Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

- $etniou Jlroen.

DOLGELLAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DOLGELLAU. Yn Nolgellau, dydd Sadwrn, aed trwy y seremoni o gyhoeddi y Brenhin Edward y Seithfed. Ffurfiwyd gorymdaith o'r Lion Hotel i'r Square, yn cael eu blaenori gan y Gwirfodd- olwyr, ac yno cyhoeddwyd y Brenin gan yr Uchel Sirydd, Mr. R. C Anwyl. COR BETHESDA.—Cynhaliwyd gan y c6r hwn nos Fercher, gyngerdd yn y Neuadd Gy- hoeddus, er cynorthwyo y rhai a ddioddefant oherwydd yr anghydwelediad yn Chwarel y Penrhyn. Llywyddwyd gan Mr. R Wynne Williams, U.H., a chaed cyngerdd rhagorol. Lletywyd y cor yn ddidraul. MARWOLAETH.—Dydd Mawrth cyn y di- weddaf, bu farw Mrs. Anne Lewis, priod Mr. Robert Lewis, Tailor, o'r dref hon, yn 81 • mlwydd oed Cafodd ei geni yr un flwyddyti a'r frenhines Victoria, a bu farw yr un diwrnod a hi. Yr oedd ei phriod yn un o'r rhai oeddyn canu y clychau ar goroniad y frenhines; ac hefyd ar farwolaeth Prince Albert. CWRDD CYMDRIT-HASOL,-Nos Woner, cyn- häliwydyr ail o'r cyfarfodydd uchod, o dan nawdd y Pyesbyeiriaid Seisnig. Cadeiriwyd yn ddoeth gan Mr. Harvey Jones, Llys Mynach. Yr oedd nifer fawr yn bresenol, a gwnaed elw da oddiwrtho.

.ABERGYNOLWYN.,

CWISGOEDD Y DYDDIAU CYST.

MACHYNLLETH.I

[No title]

AM BOBL A PHETHAU.

ANNIBYKIAETH YN DINAS MAWDDWY.

, VMWELIAGAU Y FRENHINES A…

TALYWERN.

[No title]

| DERWENLAS.