Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Oratorio Performances at Tylorstown.

Advertising

Eisteddfod at Blaenclydach

Advertising

lbeirniadaeth Eisteddfod Gosen,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

lbeirniadaeth Eisteddfod Gosen, Blaenclydach, Gwener y GroRlith, 1907. PRYDDEST AR "Y DRUGAREDDFA." Daeth deuddeg o bryddestau i law, a chah fod yma gynifer, ni chawn ond gwneydnooiad byr arbob un o honynt. Plentyn yr Anial."—-Er ein bod yn ei enwi yh gyntaf, y mae hwn yn fardd gwirioneddol. Cana yn dyner a naturiol; ond dyg i fewn lawer o bethau nad ydynt yn dal perthynas uniongyrchol a'i deetyn, a gadawa allan bethau ereill y buasid yn disgwyl eu cael mown pryddest ar y Drugareddfa. "Awel Hwyrol."—Ceir yn ei gerdd doraeth o syniadau da; ond ei ddiffyg yntau, yn enwedig yn y rhan gyntaf, yw ytndroi yn ormodol o gylch ei destyn, yn lie bwrw ei hun i fewn i'w galon. "Dan yr Arch."—Y mae yntau yn fardd o gryn deilyngdod. Ond y mae ei arddull yn rhy emynol i ateb ei destyn, ac y mae ynddo duedd crwydro weithiau. Sylwer ar ei ail benill: — Wyf yma yn yr anial maith, Ac ofnau'n ami o dan fy mron Trom a lluddedig yw y daith, Ond ar fy llwybr dros wyneb hon Tyr goleu'r nefyn newydd don." Anhawdd gweled perthynas agos rhwng llinellau fel yna er Drugareddfa. Addolwr ar ei Ddeulin."—Mae'r bryddest hon wedi ei gosod allan yn ddestlus mewn "typewriting," ao yn cynwys llawer o newydd-deb. Hoffwn ei ddull deheuig o drin ei fesitrau. Ond ceir yma ymadroddion anmhriodol, megys:- Ca'dd fy mai a'm drwg eu tywallt arni hi yn ber trugareddfa Ion dod a bri i'r fron," &c. Nid barddonol yw llinellau fel hyn — Cufydd a, haner ydoedd yn ei lied, A dau gufydd a haner yn ei hyd." I'r hanesydd, ac nid i'r bardd, y perthyn rhoddi accounts o'r natur yma. Ond na ddigaloned Addolwr," y mae ynddo elfenau bardd rhagorol. Bezaleel.Gaii fod ei derfynau mor gyfyng, erys yn rhy hir gyda rhai pethau, megys ei ddarluniad o gymeriad Duw, gwneuthuriad y Drugareddfa, &c. Gwisga y bryddest nodwedd rhy draethodol, ac eto ceir ynddi syniadau byw a barddonol yma a thraw. Medda Bezaleel ar ddigon o awen i wneyd gwrhydri. Pechadur."—Y mae hon yn bryddest gref, lawn o dduwinyddiaeth iach, ac addurnir hi gan luaws o syniadau bardd- onol. Nid yw ei barddoniaeth yn beth mor fyw ag eiddo rhai o'i gydymgeiswyr, ao nid yw yn dangos y gwahaniaeth rhwng y Drugareddfa. gysgodol a'r un sylweddol mor glir ag y dymunem. Ceir ganddo hefyd gwyneb dlos," yn lie gwyneb tlws," a'r llythyren "h" yn cael ei chainleoli ddwy neu dair o weithiau. Eto i gyd, y mae hon yn bryddest o gryn deilyngdod. Mab Hedd."—Dyma bryddest arall bron o'r un nodwedd, yn llawn o syniadau wedi eu gosod allan mewn Cymraeg gwell- na'r cyffredin, ac i fesur yn gwisgo gwedd esboniadol. Ond, rywfodd, nid oes yma gymaint o eneiniad ag a ddymunem. Y mae yma farddoniaeth, ond barddoniaoth, sych ydyw, heb tod yn gorfodi calon y dar- llenydd i deimlo ei hun yn cael ei chyffwrdd. "Deigryn Enaid."—Y mae hon yn gerdd hynod o flodeuog; ond nid yw llawer o'r blodau yma, fwy na. blodau cyffredin natur, yn dal i'w dadansoddi. Pan gynygiwn wneyd hyn a hwy, collwn y perarogl a'r tlysni, ac nid oes genym fawr o ddim yn aros. Ymdeithydd.Cana "Ymdeithydd mor naturiol ag yr eheda gwreichionen fyny. Mae ei gorfanu oil yn ystwyth, ai odlau yn gwbl ddifai. Mae ei gerdd yn hynod o swynol, ond nid oea yma unrhyvY ytogais at wnsyd dim gorcheptoL nac ym- chwil am ryw newydd-deb neillduol. Un a'i Wyneb i'r 'Anial.Dechi-eua yr awenydd hwn yn rhagorol, nid yw y rhan anol o'ibryddest mor darawiadol, ond y mae yn gwella drachefn tua'r diwedd. Ei destyn ef drwy yr oil o'i gerdd yw y Drugareddfa oedd yn y Taber- nael a'r Demi gynt, er nad yw yn anghofio sylwedd hono; ac ymddengya i mi mai ar hyn yn fwyaf uniongyrchol y dylid eanu, er nad yw pawb o'r ymgeiswyr wedi meddwl hyny. Diodoms."