Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
"OIL SYNWVR PEN KEMBERO I…
"OIL SYNWVR PEN KEMBERO I GVD." Cyhoeddwr y Uyfr hwn ydoedd William Salis- bury, Llansanan. Dywed William Salisbury yn ei ragymadrodd mai damwain a fu i'r llyfr gael ei gyhoeddi. Yr oedd un diwrnod yn edrych yn hamddenol drwy ei lyfnu a'i bapyrau, pan y daeth ar draws casgliad o ddiarhebion a gopiodd ef a'i law ei hun o ysgrif-lyfr perthynol j Griffith Hiraethog, piif-fardd Gwynedd, Y mae lie i gredu fod yr ysgrif-lyfr yn nghadw yn awr yn llyfrgell Peniarth, ac y mae copi ar- graffedig ar gael yn Nghastell Shirburn. Y mae y casgliad hwn yn dangos pa mor hen ydyw ein diarhebion, rhai o honynt a arferir genym yn ddyddiol, megis:- Yr oen yn dysgu'r ddafad bori.' 'A fyno glod, bid farw. I cAllan o olwg, allan o feddwl.' • Deuparth gwaith ei ddechreu.' 1 Melus, moes eto.' Pen punt, a llosgwrn dime.'
LLANFAIROAAR IN W. .14D,
LLANFAIROAAR IN W. .14D, Y REILFFOIKDD. Hysbysir ar awdurdod dda yr agorir y reilffordd oddiyma i'r Trallwm ddiwedd y mis hwn at gludo eiddo, a mis yn ddiweddarach at gludo Uithwyr.
ACWEOO Y MEDDWL DIWEDOM.
ACWEOO Y MEDDWL DIWEDOM. Dydd Mercher, agorwyd cyfarfodydd Ysgol Dduwinyddol yr lIaf, yn nghapel CynuIIeidfaol Pendref, Rhuthyn. Cynhaliwyd cyfarfod eyntaf o dan lywyddiaeth y Parch. H Ivor Jones, Caer. Yna dechreuodd y Proffeswr Henry Jones, Prifysgol Glasgow, ar ei ddarlith ar Agwedd Meddwl Diweddar tuag at Grefydd.' Dywedai ei fod yn cael ei foddhau fod arwein- wyr y ineddwl crefyddol yn Nghymru yn claddu eu mAn wahaniaethau, ac yn uno a'u gilydd gyda hoffder i ymdrin A'r pwnc o Dduwinydd- iaeth. Yr oead y byd yn llawer mwy nag ydoedd gyat, wedi ei gydwau yn fwy mewnol, a materion dyn,—yn ddeallol, moesol, cym- deithasol, a chrefyddol,-yu fwy cymhleth nag ar unrhyw adeg o'r blaen mewn hanes. Mae y meddyliol a'r ymarferol yn ein dyddiau ni wedi dyfod i wrthdarawiad, ac y mae y frwydr yn taro yn fwyaf ffyrnig ar y rhanau mwyaf sylfaenol i gyd—y bywyd moesol a chrefyddol. Nis gwyddai am un rheswm dros y gobaith y byddai i'r amheuaeth feddyUol, os a8 wrth- weithid ef, fethu dwyn o gwapas yr un canlyn- iadau pell-gyrhaeddol ag a fu mewn cyfnodau eraill mewn hanes. Mewn maes ymchwiliaetb gorphorol yn unig y mae galluoedd meddyliol dyn wedi profi eu nerth. Y mae oes Sydd mewn gwyddoniaeth naturiol yn oes sydd yn credu yn Nuw, ac mewn sylweddau anfarwol yn y byd ysbrydol. Mae profiad mossol a chrefyddol y ganrif a aeth heibio wedi bod yn rhy gyfoethog; gweithrediadau argyhoedd- tadau ysbrydol yn rhy nerthol ac amlwg; eang* iad awyrgych dragwyddol dyn yn rhy eglur i r amheuaeth foesol a chrefyddol y cyfeiria ato gael el dadieu na'i chefnogi o gwbl. Yn y prydnawn, traddododd Proffeswr Daviea o Goleg Prifysgol Bangor, ddarlith ddyddorol ar Feirdd a Barddoniaeth yr Han Heoreaid,* o dan lywyddiaeth y Parch. D Wood Williams, Summerhill.
TALSARNAU.
