Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
- $etniou Jlroen.
$etniou Jlroen. Y FRENHINES BUDDUG. Ni a'i hawliwn yn nheulu—Gwalia deg, Y wlad hoff o'i meddu: A chan eiddgar wladgar lu Holl orchwyl yw ei pharchu. Ni fynai ddiliwyf einioes,—a gorwedd Mewn segurjd difoes; Hon wir fwyuiiai, ar fin oes, Godi rhagfur rhag drygfoea. Lion euaid llawn o yni-fti enald Y Fawr uchelfri Enaid am wneyd daioni, Heb baid oedd ei henaid hi. Hanesion ei theyrnasiad-ydynt oil Yn dwyn teg ddarluniad O'i rhagorol fawr gariad YnceisioJlunio gvelihad, D'ai cryf ddylanwad orefydd-a llwyddiant I'w llywyddiaeth beunydd: Hyn fu dawn penaf ei dydd, Ae enaid mitwr pob cynydd. BEBW.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. Yn Nolgellau, dydd Sadwrn, aed trwy y seremoni o gyhoeddi y Brenhin Edward y Seithfed. Ffurfiwyd gorymdaith o'r Lion Hotel i'r Square, yn cael eu blaenori gan y Gwirfodd- olwyr, ac yno cyhoeddwyd y Brenin gan yr Uchel Sirydd, Mr. R. C Anwyl. COR BETHESDA.—Cynhaliwyd gan y c6r hwn nos Fercher, gyngerdd yn y Neuadd Gy- hoeddus, er cynorthwyo y rhai a ddioddefant oherwydd yr anghydwelediad yn Chwarel y Penrhyn. Llywyddwyd gan Mr. R Wynne Williams, U.H., a chaed cyngerdd rhagorol. Lletywyd y cor yn ddidraul. MARWOLAETH.—Dydd Mawrth cyn y di- weddaf, bu farw Mrs. Anne Lewis, priod Mr. Robert Lewis, Tailor, o'r dref hon, yn 81 • mlwydd oed Cafodd ei geni yr un flwyddyti a'r frenhines Victoria, a bu farw yr un diwrnod a hi. Yr oedd ei phriod yn un o'r rhai oeddyn canu y clychau ar goroniad y frenhines; ac hefyd ar farwolaeth Prince Albert. CWRDD CYMDRIT-HASOL,-Nos Woner, cyn- häliwydyr ail o'r cyfarfodydd uchod, o dan nawdd y Pyesbyeiriaid Seisnig. Cadeiriwyd yn ddoeth gan Mr. Harvey Jones, Llys Mynach. Yr oedd nifer fawr yn bresenol, a gwnaed elw da oddiwrtho.
.ABERGYNOLWYN.,
ABERGYNOLWYN. PRIODAS.—Dydd Sadwrn, y 26ain cyfisol, yn Dolgellau, unwyd Mr. R Lumley Morris, mab y diweddar (Evan Morris, Ieuan Meurig, y bardd a'r lienor enwog), mewn glan briodas, 1 Miss Elizabeth Ellis-y ddau o'r pentref uchod, y mae y ddau yn aelodau ffyddlon gyda'r M.C., ac yn weithgar gyda'r aohos. Anrhegwyd y pAr ieuonc yn 01 arfer yr ardal gyda nifer luosog o anrhegion gan ddangos cu '■ teimliadau da. tuag atynt. Ymadawsant i dreulio eu Mis Mêl i Dregaron, Sir. Aberteifi. Dymunwn i'r pår ieuaac hir oes o dan weniadau y N efoedd.-Frondeg.
CWISGOEDD Y DYDDIAU CYST.
