Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
30 erthygl ar y dudalen hon
< YR YMHONWR PIGGOTT. Achoswyd cyffro mawr ddydd Sul, yn 1 Arch y Cyfamod,' yn Clapton, pan y darfu i Mr. Smyth Piggott drachefn gyhoeddi ei hun y 'Messiah.' Yr oe(ld tyrfaoedd wedi ymgasglu o'amgylchyr eglwys cyn i'r drysau gael eu hagor; ac am haner awr wedi deg, sef ar adeg a benodid i gynal y gwasanaeth, yr oedd dwy fil o hobl y tuallan. Gorfu i aelodau y sect, fel yr oeddynt yn gwneyd ru ffordd drwy y dorf gyda chynorthwv heddgeidwadol, ymogtwng i eiriau caled. Pan yr agorwyd y drysau i'r cyhoedd yr oedd yno rhuthr wyllt am yr adeilad. Wedi i oddeutu cant gael mynediad, fe gauwyd y drysau. Honodd Pigg >tt, mewn anerchiad, mai ytngnawdoliad o'r dwyfol oedd efe. Bu terfysg difrifol ar yr heol wedi'r cyfarfod. Cynhaliwyd (gyfarfod arall, nos Fercher. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parch. J. S. Piggott, yr ymhonwr. Ni chaniatawyd ond aelodau y sect i fyned i mewn. Aeth Mr. Piggott mewn cerbyd i'r gwasanaeth, a chydag ef yr oedd ymladdwr cyhoeddus. Ymgasglai tyrfa fawr y tuallan i'r adeilad ond dyogelwyd Mr. Piggott gan yr hedd- geidwaid. Er na ddarfu iddo yn y gwasan- aeth ail-adrodd ei honiad mai efe oedd y Messiah, eto cyfeiriai at ei ddwyfoldeb.
CYNCOR SIROl MALDWYH A'R MESUR…
CYNCOR SIROl MALDWYH A'R MESUR ADDYSG. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y cyngor hwn yn y Drefnewydd, dydd lau, o dan ly- wyddiaeth Mr. A. C. Humphreys Owen, A.S. Darllenwyd gohebiaeth oddiwrth Gyngor Sirol Sir Gaeinarfon mewn peithyims i'r Mesur Addysg. Tra yr oedd y cadeirydd ar gynyg fod deiseb yn oael ei hanfon oddi- wrth y Cyngor hwnw i Dy y Cyffredin, cododd Y Cadben Mytton (yr is-gadeirydd), i bwynt o drefn a dadleuai nad oedd rhybudd priodol wedi cael ei roddi o benderfyniad y cadeirydd i'r aelodau. Gwvthdystiodd y Mil. Pryce-Jones, A.S, hefyd, yn erbyn iddynt ddadleu y mesur, cyn myned ymlaen gyda busnes oyffredin y Cyngor. Aeth y cadeirydd yn mlaen i nodi eu cwynion yn erbyn y Mesur Addysg; ac ar ddiwedd ei araeth, oynygiodd benderfyniad Fr perwyl eu bod yn anfon deiseb at Dy y Cyffredin yn nodi eu rhesymau dros wrth- dystio yn erbyn y Mesur Addysg. Cefnog- odd Mr. R. Lloyd y penderfyniad. Cymerwyd rhan yn y ddadl wedi hyny gan Mri. E. Ashton, T. Watkin, a Cad ben Mytton. Pan bleidleisiwyd caed 25 dros y pender- fyniad, a 9 yn erbyn. Peuderfynwyd hefyd fod copiau o'r penderfyniad yn cael eu hanfon i'r'Prifweinidog, Ardalydd Londonderry, Syr William Hanson, larll Spencer, Syr Henry Campbell-Bannerman, Mr. Bryce, a Chyng- horau Sirol Cymru a Mynwy.
Y 'BOXERS' ETO,
Y 'BOXERS' ETO, Dydd Mawrth, ysgrifenai gohebydd o Pekin, i hysbysu fod y I Boxers yn gwar- chae dinas Chengtu. Bu y milwyr Ym- herodrol a'r gwrthryfelwyr yn yr heolydd. Adnabyddir y Boxers o dan sylw wrth yr enw Cymdeithas y Lluseinau,' a'u cadlef ydyw Cefnoger y Llywodraeth a diddymer yr Eglwys a'r tramorwyr.' Hysbysa y Pabyddion ynPekin fod o dri chant i fil o ddyehweledigion wedi eu lladd. Dadleua y papyrau brodorol fod yr helynt yn codi oddiar y ffaith y gofynir am iawn gormodol i'r Cristionogion ar ol y cythrwfl yn 1900, a bod eu hymddygiad yn ormesol. lawn yw cofio ddarfod i filwyr Ewrop Gristionogol ymddwyn yn annheilwng yn ystod yr ymgyrch i Pekin.
