yn ogystal ag addysg elfenol Trwy hyn y cai y tlawd talentog gyfle i ddringo i safleoedd ac i ddylanwad yn y byd. I gyraedd hyn—rhoddi yr addysg oreu i bob un gchwenychai ei gael-rhaid oedd gwario llawer o arian. Ac nid oedd neb paretach nag ef i gefnogi hyn. Yr oedd Deddf 1896, yr hon na lwyddwyd i'w phasio, fel yr oedd a'i hamcan i fyned yn uniongyrchol yn erbyn y Byrddau Ysgol Tebyg iddi oedd Deddf 1897, lkdeddf hollol anghyfiawn yr hon a rodda filoedd o bunau i'r Ysgolion Gwirfoddol aneffeithiol; ond a anWj byddai yn hollol Ysgolion y Byrddau-yr ysgolion effeithiol a llwyddianus. Y dosbarth nesaf i gael rhan yn nhosturi y Llywodraeth oedd y tirfeddianwyr Gwyddelig. Cynygiwyd Mesur ynglyn a gwerthiant a phryniant tir yno. Gwrthwynebaiy tirfeddian- wyr hyn; ac er mwyn eu tawelu rhoddwyd iddynt dros dair miliwn o bunau drwy ddeddf Seneddol. Yr oedd yn gryf o blaid Ymreolaeth i'r Werddon, am y credai fod y Gwyddel yn alluog i lywodraethu ei wlad y dylai gael ei llywod- raethu; ac fod ganddo hawl hyd yn nod i'w cham-lywodraethu os dewisa. Yn America, Awstralia, &c., yr oedd y Gwyddel yn y safle- oedd pwysicaf, ac yn cyflawni ei waith gystal os nad gwell na neb. Dylai Cymru hefyd gael I yr un fraint. Nid oedd un rheswm dros beidio rhoddi Ymreolaeth i Gymru. PleidUi roddi pleidlaift i bob dyn, Gwrth. wynebai y Toria-id- hyn; Joblegid eu gofal am y dosbarth uwchaf. Yr oedd gan y tlawd hawliau cyfartal i'r cyfoethog yn y pethau hyn. Yr oedd y tlawd yn n ituriol yn cymeryd mwy o ddyddordeb yn ei bleiiilais. Rhaid iddo oedd gwneyd hyn, d) ii)A ei unig amddiffyn. Os bydd y cyfoethog yn anfoddlawn ar yr addyag gyfrenir yn yr Ysgol leol, gall fforddio anfon ei blant i Ysgol mewn man arall; ond rhaid i'r tlawd waeyd y goreu o'r hyn sydd yn ei feddianL Os bydd dreniau drwg yn ei dt ac o amgylch iddo, gall y cyfoethog fforddio talu am symud ymaith y pethau hyn; ond nid felly y tlawd. Yr Unig ffordd y gallai ef gaelgwell- iantad yw lhy gyfrwng ei bleidlais. Credai mewn Dadgysylltiad yr Eglwys ymhob man; ond yn arbenig felly Nghymru, He yr oedd yn Eglwys y lleiafrif. Yr oedd y cysylltiad yn anfantais i weithgarwch yn yr Eglwys ei hun, yn gam ag Ymneillduaeth, ac yn cynyrchu anghariad ac atgasedd tuag ati. Yr oedd o blaid rhoddi cyflog teg am lafur gonest i bob dyn A phob concern na thalai i'w weithio ar linellau felly, dylai farw. Dylai y gweithiwr ddefnyddio ei bleidlais er ceisio deddfu i leihau oriau llafur. Yr oedd y Llywodraeth mae'n wir wedi pasio deddf lawn 1 Weithwyr am ddamweiniau. Iddo ef pwys- icach na rhoddi iawn am ddamweiniau-oedd gwneyd rhagocheliadau rhagddynt, eblegid pa iawn oedd ddigon am golli tad, i blant, a phriod i weddw. Mae rhyw gymaint o ddaioni yn y Ddeddf hon ond aiff ei brasder yn gynyrch i ran y cyfreithwyr. Dylai gael ei diwygio yn y fath fodd fel y byddai lawn yn dilyn pob damwain yn naturiol heb dratferth na chost i neb. Ar bwnc y rhyfel yr oedd o'r cychwyn cyntaf wedi cymeryd ei safle fel gwrthwynebydd cryf iddo. Ac nid oedd arno gywilydd yn awr i arddel hyny. Gwnaeth; ei oreu i atal y rhyfel. Buasai dda ganddo pe wedi llwyddo yn ei amcan. Talwyd mewn arian a gwaed dynol yn anfesurol fwy nag a ellir ei ad-dalu byth. Daliai y gallesid ei osgoi; ac fod y bai mwyaf am na wnaed hyn yn gorphwys ar Mri. Chamberlain, Milner a Kruger. Gwir ei fod ef fel eraill yn y lIeiafrif gyda hyn. Ond nid oedd hyny yn profi mai hwy oedd yn cyfeil- iorni. Rhoddodd amryw engreifftiau o'r lleiaf- rif yn condemnio rhyfeloedd; ac amser yn profi mai y Ileiafrif oedd yn gywir, megis yn yr Unol Dalaethau a'r Crimea. Siaradodd ymhellach at bwnc y rhyfel, Dir- westiaeth, Blwydd-dal i'r Cedranus, a materion eraill. Yna rhoed cyfleusdra i ofyn cwestiynau i'r areithydd. Cenedlaetholiy Rheilffyrdd.