Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
24 erthygl ar y dudalen hon
——— pinion Jlwen.
——— pinion Jlwen. Y MYNYDD GLAS. Y Mynydd Glas, mewn hedd glôg-yw brenin Ein bryniau mawreddog Awen lan dderbynia 16g O'i lydan drem oludog Ei oludog waelodion—sy'n lloches I'll llechawg adnoddion, A llya i ymwelwyr lion Yw ei geulawg frig hylon! O'i frig hylon fry, gwelir—arddunawl Werddonau'r dyffryndir- Mewn aflaeth, toraeth y tir A'i gain foddau ganfyddir! Yn wir, canfyddir oain foddaii antan, Yno yn eu gorau Ac ar ogwydd ei greigiau Mae hoen a hedd i'w mwynhau Er mwynhau natur mewn hedd—y mynydd A'i ddymunol agwedd Yw'r fan lwys—ceir hyfvvyn wledd Yn eigion ei umgedd Ei unigedd anoga-awen bardd, A'i ddavm.ber gynyrfa! Mor hyfryd ar hyd yr ha', Am ei swyiiion ymsonia Ymsonia y bardd am Bwynion-oesol Ystlysau 'i adwyon! Eu gosgedig gysgodion A dania fryd yn ei fron Ar aal ei fron, siriol fryd-addola Ddelwedd Awdwr bywyd! Byw-dystion hylon o hyd Yma'n siwr am Ion sieryd A sieryd nentydd siriol-ddoniau hedd Yn ei wig gysgodol! A'r dawnus gor adeiniol, Dyddan, a gan yn ei gol! Yn ei g&l, hen drigolion- o Walia Welir mewn cysuron- Am haen y lleoh, yma'n lIon, Hwy gloddiant i'w goluddion O'i goluddion, mewn lloniant-y llafnau Llechilii llyfnion holltant! Y faen gell o'i fewn a gant Yn lie i aidd a llwyddiant! A'u llwyddiant, drwy ddull addas-liedd A ddyrcha gymdeithas I heddwch, harddwch urddas, A nawdd glyw Y MynyddGlas,'
YSBEILlADARIANDY PARIS.
YSBEILlADARIANDY PARIS. Adroddir am ddigwyddiad hynod o Cherbourg. Daeth dau ddyn allan o'r gerbydres o Paris a gyrhaeddodd i Cherbourg chwech o'r gloch y boreu, y ihai oeddynt mewn diwyg gweithwyr. Cyn iddynt allu myn'd yn ol i'r gerbydres, yr oedd yr olaf wedi symud ymaith, ac yn yr adran o. honi ag yr oeddynt wedi teithio o Paris, deuwyd o hyd i sach yn yr hwn yr oedd bwndel o filiau a nodau,, a phwrs ynlllawn o aur. Awgrymir y dichon fod y digwyddiad yn dal rhyw g,ysylltiad a'r ysbeilaid a wnaed yn ddiweddar ar Ariandy Ffrainc, ac y mae yr heddgeldwaid yn gwneyd ymchwiliad i'r mater.
CWYMP MARWOL AR YR ALPAU.
CWYMP MARWOL AR YR ALPAU. Gohebydd o Vienna a hysbysa fod damwain angeuol arall wedi cymeryd lie ar yr Alpau. Tra yr oedd cwmni o bleserdeithwyr yn dych- welyd o bleserdaith i Weissenstein, ac yn tori y ffcirdd drwy gymeryd llwybr syth ger Dent- schnofen, llithrodd un o honynt, dyn ieuanc wyth ar hugain oed, o'r enw Giacomb Chis- chetti, 0 Moena, a wasanaethai yn Nilan, i lawr dros ddibyn i ddyfnder o naw cant o droedfeddi. Ar ol chwiliad manwl am dair awr pigwyd ef i fyny gan ei gymdeithion. Pan ganfyddwyd ef yr oedd eto'n fyw, ond bu farw yn fuan ar ol hyny.
JABEZ BALFOUR.
JABEZ BALFOUR. Dyma yr un alltudiwyd am 14 mlynedd am dwyllo gyda'r Liberator. Y mae wedi gwas- anaethu y saith mlynedd cyntai, ac yn dechreu ar ei saith mlynedd olaf; gwaith teiliwr y mae yn ei wneyd yn y carchar; Mae yn darllen llawer ac yn cymeryd dyddordeb mawr yn y canu sydd yn y carchar. Y mae wedi bod mor ufudd i reolau y carchar, fel yr eriilla dair blynedd a haner o'i amser, ac y bydd yn rhydd yn y flwyddyn 1906, os bydd byw.
