Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
23 erthygl ar y dudalen hon
§emion JVwen.
§emion JVwen. AC m BYDD NOS YNO. Ymdawediad Gwilym Cowlyd wrth borfb dwyrain anedd un-nos ei dalentog gymrawd Crafnant, yn Nghladdfa newydd Trefriw, Mai 12fed, 1902. Yn nheml Ion—ddeugain mlynedd—i 'leni, Cyd blanem faen tyinedd; Ar enwog fryn gwiriomdd- I lydan sail dinas hedd. O'r fynweut hon. Crafnant anwyl—yno, Diwrnod sydd o ddisgwyl Fory mwynhawn fry mewn hwyl, Barnassus heb 'run nos-^yl. lor a'i myn, ar y mynydd—fod deol, Net a daear newydd A llyfr byd i fywyd fydd—rhol y llw, Fyuega'r mw ar faen* Gair Ionydd. GWILYM COWLYD. Y maen a dorwyd o'r mynydd. Ac efe a fydd yn noddfa ond yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr i ddau dy Israel.'
UN 0 HEN ETHOLiADAU MEIRION.
UN 0 HEN ETHOLiADAU MEIRION. Yn etholiad Sir Feirionydd, Tachwedd i ieg, 1774, pryd y safai Mr. Corbet o Ynysymaen- gwyn yn erbyn Mr. Vaughan o Gorsygedol, yr oedd y llinellau a ganlyn o waith Twm o'r Nant a Rhys Jones o'r Blaenau ar faner Mr. Vaughan:- Tra rhetto dwr, cyflwr cu Daliwn wrth yr hen deulii.-T.B. Edeyrnion lan dirion lu, A'i gwyr oil a geir felly.-B, Toj;es. Pan gyfrifwyd y pleidleisiau, cafwyd dros Vaughan 342, a 258 dros Corbet, felly etholwyd y cyntaf trwy fwyafrif o 84. Bu farw y bon- eddwr (Evan Lloyd Vaughan, Ysw.) — yn 1792, yr olaf yn y llinell wrywaidd or I hen deulu, a disgynodd Corsygedol a'r gweddill o'i etifeddiaethau eang i'w nith Margaret, gwraig Syr Roger Mostyn, Barwnig. Yn ddiweddar, gwerthwyd hwy i wahanol brynwyr.
BEIBL YR ESGOB LLWYD.
BEIBL YR ESGOB LLWYD. Mewn cystadleuaeth am Feiblau hynafol yn Arddangosfa Corris, yr oedd Beibl wyth-plyg, 1690, yn gyflawn drwyddo ac mewn diwyg da, ac efe oedd yr hynaf a ddangoswyd. Beibl yr Esgob William Llwyd y gelwir ef. Yr oedd hynafiaid yr Esgob o Sir Fon; Bu yn gaplan teuluaidd i Charles II. Dyrchafwyd ef yn ddeon Bangor, yna i esgobaeth Llanelwy. Yr oedd I .lwyd yn un o'r chwe' esgob a garcharwyd yn y Twr yn 1688, am wrthod cyhoeddi yn eu heglwys\ dd ddatganiad y brenin Iago II o barth i ryddid cydwybod. Yr oedd yn gefnog- ydd trwyadl i'r chwyldroad yn y flwyddyn hono a plienodwyd ef yn elusenwr i William a Mary yn fuan wedi eu glaniad yn Mhrydain. Yn 1892, trosglwyddwyd ef i Coventry a Lichfield a symudwyd yn 1899, i esgobaeth Worcester, yr hon a ddaethai yn wig trwy farwolaeth Stilliugfleet. Bu farw yn Hattlebury yn 1717, yn goain mlwydd oed. Yr oedd yn awdwr amryw o lyfrau. Yn 1690, cyhoeddodd y chweched Feibl Cymraeg cyflawn a ymddang. osodd er pon ddaeth un Dr. Morgan allan yn 1581. Argraffwyd o Feibl Llwyd fll o gol1 tU, yn Rhydychain at wasanaeth yr Eglwysi.
CNWD YD Y BYD.
