Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

AM BOBL A PHETHAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AM BOBL A PHETHAU. Mae y Parch Hugh Jones, (W.), Bangor, a Dr. Lewis Probert wedi eu hethol i breg- ethu yn y cyfarfod Cymreig sydd i'w gynal yn Llundain Ddydd Gwyl Dewl nesaf. Deallwn mai Wnion, Machynlleth, a enill- odd y wobr am I Ehiau cyfaddas i gyfansoddi Canig arnynt,' yn Eisteddfod Llanllyfni, dydd Gwener diweddaf. Yr oedd nifer yr ymgeiswyr yn naw. Ar ei ddyfodiad o Affrica mae y Fren- hinea wedi anrhydeddu Arglwydd Roberts a'r teitl o Iarll, a golynir i'r Senedd ei anrhegu a chodaid da o arian i gynal i fyny yr urddas. Hysbysir fod Castell Oraig-y-nos, D.O., preswylfod Madame Patti, ar yr hwn le y dywedir i 130,000p. gael ei wario ganddi, ar werth, a thebygol yw y prynir ef gan Syr George Newnes, A.S. dros Abeitawe. Mae perchenogaeth y Daily News wedi newid, a bydd ei bolisi ynglyn a'r rhyfel yn newid ddechreu y mis nesaf. Pleidia Rydd- frydiaeth yn gartrefol a thramoi-yr eg- wyddorion ddadleuodd gyda chryn ddylan- wad cyn toriad allan y rhyfel yn Ne Affrica. Cafodd dwy genhedlaeth y plesei- o edrych yn wythnosol ar ddarluniau damhegol a hanesyddol dihafal o brif ddigwyddiadau y dydd gan Syr John Tenniel, yn y papur dif- rifol y Punch. Maent yn awr wedi d'od i'r pen, gan fod yr awdwr ac efe yn 81 mlwydd oed wedi ymneillduo oddiwrth y gorchwyl. Ni fu profiad Dr. Parker yn fwy llwydd- ianus nag eiddo Mr. Sheldon yn ei ymgais i wneyd newyddiadur crefyddol' yn llwydd- iant. Wedi eistedd am wythnosyn nghadair olygyddol y Sun, cwyna oherwydd anmhar- rwydd Cristionogion proffesedig i gefnogi newyddiadur na ddyry le i hapohwareuon, rhedegfeydd ceffylau, &c. Hysbysir fod y Boriaid wedi dinystrio gwerth 50,000p. ar weithydd mwn y Rand. Ni wnaethant un niwed o'r blaen iddynt, er ei fod yn eu gallu i wneyd. Ai ad-daliad ydyw am losgi eu ffermdai ? Dywedir yn awr fod Kitchener wedi cael ei atal rhag gwneyd chwaneg o ddifrod o'r natur hwn. Fel hyn y canodd un o feirdd Dyffryn Dyfi ar ddyfodiad y dwfr hir-ddysgwyliedig i'r Dinas Wele'r dwr heb gamwri,—dewiniaid Annwn gAnt eu siomi; I maes a brftd dewch am spri Yn siriol a'ch piseri. Wele'r Hir a Thoddaid' buddugol, gan Glan Wnion, Dolgellau, ar y diweddar Mr. Francis Evans, U.H., Dolgellau :— Hoff Francis Evans tirion o fonedd, Huliai i'w frodyr a'i wyn haelfrydedd Olud ei galon i dlawd ei goledd Ynad deallus yn Uawn didwylledd A cha hwn barch yn y bedd—tra yn lion Y rhed yr Wnion m rydia'i tinwedd. Y mae'r glowr Cymreig wedi gweled a dioddef oddiwrth lawer tanchwa ysgubol oddiar yr adeg y mae y pyllau mawrion sydd genym wedi eu hagor. Wele restr ddu-wyth o honynt a phob un o honynt yn cynwys colli dros gant o fywydau. Cymer, 1856-114 o fywydau; Risca, 1860-145; Ferndale, 1867—178; Aberearn, 1878- 268; Risca, 1880-119; Llanerch, 1890— 176; Park Slip, 1892-110; Cilfynydd, 1894-276. Gan' mlynedd yn ol nid oedd y fath beth a boes o fatches yn nhy y Brenin. Dyna lie yr oedd twrw a helbul o eisiau matchet i gyneu tin-a phaham ? Dim un wedi ei dyf«i»io. Daeth canrif y luciftr match, a phwy na ddywed nad yw, er mor lloiod, yn un o ddefnydd a gwasanaeth anhraethadwy Y mae yn syndod meddwl fod tan a chyneu tin wedi bod yn y byd am filoedd o flynydd- oedd cyn dyfeisio gwas bach mor symllac mor angenrheidiol a luexfer match, ond felly y bu. Mewn cyfarfod o Gyngor Trefol Birming- ham, cafwyd dadl boeth neillduol mown cysylltiad a'r cynyg i anrhydeddu Iarll Roberts, trwy roddi Rhyddid y ddinas,' i'r Maeslywydd. Pasiodd geiiiau cas rhwng y pleidiau-i-hai yn erbyn hyny, bid sicr. Beth bynag, ar ol,liir ddadleu, nes i bethau arwain bron i bwynt-gwaeth na bod yn deg, basiwyd trwy fwyafrif fod yr anrhyd- edd hwnw i'w roddi ar gopa arwr y dydd.' Y mae Uadd un yn arwain i'r crogbren, ond lladd miloedd—cyfoeth mawr a gwlad i blygu Q'i flaen, a'i addoli.

ANNIBYNIAETH YN DINAS MAWDDWY.

PENOD YR ENWOGION

NAPOLEON.-

CORitlS. ''

ABl&IUWr ". I,It.-

--$einton 12r Jlroen.

EGLWYSI RHYDDION CYMRU.

AI)RAN Y MEROHED.

,ABEKYSTWYTH..