Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
26 erthygl ar y dudalen hon
PRIODAS CWELY ANCAU.
PRIODAS CWELY ANCAU. Gohebydd o Efrog Newydd a fynega fod Mr. Bradford McGregor, mab i un o sylfaenwvr Cwmni Olew y Standard, wedi marw y dydd o'r blaen, ar ol myn'd o dan driniaeth law- feddygol mewn canlyniad i anhwylder yr elwlod, yr hon a wnaed arno ddydd Sadwrn. Pan hysbvswyd ef fod gweithred law-feddygol yn angenrheidiol, gofynodd Mr. McGregor ar fod i drefniadau gael eu gwneyd yn uniongyrchol i'w briodi gyda Miss Schlemmer, i'r hon yr oedd wedi ei ddyweddio. Ymhen dwy awr wed'yn aeth dan y gwaith llaw-feddygol, Fe dybid ar y dechreu y buasai yn d'od drwyddo yn llwyddianus, ond daeth y diwedd er gwaethaf gweinyddiad tyner ei briod newydd; a'r gofal mwyaf. Y mae y weddw ieuanc hon o un awr ar bymtheg ar hugain, yn etifeddu dros ddau gan' mil o bunau.
CRYDD PENDEFIGOL.I
CRYDD PENDEFIGOL. Adrodda gohebydd o Vienna fod y Count Edward Station, aelod o un o deuluoedd uchaf Awstria. ar ol gwastraffu ei etifeddiaeth, wedi d'od yn hollol dlawd. Yn ddilynol, cyfarfu a chrydd a letyai mewn bwthyn mewn fforest Hungaraidd, yr hwn a roddes loches iddo. Ymhen ychydig amser daeth y Count yn grydd profiadol, a chadwai ei hunan drwy ei waith. Ymhen misoedd ar ol hyn derbyniodd lythyr yn ei hysbysu fod aelod o'r teulu wedi marw, drwy yr hyn yr oedd yn d'od i feddiant o ystad enfawr gyda sedd yn Nhy Arglwyddi Awstria. Ond yr oedd y Count wedi cael bias ar ei fywyd newydd, a gwrthododd dalu ymweliad a'i vstad, gan fyw mewn cahan, yn un o'i fforestydd ei hunan, ac ymbleseru gyda'r gwaith o wneyd esgidiau iddo ei hunan.
NODION A NEWYDDION.
NODION A NEWYDDION. Y mae ugain mlynedd i ddydd Mercher, er pan ddaeth Deddf Cau y Tafarnau ar y Sabbath yn Ngliymru i rym. Dechreua Mr. Edison, y dyfeisydd enwog, ar ei waith saith o'r gloch yn y boreu, a deil ati hyd saith yn yr hwyr. Llwyddodd haid o ladron i wneyd twnel tanddaearol i fane yn Lisbon, drylliasant y 8aj fawr, a lladratagant 20,000p. Y mae y owningod wedi gwneyd y fath ddifrod ar yr ^d ynmhlwyfl. GogleddDyfneint y fel nad ydyw yn werth tori y cnydau. Pan yr oedd larll Russell yn y carchar, efe a dreuliai ei amser i ysgiifenu traethodau, y rhai a gyhoeddir yn awr yn llyfr o dan yr enw Lay sermons,' Crewch arwr-gerddi o greiuiau Cymru, a chredwch yn eich cenedl,' oedd brawddeg gyfeiriadol Mr. Lloyd George at chwarelwyr Arfon, yn Eisteddfod Bangor. Yr oedd derbyniadau Eisteddfod Bangor yn 3.656p., heblaw tanysgrifiadau o 1,000p., yn gwneyd oyfanswm o 4,656p. Amcan- gyfrifid y draul yn 3,750p. Felly gedy weddill o 900p. mewn Haw. Gostyngodd masnach y flwyddyn ddi- weddaf, yn y wlad hon, yn ol 12,000,000p.; ac am y waith gyntaf mewn