Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
20 erthygl ar y dudalen hon
$einiou wen.
$einiou wen. YMADAWIAD ARTHUR. (0 AwdLy Gadair' 1902.) Y tair rhiain oedd yn y bad a ddaeth i ddwyn Arthur ymaith i Ynys Afallach :— Yn nghraidd y llong at ddull ail I orsedd, Iroedd gl*th eursail, Ac ar ei gerfwaith cywrain 1 Gwrlid mwyth o sgarlad main. Tair hefyd o wyryfon Ar Bodd wrth yr praedd bon Eisteddai. Dlysed oeddynt! Nid oedd gwedd Blodeuwedd gynt 0 geinder ail; rhag gwyndawd Perlog ne eu purloyw gnawd, Pylai gwawr y pali gwyn A ymdoiiai am danyn', A lliw teg eu gwalltiau aur Drwyddo fel cawod ruddaur Gyddfau a thalcenau cann Mal eira ymyl Aran; Deufan goch pob dwyfoch dog LJiw gwin drwy wynlliw gwaneg.
CRYBWYLLION MASNACHOL.
CRYBWYLLION MASNACHOL. Nid oedd adroddiadau masnach am yr wythnos ddiweddaf yn addawol. Fodd bynag, bu masnach glo yn brysur, yn parotoi at arch- ebion am y gauaf. Anfonwyd o Dde Cymru symiau mawrion o glo careg. Bu ychydig o fywyd yn ymarchnadoedd grawn Gan i'r tywydd fod gyn braf am ychydig amser, prysur- wyd gyda'r cynhauaf. Fel rheol, y mae ansawdd y cnydau yn amrywiol. Ni fu llawer o fywyd yn masnach y liongau a difywyd fu y fasnaeh mewn cotwm. Gwella y mae gwlân. Y mae nifer mawr o bersonau ar fedr myned i Dde Affrig. Cyhoedda Adran Lafur o Fwrdd Masnach adroddiad misol parthed hyn. Hys- bysir fod angen gweision rheilftordd yn Natal Heblaw i'r gangen yma o lafur ni ddylai neb fyned i Dde Affrig heb ddigon o arian. Y cyf- logau a gynygir i weision y rheilffyrdd ydynt fel a ganlyn Platelayers, IIp. i i5p. y mis; archwilwyr wageni a stgnalmen, lop. y mis. Telir traul y cludiad, ond bydd raid ad-dalu drwy gyfraniadau misol. Y mae gofyn cym- edrol am weithwyr medrus yn y Transvaal a Thalaeth yr Afon Felen, ac amrywia y cyflogau tua phunt yn y dydd ond rhaid cofio fod traul byw yno yn gymaint ddwywaith ag yn Lloegr Caiff morwynion bum' punt yn y mis; ond rhybuddir hwy i beidio myned os na bydd ganddynt gyfeillion JOHN JONES, TALSARN, A LLYCOD FFREINIC. Pan oedd yr enwog Barch. John Jones, Talsarn, yn cychwyn ar ei daith i'r Deheudir un tro, yr oedd yn brudd iawn ei ysbryd oher- wydd gwaeledd ei ferch hynaf. Ond yn rhywle gerllaw Llwyngwril, dechreuodd chwerthin yn uchel a pharhaus, nes synu ei gydymaith (y Parch. Robert Hughes) beth allai fod wedi peri cyfnewidiad mor sydyn. Ymhen enyd dyna fo yn gofyn, Robert, a wyddoch chwi i ba beth mae llygod ffreinig ,da P Na wn i wir,' ebai R. H., 'os nad i boeni dynolryw.' Wel, d'oes fawr er pan y gwybum inau,' meddai yntau Yr oedd rhyw wehydd tlawd yn Sir F6n yn gweddio mewn cyf- ariod diolchgarwch am y cynhauaf, a dywedai: -—1 Diolch i Ti, 0 Arglwydd, am y cnwd tor. eithiog a roddaist ar y meusydd eler.i, ac am y tywydd braf a gafwyd i'w fedi a'i gasglu. A diolch i Ti hetyd am y llygod mawr: fe fuasai yr hen ffarmwrs cybyddlyd yma yn cadw yr yd eto heb ei ddyrnu, nes y buasai pobl dlodion yn methu ei gael; ond mae genyt Ti ddigon o lygod mawr i'w. hanfon i'w teisi i'w ddifetha, os na ddyrna nhw to.' Ar hyn ymadawodd prudd-der John Jones, a bu yn siriol ar hyd y daith.
