Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
19 erthygl ar y dudalen hon
...,......,..., petition JUveit.
petition JUveit. 0 AWDL Y GREADIGAETH.' GAN EXIT-FS. Daeth y chwechfed dydd—a'i weitliradoedd, A. difyr oedd yr hyfryd foreuddydd- 0 forau anarferol! dihuuai Pob dawn peroriaathol Yn gytun, heb un yn ol, 0 gan i Dduw'n blygeiniol. Duw hael ddywedai eilwaith Fel hyn yn ei ddwyfol iaith, Gwnawn ddyn yn ddernyn addurnawl—yn ben Pob bod igelbrenawl; Dyn a medr i ledu'n mawl—mewn meddiant 0 raglawyddiant a dawn arglwyddawl.' Yna'r dyn a rodiai yno—yn dal A delw Duw arno Heb baid o'i lygaid airiol o-y daeth Tan o wybodaeth yn tanbeidio. Dyn a wnaed o anian i Ddilyth a eyml addoli, I lawn dreulio ei einioes, I foli y Rhi a'i rhoea.
DYFERION DIRWESTOL.
DYFERION DIRWESTOL. Y CWRW GWENWYNIG. Fel y gwyddis, darfu i'r Llywodraeth roddi swllt y faril o drcth ar y cwrw er mwyn gwneyd i fyny ychydig o gostau llofruddiaeth y Trans- vaal. Ond rhag colli dim o'u helw, ymddengys fod y darllawyr mawiion wedi defnyddio y siwgr rhataf a salaf, ac arsenig—gwenwyn marwol ynddo. tuag at gwneyd i ffwrdd a dy- lanwad y dreth Y canlyniad yw fod canoedd yn Manchester ar cylch wedi dioddef oddiwrtho, a degau wedi meirw, ac yn parhau. Ond mewn vstyr arall mae wedi bod yn fendithiol. Gwag- oawyd tafarnau y dref. Nid oes ond ychydig o yfwyr ar y drwyth ynddynt gan fod y lluaws Wedi eu taraw gan ddychryn rhagddi. Nid oedd Syr Wilfrid Lawson a J. B. Gough ddim yw cymharu fel arweithwyr dirwestol a'r araeth ddystaw hon. Yr oedd hen yfwyr yn mewn braw wrth orfod credu fod angau yn y crochan cwrw.
Y LLYWODRAETH A DIRWEST.
Y LLYWODRAETH A DIRWEST. Ar hyd y flwyddyn ddiweddaf ni wnaed dim mewn ffordd o ddeddfwriaeth dda yn y Senedd gydag achos dirwest, ond parodd i gryn lawer gael ei atal a'i droi yn ol-Mesur y Plant yn un. Wedi rhoddi Dirprwyaeth gref ar waith i chwilio i mewn i ddiffygion cyfundrefn y trwy- ddedau, ac i hono eistedd gryn dair blynedd, a dwyn adroddiad llafurus, yn cymhell llu o welliantau pwysig ydddi, yr unig groesaw roes y Weinyddiaeth hon—oblegyd yr un ydyw hi a'r un flaenorol o ran ei hegwyddor a'i hysbryd, terch fod ambell was newydd iddi—i'w hanog- aethau, ac ymesgusodi tu ol i'r gri hwylus- I Atfrica, Affrica Da chwi, peidiwch a'n haf. lonyddu gyda rhyw bwnc moesol, digyffro, fel diwygiad dirwestol; meddyliwch am eich gwlad a'i gelynion, a glynwch with rywbeth ymarferol.' Felly Pwy, ar hyd y lfwyddyn a'r ganrif ddiweddaf, a feddyliodd fwy am eu gwlad a'i gelynion na dirwestwyr Prydain Fawr; a phwy lynodd yn fwy ffyddlon wrth eu cenadaeth na hwy, er eu difenwi gan y dosbarth hwnw sydd rhy ddwl i ddeall na gwerthfawrogi y gwladgarwch uchaf.