cyfnod o bum' mlynedd gostyngodd y cyflogau hefyd, yr oedd cyfanswm y golled yn l,584,000p. Cymro yw Mr. Beaumont Morice, ymgeis- ydd enwog y Saith Dderwen (Sevenoaks), Llundain. Nid yw Morice ond dull Seisnig o sillebu Morys neu Morris. Bargyfreithiwr OY a Bedyddiwr yw efe. Meddai Mr. John Morley, y dydd o'r blaen, yn Manchester, Y m le pob cynllun o ddiwygiad cymdeithasol yn rhwym o ddi- flanu, os na ellwch drin a thrafod yn llwydd- ianus y diwygiad mawr dirwestol.' DywedSyr J. Gordon Spriggs fod 270,000p. wedi cael eu talu eisoes fel iawn am golled- ion trwy ryfel. Disgwylir y bydd i 200,000p. o'r swm hwnw ddyfod yn hawl ar y Llywod- raeth Ymherodrol. Dydd Llun, bu farw y Parch. T. Pennant Phillips, gweinidog yr Anibynwyr yn Horeb, Llandyssul. Bu yn y weinidogaeth am ddeugain mlynedd. Yr oedd yn bregethwr eymeradwy. Y mae un newyddiadur Anarcaidd yn Chicago wedi dewis pen blwydd llofrudd- iaeth Arlywydd McKinley fel y dydd i agor ysgol Anarciaeth yn Chicago. Bydd yno ddarlithiau, cyfarfodydd oymdeithasol, a lledaenir llenyddiaeth Anaicaidd. Fel y canlyn yr ocheneidiodd awen Atha ryw ddiwrnod wrth wel'd rhywun yn myn'd heibio ar ei free wheel bicycle Wir. rhanol ydyw'r einioes-heb olwyn Byw alwad ein heuroes; 0 ddiogi usio'r ddwygoes, Y Free Wheel' a hoffa'r oes. Tra yr oedd dynion yn gwneyd ffosydd yn Stamford, daethant ar draws gweithfeydd toddi haiarn Rhufeinig. Daethant hefyd o hyd i esgyrn dynol," a darnau o arian. Cym- erodd yr awdurdodau feddiant o'r darnau arian, y rhai y tybir eu bod rhwng pump a chwe' chan' mlwydd oed. Mae y meddygon wedi darganfod clwyf arall, ac yfed coffi yw achos hwn. Dywed- ant fod yfed llawer o'r ddiod boblogaidd hon yn llesteirio curiad y galon, ac y mae y galon goffi' yn barod ar restrau meddygon y cwmniau yswiriol fel peth i'w gochel. Mae effaith y coffi ar y galon yn fwy arosol, ac felly yn fwy peryglus nag effaith hyd yn nod wisci. Yn Nghaerdydd, ddydd Mawrth, cyhudd- wyd pump o ddynion o ffoi o'r Gatrawd Gymreig yn Devonport. Amddiffyniad y carcharorion oedd nad oeddyntkyn cael digon o fwyd, a dywedodd y swyddog wrthynt am glirio'i ffwrdd, gan nad oedd y Cymry ddim gwerth. Dywedodd yr ynad y gobeithiai yr elai y cwynion i'r awdurdodau priodol; a gohiriwyd i'r gosgorddlu dd'od i'w nol. Derbyniwyd newyddion o Orllewinbarth Affrig Povtuguaidd fod brwydr dost wedi cymeryd lie gyda'r gwrthryfelwyr brodorol yn rhanbarth Bailundo. Gwnaeth y gelyn, yr hwn oedd wedi ei gyflenwi a'r arfogaeth oreu, safiad penderfynol, a pharbaodd y frwydr am bum' awr. O'r diwedd, bu y Portuguaid yn fuddugoliaethus, Iladdwyd atweinydd eu byddin, a:llu o'i ddilynwyr, ond diangodd y gweddill, Llosgwyd ehwe' Kraal gan y Portuguaid.
SUT I GYFANSODDI NOFEL.
