Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
---GEMIOTV ^MEN.
GEMIOTV ^MEN. EMYN Y CREAD. (CyfltUhiad o Tutor JTtij/a). Ar nos sevenog, ger y don. fy hun y aafwn i, Digwmwl oedd y nefoedd, a tlilglner oedd y Ili; Fy llygaid draw a dremiaut tuhwnt i orwel y byd, Tra'r gwyntoedd oil a'r moroedd, ao anian fawr ynghyd. Fel pe yn cel-ymofyn, mewn murmur aymysg lef,- Gwanegau glas yr eigion, ac eirias danau'r nef. A'r ler, aueirif luoedd, y au o euraidd liw, [fyw Mewn uchel-lef, ao isel-lef,-oyughanedd fllwedd A ddywodent, tra yn plygu dan goron aur i lawr,— A hwythau'r glaaliw donau, herfeiddiol, gwyllt eu gwawr, Atebent, traln penlinio ar draethau maith y mor, Yr Arglwydd ay'n tevrnasu; yr uohel, gadarn lor.' ANTHROFGS.
.-ADRAN Y MEllCHET).
ADRAN Y MEllCHET). Mewn ysgrif yn ddiweddar yn Harper's Bazaar, dywedai Madam Wu Ting Fang, priod y llysgenhadydd o China yn America, fod y merched a'r gwragedd yn ei gwlad hi yn gwneyd eu dillad a'u gwisgoedd euhunain. Y maent yn gymaint am aros gartref ag y mae rhai merched a gwragedd America am fod allan. Wrth gwrs, y mae dosbarth o ferched a gwragedd yn America na wnant lawer o ddim o waith ty na gwaith arall o unrhyw fath. Treuliant y rhan fwyaf o'u hamser yn ymweled a'u gilydd a rhyfeddu a mawrhau eu hunain. A gwaith y dosbarth hwn yn llai-lai o hyd, hyd nes, cyn bo hir, na fydd dim ganddynt i'w wneyd o gwbl ond ymladd a blinder seguryd a diffrwythdra. Byddant yn codi y boreu heb orphwys, ac yn myned i orwedd heb flinder. Bydd yn fywyd echrydus o annymunol I MARIE CORELLI. Yr awdures fwyaf poblogaidd yn mysg y Saeson yw yr un a adwaenir wrth yr .nw Marie CoreUi. Darllenir ei nofelau gan ganoedd o filoedd, a rhaid fod ei chynyrchion yn dwyn elw iddi o ganoedd obunau. Nid oes amheuaeth am ei dawn i ysgrifenu, ond y mae amrywiaeth mawr ynghylch teilyngdod ei hysg- rifeniadau. Mae yr adolygwyr gan mwyaf yn Uawdrwm arni. Ond feallai mai y rheawm I tiros hyny yw ei bod hi yn llawdrwm arnynt hwy. Mae ei gweithiau yn dwyn nodwedd I grefyddol, a rhoddir iddi y gair gan rai ddylent wybod o fod yn ferch grefyddol. Ond beth bynag am ei chrefydd bersonol, nid yw mewn cydymdeimiad o gwbl a'r dull o gario crefydd ymlaen ymysg gwahanol ganghenau eglwysi y dyddiau presenol. Mewn nofel a gyhoeddodd yn ddiweddar, dan y teitl The Matter Christian,' gwna ymosodiadau Ilym a didru- garedd ar wahanol enwadau, yn enwedig Eglwys Rufain, a phroffesa ei bod yn gallu dwyn i'r amlwg achosion holl aflwyddiant yr eglwysi yn gyffredinol. Fel y dywedwyd, coa- demnir hi yn llym gan rai, ond dyrchefir hi uwchlaw pawb gan eraill, tra y dywed dosbarth arall nad oes neb yn ei deall.