Y DIAFOL FEL PYSGOTWR.
Y DIAFOL FEL PYSGOTWR. Un o gymeriadau rhyfeddaf Sir Drefaldwyn oedd Thomas Davies, Melinbyrhedyn. Dyn garw oedd cyn ei droedigaeth, ac ymladdwr mawr. Ond cafodd wir ddychweliad, a daeth yn bregethwr tra gwreiddiol, er nad coeth. Un tro, datluniai y diafol yn temtio Crist dan y gymhariaeth o bysgotwr. Gwelai y cythraul yr lesu yn bysgotwr mawr, a dyma ef yn chwilio am y bluen oreu a feddai. Arch i'r ceryg hyn fod yn fara.' Dyma bluen sydd wedi dal llawer, meddai. Bara sy'n apelio at weithwyr y wlad. Ond methodd y bluen a dal yr Iesu. Yna, dyna Satan yn treio pluen arall-clod Bwrw dy Hun i lawr oddiar binacl y deml.' Yna, fe fydd pawb yn son am danat; Ti fydd gwrthddrych canmoliaeth y wlad. Ac y mae yna addewid i Dy gadarnhau. Methu wnaeth y bluen hon drachefn. Yna, dyna y diafol yn cynyg y drydedd bluen-uchelgais. Dyma bluen,' meddai, sydd wedi dal dynion pena'r byd. Hon ddaliodd Alexander Fawr, a'rcewri gynt.' Ond,' gwaeddai Thomas Davies, 'fe fethodd yr hen goch-y-bonddu hon ddal lesu Grist.' Wedi ei demtio ymhob peth, ond heb bechod.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. FFAIR.—Cynhaliwyd yr hyn a elwir yn 'Ffair Newydd' dydd lau diweddaf. Daeth tyrfa fawr o bobl i'r dref, a gwnaed masnach dda, yn enwedig gyda cheffylau. Gwerthwyd ug- einiau o honynt am bris da. OFFERYN CFRDD.-Cael offeryn cerdd gape; yr Annibynwyr ydyw y siaraa y dyddiau hyn yn Mhenegoes, ac mae amryw o'r aelodau wedi cymeryd y peth i fyny o ddifrif, ac yn gwneyd eu goreu i sicrhau offeryn da TE.—Prydnawn Gwener, rhoddwyd y te blyn- yddol i blant Ysgol y Bwrdd y diet. Eistedd- odd tua thri chant a lianer o blant, a gwnaeth pawb ei ran yn dda Gwasanaethwyd gan amryw foneddigesau o'r dref. oedd wedi add- tiriio y byrddau yn brydferth iawn.
TRI 0 DDYNION WEDI EU LLADD.
TRI 0 DDYNION WEDI EU LLADD. Digwyddodd damwain ddydd Iau, yn chwarelau Southill, perthynol i'r Mri. Ake- royd, pryd y collodd tri o bersonau eu byw- ydau. Syrthiodd craen mawr i lawr i'r chwarel, gan ladd tri dyn. Ni wyddis beth oedd achos y ddamwain,
MARWOLAETHAU AR YR ALPAU.
MARWOLAETHAU AR YR ALPAU. Dywed gwifreb a dderbyniwyd o Geneva, y Sabbath, i drychineb ai-all gynieryd lie y boreu hwnw ar yr Alpau, ac ofnir fod saith o fywydau wedi cael eu colli. Yr oedd cwmni o ddau o bleser-deithwyr o Ffrainc, dau arweinydd, a thri o gludwyr, yn myned i fyny Mont Blanc, ar ochr yr Eidal, pan, trwy ryw anffawd, nad yw yn cael ei egluro eto, y cafodd yr oil o honynt eu hyrddio dros glogwyn. Cyrhaeddodd y newydd am y trychineb, i ddechreu, i Aosta, pan aeth cwmni archwiliadol i fyny y mynydd yn union.
CARCHARIAD MR. JOHN KENSIT,…
CARCHARIAD MR. JOHN KENSIT, IEU. Gwrthododd yr Ysgrifenydd Cavtrefol gydsynio a deiseb oedd yn dwyn 100,000 o enwau am ryddhad Mr. John Kensit, ieu., yr hwn a anfonwyd i garchar am dii mis gan ynad cyflogedig Lerpwl, am iddo gymeryd rhan mewn cyfarfod Protestanaidd yn yr awyr agored, yr hwn a gynhaliwyd yn y ddinas hono.
ABERANGELL.