SUT I GYFANSODDI NOFEL. Feallai y bydd o ddyddordeb i ryw ysgrifen- ydd ieuanc i ddarllen y svlwadau a draddod. asom mewn beirniadaeth unwaith, ar y testyn uchod. Nid prif ddyddordeb mewn nofel yw y nofel ei hunan. Dvma'r gwirionedd ac nid dameg yw. Fel rheol gyffredin yr hyn sydd vn gwneyd chwedl yw yr adroddiad o honi. Nid yw mynegiad noeth o'r plot yn ddyddorol. Tyfiant graddol yw v plot, a'r modd y mae yn cael ei osod oflaen y darllenydd sydd yn gwneyd y ffugchwedl. Gadewch i ni roddi engraifft o hyn. Yn y ganrif gyntaf carai Rhufeiniwr ieuanc dywysoges farbaraidd. Carai hi braidd yn hollol mewn modd cnawdol. Yr oedd hi yn Gristion, ac yn cael ei gorfodi i fyw, oblegid amgylchiadau yn Rhufain. Ar y pryd hwn, yr oedd anniweirdeb a phob pechod wedi pydru vr holl ymerodraeth, gan wneyd cymdeithasyn drobwll Satanaidd gwenwynig. Drwy ddylan- wad daionus y dywysoges a'r merthyron Crist- ionogol boreuol, a thrwy nerth crefydd lesu Grist ei hunan, esgynodd cariad y gwladgarwr radd yn uwch ac yn anfesurol mwy urddasol. Yn y cyfamser, y mae yr Ymerawdwr mileinig yn llosgi Rhutain. ac yn cyhuddo Cristionogion diniwed o'r anfadwaith, a rhoddwyd hwy i farwolaeth. Y mae v dywysoges ieuanc yn cael ei hachub drwy offerynoliaeth caethwas, yr hwn sydd yn lladd y bwystfil oedd wedi ei droi i'r arena (chwareule), fel y byddai iddo ladd y ddau. Ar ol hyn, y mae hi a'i chariad- lanc yn byw yn hapus gyda'u gilydd. Yn awr, dyna y ffugchwedl a elwir Quo Vadis.' Pa fodd y cymherir fy adroddiad i a'r gwreiddiol ? Modd bynag, dyna sylwedd- esgyrn, yr holl £ lot— dywedais yr holl chwedl. Yn awr y gwahaniaeth mawr rhwng Sienkewicz (yr awdwr), yn adrodd y stori a minau yw hyn Yr wyf fi yn ei dweyd hi drwy adrodd ffeithiau yn unig. Dywed ef y chwedl drwy baentio a darlunio o'n blaen mewn dull cyftrous a gwir ddyddorol yr holl amgylchiadau cysylltiol a'r hanes. Y mae ef yn gadael i ni weled yr hyn sydd yn digwydd. Nid wyf fi ond adrodd can- lyniadau y digwyddiadau hyn. Yr wyf fi yn dweyd fod cariad Vinicius yn myned o dan gyf- newidiad drwy allu rhyfeddol Cristionogaeth. Mae Sienkewicz yn gadael i chwi ei weled yn cyfnewid, daw ger ein bron olygfeydd a dig- wyddiadau a ddangosant i'r darllenydd allu Cristionogaeth. Nid yw yn ddigon, gan hyny, fod gan gyf- ansoddwr plot da-cynllun o stori dda. Ni cheir Ilwyddiant byth gyda stori sydd yn unig yn adroddiad o'r Os ydyw ein harwr yn athrylithgar, gadawer iddo ddangos hyny trwy yr hyn a wna, ac a ddywed. Qs yw ei gariad tuag at ei eilun yn uchel ac urddasol, gadawer i'w weithtedoedd a'i ymddiddanion ddangos hyn. Os yw yr arwres yn garuaidd a deniadol, gadawer i'r darllenydd weled hyny drwy y gweilhredoedd a gyfiawna. Pa adeg bynag y bydd arnoch eisieu d'od allan a rhyw bwynt neillduol yn eich stori, deuwch a hi allan megis yn ddamweiniol, yn hytrach na rhoddi adrodd- iad o honi i'r darllenydd, Amrai o'r digwydd- iadau hyn yn cymeryd lie yn olynol i'w gilydd o'r pethau hyny sydd o'n golwg ar y pryd, eithr yn disgyn arnom yn ddamweiniol, megis yn y stori, dyna mewn gwirionedd yr hyn sydd yn gwneyd y chwedl y peth ydyw-maes datllen- iadol mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif. Os gweithir ar hyd y llinell hon ceir Uwyddiant; os na wneir, ni cheir dim tebyg i lwyddiant. MORIEN MON.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. MARWOLAF-THAU.-Dydd f,lun, bu farw Miss Catherine Jones, gynt o Penybryn. Claddwyd hi yn mynwent Llanelltyd, dydd Mercher.— Dydd Mawrth, bu farw Mr. E. Jones, Crown House, diweddar o Tynygroes Bach, Ganllwyd. Y FRIGAD DAN.-Deailwn fod y frigad din berthynol i'r dref hon, wedi enill dwy brif wobr yn nghystadleuaeth y National Fire Brigades (Gogiedd Cymru), yn Ninbych, yr wythnos ddiweddaf. BAZAAR Y WESLEYAID.—Deallwn fod cyf- answm derbyniadau oddiwrth yr uchod dros 290P., pa swm sydd i fyned tuag at leihau dyled y capel yn y lie. ADDYSGOL.—Mewn cyfarfod o Lywodraeth- wyr Ysgol Dr Williams, a gynhaliwyd dydd Mercher, pasiwyd i gyflwyno ysgoloriaeth Miss Lloyd Roberts (gwerth 3op. am dair blynedd), i Miss Nesta Edwards, ac ysgoloriaethau eraill o 25p. yr un i Misses Elsie Hughes, a Vivian Finnis, Dolgellau.
