Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
21 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
SALE FAWR FLYNYDDOL i'l C B k B D REES, Paris House, Machynlleth. Yn dechreu dydd lau (Ffair Awst), Awst 7fed, ac i barhau ar hyd y mis. Gwerthu Allan y Gweddill o'r Stoc Haf, GYDA GOSTYNGIAD MAWR; Gwneir gostyngiad yn yr holl Stoc yn ystod y Gwerthu Allan. Y mae yr holl Stoc yn Newydd, Ffasiynol, ac o'r Gwneuthuriad Goreu. Rhoddir BARGEINJON GWIRIONEDDOL Dyma gyfleusdra rhagorol i gael Dillad yn rhad. Oherwydd amrywiaeth a chyflawn- der y Stoc, nis gellir rhoddi rhestr o honynt. SALE WIRIONEDDOL HYD DDIWEDD Y MIS' Ni cha neb ei siomi mewn Gwerth nac yn Mhris y nwyddau. READY MADES, DILLADAU PAROD! I Ddynion, Bechgyn, a Phlant. 0;3p, Y mae genym Stoc anferth o bob math. PRINT S-Canoedd o latheni nt Ddreaaea* Blouses 0 3Jc. y llath i fyny. DRESSES- Canoedd o latheni o'r nwyddau diweddaraf, 2!c, y llath i fyny. HETIAU GWELLT-Canoedd 0 Hetiau Merched, Dynion, a Phlant, i'w gwerthu allan am lai na haner eu gwerth. Hefyd, Carpets, Oilcloths, Mackintoshes, Umbrellas, &e. Siir Nid oes le i fanylu. Deuwch yn IUML. GREAT CLEARANCE SALE Of Summer Goods at PARIS HOUSE, MACHYNLLETH. Great Bargains Will Be Offered. Commencing Thursday (Fair Day), August 7th, 1902. Sefydlwyd yn 1876. MR. A. O. POWELL, L.D<S&CS DENTAL SURGEON, 4, PORTLAND STREET, ABERYSTWYTH. (Opposite the Welsh Baptist Chapel. Honorary Dental Surgeon to the Aberystwyth Infirmary, and Cardiganshire General Hospital. MACHYNLLETH.—Y dydd Mercher Cyntaf a Trydydd dydd Mercher ymhob mis, yn nhy Mr. Marpole, Liverpool House, Maengwyn Street, o 2 p.m. hyd 5 p.m., neu wrth apwyntiad. CORRIS.—Yr Ail a'r Pedwerydd Sadwrn o bob Mis, yn nhy Mr. W. J. Edwards, Temperance Glanydon, o 11 a.m. hyd 4-30 p.m. Prisiau Rhesymol. Comultationt yn ddi.dil Mae Mr. Powell yn siarad Cymraeg Nid oes dim amheuaeth nad EASINE ydyw y Meddyglyn goreu at Gur mewn Pen, Ddanodd, Neuralgia, Tic, Anwyd yn y Pen, A phob math o boen yn y pen. Dyma dystiolaethau pwysig yn profi y Saith :-Dyma ddywed y Parch. R. Peris Williams, Llandudno:- Mr. Hugh Jones. Anwyl Syr,—4 Y Feddyg. iniaeth fwyaf effeithiol a gefais erioed at wella Cur mewn Pen, ydyw yr I Easine' a wneir genych chwi. Mae yn effeithio yn gyflym iawn. Gwellhaodd un o honynt gur yn r, mhen mewn ychydig amser.' Dywed Mr. John Smith, Ash St., Southport, —4 Easine is a capital remedy for Neuralgia. Dywed Mr. Parry Edwards, Ty'r capei Lla nfecbell, Mon. :Cymeradwyaf I Easine bob amser at y Neuralgia.' Mr. R. C. Jones, Pentrefelin, Llangedwyn ddywed:—4Wedi rhoddi prawf ar Easing 'rwyfyn gwybod beth ydyw bod am fisoedd heb y Neuralgia, pan o'r blaen yr oedd yn dyfod ataf yn fynych iawn. Yn ddiddadl, dyma'r feddyginiaeth oreu at y Neuralgia. Rhoddais dd6s i gyfaill at y ddanodd cafodd esmwythad buan, ar ol dioddef am ddyddiau. Rhoddais un arall i berthynas at y NeuraljEiat cafodd waredigaeth lwyr a hollol Mae-ya bleser g enyf ei gymeradwyo i bawb sydd in dioddef oddiwrth y cyfryw boenau.' Gellir rhoddi dwsi nau o dystiolaethau i'r Easine.1 Gofynwch i'ch Fteryllydd neu eich Grocer am dano, i s. y paced. Yn gyfanwerthoddiwrth Mri. David Jones & Co., Liverpool, neu trwJ y post am is. oddiwrtj. HUGH JONES, M.P.S. Chemist & Druggist, Medical Hall, £ L, FFESTINJUQ
YMCAIS I NOFIO Y SIANEL.I
YMCAIS I NOFIO Y SIANEL. Dydd Mercher, ceisiodd Mr, Montague Holbein nofio y sianel rhwng Ffrainc a Phryduin. Yr oedd y mor yn dawel, ond ar 01 bod yn y dwfr am 22 awr methu ddarfu. iddo. Yn y diwedd nofiai yu bur araf, ac er nad oedd ond tri chwarter milldir o Dover gorfu iddo ei thoddi i fyny. Dydd lau, bu Mr. Frank Holmes yn ceisio gwneyd yr un gamp, gan ddechreu o Dover am haner awr wedi pump yn y boreu. Bu yn y dwr am bedair awr, ond daeth salwch y mor arno, a dallid ef gan yr haul, a gorfu iddo yntau roddi yr ymdrech i fyny.