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. Dydd Mercher, chwareuid clychau Eglwys y Plwyf, er dathlu priodas Miss Trevor, merch hynaf Canon Trevor OEN CYNAROL—Dydd Sadwrn epiliodd dafad perthynol i Mr. David Jones, Cattle Dealer, Machynlleth, ac mae y ddafad a'r oen yn dyfod ymlaen yn rhagorol. ANGLADDAU --Dydd Sadwrn, yn y Cemetery, claddwyd Mr. Evan Lewis, Bryntyrdir. Bu yn stiward am beth amser yn chwarel Esgair- geiliog Gadawa mewn galar ar ei ol, briod a phedwar o blant.-Hefyd, yr un dydd, claddwyd rhan farwol Mr. Hugh Davies, Builder, o'r dref hon. Yr oedd yr ymadawedig yn wael er's hir amser, ac rai misoedd yn ol wedi bod dan operation. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau, ac efe ond 38 mlwydd oed. Yr oedd yr angladd yn un iluosog a pharchus. Cydymdeimlir yn fawr a'i weddw a'r tri plentyn bychan yn eu galar a'u colled. Y CYNGOR TREFOL. Cynhaliwyd dydd Mawrth, Mr. J. Thomas yn y gadair. Hysbys- odd Mr. R. Rees fod y mater o gyfranu tuag at gostau y brif-ffordd wedi bod dan ystyriaeth Pwyllgor y Prif-flyrdd yn y Cyngor Sirol, ond nad oeddy Cyngor wedi cael amser i basio dim yn derfynol ar y mater hyd y cyfarfod nesaf Credai y byddai cyfran Machynlleth oddeutu 3op ac ystyriai hyn yn dda iawn.—Darllenwyd Hythyr oddiwrth beirianwyr neilldaol, yn cynyg eu gwasanaeth ynglyn a'r cynllun o oleuo y dref A thrydan. Ni phasiwyd dim.—Pasiwyd fod yr holl Gyngor i gyfartod Mr. Denniss, rheolwr Llinell y Cambtian, dydd Iau, er cael ymgynghoriad ynglyn a'r bont fwriadedig dros y Ddyfi -Hysbysodd y trethgasglydd fod y swm o 143P. 7s. 2C. wedi eu talu i'r trysorydd er y cyfaifod o'r blaen, ond yr oedd 2op. o hen ddyledion heb eu talu. Oherwydd nad oedd arian mewn llaw, oedwyd talu biliau a chyf- logau i'r swm o 7Ip.-Ymffurfiodd y Cyngor yn bwyllgor i ystyried mater y caithffosydd.
CRICCIETH.
CRICCIETH. DARLITH.-Nos Iau, traddododd Mr. Owen Griffith, B.Sc., ddarlith ddyddorol ac addysg- iadol ar Drydaniaeth,' yn Ysgoldy Seion. Pe buasai y ddarlith wedi ei gwneyd yn fwy hysbys, tiall) buasai y cynulliad yn llawer lluosocach.
AM BOBL A PHETHAU.
AM BOBL A PHETHAU. Cyflwynwyd i Cranogwen yn Aberdar, dysteb oddiwrth ei chyfeillion, yn cynwys y swm o 403p. 13s. 6e. Rhoddodd y Llywodr- aeth, drwy Mr. Balfour, 50p. tuag ati. Mae y Frenhines, drwy ei hysgrifenydd, Syr Arthur Bigge, wedi ysgrifenu at yr Arglwyddes Parker i ddatgan ei gwerth- fawrogiad o'r gwasanaeth rhagorol wnaed gan yr Ysbyty Cymreig yn No Affrica. Dydd Mawrth, cyfarfu Pwyllgor Trefn- iadol y Swyddfa Ryfel. Neges y Pwyllgor hwn yw awgrymu diwygiadau yn y Fyddin. Y mater a drafodwyd yn y cyfarfod cyntaf ydoedd pa fodd i fyned ymlaen gyda'r gwaith. Boreu dydd Mercher, ymadawodd y Mil- wriad Platt, Mrs. Platt, a Miss Platt. o Gorddinog, ger Llanfairfeclian. Eu bwriad yw myned ar daith i fyny Afon y Nile, mor bell a Khartoum. Byddaut oddioartvef am oddeutu tri mis. Sefyll allan y mae tair mil o lowyr yn y glofeydd perthynol i Gwmni Glo Oambriau, yn Nghwm RhoRdda. Y rheawm am hyn, fel yr honir, yw nad oedd y gweithwyr yn cael digon o goed