CWISGOEDD Y DYDDIAU CYST. Gyda golwg ar wisgoedd, yr ydy. wedi gweled chywldroad anghyffredin. Am wisgoedd merched y dyddiau h vn,nid yw o ddiben dechreu manylu. Mae eu ffasiynau yn newid agos bob wythnos; ac am eu hetiau, gan nad pa mor addurnol fyddant, rhaid tydd newid yr addurn- iadau yn amlach na phob lleuad. Nid fel yna yr oedd hi yn yr amser cyntaf gofir gan rai o honom Pan Y byddai y merched yn troi allan i'r ffair neu i'r addoliad byddai golwg wir brydweddol arnynt. Gwisgent fentyll Ilaesio hyd eu traed, a hetiau gyda chorynau meinion, o'r fath wneuthuriad da fel na byddai eisieu eu nhewid am flynyddoedd. Gweithid defnydd y rhan fwjraf o'u diUadau gan eu dwylaw hwy eu hunain,—y cyfan yn syral, eto yn hynod weddus, fel y canodd rhyw hen fatdd Nid oedd gan modryb Alls, Na ohwaith gan modryb Modleu, Ond bMMm am y goes, A oharai i glymu'r gloeaen. 1 Pais o ddu y ddafad, A ohrys o wlanen denau, Hot e frethys tew, A chap o lian eartre.' Ceid fod troell bach a throell fawr agos ymhob ty y pryd hwnw; a difyr iawn, ar hirnos gauaf, tra yn eistedd wrth dAn m .m neu goed, fyddai gwrando ar eu peroriaeth. Trwy Gymru oil yr oedd gwaith mawr yn myned ymlaen yn y ffordd o nyddu, dirwyn, llifo, a gwau, yn nyddiau'r tadau. Trwy brynu a gwerthu llin a gwlin enillai llaweroedd fywiol- iaeth gysurus. Yr oedd llinwyr a gwehyddieti yn Uuosog yn y tir; ac nid ychydig oedd nifer y teuluoedd a enillaut eu bywiolaeth trwy wneyd gwlaneni, brethynau, gwrthbanau, a Uieiniau rhagorol, y thai a ddygid ganddynt i'w gwerthu yn y marchnadoedd a'r tfeiriau. Yn wyneb y drefn yna ar bethau, naturiul oedd mai dillad o frethyn cartref a wisgid gan y meibion agos ymhob lie. Nid oedd son am ddillad, mwy nag am esgidiau, ready made, pan oeddwn i yn fachgen. Ac yn nhai y bobl fyddai mewn angen diliadau newyddion y byddai y teilwriaid yp eu gweithio, ac nid yn eu tai eu hunain. Da y cofiwyd am y pry er gyda pha un y disgwylid ameu dyfodiau i m hen gartref, pan y byddai mawr angen ar rai o'r teulu am sutt newydd. Os cedwid hwy yn ol dros rai dyddiau oherwydd angladd neu briodas, cyfrifid y dyddiau hyny yn rhai go hirion genym* Byddai gweled y meistr yn y ty gyda'i linyn mesur, a'r haiarn pressio, yn creu hyfrydwch uchelryw yn meddyliau y rhai ieuengaf yn sicr. Yn nhai y bobl gyffredin. ar ben y bwrdd mwyaf yn y ty, yr arferent wnio; oud yr oedd genym ni lofft pur gyfleus iddynt weithio ynddi; a mynych iawn yn ystod eu harosiad, y byddwn yn rhedeg i fyny atynt, i wylio eu hysgogiadau ac i gael rhyw newydd ganddynt. Beth bynag am y De. dyna y drefn yn y parthau gwledig drwy y Gogledd yn dra chyffredinol. sef, mai o dy i dy, yn 01 fel y gallent, yr elai y teilwriaid i weithio diliadau newyddion i'r bob!, ddeng mlynedd a thriugain yn 01 Byddai ganddynt hanesion pur ddifyr i'w hadrodd yn fynych am eraill, ac weithiau am danynt eu hunain hefyd. Daw hyn i'r Colwe yn glir iawn yn Nghofiant y diweddar Mr. David Rowland, Pennal, yr hwn oedd flaenor defnyddiol gyda'r.Methodistiaid, ac a adwaenid yn dda fel cyfaill caredig gan yr ysgrifenydd. Gwniedydd oedd ei dad, yntau hefyd a ddygwyd i fyny i'r un alwedigaeth, yr hon a ddtlynwyd ganddo hefyd am lawer o flynydd- oedd. Byddai ganddynt weithiau filldiroedd i'w cerdded yn y boreu; a