DAMWAIN MEWN CLOFA YN Y DE.
DAMWAIN MEWN CLOFA YN Y DE. Dydd Gwener, fel yr oedd gweithwyr dydd yn rnyned i lawr Glofa Bodringallt, Ystrad, Rhondda, aeth ystafell y peirianau ar dan. Torodd un o'r gwifrau oedd yn gysylltiedig a'r ceibyd oherwydd y gwres mawr, a, syithiodd y cetbyd i lawr y shaft, gan niweidio dyn o'r enw Thomas. Oherwydd y ddamwain i'r shaft nis gellid symud yn fuan, a gorfu i'r gweithwyr tyned i'r pwll drwy Ferndale, a cherdded am ddwy filldir o dan y ddaear er cael hyd i Thomas Pan y torodd y tin allan, yr oedd y peiiianydd Evan Lloyd, yn y weithred o ollwng un ar cileg o ddynion i lawr. Er yr amgylch- ynwyd ef gan y filamau, daliodd yn ddewr at ei le. Llosgwyd ei wyneb yn dost, ond bu ei ddewroer yn foddion i atal damwaiii erchyll. Tynwyd 500 o ddynion o'r pwll drwy ttordd Fernoale. Mae y tin wedi talfu 800 0 weithwyr allan o waith am beth amser.
[No title]
Dy wedir i gynifer a 3,106,295 o Feiblau gael eu gweithu yn Ohina. y fiw)ddyn ddi- Wicldaf..
El CHLADDU YN FYW.
El CHLADDU YN FYW. Cyhoeddir hanes o Buenos Ayrts, am farwolaeth boncddiges ieuanc, dan amgylchiadau rhyfedd. Ar ddydd ei phen blwydd (deunaw oed), rhoddwyd gwledd i'w chyfeillion yn ei chartref. Ar derfyn y wledd, aeth y fonedd'ges ieuanc i wisgo er myned i optrd yn y ddinae. Ar ei gwaith yn gosod ei het am ei phen, syrthiodd i lawr, i bob ym- ddangosiad, yn farw. Oherwydd poethder yr hin, ni oddefir gadael corff heb ei gladdu yn hwy na 24 awr. Fellyjcladdwyd MUe. Cambaceres yn ddioed. Yehydig ddyddiau yn ddilynol, taenwyd y chwedl i'r foneddiges gael ei gwenwyno, a rhoed gorch- ymyn i godi y corph. Pan wnaed hyn, ac yr agor- wyd yr arch, yr oedd y gorchudd roed dros ei gwynab wedi ei ddryllio, a'i gwyneb hithau yn gripiadau i gyd drosto. Oddiwrth yr arwyddion hyn, bernir iddi gael ei chladdu, tra yn fyw, lie mai yn ei hymdrecb i dd'od o'r arch y torodd y gorchudd, .0.
CYMDEITHASFA CAERNARFON.
CYMDEITHASFA CAERNARFON. Cynhaliwyd Cyrndpith^sfa Chwarterol Meth- odistiad CalfinaiHd Goeledd Cymru yn Ngaer- fon, yr wythnos diweddaf. Y llywydd vdoedil y Parch Owen Owens, I erpwl, a'r yerifenydd y Parch. J O. Thomas, M A. Nos Lun, traddodwyd preeethau yn nghapel Siloh. Am 10 30 foreu Mawrth. cynhaliwvd Cyfeisteddfod y Gvmdeithasfa yn Nghapel Moriah. Am ddau yn Moriah, cyfarfod cyntat y Gymdeithasfa Am 7 o'r gloch yn yr hwyr, yn yr un capel, ail gyfarfod y Gymdeithasfa (cyfarfod cyhoeddus), pryd y siaradwyd ar y mater Ein peryglon oddiwrth fydolrwydd,' gan amryw o'r brodyr. Am haner awr wedi wyth, boreu dydd Mercher, cynhaliwyd cyfarfod y pregethwyr yn Moriah, ac ar yr un adeg, cyfarfod y blaenoriaid yn Nghapel y Maes Am ddeg, trydydd cvfarfod V Gymdeithasfa, pryd y darllenwyd papyr ar y mater: Yr Ysgol Sabbothol feIlle i gyfranu addysg foesol a chrefyddol,' gan y Parch. John Jones, Hebron. Am haner awr wedi un, ped- werydd cyfarfod v Gymdeithasfa. Y prif fater yn y cyfarfod hwn ydoedd y drafodaeth a gafwyd ar y Drysorfa Gynorthwyol a Chasgliad Mawr y Ganrif. Am bump yn yr hwyr, tradd- oHwyd pregethad yn y Panlion gan y Parchn. [. Owen, Wyddgrug, a'r Proff. Edwin Williams, M.A. Am saith yn yr un lie, cyfarfod cen- hadol. Siaradwyd gan Miss K. E. Williams, Dr. Griffiths, Mr C. L. Stephens, ac eraill. Am hanerawr wedi wyth boreu lau, yn Nghapel Engedi, cynhaliwyd y Seiat Gyffredinol, pryd y siaradwyd ar y mater, Sicrwydd Gobaith,' gan y Parch. Owen Owens, a brodyr eraill. Cynhatiwyd cyfarfod pregethu. Gwasanaeth- wyd gan y gweinidogion canh nol: Y Parchn. Dr. Cynddylan Jones, Dr. Hugh Jones, D. Lloyd Jones, M A., 0 Owens, John Williams, Edwin Williams, M A., a Wm. Thomas
ABERLLEENFNI.