PENOD YR ENWOGION
PENOD YR ENWOGION Y CADFRIDOG DE WET. O'r holl Gadfridogion Boraidd, dichon mai yr un sydd wedi enill mwyaf o edmygedd a sylw y cyhoedd Prydeinig ydyw y Gadfridog Christian De Wet. Mae ei feiddgarweh a'i wroldeb, ei ym- ddangosiad sydyn mewn un man a'i ddiflaniad cyflym wedi hyny, a'i Iwyddiant diamheuol wedi rhoddi iddo le yn serch y Prydeiniaid, er mai gelyn yn brwydro yn erbyn eu gwlad ydyw, fel ag y mae De Wet heddyw yn sefyll yn meddwl y cyhoedd fel rhyw ail Robin Hood. Ond er fod rhyw debygolrwydd rhwng ymlid y Boriad hwn gan y Fyddin Brydeinig i hela y llwynog, wrth gwrs, ag edrych alne fel yr ymddengys i bobl y wlad hon, mae yn golygu peth annhraethol fwy na difyrweh i'r Gadfridog De Wet. Mae De Wet o'r cychwyn cyntaf wedi bod yn wrth-Brydeiniwr. Yn ystod y dyddiau olaf o'r drafodaeth o flaen y ihybudd olaf, yr oedd ef yn holl- bresenol yn Pretoria. Ceisiai pleidwyr heddweh dro ar ol tro ddarbwyllo yr Ar- lywydd, a'i arwain yn erbyn rhyfel. Ond yr oedd De Wet yno bob amser yn wrthwyneb- ydd diwyro i'r syniad o gymodi. Yn y Senedd ao yn Mbalas yr Arlywydd. byddai De Wet yn caledu teimladau yr Ar- lywydd, yn cyfarwyddo Bmutz, yn apelio at wladgarwch Reitz, ao yn ceisio dymoli -,N-Alyd dadleuon plaid heddwoh. Yr oodd mor Lffi-o y pryd hyny i ddwyn y rhyfel o amgylch ag ydyw yn awr wrth wneyd ei ymosodiadau ar filvyr ein gwlad. Pan ddaeth y rhyfel rhoddodd De Wet dystiolaeth o'i argyhoedd- iadau mewn dull ymarferol a gwrol. Yn yr ymgyrch cyntaf yn Natal, efe ydoedd yr ar- weinydd Boraidd mwyaf beiddgar, a'r un y geljid dibynu arno. Yr oedd yr ymosodiftd a wnaed ar Ladysmitl4 ar Ionawr 6ed, ganddo ef a'i fwrdeiswyr yn aft o'r brwydrau mwyaf hynod yn hanes yr holl ryfel. Ond yn y Dalaeth Rydd y mae De Wet wedi cyflawni y rhan fwyaf o'i wrhydri.
Ganwyd y Cadfridog De Wet
Ganwyd y Cadfridog De Wet ar fferm, ae fel amaethwr y dygwyd ef i fyny-ar y morfa eang, lIe y daeth yn gyfar- wydd a'r wlad yn yr ystyr fanylaf-lle dar- llenai arwyddion y gwastadedd, fel ag y darllenir llawlyfr rhyfel gan Eivropsail. a throsglwyddodd i'wgof bovj coilan o'r tir wrth dramwyo drosto. Heddyw, mae y Dalaeth Rydd iddo ef fel llyfr agored. Mae yn gwybod am bob ffordd, pob bwloh, a phob afon a phydew ynddi. Y mae, fwy nag unwaith, wedi arwain ei wyr ar noson dywyll WYI, o fewn tri chant o latheni i wersyllfa y Prydeiniaid, xan heb unwaith wneyd yrun eamgymeriad, gan gymeryd maintais o'i safle i ymosod ar ein byddin gyda thoriad y wawr. Y wybodaeth ddigyffelyb yma o'r wlad yw yr hyn sydd wedi gwneyd De Wet y fath allu yn y rhyfel yma. Mae wedi ymladd ar ei fferm ei hun ac ar fferm ei frawd, a phan y gwnai ymospdiad byddai bob amser yn sicrhau y dyn a'r fferm yr hwn y byddai yr ymosodiad i gymeryd lie wrth ei-ochr. Nis gall yr un barthlen nae adrodd- iad y scouts goreu gymharu a gwybodaeth mor berffaith a hyny.
