Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

27 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

DAN SYLW.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DAN SYLW. BLWYDD-DAL WYTIINOSOL! Dyfynir a ganlyn o'r "Dry eh:"—Mae lluaws o eiriau yn Gymraeg y dyddiau hyn yn profi nad crefftwyr a'u gwnacth. Yn mhlith y cyf- ryw y mae y gair "Blwydd-dal," am gyframad wytbnosol i ddyn neu ddynes. Mor ddigrif y gwnia son am "flwydd-dal wythnosol" i ddyn o 5s. < rANRHYDEDDU AMAETHWR CYMREIG. Y mae Mr William Owen, C.S., Penyrnynydd, Mon, wedi derbyn gwahoddiad i fod yn un o r beirniaid yn Arddangosfa Clwb Smithfield yn y Neuadd Amaethyddol Frenhmol, Llundam, y mis ncsaf. Efe, meddir, yw y beirniad cyntaf o Fon i fod yn yr arddangosfa hon. BEIRNIAID MEWN CWT. Clywais fod Pwyllgor Eisteddfod wedi pender- fynu rhoddi y beirniad cerddorol mewn cwt pren, rhag iddynt weled a deall pa gor fydd yn. canu. Eithaf peth a beirniad anonest; ond gwarthrudd a diffyg ymddiried melldigedig ydyw a rhai gonest. Feallai y clywir cyn bo hir fod yn rhaid i'r beirdd a'r llenorion anfon eu cyfan- Boddiadau yn "typewritten" rhag i'r beirniaid ad- nabod y llawysgrif, a'u hanfon oddicartref i'w, postio rbag iddynt ddeall o ba le y byddant yn dyfod. Mae dull yr oes yn rhyfedd iawn. J » TERFYN STREIC Y COTWM. Dvdd Gwener, terfynwyd helynt gweithwyr totwm sir Lancaster, drwy i'r meistriaid dderbyn cynyg y dynion i oedi gostwng y cyflogau bump y cant yn mis Ionawr hyd mis Mawrth. Y mae y melinoedd wedi bod yn gauedig am saith wyth- nos, ao amcangvfrifid fod gweithwyr wedi colli 980,000p mewp cyflogau, tra y mae cronfeydd eu hundebau llafur yn llai o tua 200,000 o bunau. Heblaw hyn yr oedd 500 o felinoedd wedi eu tatal, yn golygu fod haner can' miliwn o gyfalaf y meistriaid yn ddiffrwyth. Disgwylir y bydd yr holl felinoedd yn ail ddechreu gweithio yr :wythoos hon. < rATED LLYTHYRAU. Cwestiwn sy'n poeni llawer o ddynion eyhoedd- us ydyw pwnc ateb llythyrau. Da gan rai, fe- allai, fydd cael gair o gyngor gan wr cyfarwydd. Dyma ddywed 0. M. Edwards yn y "Cymru" am y mis hwn:—"Nid wyf yn edrych ar beidio ateb llythyr yn beth goddefol mewn boneddwr; y mae yr un mor anfoesgar a pheidio cymeryd' sylw o rywun fo'n gofyn cwestiwn. Ond y mae eithriadau. Pe gofynech gwestiwn yn gofyn ateb hirfaitb, i wr yn rhedeg i ddal ei dren, ni ddis- gwyliech ond ysgydwad llaw. Ac os anfonwch lythyr at un y gwyddoch ei fod yn brysur iawn, cymerwch yn ganiataol yr atebai chwi pe medrai. "Anatnl iawn y mae neb yn gwneud tro anfoesgar yn fwriadol ag arall." i X COR DIRWESTOL. Yn ol y "Times," New York, am yr 8fed Cyfisol, pan gyrhaeddodd Cor Meibion Mountain Ash, dan arweiniad T. Glyndwr Richards, y Ty Gwyn, y dydd o'r blaen, ni wyddai y gwein- yddion fod y cor yn ddirwestwyr, ond gwyddant yn awr. Yr oedd y cor newydd orphen y rhag- len o flaen yr Arlywydd, Mrs Roosevelt, a nifer 0 wahoddedigion urddasol, pan yr ymddangosodd gweinydd gyda gwydriad o win i'r cantor- ion, ond gwrthododd y cyntaf gyda diolch; yr sil yr an modd; y trydydd, y pedwerydd, "ac felly yn y blaen." Agorwyd llygad y gweinydd ac enciliodd yn yswi], fel un yn ymwybodol o fod tredi camgynieryd. Cymerodd yr amgylchiad hynod le yn yr East Room. O'r herwydd hyn gelw y "Times" y cor yn gymdeithas ddirwestol. Pa ddrwg fyddai galw y cor yn Gor Meibion Dirwestol Mountain Ash? MASNACn LECHI Y TALAETIIAU. Yr oedd y llechi a godwyd ac a werthwyd yn y Talaethau Unedig yn 1907 yn worth 6,019,220 o, ddoleri, swm mwy na'r flwyddyn flaenorol o agos 1 bedwar can' mil o ddoleri. Yr oedd cynyrch gwahanol Dalaethau yn 1906 a 1907 fel y canlyn 1906 1907. 'Arkansas 5,000 8,500 California 80,000 60,000 Georgia 5,000 Maine 238,681 236,606 Maryland 130,969 116,060 New Jersey. 8,000 New York 72,360 83,4851 J Pennsylvania 3,522,149 3,885,650 [Vermont I 1,411,330 1,477,259 J ..Virginia 1. 172,875 173,670 Mae yr uchod yn golygu cynyrch y meiinau yn gystal a llechi toi. Yn 1907 cynyrchwyd o Jechi toi 1,277,554 o ysgwariau gwerth 4,817,769 b ddoleri. Mae prisiau llechi toi yn amrywio o B.75 i 10 ddolar y scwar yn eu maint, eu hansawddi .'u lliw, llechi cochion New York yn dwyn y prisiau uchaf.

Nodion o Glip y Gop.

Llith Die Jone^.

MARWOLAETH GWR IIYGLOD.

!RHAGOLWG AM HEDDWCH.

MASNACH Y WLAD.

Y DIWEDDAR MR R. D. DARBISHIRE.

--Byd y Bardd.

DOLWYDDELEN.

PEN-VIACHNO A'R CWM.

TYSTEBU YN NIIREFFYNON.

MARW DRAMODYDD ENWOG.

BLAENAU FFESTINIOG.

CYNGHERDDAU AR Y SUL.

AIL GYNEU SEREN.

I-HAIT YN LERPWL.

COLWYN BAY WOMEN'S LIBERAL…

GOR-YRU YN GLAN CONWY.

UNO RHEILFFYRDD CYMREIG.

-------66lwlwgo "HUMORS OF…

HOUSE BREAKIN G AT LLANRWST…

[No title]

Advertising

COSBI DYHIRYN.

PEN BLWYDD Y BRENHIN.

BLWYDD DAI. YR BEN.