ABERANGELL. PRIODI A CHLADDU —Nid yd)m yn cydio y ddau beth hyn a'u gilydd, am fod dim cyd- nawsedd rhyngddynt, yn hytrach i'r gwrth- wyneb, anaml o drugaredd y gelwir arnom fyned o dy gwledd i dy galar yr un dydd, Fodd bynag, felly y digwyddodd yn ein hardal ni yn ddiweddar. Yr oeddem yn cychwyn y dydd yn y cywair lion, arwyddion llawenydd oedd i'w canfod, a phob mynwes yn llawn o ddymun- iadau da i ddeuddyn ieuanc oedd yn hwylio tua Dinas Mawddwy, i nesau at allor Hymen i dyngu 11 w o ffyddlondeb-yn glaf ac yn iach i'w gilydd, neb amgen y brawd ieuanc Lewis Owen, Esgair Angell, a Miss Jannett Jones, o'r Cwmllecoediog Hall (gynt o'r Sarn, Lleyn). Cawsant lawer o groesaw, a dymunwyd Duw yn rhwydd iddynt gan lawer. Cyfododd haul i wenu arnynt, a gobeithio mai heulwen bendith a llwyddiant a'u dilyno ddyddiau'u hoes. Wedi cael byrbryd yn ngwesty Peniarth, ymadawodd y par ieuanc am Bwllheli, i anghofiu'r byd a'i bethau am dro, ac i freuddwydio am fyd gwyn yn y dyfodol.—Yn y prydnawn, bu trawsgy- weiriad sydyn i'r cywair lleddf. Prudd-der oedd yn teyi-nasu, "Gwell yw myned i d £ galar na myned i d gwledd,' ebe'r Pregethwr, 'canys hyny yw diwedd pob dyn, a'r byw a'i gesyd at ei galon Er hyny gorchwyl prudd a digalon oedd hebrwng gweddillion chwaer ieuanc 17 oed i fynwent Cemmes, sef Margaret Lizzie, merch ieuangaf hdward a Cliatlietine Tones, Gwastadgoed. Yr oedd Lizzie yn un oV rhai hyny oedd yn hoffus gan bawb. Y mlerhywbeth yn annaturiol mewn marw un ieuanc, yr ydym yn methu dygymod a'r syniad, gofid i fynwes pawb o'i chydnabod oedd gweled un mor hoffus yn gwywo i'r bedd mor anamserol. Daeth torf luosog a pharchus at 'eu gilydd prydnawn Sadwrn i'w chladdedigaeth, lIawer o'i chyfoed- ion ieuainc oedd yn bresenol hefyd, yn galaru eu colled ar ei hot. Cynhaliwyd gwasanaeth byr yn y capel, ac wedi hyny ar lan y bedd. Gwasanaethwyd gan y gweinidog, Parch. R. W. Jones.
CORRIS.
CORRIS. Cofnodir yn y Drych am farwolaeth ar Gor- phenaf 21ain, Mr. Daniel R. Williams, Fair- haven, Vt a fu farw yn 58 mlwydd oed. Yr oedd yn fab ieuangaf Richard a Mary Williams, Henffactri, Corris, ac yn yr ardal hon y ganwyd ef. Perthynai ar du ei dad i Gutyn Peris, ac ar du ei fam i'r cymeriad hynod Richard Evan, Maesybwlch. Gadawodd D R. briod a phump o blant mewn amgylchiadau cysurus. ADDYSGOL-Llongyfarchwn Master Iorwerth Edgar Roberts, mab Mr. H. S Roberts, Ysgol y Bwrdd Corris, ar ei waith yn pasio yn llwydd- ianus yr arholiad am Junior Certificate y Bwrdd Canolog Cymreig, gyda distinctions, yn Ysgol Sirol Machynlleth. Eled rhagddo yw ein dym- uniad. ENTERTAINMENT.—Fel y gwelir oddiwrth ein hysbysiadau, nos Fercher. Hydref y iaf, yn Ysgol y Bwrdd, cynhelir Entertainment gyda pheiriant siarad, ac eglurir 'Yn ei Gamrau Ef,' gyda'r hud-lusern, gan Mr. D. M. Hughes, o'r America. GOLEUO'R GROFSFFORDD.-Deallwn fod symudiad ar droed i oleuo croesffordd y pentref, yn ystod y gauaf. COFRESTRU'R ETHOLWYR.—Dydd Mawrth, gerbron Mr. Colt Williams, bu adnewyddu yr etholrestr. Nid oedd neb yn cynrychioli y Toriaid. Cynrychiolid y Rhyddfrydwyr gan Mr. H. S. Roberts, yr ysgrifenydd lleol, a llwyddwyd i enill yr hyn a geisid.
ESGAIRGEILIOG.