TALYBONT.
TALYBONT. PLESERDAITH.—Y lie a ddewiswyd am eu pleserdaith flynvddol eleni, gan aelodau Ysgol Sul yr Eglwys Sefydledig oedd Drefnewydd. Fel mae eu harfer, rhoddwyd byr-bryd a th6 i'r oil gan Mr a Mrs Seymour Davies, Glanyr- afon. YR YNADLYS.— Cynhaliwyd hwn dydd Iau, gerbron Mr J Francis, ac ynadon eraill. Cy- huddwyd William Evans, llafutwr, Bow Street, o drespasu mewn ymchwil am gwningod ar dir Syr Pryse Pryse. Tystiodd Thomas Bailey iddo weled y diffynydd gyda dau gi ar gae yn agos i Lodge Gogerddan. Pan aeth y tyst ato, dywedodd Evans wrtho ei fod wedi dal un. ac y byddai iddo wneyd eto er ei waethaf Add- efodd y diffynydd y trosedd, a dirwywyd ef i 55 a'r costau.
MARW 0 DAN GWSG-BAIR.
MARW 0 DAN GWSG-BAIR. Dydd Gwener, cynhaliwyd trengholiad yn Ngwrecsam, ar gorph John Hunter, 62 mlwydd oed, pobydd, 8, Crescent Road, yr hwn a fu f irw p in o dan effeithiau chloroform. ac yntau o dan driniaeth feddygol yn yr ysbyty y boreu hwnw. Dywedodd y meddygon iddynt at* chwilio y trancedig cyn rhoddi iddo y cwsg-bair, ac ni welsent ddim ar ei galon. Cafwyd, pan roddwyd y chloroform, fod y gwaed wedi peidio curo ac er gwneyd pobppth i adfer bywyd, methwyd. Dychwelwyd rheithfam 9 Farwolaeth Ddamweiniol.'
TOWYN.
TOWYN. PRIODAS.-Dydd Mawrth, yn nghapel y M.C. Falmouth Road, Llundain, priodwyd Mr. Arthur Lloyd Roberts, pedwerydd mib Mr. Meyrick Roberts, Cantref House, Towyn, A Miss Leila Ada Daniel, pumed merch y di- weddar Mr. Owen Daniel, Brynhyfryd, Towyn. Gweinyddwyd y seremoni gan y Parch. S. E. Prydderch. Yr oedd y boreu-bryd priodasoi wedi ei ddarpar yn yr Holborn Restaurant. Ymadawodd y pår ieuanc am Brighton, Ue y treuliant eu gwyliau priodasol.
PORTHMADOG.
PORTHMADOG. ANRHEGU.—Yn Neuadd Gyhoeddus Tre- madog, nos Fawrth, anrhegwyd y Parch. R. R. Hughes, curad, ar ei ymadawiad i Llan. ystumdwy Cynwysai y rhoddion, Roll-Top Desk, Inkstand Arian, &c. Yn ystod y cyfar- fod, siaradwyd yn uchel am lafur ac ymroad Mr. Hughes tra y bu yma. YMWELWYR URDDASOL.—Mae Mr. Akers- Douglas, yr Ysgrifenydd Cartrefol, yn aros yn bresenol yn Dolfriog. Hefyd, mae Arglwydd ac Arglwyddes Castletown, ynghyd ag Ar- glwyddes Windsor yn aros yma ar hyn o bryd.
ABERLLEFENNI.