ABERLLEENFNI. PRIODAS DDYBLYO. Dydd Mawrth diweddaf ydoedd ddiwrnod nodedig yn yr ardal hon, fel y dangosai y taranau a arllwysid o gyflegrau y creigiau. Yr oedd yn ddydd priodas dwy chwaer -merched Mrs. Davies, Plas, Aberllefenni. yr hyn gymerodd le yn nghapel y M.C. Ymbriodwyd Mr Edward ETans, 144, Erlanger Road, Brockley, Llundain (o Swyddfa y Custom House). & Miss Elizabeth Rowlands Davies: hefyd, Mr. Llewelyn Ido Morris, 34, Millman Road, Llundain (o Swyddfa y Board of Trade), a Miss Mary Davies. Gweiii- yddwyd gan y Parch. John Owen, Wyddgrug, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. W. T. Ellis, B.D., gweinidog y lie. Yr oedd yn y capel dyrfa luosog o garedigion y ddau ddeuddyn ieuainc wedi ym- gymill i amlygu eu hewyllys da iddynt, ac wedi i'r gwaaanaeth fyned drosodd, derbynid hwy ar eu dychweliad o'r capel ac ar hyd y ffordd i'r Plas gan gawodydd o confetti. Yna, cymerwyd photographs o'r cwmni ar lawnt y Plas. Wedi hyny, eisteddodd nifer o berthynasau a chyfeillion y teulu i fyrbryd a ddarparwyd gan Mrs. Davies. Yr oedd y cwmni vn cynwys heblaw y ddau bar priodasol, y Parchn. J. Oweo, W. T. Ellis, B.D., Mr. Michael Roberts, Mr. Morris Thomas, C.S., Mrs. Davies, Maldwyn House, Machynlleth; Miss J. Davies, Machynlleth; Mrs. Edwards, Towyn (chwaer), Misses L. a H. Davies, chwiorydd Mrs. Morris, Misses Owen a Thomas, Towyn: Mr. D. R. Davies (brawd), Mrs. Evans, a Mr. E. R. Evans, Tanyfaen; Mr", Lewis, Gaewern Hall: Misses Humphre s, Corris; Mr. H. Morgan, Gaewern Uchaf, &o. Yn y pryduawn. ymadawodd y ddau barti dedwydd am eu gwyliau i gyfeiriad Pwlhleli. Yr oedd yr anrhegion yn lluosog a gwerthfawr.
PENEGOES.
PENEGOES. REHEARSAL. Yn nghapel y Wesleyaid, prydnawn Sabbath diweddaf, bu Mr. James Lewis (Iago Idris), Corris, yn cynal rehearsal yn y lie uchod, ar gyfer y Gymanfa Ganu. sydd i'w chynal yn Machynlleth. Yr oedd cynrych- iolaeth dda o gantorion o Machynlleth ac Ab- ercegir hefyd yn bresenol. Ond i'r cantorion fyned drwy eu gwaith fel yr aethant prydnawn Sul diweddaf, yr ydym yn sicr o gael Cymanfa ragorol y Sadwrn nesaf
TOWYN.
TOWYN. Y DIWEDDAR MR. H. P THOMAS.—Yn ein rhifyn diweddaf, cyfeiriwyd genym at far- wolaeth ddamweinioly gwr uchod, yn Llundain, yr wythnos flaenorol Y pryd hyny nid oedd manylion wedi cyraedd. Erbyn hyn, deallwn yn ol y tystiolaethau roddwyd yn y trengholiad, iddo gyfarfod a'r ddamwain, a brofodd yn angeuol iddo y dydd canlynol, trwy gael rhedeg drosto gan laundry waggon, pan oedd ef yn croesi o'r naill heol i'r lIall, yn Fulham Road, Llundain. Dygwyd ef ar unwaith i'r West London Hospital, ond er pob medr meddygol bu farw fel y nodwyd, y dydd canlynol.
MARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. MARCHXAD TD LERWL, Medi 2il. Agorodd y farchnad yn eefydlog i wenith yn Lerpwl heddyw, yn ol prisiau dydd Gwener; ond tawel oedd y galw. Gwenith Califfornnidd, 6s. 4;e i 6s. 5c. y cau'pwys. Blawd gwenith. ceirch, a blawd oeirch yn dawel. ac heb gyfnewidiad yn y prisiau. Galw cymedrol am indrawn, a'r prisiau yn sefydlog. MARCHNADOEDD ANIFEILIAID. Llundain, Medi laf.—Gwartheg.—Y eyflonwad o wartheg yn llai, a'r galw yn dawel ond y prisiau yn sefydlog. Gwartheg Devon, o 4s. 9c. i 4s. 10c., Hereford, 4s. 8c. i 4,. 11e.; Gwyddelig, o 4a. 4c. i 4B. 7c.; a buchod tewion 0 4s. i 4s. 2c., yr 8 pwys. D'faid. Cyflen wad cymedrol o ddefaid, a masnach dawel yn ol prisiau diweddar. Leicester, Awst 30ain.-Cy11enwad Uai nag arfer o yatoc, ond y cynulliad o brynwyr yn gymaint ag arfer, a'r prisiau yn cadw i fyny yn dda. Gwartbeg Cymreig, 0 13p. IQg, i 15p. 10s,; a rhai Gwyddelig, 015p. I 10p. 10B,
REILFFORDD CORRIS.
REILFFORDD CORRIS. Yr wythnos ddiweddaf, fe anfonwyd y ddeiseb yn gosod allan gwynion yr ardal yn erbyn y gwasanaeth ar KoillYnnld Coma at y cyfarwyddwyr. Yr oeti-I y deisebwyr yn cynwys cymaint a 943 o bersonau, o 14eg oed ac i fyny. Gwelir ar unwaith mor gyfi- redinol y gelwir am gyfnewidindau gan nad yw y plwyf yn rhifo dros 1,700. Arwydd- wyd y ddeiseb gyda'r parodrwydd mwyaf. Dengys y cyfan mor ddisail yw yr haeriad mai er budd rhyw un neu ddau o bersonau y codwyd y cynhwrf ac y gofynir am ddi- wygiad. Mae gan yr ardal hyder y bydd i'r cyfarwyddwyr wrando ar eu deisyfiad rbesymol, ac na oedir unioni y cam a ddi- oddefwyd mor hir. Wele gopi o'r ddeiseb a anfonwyd iddynt At Gyfanvyddwyr Jlh oil ffordd Gorrii. Yr ydym ni sydd a'n henwau isod yn dymuno cadarnhau y penderfyniadau a basiwydyn unfiydol mewn cyfarfod cyhoeddus o drigolion Plwyf Tal- yllyn, yr hwn a gynhaliwyd yn Ysgoldy y Bwrdd, Corris, Awst 18fed, 1902, mewn perthynas i was- anaeth a materion eraill a nodir isod ynglyn a Rheilffordd Corris. Yr ydym yu apelio yn ostyngedig ar fod y cwynion canlynol y cytunwyd yn unfrydol arnynt yn y cyfarfod uchod, yn cael eu hunioui:— Yn gyntaf, ac yn fwyaf neillduol,-Fod tren yn cael (i redeg o Goriis i gyfarfod y train 7.50. a.m. o Machynlleth am y Coast gan fod y train 7.40. a.m. o Gorris yn peri yr anghyfleusdra mwyaf, ac yn ol ein barn ni, yn ddiangenrhaid hwyr. Yn ail,—Fod nifer digonol o gerbydau yn cael eu darparu i weithwyr Es^airgeiliog a Llwyngwern at, ac oddiwrth eu gwaith, a mwy o fanylder yn cael ei ddangos i atal y gweithwyr hyn i fyned i ger- bydau lib fod wedi eu darparu ar eu cyfer. Yn drydydd,- Fod trSns rhad yn cael eu rhedeg ar achlysuron neillduol i ac o Goriis a Machynlleth lie fod y gwystl presenol yn cael ei leihau heb beri niwed arianol i'r Cwmni.
Y CADFRIDOGION BOHAIDD.
Y CADFRIDOGION BOHAIDD. Y Sabbath, cyrhaeddodd y Cadfridogion Boraidd Botha, De Wet, a Delarey, ynghyd hlu hysgrifenydd, Mr. Bretner, i Lundain, o Rotterdam. Nid oedd dim gwybodaeth i'w gael gyda golwg ar blauiau neu symudiadau y Cadfridogion, na dim chwaith o berthynas i'r amser yr oeddynt yn myned i aros, oddi eithr nad oedd y boneddigesau, gydag un eithriad, gyda hwy ar yr achlysur presenol. Yn ol fel y dywed yr ysgrifenydd, y mae pob peth yn dibynu ar amgylchiadau, ac nid ue8 dim wedi cael ei drefnu yn derfynol. Gwnaeth Mr. Bretner yr hyn a ganlyn yn liyfjbys: Y mae y Cadfridogion Botha, De Wet, a lJelaiey, yn dyuiuno iddo gael ei ddeall yn bendant nad ydynt hwy yn dym- uno caniatau unrhyw ymgom ag unrhyw un o gynrychiolwyr y wasg. Nid oes ganddynt unrhyw hysbysiad i'w wneyd i'r wasg yn bresenol.'