TALSARNAU. PICNIC.—Ddydd Sadwrn, cafodd aelodau Ysgol Sabbothol y Wesleyaid, eu Picnic Myn- yddol. Gofelid am y trefniadau gan Mr E. R. Evans, E. M. Roberts, U.H., a William Morris, a gwnaeth boneddigesau yr eglwys eu rhan hwythau mewn modd canmoladwy. Fe fwynhawyd y dydd yn fawr gan bawb.
CARNO.
CARNO. Dydd Iau, cynhaliwyd Arddangosfa Amaeth- yddol Carno. Deallwn fod nifer y cystadleuwyr yn dangos cynydd mawr ar y blynyddau di. weddaf, a bod eu hansawdd yn well nag erioed, Y Llywydd eleni oedd Mr. Humphreys-Owen, A.S, Llywydd y Pwyllgor ydoedd ('adben Adams; a chyflawnwyd y swvdd o ysgrifenydd gyda deheurwydd mawr gan Mr. J. Williaros,
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. Mae esgob Bangor wedi cynyg bywoUaetii Machynlleth i'r Parch. Richard Jones, -,Ocor Bettws-y-coed; oad deallwn mai ei gwrthod A wnaeth Mr Jones. Mae yr Ardalyddes (D ), Londonderry, wedi gwerthu ei phreswyliod yn Hamilton Place, Llundain, i Mr. Eraest Beckett, A.S. YR YNADLYS.—Dydd Llun, gerbron Mri. R. Rees ac R. Gillart, cyhuddwyd un John Hughes, llafurwr, Cemmes, o fod yn feddw ac afreolus y Sadwm blaenorol; ac befyd o ym- osod ar yr heddgeidwaid. Anfonwyd ef i garchar am 14eg diwraod. TRIP.-Dydd Iau diweddaf, deallwa i odd. eutu 700 fyned gyda thrip yr YmneiUduwyr o'r lie hwn am Pwllheli. Yr oedd yn ddiwrnod hyfryd, a mwynhawyd y dydd ya iawc gan bawb, yn arbenig felly gan y plant. YR YSGOL SIROL.—Cynhaliwyd cyfarfod o Lywodraethwyr Lleol yr Ysgol uchod, dyd4 Gwener, pryd y llywyddid gan Dr. Davies.- Argymhellai y pwyllgor gweithiol fod y cae chwareu a rhan o'r ysgol, ar adegau neillduel, yn cael eu caniatau ar delerau arbenig i'r Tennis Club. Galwyd sylw gan Mr. R. Rees at fod y Clwb dan sylw wedi defhyddio y cae heb ganiatad; ac anghymeradwyai y Llywod. raethwyr hyn.—Hysbysodd y clerc fed John S. Jones, Dinas Mawddwy, yn gwrthod yr yazol- oriaeth a enillasai ar y tir ei fod yn derbyn ysgoloriaeth yn ysgol Towyn.—Yr oedd D. V. Hughes, ac Abraham Jones, Llanbrynmair, hefyd yn gwrthod yr ysgoloriaethau a enillas. ant hwythau am eu bod ar ol hyny wedi enil! ysgoloriaethau David Davies. Oherwydd hyn, penderfynodd y Llywodraethwyr gyfiwyno yr ysgoloriaethau i'r rhai agosaf at yr uchod yn yr arholiad, sef Llew James, Glasbwll, Annie M. Richards, ac Eliza C. Edwards, Derwen- las —Ysgrifenai Mr. Meyler, y rifalth W, i hysbycu ei fod wedi apwyntio Mr T. E. S. Roberts, B.A., Caergrawnt, yn Science Master, a Mr. John E. Jones, o Brifysgol Gogledd Cymru yn Mathematical Master. Y naSl aot y gyflog o iaop., a'r Hall am ioop. DROS Y WERYDD.—Cofnodir yn y Drych, y farwolaeth a ganlyn :—Gorphenaf aa, yn Wini- fred, Lake Co., South Dakota, yn bur sydyn, y Gymraes hoff a charedig, merch hynaf Mr. Evan ac Elizabeth Evans. GanwyJ hi yn Peny. banc, Darowain, Sir Drefaldwyn, G. C., Chwef. 24, 1874. Symudasant i Rhiwgriafol yn yr ardal. Priododd gyda Richard Jones, Tanner, Treffynon. Mab ydyw ef i David Lt. Jones a Mrs. Jones, Nant y Mynach, Sir Feitionydd. Yn y flwyddyn i883,ymfudasant i South Dakota ac yr oeddynt yn berchen cartref cysurus o'u heiddo eu hunain yn Hand Co. Claddwyd hi yn mynwent y capel Saesneg o fewn tua haner milldfir i'w cartref, sef yn yr un Uanerch ag y claddwyd yr hen frawd Evan Newell, Escuaa Towyn, Meirion. Gadawodd i alaru ar ei hel ei phriod galarus, ynghyd a phump o teibion a dwy ferch, a llawer iawn o ffryndiau hefyd brawd a chwaer yn yr Hen Wlad, Joseph H. Evans, Morbenbach, ger Machynlleth, a Mrs. Morgans, gwraig y Parch. David Morgans, Cwmystwyth, ger Aberystwyth. Gwasanaeth- odd yn fiyddlon ar hyd ei oes gydag aehoa ;rcfyddi
Qetmon roen.