CNWD YD Y BYD. Ysgrifenai Mr. J. K. Carthew, o Exeter, i un o'r newyddiaduron Seisnig, dydd lau di- weddaf, fel y canlyn :— Fel mewn blynyddoedd blaenorol, y mae yn bleser i mi roddi fy amcangyfrif o'r cnydau am 1902, fel y maent yn cael eu cynrychioli gan dair ar ddeg o'r gwledydd sydd yn cynyrchu mwyaf; ac y mae pob un o honynt yn tyfu dros 000,000 o chwarteri yn flynyddot Chwarteri Unol Dalaethau 82,500,000 Rwsia (heb gynwys Siberia) 50,000,000 Ffrainc 42,500,000 Awstria-Hungary 25.500,000 Almaen 16,500,000 Eidal 15,000000 Vsbaen 14,500,000 Roumania a Bulgaria 14,500,000 Canada 11,500,000 Y Deyrnas Gyfunol 6,600,000 Y mae y cnydau uchod wedi eu sicrhau, neu ar gael eu cynhauafu. India (wedi hau) 29,000,000 Argentina (wedi tori allan) 9,000,000 Awstralia (wedi tori allan) 5,500,000 Y mae yr ystoc o hen wenith sydd yn y wlad yn isel-y tebygolrwydd ydyw ei fod 6,000,000 o ddoleri o dan y cyfartaledd, ac nid yw hyny ond swm bychan ar gyfer cnydau y flwyddyn hon. Yn ol fy marn i y mae y prisiau yn ystod y chwech neu naw mis nesaf yn rhwym o fod yn isel, os na chyfyd rywbeth nas gellir ei rag- weled yn bresenol. Yr wyf yn nodi 28s. i 29s. y chwarter (gan gynwys y doll), fel y pris uchaf am wenithau cartrefol a thramor. Pe 1 i- gwyddai i'r cnwd yn Argentina droi allan mor helaeth ag y mae yn ymddangos, bydd i'r prisiau fod yn is na hyny.
NODION A NEWYDDION.
NODION A NEWYDDION. Yr oedd dividend diweddaf yr Imperial Railway Company, i ba un y perthyna Reil- ffordd Corris yn 10 y cant i'r cyfranddalwyr. Gobeithia Dr. Parker, y bydd yn alluog i ddeohreu ar ei waith yn y City Temple, yn mis Medi. Y mae gan y Deon Howell (Ilawddm), Ty Ddewi, ymysg trysorau eraill sydd yn ei feddiant, ddyddiaduron o eiddo yr enwog Jones, Llangan.' Deallwn mai gwrthod y gwahoddiad i fyned i Aberystwyth i dderbyn rhyddfreiniad y Gorphoraeth a wnaeth Arglwydd Kit- chener. Yn nghynulliad blynyddol eglwysi Saesneg y Methodistiaid Calfinaidd, yn Ngwrecaam, diwedd y mis nesaf, traddodir pregeth agor- iadol y gynhadledd gan y Parch. Hugh Black, Edinburgh. Dywedir fod y Brenin yn bwriadu myned i Cork, o fewn y pedair wythnos nesaf. Erys yn yr Ynys Werdd am ddau fis, a dywedil y bydd iddo wneyd ymchwiliad i sefyllfa y tyddynwyr yno. Teimlir cryn ddyddordeb mewn cylchoedd llenyddol a milwrol ynLlundain gyda golwg ar lyfr y Cadfridog De Wet, yn rhoddi hanes y rhyfel yn Ne Affrig. Hyd yn hyn, oafwyd llawer o gyfrolau ar y rhyfel. Ond mae'n debyg y bydd mwy o ofyn am gyfrol De Wet nag am yr un llyfr a gyhoeddwyd ar y mater. Agorwyd Senedd Cape Colony yr wythnos ddiweddaf. Mae argoelion y llwyddir i gario allan lywodraeth gyfansoddiadol o dan Syr Gordon S prigg. Bydd yn gyntaf fesurau yn cael eu cyflwyno i' ebargofi a maddeu gweithrediadau anghyfreithlon y Llywodr- aeth yn ystod y rhyfel gyda'r ddeddf filwrol, a chodir trethi, &c. Dydd Mercher, yr oedd y Cadfridog Cronje, Mrs. Cronje, a'r swyddogion, yn ymadael o St. Helena. Yr oedd tyrfaoedd ar hyd yr heolydd i ganu yn iach i'r Boriaid, y rhai a wnaethant lawer o gyfeillion yn ystod yr amser y buont yn yr ynys. Y mae'r carcharorion