LLOSGFYHYDD MONT PELEE-
LLOSGFYHYDD MONT PELEE- Dydd Sadwrn, bu eilwaith ddaeargryn, a ganlynodd gydag ymarllwysiad lava a mar- wor fflamllyd o'r myuydd uchod, yn yr India Orllewinol, a dinystriwyd dwy dref. Fe laddwyd dros fil o bersonau, a niweidiwyd amryw ganoedd.
MORDAITH Y BRENIN.
MORDAITH Y BRENIN. Gadawodd yr agerlong Frenhinol 'Victoria and Albert,' Fau Ramsey am chwech o'r gloch, foreu Mawrth, a chyrhaeddodd y Clyde yn gynar yn y prydnawn. Rhoddwyd derbyniad gwresog i'r Brenin. Angorwyd yn Mau Brodick Ynys Arran, ac aeth y Brenin a'r Frenhines i'r lan ar ymweliad a Duces Hamilton ac Ar- glwyddes Mary Hamilton yn NghastelijBrodick Arhoswyd with angor yn ardal Ynys Arran, ddydd Mercher. Aeth y Brenin a'r Frenhines gydag aelodau eraill y parti, o Brodick i Don- arie i weled arddangosfa cwn defaid. Dydd lau, bu y Brenin yn hela'r ceirw yn Ynys Arran. Saethodd garw mawr ddwywaith, a thybid ei fod wedi ei glwyfo'n farwol, ond llwyddodd i ddianc i'r coed. Hwyliodd y 4 Victoria and Albert,' gyda'r Brenin ar ei bwrdd, yn y prydnawn, ac yn yr hwyr, cyrhaeddwyd Colon- say, swydd Argyll, He yr angorwyd. Ddydd Gwener, gadawodd y Brenin a'r Frenhines eu hagerlong ac ymwelasant a Syr John M'Neill ar Ynys Colonsay. Yn y prydnawn, hwyliwyd am y gogledd, a disgwylid iddynt ymweled ag Oban, ond er siomedigaeth tyrfa fawr oedd wedi casglu yn y dref, aeth yr agerlong i Ballachulish ar Lyn Seven, ac angorodd yno Arhosodd yr agerlong yn Ballachulish hyd nos Sul. Dydd Sadwrn, glaniodd y Brenin gyda'r gobaith o hela yn nghoedwig Mamore, ond oherwydd y gwynt ni wnaeth.
ETHOLIAD MR. IDRIS AR CYHCOR…
ETHOLIAD MR. IDRIS AR CYHCOR SIRDL LLUNDAIN. Dydd Sadwrn, cymerodd etholiad aelod le dros ranbarth East St. Pancraa, ar Gyngor Sirol Llundain, i lanw y sedd a wnaed yn wdg trwy farwolaeth Mr. Nathan Robinson (R). Ymgeisiai Mr. Williams Idris, Talyllyn a Llun- dain, dros y blaid Ryddfrydol, a Mr Edmund Barnes. Maer St. Pancras, at aelod o Fwrdd Ysgol Llundain, dros y Ceidwadwyr. Wele y canlvniad Mr. Idris (R) 2,490 Mr. Barnes (C) 1,865 Mwyafrif Mr. Idris 621 Llongyfarchwn Mr. Idris. ar y canlyniad an- rhydeddus, ac y mae ef yn wir deilwng o'r dewisiad. Bydd yn adgyfnerthiad i blaid cynydd yn y Cyngor, ar yr adeg hon, pan y mae y Llywodraeth yn cario trwodd ei Mesur dros gyflenwi a rheoli gwaith dwfr ybrifddinas. Bu Mr Idris yn aelod o'r blaeh ar y Cyngor, ac y mae yn awdurdod ar faterion dwfr a charthffosydd. Gwasanaethodd fel cadeirydd y pwyllgorau hyn. Gan Mr. Idris y mae y nifer fwyaf o ddynion yn ei wasanaeth yn mhlwyf St. Pancras. Mae y firm o ba un y mae ef yn ben, yn talu y cyf- logau uchaf yn y fasnach, a rhai o honynt uwchlaw telerau Undebau Llafur. Rhodda flwydd-dal i hen weithwyr, pa un bynag a'i rlynion neu ferched. Cynhelir clwb cleifion gan y firm yn hollol o'i henillion, a phan y bydd masnach yn brysur, rhenir miloedd 0 bunau ymhlith y gweithwyr allan o'r enillion ffeithiau dros fod y gweithwyr wedi pleidleisio drosto. Brodor 0 Benfro yw Mr. ldris, wedi treulio y rhan fwyaf o'i oes yn Llundain fel fferyllydd, a gwneuthurwr diodydd mwnawl. Rai blynyddau yn ol, prynodd etifeddiaeth yn Talyllyn, a ber- thynai gynt i Dr W. Owen Pughe, y geiriad- urwr, a chynwysa ran fawr o Gader Idris hyd at ei choryn Mae yn aelod a diacon gyda'r Bedyddwyr Efe yw llywydd Cymdeithas Am- aethyddol Meirion y flwyddyn hon. Cynhelir yr arddangosfa yn Towyn, yn ystod y mis hwn. Mae yn ynad heddwchdros Feirion a Llundain.