i ddiogelu y lleoodd y byddent yn gweithio ynddynt. Mae y Llywodraeth wedi apwyntio Dir- prwyaeth i wneyd ymchwiliad i ansawdd y diodydd a'r bwydydd, y dywedir eu bod o natur wenwynigr i't. amcan o ddeddfu arnynt yn y Senedd. Ymhlith yr aelodau y mae Arglwydd Kelvin, a Phenaeth Colog y Physigwvr. Nid yw hinsawdd oer Holland yn dy- gymod a'r Cyn-lywydd Kruger. Bu yn bur wael yn ddiweddar tan y bronchitis, ao ofnid unwaith am dano. Ond y mae'n well y dyddiau hyn; a disgwylia gael byw eto i weled ei wlad wedi ail enill y safle yr oodd ynddo cyn y rhyfel. Mae'r Swyddfa Rhyfel wedi cyhoeddi ad- roddiad yn dangos y oolledion sydd wedi oymeryd lie yn Ne Affrica. Y n yatod y mis diweddaf yn unig collwyd 13 o swyddogion, 198 o ddynion trwy eu lladd, a 52 o swyddog- ion, a 565 o ddynion trwy eu olwyfo (o ba rai y bu farw 87); ac mae 17 o awyddog- ion a 661 o ddynion ar goll. Cyfanswm ein colledion er dechreu y rhyfel yw 51,687. Un oweBtiwn ag sydd yn codi i fwy-fwy o sylw ydyw y priodoldeb o fod pob gyriedydd tren yn pasio arholiad, ac yn oael trwydded gan y Bwrdd Masnach, yn arwydd o'i gym- hwysder i'w swydd. Dan y trefniadau presenol, arolygydd y llinell yn unig sydd yn barnu eu cymhwysderau. Myn Ilawer y dylid cael rhywbeth mwy pendant na hyn fel prawf o'u haddasrwydd i ymgymeryd a chyfrifoldeb mor fawr. Mae y wobr o lOp. gynygiwyd yn Eis- teddfod Dolgellau am y traethawd goreu ar Dr. Edward ,.Tones- ei fywyd a'i waitli,' yn awr wedi ei rhanu yn gyfartal rhwng Mr. W. R. Hall (S wyddfa'r Cambrian Mm), Aberystwyth, a Mr.Robert Evans (Swyddfa'r Soron), Bala. Dywed y beirniaia, y Prif- athraw T. F. Roberts, a'r Henadur Edward Griffith, fod y ddau draethawd yn Ilawn deil- yngu y wobr ac yn anrhydedd i'r Eisteddfod. Mr. Owen Thomas, Bryndu, Mon, sydd ddiaoon adnabyddus gyda'r Annibynwyr, ac yn un o'r dynion mwyaf dymunol mewn cwmni. Y mae y diacon hefyd yn Gyrnol, ac mae'r ddwy awydd yn ngolwg rhai, fel yn mingamu ar eu gilydd. Yn ddiweddar yr oedd y Cyrnol yn darllen papyr mewn Cyfarfod Chwarterol yn Mon ar Ddyled- swyddttu Diaconiaid yn yr Eglwys;' ac yn fuan wed'yn cychwynodd y diaoon i Dde Affrica i ddysgu bagad o filwyr Prydain eu dyledswyddau hwythau at y Boriaid— saethu cynifer ag fydd bosibl o honynt mae'n debyg. Ynglyn a'r hysbysiad a wnaed ddydd Mercher fod Cwmni Carnegie wedi pender- fynu sefydlu yn Conneant, Ohio, y gweith- feydd pibellau mwyaf yn yr holl fyd,' mae Carnegie yn bwriadu cyhoeddi erthygl, ddydd Sadwrn, yn yr hon y bydd iddo ad- olygu dadblygiad gweithfeydd dur yn yr Unol Dalaethau, a dywed fod masnach dur y byd yn bresenol at drugaredd yr Americ- aniaid. Dywed ef fod gwneuthurwyr Am- ericanaidd yn anfon gor-gyflenwad o ddur, ae yn ol ei farn ef mae hyn yn golygu y bydd yr Unol Dalaethau ymhen y chwaiter canrif yn alluog i wneyd mwy o ddur aa'r holl genhedloedd i¡da'u IgUydd.
i ANNIBYNIAETH YN DINAS MAWDDWY.