Nid yw cynllun De Wet o ryfela
Nid yw cynllun De Wet o ryfela yn gofyn corphlu mawr. Mae yn oashau corphlu dros bum' cant; ac y mae y dynion sydd gydag 81 i gyd yn wyr detholedig, wedi eu dwyn i fyny ar y tir, y ihai sydd yn deall yn dda beth ydyw hela a phethau eraill nodweddiadol o'r bywyd sydd i raddau mor bell wedi fturfio cymeriad eu harweinydd dewr. Dywedir fod ei fyddin yn gynwysedig bob amser o ddynion wedi eu geni a'u dwyn i fyny yn y wlad hono. Nid yw yn wybyddua ei fod yn gadael i dramoriaid ymuno a'i fyddin oddigeiih gydag eithriad o un mag- nelydd Ellmyn- Americanaidd, yr hwn a'i dilynodd i Sanna Poat a Dewetsdorp, a'r hwn, yn yr enciliad o Heilbron, a alwai De "Wet yn llwfrddyn. oherwydd iddo roddi i fyny rai o'i gad-ddarpariadau yn hytrach na llesteirio ei enciliad. Nid yw yn siarad ond ei iftith ei hunan, ac oblegid hyny nid yw y tramoriaid, sydd wedi poeni cymaint ar Botha ar wahanol achlysuron, yn cael derbyniad ganddo ef. Dyn canol oed, o daldra canolig, ac heb fod mewn ymddangosiad nac agwedd yn debygol o Jynu sylw, yw y Cadfrideg De Wet. Tyf barf ar ei wyneb, ao nid yw ei wisg yn wych ar gyfrif yn y byd—i'r gwrth- wyneb, braidd yn salw yr edryoh. Nid oes dim ynddo o gwbl i arwyddo; y Cadfridog a'r dyn sydd am fisoedd wedi herio cadfrid- ogion galluocaf a milwyr eyflymaf y fyddin Brydeinig. he hyny, KM peaderfyniad v<4i ei are graffu ar ei wyneb, ac y mae y llygaid di- orphwys, mawrion, hyny bob amser fel yu treiddio i'r pellder, o dan dalcen Hydan Anaml y mae gwen yn y llygaid hyny, ond y maent yn pelydru yr adnoddau dihysbydd o dde wider y dyn sydd yn caol ei hela gan y fyddin Brydoinig.
ANNIBYNIAETH! YN DINAS MAWDDWY.
ANNIBYNIAETH YN DINAS MAWDDWY. G.4.N TBOWYN. Y. Bu Richard Tibbott yma hefyd yn pre- gethu. Y mae genym gofnodiad am dano yn pregethu yn Penantigi nos Sadwrn, Plas- ucha' boreu Sabbath, Cemmes am ddau, « Mathafarn y nos. Bu yn pregethu hefyr) di-oion yn Penantigi, Fachell, a thy Evan Williams, siopwr. Difyr iawn yw hanes Richard Morris, Pen- antigi, a'r cymorth a roddodd i sefydlu Ym- neillduaeth yn yr ardal. Ganwyd ef yn Ffestiniog. Efe oedd yr Ymneillduwr cyntaf yn mhlwyf Ffestiniog. Byddai yn myned i'r cyfarfodydd eglwysig i Drawsfynydd, tua chwe' milldir o ffordd. Bu yn flaenor ffyddlon iawn yn Mallwyd. Bu farw yn mis Awst, 1804, yn 49 mlwydd oed. Byddai Lewis Rees a Richard Tibbott yn pregethu llawer ymysg y Methodistiaid yn y cyfnod hwn. Nid oedd y dadleuon duwinyddol, a natur eglwys, eto wedi codi i oeri eu cariad brawdol. Yr oeddymk yn fyw i'w hegwydd- orion, a rhyw un neu arall yn yr odfaon hyn yn derbyn Iteshad, Y prif ddyn yn Haw yr Arglwydd i ddwyn yr Annibynwyr i bregethu yn rheolaidd i'r Dinas oedd Rowland Griffiths Nid ydym yn hollol sicr pa un ai yn y flwyddyn 1790, ai yn nechreu y flwyddyn 1791, y cofrestrodd