byddai yn hwyr y nos pan gyrhaeadent adref, ar ol gwneud di- wrnod da o waith. Adroddir am danynt un tro yn gweithio mewn ty a safai tua haner y ffordd rhwag Pennal a Machynlleth. Un bychan oedd y ty, ac nid oedd ei ffenestri fawr fwy na throedfedd ysgwar. Dichon na ddixia neb wrthyf am ddyfynu a ganlyn allan o Gofi-i tit Dafydd Rowland,' felyr arferai y gwladyddion ei alw: ♦ Ar ryw ddiwrnod teg o haf yr oodd Hugh Roland a Dafydd Rolant yn gweithio yn y ty hwn Eisteddai yr olaf ar ryw ddodrefnyn wrth ymyl ffenestr fechan, a phedwar paen bychain iddi, er mwyn cael cymaint o oleuni i weithio ag a allai. Eisteddai ei dad ar beu bwrdd rn agos i'r drws, er mwyn iddc yntau gael ychydig ychwaneg o oleuni y ffordd hono, gan adael y drws o hyd yn agored. Cyn pryd ciniodaeth hen hwch fagu i roi tro trwy y ty ac yn ei ffwdan, taflodd gwraig y ty ddwfr poeth o'r crochan lie y berwail y tatws ar y tin, ar gefn yr hwch i «gu; ac mewn eiliad rhoddodd hono, sponc, a rhuthrodd tua'r drws, o dan y bwrdd lie yr oedd Hugh Rowland yn gwnio, gan gario y bwrdd a'i lwyth o'r ty yn ddigon pell. Faint bynag fu maint yr anffawd, dym- chwelwyd y bwrdd a'i lwyth yn glir yn yr awyr agored; a chwarddai y llanc oedd yn gweithio wrth y ffenestr nes oedd ei ochrau yn siglo, fel y chwarddodd laweroedd o weithiau wedi hyny wrth adrodd yr hanes.'—O'r Geninen am lonawr.
MACHYNLLETH.I
MACHYNLLETH. LLAWFER.—Llwyddodd Miss Ethel Pearce, Doll Street, i enill tystysgrif elfenol Pitman mewn llawfer. YR YSGOL GANOLRADDOL —Dydd Gwener, cynhaliwyd cyfarfod o'r llywodraethwyr Mr. Richard Rees yn gadeirydd.—Pasiwyd pleidlais ° gydymdeimlad a Mr. Meyler, y prifathraw, yn ngwyneb colli ei briod drwy farwolaeth Darllenwyd llythyr oddiwrth MraAlfred Hughes yn diolch i'r llywodraethwyr am y cydymdeimlad amlygwyd ganddynt attar, farwolaeth ei phriod.—Penderfynwyd trosglwyddo i4p. yn flynyddol tuag at gronfa i ddarparapparatus y i'r ysgol. CAPEL MAENGWYN.J-.Y flwyddyn ddiweddaf, gorfu i'r Parch. W. S. Jones, oherwydd gwaeledd iechyd, roddi i fyny ofal bugeiliol eglwys Maengwyn. Yn ddiweddar, gwnaed cais eilwaitham iddoailymgymeryd a'r fugeil- iaeth, ac y mae yntau wedi cydsynio k hyny, ar yr amod iddo roddi i fyny wasanaethu eglwys" Der.wenlas, a'r hyn y cydsyniwyd. • CVMDEITHAS Y CYMREIGYDDION. Nos Fercher, yn y Neuadd Drefol, o dan lywyddiaeth Mr John Rowlands, traddododdy Prifathraw Roberts, Aberystwyth anerchiad gwerthfdwr ar Addysg a'i egWyddorion.' Cafwyd anerchiad dysgedig a gwrandawiad astud iddo Oddi- wrth eibrofiad dywedodd fod y gwelliantau addysgol yn ngwledydd yCyfandir yn gadael Cymru ymhell ar ol er cymaint ei manteision. Rhoddai bwys ar ddysgu crefftiau yn yr Ysgol- ion Canolraddol, ac ar i'r rhieni adael eu plant ynddyat am bedairblyneddoleiaf. Oddi- eithr 1 hyn gymeryd lie profai yr adfywiad presenol yn Nghymru yn fethiant. Dylid cael cyfundrefn bribdol at addysgu pupil teachers. Yna sylwodd ar egwyddorion sylfaenol addysg, sef ffurfiad y cymeriad, a gneyd dynoliaeth deilwng. Ofer fydd yr addysg os na chy- rhaedda rywbeth uwch na'r amcan o wneyd arian ac enill anrhydedd daearol brau. Dylid amaethu y galon yn gystal a'r pen gwerth- fawrogi addysg er ei fwyn ei hun, a'i ddefn- yddio yn offeryn tuag at ddyrchafiad cym- deithas.