ANNIBYNIAETH YN DINAS MAWDDWY. GAN TEGWYN. VII. Yn 1805 ac 1807 (blwyddyn y pregethwyd gyntaf gan y Wesleyaid yn y Dilias) y bu adfywiadau grymus, a dychwelwyd llawer, fel yn 1808 y gorfodwyd ybrodyr i helaethu capel y Dinas. Ac o'r adeg uchod y dechreu- odd yr achos yn y Dinas enill goruchafiaeth; ac o byny allan bu ganddo ddigon o north i dori dros bob anhawsderau oedd yn ei ffordd. Yr Yagol Sul Yn y cyfnod yma, fel y nodasom yn y benod flaenorol, y sefydlwyd Ysgolion Sabbothol yn y Dinas a Llanymawddwy, Oywarch, Cerist, a chym'dogaeth Bethseida a Groeslwyd. (Gwel Hanes Cychwyniad a Chynydd yr Ysgolion.') Hwyrach y caniateir i ni roddi Taflen, yn dangos sefyllfa yr ysgolion yn y flwyddyn 1828, fel dernyn o gywreinrwydd. A dichon nad ydyw yn hanes yr ysgolion hefyd, ac os felly, bydd yn werthfawr iawn. Cymer- wyd ef allan o Adroddiad o Rif a Llafur, a chasgliadau yr Ysgolion yn Sir Feirionydd am y fiwyddyn 1828, Dosbarth Dinas Mawddwy— Ysgolion. Rhif. Penodau. Adnodau. Dinas 104 914 15,810 Buarthglas 50 JÖ 4,008 GroesHvyd 6S 193 3.0i4 Ceunant 51 76 1,131 Llanymawddwy.. 56 1J6 2»492 Bethseida 84 293 4,844 Bu yma hefyd, at y nifer a nodasom yn y benod flaenorol, Owen Owens, Rhesycae (nnryw flynyddoedd), a'r diweddar, ond tra parchus ei goffadwriaeth, Hugh Morgans, Samah.yn cadw ysgol ddyddiol yn nghapel Annibynol y Dinas. Bu yr ysgolion hyn o ddylanwad mawr ar yr ardalwyr. Byddent hefyd, yn cynorthwyo Mr. Hughes ar y Sabbothau. Yr oedd y cylch yn dra eang, fel y gwelsom, yn y cyfnod hwn' Cofnodion Bedyddiadau. Mae yn perthyn i addoldy Annibynol y Dinas, ac yn cael ei gadw gan bob gweididog, Lyfr Cofnodion Bedyddiadau' o'r flwyddyn 1795 hyd yn bresenol. Y mae yn ddyddorol iawn. Rhoddwn yma y cyntaf fel cywreinrwydd .—; Rowland, son of Robert Rees, by Mary, his wife, in the Parish of Mallwyd, baptised April 5th, 1875, by Mr. William Hughes.' Rhoddwn eto ddyddiad pob un o'r gweinidegion fel y ceir hwy wedi deehreu eu coftiodi --Mr. John Williams, Feb 12, 1828; Mr. Robert Thomas, mewn llawysgrif wael, July 5, 1840; John Thomas, mewn llawysgrif dda, brydferth ar- benig, Sept 29, 1843 ac Edward Williams, May 7, 1848. Y mae yma amryw eraill hefyd wedi bedyddio, a rhoddi cofnodiad yn y llyfr. Gresyn na buasai yma lyfr cyffelyb i gofnodi y marwolaethau buasai y cyfryw yn dra gwerth- fawr i'r hanesydd yn y dyfodol. Bu yma yn Awst y 7fed, 8fed, a'r gfed, 1821, Gymanfa Meirionydd a Threfaldwyn yn cael ei chynal. Yr oedd ynddi y Parch. J. Jones, Main; Owen Thomas, Llanfechell; R. Roberts, Ceirchiog; Owen Owens, Rhesycae; J. Lewis, Pwllheli; D. Thomas, Penrhiwgaled; W. Jones, Caernarfon J. Griffiths, Ty Ddewi; E. Davies, Cutiau; J Ridge, Periygroes; D. Jones, Treffynon; D. Morgans, Machynlleth W. Jones, Rhydybont; T. Griffiths, Hawen; C. Morris, Athrofa Caerfyrddin; J. Roberts, Ltaabrynmair; W. Griffiths, Glandwr a William Williams. Wern. Soniai yr hen bobl lawer am bregeth yr olaf. Nis gallaf droi heibio fy ysgrifell heb nodi un ffaith arall, o'i chredu a grea yni, sef mai parhad o waith y tadau yw y gwaith presenoL Gallwn ddefnyddio ar hyn eiriau byw, trydanol, yr Arlywydd Abraham Lincoln ar gysegriad claddfa y milwyr undebol a syrthiasant ar faes gwaedlyd Gettysburg :—' Ein dyledswydd ni, y byw, yw cyflwyno ein hunain i'r gwaith an- orphenedig a ddygasant hwy mor bell; ein braint yw cysegru ein hunain yma ar lanerch eu habeith, i'r gwaith sydd yn aros o'n blaen, a phenderfynu na cha'dd y meirw farw yn ofer.'