ESGAIRGEILIOG. MARWOL.A.ETH.-Dydd Sadwrn, bu farw Mrs. Jane Evans, priod Mr. John Evans, Gwyndy, wedi hir waeledd, yn 63 oed. Wele yr olaf o hen frodorion y lie uchod wedi ein gadael, a hefyd, un o'r rhai mwyaf amlwg o blant Diwygiad 1859, fel y gellir dweyd fod dolen gydiol dwy gadwen wedi ei thori yn ei marwolaeth, sef cadwen o deuluoedd y pentref a chadwen y Diwygiad mawr a phriodol y gellir dweyd fod bylchau wedi eu gwneyd yn y rheng trwy ei symudiad. Gwasanaethodd achos crefydd mewn llawer o ffyrdd. Llawer o weinidogiou y Gair gafodd ymgeledd cymwys dan ei chronglwyd. Hyderwn ei bod wedi myned oddiwrth ei gwaith at ei gwobr, lie y caiff weled nad yw y cystudd ddi- oddefodd yn ddim yn ymyl y tragwyddol bwys gogoniant.' Gedy ar ei hoi briod, dwy ferch, ac amryw berthynasau, mewn dwfn alar. Cleddir yn mynwent Rehoboth, dydd Mercher, Medi 24. Wylwn Wylwn!! P'odd y gallwn beidio wylo, Ac och'neidio'n drwm a phrudd, Gweled muriau Seion anwyl Wedi eu rhwygo-O! mor gudd Yw liwybrau dyfnion Brenin Seion yn ein byd. Colli milwyr dewr a ffyddlon, Enillodd lawer brwydr fawr, Sydd yn peri loes i galon Rhai adawyd ar y Ilawr. Peidlwch wylo medd y nefoedd, Ar ol et-if eddioii Hydd, Ni wnaeth angau ond gwasanaeth, Eu symud wnaeth i wlad y dydd; Gwynfydedig ydynt yno, Ni ddaw poen i'w blino mwy; Synu, canu, moli'r lesu, Fydd eu gwaith tragwyddol hwy, Yn y nefoedd. J.M.J.
RHUTHR 0 EGLWYS.
RHUTHR 0 EGLWYS. LLADD 115, A CHLWYFO 40. Dychrynwyd mil a haner o Negroaid oedd yn bresenol yn Nghynhadledd Genedlaethol Eglwys y Negroaid jn yr America, yn Bir- mingham, Alabama, dydd Gwener, ac yn eu hymdrech i ddianc o'r adeilad, lie y cynhal- iwyd y cyfarfod, lladdwyd 115, a niweidiwyd 40. Tra yr oedd y Parch. Booker T. Wash- ington yn anerch y cyfatfod, ffynai twrf mawrymysgydirprwywyr. Gwaeddodd un o'r drirprwywyr oedd yn methu clywed Mr. Washington yn siarad, quiet, quiet' (tawel- wch, tawelwch). Oamgymeryd y gair hwn am y gair I fit-o.' Yna gwaeddwyd fod 4 yr adeilad ar dan,' a gwnaethpwyd rhuthr ofn- adwy am y 'stryd gyda'r canlyniad a nodir uchod.
PEIRIANT I EHEDEG-
PEIRIANT I EHEDEG- Brydnawn Gwener, esgynodd Mr. Stanley Spencer (gwr a hana o deulu o awyienwyr), mewn peiriant ehedeg o ardd y Palas Grisial, Sydenham, ac ehedodd ynddo ar draws Llundain i'r gogledd-orllewin, gan ddisgyn yn ddianaf gerllaw Acton, pellder o bymtheg milldir. Mae Mr. Spencer wedi bod wrthi yn gwneyd arbrofion mewn esgyn a disgyn er's misoedd. Ond yn flaenorol, yr oedd y peiriant yn rhwym wrth raff. Dydd Gwener, yr oedd y darpariadau a'r tywydd yn fodd- haol, a gollyngwyd y llong awyrawl yn rhydd.
CRICCIETH.
CRICCIETH. HIRHOEDLEDD -Mae yma ymhlith y rhai a dderbynia gymorth plwyf saith dros 80 oed, ac un o honynt yn 96. LLWYDD.—Y mae Mr. W. Jones, mab Mrs Jones, y Crossing, wedi pasio yn anrhydeddus ei arholiad terfynol fel ysgolfeistr. Bu yn gorphen ei addysg yn Ngholeg Caerfyrddin. BWRDD YSGOL -Y Parch. J. Lloyd Jones, M.A., lywyddai y Bwrdd diweddaf. Caed ad- roddiad yr arolygwvr am sefyllfa foddhaol yr ysgolion,—Paslwyd i longyfarch yr athrawon ar gyfrif hyn. Ail-apwyntlwyd Miss Lillie Jones yn athrawes gynorthwyol yn adran y genethod.
PENRHYNDEXTDRAETH.