DYFYNIAD 0 BREGETH.
DYFYNIAD 0 BREGETH. Ebai y Western fffail-I Taflodd pregethwr wers Jonah at ei gynulleidfa yn Whitchurch, ddydd Sul. Pan wrthryfelodd y Proffwyd,' meddai y pregethwr, penderfynodd yr Holl- Ddoeth ei roddi mewn ysgol o garchar, a Ehenderfynwyd mai y morfil oedd y brif ysgol riodol. Y tymor arferol mewn sefydliad o'r fath yw tair blynedd, ond gwnaeth Jonah y fath gynydd, fel yr oedd yn hollol gymwys ymhen tri diwrnod i draddodi ei genadwri. 0 mynych y dymunais pe y gallwn gael benthyg y morfil at rai o'm cynulleidfa
ARLYWYDD AMERICA DAN DRINIAETH…
ARLYWYDD AMERICA DAN DRINIAETH FEDDYGOL. Anfonodd Gohebydd Reuter yr hyn a ganlyn o Indianapolis, ddydd Mawrth Y mae y briw ar y goes chwith,.rhwng penlin a'r ffer, a gafodd yr Arlywydd Roosevelt yn y ddamwain gyda'r cerbyd yn ddiweddar, wedi tori allan. Oddigeith hyn y mae'r Arlywydd mewn iechyd rhagorol, ac yn myned ymlaen i drin ei faterion. Fodd bynag, galwyd ar Dr. Oliver a Dr. Cook, Indianapolis, i gyfarfod Dr. Lung, meddyg yr Arlywydd. Yr oedd Dr. Richardson, Washington, hefyd yn bresenol. Yn marn y meddygon, bydd yn rhaid i'r Ar- lywydd fyned o dan driniaeth feddygol, ac fod i hyn gymeryd lie yn Ysbyty St. Vincent, Indianapolis. Bydct yn ofynol i'r Arlywydd fod yn llonydd am bythefnos. Dywed y medd- ygon nad oes achos i brydeiu. Gwneir y dat- ganiad yma fel na byddo i adroddiadau gau gynhyrfu y bobl. Yn ol newyddion diweddar, bu yr Arlyw) dd o dan driniaeth feddygol prydnawn dydd Mawrth. Gwnaed y weithred yn llwyddianus.
ABERGYNOLWYN.
ABERGYNOLWYN. DAMWAIN ANGEUOL.—Dydd Gwener, cyf- arfu Edward Lewis, chwarelwr o'r lie hwn, a damwain angeuol yn chwarel Bryneglwys. Yr oedd gyda'i waith hefo chwech o ddynion eraill mewn bargen, ac heb y rhybudd lleiaf disgyn- odd tua haner can' tynell o'r graig, a liethwyd ef i farwolaeth yn y fan. Cafodd y gweithwyr eraill ddiangfa gyfyng. Gadawodd E Lewis briod a chwech o blant mewn galar a cholled ar ei ol*
NODION A NEWYDDION.
NODION A NEWYDDION. Cymer ail-gyfarfyddiad y Senedd le eleni ar Hydref 16eg. Iuddew, Syr Marcus Samuel, fydd Ar= glwydd Faer newydd Llundain. Prydferth iawn yw y Beibl a anrhegir i'r Brenin, ei cof am ei Goroniad. Cyflwynir yr aurheg gan Gymdeithas y Beiblau. Y mae perchenogion glofeydd yn Ngor- llewin swydd Efrog am godi pris y glo goreu swllt y dunell. Deohreua ar Hydref y laf. Anfonodd yr awdurdodau yn Rhodesia wahoddiad i'r Gymdeithas Brydeinig i gynal cyfarfodydd 1905 yn Victoria Falls, ar lan y Zambezi. Dywedodd Syr William Walrond, Prif Chwip y Toriaid, ei fod yn myned i Lundain i gynghori Mr. Balfour i wneyd oyfaddawd (compromiseJ ar y Meaur Addysg. Yn ystod ei arhosiad yn Ysgotland, bu y Brenin yn addoli mewn capel perthynol i'r Eglwys Bresbyteraidd. Bu hyn yn gryn boen i Uchel Eglwyswyr Prydain. Prif bleser Arglwydd Brassey yw teitbio yn ei bleser^longuu. Am haner oamif bu wrth y gwaith. Bu ond odid ymhob cilfach o for yn holl gyrion byd. Oyfrifir fod ei holl deithiau yn 280,000 o