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. MARWOLAETH.—Dydd Llun, bu farw Mrs. Hill, Werngoch,. Brithdir, yn 85 mlwydd oed. Gweddw ydoedd i'r diweddar Cadben Hill, yr hwn fu yn ymladd yn'rhyteloedd y Crimea a'r Mutiny. Mae iddi un ferch a dau fab mewn galar ar ei hoi PERSONOL.—Yn rhifyn Nadolig o Gylch- grawn Misol Prifysgol Glasgow, ceir darlun, a chrynhodeb o yrfa lwyddianus ein cyd-drefwr ieuanc Mr. Owen Lloyd Jones, Springfield Street, yr hwn sydd efrydydd yn y Coleg uchod ac er nad yw ond ieuanc iawn sydd yn un o'r fefrydwyr mwyaf llwyddianus yny Brifysgol, ac yn tfafrddyn gan bawb. Bu am beth amser y flwyddyn ddiweddaf, yn athraw cynorthwyol yn Ysgol Kagbarotoawl y Bala. Mae yn breg- ethwr derbyniol hefyd gyda'r M.C., ac fel y dywedir yn y cylchgrawn uchod, disgwylir pethau mawrion oddiwrtho.
,FFESTINIOG.
FFESTINIOG. NOSON GYDA'R Bul.RDD.-Nos Lun, yn nghapel y Rhiw, treuliodd y Gyradeithas Ddi- wylliadol amser difyr yn nghwmni y Beirdd. Darllenwyd papyr ar I Ceii-iog, Eben Fardd, a Phantycelyn,' gan loan Dwyryd ac ar 4 Dyfed, Elfed, a lolo Caernarfon,' gan Dewi Mai 0 Feirion. ADDOLDY NEWYDD.—Mae y gwaith o ad- eiladu addoldy- newydd i'r Methodistiaid, yn Maenofferen, wedi cael ei osod i Mr. David Jones Blaenau. Bwriedir iddo fod yn gapel hardd a chostfawr.
MYNACHLOG YSTRAD FFLUR.
MYNACHLOG YSTRAD FFLUR. Mor llonydd yw bywyd yn ardal Myn- achlog! Ychydig yw y gwahaniaeth rhwng Pontrhydfendigaid, Sir Abei-teifi, yn awr gydag eithrio yr aneddau a'r preswylwyr i'r hyn ydoedd yn yr amaier yr oedd y Rhufein- iaid yn myned dros Sarn Helen a thrwy y Rhydfendigaid, yn y He, ganrifoedd yn ol. Sarn Helen rodd yr enw Strata, ac o bosibl mai blodau y grug roddodd y Florida i'r ardal.