PENRHYNDEXTDRAETH. BLYNYDDOL —Nos Sadwrn, y Sul, a dydd Llun, cynhaliodd yr Annibynwyr eu cyfar- fod blvnyddol. Gweinyddodd v Parchn. Dr Owen Evans, Lerpwl; Gwylfa Roberts, Llan- elli a H. Williams, B.A., Penygroes. Y TEMLAU.— Nos Wener, yn Nheml Deu- draeth. pan y llywyddai Mr. R. G Pritchard, caed adroddiadau o'r Dosbarth Deml, &c., ?an y Mri. G H. Griffith, Ty'nyffrwd; G. Tones, Brynllewelyn J. Stoddard, Talysarnau; a G. P. Williams, Bwlcbelas. Yn Nheml Minffordd, Mr. W. Pentra Jones yn llywyddu, caed papyr gan Miss Edwards, athrawes ar Ddigrifwch y plant,' pydag adroddiadau o'r Dosbarth Deml gan y Mri. Richard Jones, a G. Williams.
GLANDYFI.
GLANDYFI. DAMWAIN ANGEUOL.—Prydnawn Iau, fel yr oedd Mr. J. Andrews, o'r lie uchod, yn dych- welyd o Dalybont, gyda'r llythyrau, rhedodd y cerbyd i gerbyd arall, fel y cwympodd ef ar ei ben i'r 11awr, a bu farw ymhen yr haner awr wedi'r ddamwain. Yr oedd yr ymadawedig yn adnabyddus i lawer, drwy el fod yn y swydd er's blvnvddau. Gadawodd berthynasau a phlant i alaru ar ei ol. Bu farw ei briod tua blwyddyn yn flaenorol.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. DIRWEST.-Nos Wener, yn y Progress Hall, dan lywyddiaeth Miss L. M. Jones, cynhaliwyd cyfarfod rheolaidd Cyfrinfa y Temlwyr Da. Cymerwyd rhan mewn adrodd, dadganu, ac areithio, gan amryw foneddigesau a boneddig- ion, a chafwyd cyfarfod da. CYNGOR STREFOL.—Cynhaliwyd cyfarfod o'r Cyngor Trefol dydd Mawrth. Cafwyd trafod- aeth ddyddorol ar fater rhoi llain o dir at was- anaeth y Coleg. Mae adeiladau y Coleg yn myned yn rhy fychan at ddibenion y sefydliad, a chan fod llwyddiant y dref yn dibynu llawer ar Iwydd y Coleg, barn y mwyafrif yw mai buddiol rhoi pob cefnogaeth iddo hyd at roi tir yn rhodd iddo. Cafwyd rhai ar y Cyngor a deimlent y byddai gwneyd defnydd arall o'r tir lawn mor fuddiol, ond ar ymraniad, cafwyd mwyafrif o blaid y rhodd.
;,;YR YMHERAWDWR A'R SHAH,
YR YMHERAWDWR A'R SHAH, Nos Tau, rhoddodd Ymherawdwr Rwsia wledd i'r Shah o Persia mewn adeilad ger gorsaf Ryshkovo. Wrth gynyg iechyd da y Shah dywedodd yr Ym- herawdwr, Y mae yn llawenydd genyf allu llon- gyfarch eich Mawrliydi, drwy air o enau, ar achlysur eich pen blwydd. Yfaf iechyd da eich Mawrhydi, i ogoniant eich teyrnasiad, i lwyddiant Persia, ac i ddadblygiad ei chyfeillgarwch gyda Rwsia.' Atebodd y Shah yn y Bersiaeg, gan ddywedyd: Yr wyf yn cymeryd y cyfleusdra yma a roddodd Duw i mi i ddiolch i'ch Mawrhydi Ymherodrol, yn y lie cyntaf am eiriau caredig i'ch Mawrhydi wrth gynyg fy iechyd da, ac hefyd am y croesawiad caredig, cydymdeimladol, 'a dymunol a gefais yn eich Ymherodraeth. Yn y gobaith y; bydd i'r rhwymau sydd yn uno y ddwy wlad, ac ydynt yn gadarn, gael eu tynhau yn nesach nag y buont yn y gorphenol, yr wyf yn yfed iechyd da eich'Mawr- hydi, yr Ymherodres, a'r Teulu Ymherodrol, i ddedwyddwch, gogoniant, a hir barhad eich teyrn- asiad, a llwyddiant eich Ymherodraeth.'