Qetmon roen. OCHENAID Y GWEITHIWR. (O'r Lladinaeg.) Pa fodd y deonglir Fy mywyd bob dydd, Sy'n Dawn o galedwaith r Heb funyd yn rhydd ? Yr oriau mor llethol, Blinedig yw'm traed, Fy Uwybr caregog Ddynodir a gwaed. O! Saer Galiiea, Dysg ft, weithiwr tlawd, Dy werthfawr gyfrinach, 'Rwyt imi yn frawd; Rho im' weledigaeth O'r dyddiau geat di, Mewn llafur a iludded— Treialon diri. Rho gymorth im' deimlo Dy fod gyda mi, Mewn tasgau daearol Caf nerth ynot ti; A nefoedd yw'th wyddfod, „ Os caled yw'm rhan, Lefeinir fy nghyflwr A'th wên ymhob man, MGRIEN MON.
YNADON A'U DIRWYON.
YNADON A'U DIRWYON. Mewn canlyniad i waith yr Ynadon trwy y deyrnas yn gosod dirwyon ysgeifn ac anghyf- artal i ddifrifoldeb yr achosion ddygir ger eu bron. mae yr Ysgrifenydd Cartrefol wedi cym- eryd sylw o'r mater. Anfonodd y dydd o'r blaen air i'r llysoedd i'w hadgoflo fod dirwyon afresymol o isel, fel ios ac uchod, am lygru nwyddau, ymosod a throseddau cyftelyb, yn lie bod yn foddion ataliad, yn fwy o gefnogaeth i droseddau, gan ei fod yn datostwng syniad y wlad am eu difrifoldeb; ac y dylaj y gosb fod y fath ag i arafu camrau troseddwyr yn lie eu cyflymu i gyflawni rhagor o honynt.
NICANDER F EL LLENOR A BARDD.
NICANDER F EL LLENOR A BARDD. Awdlwr go druenus y cyfrifid Nicander; a dywedir ei fod yn ei fan tlotaf ar y Greadig- aeth '—awdl wobrwyedig Aberffraw, 1849. Fe ddarllenwyd yr awdl gan Hiraethog, yn fuan ar 01 ei chyhoeddi, a phan ddaeth at y llinell erchyll hono i'r m6r—' Ei ias gras ei gas ysg rech synodd gymaint nes cyfansoddodd yr englyn a ganlyn: Ysgrech' mor, oes gwraoh y' Meirion—yn bod Ddywedai beth mor wirion 'E rega pysg yr eigion Gan mor hell yw'r llinell hon. Ond er mai awdlwr sal oedd Nicander, nid oedd ei ail na'i gymar am bryddest-gweler ei Gymeriad Rhufain am aralleiriad, gweler ei Ddamegion Esop;' am ddweyd stori, gweler ei lythyrau yn Adgof Uwch Anghof; am ryddiaeth Gymraeg dlos, bersain, gweler ei ohebiaethau lluosog yn y Wasg Eglwysig; ac am englyn twt, taclus, hawdd ei gofio, dyma un a wnaeth i Ffynon Gwenffrewi, Tre- ffynon At Wenffrewi, tan ei friwion-heddyw Daeth Gwyddel ar ddwyffon; Ond taflodd, lluchiodd, yn lion, Ei ffyn uwchben y Ffynon.
GRANARI YR YMHERODRAETH.