filldiroedd. Ar ol myned drwy arholiad oaled, penod- odwyd Master Harold Rhodes, Malrern, yn organydd yn mhrif gapel y Bedyddwyr yn Worcester. Nid yw ond oddeutu deng ml wydd oed. Yr oedd llu mawr o gerddorion medrus yn ymgeisio am y Iwydd. Yr oedd tebygrwydd tarawiadol yn ffurf wyneb Dafydd Rolant, Pennal, i Mr. Glad- stone. Dywedodd rhywun hyny wrth D.R., a'r ateb oedd 'y gwyddai fod llawer o debygrwydd yn nghyfansoddiad an medd- yliau, ond nas gwyddai o'r blaen ei fod yn debyg i Mr. Gladstone yn ei wynebpryd.' Yn Ennis, dydd Meroher, dibenwyd prawf yr Uwch-Gadben Studdert a diffynyddion eraill, y rhai a gyhuddwyd o geisio twyllo y Swyddfa Ryfel gyda golwg ar brynu ceffylau i fyned i Dde Affrig. Traddodwyd hwy i aefyll eu prawf yn y Brawdlys nesal. Pan gyrhaeddodd y Cadfridog De Wet I Hague, dydd Mawrth, hysbyswyd ef am farwolaeth ei fab tair blwydd ar ddeg oed yn Ne Affrig. Er ei alar a'i ludded, bu y Cadfridog De Wet mewn cynhadledd gyda'r Cadfridogion Borig yn Hague boreu yr un diwrnod ag y clybu am farwolaeth ei fab. Ddydd Mercher, penderfynodd Ynadon Lerpwl, fod dirwy trwm i'w gosod ar ber- sonau a wnant ddefnydd o iaith ddrwg yn yr heolydd. Dywedodd Syr Thomas Hughes fod yr iaith ddrwg i'w chlywed mor ami yn yr heolydd, ao yr oedd hyn ya ysmotyn du ar enw da y ddinas. Dywedodd ynad arall fod hyn wedi dyfod yn fater y dylai oymdeithas edrych i mewn iddo. Y mae ein Brenhines ar hyn o bryd yn ei bro enedigol, Denmarc. Ni raid dweyd iddi gael derbyniad brwdfrydig. Prydnawn dydd Mercher, daeth yr Uchel Dduc Michael o Rwsia, a'r Tywysog a'r Dywysoges Nicholas o Groeg i Bellevue, Copenhagen. Derbyn- iwvd hwy gan y Teulu Brenhinol, yn cynwys y Frenhines a'r Dywysoges Victoria. Yn Llya adran Maino y Brenin yn Nulyn, dydd Mercher, o flaen y Barnwr Wright, gwnaed archeb ar fod i Mr. W. Redmond, A.S., loddi meichniaeth drosto ei hun am gan' punt, a dau feichniydd arall am 50p. yr un, y byddai iddo gadw'r heddwch am ddwy flynedd, neu fyned i garchar am chwe' mis. Nid oedd Mr. Redmond yn bresenol, na neb yn ei gynrychioli ychwaitb. Ceir clywed rhagor am hyn. Yn Llys Sirol St. Helen's, dydd Mercher, bu y Bamwr Collier a rheithwyr, am rai oriau yn gwrando achos o dan Ddeddf Cyf- rifoldeb Meistriaid. Gofynai J. A. Hunter, Heol Kiikland, iawn am golli ei ddau fys. Ei feistriaid oeddynt Mri. Beckett a'u Meib- ion, masnachwyr coed, Heol Tontine, y rhai yr honid, oeddynt yn euog o ddiofalwch oherwydd na chauasant o amgylch craen. Rhoddodd y rheithwyr ddyfarniad o gan' punt i'r achwynydd. Yn olpob tebyg, y mae Undebwyr Rhydd- frydol Birmingham, y rhan fwyaf o honynt, beth bynag, yn erbyn y Mesur Addysg. Pan gynygiwyd pleidlais o ymddiriedaeth yn Mr. Chamberlain, dywedodd aelod blaenllaw o Gymdeithas yr Undebwyr Rhyddfrydol y byddai iddo gefnogi hyny, ond nid oedd am ddatgan barn yn y cjfarfod ar y Mesur Addysg. Hysbysodd Mr. T. Herton ei fod ef ac aelodau Undebol Rhyddfrydol am alw oyftirfod i drafod y Kesur,
COEL-ARWYDDION C0R0NIADA(J.