ABERLLEFENNI. Ynglyn ag adroddiad o briodasau y Misses Davies, Plas, Aberllefenni, gadawyd allan yr enwau canlynol: -Misses Rowlands, Llundain, Lina a Gwladys Edwards (nithoedd), Towyn, Hefy i chwareuwyd y 4 Wedding Marrh,' gap miss Uisley. i
dcinion vr Amen.
dcinion vr Amen. TEYRNASIAD YR HAF. Mae'r baf yn teyrnasu, A'r adar yn canu, I%Tor siriol yw'r awal, Gwna'm calon yn dawel. Mae'r haf yn teyrnasu, A'r blodau yn gwenu, ',Nfor loew ywlr gwlithyn, y Mor dlws yw'r blodeuyn. Ma'r haf yn teyrnasu A'r lor sydd yn caru, Rhoi gwynfa i'w blentyn, Cyfoethog neu grwydryn, Mae'r bâf yn teyrnasu, A'r byd i'w edmypu Clywch! Iais y gwybedyn Yn eanu haf-emyn. Mae'r haf yn teyrnabu, A'r hedydd i fyny. I ddeffro'r wawr eirian, A bywyd sy'n mhobman. Mae'r haf yn teyrnasu, Addolaf gan hyny. Mae'n ddarlun o'r Dnwdod, Pob deilen sy'n aclaud, MORIEN MON.
COMED NEWYDD.
COMED NEWYDD. Y mae corned newydd ar ei ffordd i ymweled a'n daear. Dareanfyddwyd hi yn Califfornia ar y dydd cyntaf o'r mis yma. Ymddengys yn ddisgleiriach noson ar ol noson. V mae mewn safie rhagorol i gael ei gweled ar hyd y nos. 0 Medi y 14eg- hyd y 25am, bydd i bellder v gomed leihau o 78.300,000 i 45,500,0000611- diroedd fel y mae v eomed yn dynesu atom yn ol tair miliwn o filldiroedd yn y dydd. Y mae ei safle bresenol yn agos i'r seren Aleol yn Persens, Ar ol myned drwy Persens, aiff i Cassiopeia, ac ar ol hyny trwy Cynnus, gan gynyddu mewn eyflymder,
CWENWVNO CANT 0 BERSONAU.
CWENWVNO CANT 0 BERSONAU. Crewyd cryn gyffro yn Derby a'r gymydog- aeth, gan y newydd fod amryw o bersonau wedi eu gwenwyno. Yn ystod dydd Llun, hysbys- wyd Dr Howarth, meddyg swyddogol y fwr- deisdref, am ddeunaw o achosion, yr hyn a olygai yn agos i driugain o bersonau. a chyn terfyn y dydd yr oedd y rhif yn gant. Ym- ddengys fod y personau wedi bwyta pork pie a brynwyd ddydd Iau a dydd Gwener, mewn masnachdy gwerthwr cig moch, ac amheuir mai dyma darddle'r gwenwyno. Y mae y mas- nachdy yma yn un o'r rhai harddaf yn y dref, ac ymysg y rhai a wenwynwyd y mae rhai o deuluoedd parchusaf y lie. Bernir fod pobl eraill yn y cylchoedd wedi eu gwenwyno. Hys- bsir fod dyn o Uttoxeter wedi marw ar ol bwyta pie o'r masnachdy o dan sylw.
JOHN SULUVAN.
JOHN SULUVAN. V mae hanes bywyd .1 ohn Sullivan, a fu farw yn ddiweddar yn Seattle, America, yn darllen fel rhamant ail Robinson Crusoe Gwyddel ydoedd, a gadawodd dref Cork pan yn ieuanc i ddilyn y mor. Ddeugain mlynedd yn ol, tar- awodd ei lestr ar graig ar Ian gwlad anghyf- anedd, a Sullivan yn unig a achubwyd. Ad- eiladodd gaban iddo ei hun o goed y llestr, a chludodd amryw bethau i'r Ian, dryll a phylor, a phethau eraill, fel y gwnaeth Crusoe gynt. Saethai anifeiliaid gwyllt at ei gynhaliaeth, ac felly y bu'n byw hyd nes y tarawodd ar forwr arall, yr hwn oedd hefyd yr unig un adawyd o longddiyl'.iad. Bu'r ddau yn cydfyw hyd nes y daeth pobl o drefydd eraill yn y perfedd-wlad i ymuno a hwynt. Cymerodd Sullivan lain helaeth o dir iddo ei hun, ac ar hwn y saif yn awr dref fawr Seattle, poblogaeth yr hon yn bresenol sydd dros ddeugain mil. Fel y cyn- yddai y dref felly y cynyddai gwerth eiddo Sullivan, a daeth yn diifeddianwr cyfoethog. Ni chafodd ddysg pan yn ieuanc, ond trodd ati i ddysgu pan yn gyfoetliog. a bu farw mewn parch mawr, Aeth ei gyfoeth i gynysgaeddu dau berthynas tlawd yn yr Iwerddon
[No title]
Dywedir fod boneddiges ieuanc Gymreig o Aberteifi ar fin priodi un o'r Boriaid- peithyaas i'r eyn-Arlywydd Eruger.