—Y mae hon eto yn gerdd ar y testynyn y wedd y dylid ei gymeryd. Disgyna y bardd ar ei destyn ar unwaith, a dilyna ef yn ffyddlon hyd y diwedd. Ceir yma doraeth o syniadau newyddion a tharawiadol, ao y mae y rhan amlaf o honynt yn bethau byw a newydd, er nad ydynt bob amser yn cael eu trefnu mor rheolaidd ag y gallesid o bosibl. "Un o Lwyth Lefl.Gan nad i ba Iwyth y perthyna, y mae hwn yn fardd gwirioneddol. Cana ar ei destyn o'r dechreu i'r diwedd, a gwel ynddo ryw bethau nad yw ei gydymgeiswyr wedi eu gweled. Er fod amryw o'r pryddestau yn dda, ao yn llawn gwerth y wobr, y mae hon ar gyfrif ei ffyddlondeb i'r testyn, priodoldeb ei chydmariaethau, a'r nerth bywyd sydd yn rhedeg drwyddi, yn rhagori ychydig ai bob un o'r lleill. Am hyny, yr ydym heb un betrusder yn dyfarnu y wobr 1 Un o Lwyth Lefi." MARWNAD GOFFADWRIAETHOL I'R DIWEDDAR JOB EDWARDS, (TONYPANDY. Derbyniasom bump o farwnadau, air rhai hyny yn gynyrchion gwell nag a geir yn gytfredin. Cfelon Ddrylliog."—Ceir ganddo luaws 0 syniadau tlisioo, ond nidyw -ei ddarlun o'r gwrthddrych yn un manwl, ac nid yw ei Gymraeg yn berffaith o gryn lawer, fel y dengya yr enghreifftiau canlynel: A'i gwr(!ùldiap.'n..j:Ymgo.fldio'l' tir." Enaid tiriondeb bu i'w blant." Bu neb heb waith fo'n Haw ei Dad." Hen Gyfaili Boreu Oes."—Er yn gyiaili boreu oes i'r gwrthddrych, ni sonia ain dano cyn ei ddyfodiad i Merthyr. Nid ydym yn deall ei drydedd linell: —" Ond mae dy fron di yn oeri mewn mynwent 10m." Bron pwy olyga? Sonia am belydrau disberod nis gellir cymer- adwyo yr ymadrodd hwn. Gyda hynyna ó: frychau, mae ganddo fawrnad ar- dderchog, ond nad yw ei ddarlun mor gyflawii a manwl ag eiddo rhai o'i gyd- ymgeiswyr. "Acenion Hiraeth." Y mae ef yn hwyrfrydig yn ei ddyfodiad at ei destyn. Treulia ddeg llinell cyn cyffwrdd ag ef, a threulia wyth ereill heb ddweyd ond ychydig arno; ac ynacana yn hwylus ac yn farddonol iawn, ond nid yw ei ddarlun ef ychwaith yn un manwl a chyflawn. "Mewn Hiraeth am Hen Wran."—Soma yr awenydd hwn am wynfaoedd o gysuron," gwynfydau ar eu pererindod, "rhamant mwynhad," "cyfrinachau blwyddi tlysach," ac yn y blaen-ym: adroddion y mae y bardd newydd wedi eu defnyddio mor ami nes mae'r wlad wedi alaru arnynt. Eto i gyd, y mae hwn yn fardd gwirioneddol, ac y mae ganddo farwnad o'r iawn ryw, er nad yw hoU nod- weddion y gwrthddrych yn cael yr 1111 amlygrwydd ganddo ag a gant gan J nesaf ddaw dan ein sylw. Wylofus ei Lafar."—Ysgrifena ei gerdd yn lied ddiofal, a defnyddia ambell ansodd- Y. )I air anmhriodol, megys cymundeb gwyn,, a ^henderfyniad glan." Nid yw ei ergydion mor rierthbl ag eiddo yr ym- g^i^ydd a nodasom ddiweddaf, ond y t yn rhoi mwy o arbenigrwydd i nodweddion ei wrthddrych. Mae yma bedwar o feirdd rhagorol ar y maes, Hen Gyfaill Boreu Oes," Acenion Hiraeth," Mewn Hiraeth am Hen Wron," ac Wylofus ei Lafar." Buasai yn dda genym wobrwyo pob un o honynt; ond teimlwn fod Mewn Hiraeth am Hen Wron" yn fwy barddonol, ao Wylofus ei Lafar yn rhoi i ni ddarlun mwy cyflawn, manwl a phenodol o'r gwrthddrych, ac nis gallwn wneyd dim sydd yn fwy teg na rhanu y wobr rhwng y ddait hyn, er mai o ychydig y rhagorant ar y ddau ereill. (I'w barhau).

Llantwit Vardre Eisteddfod

Advertising

Celebration of St. Patrick's…

Advertising