0, fangre brydierth I
0, fangre brydierth I Gwersylla y mynyddoedd a'r bryniau o gylch i'w amddiffyn rhag rhuthr corwyntoedd gauafol erch; ymlithra y Teifi fel sarff arianliw drwy waelod y glyn agored; pora y defaid a'r wyn yn eu rhysfaoedd ar y lethrau o amgylch gorphwysa y cwmwl a'r eira ar gopaau y myuyddoedd ban gwena blodau y grug yn dawel a siriol ar y rhosydd a'r gwaunydd—telora yr adar fry yn yr awyr las —. ac erys gweddillion hen Fynachlog Ystrad Fflur ar lan yr afon mown llanerch ramantus i ddweyd am ymroddiad aberthol y cynoeawyr o blaid y gwirionedd. Gwelir llaw anian yma amneidio i ofyn am lonydd- weh i'r ysbryd i gael gwrandaw ar ddistaw- rwydd mudanol yn llefaru am Dduw! Er mor arddunol yw ardal y Fynachlog mae rhyfeloedd dig wedi eu hymladd ar y llanerchau o amgyloh. Gerllaw tarddiad y Teifi, yr ymladdodd Gruffydd ap Llewelyn, Tywysog y Gogleddbarth, frwydr ofnadwy yn erbyn Hywel ap Edwin, Tywysog y De- heudir, yn yr hon y lladdwyd Hywel ynghyd a nifer fawr ei wyr. Cafodd Llew- elyn ei ladd wedi hyny drwy fradwriaeth a thwyll Madog Min, Esgob Bangor, ac anfon- wyd ei ben yn anrheg i'r Brenin Harold.
Codwyd y Fynachlog ardderchog
Codwyd y Fynachlog ardderchog- fu yma gan Rhys ap Gruffydd, Tywysog y Deheubarth, yn Fynachlog Cisterciaidd, sef y blaid grefyddol gyntaf a gychwynwyd gan yr Abbad Robert o Moleme yn y Fynachlog yn Citeaux (Cisteroium) gerllaw Dijon yn y flwyddyn 1098. Drwy ddylanwad Bernard Sant, yr hwn a ddaeth yn Fynaeh Citeaux yn 1113, cynyddodd y blaid fynachaidd hon mor gyflym fel yr oedd ganddynt erbyn y flwyddyn 1218 fwy na deunaw cant o Fynach- logydd drwy Ewrob. Profa hyn beth fedr ymroddiad a hunanymwadiad ei gyflawni. Beth raid fod y llwyddiant a allesid ei gael yn y byd crefyddol pe llwyddasid i ddeffro yr eglwysi i'w nerth a'u dyledswyddau trwy y byd! Chwareuodd Mynachlog Ystrad Fflur ran bwysig iawn yn mywyd gwleidyddol a chrefyddol Cymru am ganrifoedd. Bu Sisyllt, Abbad Ystrad Fflur, ar y daith hono gyda yr Archesgob Baldwin a Giraldus Cambrensis drwy Gymru yn 1188 yn preg- ethu ar ran Rhyfeloedd y Groes yn ngwlad Palestina, a bu yr Archesgob yn lletya yn y Fynachlog yn ystod y daith hono. Y Tywysog Llewelyn ap lorwerth yn awyddus i gadarnhau yr olyniaeth dywysogol i'w fab Dafydd cyn ei farw a wahoddodd yr holl dywysogion Cymreig i Fynachlog Ystrad Fflur a. gwnaeih iddynt oil dyngu llw o ffyddlondeb i Dafydd ei fab o'r Dywysoges Seisnig yn hytrach nag i Gruffydd ei fab hynaf. Ystyrid fod llw mewn Mynachlog i fod yn annhoradwy hyn sydd wrth wraidd o briodi yn yr Eglwys. Mae Duw yn bres- enol ymhob lie, a'r un yw llw pa le bynag y cymerir ef.