.CYMDEITHASIAETH.
CYMDEITHASIAETH. Cymdeithasiaeth ydyw cydweithrediad trefn- edig o lafur pawb i gynyrchu holl angenrheid- iau a chysuron bywyd cyd-feddiant o'r ddaear, offerynau llafur, a holl gynyrch llafur; a chyd- fwynhad o'r holl gyfoeth a'r manteision a sicrheir trwy y cydweithrediad cyffredinol. Y cyd-weithrediad, cyd-feddiant, a'r cyd.fwynhad hwn ydyw yr unig drefn a ddichon wella af- iechyd y byd. Fod y byd yn afiach a addefir gan bawb sydd yn gymwys i roddi barn ar y mater. Mae y clwyfau mor ddwfn a gwaedlyd, a'r cleifion mor lluosog, fel y mae yn anmhosibl i neb a golwg yn eu llygaid beidio eu gweled. Mae y trueni mor fawr a'r ochain mor uehel. fel nad all neb ond byddariaid beidio eu clywed. Nid oes neb mor ddall a'r hwn na fyno weled na neb mor fyddar a'r hwn na fyno glywed. Os oes rhyw rai heb weled y trueni a chlywed yr ochain, mae yn rhaid mai deillion a byddariaid gwirfoddol ydynt. Mae miloedd lawer yn ein gwlad ac ymhob gwlad arall, vn methu cael digon o ymborth, heb wisgoedd priodol am eu cyrph, ac heb dai cvfaddas i fyw ynddvnt. Mae y plant mewn Iluaws o fanau yn cael eu gyru i'r ysgolion heb fwvd, ac yn cael eu gyru o'r ysgolion cyn dysgu nemawr ddim, i weithio er mwyn enill vchydie i gynorthwyo eu rhieni i fyw. Mae miloedd bob adeg o'r flwyddyn allan o waith, er yn alluog ac ewyllysgar i weithio, ac o'r herwydd, hwy a'u teuluoeld yn dioddef caledi anhaeddianol. O'r rhai svdd yn gweithio, mae nifer fawr yn derbvn cyflog mot fychan fel y mae yn an- mhosibl iddynt fyw yn gysurus ar "y swm dder- byniant Mae y rhai sydd yn gweithio yn a gored bob amser i golli eu gwaith, ac y mae yr ansicrwydd cysvlltiedig a'u galwedigaeth yn ffynhonell o anghysur parhaus. Mae cyfartaledd mawr o'r rhai sydd wedi mvned yn rhy hen i weithio, neu i gael gwaith, heb le i roddi eu pen i lawr, ond yn ngharchar v tlawd, sef y tlotdv. Mae cyfartaledd mawr o'r troseddau a'r anfoesoldeb sydd yn ffynu yn y wlad a'r trefi, yn tarddu yn uniongyrchol o'r drefn gymdeithasol, dan yr hon yr ydym yn byw.
FFESTINIOG.¡
FFESTINIOG. -COR MERCHED.-Deallwn fod C6r Merched o'r America (yr hwn fu yn cystadlu yn Eistedd- fod Bangor), yn rhoddi cyngerdd yn y Neuadd Gyhoeddus yr wythnos hon. CAPEL Y TABERNACL.-Nos Iau, nos Wener, a'r Sabbath, ail agorwyd yn ffurfiol gapel y Tabernacl. Y noson gyntaf, cafwyd organ recital, pryd y gwasanaethodd Mr. J. Williams, Caernarfon; ac y dadganwyd yn feistrolgar gan Mr. Emlyn Davies, a Miss M. K. Sarah, Yn yr odfaon pregethu, gwasanaethwyd gan y Parchn. J. D. Jones, Ynysybwl, a Dr Cyn- ddylan Jones.
LLWYNGWRIL.