GYNHADLEOD GWARCHEIDWAID Y…
GYNHADLEOD GWARCHEIDWAID Y TLODION. Cynhaliwyd hon yn Llangollen yr wythnos ddiweddaf. Llywyddid gan Cadben Boscawen. Cafwyd anerchiad gan Miss Walton Evans ar 'Dlodion o feddyliau gweiniaid.' Dywedai fod 50,000 o blant o synwyr prin yn Lloegr a Chymru. Dadleuai dros agor ysgolion arbenig ar eu cyfer. Credai eraill mai da fuasai sefydlu ys- golion unedig at y pwrpas. Traethwyd llawer o bethau craff am dlodion erwydrol, ond boddlonodd y gynhadledd ar wyntyllu y gwahanol faterion yn unig. Yr oedd cynifer a saith o foneddigeaau yn cymeryd rhan flaenllaw yn y dadleuon ac yn darllen papyrau.
YR UNDEBAU CYNULLEIDFAOL.
YR UNDEBAU CYNULLEIDFAOL. Yr wythnos hon. cynhaHa yr Undebau uchod eu cyfarfodydd hydrefol gyda'u gilydd yn Glusgow. Nos Lun, croeaawyd y cyn- rychiolwyr gan y Go phoraeth yn ystafell- oedd y ddinas. Derbyniwyd hwy gan yr Arglwydd Faer, yr hwn a groesuwodd yr Undebau i'r ddinas, ac a amlygodd ei obaith y byddai i'w hymgyfarfyddiad droi yn fendith i'r eglwys. Cydnabyddwyd y croeaaw gan Dr. Mackennal.
AMBULANCE RHEILFFOROD Y CAMBRIAN.
AMBULANCE RHEILFFOROD Y CAMBRIAN. Cynhaliwyd ail gystadleuaeth flynyddol dosbarthiadau Ambulance Rheilffordd y Cambrian am y Railways Challenge Shield, a gyflwynwyd gan Mrs. C. S. Dennissa Mrs. J. Parry Jones, drwy garedigrwydd Iarll Powis, yn Nghastell Powis, ddydd Mawrth. Dechreuodd y gystadleuaeth am un ar ddeg, a phaihaodd hyd bump. Dyma y canlyniad: -1, Oswestry Traffic, 255; Oswestry Works, 251 3, Portmadoc, 235; 4, Llanidloes, 161 5, Machynlleth, 157; 6, Aberystwyth, 147 a 7, Trallwm, 127. Cyfiwynodd Arglwyddes Powis y datian i Mr. D. Jones, cadben y clwb llwydddianus.
Y Cadfridogion Boraidd .U…
Y Cadfridogion Boraidd .U Cenhadatth. Cyrhaeddodd y Cadfridogion Boraidd i Rotterdam dydd Llun; ond darfu i'r Cad- fridog De Wet, yr hwn oedd yn teimlo yn sal, ac yn lluddedig, braidd, ddychwelyd drachefn i Hague. Yn nghwrs araeth a draddododd 311 Rotterdam, dydd Llun, eg- lurodd y Cadftidog Botha mai un amcan i'w cenhadaeth ydoedd, sicrhau cynorthwy i'r Boriaid hyny oedd wedi colli yr oil a feddent. Ac er grymuso ei apel, dywedodd fod 20,000 o ferched a phlant wedi marw, a bod 4,000 o ddynion wedi cyfarfod a'u marwolaeth yn y rhyfel, a bod 16,000 wedi cael eu clwyfo, a bod y rhan f wyaf o'r rhai hyny yn awr yn analluog i weithio,
FFESTINIOG.
FFESTINIOG. CYFAKFOD DAU-FISOL.—Cynhaliwyd cwrdd dau- flsol y Methodistiaid y tro hwn yn Tanygriaiau. Llywydd, Mr. Ben T. Jones; ysgrifenydd, Mr. H. Ariander Hughes; holwr, Parch. R. R. Morris, Tabemacl. Nos Wener, ymdriniwyd ar y mater, Y pechod gwreiddiol,' y Parch. D. Roberta, RMw, yn agor. Y Sul, holwyd swyddogion y tair ysgol gan Mr. Owen Jones, U.H., a darllenwyd papyr gan Mr. Jacob Jones, ar yr Ysgol Sul fel moddion gras.' Holwyd y dosbarth canol yn y boreu, plant am ddau o'r gloch, a'r dosbarth hynaf am chwech. PBIODAS.-Dydd Mercher diweddaf, yn nghapel Seion, Conwy, gan y Parchn. Ellis Jones, Bangor, E. Cefni Jones, Blaenau Ffestiniog, a'r Parch. Dr. Llugwy Owen, cofrestrydd, unwyd mewn glan briodas Mr. Alun Jones, Paragon, Church Street, Blaenau Ffestiniog, & Miss M. Owen, Llandudno Junction. Gwasanaethwyd fel gweision gan Mri. W. M. Owen, Ifor Owen, a Llewelyn Jones. Y morwynion oeddynt Missses Eirionwy Owen, M. J. Roberts, a E. E. Roberts, Blaenaa.