Cafodd ei dinyatrio a'i hanrheithio:
Cafodd ei dinyatrio a'i hanrheithio lawer gwaith yn y rhyfeloedd dig a fu cydi hwng y Cymry a'r Saeson. Dinystriwyd hi ac anrheithiwyd j wlad o amgylch gan Harri'r IV. yn ei gadgyrch yn erbyn Owain Glyndwr yn 1401. Yn nheyrnasiad lorwerth I., gosododd y brenin ar y Cymry i dalu treth er ei gynorthwyo i dalu am ei ryfeleedd drudfawr yn Ffrainc. Gwrthododd y Cymry yn bendant dalu y dreth iddo, a chefnogwyd hwy yn egniol gan Abbad Mynachlog Ystrad Fflur. Digiodd Iorwerth wrtho yn greulon, a llosgodd y Fynaohlog bron i gyd yn ddial arno. Wedi hyny edifarhaodd y brenin am ei weithred ysgeler, gorchymynodd i'r Abbad ail-adeiladu y Fynachlog, a chyfranodd 75p. tuatr at y treuliau. Perthynai i'r fynachlog fynwent eang iawn yn 150 erwau o fesur. Yn hono y cleddid nid yn unig preswylwyr y wlad gyf- agos, eithr hefyd holl enwogion a thywys- ogion Cymru. Ynddi y claddwyd y sylfaen- ydd Rhys ap Gruffydd yn 1196. Mae eryn debygrwydd mai yma y claddwyd Dafydd ap Gwilym, ac nid yn Nhalyllychau. Dywed yr hanesydd Leland, fod yn ei amser ef ddeugain namyn un o goed Yw henafol cauadfrig yn tyfu yn y fynwent, *a dy wadir fod holl dir perthynol i'r Fynachlog gynt yn rhydd o ddegwm hyd y dydd hwn. Wedi dadgorfforiad y Mynachlogydd yn amser H -arrir VIII. syrthiodd yr adeilad ardderchog hwn yn araf i adfeilion. Ceir yma lawer 0 olion ceryg nadd eaboledig, j eirch plwm henafol, ynghyd agwydr lliw iedig, priddfeini addurnol, dwy o seiliau ar y rhai yr oedd pais arfau y Fynachlog, a llawer o hynaflaetliau eraill. Gobeithio y diogelir olion yr hen Fynachlog yn ofalus I I' oesau a ddel.
CORRIS.,
CORRIS. ..Nos Wener nesaf, lonawr 18 fed, bydd-yr hybarch Hwfa Mon yn traddodi ei ddarlith boblogaidd ar Y dyn ieuanc,' yo nghapel Salem, Corris CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL SHILOH.— Cynhaliwyd cyfarfod o'r uchod nos w lonawr iieg, o dan lywyddiaeth y Parch. E. B. Roberts. Cafwyd papyr ar 'Caniadaethy Cyse^r,' gan Mr. James Lewis. Ond i bawb wneyd yr hyn oedd yn y papyr, bydd canu yr eglwys uchod yn sicr o fod ar ei fantais. AELOD. CYFARFODYDD GW]LDDIAU. CynhsLliwyd fel arfer, gyfarfodydd gweddiau yr wythnos ddiweddaf, yn yr holl gapelau yn y cylch, ac yr oedd arogl esmwyth arnynt Yr wythnos hon, mae cyfarfodydd gweddiau Undebol ya cymeryd lie, a'r wythnos nesaf, bregethu Un-. debol, er mwyn rhoddi arbenigrwydd ar ddechreuad y ganrif, fel y gwneir mewn cys- ylltiadau eraill.
TKBl"W T PBEQHTHAC.
TKBl"W T PBEQHTHAC. Aberllefenni,— Ion. 21 Paioh. Afonwy Williams yn nghapsl N.C. „ 22 „ H. R. Williams „ u < A. 23 E. Berwyn Roberts H M.O. 24 „ J. Roberts „ „ A. „ 25 „ Rhys Davies „ „ M.0. Eagairgeiliog,- „ Ion. 21 Parch. J. Jones Evans yn nghapsl M.U. ,,22 „ Afonwy Williams „ t 9 Ä. „ 23 ]Ef. R. Williams „ M.O. „ 24 Rhys Davies "u A. „ 25 E. Berwva Roberto,, M.O. Corris Igif,- Ion. 21 Parch, J. Griffiths yn Rshoboth. „ 22 J. Roberts yn Shiloh. „ 23 J. Jones Evans yn Salem. „ 21 H. W. Parry yn Rehobotk. ,,25 Afonwy Williams yn Shiloh. Corris Uchaf,— Ion. 21 Paroh. H. W. Parry yn Bethania. 22 J. Jones Evans yn Bethel. ,,23 Rhys Davies yn Moriah. ,,24 E. Berwyn Roberts yn Bethania. 25 J. Roberts yn Bethel.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. CYMDIITHAS LENYDDOL Y TABIRKACL.— Nos Lun, traddododd Mt. J. H. Davies, B.A., Cwrtmawr, ddarlith mewn cysylltiad a'r gym- deithas uchod. Ei destyn oedd Owain Lawgoch, arwr y Cymry.' Yr oedd cynulliad lluesog a chafwyd darlith hynod ddyddorol. Cadeiriwyd gan y Parch. T. Levi. MARWOLAIRTH.-Boreu dydd Sul, bu- farw Mrs. Catherine Rowlands, Meirion House, Great Darkgate Street Yr oedd allan. nos- Sadwrn, ac yn ymddangos mewn iechyd da. Yr oedd yn aelod di-argyhoedd o gweithgar gyda'r Bedyddwyr Cymreig, a bydd colled fawr • ar ei hoi Claddwyd hi prydnawn dydd Iau gan dyrfa barchus.