GRANARI YR YMHERODRAETH. Dyna yr enw a roddir ar Canada, ac y mae'r Cymry yn sicr o deimlo mwy o ddyddordeb yn Canada o hyn allan wedi i'r fintai o Patagonia ymsefydlu ynddi. Yn y Leisure Hour, ceir lluaws o fanylion buddiol i'r Ymherodraeth eu gwybód parth ei granari. Raid i undyn lwgu yn Canada, yn ol yr ystadegau hyn, os bydd ganddo ddeg ewin. Y mae arwynebedd y tir sy'n tyfu gwenith yn 900 milldir a 300 milldir o led. Codwyd cant a naw miliwn bwshel o bob math o rawn yno yn 1901, o'r rhai hyn yr oedd 65 miliwn bwshel yn wenith. Dau y cant o'r miliwn acr ar y tu uchaf i Lyn Superior sydd dan driniaeth. Tua'r ddegfed ran o dir Manitoba sydd wedi ei gymeryd i fyny mae yn y diriogaeth nesaf, Assiniboia, 60 miliwn o aceri, cyfaddas gan mwyaf at dyfu gwenith nid yw arwynebedd tir- iogaeth Albeit, gerllaw y Mynyddau Creigiog, yn llai na 5°0 wrth 300 milldir 0 faint; a dyna y Saskatchewan wed'yn yn ymherodraeth o wlad. Daeth haner can' mil o ymfudwyr i Canada yn 1901, a disgwylir mwy o laaer eleni; a phan roddir y wlad aruthrol hon dan driniaeth, bydd yn abl i gynyrchu pedair biliwn o yd yn y flwyddyn, neu fwy nag a godir o wenith yn awr trwy yr holl fyd.
ARTHOG.
ARTHOG. LLYFRGELL —Yr W) thnos o'r blaen, cynhal- iwyd cyfarfod gan gefnogwyr y Llyfrgell yn y lie uchod. Darllenodd y trysorydd, Mr. Wm. Lewis, Glanywern, adroddiad o'r sefyllfa ar- ianol, pa un oedd yn hynod offafriol. Pasiwyd fod y Llyfrgell i gael ei chario ymlaen eto; a bud cyngerdd, er cyfarfod &'r treuliau^ i'w gynal yn fuan. gynal yn fuan.
NODION A NEWYDDION.
NODION A NEWYDDION. Hysbysir fod yn mwriad y cyn-Arlywydd Kruger gyhoeddi llyfr yn cynwys ei adgofion. Mae Mr. D. Lloyd George, A.S., ar hyn o bryd yn mwynhau ychydig seibiant yn Switzerland. Yr oedd y Nofelydd Rwsiaidd Count Leo Tolstoi, yn 74 mlwydd oed dydd Iau diweddaf, Bydd Arglwydd Dudley yn dechreu ar ei waith fel Arglwydd Raglaw yr Iwerddon ar y 25ain o'r mis nesaf, Brenin Itali ydyw yr awdwr Brenhmol diweddaf. Bydd ei lyfr ar coins a medals Italaidd yn meddu 12,000 o eglurebau; a chostia 20,000 o bunau i'w gynyrchu. Yr wythnos ddiweddaf, dychwelodd y Parch. S. T. Jones (Alawn), Rhyl, o'i daith yn America, ac ymddengys ei fod wedi enill nerth ar y daith. Wrth gyfeirio at ganlyniad etholiad Seven- oaks, dywedodd Syr William Harcourt, Yr wyf yn ei ystyried y gorchfygiad mwyaf gorlethol i'r Llywodraeth.' Tra y bydd eu heghvys yn cael ei hadgyw- eirio yn Tottenham, y mae y gynulleidfa yn cynal gwasanaeth mewn pabella godwyd yn y fynwent. Y mae Undeb Oynulleidfaol Lloegr, a Chymru wedi trefnu i osod o flaen y cyn- rychiolwyr gynygiad arbenig yn condemnio y Mesur Addysg. Boreu Sabbath, fel yr oedd y Parch. A. Moon, gweinidog yr Annibynwyr yn Kelve- don, Essex, yn cario y gwasanaeth ymlaen, yn Newmarket, Lloegr, bu farw, yn aydyn. Ymddangosai yn ei ieohyd arferol eyn iddo fyned i'r pwlpud. 