-Yr oedd yn ffafriol iawn i hyn, am ei fod yn brofiadol o weled y cynllun yn gweithio yn effeithiol mewn gwledydd eraill, Y Fyddin.—Yr oedd o blaid diwyglad trwyadl ynglyn a'r fyddin. Yr oedd o blaid gwneyd yn bosibl i'r milwr cyffredin, ie, hyd yn nod y drummer boy i dd'od yn Gadlywydd. Dyfodol Affrica. Yr oedd yn anhawdd gwybod beth a allesid wneyd yno. Nid oedd o blaid ei llywodraethu drwy y fyddin ac eto ymddangosai hyn yn anocheladwy am y pres- enol. Teimlai y dylid anfon y dynion goreu a doethaf yno i gymeryd y llywyddiaeth, a hyny am gyfnod penodol a. cheisio addfedu y wlad i gymeryd eu llywodraethu genym. Wedi cael hyn, dylid estyn iddynt raddau helaeth o hunan-lywodraeth. Royalties.- Yr oedd 0 blaid royalties (nid i raddau gormodol fel yn awr chwaith) ar fwnau, &c., gan eu bod yn cynyrchu cyfoeth y mawrion, a dylai y wlad lie ceir y mwnau, &c., gael ad- daliad teg mewn ffurt o royalties drwy eu trethu. Ymreolaeth i'r Werddon. Ni byddai rhoddi Ymreolaeth i'r Werddon yn gosod y wlad mewn mwy o berygl i gael ei llywodraethu gan offeiriaid Pabyddol nag ydyw yn awr; oblegid hwy oeddynt ayweinwyr y bobl; nid oherwydd dylanwad Pabyddiaeth; ond oher- wydd mai yr offeiriaid Pabyddol oeddynt yn cael yr addysg a'r diwylliant goreu. Pasiwyd diolchgarwch i Mr. Jones am ei araeth, ac i Mr. Thomas am lywyddu, a therfyn- wyd y cyfarfod.
MR. A. OSMOND WILLIAMS.
MR. A. OSMOND WILLIAMS. Nos Fawrth, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Ysgoldy y Bwrdd, Corris, dan lywyddiaeth Mr. M. Thomas, yr hwn wedi ychydig sylw. adau agoriadol, a alwodd ar Mr. Williams i anerch y cyfarfod. Mr. Osmond Williams :—Deng mlynedd ar hugain yn ol, yr oedd yn sefyll ar blatfform politicaidd yn Ngliorris. Y pryd hyny, yr oedd yn pleidio ymgeisiaeth Mr. Holland. Ac ychydig feddyliai yr adeg hono y buasai yn anerch yr etholwyr yn awr yn y cymeriad o ymgeisydd. Yr oedd erbyn hyn yn hynach, a hyderai beth yn gallach hefyd. Galwodd sylw at yr hyn a wnaeth y Rhyddtrydwyr pan mewn awdurdod er lies y bobl; ac at y Mesurau a basiwyd ganddynt yn Nhy y Cyffredin i'r un amcan ond a daflwyd allan yn ddiseremoni gan Dy yr Arglwyddi. Dylai y Ty hwn a'i gefnogwyr gofio unwaith y rhoddid hen aradr Rhyddfrydiaeth yn y tywod nad oedd un llanw digon mawr i dynu ymaith ei holion byth. Nid oedd wedi dylod i Gorris i addaw pob peth a chyflawni dim. Yr oedd o'r farn y dylai yr aelod ddewisir fod a'i amcan penaf a blaenaf i hyrwyddo Mesurau yn ymwneyd a llesiant Cymru. Dylai hefyd sefyll ochr yn ochr ag arweinydd y blaid. Yr oedd cael Gwrthblaid gref yn gwneyd y Llywodraeth yn gref Mewn trefn i gyraedd hyn rhaid oedd cael undeb Arweiniodd y Llywodraeth bres- enol ni i ryfel anfad a phechadurus, drwy gyfrwng Mr. Chamberlain; yn yr hwn y collwyd miloedd o fywydau gwerthfawr, y gwariwyd miliynau 0 arian y wlad, a gofynai pa faint gwell oeddym o'r holl aberth. Yr oeddyr ateb ya ymyl, Dim.' Credai mewn