Borig yn cymeryd y llw o ffyddlondeb yn ol y rhif o ddau gant yn y dydd. Darfu i Mr W. Abraham, A.S., wrth siarad yn Nghwm Rhondda, dydd Llun, wasgu ar y rhanbarth i gymeradwyo i bwyllgor gweithiol y Cyngrair i anfon rhodd o fil o bunau i gynorthwyo 140,000 o fwnwyr ar streic yn America. Cafodd penderfyniadau o blaid caniatau mil o bunau ei gario gan ranbarthau y Rhondda o Phontypridd o'r Cyngrair. Dywed Syr Henry Camp bell-Bannerin an fod gan wr boneddig unwaith was oedd yn tori llestri yn ddibris iawn. Gofynodd gyngor Sais, Ysgotyn, a Gwyddel beth i'w wneyd. 'Trowch ef i ffwrdd,' ebe'r Sais yn swta. 4 Daliwch bris y llestri o'i gyflog,' ebe'r Ysgotyn cynil. I le, ond y mae'n tori mwy na gwetth ei gyflog,' ebe'r gwr boneddig Codwch ei gyflog ynte,' ebe'r Gwyddel. Beth ddywedasai Cymro ? Mewn cyfaifod Ymreolaeth yn Sydney, N.S.W., dywedodd Mr. T. B. Curran, am rai blynyddoedd aelod o'r blaid Wyddeli-z yn Nhy'r Cyffredin, ei fod yn credu fod gan achos Ymreolaeth lawer i'w obeithio am dano yn uniongyrchol oddiwrth ei Fawrhydi, yr hwn, ar amryw achlysuron, a ddangosodd mewn modd arbenig ei gydymdeimlad a'r Gwyddelod. Casglwyd y swm o 650p. yn y cyfarfod at drysorfa y blaid Seneddol Wydd- elig. Hysbysa y Druidgn Zeitunq eyhoeddiad y Deiwyddon yn yr Almaen-i benderfyniad unfrydol gael ei basio yn nghyfarfod y Der- wyddon Almaenaidd i anfon anerchiad o loogyfarchiad i'r Orsedd Farddonol Gymreig; a rhoddwyd ar Mr. H. Fricke (un o arolygwyr y Llywodraeth ar ysgolion yr Almaen), yr hwn ydyw Archdderwydd y Derwyddon AI. maenaidd, a Mr. P. Schade, yr ysgrifenydd, i ddarparu yr anerchiad, ac anfon y cyfryw mewn pryd i gael ei chyflwyno yn yr Eis- teddfod Genedlaethol yn Mangor. Rhoddwyd gwledd i Syr A. L. Jones, yn Llundain nos Fawrth. Yn ei anerchiad, dywedodd Syr Alfred fod buddianau y Pryd- einwyr yr un a buddianau y brodorion, a thrwy y brodorion y gellid gwneyd defnydd o'r Trefedigaethau at ein anghenion. Yr oedd yn Ngorllewin Affrica bosibilrwydd mawr; y gelyn mwyaf ydoedd afiechyd. Teimlai efe yn berffaith foddhaol eu bod yn myned i wneyd Affrica yn well nag y mae yn bresenol, ac mewn amser bydd yn un o'r lleoedd goreu am ieehyd,
LLANBADARN, CEREDIGION.
LLANBADARN, CEREDIGION. Ceir nifer o gof-feini heirddion o fewn Eglwys Llanbadarn. fel y gallesid disgwyl, can mai yma y mae claddfeydd Goeerddan, Nant Eos. a chyfoethoeion eraill. Un o'r cof-feini tlysaf yma yw gwaith v cerflunydd enwog Flaxman, er cadw yn wyrddlas goffadwriaeth am Harriet. merch Is-iarll Ash brook, a phriod i Pryse Pryse, Ysw., Gogerddan. Gwelir yma gof-faen am
LEWIS MORUS
LEWIS MORUS (Llywclyn Ddu 0 Fon), yr hwn a gladdwyd yma. Ganwvd ef yn y Tyddyn Melus, yn mhlwyf Llanfihaneel Tre'r Beirdd, dwy filldir a haner o Llanerchymedd, yn Sir Fnn, Mawrth i2fed, 1702, Efe oedd mab hynaf Morus ab Risiard Morus, cylchwr wrth ei alwedigaeth, yn v bwthyn llwvd, di-addurn, gyda th6 gwellt. ar fin y brif-ffordd. Symudodd ei rieni o'r Tyddyn Melus i Pentre-Eirianell, yn mhlwyf Penrhos Llugwy, uwch aberiad afon Dulas. pan yr oedd Lewis yn ieuanc ac yn fuan, vchwaneeodd ei dad y gorchwyl o fasnachu mewn d at ei waith fel cylchwr, gan adael y ewaith o gytchio yn benat i'w feibion, Lewis, Risiard, a William. Yr oedd Lewis Morus erbyn hyn yn graddol ddadblyeu fel