4 Sasiwn y Diafol' y galwodd un y cynull- iad chwareuol gynhaliwyd yn Talyllyn dydd Sadwrn diweddaf. Ac nid ydym yn ystyried fod y dywediad ymhell o'i Ie; adgyfodi hen chwareuon mawnog Yatradgwyn gerllaw ydyw. Sylw Ni buasent mor boblogaidd oni bai fod crefyddwyr yn eu pleidio. Yr oedd amryw filoedd o lowyr yn oynal gwyl yn Dowlais, dydd Llun, ac anerchwyd cyfarfod o honynt gan Mr. Keir Hardie, A.S., ac eraill. Pasiodd y cyfarfod gynyg- iad yn datgan ei benderfyniad i sicrhau dydd o wyth awr drwy ddedfwriaeth neu fel arall, gan obeithio y byddai i'r meistriaid weled doethineb o gydnabod yr egwyddor o hono yn y cytundeb cyffredidol nesaf. Yn yatod etholiad Sevenoaks, anfonodd etholwr y wifrebganlynol at Mr. Chamber- lain: 4 A ydych chwi yn parhau i ddweyd fod y dyn a bleidleisio dros Ryddfrydwr yn rhoddi pleidlais i elyn ei wlad? Os felly, fyddwch chwi cystal a dweyd hyny ar y foment hon pan yr ydych yn gwneyd cyf- eillion o'r Cadfridogion Boraidd ?' Mae yr etholwr hyd yn hyn heb dderbyn atebiad.' Dydd Iau, bu farw y Parch. Dr. Joseph Angus, diweddar lywydd Coleg y Bedydd wyr yn Llundain, yn 82 mlwydd oed. Cyhoedd- odd amryw lyfrau safonol, megis y 4 Bible Handbook,' y rhai a gyfieithwyd i amryw ieithoedd. Yr oedd yn un o'r cwmni a wnaeth' Y Cyfieithiad Diwygedig' o'r Beibl. Mab iddo yw y Proffeswr Angus o Goleg Aberystwyth. Mae cwestiwn yr arweinyddiaeth yn Senedd y Penrhyn yn myn'd a holl sylw y Rhodesiaid, y rhai ydynt yn methu penderfynu cydrhwng hawliau Mr. Smart a Dr. Jameson. Y rhai hyny o'r blaid ag a breswyliasant yn Cape Town a ffafriant Mr. Smart, tra y pleidia pobl Kimberley ymgeisiaeth Dr. Jameson. Mae yr adranau eraill yn anmhenderfynol. Mae yn bosibl y gall y Senedd barhau am ddau fis. Gohebydd o Rufain a fynega fod Prydain yn dal y safle o anrhydedd ymysg y gwledydd tramor sydd wedi tanysgrifio tuag at ail godi clochdwr cwympedig St. Marc yn V Qnice, gyda swm ei thanysgrifiad yn chwe' mil o bunau. Yn nesaf ati daw yr Almaen gyda phedair mil a haner o bunau. Wrth gwrs nid oes angen dwtyd fod tanysgrifiadau yr Eidal ymhell ar y blaen i'r eiddo yr holl genhedloedd eraill. Dywed brysneges o St. Thomas fod cen- adwii a dderbyniwyd yno nos Fawrth, yn adrodd fod twrw i'w glywed yn y mynydd er dau o'r gloch, ac fod pob arwyddion fod mynydd Pelee yn ymarllwys. Y m. yr ymdrechion i gael cymundeb uniongyrchol a Martinique wedi bod yn aflwyddianus. Nid oes gan Gwmni Cable Ffrengig wifrau yn gweithio i'r ynys. Nis gall y cwmni ddweyd pa pryd y gellid cael cymundeb a'r lie 4 i
ADEILADU GWLAD Y BOR.