CORRIS.
CORRIS. DARLITH. Nos Wener yr wythnos hon (Medi 5), bydd y Parch. H. Cernyw Williams, Corwen, yn traddodi darlith yn nghapel Noddfa (B.), ar I Emynau ac Emynwyr Cymreig.' Gyda thestyn mor ddyddorol, a darlithydd mor enwog a phoblogaidd, mae yn ddiau genym y ceir gwledd amheuthyn. Dechreuir am saith o'r gloch. LLWYDDIANUS.—Yn Arddangosfa Machyn- lleth yr wythnos ddiweddaf, enillodd Mr. John Owen, Abercorris, y wobr flaenaf, am y ci defaid smooth coated goreu. Dyma y burned wobr flaenaf iddo enill er mis Mai diweddaf. DIRWESTOL Nos Fawrth diweddaf, yn nghapel Siloh, Corris, dan lywyddiaeth Mr. M Thomas, C.S., cynhaliwyd cyfarfod 0 bwyllgor gweithiol y Gymdeithas Ddirwestol, er tynu allan raglen cyfarfodydd tymor y gauaf. Yr ydym yn deall y bydd y trefniadau hyn wedi eu cwblhau a'u cyhoeddi yn fuan, a hyderwn y ceir cyfarfodydd poblogaidd a llwyddianus. DAMWAIN ANGEUOL.—Dydd Mawrth, tra yn marchogaeth cettyl o eiddo ei feistr, cvfar- fyddodd dyn ieuainc yn ngwasanaeth Mr. Idris, Talyllyn, a damwain angeuol, drwy syrthio oddiar gefn y ceffyl i'r llyn, a boddi. Yr oedd personau yr ochr draw yn dyst o'r ddamwain, ond yn rhy bell 1 allu estyn cymorth. Cafwyd hyd i'r corph wedi ymchwiliad byr. Yr oedd Dr. Lloyd, Towyn, yn y He ar y pryd, a gwnaeth bobpeth allai er ceisio adfer bywyd, ond yn ofer. Hysbysir ni mai dyn ieuanc o gymydog- aeth Dolgellau oedd y trancedig, ac yn 2iain oed.
DINAS MAWDDWY.
DINAS MAWDDWY. MARWOLAETH MR. HUGH PUGH JONES. LLANERCH.-Dyna fel yr adnabyddid gwrth- ddrych yr ysgrif hon gan gylch eang o gyfeillion yn Mawddwy a'r cyffiniau. Chwith nad ydyw mwy yn rhodio yn ein mysg. Cafodd gystudd trwm. Bu farw yn 42 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Llanymawddwy. Gadawodd briod a thair merch fechan i alaru ar ei ol. Yr oedd gan ein cyfaill bersonoliaeth siriol, ddenai bawb i'w garw a'i edmygu. Nid oedd ganddo yr un gelyn. Fel gwr o gyngor yr oedd yn ochelgar a phwyllog, ac eto yn batod i symud ymlaen. Efe oedd yr aelod presenol dros Fawddwy ar Gyngor Sirol Meirion. Efe hefyd, oedd ysgrif- enydd lleol y Feibl Gymdeithas yn Mawddwy. Fel gwleidyddwr, ni chuddiai ei egwyddorion, a dadleuai drostynt, ac nid fel y barnai yr ym- geisydd hwn a'r ymgeisydd arall. Meddai synwyr cryf iawn yn ddiddadl yn hyn. Dyna yn ddiau ei gryfder i beidio gwneyd gelynion iddo ei hun. Felly yr eniltodd ymddiriedaeth a pharch. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy | gyda'r Wesleyaid. Gresyn yw meddwl fod lIawer o'i wrandawyr heb erioed weled ei ogon iant, a thrist iawn i ni ydyw gorfod credu mae ychydig iawn o bersonau fydd ymhen ychydig o flynyddoedd a allant gofio ei neillduolion, na hyd yn nod ei sylwadau mwyaf gwerthfawr. Nid ymostyngai byth i'r isel a'r di-chwaeth meddyliau pur oedd ei feddyliau ef bob amser. yn ddirgel a chyhoeddus. Cymeriad cadarn a thalgryf oedd efe-un na fedrem fforddio ei golli. Yr oedd hefyd yn awdurdod arbenig ar drin gwenyn, ac wedi cyhoeddi Llawlyfr ymar- ferol ar y mater, sef y Gwenynydd,' yr hwn a werthir yn helaeth hyd heddyw. Gadawn ein cyfaill hoff i huno hyd y dydd pan gan yr udgorn diweddaf. Chwareued awelon yn ber- orus 0 amgych ei fedd Gwylied engyl Duw ei lwch hyd yr adeg pan gyfnewidir ei gorph gwael, ac y gwneler yr un ffurf a chorff gogon- eddus yr Arglwydd lesu. Gyfaill hoff! mae hiraeth creulawn ar dy ol.-Tegwyn.