BARDD 0 GRYN DEILYNGDOD,
BARDD 0 GRYN DEILYNGDOD, a dyscodd hefyd y gorchwyl o fesuriaeth tir. Cawn iddo eael swydd berthynol i'r dollfa yn Nghaerpybi, dan nawdd y Llywodraeth yn Mon. Casglu cyllid a threth yr halen oedd ar V cyntaf, ac wedi hyny, gosododd v Morlys ef i wneuthur mesuriad arolygol o arfor-diroedd Cymru. Cyhoeddwyd rhan o'i waith ynglyn a hyn yn 1748. Cafodd wedi hynv ei benodi gan y Trysorlys i arolygu tir-eyllid y brenin, casglu porth-dollau yn Aberteifi. ac arolygu mwn- weithiau y brenin yn Nghymru. Gwnaeth lawer o arlenau gwerthfawr i'r Llywodraeth, y rhai oeddynt yn sylfaenau i'r rhai ydynt heddyw mewn arferiad gan Fwrdd Masnach. Bu Lewis Morus yn athraw a noddydd i feirdd a llenorion ei oes a'i wlad. Ei ddisgybl- ion ef oeddynt Goronwy Owain, Ieuan Brydydd Hir, a John Parri y telynor, a'r cerddor byd- adnabyddus wedi hyny.
GOSODODD ARGRAFFWASG I FYNY
GOSODODD ARGRAFFWASG I FYNY yn Modedeyrn, yn Mon, yn 1735. Gwelsom grybwylliad yn dweyd mai yn Nghaergybi y gosododd hi i fyny, ac nid yn Modedeyrn. Gwerthwyd yr argratIwasg hono i Dafydd Jones o Drefriw; yna svmudwyd hi oddiyno i Llan- gollen. Casglodd lawer iawn o farddoniaeth, geiriau, ac enwau o'r hen oesoedd, a galwodd hwy yn I weddillion Celtaidd.' Trueni mawr nad argreffid hwy yn v dyddiau hyn. Mae cyfrolau lawer o'i weithiau mewn llawysgrifen yn vr Amg-ueddfa Frvtanaidd yn Llundain. Priododd Mawrth 29, 1729, ag Elizabeth Gruffvdd. Ty Wydrim. ger Caergybi. Bu fyw vn Allt Fadog. yn Sir Aberteifi, o 1737 i 1749. pan y priododd yr ail waith Ag Anne Lloyd, Penbryn-y-barcud, ger Llanbadarn Fawr, ac v svmudodd yno i fyw, yno y bu farw Ebrill 11 1765, ac yn Llanbadarn y claddwyd ef. Fe wnaeth lawer iawn tuag at wella llenyddiaeth ei wlad a'i eenedl. Darllenir ei weithiau tra V pery v Gvmraee vn iaith pobloedd. Bu ei frodyr Risiard a William vn enwog iawn yn eu cylchoedd pwysig dan y Llywodraeth Gresyn na fuasai diwveiadau Risiard wedi eu derbyn gan yr awdurdodau i argraff y Beibl Cymraeg a'r Llvfr Gweddi Gyffredin. Claddwyd Risiard yn 1779, yn St. George's in the East, Llundain. Bu yr enwog
SYR HU CANOLDREF
SYR HU CANOLDREF CMiddleton), Barwnig, yn'aros yn y lie hwn hefvd rywbryd cyn 1606. Efe ddechreuodd weithio y cloddfeydd plwm yn nghymoedd y Symlog, a'r Rheidiol; a phan yn chwilio am blwm, daeth o hyd i wythienau cyfoethog o fwn arian. Yma y casglodd y cyfoeth enfawr a wariodd yn amser Iago I. i ddwyn dyfroedd yr Afon Newydd o Amwell a Ware i Islington er dyfrhau dinas Llundain. Pasiwyd hyny Ebrill laf, 1606. Chwefror 2ofed, 1608, cychwynodd y gwaith, a dygwyd yr Afon Newydd i Islington, Medi 29am, 1613. Er i'r Brenin Iago dalu haner y draul i ddwyn y dwfr i Llundain, eto collodd Syr Hu ddwy fil o bunau yn y mis o'r arian o'i fwngloddiau yn mhlwyf Llanbadarn-fawr. Bu Syr Hu Canoldref farw yn 1631, ac y mae cof- golofn iddo yn Islington Green, Llundain. Genedigol o'r plwyf hwn oedd
YR AWENBER DAFYDD AB GWILYM.