YNADLYS DOLGELLAU.
YNADLYS DOLGELLAU. Cynhaliwyd dydd Mawrth, 0 flaen J. Leigh Taylor, Ed. Griffith, ac R. Wynne Williams, Ysweiniaid.—Cyhuddwyd Herbert Broadbent, Station Hotel, Abermaw, o fod wedi meddwi ac arfer iaith anweddus yn norsaf Dolgellau, oddeutu mis yn ol, yn groes i byelaws y G. W R. Erlynai Mr. Richards, cyfreithiwr, Llangollen, ar ran y Cwmni; a Mr. Guthrie Jones dros y diffynydd, yr hwn a blediodd yn euog. Dirwy- wyd et i 40s. a 2p. os. 6c. 0 gostau.
[No title]
Yn Doncaster, gwysiwyd 378 o lowyr, sydd yn sefyll allan o Lofeydd Denby a Cadeby, am adael eu gwaith heb rybudd. Tynwyd llawer o'r achosion yn ol; ond gorchymynwyd i 817 o'r dynion dalu 6p, yr \J Q U\WR.
NODION A NEWYDDION.
NODION A NEWYDDION. Mae Ffrainc yn anfon allan bob blwyddyn werth 60,000p. o arfau meddygol. Caiff Corphoraeth Ipswich dros fil 0 bunau o log oddiwrth y gwaith dwfr. Drwy werthu tywod a graian glan y m6r am ddwy geiniog y llwyth, mae awdurdodau Yarmouth yn enill 400p. yn y flwyddyn. Y mae yn Ysgotland 156 0 ddarllawdai wisci, a dim ond 28 yn yr Iwerddon a naw yn Lloegr. Pymtheg mlynedd a deugain i ddydd Mercher y darganfyddwyd aur gyntaf yn Nghaliffornia. Gwnewch gymaint 0 ddaiolli ag a alloch yn y byd a chedwch cyn lleied o stwr ynghylch hyny ag a fyddo yn bosibl. Derbyniodd pymtheg mil 0 blant ysgolion Llundain dystysgrifau y flwyddyn ddiweddaf, am fedrusrwydd mewn noflo. Ceir fod y Prifathraw Fairbairn ar ymwel- iad a Mr. Andrew Carnegie yn Nghastell Skito. Bydd i Mr. Lloyd George, A.8., anerch cyfarfod cyhoeddus yn Nyffryn Rhondda yn fuan. Torodd pont ar reilffordd yn India yr wytbnos ddiweddaf, ac aeth cerbydres i'r dyfnder gan ladd tua haner cant o'r teithwyr. Ceisir dadblygu cynllun yn yr Eidal er I cludo llythyrau gyda'r trydan (electricity), yn ol cyflymdra o 250 milldir yr awr. Dedfrydwyd mwy o 191 0 bobl i benyd- wasanaeth a 17,168 i garchar yn ystod y flwyddyn ddiweddaf nac yn y flwyddyn flaen- orol. Cynydd peryglus. Bu tan arswydus yn Texas yr wythnos ddiweddaf. Cyneuodd y ffynonau olew ac aeth yr holl wlad yn wenfflam. Llosgwyd gwerth miloedd lawer o olew. Y mae rhai gwirioneddau a ddiystyrir gan rai dynion, oblegid nad ydynt wedi eu chwilio; a rhai ni chwilir ganddynt, oblegid eu bod yn eu diystyru. Aeth teulu yn Writtle, ger Chelmsford, yn sal ar ol yfed 0 botel win, nos Sabbath, yr hyn oedd yn cael ei wneyd er dathlu cyhoeddiad gostegion priodas y ferch. Bu y fam farw, a bu y tad a'r ferch yn beryglus wael. Cynhaliwyd cyfarfod i brotestio yn erbyn Mesur Addysg y Llywodraeth yn nghapel y Tabernacl Bangor nos Fercher. Siaradwyd gan Mr. Lloyd George a Mr. Bryn Roberts. Cafwyd cyfarfod brwdfrydig ac areithiau campus gan y ddau aelod. Cyrhaeddodd y Cadfridogion Boraidd i Amsterdam, ddydd Iau. Wrth siarad lyn y palas of Industry, dywedodd y Cadfridog Botha y buont yn ceisio iawn am eu ffermydd llosgedig, ond yr oedd ganddynt bob rheswm i gredu na fuasent yn cael iawn. Dydd Mercher, cafwyd potel seliedig ar y lan yn agos i'r Abermaw, ac ynddi a ganlyn ar ddarn o bapyr :—The Drift,—Bound for Cardiff, May 5th, 1902. Ship sprung a leak, going down last. Love to Polly, and all.