UNDEB BEDYDDWYR CYMRU-
UNDEB BEDYDDWYR CYMRU- Cynhelir cyfarfodydd blynyddol Undeb Bedydd- wyr Cymru, yn Merthyr Tydfil, yr wythnos hon, gan ddechreu dydd Llun, a pharhou dros ddydd Iau. Y Llywydd eleni ydyw y Parch W. P. Williami, D.D., Glandwr, Abertawe, yr hwn a olynir i'r gadair lywyddol gan y Parch. H. Harris, Treherbert. Cynhelir y prif gyrddau yn nghapel eaug Seion un o'r addoldai helaethaf yn y De.— Oddiwrth y rhaglen gwelwn fod cryn waith i gael ei drin a'i drafod gan y gwahanol bwyllgorau. Cymerir rhan yn y gweithrediadau gau oreugwyr yr enwad yn y De a'r Gogledd.
LLANBEDR, MEIRION.
LLANBEDR, MEIRION. Chwith genym orfod ysgrifenu y gair di- weddar mewn cysylltiad ag enw Mr. Watkyn Owen, B.A. Hunodd yn yr angeu dydd Llun, Medi i5fed, a chladdwyd ei weddillion yn mynwent Llanfair, dydd lau, y i8fed cyfisol. Dioddefodd gystudd maith a chaled yn dawel a dirwgnach. Bu yn ymdrechol iawn trwy anfan- teision i gyraedd safle uchel mewn dysgeidiaeth. Machludodd ei haul a hi eto yn ddydd. Nid oedd ond 28 mlwydd oed.
MARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. MARCHNAD YD LUPWL, Medi 2Sain. Yr oedd hen wenith braidd yn ddiutach yn marchnad Lerpwl heddyw, ond gwenith newydd heb gyfnewidiad; y galw yn gymedrol. Gwenith Califfornaidd, o 59. 5c. i 5s. 5Jc. y can'pwya. Prisiau blawd yn gadarn, a mwy o alw am dano. Ceirch a blawd ceirch yn brin, ac yn symud yn araf. Galw tawel oedd am indrawn.
MAKCHXADOEDD ANIPEILIAID.
MAKCHXADOEDD ANIPEILIAID. Llundain, Medi 22ain.—Gwartheg.—Y fasnach yn araf, ond y prisiau yn cadw i fyny. Gwartheg Devon, o 5s. i 5s. 2c.; Ysgotaidd, 5s. 4c.; Hereford, o 4s. 6c. i 5s. 2c. yr wyth pwys. Defaid.-Araf oedd y fasnach, er na newidiwyd nemawr ar y prisiau. Myllt Down goreu, o 5s. 8c. i 5a. 10c.; rhai Ysgotaidd, o 5s. 8c. i 5s. 10c. yr 8 pwys. Leicester, Medi 20fed.—Yr oedd nifer luosog o brynwyr wedi dyfod ynghyd, a'r fasnach yn fwy j bywiog. Prinion oedd buchod, a'u prisiau yn gadam yn ol o 16p. i 28p. y pen. Bustych, o 12p. i 17p. y pen. Cyflenwad mawr o ddefaid a'r fasnach yn fywiog yn ol prisiau cadarn.
Family Notices
PRIODAS. JONES-MoRGAN.-Medi 19eg, yn nghapel Salem, Dolgellau, Mr. David Jones, Dinas Mawddwy, t Miss M. E. Morgan, Gaewem Uchaf, Corris. Gweinyddwyd gan y Parch. J. Roberts, Corris. MARWOLAETH. LBWIs.-Medi 17eg, yn 32 mlwydd oed, Mrs. M. Lewis, priod Mr. Francis Lewis, Glanaber, Corris. Cafodd gyatudd maith a chaled, yi hwn a ddi- oddefodd mewn modd tawel a dirwgnach. Yr oedd yn aelod dichlynaidd a ffyddlon gyda'r Annibynwyr. Edmygid hi gan ei holl gydnabod fel gwraig rinweddol ei rhodiad, o ysbrydllednaii a chrefyddol. Gadawa mewn galar a cholled ar ei hoi, briod ac un plentyn. Claddwyd ei gwedd- illion marwol dydd Sadwrn, yn mynwent Re- hoboth, Corris. Gweinyddwyd gan y Parch. Rhys Davies.