,ABERDYFI.-.""
ABERDYFI. MARWOLAETH SVDYN.Nol Fereher, bu- farw Mr. Phillip Evans, cychwr yn hynod sydyn. Yr oedd wedi bod yn cymeryd rhao mewn cyfarfod gweddi yn nghapel yr Annibyn- wyr. Ar ol hyny aeth allan. Deallwn fod rywbeth y mater arno a dilynwyd ef gan un neu ddau pa rai a'i cawsant wedi syrthio. Cariwyd ef i'r ty agosaf, lie y bu farw yn fuao. Y GWIRFODDOLWYR Nos Weher, cyfran- ogodd y Gwirfoddolwyr o swper rhagorot, otoedig ar eu cyfer yn y Victoria Temperance. A nos Fawrth drachefn, cynhaliwyd ganckiynti4 gyfarfod amrywiaethol dyddorus. Cymerwyd y gadair gan Mr. Wright, Plasuchaf. Dang-. oswyd amryw ddarluniau drwy gyfrwn^y Magic Lantern, gan y Parch. W. Roberts. Cymerwyd rhan mewn canu, &c., (gan y Mri. Festin Williams, J Lumley, E. Richards.
ABERANGELL. ,",';¡;
ABERANGELL. ,¡; Dydd Iau, rhoddodd Mrs. W;iltbn,Cwraw:: llecoediog, 'wledd 0 dfi, &c., i blattt ysgol^ ddyddlOl ylle uchod, ynghyd ag anrhegion roob plentyn-yn yr ysgol. Mae y foneddigej hon yo arfer rhoddi gwledd o'r fath bob blwyddyn, tua'r Nadolig, a da genym ddeall ei boa yfii parhau felly. Yr oedd yr anrh-eg-i ojaI-,y_ eu cyflwyno i'r plant gajn Mrs. a Miss,W|dton Hefyd, cafodd bob plentyn ddernyn o, arian* wedi ei fathodi y flwyddyn hon er cof am y* amgylchiad. Pasiwyd pleidlais 0 ddiolchgat- wch i Mrs. W:.Iun am ei charedjgrwydd ac hefyd i'r boneddigesau canlynol, y rhai oedd yn cynorthwyo Miss Walton,- Mrs. -Davies, Brynderwen Mrs. Honess, Lodge; Misses Pritchard a Jones, Ysgol y Bwrdd* &c. Canodd y plant amryw o weithiau |yn swynol, dan ar- weiniad Mr. Thomas, yr ysgolfeistr. Terlyn- wyd trwy ganu Duw gadwo'r Frenhines.'
PENMAENPOOL.
PENMAENPOOL. Nos Wener, cynhaliwyd cyfarfed aanyw. iaetholfyn nghapel y M.C. yn y He uchod. Yr oedd aelodau yr Ysgol Sul wedi bodyn mwynkau gwledd o de a theisenau yn y prydnawn, yr hwn a roddwyd yn rhad gan Mrs. Williams, priod y Parch. John Williams, Delgellau. Ar- weiniwyd gan Mr. W. R Williams, Dolgellau, a chymerwyd rhan gan Mri. E. Pierce, Liew Meirion, ac eraill. Hysbysodd y Parch. J. Williams ei fod wedi derbyn rhodd 0 isop. tuag at dalu dyled y capel oddiwrth gyfaill a ddymunai i'w enw fod yn guddiedig Cynyrch- odd hyn lawenydd mawr yo yr eglwys fccban«