ei dy i bregethu. Eto, yn ein tyb ni, mae yn weddol eglur mai yn nechreu 1791 y gwnaeth hyny. Dyma yr hanes yn ngeinau awdwr Cofiant John James, Tygwyn f Yn yr amser hyn, yr oedd un Rowland Griffiths, o'r Dinas, yn y Bala yn gwasanaethu gyda chartreflufmihtiajy Sir.yn arfer gwrando gyda'r Annibynwyr yno, ac enillodd yr Efengyl ei galon; a phan ddychwelodd adref, yn ewyllysio cael moddion crefyddol cyson yn y Dinas, cofrestrodd ei dy yn lie i bregethu yr Efengyl yn y flwyddyn 1791. Yr oeddyno bedwar neu bump o honynt yn ymgynull yn gyson i gadw cyfarfodydd gweddio a chyfeill- achau crefyddol, heb fod mwy nag un o honynt, feddylir, wedi ei dderbyn yn gyflawn aelod. (Gwel 'Yr Annibynwr, Cyf. I., tudal. 175). Clywsom Thomas Davies ac eraill yn dywedyd mai Richard Tibbott oedd y pregethwr. Saifty R. Griffiths eto yn nesaf i Bryntirion. Bydded i enw y gwr hwn gael ei gadw byth mewn coffadwriaeth barchus. Dilledydd oedd wrth ei alwedigaeth. Ymfudodd wedi hyny i Am- erica, a dywed Iorthyn Gwynedd, yn ei lyfr, Hanes Cymry America,' iddo fod yn ffyddlon i gyehwyn achos Cymreig yn Utica, ac y byddai yn pregethu yn achlysurol hefyd. Y Gymanfa Gyntaf. Yn y gwanwyn, 1791, cynhaliwyd cyfarfod pregethu ar yr heol, yn ymyl y Gout, pryd y pregethodd y Parchn. W. Thomas, Bala R. Tibbott, Llanbrynmair; J. Evans, Machynlleth; D. Richards, Ty'nyfawnog; ac R. Roberts, Tyddynyfelin. Cafwyd cyfarfod llewyrchua, Bendithiodd yr Arglwydd y cyfarfod hwnw er agoriad drws helaeth i'r achos yn yr ardal, ac er dychweliad pechaduriaid. Ymysg pedwar eraill, dychwelwyd John James, Tygwyn, yn y cyfarfod hwn. (Gwel Hanes yr Eglwysi Annibynol Cymru,' 427). Cyfneithwyd hwy yn fawr gan y cyfarfod, fel y darfu i'r rhai y cyff- yrddasai yr Arglwydd t'u .calonau barhau i ymgasglu ynghyd i weddio, a chynghori, a chadarnhau eneidiau eu gilydd. Rhai mawr mewn gweddi oedd hen Annibynwyr y Dinas. Ffurfio Xglwye. Byddai William Thomas, Bala, yn teithio llawer y pryd hwn drwy y Dinas i Gaerfyrddin, ynghylch argraffu ei lyfrau. Byddai yn eu cario drwy y Dinas ar gefn ei gaseg. Pregeth- odd lawer yn y Dinas wrth fyned a dychwelyd yn y teithiau blinion hyn. Mae yma lawer o'i lyfrau gwerthfawr eto yn yr ardal. Gwnaeth y gwr hwn wasanaeth mawr i Annibyniaeth yn y Dinas. Efe oedd yn bresenol pan gorfforwyd yma eglwys, yn Ionawr, 1792. Rhoddodd W. Thomas, ar ddiwedd y gyfeillach yma, ei fraich am wddf amryw o'r brodyr, gan eu cysuro, fel mam ei phlentyn, a'r geiriau mwyaf grasol, tyner, ac anogaethol. Bu dylanwad rhyfedd yn dilyn y cyfarfod hwn, a gweinyddwyd Swper yr Arglwydd iddynt y waith gyntaf hon gan W. Thomas, o'r Bala. Saith oedd eu nifer yn y cymundeb hwn, ac y mae [eu henwau yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth hyd byth. Rowland Griffith a'i wraig; Evan Williams, siopwr; John