- Alex Jones. Ar waethaf haf di-haul, ymddengys fod y cnydau yn Lloegr wedi dyoddef Uai nag a feddyliwyd. Y mae y cynyrch yn dda, ond ar y cyfan, y mae'r ansawdd yn wael. Oher- wydd fod eisiau cymaint o waith Haw, ychwanegodd y costau o gynhauafu. Y mae y cynhauaf yn,Ysgotland ytlotaf a'r di- weddaraf a gafwyd er's ugain mlynedd. Yn East Ham, ddydd Llun, rhoddodd Crwner geiydd llym i ddyn a dynes o'r enw Spurgeon am esgeulnso galw ar feddyg at eu plentyn oedd yn marw. Y mae y ddeuddyn yn peithyn i sett y 4 Bobl NeIllduol.Ebai rheithiwr: Gweddiasoch weddi ffydd, ond nid achubwyd y plentyn.—Y Tad Credaf i mi gael yr help goieu drwy weddi ar Dduw. Profais hyny am lawer blwyddyn. Nid wyf yn moddwl i mi erioed gael physig. Y Mesur Addysg ydyw pwnc y dydd. Y mae'n amlwg bellach fod y wlad yn cael ei chyffroi i'w gwaelodion. Mae'r Anghyd- ffurfwyr a charedigion addysg deg trwy Loegr a Chymru wedi cychwyn mudiad i wrthwynebu y Mesur os daw yn ddeddf. Mae prif weinidogion yr Eglwysi Rhyddion wedi mynegu eu barn yn ddifloesgni, ac y mae Iluaws mawr eisoes wedi cyduno i ddewis eu carcharu yn hytrach nag ymostwng i'r gorthrwm newydd hwn sydd yu bygwth y WÐriJh ..Ii r"
-_. CYMDEJTHASIAETH.
CYMDEJTHASIAETH. Y mae athroniaeth dadblygiad a lies cym- deithas yn cael sylw mawr er's blynyddau bellach ac nid oes eisiau ond awgrymu mai gwyddor newydd ydyw. Hyd yn ddiweddar, ychydig feddyliai pobl, hyd yn nod dysgawd- wyr, 0 athroniaeth cymdeithas. Pan yn edrych yn ol drwy yr oesau, canfyddir y ffaith ddyddorol na wyddai y bobl nemawr ddim am natur a deddfau cymdeithas. Lwyred y cyfeiriwyd meddyliau plant Adda yn ystod y canol oesau i fyny i'r nefoedd ac i ystyriaeth 0 bwnc y byd a ddaw, fel na chynyddodd gwybod- aeth ond ychydig am ganrifoedd. Ebargofid ac esgeulusid egwyddorion dadblygiad cym- deithas yn hollol. Yr amcan-nod ar hyd yr oesau oedd uwchafiaeth y cyfoethog a'r uchel- radd, a gwaseidd-dra y Ilafurwr ar tlawd. Fe- allai fod mwy o athroniaeth cymdeithas i'w ganfod yn ngoruchwyliaeth Moses nag yn hanes yr un o ddeddf-roddwyr y cyn-fyd Y mae llawer 0 egwyddorion Plato ac athronwyr Groegaidd a Lladinaidd eraill yn arddangos anwybodaeth o ddechreuad dadblygiad cym- deithas.. Eu camgymeriad mawr hwy oedd y seilient eu damcaniaeth ar eu dychymygion yn hytrach nag ar wybodaeth brofiadol 0 gym- deithas. Yr oeddynt yn rhy ffroenuchel a phendefigaidd yn eu meddwl i ymgydnabyddu a gwaelodion angenrhaid cymdeithas. Yn niwedd y ddeunawfed ganrif y dechreu- wyd sylwi a chwilio i natur cyfansoddiad cymdeithas; a rhyddhad y meddwl dynol o hualau oferedd yr hen athroniaeth i ddar-sylwi ac archwitio anghenion cymdeithas, achlysurodd ei gyfeiriad at wyddor newydd, a elwir yn gymdeithasydd- iaeth, yr hon fydd ar fyr yn un o'r gwyddorau mwyaf bendithiol, oblegid ei