COEL-ARWYDDION C0R0NIADA(J. Fe ddichon mai un o'r coel-arwyddlofi rhyf- eddaf a welwyd erioed ynglyn a seremoni Cor- lad ydoedd cwympiad prif ddernyn mawr o ddiamwnd' o Goron Sior y Trydydd, tra y cerddai i lawr y Fynachlog yn ei Goroniad. Yr oedd hyn yn cael ei ystyried yn awgrym o ryw golled ddychrynllyd i'r frenhiniaeth, fel ag yr oedd y rhan fwyaf o'r rhai hyny a edrychent ar yr ochr ddu i bethau ar y pryd yn rhwym o fod wedi gwneyd sylwadau arno, a phan y collwyd y Trefedigaethau Americanaidd, ugain mlynedd yn ddiweddarach, gallai ymddangos i'r lleiaf ofergoelus fod yr argoel wedi cael ei gyflawni. Yr oedd Coroniad Iago yr Ail yn orlawn o goel-arwyddion o ddrwg oedd i dd'od Yn y lie cyntaf, syrthiodd y Pen.ymladdwr ar ei hyd ar lawr wrth draed y Brenin tra yn nesu ato i gusanu ei law I A welwch chwi, fy nghariad, pen-ymladdwr mor wan sydd genych,' sibrydai Mary o Madona ond arwydd ydoedd mewn gwirionedd fod gorsedd y Stuartiaid yn crynu hyd ei sail, a'i chwymp yn agos. Y mae un awdwr yn cofnodi amryw o bethau eraill ag oeddynt yn arwyddion o anffawd a gymerasant le ar yr achlysur yma. Siglai y Goron pan osodwyd hi ar y pen Brenhinol, torodd y nenlen a gysgodai ei Fawrhydi, a chafodd y faner ar y Twr Gwyn ei rhwygo o'r top i'r gwaelod gan ruthriad corwynt anffawd. Nid wyf yn gosod pwys ar y coel-arwyddion hyn,' ebai yr awdwr. ond nis gallaf eu dirmygu hwy: yr oedd y rhan fwyaf o honynt, mi gredaf, wedi cymeryd lIe yn ddamweiniol, ond yr oedd rhai o honynt yn d'od drwy gyfryngau dealltwriaethol uwch, yn enwedig y rhai hyny yn dwyn perthynas à thynged brenhinoedd a chenedloedd.' Glynodd Siarl y Cyntaf yn y mwd yn Westminster, pan dramwyai yr afon o'r Twr i gael ei goroni, a chafodd y seremoni ei haflonyddu gan ddaear- gryn. "Fe ddywedwyd mai y coel-arwyddion mewn Coroniadau ag y gellir ymddiried fwyaf ynddynt yw y rhai hyny ag sydd yn taflu rhyw oleuni ar gymeriad y Brenin a'r bobl. Yr oedd gwaith Napoleon yn cipio y Goron o ddwylaw y Pab a'i gosod ar ei ben ei hunan yn fath o arwydd o deyrnasiad penderfynol.
TRETHIANT NEWYDO BE AFFRIG.