Williams, gwehydd; John Jones, Ceinan; John Davies, Erwhir; a Margaret Owen, Pengraig, Cwmcewydd. Yn nhy Rowland Griffith y bu hyn. Nid hawdd, erbyn hyn, ydyw cyflwyno darlun bywiog a chywir o'r hen bererinion fuont yn gychwynwyr Annibyniaeth yn y Dinas. Nid mawredd eu gwybodaeth sydd 1 gytrif am y llwyddiant fu ar yr achos. Wrth ddarllen pwy oedd y tanysg- rifwyr am lyfrau Hugh Jones, o Faesglas, a llyfrau y Parch. William Thomas, Bala, cawn enwau John Jones, Ceinan, ac Evan Williams, liopwr, yo cumyigi yr hyn a ferawf eu hod ya -w- rhai pur ddarllengar. Un o linach Evan Williams, siopwr, o du ei fam yw y Parch.. Richard Mawddwy Jones. Gallasem olrhain ei achau a'i ddisgynyddion pe b'ai angen, ond u chaniata gofod. Oigonyw dywedyd fod i'r rhan fwyaf e honynt olynwyr teilwng eto yn iros gyda'r achos. Un o linach Margaret w Owen yw yr aelod hynaf heddyw yn hen addoldy Dr. Arthur Jones, Bangor. Daw llinach John Evans i sylw eto, pan yn son am lafur Richard livans, y siop. John Jones, o Geinan, fel y •^elwid ef gan bawb, oedd ddyn crefyddol iawn si ysbryd, Soniai yr hen bobl lawer am dditrif- oldeb ei ysbryd. Cafodd, lawer o brofedigaethau yn y byd, ond daliodd gyda chrefydd drwy yr oil. Mae dyddordeb neillduol yn perthyn i enwau y saith hyn. hen bererinion anwyl. Elt prif ragoriaethau gyda chrefydd oeddynt ffydd,& londeb a gwres yn wir, eu llafur hWY!1 wnuti. V llwyddiant dilynol yn bosibl. Parchus byth t\ dd eu coffadwriaeth.
DYFERION DIRWESTOL.,
DYFERION DIRWESTOL. SVB WILFBID LAwaox. Un o'r llyfrau mwyaf dyddorol i ddirw»st- wyr yn ddiau yw bywgraphiad Syr Wilfrid Lawson, sydd newydd ei gyhoeddi. Y mae vmroddiad a gonestrwydd Syr. W., mor hysbys a'i arabedd; a phe buasai rimddo. syched am swydd ao enwogrwydd buasai ei allu fel gwleidyddwr wedi ei godi er's talm i Gyfrin-Gyngor y blaid Ryddfrydol. Yn hytrach, dewisodd ddioddet adfyd gyda phobl dirwest; ao nid oes neb hoddyw yn fwy ei barch gan gar a gelyn yr achot y mae wedi ymladd mor ddifwlch trosto. Y mae darllen banes ei fywyd yn ysbrydiaeth newydd i rai gwanaoh a mwy llesg; a gob. eithin yr arbedir ef flynyddoedd eto nee y gwelo rai o'i ddyheadau yn eael eu corphori yn ddeddfau gan Senedd y wlad.
T FFESTINIOG.
T FFESTINIOG. DARLTTHIAU.-Nos lau, yn Nghymdeithaa r.enyddol Ebenezer, traddododd y Parch. W. L1. Davies ddarlith alluog ar Fodolaeth Duw a Deddf Dadblygiad '—Yn Nghymdeithaa Lenyddol Bethesda, nos Sadwrn, cafwyd darlith gan Iolo Caernarfon ar' Fethodistiaeth.' CYNGIRDD. -Nos lau, yn y Neuadd Gy. hoeddus, cynhaliwyd cyngerdd llwyddianua, elw pa un oedd i fyned i Mr. Evan Roberts, Rhosydd. Cadeinwyd gan Mr. ^Andreas Roberts, ac arweiniwyd gan Bryfdir. Cymer* wyd rhan ynddo gan Seindorf Oakeley, Mist Lewis, Mri. Meredith Davies, Tecwyn Jenes, W. W. Roberts, ac Owea Davies. CyfeiUwyd gan Mr. D. R. Rowe.