ADEILADU GWLAD Y BOR. Gan y Cadfridog Pieter G. Steyn. Ail adeiladu Deheubarth Affrica olyga ail sefydlu diwydianau a masnach yn y partbau o'r Orange Free State a'r Transvaal ddifrodwyd gan y rhyfel. I un sydd'wedi bod yn garcharor rhyfel ar ynys Burmuda, ac heb weled Deheu- dir Affrica am yn agos i flwyddyn, mae yn anmhosibl i mi gydag un gradd o awdurdod a chywirdeb, ddweyd beth ydyw y sefyllfa yn wleldyddol. Mae yn angenrheidiol felly cyf- yngu y nodiadau hyn i sefyllfa ddiwydianol y tiriogaethau-dangos angen y wlad, a gwneyd ymgais i roddi rhyw ddrychfeddwl o'r modd mae y Boers yn meddwl ail ddechreu gweith- redu, yr hyn a arweinia i gymeryd:i tyny y dadblygiadau oedd mewn gweithrediad ac a adawyd yn anorphenol pan dorodd y rhyfel allan. Yn yr adeiladaeth, y peth cyntaf a'r mwyaf pwysig i'w ystyried fydd ail gymhwygo ac enyn chwaeth y bobl at AMAETHYDDIAETH A DIWYDIANAU cygylltiedig. Meddwl y gair B6r ydyw am- aethwr burgher a olyga ddinesydd gan hyny mae'r alwedigaeth yn fwy cyffredin na dim arall yn y wlad. Yn ddiameu mwnyddiaeth ydyw y diwydiant blaenaf. Yn yr alwedigaeth yma cyflogir tua 150,000 o Kaffirs a dynion gwynion ac yn wir o barth i werth y cynyrch dywedaf mai dyma y diwydiant penaf yn Ne Affrica ond y mae perchenogion y mwnfeydd gyda'u cyfoeth anferth ac amrywiol i ymddi- bynu arno, yn gallu gofalu am danynt eu hunain tra mae yn rhaid i'r amaethwyr, y rhai sydd yn cael eu gwneyd i fyny y rhan fwyaf o gorph y bobl wynion, ofalu am danynt eu hunain, oreu y gallant, gan gymeryd mantais ar bob cyn- oithwy a gynygir iddynt yn ewyllysgar gan y Llywodraeth; ond yn benaf, bydd i bob un ym- ddibynu ar ei adnoddau ei hun i ail ddechreu gwrteithio ei dir. Beth ydyw yr amgychiadau sydd yn gwyn- ebu y Boriald heddyw rar eu gwaith yn dych- welyd i'w ffermydd ? Mae yn sicr mai hwy sydd yn perchenogi y tir, oud mae y rhan fwyaf o'r tai, ynghyd a'r tai allan wedi eu llosgi a'u distrywio; ac nid oes ganddynt wartheg nac un math o anifeiliaid i wneyd gwaith. Fel y saif pethau yn bresenol, mae y Boriaid heddyw, lawer o honynt, yn waeth allan na'u rhagflaen- wyr, y rhai agorasant gyntafy llwybrau cyntefig a chymeryd meddiant o'r tir yn 1838. Pan oeddynt hwy yn arloesi y tir, yr oeddynt o'r hyn Ileiaf yn cael DIGON 0 FWYD DRWY HELWRIAETH ond nid yw y fantais hyny gan y Boriaid pres- enol. I godi'r wlad, rhaid iddynt yn gyntaf ail adeilada eu tai; yn ail, rhaid iddynt gael erydr1a pheirianau amaethyddol a gwifrau pigog i gau i fewn eu tiroedd ac yn fwy pwysig na'r oil mae arnynt angen anifeiliaid, megis defaid, a cheffylau. Yn y|Dalaeth Rydd a'r Transvaal ar ddechreu y rhyfel, yr oedd y ffermydd wedi eu llanw ag anifeiliaid o radd uchel. Yr oedd gan un amaethwr rasyn-farch Americanaidd gwerth 120p., a chan un arall darw Friesland gwerth yr un swm; un arall berchenogai ddafad Merino gwerth ioop., ac ar yr holl ffermydd yr oedd anifeiliaid magu gwobrwy- edig. I osod ffermydd y Boriaid heddyw yr un fath ag oeddynt cyn y rhyfel, bydd yn agenrheidiol cael 5o,ooo,ooop. Dywedir fod 10,000 o wartheg wedi cael eu dwyn i'r wlad, ond beth yw hyny i'w rhanu rhwng y ffermwyr ? Mae 10,000 o ffermydd yn yr Orange Free istate yn unig felly ni bydd hyny ond un fuwch i bob fferm. Ac mae y gyfran yn syrthio yn hynod fyr pan