[No title]
Mae gorchymyn wedi myned allan o'r Gyfrin-gyngor i newid y l'hanau o'i, Llyfr o weddi Oyffredin, lie y uiae gweddiau dros y teulu brejjJunol, i
AM BOBL A PHETHAU.
AM BOBL A PHETHAU. Hysbysir am farwolaeth Mr. Robert M. Hawkes, gynt o Doloorsllwyn, Cemraes, Maldwyn. Tynwyd yn ol y ddeiseb ynglyn ag etliol- 0 iad Penfro. Cadwodd Mr. Lough, A.S., dros Islington, Llundain, ei sedd. Yr wythnos o'r blaen, yn Berlin a tlirefydd eraill Germani dathlwyd dau can' mlynedd genedigaeth Teyrnas Prwsia gyda llavver o rwvsg. Y mae tua 16,000,000 o ddisgyblion yn ysgolion y Talaethau Unedig, gynifer ag sydd yn Germani, Ffraino a'r Eidal gyda'u gilydd. Cynhelir Brawdlysoodd y Gwanwyn yn y Trallwm, Chwefror 20 Dolgellau, Chwefror 22; Llanbedr, Chwefror 23; Caernarfon, Chwefror 25. Mae Arglwydd Lywydd y Cyngor wedi penodi Arglwydd Tredegar a Dr. Isambard Owen yn aelodau am eu hoes o Lys Pi if- ysgol Cymru fel olynwyr i'r Ardalydd Bute a'r Parch. Brifathraw Edwards, y rhai fuont eu dau farw yn ystod 1900. Mewn lluaws o sefydliadau cyboeddus Cymreig paeiwyd cydymdeirulad a'r teulu brenhinol oherwydd marwolaeth y Fren- hines. Un o honynt oedd Pwyligor Gweithiol Prifysgol Cymvu, o ba un y mite y Brenhin Edward yn dal y swydd o Gaug- hellydd. Mae araeth Due Norfolk, diweddar swyddog o'r Llywodraeth, tra ar ei ymwel- iad a Rhufain yn hawlio adfer y tiriogaethau Pabaidd yn feddiant i'r Pab wedi creu an- foddlonrwydd mawr yn Lloegr. Mae'r honiad o Lywodraeth ddaearol yn adlew- yrchiad ar deyrngarwch y Pabyddion i'r Goron. Ar esgyniad ei Mawrhydi i'r orsedd yn 1837, gelwid arni i deyrnasu dros 8,029,000 o filldiroedd ysgwar, tra ar derfyn 60 mlynedd o'i llywodraeth yr eangesid ei thiriogaethau i lIt miliwn o fildiroedd ysgwar. Yn 1837, teyrnasai dros 168 mi[iwn o ddeiliaid, tra yn 1897 y teyrnasai dros tua 400" miliwn. Yn 1837, yr oedd cyllid yr Ymherodraeth tua 75 miliwn. Yn awr mae yn ddim llai na 225 miliwn. Y tirfeddianwr mwyaf yn Lloegr ydyw y Due o Northumberland, yr hwn sydd yn feddianol ar 186,000 o aceri o dir, ond nid yw yn meddu yr un acer yn yr Alban na'r Iwerddon. Y tir feddianwr mwyaf yn yr Iwerddon ydyw Ardalydd Conynghan, yr hwn sydd yn perchellogi 156,000 o aceii; tra mai Syr Watkin Williams Wynn, gyda 145,000 o aceri yn sefyll uchaf yn Nghymru. Syr Watkin ydyw yr uuig dit feddianwr gyda tliros 100,000 o aceri o dir sydd heb fod yn aelod o'r bendefigaeth. Gadawodd y ddiweddar usurwr Iuddewig Samuel Lewis, Grosvenor Square, Llundain, yn ei ewyllys rodd o 400,000p. at adeiladu tai i dlodion y Brifddinas, a 250,000p. tuag at gronfa ysbyty Tywysoges Cymru, heblaw cyfroddion helaeth at wahanol achosion per- thynol i'r Iuddewon. Ei oedran oedd 63 mlwydd. Cyfarfod ag anghenion yr aris- tocrataidd