CYNCOR DOSBARTH OWlEDIO MACHYNLLETH.
CYNCOR DOSBARTH OWlEDIO MACHYNLLETH. Cynhaliwyd yr uchod dydd Mercher, Mr. B. Hughes yn y gadair. Adroddiadyr Arolygydd.—Yn ei adroddiad dywedai yr arolygydd fod yr arferis d o daflu budreddi i'r Marian yn Pennal, yn myned ar gynydd er gwaethaf y rhybudd oedd i fyny yn gwahardd hyn. Ar ei gyfarwyddyd ef yr oedd yr heddwas Arthur wedi gwylied, ac wedi dal dwy wraig yn taflu budreddi i'r Ile; ac yn bared i roddi tystiolaeth os oedd y Cyngor am gosbi. —Nid oedd y domen dail ger fferm y Furance, wedi cael eu symud ymaith, yn ol y rhybudd a anfonwyd i'r tenant.—Pasiwyd i'r Clerc ohebu a'r personau uchod. A droddiady Swyddog Meddygol.-Dywedai iddo fod ar ymweliad ag Egtwysfach a'r Furnace Rhagfyr 4ydd, lie yr oedd y frech goch wedi tori allan. Yr oedd plant yr ardal yn lied gyffredinol o dani, er nad eedd un achos dif. rifol iawn. Gorchymynodd gau yr ysgol. A. mrywion. n Darllen wyd gohebiaeth o Fwrdd Llywodraeth Leol, ynglyn a sefyllfa iechydo! Pennal, yn gofyn am gael eu hysbysu o berth. ynas i weithrediadau y Cyngor hwn yn y mater. Pasiwyd i'r Clerc anfon yr hysbysrwydd gof- ynol. Pasiwyd i wrthwynebu cais Cwnani Reilffordd y Cambrian am ganiatad i godi pool gauedig dros y Ddyfi.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. APWYNTIAD.—Dydd Sadwrn, apwyntiwyd Dr. John Jones, Caerffynon, yn feddyg iGym* deithas Gyfeillgar y Plas, ynlle ei dad (y cU- weddar Dr. E. Jones). DYCHWELYD O'R RHYFEL.—Nos Sadwrn, dychwelodd Cadben Vaughan adref o'r rhyfel, lie yr enwogodd ei hun o dan y Cadfridog French. Mab ydyw i'r diweddar Mr. Joha Vaughan, Nannau. Ni wnaed unrhyw ar- ddangosiad yn y dref, oherwydd agosrwydd marwolaeth ei dad. PREGKTH YMADAWOL. Dydd Sul cyn Y diweddaf, traddododd y Parch. J. Williams, B.A., ei bregeth ymadawol i eglwys a chynull- eidfa Salem M.C., wedi bed yn eu gwasanaethu am ysbaid deng mlynedd. Y rheswm dros iddo roddi ei le i fyny, fel y gwyddis, yw j ffaith ei fod wedi cael ei apwyntio yn ysgrifen. ydd cyffredinol y Genhadaeih Gartrefol. Bwr. ieda yr eglwys gyflwyno tysteb iddo ar fyrder.
HARLECH.
HARLECH. CYFARFOD CYSTADLEUOL -Nee Fawrth, cynhaliodd Bedyddwyr y lie uchod eu cyfarfed cystadleuol blynyddol, dan lywyddiaeth Mr. Osmond Williams, A.S., ac arweinyddiaeth Dewi Eden. Clorianwyd y cantorion gan Mr. Wilfrid Jones, yr hwn hefyd a ganedd ddwywaith ei hunan. Enillwyd yn y brif gyj- tadleuaeth gorawl gan gOr Talsarnau a'r Her- Unawd gan Miss Vaughan iggl" a Mr, 97,40 Owent FiestipAgg. 7
CORRIS.