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. ARWERTHIANT.-Dydd Mercher, yn y Ship Hotel, rhoddwyd fferm o'r enw Maesgwm, rhwng- Ganllwyd a Thrawsfynydd ar weith. Mesura tua 700 o aceri. Prynwyd hi gan Mr. Jones, Mount Pleasant, Dolgellau (a Lerpwl), am 2,01 op. PICNIC.—Prydnawn Mercher, cafodd myn- ychwyr Ysgol Sabbothol Pendref eu pleserdaith ilynyddol i Fairbourne, lie y cynhaliwyd picnic ganddynt. MR. M. JONES, STAYLITTLE.—Boreu dydd Sadwrn, bu farw Mr. Jones wedi hir gystudd Brodor o Ffestiniog ydoedd. Yno y magwyd ef, a bu yn ddiacon a thrysorydd ffyddlawn yn Jerusalem am oes faith, a chafodd anrhegion gwerthfawr ar ei symudiad i Dolgellau. Dydd Lluu, claddwyd efya mynwent Llanelltyd. -I
ARDDANGOSFA MACHYNLLETH. Dydd…
ARDDANGOSFA MACHYNLLETH. Dydd Mercher, cynhaliwyd Arddangosfa Amaethyddol Machynlleth, ir gae pet-thvnol ifr Plas, yr hwn yn garedig a roddwyd at yr achlysur gan Ardfllyddes Londondeny. Yr oedd yn ddiwrnod hafaidd, a daeth cynulliad iluosog ynghyd. Y Llywydd eleni eto oedd Arglwydd Henry Vane Tempest, yr hwn sydd yn parhau i amlygu dyddordeb dwfn yn yr Arddangoafa. Cyflawnwyd y awydd o yogrifenydd mewn modd deheuig a gorph- enol gan Mr. John Lewis, Londonderry Terrace. Yr oedd nifer yr entries yn lluos- ocach y tro hwn nag- erioed. Y nifer y 'h llynedd oedd 466, ac eleni 496. Cymerodd y cynydd Ie yn adranau y ceffylau, gwartheg, a defaid. Yr oedd y cynyrehion gerddi hefyd 0 ansawdd well nag arfer, tra yr oedd iiifer y ^ystadle^wyj-^ yn ad ran y cifoi yn lluosog lawn. Yn dilyn, wele restr oJr prif enill wyr yn y gwahanol adranau :— Neidio (agored), i Mrs. Blackley, Madeley, Staffordshire 2 a 3. F. V Grange, Farndon 4. Dr Davies, Machvnlleth. CefiFylau.—M. Griffith, Tvnywern, Cemmes; Morgan Morgans, Melinftrldd, Machynlleth Dr Davies, Tohn Thomas, Tre'rddol. Glan- dyfi G. E. Blackwall, Bow Street; E. Bennett, Llanidloes, E Morgan, Llanbrvnmair; E. Edwards. Borth W Richards, Cefnhendre N. B. Owen, Gwernafon R. Jones, Veterinary Surceon, Towyn; J. C. Edwards, Gelligoch. Tithio -R, Jones, Towyn; T D. Roberts, Tre'rddol; J. Micah, Machynlleth. Turnouts, &c.-F,. W. Jagger, Wellington; W. R. Tones, Borth; E. Morgan, Llanbrvn- mair; E. Huphes, Mathafarn; D. Jenkins. Henhafod J. Pugh, Maesllwyni H. Evans, Escuan. Towyn R. Ryder, Cemmes; M. E. Francis. Dolcorsllwyn. Gwartheg.—J. B. Morean, Borth; E Evans, Aberffrydlan; E. J. Williams, Cynullmawr; E. Hughes, Mathafarn D Pryce. Great Weston; L. Morgan, Penrhosmawr; J. Micah. Machynlleth; H. Evans, Towyn M. Ryder, Llanwrin; Ardalyddes Londonderry; D Jones, Machvnlleth. Defaid.-J. jones, Ynyshir, Glandyfi; H Evans, Escuan Robt. Jones, Gwarcwmbach. Glandyfi; David Davies, Caeadda; J. a R. Phillips, Llwynybrain L. Pritchard, Tynohir, Machynlleth, J Jenkins, Penrhvn Pennal. Cneifio D. W. James, Ponterwyd J. Evans. Talybont; J. Jones, Dinas Mawddwy; H. P. Hughes, Abergynolwyn; Evan Jones, Dinas Mawddwy. Cwn.—E. V. Davies, Dolenog, Llanidloes John Owen, Penrhos, Corris T. Carruthers, Machynlleth; J. Parsons, Corris; D. E. R Griffith, Machynlleth; G. C. Williams, Borth T. Parsons, Machynlleth T. Steadman, Dinas Mawddwy D. C. Davies, Machynlleth Miss Hewitt, Esgair, Pantperthog J. J. Parry, eto; Dr Davies. Dofednod.-D. P. Evans, Old Post Office, Llanbrynmair; Col. Norton, Dolcorsllwyn; R. Gillart, Machynlleth E. Rowlands, Ceinws; A. Owen, Llanidloes Hugh Brown. Glandyfi; J. Hohenburg. Borth; Ardalyddes London- derry E. E. Owen, Garneddwen, Corris Mrs. Evans, Aberffrydlan. Moch.