y byddai ni wnai fusnes gyda phobl gyffredin. Cai lawer o bleser mewn blingo'r mawrion, eto, cyfranai lawer i'r tlodion ar adegau. Dywedir fod y mili wnydd Carnegie yn trefnu mintai i archwilio Patagonia drosti igyd. Ni arbedir cost na thrafferth. i gael y dynion, offerynau a'r taclau goreu at y gwaith. Mae cryn sylw wedi bod ar bapyr a ddarllenwyd o flaen y Gymdeitbas Wydd- onol Brydeinig gan y Proffeswr W. B. Scott ar Ddaeareg Patagonia. Yinaemilffosylaii y wlad yn hynod debyg i rai Awstralin, New Zealand, a De Affrica. Oddiwrth hyn y eesglir fod y gwledydd hyn wedi bod yn gydiol a'u gilydd a bod cyfandir cyfan wedi suddo o'r golwg rhyngddynt. Trwy jl cyfnewidiad yn y Frenhiniaetb bydd llawer o gyfnewidiad mewn ymadrodd- ion yn cymeryd lie—ei Fawrhydi yn lie ei Mawrhydi; K.C., yn lie Q C. (Queen's Counsel); llongau ei Fawrhydi, a milwyr y Brenhin. Ni ddaw y Due York i fod yn DywysogCymru ar unwaith. Nid teitl a geir drwy enedigaeth ydyw, ond un a gr sir ac a arddodir. Bu llawer o'r Tywysogion hynaf heb y teitl o Dywysog Cymru. Gelwir Ducess Fife, merch hynaf y Brenhin yn Dy- wysoges Frenhinol (Princes IZo al), a'i mam 11 y yn Frenhines C^dweddog (Quee Consort..
ANNIBYKIAETH YN DINAS MAWDDWY.
ANNIBYKIAETH YN DINAS MAWDDWY. GAN TEGWYN. IX. Y ddyled oedd ynaros Hydref, 1845, oedd 138p. 17s. 2c. Cyfanswn, 397p. 48. I lio. Yna y mae yn dilyn enwau y tanysgrifwyr, ymysg y rhai mwyaf eawn y rhai canlynol:— p. s. c. Edward Davies, Tymawr 20 0 0 Richard JSvans, siopwr, a'r teulu 26 0 0 Rowland Evans, Tanybwlch 6 13 0 Eth. Evans, 6 0 0 Owen Evans, Penygraig 5 0 0 John Evans, Tydu 2 0 10 Rowland Evans, Dolobran 11 13 10 0 Cyfanswm y tanysgrifiadau ..147 18 6t liwelir yu ol y cyfrif blaenorol mai y ddyled oedd yn aros hyd Hydref, 1845, ydoedd 138P. 17s. 2c., ac mai swm y casgliad a wnaed tuag at ddileu y cyfryw ddyled, o'r amser uchod hyd Mai, 1846, ydoedd 147P. 17s. 6Jc.; felly erys mewn llaw 9p. is. 41c., y rhai a ddefnyddir tuag at adgyweirio addoldy Ebeneser.* Gwelir fod yma lafur mawr yn y blynyddau uchod. Dyma leoedd arosol iddynt bellach i wneyd gwaith. Ac yn wir, ni a gawn yr achos goreu mewn canlyniad i godiad yr adeiladu hyn yn myned rhagddo, yr Arglwydd yn bendithio llafur yr hen frodyr, yr eglwys yn Uuosogi, a'r gynull- eidfa yn cynyddu. Ap Vychan. Yr ydym wedi sylwi fod Mr. Williams wedi symud oddiyma i lafurio yn 1839 » a r eglwysi 0 ganlyniad heb weinidog. Ond yn y flwyddyn 1840, rhoddodd yr eglwysi alwad i Mr. K. hert T homas (Ap FychanJ, ac urddwyd ef Mehdin iSfed a'r 1ge9. 1840. Ar yr achlysur, preg.th- wyd ar Natur Eglwys, gan S. Roberts, LIan- brynmair; holwyd y gofyniadau gan Mr. C. J ones, Dolgellau dyrchafwyd urdd-weddi gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; a pregethodd Mr. M. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr. E. Evans, Abermaw, i'r eglwys. Cymerwyd rhan hefyd yn y cyfarfod gan Mri. H Morgans, Sammah; E. Hughes, Treffynon H. Lloyd, 1 Owyn; E. Griffiths, Llanegryn; J. Parry, Machynlleth, ac E. Roberts, Marton. Gwel Dysgedydd, 1840, tudal 288. Ganwyd Ap Vychan yn Llanuwchllyn yn 1809 ni chafodd awr 0 ysgol pan yn blehtyn. Bu yn was amaethwr 0 10 i 17 oed, yna aeth i ddysgu bod yn df. Bu am ryw hyd yn aelod gyda'rJTrefnyddion Calfinaidd. Pan syrnudodd i Groesoswallt, ymunodd a'r Annibynwyr. Sy- mudodd i Gonwy, priododd yno, a dechreuodd bregethu, ac yn 1848, fel y gwelsom, urddwyd e yn y Dinas. Symudwyd oddiyno drachefn i Liverpool, oddiyno i Rhosllanerchrugog, oddi- yno i Bangor, ac oddiyno i fod yn Athraw Duwinyddol yn y Bila, ac yn weinidog yn eglwysi y Bala a Thynybont. Bu farw EbriJl 23ain, 1880, yn 71 oed. Plentyn natur oedd efe fel bardd a phregethwr. Enillodd lawer 0 wobrwyon eisteddfodol a chadeiriau, a bu yn rhan 01. y Dysgedydd am flynyddoedd. Yr oedd yn ddaiilenwr mawr, a chyfrifid ef yn dywysog yn yr areithfa. Yr oedd yn ddyn cryf, esgyrnog, ac yr oedd rh/w swyn yn ei ddawn, a choethder yn ei ymadroddiada gaiiu bobpeth o'i flaen. Bu Mr. Thomas yn y Dinas am tua dwy flynedd yn nodedig o lwyddiaaus, a ph obl- ogaidd, ac yn wir roedd y tymor yma yn dymor llewrychus iawn ar grefydd yn yr ardaloedd hyn. Y mae 61 y tymor hwnw ar yr eglwysi hyd heddyw. Yn ei dymor ef y codwyd Ysgoldy Hermon, Cerist. Clywsom ef ryw dro yn dywedyd yn gyhoeddus, ei fod yn ofni ei fod Wedi symud o'r Dinas heb gyfarwyddyd oddi fry. Yr oedd ei symudiad oddiwrth yr eglwysi yn siomedigaeth dirfawr, yn gystal a'r holl wlad oddiamgylch. Gwel yn helaethach ar hyn yn Cyf SV., Banes Eglwysi A nnibynol Cymru, tudal. 83. Mr. John Thomas. Yn y flwyddyn 1843, derbyniodd Mr. John Thomas o Fachynlleth, alwad oddiwrth yr eglwysi yma, ac urddwyd ef Medi 29aln., 1843. Pregethwyd ar yr achlysur, ar Natur Eglwys, gan Mr. C. Jones, Dolgellau; holwyd y gwein- idog gan Mr. H Morgans, Sammah gweddi- odd Mr. J. Williams, Aberhosan pregethwyd i'r gweinidog gan H. Lloyd, Towyn, a Mr S. Roberts, Llanbrynmair. Pregethwyd hefyd gan Mri. J. Edwards, Ebeneser; D. Davies, Berea; J. Hughes, Llangollen W. Roberts, Penbontfawr; H. James, Llansantffraid ac E. Evans, Abermaw. Gwel Dysgedydd, 1843, tudal. 