YR AWENBER DAFYDD AB GWILYM. Ganwyd ef yn Mro Gynin, Llanbadarn Fawr. tua'r flwyddyn 1340. (Myn rhai mai yn agos i Landaf, Morganwg, y ganwyd ef, tua 1300, ac iddo farw yn Mynachlog Tal-y-llychau, Swydd Gaerfyrddin, He ei claddwyd yn 1368). Add- ysgwyd ef gan ewythr iddo o ochr ei fam, sef Llywelyn ab Gwilym Fychan, perchenog Ilawer o diroedd yn Ngheredigion, gerllaw Castell- newydd-yn-Emlyn. Yno y treuliodd Dafydd ab Gwilym y rhan fwyaf o'i amser nes oedd tua phymtheg oed, pryd, oherwydd rhyw amgylch- iadau, y daeth adref i Fro Gynin, yn Llan- badarn Fawr. Wedi hyny, aeth at ei gir, Ifor Hael, o Faesalaeg yn Mynwy, yr hwn a'i gwnaeth yn arolygwr ar ei etifeddiaethau yno, ac hefyd yn athraw i'w ferch ieuangaf. Enillodd Dafydd serch y ferth, a gyrodd ei thad hi i leiandy yn Mon, rhag iddi briodi Dafydd ab Gwilym. Yn fuan wedi hyny, daeth Dffydd yn brif- fardd Morganwg. Efe oedd y gofynwr mewn gwleddoedd, y rhai a gynhelid yn nhai goreu- gwyr Cymru yn y dyddiau hyny yn gyffredin. Diau iddo fel llawer o'r beirdd o'i flaen ac ar ei ol, syrthio i arferion yfol ac isetwael ar brydiau. Desgrifio pethau fel yr ymddangos- ant iddo ef yw gwaith y bardd, ac nid dilyn, na chredo, na chyffes ffydd; ac feaUai fod bywyd di-reol mewn rhyw ystyr felly yn arwain i fywyd llac mewn modd dan ddylanwad cwmni 11awen weithiau. Nid Robert Burns na Twm o'r Nant yw yr unig rai 'o'r beirdd ydynt wedi byw bywyd y buasid yn caru eu bod wedi byw yn well. Syrthiodd Dafydd ab Gwilym
MEWN CARIAD A MORFYDD,
MEWN CARIAD A MORFYDD, merch Madog Llawgam o Fon, ac yr oedd hithau yn dra hoff o hono yntau. Gorfodwyd hi gan ei cheraint i briodi gwr hen o'r enw Cynfrig Cynin er mwyn ei gyfoeth yn unig. Ond er fod y bardd yn dlawd dygodd Morfydd oddiwrth Cynfrig Cynin ei gwr daliwyd hwy pan yn ffoi, a gosodwyd dirwy drom ar Dafydd i'w thalu, yr hon, o herwydd ei dylodi, nis gallasai ei thalu. Taflwyd ef i garchar, ac yno y buasai hyd ei farwotaeth oni bae i'w'gyf- eillion yn Morganwe dalu'y ddirwy, a'i ddwyn o'r carchar. Cvfansoddodd yn agos i gant a haner o gywyddau i'r Forfydd hono. Goroes- odd ei Noddwr hael a'i Forfydd gu; dychwelodd i Fro Gynin yn Llanbadarn Fawr, ac feaUai iddo weled tlodi nid ychydig yr adeg hono Erys gweithiau barddonol Dafydd ab Gwilym i swyno calon Cymry tra y siaredir y Gymraeg. Yn mynwent Llanbadarn Fawr, y mae dwy groes Frytanaidd henafol; ond nid oes arnynt ar-yserifen i ddweyd dim o'u hanes. Dywed v Carlisle's Topographical Dictionary of Wales nad yw ceffylau na chnydau gwair y plwvf erioed wedi bod dan ddegwm. Salf v pentref mewn man tlws a chysgodol. Heb fod vn nepell oddiwrtho, y mae palasdy henafol ac enwog Gogerddan—
.CARTREFLE SYR PRYSE PRYSE,
CARTREFLE SYR PRYSE PRYSE, Barwnig. Mae teulu y Prysiaid yn Gymreig o waedoliaeth, ac wedi bod trwy yr oesau yn Rhyddfrydwyr pybyr. Un o'r meistri tir goreu yn y deyrnas fu Syr Pryse Pryse, Barwnig, gynt. Rhaid i fawrion ein gwlad fyw ymysg eu deiliaid, a gwario y rhan fwyaf o'r rhenti vn yr ardaloedd y codir hwy. 'Bydd enw hen deulu Gogerddan mewn coffhad yn Nghymru am oesoedd, ar gyfrif eu cydymdeimlad A gwerin Cymru.