yr ystyriom fod y ffermydd ar gyfartaledd yn 5,000 a 6,000 o erwau yr un. Ar un fferm a berchenogir gan ddyn cyfrifol yr oedd 8,000 o erwau o dir dan driniaeth; 150 o geffylau, 3,000 o ddefaid, a 700 wartheg ac ychain. Ymhen byr amser, yr oedd y cyfan wedi eu cymeryd i ddibenion rhyfel, gyda cholled i'r perchenog o 130,0OOP. Y pwnc dyrus gan hyny yw, pa fodd i gael anifeiliaid ac offer, oblegid nid oes modd ffermwra cyn cael yr anhebgorion hyn. Mae Llywodraeth Lloegr wedi gwahodd saith neu wyth o ddynion cyfrifol o blith y Boriaid i'r diben o fyned i Awstralia a New Zealand i ddethol gwartheg cymwys i hinsawdd eu gwlad. Wedi sicrhau anifeiliaid, y peth nesaf fydd cael eryd, certi a pheirianau amaethyddol. Mae llinell agerlongawl Americanaidd wedi gwneyd y llongdoll yn hynod o isel a'r telerau yn Uawer rhatach nag eiddo yr Ellmyn a'r Sais, a'r canlyniad o hyn fydd prynu nwyddau Am- ericanaidd. Y peth nesaf mewn trefn fydd PLANU A CHODI CNYDAU. Mae y ddaear yn y parthau yma yn fras iawn, yn hynod ddwfn, ac nid yw yn ofynol ond mewn rhai manau i roddi tail nac unrhyw wrtaith i'r tir. Gellir planu caeau drosodd a throsodd, tymor ar ol tymor, heb roddi dim tail i'r ddaear. Dyfrhau y tir hefyd sydd beth anhysbys, ond mewn rhai manau lie mae'r tir yn dywodlyd, a'r hyn a wneir yno nid yw ond ar raddfa fechan. Un hynodrwydd sydd yn perthyn i ffermydd l De Affrica yw eu bod yn ffermydd cyffredinol, hyny yw, arwynebedd ar yr hwn nid yn unig mae yr amaethwr yn codi gwenith a mathau eraill o rawn, ond mae yn gallu codi cnydau sefydlog a phenodol, ynghyd a bwydlysiau a ffrwythau. Anfonir cynyrchion amaethwyr y Dalaeth Rydd i farchnad Johannesburg gyda'r rheilffyrdd. Anfonant hefyd eu cynyrchion i'r marchnadoedd bychain cylchynol mewnwageni. Oherwydd fod cyfnewidiad wedi cymeryd lie, gellir dychmygu y bydd i'r Boriaid gael Ilawer o ofid i sicrhau Uafurwyr yn y dyfodol, ond nid felly bydd. Mae'r Kaffirs yn y Dalaeth Rydd, a'r Zulus yn Natal, y rhai a weithient iddynt cyn y rhyfel, yn myned i weithio iddynt eto. Mae yn ddealledig, cyhyd ag y glyna y tir- feddianwyr wrth eu tir, cyhyd a hyny y glyna y Kaffirs wrth y bobl wynion mae y naill yn ymddibynu ar y Uall. Y cynlluniau i dalu y Kaffirs ydyw mewn anifeiliaid-magu y cyfryw a'u gwerthu i'w helw eu hunain neu mewn arian, j6p. neu ijp. y flwyddyn. Telir i'r cneifiwr a'r cynauafwr swllt y dydd. Y mae yno ysgolion i blant y Kaffirs, ond mae y Boriaid oil yn cytuno os addysgir cenedl y Kaffirs y bydd hyny yn ddinystr sicr i holl ddiwydianau De Affrica, oblegid maent yn llawer mwy lluosog na chenedloedd eraill, a'u anghenion gymaint yn llai. Eto, mae y Kaffir sydd wedi cael addysg yn credu ei fod lawer vn well na'i frawd anwybodus; ac nid oes arno yr un awydd am weithio. At gyflenwi y wlad, bydd raid wrth swm mawr o lestri haiarn, alcan, &c., ynghyd a dillad, celfi, esgidiau a nwyddau gwasanaeth- gar er dedwyddoli dyn, ac er gwneyd bywyd yn werth ei fyw. Ni fydd cyffro mewnmasnach dros y presenol, canysnisgellirrhoddi arch- ebion mawrion hyd nes ceir y manylion, ac y bydd ymddiriedaeth wedi ei sefydlu Bydd i'r hwn a anturia I Dde Affrica yn awr gymeryd archebion am nwyddau yn ddiddadl yn sefvll gwell mantais na'i frawd-werthwr fydd yn aros gartref.
ATHRAWIAETH MONROE.