249. Ganwyd Mr. Thomas yn ardal Machynlleth. Ni chafodd fawr o fanteision addysg foreuol. Cafodd ei urddo fel y gwelsom yma yn 1843. Symudodd oddiyma i'r Amwythig, oddiyno i Ellesmere, oddiyno i Tredegar, ac o Dredegar i Abertawe. Vr oedd yn ddyn nad oedd neb yn amheu ei dduwioideb. Pan fyddai excurs- ions, fteiriau, neu eisteddfodau yn ei gyraedd, ceid ef yn foreu gyda beichiau o draethodau, ac wedi hyny yn eu rhanu drwy y dydd. Os gwelai rhyw gynwrf 4"vg yn myned ymlaen, torai allan i weddio. Dywed an am dano, nad oedd erioed wedi gosod gwerth ar arian, ac nis medrai eu cadw wedi eu cael.' Bu farw Tachwedd 5ed, 1884, a chladdwyd ef yn nghladdfa gyhoeddus Abertawe. Cafodd barch fel gwr Duw gan ei gyd-drefwyr. Dywedir iddo fod yn ddiwyd am y tymor y bu yma. Ond fel y dywed y prif fardd Tafolog, 4 nad oedd yn cymeryd rywfodd yn y cylch, nid oedd yn taraw gweinidogaeth sefydlog fel yr eiddo'r Dinas, eto iddo lanw ei gylch priodol ei hun gydag ymroJdiad a duwioldeb,' *j>Jid > w y cyfrif yu gywir yu Nghofiaut y di- weddar Mr; Willi*»i,
, VMWELIAGAU Y FRENHINES A…
VMWELIAGAU Y FRENHINES A CHYMRU. Yn Medi, 1832, yr ymwelodd y Frenhines gyntaf a Chyiiii u, yn Dywysoges ieuanc 13 oed, tan ofal ei mam. Treuliasant amryw wythnosau yn y Plas Newydd, palas Ardal- ydd Mon ar lau y Fenai, gan ymweled a manau o ddyddordeb, megis Caernarfon, Llanberis, Conwy, a'r amryw gampweithiau celfyddyddol a'r golygfeydd naturiol ygplen- ydd sydd mor doreithiog yn y rhanbarth hwnw. Rhoddir hanes manwl o'r holl wib- deithiau hyu gan Mr. Edward Parry yn y Royal Visits and Progresses to Wales ynghyd a rhestr o gyfraniadau y cwmni brenhinol tuag at amrywiol achosion elusenol a dyn- garol yn yr ardal. Priodolir Ilawer o ras- usau y Frenhines i ddoethineb a chyfar- wyddiadau ei phriod ond ni ddylid ar un cyfrif anghofio dylanwad anrhaethiol bwysic- ach ei mam ami. Mam ragorol oedd Duces Kent, ac yr oedd hyny i'w ganfod yn amlwg yn ymddygiad doeth, gweddaidd, a phoblog- aidd ei merch. 4 Yn ystod yr ymweliad hwnw a glanau'r Fenai, y cynhaliwyd yn Beaumaris un o Eisteddfodau enwoeaf haner cyntaf yganrif. Towyd y lawnt Us yn y Castell a llian, oDd yr oedd gwlawogydd am y rhan fwyaf o'r pedwar diwrnod. Nid oedd yr un neuadd yn y dref yn ddigon o faint i gynal y cyfar- fodydd, ac yu ffrynt Baron Hill, palas Syr Richard Bulkeley y oynhaliwyd llawer ar y cyfarfodydd pan beidia'r gwlawogydd. Ar- wisgwyd y buddugwyr yno gan law y Dywysoges Caledfryn (y cadeirfardd), am ei awdl ar Ddinystr y Bothsay Castle; John Blackwell, Bardd Nantglyn, Will Ysgeifiog, Angharad Llwyd, Aneurin Pugh, &c. Uchel a dyrchafedig oedd caniadau y beirdd ar yr achlysur hwn, Wele ddau englyn o waith Bardd Nantglyn:— 'IDducesCttiut,braintilubro,- edmawlniawr, Bid mil mjrdd croeao, A'i Seren drylen, hardd dro, Hoeii ddiwriiod iln haddumo. Mae cenedl, a grym hawl cynhes,—i'n tirion Victoria D'wysoges, Mae ynom, o wraidd monwea, Galon yn wreichion o wrea.' Yr oedd trefuiadau llenyddol yr Eisteddfod dan ofal Gwrgant, a'r adran gerddorol yn nwylaw John Parry (Bardd.A lawl. -,Chwan- egodd yr olaf ar yr amgylchiad y penill canlynol