hamcan-nod yw gwelis a dadblygu cyflwr y ddynoliaeth. Yn nghanol pentwr 0 olygiadau anymarferol ac anwyddonol, ymfaelodd Auguste Comte a rhai meddylddrychau sydd erbyn heddyw yn safon cymdeithasyddiaeth, sef mai afreolaeth neu anarchiaeth y meddwi dynot yw achos pob drwg a gorthrwm o fewn cym deithas. Gwelodd yntau yr angenrheidrwydd 0 seilio cymdeithas- iaeth ar fywydeg, tsef ar egwyddorion bywyd. Gofyna cymdeithasiaeth wybodaeth resymol a manwl o natur bywyd a'i ddeddfau. Drwywy. bodaeth a chydymdeimiad y gwellheir clwyfau cymdeithas. Diben yr holl wyddorau yw lies- oli y ddynoliaeth. Arweiniwyd y cymdeithaswyr cyntaf ddiwedd y ddeunawfed ganrif, a'u canlynwyr am flyn- yddau, oherwydd eu hanwybodaeth, i lawer o ddychymygion a mympwyon seiliedig ar ych- ydig egwyddorion arwynebol. Gelwid am gyd- raddoliad hollol a dosbarthiad golud yn yfar- tal rhwng pawb hyd at raniad y ddaear yn gyfartal rhwngl pawb, heb feddwl y byddai yn ol hyny o drefn mewn rhai gwledydd yn ddim mwy na maint cadach llogell i lawer un. Cynllun arall llawn mor benboeth oedd ysguboriau cenedlaethol i gym- eryd i mewn holl gnwd a chynyrch y wlad i'w rhanu rhwng pawb fel y byddai eisiau. Gof- ynai y Siartiaid am gyfnewidiadau a breintiau anymarferol, er iddynt geisio pethau gwerth- fawr a bendithiol. Addysgai a gofynai C. Fourier, Robert Owen, Louis Blanc, ac eraill, lawer o bethau anymarferol a dychymygol, ond gwasanaethodd y cyfryw i ddwyn cymdeithas- iaeth i sylw y byd a chyffroi dyddordeb ynddi. Felly daliai yr hen gymdeithaswr yr un ber- thynas a'r cymdeithaswr presenol ag a ddaliai loa nFedyddiwr a Christ. Gwasanaethodd yr hen gymdeithaswr i alw sylw at yr egwyddor oedd ar ddyfod yn effeithiol. Yr oedd ei gwyu yn gyhuddiad chwerw nas gallai cymdeithas ei ebargofi yn hir. Yn ddiweddarach, y mae rhai o ysgrifenwyr a meddylwyr penaf yr oesau, sef Hurbert Spencer a'i gymdeithion, wedi ym- gymeryd-a chefnogi egwyddor cymdeithasiaeth, gan dynu sylw y byd ati. Cyn bo hir, bydd y wyddor hon yn cymeryd lIe gwleidyddiaeth, neu o leiaf, yn ysgogiad ac yn ysbrydoliaeth iddi. Ymadrodd gwerthfawr a gafaelgar yw hwnw o eiddo William Morris, cymdeithaswr ei hun, sef mai y feddyginiaeth at glwyfau gwareiddiad yw mwy o wareiddiad.'
PWLLHELI.
PWLLHELI. PLESERDAITH.-Dydd Gwener, bu aelodau Vagol Sul Bedyddwyr Llangian, am bleserdaith yn Porthmadog. Cludwyd hwy i gyfarfod y tren yn Pwllheli mewn cerbydau. Parotowyd ymbotth yn ysgoldy capel Pontynysgalch a bu Mr. Jones, y gweinidog, yn hynod o garedig. Mwynhawyd y dydd yn fawr gan bawb; a dychwelodd pawb adref yn gynar a di-anaf. Y WESLEYAID. Nos Sabbath diweddaf, yn y gyfeillach eglwysig, pasiwyd yn unfrydol i wahodd Cyfarfod Talaethol y Wesleyaid i Bwllheli yn mis Mai nesaf. CAEL LLETY TRWY DWYLL.—Anfonodd yr ynadon, yr wythnos ddiweddaf, E. Griffith, joci, Trawsfynydd, i garchar am ddau fis, am gael llety yn y Sportsman Hotel, trwy dwyll. Yr oedd newydd fod yn ngharchar am gyffelyb drosedd yn y Penrhyn.