TRETHIANT NEWYDO BE AFFRIG. Yr oedd y cynllun o drethiant i'r ddwy Dref- edigaeth newydd yn Neheu Aftrig, drwy yr hwn y gelwir arnynt gan y Llywodraeth Brydeinig i dalu eu cyfran a osodir yn ddarpariaethol yn ioo,ooo,ooop. tuag at gostau y rhyfel, yn cael eu trafod yn y cylch ariano! yn y brifddinas y dydd o'r blaen. O'r tuallan i'r cylch yma y mae tueddiad cyffredinol o'r bron i dderbyn y cynygion fel bwriad difrifol o du y Llywodraeth, yn hollol ar wahan i'r ffaith a ellir dibynu arnynt a'i peidio, ac ar y cwestiwn yma addefir nad oes ond y rhai profiadol a ddichon roddi barn o ddim pwys arnynt. Y mae y rhai sydd yn meddu gwybodaeth am sefyllfa Deheu Affrig cyn y rhyfel, a'r sef- yllfa yn bresenol, yn honi, fodd bynag:—Y bydd i'r trethiant gael ei ystyried yn Neheu Affrig fel anghyfiawnder moesol; (2) y bydd i fawredd y cynygion a'r ysbaid o amser y gwasgerir y trethiant yn raddol-nid ar unwaith, ond yn gynt nag y disgwylir-achosi i'r rhai hyny a ystyriant y trethiant yn ormodol ac afresymol godi cynwrf yn ei erbyn, a gwrthod fe ddichon ei dalu (3) tra y bydd y mwnfeydd a fodolant yn awr yn hollol alluog i gynal y dreth newydd, y bydd y gweithfeydd llai, yn enwedig rhai bychain iawn, yn cael eu llethu o fodolaeth drwyddi; (4) nad yw y rhai profiadol yn myn- wesu unrhyw olygiadau blodeuog o barth i ddadblygiadau diwydianol y wlad. Y mae yn sicr o ddadblygu, ond nid ar y radd eang a ragfynegir. Gellir dweyd, wrth gwrs, mai golygiadau y cyfalafwyr yw y rhai hyn. Ond datganai un beirniad o. safle uchel yn y cylch arianol ei fod yn wrthwynebol i'r cynygion o safbwynt Ym- herodraethol. Byddai iddynt greu teimladau o chwerwedd anwrthwynebol.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. ANRHEGU.-Nos Sui, yn nghapel y Meth- odistiaid Seisnig, cyflwynwyd anrheg 0 writing desk brydferth i Mr. Bertie Davies, y Criterion, ar ei ymadawiad o'r dref, fel cydnabyddiaeth am ei ffyddlondeb a'i wasanaethgarwch gyda'r achos yn y lie. LLWYDDIANT ADDYSGOL.-Pleser digymysg i ni ydyw croniclo llwyddiant ychwanegol un 0 ferched ieuainc yr hen dref. Yr wythnos ddi- weddaf, llwyddodd Miss Nesta Wyn Edwards, merch Mr a Mrs John Edwards, Rate < ol- lector, &c., i enill ysgoloriaeth mynediad i mewn (y Brereton Scholarships), yn Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth, gwetth i5p.; ac hefyd Ysgoloriaeth Rendel, gwerth iop. Yr wythnos o'r blaen, yr oeddym yn hysbysu i'r foneddiges dalentog hon enill ysgoloriaeth arall gwerth 3op. am dair blynedd (Miss Lloyd-Roberts' Scholarship). Rhwng yr oil, ar ei mynediad i Goleg Aberystwyth, mae Miss Edwards yn dal ysgoloriaethau sydd yn werth SSp. y flwyddyn. Di-os genym fod dyfodol disglaer iddi os caiff fywyd ac iechyd, gan nad yw ond Igeg mlwydd oed eto
[No title]
Mae Arglwydd Salisbury yn dioddef oddi- with y gymalwst, ond hysbysir ei fod yn gwellhau. Erys ar hyn o bryd yu Lucerne, Switzerland, a bwriada symud oddiyno yn |Ua& i Milan, I tali,
TALIESIN.