-D. Jones, Cattle Dealer, Machyn- Ileth C. Robinson, Goat Inn, a Hugh Thomas, Penffordd, Machynlleth. Ymenyn ac TVyau.—Ardalyddes London- derry, Mrs Lewis, Morben Mawr; Mrs. Evans, Glandyfi; Mrs. Jones, Glanmerin; Mrs. Breese, Caegogrydd. Gwreiddtau, &c.-E. Hughes, Mathafarn, J. Jones, Ynyshir; J. B. Morgan, Borth; Lewis Morris, Penrhosmawr Ardalyddes London- derry: David Lewis, Morben Mawr; F M. Campbell. Brynllwydwyn. Afel.-Rees Evans, Llanbedr, Meirion; J. Williams, Borth; Lewis Davies, Aberangell; Mrs Humphreys. Penegoes. Cynyrchion Gerddi.-M. Edwards, Pen- egoes H. Williams, Abergynolwyn Rees Evans, eto; R. Rowlands, Felingeryg; W. M Williams, Corris; W. Joseph, Taliesin; J Morris, Towyn Owen J. Owens, Corris W T. Rowlands, Borth; H. Thomas, Penffordd; R Davies. Penrhos, Corris; Evan Rowlands, Ceinws; R. Williams, Llwyncelyn; H Shuker, Towyn, H. Rowlands, Pantcoch; H. Owen, B. G Inn, Corris; J Humphreys, Penegoes; J. Andrews, Eglwysfach John Davies, Fron- Felen, Corris Ellis Griffith, Towyn Mrs. Ruck, Pantlludw J. Parsons, Corris G. Humphreys, Penegoes Richard Jones, Mach- ynlleth J. Jones, Royal Oak, Taliesin Miss Edwards, Dylife; Hon. Mrs. West, K. W. Anwyl, Ltugwy; Mrs Carruthers, B. L. Anwyl, Llugwy E. Davies, Penrallt; Mabel Morris, Caergybi; M. Allix, Garthgwynion; 0 Morris, Sarshiwn; D. P. James, J. R. Morgan, a W Humphreys, Aber.
FFESTINIOG.
FFESTINIOG. AR YMWELIAD.- Y mae y Parch. E. P. Thomas, M.A., o Wilkesbarre (gynt o Fair- haven), America, ar ymweliad a'r ardal. Y SEINDYRF.—Y mae Seindorf Oakley yn parotoi at ymdrechfa yr Eisteddfod Genedl- aethol a Seindorf y Llan at Eisteddfod Dol- gellau. BAZAAR.—Diwedd yr wythnos, cynhaliwyd bazaar yn Nhrawsfynydd, er budd yr Ysgol Frytanaidd yn y lie. Agorwyd y gweithrediadau ar y gwahanol ddyddiau gan Mr. R. Richards, Pensarn, Llanbedrog; Mr Osmond Williams, A.S., Parch. Gwynoro Davies, Abermaw. Y llywyddion am y gwahanol ddyddiau oedd y Parch. David Hughes, Mr. E. D. Jones, M.A., Abermaw a'r Parch. Griffith Jones. Gwasan- aethwyd gan y Royal Oakeley Silver Band.
.ABERGYNOLWYN.
ABERGYNOLWYN. YR ARDDANGOSFA GERDDI. &C —Cynhal- iwyd y nawfed Arddangosfa flynyddol dydd Sadwrn, y 23ain cynfisol. Oherwydd fod y tywydd i raddau yn anffafriol nid oedd y cyn- uUiad Hawn cymaint ag arfer. Yr oedd y cynyrchion garddwrol i fyny a't hyn a arddang. oswyd yn y blynyddau a basiodd, os nad gwell o ran maint ac ansawdd. Dyma goron yr arddangosfa. Nid oedd cystal cystadleuaeth ag a welwyd mewn adranau da byw. Y prif enillwyr wobrwywvd mewn cynyrchion gerddi oeddynt Mri. R. Evans, E. Jones, W. Roberts, R. E. Pughe, William Humphrey, Andrew Davies, ac H. Lewis, Abergynolwyn; Mri. R. Roberts, Tymawr, 1. Morris, a E. Griffith, Towyn; W. Davies, Llanegryn; Owens, Williams, a Davies, Corris, &c. Am dyllu careg enillodd Bryneglwys y prif wobrwyon; corlanu defaid, Mr. H. Hughes, Hendrewallog. Gwasanaethodd y Seindorf Bres yn y lie ar hyd y dydd, o dan arweiniad Mr. J. D. Rowlands, Towyn. Da genym ddeall i'r arddang- osfa droi yn llwyddiant arianol, yr hyn sydd i'w gyfrif i lafur di-ildio y ddau ysgrifenydd a'r pwyllgor. O. Y.—Enillodd Mr. Rees Evans, Abergynolwyn, 18 o wobrau, a Mr. William Humphreys, wyth yn arddangosfa Machynlleth, yr wythnos ddiweddaf.