BULLER A WHITE.
BULLER A WHITE. Cafodd ychwaneg o I bellebron ynglyn a ewarchaead Ladvsmith eu cyhoeddi y dydd o'r blaen gan y Llywodraeth. Yr oedd v gen- adwri gyntaf oddiwrth Syr George White at Syr Redvers Buller, dyddiedigTachwedd 3oain, yn mynegu fod ganddo ymborth am 70 niwrnod ac yn credu y gallai amddiffyn Ladysmith am gryn amser-hyd Chwefror 8fed. Dau ddiwrnod ar bymthegyn ddiweddarach, sef ar Rhagfyr 16eg, eofynodd Syr R. Buller os gallai Syr George White ddal am fis. Pa sawl diwrnod fedrwch ctiwi ddal ?' Yn y gen- adwri yna anfonodd y cyfarwyddyd vnghylch arfau a gwneyd y I telerau goreu.' Wrth ys- grifenu o Spearman's Hill at Arglwydd Robetts, ar Chwefror 4ydd, dywedodd Syr R. Buller Y mae White yn parhau yn uchelfryd ac ys- tyfnig, ond y mae rhai o'r rhai sydd o dario yn ddigalon. Y mae yn disgwyl yr ymosodir arno yr wythnos hon ac er ei fod yn cymeryd arno fod yn hyderus, yr wyf yn amheu ei fod mewn gwirionedd. Nid wyf yn credu y bydd i symudiad i'r Dalaeth Rydd effeithio llawer ar ein safle yma.'
ABERMAW.
ABERMAW. ACHUB BYWYDAU.—Boreu dydd Llun, tra yr oedd tri o ddynion allan yn ymdrochi, ym- ddengys i un o honynt gael ei orchfygu gan y dyfroedd cryflon Aeth y lleill i geisio ei helpu, ond cawsant hwythau yr un profiad. Yn clywed y gwaeddiadau am help. darfu i Mri. Hugh ac Evan Davies, meibion Mr. D. Davies, Beach Road, neidio i'r dwfr yn eu dillad a nofio yn erbyn y tonau cynhyrfus ar y pryd, ac wedi ymdrechion caled ar ran y naill a'r llall, llwyddasant i gael y tri i'r lan. Ar y dechrea, ofnid eu bod wedi boddi, ond wedi arfer moddion priodol am gryn amser, daeth arwyddion bywyd a da genym ddeall iddynt dd'od atynt eu hunain ymhen amser. Deallwn fod mudiad ar droed yn y dref i gydnabod mewn modd teilwng y ddau ddyn ieuanc gwrol hyn am eu gwasanaeth. Yr oedd eraill o amgylch yn y dwfr ar y pryd, ond ni chymer- asant ran mewn achub y dynion; a diau y buasent wedi boddi oni bae am y ddau Davies.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. CYNGERDD POIBLOGAIDD.-Nos Fawrth, yn y Neuadd Gyhoeddus cynhaliwyd cyngerdd er budd gweddw ac amddifaid y diweddar Mr. Morgan Davies, yr hwn a gyfarfyddodd a damwain angeuol ar Fwrdd y llong 'Clare' yn mis Ionawr diweddaf Cadeirydd y cyngerdd oedd Mr J. Morgan, U.H. Nid oedd yn agos ddigon o le i'r rhai oedd wedi prynu tocynau, ac yn ngwyneb hyn, penderfynwyd cynal ail gyngerdd nos lau, i'r rhai hyny oeddynt wedi methu cael lie nos Fawrth. Cymerwyd rhan gan gantorion lleol, &c. Da genym weled ein trefwyr yn cefnogi achos mor deilwng, a hyny mewn modd mor gyffrtdinoU
CHWAREL YR 'ERA,' ESCAIRCEILIOC.