TALIESIN. TR £ &GHOLIAD. Prydnawn dydd SaAwrn, yn ysgol Glandyfi, cynhaliodd Mr J. Evans, crwner, drengholiad ar gorff Mr. John Andrews. Postman, yr hwn a gyfarfyddodd a'i ddiwedd drwy syrthio oddiar y cerbyd (cerbyd llythyrau) oedd dan ei ofal. Y Parch. E T. M Evans, curad Borth, a dystiodd ei fod ef yn drifio cerbyd prydnawn dydd lau, o Talybont i gyfeiriad y Borth, drwy Tre'rddol, pryd y cyfarfyddodd y trancedig a'i gerbyd heb fod neppell oddiwrth V capel. Yr oedd dwy foneddiges a boneddwr yn y cerbyd gyda'r tyst. Teithia ef yn araf, tra yr oedd y trancedig yn teithio yn gyflym iawn Pan welodd y cerbyd yn d'od i'w gyfarfod troes i'r ochr chwith mor belled ag oedd bosibl. Pan o fewn rhyw chwe' Hath ato, gwyrodd y tranc- edig, feallai er cael gafael yn yr awenau, ac ar yr adeg hono aeth y ddau gerbyd i wrth- darawiad a'u gilydd. Ysgafn iawn oedd y 1 gwrthdarawiad Edryshodd yfl oi a gwelodd y trancedig ar y cerbyd and yn ysgwyd eaz rychodd drachefn a gwelodd ei fod wedi syrthio Troes yn ol ar unwaith. Pan gyrhaeddodd ato, yr oedd Andrews yn glanhau ei ddillad ar 01 cwympo. Rhoddodd ef yn ei gerbyd ei hun; ac aed ar ol cerbyd y trancedig. Diseynodd ac aeth i'w gerbyd ei hun ond gwelodd y tyst yn fuan nad oedd yn dda Cariwyd ef i lawr, rhoddwyd dwfr iddo, a gwnaed pobpeth posibl, ac anfonwyd am y meddyg; ond bu farw ymhen ryw haner awr ar ol y ddamwain. Miss Hibblethwaite, Lerpwl, a gadarnhaodd y dystioliaeth uchod. Dr. Owen Williams a roddodd dystiolaeth iddo weini ar y trancedig. Achos ei farwol- aeth yn ei farn ef oedd syrthio ar ei ben, yr hyn a achosodd fracture of the neck spine. Wedi gwrando y tystiolaethau, dychwelodd y rheithwyr ddyfarniad 0 farwolaeth ddamwein- iol. Deallwn fod mudiad ar droed i wneyd trys- orfa er budd tri phlentyn bychan yr ymadaw- edig, pa rai sydd yn awr yn amddifaid o dad a mam.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. PRIODAS.-Ddydd Mercher, yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, priodwyd Mr. W. P. Bott. Trinity Place, â Miss M. P. Davies, merch y diweddar Mr. D. E. Davies, Engraver. Gwein- yddwyd gan y Parch. Prebendary Williams, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. T. P. Davies, M A. curad y lie. Treulia y pir ieuanc eu gwyliau priodasol yn Birmingham a Llundain. MARWOLAETH SYDYN.—Nos Fercher, yn hynod o sydyn, bu farw Mr. T J. Bullen, Revising Barrister Gogledd Ceredigion, yn 57 mlwydd oed. Yr oedd gyda'i orchwyl yn Llan- badarn, dydd Llun, ond boreu ddydd Mawrth, pan ar agor y Llys, cafodd ei daraw yn wael. Eto gallodd fyned drwy ei waith y diwrnod hwnw. Dydd Mercher, ymwelodd A Goginan, Ponterwyd, &c., gan ddychwelyd yr hwyr i Aberystwyth, lIe y bu farw y noswaith hono er pob ymdrech ar ran y meddyg.
YNADLYS DOLGELLAU.
YNADLYS DOLGELLAU. Cynhaliwyd Llys arbenig dydd Llun, gerbron Mr. Munro Edwards, a Cadben Bailey. Cy- huddwyd Hugh Parry, South Street, o fod yn feddw ac afreolus; ac hefyd, o ymosod ar yr heddgeidwad. Dywedodd yr Arolygydd Jones fod Parry wedi bod yn gwasanaethu fel milwr yn Ne Affrica, a bod y rhai oedd wedi dych- welyd o Dde Affrica yn meddwl y cant wneyd fel y mynont. Dedfrydwyd ef ar y cyhuddiad cyntaf i 10s. a'r costau, neu 14eg diwrnod o garchar; ac i fis o garchar am ymosod ar yr heddgeidwad.—Charles W. Pink, Painter, a gyhuddid 0 fod yn feddw ac afreolus, ac hefyd, o geisio rhwystro yr heddgeidwaid yn nghyf- lawniad eu dyledswyddau, ac o daraw yr Arol- ygydd Jones. Dedfrydwyd ef i 10s. a'r costau ar y cyhuddiad cyntaf, neu I4eg diwrnod o garchar ar yr ail gyhuddiad, mis o garchar gyda llafur caled.—Richard Edwards, Green Lane, a gosbwyd hefyd i 2p a'r costau, neu J 4eg diwrnod o garchar, am geisio atal yr heddgeidwaid i gyflawni eu gwaith. Jane Robinson, hawker, a ddedfrydwyd i 14eg diwrnod o garchar gyda llafur caled, am feddw- dod, afreoleidd-dra, a chardota.
YSGOL SIROL MACHYNLLETH.