[No title]
Ceir fod ystormydd enbyd wedi achosi colledion mewn bywydau ac eiddo wedi bod yn vsgubo tiwjr India, Pebeudir Affrica, St- at? Itali.
ABERDYFI.
ABERDYFI. DIRWEST.—Cynhaliwyd cyfarfod dirwestol fel arfer, nos Sul diweddaf. yn y Neuadd Gy- hoeddus tiati lywvddiaeth Mr W. Jones Caed anerchiadau gwerthfawr gan y gweinidobion ac eraill Y FEIBL GYMDEITHAS.—Cynhaliwyd cyfar- fod o'r gangen leol, nos Sul, yn nghapel y Wesleyaid, i drefnu gogyer a chynal y cyfar- fodydd blynyddol, yn yr hwn y cynrychiolir y Fam Gymdeithas gan Mr. William Roberts, Maentwrog. Pasiwyd i'w gynal yn nghapel y Wesleyaid, ar Hydref 7fed —Nodwyd Mr. E. L. Rowlands yn archwiliwr am y flwyddyn.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. CYFARFOD RHYDDFRYDOL -Nos Wener, yn Ysgoldy Capel yr Annibynwyr y cynhal iwyd hwn, pryd y nodwyd ar yr amser mwyaf manteisiol i gael Cyfarfod Cyhoeddus yn y dref, ac y penodwyd swyddogion a chynrych- iolwyr am y flwyddyn nesaf. DAMWEINIAU.—Digwyddodd damwain ddi- frifol yr wythnos ddiweddaf, yn ngwaith aur y Clogau, trwy i ddarn o graig gwympo ar John Lloyd Griffiths, Cwmblaenglyn, a'i niweidio yn ddirfawr yn ei ben a'i draed. Deallwn ei fod fod yn gwella yn foddhaol hyd yn hyn.—Dydd Llun, cymerodd damwain ddifrifol arall le yn y felin gysylltiedig a gwaith y Prince of Wales, pryd y cwympodd John Humphreys, Marian Road, i lawr o ben y felin i un o'r peirianau, ac y derbyniodd niweidiau difrifol i'w goesau. Gobeithiwn ei fod yn gwella oddiwrth y niweid- iau a dderbyniodd,
I ABERMAW.I
ABERMAW. Cynhaliwyd regaltaflynyddol yn y lie uchod ddydd Iau. Cafwyd tywydd lied ffafriol ar y cyfan,-y gwynt yn gryf o'r dwyrain, ac ni chafwyd gwlaw 0 gwbl, er ei bod yn gymylog, yn enwedig y boreu, ond ciliodd i raddau pan y daeth yr amser i'r ymrysonfeydd ddechreu. Gweithredwyd fel Commodore gan Cadben Bailey, a'r swyddogion eraill oeddyntVive- Commodore, Mr. G. G. Isaacs Cadeirydd y Pwyllgor, Major T. W. Best; Is-gadeirydd, Mr. E. Buckley; Ysgrifenydd Mr. John Jones Trysorydd, Mr. J. A. Rowlands. DARLITH —Nos Lun, yn nghapel yr Anni- bynwyr Seisnig, traddodwyd darlith alluog a dyddorol, i gynulleidfa luosog, gan y Parch. D. M. Jenkins, Llundain. Ei destyn oedd Y bobl a elwir yn Ymneillduwyr.' Y cadeirydd oedd Dr. Williams, Caerdydd. PRIODAS.—Dydd Mawrth, priodwyd Misi Winnifred Greener, merch ieuangaf Mr. W Greener, The Cedars, Erdington, a Tylrgraig, Abermaw, a Dr. Collens, Hereford. Cymerodd y seremoni le yn Eglwys Erdington.
TOWYN.