ATHRAWIAETH MONROE. Mewn anerchiad o'i eiddo yn Augusta, Maine, pan yn cyfeirio at y rhyfel rhwng Am- erica a Spaen, dywedodd Arlywvdd America: —' Y mae ein buddiant yn Athrawiaeth Monroe yn fwy cyfunol nag erioed. Nid yw Athraw- iaeth Monroe yn ddim ond mynesiad o'r gred ddiysgog fod y cenhedloedd hyny sydd ar y Cyfandir yma i gael eu gadael i weithio allan eu tynged eu hunain, ac nad yw y Cyfandir yma i'w olygu fel magwrfa i unrhyw un o AlJu. oedd Ewrob Yr unig AUu ar y Cyfandir a all wneyd yr athrawiaeth yn effeithiol, wrth gwrs, vdym ni ein hunain, oblegid, fel ag y mae'r, byd, y mae yn rhaid i genedl a gefnoga ath- rawiaeth sydd yn debygol o ymyryd mewn unrhyw ffordd gyda chenhedloedd eraill, feddu dion o allu o'r tu cefn os myn i'r athrawiaeth gael ei pharchu. Yr ydym yn sefyll vn selog dros Athrawiaeth Monroe, ac y mae digwydd- iadau y naw mis diweddaf wedi ei gwneyd yn eglur y bydd raid i ni wynebu y gwaith o gafnio Camlas Isthmia. Dichon mai dyma fydd gwaith peirianol mwyaf yr ugeinfed ganrif; a chan ei fod y gwaith mwyaf i'w wneyd, yr wyf yn falch mai yr Unol Dalaethau sydd i'w wneyd.'
ABERMAW.,
ABERMAW. YR YSGOL SIROL.—Yn yr arholiad, a gyn- haliwyd yn ddiweddar am ysgoloriaethau yn yr ysgol uchod, llwyddoddyrnaicanlynol:—Mary Davies, Harlech Elias R. Williams, Arthog; Maggie Williams, Llanbedr; E. R. Jones, Abermaw; a Ted Parry, Talsarnau. Yr ar- holydd oedd Mr. G. Lloyd Owen, Bala. YR YNADLYS.—Fe gynhaliwyd hwn dydd Gwener. John Roberts, Talybont, Dyffryn, a eyhuddid o tod yn feddw tra yr oedd ceffyl a chert o dan ei ofal. Dirwywyd ef i 5s. a'r costau.-William Williams a gyhuddid o gyff- elyb drosedd. Taflwyd yr achos hwn allan. —Gohiriwyd achos ymka un y cyhuddid Alfred Drong hesty, o ymosod ar Mary Crabbe, y ddau o'r Abermaw.
LLANBEDR, MEIRION.I
LLANBEDR, MEIRION. CYNGERDD.-Cynhaliwyd cyngerdd yn y lie uchod, nos Fawrth, elw pa un oedd i fyned tuag at y Llyfrgell Gyhoeddus. Cymerwyd rhan gan amryw o gantorion lleol, ynghyd a chan ddieithriaid. Canodd y Llanbedr Glee Party yn dra swynol; a chyfeiliwyd yn fedrus gan Miss G. M Arthur. Diau genym i elw da ddeilliaw oddiwrth y cyngerdd.
PENNAL.
PENNAL. PLESERDAITH. Ddydd Iau, bu aelodau Ysgol Sul yr Eglwys Sefydledig yn y lie hwn am bleserdaith i Aberystwyth. Cludwyd hwy mewn cerbydau i gyfarfod y tren yn Machyn- lleth. Yr oedd Uuniaeth addas wedi ei darpar ar eu cyfer yn y Progress Hall, Aberystwyth. Wedi mwynhau « diwrnod o f6r,' dychwelasant gan gyraedd Pennal oddeutu saith o'r gloch a phawb yn canmol y daith, a charedigrwydd mawr y rheithor yn dwyn hyn oddiamgylch.
LLANERFYL.
LLANERFYL. MARW ODDICARTREF Yr wythnos o'r blaen, bu farw geneth fechan bedair mlwydd oed i'r heddwas Morgan, o'r lie hwn. Yr oedd Mrs. Morgans, a'r eneth fach wedi myned i rodio i Llanidloes, pryd y cafodd y ddiweddaf ei tharaw yn wael yn sydyn, ac y ,b1,1 farw o'r German Measles. Cydymdeimlir yn ddwys a'i rhiant yn eu dwfn alar.