[No title]
Talodd ymddiriedolwyr yr Oriel Wyddelig Genedlaethol, gaut a phum' punt ar hugaio am ddarluu 0 Oliver Oroawwl*
Advertising
IN HIS STEPS." Beautifully Illustrated with 50 coloured Photo* graphs, life models, and life aize. 4 Tb* Holy City, and The Ninety and Nine,' will be sung and illustrated. THBKING OF ALL TALKINO MACHINES will give some fine selections, vocal and instru- mental, at the CORRIS BOARD SCHOOL, October 1st, ltOt. Doors open at 6-30 p.m. To commence at 7 sharp. Admission, 6d. Children, Half Pnc*. DOLCAKADOG, PLWYF MACHYNLLETH. DYDD LLUN, MEDI 29AIN, 1902, CynhaUa y WEISTRl GILLAIIT ARWERTHIAD AR DDODREFN TY PLAS DOLCARADOG. Gan fod Mr. Edward Davies wedi goood yranedd uchod, bwriedir gwerthu yr oil o gynwyeiad pedair o ystafelloedd i lawr a phedair o lofftydd Byrddan amrai, Esmwythfeinciau, dros ddau ddwsin o Gad* eiriau, Llawrleni, Lampau, Gwelyau, pedwar Post Mahogany, a rhai Haiarn, Cypbyrddau Dillad, ac eraill, Cistiau a Drawers, Byrddau Llaw-olchi, Gwelyau Plyf, a rhestr helaeth o Ddillad Gwelyau, Gwrthbanau Cymreig o waith cartref, ac arbenig- rwydd penaf yr arwerthiad fydd par newydd o'r Gwthbanau goreu ellir weithio yn Swydd Drefald- wyn, par arall newydd o'r Gwrthbanau gereu all Prydaiu, droi allan, a ph&r aral!, y goret all yr Uuet- Dalaethau eu cynyrchu, wedi eu troi allan gan brit weithfa wlan ardal San Francisco, yn Caligonle. a pâr arall ar ddangosiad (ond nid ar werth), sydd a'u cymeriad y goreu a all y byd ei gynyrchu. Bydd dygiad y Gwrthbanau rhain i'r un man yn wers addysgol, ac yn ddangosiad o beth y rhaid i'r Diwydion Cymreig ymgystadlu a hwynt yn ngyrfa fasnachol y dyfodol. Canoeda o bwysi o Afalau da, ac addeutu haner tunell o dri math o Gloron at blanu. Dechreuir yn gywir am ddau o'r glocb. SALE FAWR FLYNYDDOL RICHARD REES, Paris House, Machynlleth. Yn dechreu dydd Iau (Flai, Awst), Awst ifedy ac i barhau ar hyd y mis, Gwerthu Allan y Gweddill o'r Stoc Haf, GYDA GOSTYNGIAD MAWR, Gwneir gostyngiad yn yr holl Stoc yn ystod y Gwerthu Allan. Y mae yr holl Stoc yn Newydd, Ffasiynol, ac o'r Gwneuthuriad Goreu. Rhoddir BARGEINION GWIRIONEDDOL Dyma gyfleusdra rhagorol i gael Dillad yn rhad. Oherwydd amrywiaeth a chyflawn- der y Stoc, nis gellir rhoddi rhestr a honynt. SALE WIRIOHEOOOL HYO DDIWEDD Y MISI Ni cha neb ei siomi mewn Owertb nac yn Mhris y nwyddau. READY MADES, DILLADAU PAROD! I Ddynion, Bechgyn, a Phlant. t)- Y mae genym Stoc anferth o bob math. PRINT S-Canoedd o lathoui at Ddreuet. Blouses o 3le. yllath i fyny. DRESSES-Canoedd o latheni o'r nwyddaa diweddaraf, 2-lc. y llath i fyny. HETIAU GWELLT-Canoodd o Hatiau Iferched, Dynion, a Phlant, i'w gwerthu allan am lai na haner eu gwerth. Hefyd, Carpets, Oilcloths, Mackintoshes, Umbrellas, &c. tSf Nid oes le i fanylu. Deuwch ya fuaa. GREAT CLEARANCE SALE Of Summer Goods at PARIS HOUSE, MACHYNLLETH. Great Bargains Will Be Offered. Commencing Thursday (Fair Day), August 7th, 19 Sefydlwyd yn 1878. MR. A. C. POWELL, L D S.RC.S DENTAL SURGEON, 4, PoBTULWD SDmIT, A«MYSTWTTH. (Opposite the Welsh Baptist Chapel. Honorary Dental Surgeon to the Abemtvjtt Infirmary, and Cardiganihire Gaaeral Hoipital. MACHYNLLETH.—Y dydd Mercher Cyntaf 4f Trydydd dydd Mercher ymhob mI., yn ahf lb. Marpole, Liverpool House, Maengwya Street, • 2 p.m. hyd 5 p.m., neu wrth apvyntiad. OORRIS.—Yr Ail a'r Pedwerydd Sadwm 0 boll Mis, yn nhf Mr. W. J. Edvardi, T«Mper«iee Glanydon, o 11 a.m. hyd 4»30 p.m. Prisiau Rhesymol. Cmntikttiotti ya do.d& b Mat III. hwill ya siarad Cyiamg