TOWYN. YR YSGOL SIROL.-Ail agorodd yr ysgol uchod, ar ol y gwyliau haf, gyda nifer luosog o ysgolorion newyddion; a'r hen ysgolorion a ddychwelasaot yn ymddangos yn awyddus i waith. CYFARFOD CENHADOL-Nos Lun, cynhal- iwyd cyfarfod cenhadol, ar ran y Genhadaeth Eglwysig yn Ne Aftrica. Cynhaliwyd y cyfar- fod yn yr Ysgol Sirol; a chafwyd anerchiad dyddorol gan foneddiges ieuanc sydd yn gen- hades yn y maes dan sylw. BWRDD YSGOL.—Cynhaliwyd cyfarfod o'r Bwrdd Ysgol, dydd Mawrth, dan lywyddiaeth Mr E. Rowland, cadeirydd. Yr oedd adrodd- iad y Swyddog Gorfodol yn dangos fod y pres. enoldeb yn foddhaol ar y cyfan yn bresenol.— Pasiwyd na byddo ysgolion nos yn cael eu cynal o hyn allan ond yn Bryncrug.-Ynglyn a chais Mr. Ffestin Williams, Aberdyfi, am godiad yn ei gyflog, tra yn gwerthfawrogi ei wasanaeth, eto nid oedd y Bwrdd yn gweled ei ffordd yn glif i godi yn ei gyflog.—Apwyntiwyd Miss Lizzie A. Walters, yn monifrlss yn ysgol Ab- erdyfi.-Apwyntiwyd y personau canlynol yn llywodraethwyr ar ysgol Aberdyfi Parch. Tecwyn Evans, Mn. William Jones, David Pugh, a J. Lumley.
BOW STREET.
BOW STREET. MARWOLAETH.—Dydd Sadwrn, ar ol cryn gystudd, bu farw Mr. John Corbett, yn 70 mlwydd oed. Daeth yma o Ysgotland oddeutu 24 mlynedd yn ol, fel goruchwyliwr coed ar ystad Gogerddan a chyflawnodd y swydd hono er boddlonrwydd i'w feistr yn ogystal a boddlonrwydd i'r tenantiaid, ac eraill yr oedd ganddo i ymwneyd 4. hwy. Cymerodd y gladd- edigaeth le dydd Mercher, yn mynwent Eglwy. Penrhyncoch.
FFESTINIOG.
FFESTINIOG. CYFARFOD ORLIRINIO.-Nos Fercher a dydd Iau, cynhaliwyd cyfarfod pregethu ynglyn ag ordeiniad Mr. Gwilym Rees, B.A., o Goleg: Aberhonddu, ynweinidog ar eglwys yr Anni- bynwyr yn Jerusalem. Cymerwyd rhan gan y Parchn. T. M. Rees, Buckley, T Rhys, M.A Aberhonddu; R. T. Phillips, J. H. Evans, Maerdy; E. Morris, Dyftryn D. LI. Morgan, Pontardulais. Cafwyd odfaon gwlithog. Hyd- erwn y bydd l?endith yn dilyn gweithrediadau y tyddf
.1. Y DEON HOWELL A DttfDSWrDD…
1. Y DEON HOWELL A DttfDSWrDD Y CYIIY; Traddodwyd araeth fer, a hynod o effaithial vn yr Eisteddfod yn Mangor gan yr Hybarcb Dleon Howell (Llawdden). Yr oedd si yn y )e, ebai ef yn ddifyrus, fod yr Eisteddfod are! gwely angau, ac yr oedd yntau wedi brysio i (yaf i roi deigryn ar ei bedd. Ond erbyn crraeclél, cafodd fod yr Eisteddfod mewn gwell cyflwr nag erioed Gwir ydoedd ei bod yn aewid ychydig ar ei diwyg ac yn tueddu i roddi heibie yr hen wisg o wlanen cartref yn ffafr sidan y Sais. Am dano ei hun gwell oedd ganddo V I lodes Gymreig brydferth a rbinweddol, yn ti gw'sg o wlanen dyfodd ar ei bryniau ei hun na'r un a wisgai yn ffasiynau diweddaraf Pari. Llundain (chwerthin). Wrth cdrych yn ol ar # dyddiau gynt yn Mangor, yr oedd yn cofio «l gydnabyddiaeth a'r Deon Cotton a r Hybarcii Ddr. Arthur Jones. Yr *eddynt hwy yn diau allan o'r ychydig ddoctoriaid duWinyddiaetU oedd yn y wlad y pryd hyny. Ond maty D. D-uon yn awr mor amt a me.illion yn miaT Mai yn Nghymru. Wrth gyfeirioat j MarddT coronog, dywedodd ei fod yn gyhyrcb naturiol