Ymreolaeth gyffredinol; ond yn arbenig i Gymru-Sefydlu math < Fwrdd Llywodraethol yn Nghymru, neu os na cheid hyn, cael Bwrdd Llywodraethol i Gymru yn y Brifddinas. Teimlai yn gryf o blaid gwueyd i ffwrdd a Thy yr Arglwyddi; gan nad oedd ond atalfa ar ffordd Deddfwriaeth deg ac uniawn-y Ty fu unwaith liron ag arwain y wlad i ryfel Cartrefol; y Ty fu yn foddion i gadw plant Ymneillduwyr Cymru allan o'r Prifysgolion am 35 mlynedd. Y Ty a fodolai i amddiffyn y cryf ac i fathru y gwan. Yr oedd yn hen bryd gwneyd i ffwrdd ag ef. Er holl ddiffygion Ty'r Cyffredin, yr oedd yn Dy cynrychtoladol—yr oedd megis yn gnawd o'n cnawd acasgwrn o n hasgwrn; ac yr oedd |rn gywUydd (od Ty c hunan-etholedig yr Arglwyddi yn cael ei oddef i lesteirio gwaith y fath Dy. Ynglyn a Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys Sefydledig yn Nghymru, yr oedd er's 30 mlynedd wedi bod yn ddadleuydd seleg dros hy., am y credai fod y cysylltiad anachaidd yo niwed i'r Eglwys ei hun yu anghyfiawnder a'r Anghydffurfwyr; ac yn cynyrchu teimladau atgas mewn Cristionogion at eu gilydd. Yr oedd 0 blaid Un dys un bleidlais gydag eithriad ynglyn Ag etlioliad y Cyngor Sir, pan fyddai gan ddyn fasnach mewn rhagor nag un sir, dylai gael llais yn y gwahanol siroedd ynglyn A dewisiad aelodau y Cyngor. Yr oedd yn ddirwestwr mor aiddgar a neb yn y sir; ac wedi dwyn ei blant i fyny felly. Credai fodd rhyddhau y meddwyn yn gymaint budd a rhyddhau y caethwas. Pleidiai anrhyw" a phob mesur i gwtogi terfynauy lasnach. Ar gais dirwestwyr, cauodd bedair o dafarnau ar ei etifeddiaeth yn ddiweddar, er y golygai hyn golled arianol iddo (cym. mawr). Yr oedd yn bleidiol iawn i ddewisiad Lleol. Dylid diwygio a gwella deddf y Prydlesoedd fel ag i wneyd yn orfodol i berchen y tir werthu y tir a'r ty yn eiddo rhydd-ddaliadol am bris teg, yr hyn y bu feallai gweithiwr tlawd trwy gynildeb a llafur caled, yn gyfrwng i'w adeil- adu. Pe dewisid ef yn aelod, byddai iddo gefnogi mesur i'r perwyl, ac oni ddygid mesur felly ymlaen gan neb arall, ymrwymai ef i barotoi y cyfryw fesur. Yr oedd yn ffafriol i roddi blwydd-dal i hen bebl. Yr oedd Awstralia wedi cael hyn yn ddiweddar ac ni ddylem ni fod ar ol. Pleidiai gyflafareddiad mewn achosion anghydwelediad rhwng gweithwyr a Meistri Dylid sefydlu Bwrdd Cyflafareddol. A chredai y buasai y Cynghorau Sirol yn gyfaddas i wneyd y gwaith. Buasai bodolaeth y cyfryw Fwrdd yn atalfa ar ami streic Gyda golwg ar pa beth a ellir neu a fyddai oreu wneyd ynglyn Ag Affrica, anhawdd oedd dyfalu. Yr oedd yn ymddangos iddo ef mai'r peth goreu allesid wneyd fyddai rhoddi Pretoria a Gogiedd y Transvaal i'r Boriaid i'w llywodr- aethu fel y gwelont oreu, a gwneyd y Rand ya drefedigaeth ar ei phen ei hun. I ddiweddu. -dywedai yn ngeiriau Shakespere, 4 nad oedd ef yn areithydd hyawdl, ond dyn plaen a gonest a garai ei gyfeillion.' (cym.) Ar y diwedd, gofyawyd cwestiynau, y rhai a atebwyd gan Mr. Williams. Byddai bob amser yn barod i gefnogi Mesur yn gwahardd thoddi diod i blant; ac yr oedd yr un mor gryf yn erbyn rhoi lawn i Dyfarnwyr. Yr oedd 0 blaid rhoddi lawn am welliantau i'rffermwyr—Rhent teg, a sicrwydd daliadaeth. Yr oedd o blaid gwneyd i ffwrdd a'r Gatnt Laws. Dylid gwella deddf treipas hefyd. Talwyd diolchgarwch i Mr Williams ar oi araeth, ac i Mr. Thomas am lywyddu
EISTEDDFOD CENEDLAETHOL LERPWL.