LLWYNGWRIL. ADDYSGOL —Ymhlith yr ymgeisAyr llwydd- ianus am yr Intermediate B.A yn Mhrifysol Llundain, dywenydd genym weled enw Miss A. C. Pugh, Alltgoch, yr hon a basiodd yn yr ail adran. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Sirol Towyn. Dymunir gyrfa lwyddianus iddi. ANRHEGIAD.—Nos Lun, cyflwynwyd anerch- iad goreuredig prydferth i Mr. Robert Smith, Manchester, ar achlysur ei briodas arianaidd. Mae Mr. Smith wedi bod yn enwog am ei garedigrwydd i Llwyngwril ar hyd y blynyddau; a daliwyd ar y cyfle hwn i amlygu diolchgar- wch y pentrefwyr iddo.
TRAWSFYNYDD.
TRAWSFYNYDD. ETliOLIAD.-Dydd Gwener diweddaf, cym- erodd etholiad le i lanw y sedd ar y Cyngor Sirol, a wnaed yn wAg drwy farwolaeth Mr. W. W. Owen, Ysgolfeistr. Yr ymgeiswyr oeddynt, Mr. John Jones, ffermwr, Brynllefrith, a Mr. D. Tegid Jones, ffermwr, Goppa Wele y canlyniad :—John Jones, 76; D. T. Jones, 57. Mwyafrif John Jones, 19.
LLANGYNOG.
LLANGYNOG. GALWAD.—Deallwn fod y Parch. R. Owen, Cefnywaen, Sir Gaernarfon, wedi ateb yn gad- ainhaol yr alwad a dderbyniodd oddiwrth yr eglwys Fethodistaidd yn y lie uchod. Eidd- unwn lwyddiant mawr iddo yn ei faes newydd.
WAEN, CEMMES.
WAEN, CEMMES. Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgolion y dosbarth yn y lie uchod, dydd Sul. Daeth nifer dda o gyn- rychiolwyr ynghyd. Mater cyfarfod y boreu oedd Yr angenrheidrwydd am yr Ysbryd Glin i dywys i bob gwirionedd.' Cawsom ein siomi na ddaeth y person oedd wedi ei benodi i agor y mater. Wedi ychydig eiriau gan y Ilywydd, cafwyd anerchiadau gan Mri. 0. Humphreys, Wern James, Bont; Owen, Pennant; Jones. Brynbach Jones a Parry, Aberangell; Powell a Rees, Machynlleth; ynghyd a swyddogion y He. Tystiolaeth pawb oedd mai da oedd bod yno, gan deimlo y byddai yr ymdriniaeth a gafwyd ar y gwirionedd yn sicr o ddwyn ffrwyth. Yn y prydnawn, cafwyd anerchiad galluog gan wr dieithr o Aberystwyth. Holwyd y plant yn y bedwaredd benod o'r Rhodd Mam, gan Mr. Rees a'r Dosbarth Canol o'r benod gyntaf o'r Cyntaf Brenhinoedd, gan y Llywydd. Y nos, holwyd y Dosbarth hynaf yn Rhufeiniaid iii., gan y Parch. R. Edwards. Y mae yr ysgol yn haeddu canmoliaeth am y parotoad oeddynt wedi ei wneyd ar gyfer y cyfarfod, t6nau arbenig wedi eu dysgu dan arweiniad Mr. Vaughan, ieu., Brynmoel; a'r dosbarth- iadau oil yn dangos llafur manwl, yr hyn oedd i'w ganfod yn eu hatebion a'u bywiogrwyddt ac yn argyhoeddi yr ymwelwyr fod yno bryder wedi bod am i'r cyfarfod fod yn Uwyddiant.
BRWYDR ASPROMONTE.