CORRIS. PERSONOL.-DA genym ddeall fod Mr. David W. Ellis, Llwyncelyn, wedi bod yn llwyddianus i basio arholiad y Llythyrdy, a bydd yr wythnos hon yn ymadael o Llythyrdy Corris, am yr apwyntiad o mounted postman rhwng y Wyddgrug a Llandegla.—Yr wythnos ddiweddaf, ymadawodd y Ttooper Humphrey Lewis, yr hwn gymerodd ran yn amddiffyniad Ladysmith, o'n hardal, er mwyn ymuno a'r fyddin yn y gwasanaeth tramor. DECHREU Y GANRIF.—Pendejfynwyd cynal Cyfarfodydd gweddiau yn yr holl gapelau ar wythnos gyntaf y flwyddyn newydd, yn dechreu Ionawr 7fed; yna yr enwadau i gynal yr wythnos ddilynol yn gyfarfodydd gweddiau undebol ar gylch ymhob ardal. Y drydedd wythnos a dreulir mewn pregethu gan weini- dogion a phregethwyr cynorthwyol, a newid pwlpudau. GwtiaedytrefniadaugatiBwyllgor yr Eglwysi Rhyddion, oddiwrth awgrym yn un o gyfarfodydd gweinidogion dosbarth Corns, a gynhelir fel y deallwn unwaith bob mis, y rhai y buasai yn ddymunol i'w gweithrediadau ddyfod yn gyhoeddus fel mewn lleoedd eraill. Mae y cynllun y penderfynwyd arno uchod yn dra gweddus i osod arbenigrwydd ar ddyfodiad y ganrif newydd yn ei chysylliadau eglwysig.
BARDDONIAETH Y FFRWGWtf.
BARDDONIAETH Y FFRWGWtf. Wedi gwybod yr hanes modd y mae pethau yn myned ymlaen rhwng brodyr braint a detod, ysgriblodd rhigymwr fel hyn A glywsoch chwi'r 'stori Sy'n cerdded trwy Gymru ? J Mae'n od o anniben. Yn nheulu Ceridwen! Oherwydd y slice Aeth i Dafi Price I Y Cadfa arswydus, Y Copa Parnasus! Mac meibion yr awen Mewn ffrae a'r Hen Fachgen;' Och siompol y trie A wnaethpwyd gan Die! 0 gornel i gornel Mae'r cwbwl yn ffardel Er heddwch yr Orsedd, j Bu farw tangnefedd; Ow! dyma ddrwg baint At dctotliaid y framt.'
!AM BOBL A PIIETHAU.
AM BOBL A PIIETHAU. Enillodd Mr. John Jones (Ty'nybraich), Dinas Mawddwy, y Gadair Farddonol yn Eisteddfod Ffestiniog, dydd Nadolig. Dydd Iau, bu farw Arglwydd Armstrong, dyfeisydd y magnelau sydd yn dwyn ei enw, yn 90 mlwydd osd. Bu farw Y11 Cragside, Sir Northumberland.; I Y mae y Pab wedi cyhoeddi estyniad amser ei Jiwbili am chwe' mis eto i holll Babyddion drwy y byd gyda'r eithriad o Rufain. Boreu Dydd Nadolig, ynlN ghastell Osborne, deuwyd, o hyd i'r Arglwyddes Waddolog Churchill, un o Arglwyddesau Yatafell y Frenhines, yn farw yn ei gwely. Yn hwyr nos Lun, torodd tan allan yn Ngweithfeydd Rubber Eccles. Gwnaed difrod mawr, a bydd i luaws o weitliwyr, mewn canlyniad, gael eu taflu allan o waith. Cymerwyd pump o ddynion i'r ddalfa yu Bath, ddydd Iau, ar yr amheuaeth eubod yn gyfranog o ladrata gwerth amryw filoedd o bunau o emau yn y ddinas hono yn ddi- weddar. Bydd i Mr. Michaet Davitt yn fuan gy. hoeddi hanes ei ymweliad a maes y rhyfel. Ynddo daeth i gyduabyddiaeth bersonol a chadfridogion y Boriaid, a diau y cynwysa y llyfr ffeithiau a