CHWAREL YR 'ERA,' ESCAIRCEILIOC. Yr wythnos o'r blaen, cynhaliwyd cyfarfod blynyitdol y Cwmni uchod, yn Bath. pryd y llywvddid gan Mr. J. Rowlands, cyfreithiwr, Machynlleth. Dvwedodd Mr Rowlands fod y 1 Cwmni mewn gwell sefyllfa eleni na'r llynedd Hefyd yr oedd cynyg wedi cael ei wneyd atynt ar iddynt werthu y chwarel, yr hyn a brofai yr ystyrid fod rhyw werth mewn rhan o'u heiddo. Gallent ar unrhyw amser osod y chwarel am swm da ar lease flynyddol. Yr oedd darn o graig wedi ei darganfod nad oedd dim i'w chymharu a hi yn y dosbarth. Nid oeddynt yn gwybod yn flaenorol fod hon yn faen drwy y chwarel i gyd. Ystyrid hi gan y chwarelwyr yn faen ardderchog, yn rhagori mewn gwerth ar ddim ddarganfyddwyd yn flaenorol. Nid oedd sefyllfa y Cwmni yn waeth eleni na'r llynedd, ond yr oedd yr eiddo o fwy o werth lawer. Mr. Pope a dystiolaethai yr un mor ffafriol. Yr oedd arnynt eisieu mwy o arian fel y gallent gadw o'r hyn lleiaf 200 o ddynion Yr oeddynt wedi d'od ar draws faen newydd yr hon oedd yr oreu yn y cylchoedd, ond hyd nes y ceid chwaneg o arian, yr oedd yn anmhosibl ei gweithio yn briodol. Achosodd Mr. Pope gryo chwerthin pan ddangosodd ddarn o gareg yn yr hon yr ymddangosai rhyw fetel yn disgleirio, gan awgrymu y posibilrwydd < ddarganfod gwaith aur yn y lie! Mr. Matthews: Er cystal oedd golyeiadau ffafriol y Ilywydd, nid oedd fawr i'w ddangos am y 55,ooop. oedd wedi eu gwario, ac yr oeddynt ar eu colled y flwyddyn ddiweddaf. Ystyriai mai y peth goreu ellid wneyd oedd cau y lie I fyny neu ei werthu (gwaeddiadau: Na, na.) Mr. W. A. Phillips: Os gall y llywydd gael cynyg ros. y bunt dywedai ef, derbynier y cynyg ar unwaith (clywch, clywch). Credai ef y bu- asai y gwaith yn talu yn well i Gwmni Cymreig <c wedi y fath dystiolaeth flodeuog gan y llywydd, dichon ei fod ef yn barod i wneyd cyn- ygiad.-Gofidiai nad oedd Mr. Hancock yn bresenol i ateb cwestiwn plaen y buasai ef ya rhwym o'i ofyn iddo. Mr Matthews mewn modd gwawdlyd a ym. holodd a oedd ypatents gyda'r llechau ysgol wedi eu gwerthu am r6,ooop., yr hvn oecdeu werth, fel yr awgrymwyd yn y cyfarfod blaen* orol, gan fonedwr o'r enw Rees, yr hwn oedd yn amlwg yn ei absenoldeb heddyw. Yn dilyn, bu siarad ar y modd y mae y chwarel yn cael ei gweithio, ynghyd a'r priod-. oldeb o'i gwerthu os ceid 10s. y bunt am dani, yr hwn gynygiad a dynwyd yo ol. Terfynwyd gyda diolch i'r llywydd.
ABERDYPI.
ABERDYPI. CYNGERDD.-Nos Werier, yn yr Ylgol Gen. edlaethol, cynhaliwyd cyngerdd, o dan nawdd y Wesleyaid. Mr. E. R Atkins, Llundain, oedd yn Uywyddu Cymerwyd rhan ynddogan Misses May Roberts, Sussie Davies, Maudo Stansfield, Lilla Morgan, R.A.M., Mr. W. French, ac Amos Jones, Aberystwyth. Ye oedd cynulliad lluosog yn bresenol; cafwyd cyngerdd gwych, ac elw sylweddol, yr hwn sydd i fyned at drysorfa yr eglwys Wesleyaidd yn y lie.