i gyfundrefn addysg Gymreig. Yr oedd wedi pasio o'r chwarel i'r ysgol, o'r ysgol i'r colftt ac oddiyno yn M.A. i blith beitdd goreu'rwla& Yna gwnaeth y Deon sylwadau purwerthfa", a gwladgar ar Gymry a'i dyledswyddau. Cyng• horai gadw gwybodaeth yn y pen, a gias ya y galon Yn y gorphenol yr oedd y Cymro ..e4i bod yn diodde'n ddistaw, yn ddirwguach, ya oddefgar, yn foddlon gweled dieithriaid yn cym* eryd y pethau goreu yn y wlad, tra efe yn gy»- ^nwr coed ac yn gludwr dwfr Ond yr Mad^yr hen lanc yn dechreu dihuno Dihuned kefyd i'w ddyleaswyddau. Yr oedd ugeiniau o Wen- trefydd yn Nghymru a'u cyflwr yn warth i war- eiddiad. Gorfodid miloedd o wragedd, gwyr a phlant, i fyw mewn cytiau lie na feiddia"l yt yswain roi ei gwn, na'i foch chwaith. Ci cyflwr pentrefydd Cymry ddylai fod efengyl j dyddiau hyn. I Gymry ieuainc apelai i gym- eryd yr arwyddair hwn at eu calon Gweithiwck allan eich iachawdwriaeth eich hunain.' I«i ac na fydded iddynt adael i ddieithriaid eu troi allan o'u hetifeddiaeth. Nid oedd ele am bregethu efengyl gul Cymru i Gymry,' end dywedai yn bendant na ddylid, pan yr eecN safle yn wag, a phan yr oedd Cymro yn ledd- ianol ar y cyfleusderau a'r gallu angenrheidiol yn ymgeisio am y lie, ei roi i ddieithrddyn oadw yn unig yn fwy medrus yn y grefft o hysbysebu.
PORTHMADOG.
PORTHMADOG. MARWOLAETH SYDYN. Prydnawn dydd Llun, yn dra sydyn, bu farw Mr. J. Bucking- ham, mab Mr. Fredrick Buckingham, Tre. madog, yn yr oedran cynar o 22 mlwydd. Nid oedd yn dda ei iechyd er's oddeutu wythaofi ond ni feddyliodd neb fod y; diwedd wor agos. Yr oedd yn gymeriad a berchid yn fawr gas ei holl gydnabod. CUddwyd ef gaodyrfa luosog a pharchus dydd Iau diweddaf. Mae cydym* deimlad cyffredinol a'r teulu yn eu dwfn alar.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. Mae bywoliaeth Machynlleth, wedi- ctel ei derbyn gan y Parch T. LI. WiHiams, LlasP fachreth, Dolgellau. Graddiodd Mr. William., yn Nghaergrawnt Bu yn gurad Caeraarfes am ysbaid, ac wedi hyny yn ficer Brithdir. ARWEKTHIANT.—Dydd Llun uebaf, Hedi 29, bydd Mri. Gillart, Arwerthwyr, Machynlleth, yn cyut Arwerthiant ar Ddodrtfn Tt Plu Dolcaiadogi; Machynlleth. DeallwA fed yr holl ddodnfn, be. i mewn cyfiwr oampus, ac o'r mathau gorea. A fanylion, gweler ein colofnau hyabysiadol. APWYNTIADAU.—Allan o 127. o yaageiswyr, apwyntiwyd Mr. Tom Powell, Vsgol y Bwrd<f Isygareg (drwy casting vote y cadeirydd, y. Parch. W. S. Jones), yn brifathraw Yt|oj y Bwrdd, Machynlleth. I gymeryd lit lir. Powell, yn ysgol Isygareg, apwyntiwyd MT., Fielding, o ysgol Aberanglell.-I larnr.a ar y Cyngor Dosbarth, a aeth yn wig drwy faTWtfl- aeth Mr. John Jones, ni enwebwyd neb ond y Parch Robert Price, rheithor Darowen, fetly- dewiswyd ef yn rheolaidd. MARWOLARTH. Gofidus genyu fod orfod i gofnodi marwolaeth Mr. E. Marpole Thomas, Fedwfaen, yn 37 mlwydd oed. Cladd. wyd ei weddillioa marwol, yn y Gladdfa Gy. hoeddus, ddydd Iau. Gweinyddwyd ran y Parch. Josiah Jones. Y mae cydymdeualad cyffredinol a'i weddw, a'i ddau blentyn bychaa yn eu galar a'u colled.