desgrifiadau dyddorol. Dydd Meroher, bu farw Mr. Jules Riviere, yn Colwyn Bay, yn 82 mlwydd oed. Ffrancwr ydoedd o ran cenedl, ao ar hyd ei oes bu yn cerdded llwybrau cerdd. Bu am flynyddau yn difyru ymwelwyr a Llandudno a Cholwyn Bay. Yr oedd ei gerddorfa yn un o'r rhf1.i godidocaf ar hyd glanau moroedd Cymru. Yrnddengys fed pla y teitlau yn America yn myned yn aunioddefol o'r diwedd i bobl syn- wyrol, ac yn Nghymanfa Bedyddwyr Penn- sylvania yn ddiweddar pasiwyd penderfyniad o anghymeradwyaeth o'r sefydliadau hyny a wasgarant deitlau mor rwydd a difarn, am fod tuedd ynddynt: i 'ddiraddio gweinidog- aeth yr Efengyl.' Mae Mr. Stead ar ymweliad a Ffraino, a dywedir iddo, mown ymddiddan a gafodd a Mr. Kruger, ddweyd ei fod er deohreuad y rhyfel wedi gweddio am i Brydain gael ei gorchfygu, hyd yn nod at iddi golli Ymher- odraeth De Affrica. Ni fyddai yn golled wirioneddol iddi yn ly diwedd. Byddai y gorchfygiad yn fuddugoliaeth, ac yn sicr o eiieithio or daioni ar uniondeb Prydain. Y dydd o'r blaen, cyrhaeddodd y gwein- idog hynai ymysg y Methodistiaid Oallinaidd yn y Dywysogaoth y Parch. Edward Williams, Cynwyd, Corwen—ei 90 mlwydd oed. Ordeiniwyd ef i'r weinidogaeth yn 1846. Yn ngwyneb sefyllfa egwan ei iechyd, nid ydyw Mr. Williams wedi bod yn alluog i ddilyn ei deithiau pregethwrol. Dydd Mawrth, Ionawr laf, daeth Deddf Ymreolaeth Awstralia i rym. Drwyddo unir yr holl drefedigaethau yno dan Jywod- raeth a dau Dy Seueddol. Bydd arol- ygiaeth y Llythyrdai, tollau, y fyddin a'r llynges, goleudai, a materion eraill sydd yn gyffredin i'r holl gyfandir yn eu dwylaw. Mae'r cyfansoddiad mor ddemocrataidd ag ydyw eiddo yr U nol Dalaethau, ac fel y mae yn y diweddaf bydd gan bob talaeth ei deddfwrfa ei hun i ymwneyd a'i holl fater- ion Ileol, ao fel sydd yn Awstialia yn awr. Mae cryn anfoddlonrwydd yn ffynu ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd oherwydd gwaith y Oyfeisteddfod yn Liverpool yn penderfynu rhoi blwydd-dal o 200p. i gyn- ysgrifenyda y Genhadaeih Dram or ar ei ymddiswyddiad. Ac y mae yr anfoddlon- rwydd yn cynyddu fel y mae y ffaith yn dyfod yn fwy gwybyddus i'r Iluaws. Ed- rychant ar y penderfyniad yn beth nad oes galwad am dano, ac yn gam heb un rheswm i'w gyfiawnhau. Rhag niweidio y casgliad blynyddol, y mae cyfeillion y genhadaeth wedi bod hyd yn hyn mor ddistaw ag y medrent yn ei gylch; ond yn awr ar ol troad y flwyddyn, deallwn fod bwriad i ddwyn y mater i sylw yn y Cyfarfodydd Misol. Oddieithr i'r cyfryw benderfyniad gael ei alw yn ol, y mae yn sicr o ddylan- wadu yn ddrwg ar y casgliad cenhadol, ac fa fernir gan lawer y bydd yn lladdedigaeth i gasgliad mawr diwedd y ganrif. Nid yw y bobl yn arbed gwithdystio,yn erbyn cyi- ranu tuag at drysorfeydd i fod dan awdur- dod pwyllgorau i'w eamddefnyddio.