BWROO YSCOL TOWN A PHENNAL
BWROO YSCOL TOWN A PHENNAL Cynhaliwyd cyfarfod o'r Bwrdd uchod dydd Mawrth, dan lywyddiaeth Mr E. Rowland. Y swyddog gorfodol a adroddai fod sefyllfa y presenoldeb yn yr ysgolion yn foddhaol ar hyn o bryd.—Pasiwyd fod ysgol Bryncrug i gael ei lliwio a'i phaentio.—Pasiwyd adgofio yr ysgol* feistriaid nad oeddynt wedi cyflwyno eu had* roddiadau chwarterol. — Pasiwyd i fenthyca arian gan y Public Works Loan Commissioners, rs,- tuag at adeiladu ysgol newydd Pantperthog, a'r gwelliantau wrth ysgol Bryncrug.—Oedwyd cais prifathraw Aberdyfi am godiad yn ei gyflog, hyd y cyfarfod nesaf.—Diolchwyd i Mrs. Steel, Talgarth Hall, a Mr. E. Rowland, Pennal, am eu anrhegion i'r ysgolion adeg y Coroniad*
CRICCIETH.
CRICCIETH. YMWILWYR URDDASOL.—Mae y lie hwn ar hyn o bryd yn llawn o ymwelwyr, ymhlith pa rai ceir Maer Birmingham a Maer Maa. Chester. Diau y caiff maer Birmingham well derbyniad yn Criccieth, nag a gafodd arwr Criccieth (Mr. Lloyd George, A.S.), dro yn ol yn Birmingham. ARDDANGOSFA.—Dydd Sadwrn, cynhaliwyd ail Arddangosfa flynyddol Anifeiliaid, &c., yn y lIe uchod. Yr oedd nifer y cystadleuon yn lluosog a'r ansawdd yn dda. Y Llywydd eleni oedd Mr. J. E. Greaves, Arglwydd Ragiaw y Sir.
LLANGOLLEN.
LLANGOLLEN. PRIODAS.- Yn nghapel y M.C. Rehoboth, dydd Mercher, yr zofed cyfisol, priodwyd Mr. J. T. Jones, B.D., Llanbrynmair, 4 Miss Deborah Edwards, unig fercn Mr. a Mrs. D. Edwards, Bank House, Llangollen, yn mhres- enoldeb Iluaws mawr o gyfeillion. Gwasan- aethwyd gan y Parch. W. Ffoulkes, gweinidog yr eglwys, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. Lias Davies. Y morwynion oeddynt Miss Kate M. Hughes, Commerce House, a Miss Dilys Jones, Medical Hall. Y gwas priodas oedd y Parch. E. G. Jones, Cwmtirmynach (brawd y priodfab). Wedi i'r seremoni briod- asol fyned drosodd, aethpwyd i dy rhieni y briodasferch, lie yr oedd cyflawnder o'r dan- teithion mwyaf blasus wedi eu parotoi ar gyfer y gwahoddedigion. Hefyd, cafwyd anerch- iadau llongyfarchiadol, ymha rai y gwnaed cyfeiriadau at yrfa ddefnyddiol y briodasterch, > yn enwedig ei llafur ynglyn a'r ystafell genhadol yn Gwernafon, He y teimlir colled fawr. ar ei nol. Ac fel prawf o'i gwasanaeth gwerthfawr, bwriedir cyflwyno timepiece iddi gan ei chyd- weithwyr yno ar ol ei dychweliad o'i Mis Mil. Cyfeiriwyd hefyd at yrfa Rolegawl lwyddianus y priodfab, yr hon sydd wedi profi yn un neill- duol o ddisglaer. Y mae yr anrhegion yn lluosog a drudfawr. Ymadawodd Mr. a Mrs. Jones am Sir Fon, yn nghanol dymuniadau goreu eu cyfeillion. Yr ydym o galon yq dyrouno hir oes a hapusrwydd iddynt,
CNYDAU SIR FEIRIONYDD.
CNYDAU SIR FEIRIONYDD. Cnwd rhagorol o wenith, ond y mae rhai meusydd yn dangos Uiw drwg, a'r yd yn gorwedd, Y mae yr haidd yn drwm iawn, a Uawer o hono yn gorwedd ymhob man Cnwd da o geirch, ei wellt yn hir, ac yn gorwedd gryn lawer. Gwair, cnydau da, ac wedi eu cael i fewn mewn cyflwr rhagorol; rhai meusydd eto heb eu cael. Y tatws heb fod i fyny a'r cyfar- taledd, ac yn glytiog mewn amryw fanau. Cnydau rhagorol o faip ymhob man Mangles yn edrych yn dda, a'r cnwd yn fawr. Cynhauaf, yn gyffredinol oddeutu Awst 18fed,-mis yn ddiweddarach na'r llynedd.Q'r Agricultural Gazette,
[No title]
Bydd y fyd-enwog gantores, Madam Patti yn^canu mewn cyngerdd yn ^.berhonddu, y »vdd,