CLARACH.
CLARACH. TE A BARA BRITH.-Rhoddodd Mr. a Mrs. Francis, Wallog, wledd odeatheisenau, dydd Sadwrn, i holl ddeiliaid Ysgolion Clarach, ynghyd a'u rhieni. Ar ol y wledd, treuliwyd amser difyrus gan y plant inewn chwareuen* chanu.
TREGARON.
TREGARON. CLADDEDIGAETH.-Dydd Llun, claddwyd gweddillion marwol Mr. William Jones, mab diweddar Mr. William Joaes, Blaenplwyf, o'r drefhon, yn mynwent capel y Methodistiaid. Bu farw o glefyd y galon. ac efe ond ugain mlwydd oed. Gweinyddwyd yn yr aagladd gan y Parch Morgan Evans. Mae cydym- deimlad dwfn a'i fam weddw a galarus.
LLANDDBWI BREFI.
LLANDDBWI BREFI. RATCLIFF A THOMAS.-Nos Sadwra di- weddaf, bu ymddiriedolwyr yr elusenau uchod yn cynal cyfarfod yn y lie arfero!. Etholwyd Mr. J. W. Edwards yn gadeirydd am y tro. Prif waith y cyfarfod ydoedd gwrando ar y» ohebiaeth oedd wedi cael ei chario ymlaea rhwng Mr. Lloyd, clerc yr ymddiriedolwyr, a'r Commissioners, ynghylch gwerthirot yr kea ysgoldy. Cynygiad Mr. Jeremiah Jones, N«* Factory, oedd yr ucbaf dderbyniwyd na ymddiriedolwyr, felly, efe a'i cafodd ganddynt gyda chaniatad y Commissioners. Ond erbya hyn, y mae Mr. Joseph Morgan, Post Office, wedi cynyg haner penadur yn rhagor i'r a*duf„ dodau, ac felly y mae y swin yn 270. to*. Ond nid yw y diwedd eto, tebyg y bydd rbtfttf v ^Wl4cy»y|orpb«»if»gfff,
COFIO EI ADDEWID.,
COFIO EI ADDEWID. Byddai yn arferiadgan glerigwr yn Sir Efrog ysgwyd dwylaw gyda phob cwpl y byddai efe yn eu priodi, a dweyd •—' Bendith arnoch cofiwch os byth y gallaf fi wneyd rhywbeth i chwi, byddwch sicr o adael i mi wybod.' Fe alwodd gweithiwr gydag ef tua pythefnos ar ol ei briodas, ac meddai with y clerigwr—'Onid ydych yn fy nghofio i ? Myfi yw yi un a briod- asoch bythefnos yn ol, ac yr oeddych yn gar- edig. Dywedasoch wrthyf—' Bendith arnoch ac os bydd rhywbeth a allaf fi ei wneyd i chwi gadewch i mi wybod' 0, do with gwrs,' meddai y clerigwr. Beth yn awr a allaf fi ei wneyd i chwi ?' Wel (meddai y dyn), yr wyf wedi dyfod i ofyn i chwi fy rhyddhau.'
LLANELLTYD.
LLANELLTYD. Yn yr Abolitionist am y mis hwn, y mae ysgrif gref a nerthol ar y modd yr ymddygwyd at Miss Cobbe, Hengwrt, pan y gwysiwyd hi gerbron ynadon Abermaw am greulondeb at y ceffyl gwyn. Boneddiges yw hi sydd wadi cymeryd plaid y creaduriaid mudion, a hyny wedi bod yn hyfrydwch ei bywyd bob amser. Gwyr ein darllenwyr i'r achos gael ei daflu allan o flaen yr ynadon. MARWOLAETH MISS PUGH.—Bu farw y foneddiges uchod dydd Gwener diweddaf. Bu yn matron yn Asylum Dinbych am lawer o flynyddeedd, ac ni bu neb yn fwy caredig a thirion wrth y trueiniaid sydd yno. Rai blyn- yddoedd yn ol, cafodd flwydd-dal, ac yn Llan- elltyd y bu hyd ei marwolaeth.