Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

20 erthygl ar y dudalen hon

CYNGOR SIROL MEIRION.

CYFARFOO MISOl TREFALDWYN…

LLYS SIROL DOLGELLAU.

ABERGYNOLWYN.

REILFFORDD CORRIS.

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL BANGOR-

TREHARRIS.

MACHYNLLETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MACHYNLLETH. MARWOLAETH SVDYN,Prydoawn dydd Iau, yn nhy Mrs. Thomas, Grocer, yn hynod sydvn, bu farw Miss Francis, merch Mr. h. Francis. Tanrallt Street. Galwyd Dr. Williams i'r lie yn'ddioed, yr hwn a dystiai iddi farw 0 glefyd y galon Yr oedd yr ymadawedig oddeutu 25am mlwydd oed. CYMANFA GANU.—Dydd Sadwrn, cynhal- iwyd Cymanfa Ganu Wesleyaid cylchdeithiau Machynlleth a Dinas Mawddwy, yn y lle uchod, o dan arweiniad medrus, Mr. James Lewis ( Iago Idris), Corris. Mr Lewis oedd yr ar- weinydd y llynedd hefyd, a gwnaeth ei waith mor dda y pryd hwnw, fel yr ailetholwyd ef at eleni gan bwyllgor y gylchdaith. Daeth cvn- ulliad gweddol ynghyd yn y boreu at ddeg o'r gloch, yn cael ei wneyd i fyny yn benaf o blant Cyfarfod iddynt hwy y bwriedid i hwn fod, ond yr oedd son wedi ei daenu na chynelid cyfarfod yn y boreu eleni, am fod y Tystysgrifau wedi eu dosbarthu eisoes yn yr ysgolion Hyn yn ddiau oedd yn cyfrif am fod y cynulliad yn den- euach na'r llynedd. Y Hywydd oedd y Parch. E. Berwyn Roberts. Canwyd nifer o'r tonau yn hynod o swynol yn ol tystiolaeth yr arwein- ydd. Dywedai nad oedd yn dymuno gwell canu o ran ansawdd yn ystod y dydd nag oedd y waith hon. Llywydd cyfarfod y prydnawn oedd y Parch. J. D. Jones, Machynlleth. Dechreuwyd am haner awr wedi un, a daeth y cantorion ac eraill yno yn llu. Traddododd y Llywydd anerchiad dyddorol yn y cyfarfod hwn, a t-iaradwyd ar gerddoriaeth gan Mr. Whittington, Abergynolwyn (o'r America), Yr oedd y canu yn rhagorol yn ol tystiolaeth y rhai a berthyn iddynt wybod hyn. Canwyd dwy anthem, sef 'Er i'r lflgysbren,' (T. Price), ac Enaid cu (Isalaiv). Yr oedd y dadganiad yn dda ryfeddol ar y naill a'r llall. Ychydig iawn o gyfleusderau a gawsid i gynal Rehearsals, ond deallai y cantorion eu gilydd a'r arweinydd yn dda yn yr holl symudiadau. Dechreuwyd cyfarfod yr hwyr, am bump o'r gloch, o dan lywyddiaeth y Parch. J. D. Jones, eto. Traddododd Mr. H. S. Roberts, Ysgolfeisti, Corris, anerchiad rhagorol a chalonogol. Dywedai ei fod yn cael ei foddhau yn fawr yn y canu, a'i fod yn gyfuwch a'i ddisgwyliadau uchaf. Canmolai yr holl leisiau, yn enwedig y Soprano Dadganwyd yr anthem Enaid cu,' yn y cyfarfod hwn eto, ac nid oes amheuaeth iddi gymeryd cystal ag un o'r tonau. Yr oedd myn'd da hefyd ar Bryniau Canaan,' ac Eirinwg.' Canmolid cym- anfa y llynedd, ond yr oedd hon yn sicr o fod ar y cyfan yn well ac yn fwy llwyddianus. Mae clod uchel yn ddyledus i Mr. James Lewis am ei arwein- iad meistrolgar, ac hefyd i Miss Evans, Machyn- Ileth, a Mrs. Hughes, Aberllefenni (yn awr), am gyfeilio mor ragorol. Anhawdd yw cael neb i wneyd y gwaith hwn yn well na'f ddwy foneddiges hyn. Diolchwyd iddynt o galon am eu gwasanaeth, ac hefyd i'r arweinydd, a'r ysgrifenydd, Mr. W. 0. Jones, Machynlleth. Yn ychwanegol at yr anthemau a'r tonau a nodwyd, canwyd y tonau :— Aberhiriaeth, Adre'n Dod, Angel's Story, Berliu, Bryn Moriah, Bugail Israel, Caersalem, Cefnbedd Llewelyn, Goleugell, Greenwich, Liverpool, Par- adwya, St. Agnes, St. Elizabeth, Wilton Square.

PORTHMADOG.

HELYNT Y PENRHYN.-:

CYNGRES UNDEBAU LLAFUR.

Family Notices

Y CADIRIDOGION IBORAIDD.

CORRIS.

TALYBONT.

ABERLLEFENNI.

LLANBEDR, MEIRION.

MAROHNADOEDD.

Advertising

SENEDD Y GWEITHWYR.