BRWYDR ASPROMONTE. Mor fuan y mae dynion enwog a digwyddf iadau mawnon yn disgyn i dir anghof. Pa nifer o'r tuall.in i'r Eidal oedd yn cofio fod dydd Gwener diweddaf yn ddeugeinfed cylchwyl brwydr Aspromonte, lie y cafodd Garibaldi ei glwyfo yn dost. Yr oedd y gwladgarwr arwrol hwnw, yr hwn oedd eisoes wedi uno yr Eidal, gyda'r eitl.ri id o'r Talaethau Pabyddol, yn un frenhiniaeth o dan Victor Emanuel yr Ail, wedi penderfynu ymdeithio gyda mintai o antur. laethwyr yn erbyn Rhufain, er gwaethaf gwa- harddiad y Brenin. Yr oedd Rhufain ar y pryd yn cael ei gwarchod gan filwyr Napoleon y Trydydd, ac yr oedd yr ym.(ais yn anobeith- iol. Daethmilwyr Brenin yr Eidal i fyny a chorphlu Garibali yn union ar ol iddynt groesi o Sicili, yn Aspromonte, lie y cafodd ei arwein- ydd ei glwyfo gan fwled yn ei figwrn. Derbyn- iod Garibaldi bardwn ac enillodd yr Eidal Rufain pan yr ymdeithiodd y fyddin Ffrengigj allan o honi gyda galwad mwy pwysig am ei gwasanaeth gartref, yn 1870.
BARM DR. PARKER All Y DAFARft.
BARM DR. PARKER All Y DAFARft. Tra mae esgobion a duwinyddion enwog yn gwneyd eu goreu i fytholi tafarndai o dan arolygiaeth newydd,' boddhaol iawn yw gweled Dr. Parker yn ei lyfr newydd, A forecast of the Twentieth Century, yn rhagfynegu tynged pur wahanot- iddynt Dyma ei eiriau Beth am y tafarndy ? Pa le bydd hwnw ? Caiff ei losgi a than a brwmstan. Adeiladwyd et gan y diafol, ac at y diafol y bydd raid iddo fyn'd. Porth uffern yw y tafarndy. Pwy fedr ysgrifenu y dinystr gyflawnwyd ganddo ? 01 y trueni, y gofid calon, yr anghyfanedd-dra, yr amddifaid, y llofruddiaeih, yr hunan-laddlad, y gwallgofrwydd y mae y ty melldigedig yma yn gyfrifol am dano: Ond bydd i'r Ugeinfed Ganrif weled prif echrvswaith y pwU diwaelod, yn cael ei symud o'r ffordd. I glywedigaeth hyfryd a bywiog fy nychymyg daw awn holl ddistylldai, darllawdai, a lleoedd i feddwi, yn cyd-syrthio gyda thrwst arswydus tra yr esgyn i'r nefoedd lef fuddugoliaethus, Y mae tj Bacchus—duw congt-ystryd Ltundain-wedi disgyn i uffern obry.'
MYNYDD SYMUDOL. >
MYNYDD SYMUDOL. > Mae yr Allels, mynydd peryglus yn y Bernese Oberland, a ysgoir gan Alpauwyr, ar gyfrif ei rew-lithriadau mynych, yn bygwth holtti yn ddwy ran, a disgyn ar y dyffryn o'r un enw. Ddeng- mlynedd yn ol, daeth darn enfawr o'r mynydd yma yn rhydd, gan lithro i lawr i'r dyffryn, gan ladd nifer fawr o bersonau a chanoedd o anifeiliaid, heblaw dinystrio aif o dai ar ei gwrs. Y mae tir-lithriad ar radd eang yn cael ei ddisgwyl i gymeryd He uurhyw ddydd ar y rhan o'r mynydd a elwir Delden- horn, ac y mae yr holl bentrefwyr yn y gymyd. ogaeth i adael y He.
GORLIFIAD MEWK CLOFA.-
GORLIFIAD MEWK CLOFA. CAEL TRI YN FYW. Ar ol bod yn rhanol gladdedig am gant ac ugain o oriau yn Nglofa Wnion, Dean Forest, fe achubwyd tri o ddynion. Ar ol hyny, deuwyd o hyd i gyrff tri eraill o'r rhai oedd yn y lofa, sef y brodyr James, ac un dyn a'i enw Martin. Bernir fod y seithfed dyn, G. Watkin, yn gorwedd o dan y rwbal.
PENRHYNDEUDRAETH.
PENRHYNDEUDRAETH. BWRDD YSGOL.-Cynhaliwyd cyfarfod o'r Bwrdd hwn dydd Llun, dan lywyddiaeth Mr. R. G Pritchard. Pasiwyd fod Miss C Williams i gael ei symud i Ysgot y Babanod, ac i gael codi yn ei chyflog.-Adroddai y Swyddog Gor- fodol fod y presenoldeb yn dra boddhaol ar hyn o bryd.—Pasiwyd Uongyfarch yr athrawon ar lwyddiant yr ysgolorion yn enill ysgolor- iaethau yn yr Ysgolion Sirol.