EISTEDDFOD CENEDLAETHOL LERPWL. Agorwyd dydd Mawrth. A ganlyn sydd restr o rai o'r dyfarniadau :—CAn ddesgrifiadel Glanfa Liverpool,' gwobr3p. js a thuchan- gerdd, Y Grwgnachwr,' gwobr 3p. 3s goreu Nathan Wynn, Ystrad. Pedwarawd, Cissis Davies, Liverpool, a'i pharti. Unawd Soprano, Janett Garnett, Cilfynydd. Adroddiad Cymreig Mr I. B. Williams, Nantlle. Tweed Cymreig, J. Jones, Bryncir Gwlanen Gymreig, J. Humphreys, Drefnewydd. Unawd Baritone, Mr. W. Richards, Abertileri. Arluniaeth, J. Edwards, Ffestiniog. Prif Gystadleuaeth Gorawl, Potteries and District Choral Society. Yn ystod y gweithrediadiau cyflwynwyd an- erchiad hardd, a phwrs yn cynwys pedwar can' gini i'r Archdderwydd (Hwfa Mori).
FFESTINIOG.
FFESTINIOG. MYN'D I'R DE.—Gadawodd nifer luosof iawn orsafau y Penrhyn a Minffordd, dydd Llun, yn cynwys personau unigol a theuluoedd i fyn'd i'r De i fwynhau llwyddy gweithiau gld. ADDYSGOL.-Nas Lun, cyfarfu Mr. Darling- ton, yn anol a threfniad blaenorol, newa cyn- hadledd a rheolwyr, athrawon, ac athrawesau y dosbarth, i ystyried darpariadau y codt newydd. Llywyddwyd gan Mr. E. P. Jeaes, t chyfnewidiwyd syniadau ar y ddarpariaeth new newydd a'r wedd oreu i'w gweithio allan, gan y Mri. Dodd, R. Williams, Tanygriaiau; Beavan, Cadwaladr, &is.
MR. ASQUITH A'R ETHOLIAD.
MR. ASQUITH A'R ETHOLIAD. Bu Mr. Asquith yu aneroh cyfarfod 0 Ryddfrydwyr Dwyrain Fife yn Ladybank, ddydd Sadwrn. Condemniodd y syniad o ddadgorphori'r Senedd yn ddioed. Ni byddai hyny ond osgoi'r eyfnewidiad a ddeuai drea y wlad, pan fyddai raid talu cost y rhyfel, ao yr oedd y Toriaid am fanteisio ar y gwlitd- garweh angarddol a gyfiroea yr holl gonedl," er mantais i'w plaid eu hunain. Am y rhyfel, credai efe nas gellid siorhau gwladweiniaeth ddoeth yn Neheudir Affrica heb feddianu'r ddwy Weriniaeth, ac ni byddai i'r Rhydd- frydwyr ddadwneyd gwaith y Jingoes.
Advertising
PWYSIG. DYMUNA J. PARSON, Corris, hysbysu ei M yn barod i redeg cerbydau o CORRIS I, TORRENT WALK, DOLGELLAU, ac yn ol. Tal Is. yr un. Hefyd 0 GORRIS I TALYLLYN, Gan ddychwelyd drwy Abergynolwyn, Tewya, Penual, &e. Tal 3s. yr un. GAN W. WILLIAMS, DOLGELLAU, mae Stocjagorol^o* Watches, Modrwyau, &c.