YSGOL SIROL MACHYNLLETH. Wele ganlyniad arholiadau y Central Welsh Board, a gynhaliwyd mis Mehefin diweddaf Senior Certificate, Goronwy M. Davies, with dis- tinction in English Language, Arithmetic, & Latin. Gwennie Hughes, with distinction in English and Welsh. Elwy ap Ifor, with distinction i Com- position, English, History, Arithmetic, Latin, and French. Llewelyn M. Jenkins, with distinction in English, and Latin. Evan Jones, William Jones. Hannah Morgan, with distinction in Welsh, and Needlework. Blodwen Roberts, with distinction iu Weish, and Needlework. Gwendolen Lloyd .Rowlands, with distinction in Latin, French, and Needlework. John K. Watkins, with distinction in Compostion.— Junior Certificate, Hannah Breeze, with distinction in Arithmetic, Welsh, French, and Cookery. W. Albert Breeze, John Evan Davies. Edward R. Hughes, with distinction in Arithmetic. John David Jones, with distinction in Scripture Knowledge, Arithmetic, and Welsh. J. I. Jenkins, with distinction in English, Arithmetic, and French. John C. Jones, with distinction in Welsh, & French. David E. Lewis, with distinction in Scripture Knowledga, Arithmetic, Mathematics, Welsh, and French. Gladys Morgan, with distinction in Arith- metic, Scripture Knowledge, French, and Cookery. Hannah B. Richards, with distinction in Arith- metic, Welsh, French, and Needlework. lorwerth E. Roberts, with distinction in Arithmetic, and French. Richard O. Rowlandb, with distinction in Scripture Knowledge, Arithmetic, and Welsh. O. Arthur Williams, with distinction in Arithmetic, Mathematics, and Fiench.—The following have qualified for Matriculation in the University of Wales Elwy ap Ifor, Goronwy M. Davies, Llew- elyn M. Jenkins. -Enillodd yr Ygsol hon yr ail safle yn y Sir. Hefyd, enillodd Elwy ap Ifor exhibition gwerth 15p. am dair blynedd, a daeth Goronwy M. Davies allan yn drydydd yn yr holl
Y GADFRIDOCION ..11.
Y GADFRIDOCION ..11. Brysneges o Amsterdam a fynega fod y Cadfridogion Boraidd wedi rhoddi i fyny. ya derfynol y syniad o geisio sicrhau ymddiddaa pellach d Mr. Chamberlain, er y disgwylii hy4 o fewn ychydig ddyddiau yn ol y buasai Va.. grifenydd y Trefedigaethau yn tueddu i roddi rhywfaint 1 fewn ar delerau Vereeniifinif. Yn Rotterdam, dydd Mawrth. ymwelodfl y Cadfridogion ag Ysgolion Kindergarten. Vr oedd golwg luddedig ar y Cadfridog De Wet. a chwynai ei fod yn wael. Mae Mr Steyn wedi cael adglefychiad ysgafn mewn canlyniad i fwyta westrys, ond nid yw el gyflwr ya ddifrifol Gadawa ti am Clarens, Switzerland, yfory Rotterdam, Medi aa.—Pan yn siarad yn Jp dref hon heddyw gwnaeth y Cadfridog Botha apet ar ran y rhai a ddioddefasant mewn can- p lyniad i'r rhyfel. Dywedai ei fod wedi derbyn rhodd o ugain mil o bunau oddiwrth Am- ericanwr o'r enw Arthur White. a gofynai i praill ddilyn ei esiampl.
TOWYN.'.
TOWYN. MR. YOLTNG.-Mae Mr. C. H Young. Photo. grapher, wedi gwerthu ei fusnea yn Dolgellau ac o hyn allan, bwriada roddi et holl sylw i'r busnes yn To wyn, Aberdyfi a'r cylchoedd. Mae ganddo adeiladau newyddion heirdd; a'r off. erynau diweddaraf goreu. at dynu darluniau, a gwneir y gwaith ganddo am brisiau rhesymol. YR YSGOL SIROL.—Yn arholiad y^ Bwrdd Canolog Cymreig, enillodd ysgolorion o'r Yagot uchod fel y canlyn :-Honour Certificates:- Miss Winnifred Conn, Miss Maude Cotterill. Miss EUen I Jones, John O. Jones. Daniel W. Lloyd, Maggie Owen, a Anne C. Pugb. Senior Certificate H. G. Bagster, Robt„ rk Evans, Margaret M. Ffoulks, David T. Jones, David Wm. Jones, Ethel Jones, Herbert E. Jones, Martha J. Jones, Bromley R» Jukea, Emrys Morgan, Thomas H. Roberts. Junior Certificates -Thomas R. Edwards, Douglas Henville, David C. Hughes, William Owen, Arthur W. Phillips, Edward Rowlands, a J. B. Thomas. Yn rhestr yr ymgeiswyr am ysgolor* iaethau am fynediad i Goleg Aberystwyth cetf yn gyntaf Miss Maude (otterm, yr hoa a anill- odd ysgoloriaeth gwerth 4op., a Miss Wionifrcd Conn, yn drydedd, gan enill JOp. PENRHYN BUDRAICTH. PRIODAS.—Boreu dydd Mawrth, yn nghapel Shiloh, Aberystwyth, priodwyd Mr. R. G. Pritchard, C.S., Castle House, Penrhyndeu. draeth, A Miss Margaret Ann Thomas, merch y Cynghorwr William Thomas, North Parade. Aberystwyth. Gweinyddwyd gan y Parchn. E, J. Evans, Penrhyo, a T. E. Roberts, M A., Aberystwyth. Mae y ddeuddyn dedwydd ar hyn o bryd yn treulio eu gwyliau yo Harrogate, Eiddunwn hit oes ddedwydd iddynt*
ABEBMAW.