at ei benillion adnabydddus Oh let the kind Minstrel:'— Far, far from the pomp and the splendour of court, To Cambria's sweet valleys the Royal resort; Oil let us our love and our gratitude show To those who such honours on Walia bestow. Ye bards and ye minstrels, your voices combine To welcome a princess of Tudor's famed line Goffoniant a moliant i'r Seren hvyt gain. Ar ei ffordd i Gymru, bu y teulu bren- hinol yn treulio noson yn y Castell Coch yn Mhowys, yn Wynnstay, ac am rai oriau yn Llangollen. Gadawodd y Plas Newydd i ddychwelyd yn ol ar Hydref 15, 1832, gan alw yn Nglionwy, Abergele, a throi i Bare Kinmel i fwynhau croesawbyr gan Arglwydd Dinorben; yna i Lanelwy, ac ymlaen trwy bentrefi Sir FQint, i Neuadd Eaton, 119 y tariasant am vai dyddiau yn weateion Ardal- ydd Westminster. Ymwelodd ei Mawrhydi drachefn a Chymru amryw weithiau, unwaith neu ddwy a'r Debeubarth, ac amryw weithiau a'r Gogledd ar oi ffordd i'r Iwerddon ae y mae ei hymweliad. ',a glanau'r Ddyfrdwy-Pale, Llandderfel, Bala, Llangollen, Gwrecsam, a lleoedd era'.ll ychydig flyhyddau yn Jol yn ddigon hysbys. Ei hymweliad olaf ydoedd yr haf diweddaf ar ei ffordd i'r Iwerddon, pryd y cyflwynwyd iddi anerchiadau a blodeu yn Nghaergybi.
TALYWERN.
TALYWERN. CYFARFOD ADLONTADOL. Cynhaliwyd yr uchod nos Sadwrn diweddaf, dan arweiniad Mr. R. Pugh, Pwlliwrch; ac aed trwy y rhaglen ganlynol :-Adroddiad gan Mr. Ellis Jones; deuawd Miss Edith Morris, a Miss J. M Jones; cystadleuaeth Cymreigio geiriau, Mr. J. Tibbott; adroddiad Mr. Joseph Owen cystadleuaeth darlIen dernyn heb ei atalnodi, Mr. R. Hughes cystadleuaeth ysgrifenu Ton wrth ei gwrandaw, Miss J M. Jones adrodd- iad gan Mr. Isaac Jones cystadleuaeth ar y Modulator, Mr. E. Hughes a Miss J. M. Jones yn gydradd; araeth ddifyfyr, Aft. R. Hughes cystadleuaeth cariu Ton a roddid ar y pryd, Mr. John Owen; pedwarawd gan Mri. J. Tibbot, E. Hughes, Miss E* Morris a Miss J M. Jones Er fod yr hih yn anffafriol, daeth cynulliad da ynghyd, a chafwyd cyfarfod dydd- orol a brwdfrydig.-W. H. J.
[No title]
Ionawr 13eg., dewisodd eglwys M.C., Utica, N. Y., y Parch. William Prytherch (Goppa), Abertawe, yn weinidog, am y cyflog o 300p. Mae Mr. Prydderch oddeutu 55 mlwydd oed, ac yn sefyll yn y rheng flaenaf o weinidogion ei enwad. Diagwylir y bydd yn dechreu ar ei lafur yn Utica tua diwedd Ebrill, t
| DERWENLAS.
DERWENLAS. DARLITHIAU.—Mae Cynger Plwyf Uwchy- gareg wedi sicrhau Miss Draper, gweinyddes yn un o ysbytai Llundain, i draddodi darlithiau ar y modd i drin y cleifion. Rhoddodd dair o ddarlithiau ya Ysgoldy y Bwrdd yr wythnos ddiweddaf. Yr eedd no gynulliad llawn a phawb yn gwrando gyda dyddordeb. Yr wythnos hon hefyd rhydd wersi ar ganghenau eraill o'r gelfyddyd na chyffyrddodd a hwyut