ABEBMAW. GALWAD.-Deallwn fod y Parch R. Thomas. gweinidog yr Annibynwyr Cymreig yn y lie hwn, wedi cael galwad unfrydol i fod yn wein* idog eglwys i y Brithdir a Rhydymam. Ni4 yw Mr. Thomas hyd eto wedi ateb y naill ffordd na'r llall. DIOLCHGAR WCH .-Cynbaliwyd cyfarfodydd diolchgarwch am y cynhauaf yr Eglwys Sefyd- ledig, nos Fercher, a dydd Iau. Gwasanaeth- wyd gan y Parchn D. P. Thomas, Penisatwaenr E. B Thomas, Llanberis; R Williams. LlaD- dudno, a D. Richards Blaenau Ffestiniog.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. Y FEIBL GymDRITHAS.-Noo Fercher, yn y Vaae Hall, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y Feibl Gymdeithas; Darlleuwyd y cyfrifon gr., ianol am y flwyddyn, pa rai oeddynt yn dra boddhaol; a chafwyd anerchiad gan v Parch. D. C. Edwards, M.A., cynrychiolydd y Fain Gymdeithas. FFAIR DXFAID —Cynhaliwyd ffair hon, dydd Mercher. Yr oedd cyflenwad mawr o ddefaid yn cael eu cynyg a dywedir tod yr bU wedi eu gwerthu Cafwyd prisiau rhagorol. ADDYSGOL. Pasiodd Master David B. Lewis, mab Mr William Lewis, Braichgoch Wharf, o'r dref hon, arholiad y Bwrdd Caaotog Cymreig, gyda distinction mewn pump, o bynciau-Gwybodaeth Ysgrythyrol, Rhifydd- iaeth, Mathematics, Cymraeg, a French. MARWOLAETH —Dydd Sul, bu farw Mr. John Henry Williams, ar ol cystudd maith a chaled. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod ffyddlon a defnyddiol o'r Eglwys Sefydledig. Claddwyd ei weddillion yn y fynwent blwyfol dydd Mercher. Y CYMRRIGYDDION.-Mae rhaglen y Gym- deithas uchod am y tymor yn rhoddi lie i ddisgwyl am gyfarfodydd llewyrchus, gan y ceir ymhlith y rhai sydd i gymeryd than, rai ID lenorion goreu y genedl.
PWLLHBLI.
PWLLHBLI. Mae y Parch. 1 Lodwic Davies, curad Eglwys St. James, Bangor, wedi derbyn byw- oliaeth Bryncroes, Lleyn. MJtTHDALIAD.- Yn Llys Methdaliad dydd Llun, gerbron y Cofrestrydd Thomas Jones, cynhaliwyd ymchwiliad cyhoeddus ar Owen Lloyd Williams, ffermwr a thafarnwr, Tubwat. i'r-afon. Yr oedd y dyledion yn i,^i3p., ar gyfer pa swmnld oedd ond 388p., yn gadael diffyg o 925P. Yr oedd dros i,ooop. o'r ddyled yn arian a fenthyciwyd gan y methdalwr. Pri- odolai ei tethiant i dalu llogau mawr, ni-Chjd a thalu swm afresymol i'r tenant blaenOrol. Gohiriwyd yr ymchwiliad.
[No title]
Dyma ddeagrifiad un o'r heirdd Cywftig o'r Cadfridog Boraidd De Wet ynei hwyKaa milwrol.— Pybyr ddyn yn poeni'r Prydeinwyr, Gyda llwydd o'u rhwyd Yn rhwydd y rbéd. sloo rIywoato