Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

27 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

DAN SYLW.

Nodion o Glip y Gop.

Llith Die Jone^.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llith Die Jone^. t.ftI"f'I HELYNTION Y JUNCTION, I MAER CONWY. BOSIALYDDIAETH YN Y CAPELI. Llongyfarchiadau calonog i fy nghyfaill, Doctor Morgan, ar ei benodiad yn Faor Conwy am y fiwyddyn ddyfodol. Dyma y drydedd waith i'r Doctor fod yn Faer yr hen dref. Yn y flwydd- yn 1898 etholwyd ef i'r swydd bwysig y tro cyn- taf, a chyflawnodd ei ddyledswyddau mor fodd- haol nes all etholwyd ef i'r swydd y fhvyddyrv ganlynol. Heddyw wele fo yn gwisgo y gob goch am y drydedd waith. STORI PHEASANT CONWY. Tra yn Nghonwy. y dydd o r blaen, clywaia stori ddoniol am dri o'r trigolion. Mae un ya ffond iawn o hela, yn enwedig saethu pheasants; ac wfidi cael caniatad i saethu dros dir ffarmwr. mi fydd cyfaill iddo yn arfer myn d hefo fo i saethu ambell dro. Pan yn myned am dro y diwrnod o'r blaen tybiodd un o'r tri weled pheasant mewn cae, a dyna fo yn myn d yn syth i nol ei ffrynd. Daeth yntau hefo ei wn, a dyna lie roedd pheasant i'w gweled yn blaen ar ben polyn. Dyna y cyfaill yn codi ei wn, ac yn rhoi ergyd, ond er iddo saethu y pheasant ddwywaith symudodd yr adoryn ddim modfedd o ben vj polyn. Pan aeth y dau at y polyn cawsant mai nen pheasant wodi ei stwffio hefo manus oedd yr aderyn, a dyna He roedd y ffrynd oedd wedi rhwymo y deryn ar bon y polyn yn edrych trivyl ffenestr ei dy ac yn chwerthin yn braf am ben y ddau he]iwr. CYMRAEG Y JUNCTION. Tra yn ymweled a chyfaill yn Uandudno Junction, y dydd o'r blaen, digwyddais daro ar gwmni reit ddifyr, a chawsom ymdrafodaeth ar yr iaith Gymracg tua'r Junction. Dyma i chi dipyn o'r ymdrafodaeth gvmerodd le:- Die Jones: Siaradwch Gymracg neu Saesncg, 'mhobol i. Y Grocer: Pobpcth yn "all serene," syr. Die Jones: Beth ydych yn ei feddwl wrth "all serene?" Clywais i erioecl mo'r gair. Y Grocer: Tydach chi ddim wedi iwsio hefo iaith y North. Faswn i yn meddwl mai un o'r South ydach chi. Die Jones: Os siaradwch chi Gymraeg mi fedraf eich deall chi. Y Grocer: Mewn pwy "business" ydach chi, syr? Die Jones: Beth yw "business?" Nid gair Cymraeg mo hono. Y Grocer: Rhyw "traveller" ydach chi mae'n debyg, a mi leiciwn wybod mewn beth ydachi chi yn "dealio," syr, achos mi rydw i yn cadw shop. Y Butcher (dan chwerthin): Wel, wir, mae fy nghyfaill yn gwneud "mistakes" o hyd. Die Jones: Betb ydi "mistakes?" Y Grocer Beth by nap: ydach chi, syr, toes gen- ych chi ddim hawl i'n "insultio" ni trwy wneud "sport" a deyd bod ni yn siarad yr iaith yn "wrong." Y Butcher: Peidiwch a dangos eich "temper." Die Jones: Beth yw ystyr y gair "temper?" Y Grocer: Mae'n "all serene." Die Jones: Wn i ddim ain beth rydach chi yn siarad, gyfeillion. Y Grocer: Tydw i erioed wedi byw allan o'r "county" yma, a dyna yr iaith ryda ni yn siarad yn y "partia" yma. Die Jones: Wyddwn i ddim o'r blaen mai sir Seisnig oedd sir Gacrnarfon. Y Grocer: Mae hi yn "all serene." Die Jones: Wei. mi rydw i wedi cael defnydd llith i'r "Pioneer" rwan. Y Grocer: Mi fydda i yn darllen eich llithoedd bob wythnos, a mi fydd rcit dda gen i ddarllen hanes eich ymweliad a'r Junction yr wythnos nesaf, ond i chi beidio rhoi fy enw i mewn. Die Jones Dyspwch chi Gymracg cyn dcrf fi yma eto, neu mi fydda i yn sicr o roi eich enw chi ac eraill yn un o fy llithoedd. TAFOD AUR Y JUNCTION. Mae pobol y Junction wedi bod yn ymladd i gael gas i'r Junction am amser rwan. Dydd Gwener anfonasant dri i ddweyd eu cwyn wrth gyfarfod o Gynghor Gwledig Conwy, sef Mistar Johnson Mistar Gray, a Mistar Irlam. Mistar Irlam oed dwedi ei ddewi s yn brif siarad- wr, a nhnn gododd o ar ei draed i siarad daugosodd fod ganddo ddigon o blwc. Mi drei- odd dau godi i siarad ar draws Mistar Irlam, ond mi fu raid iddynt cistedd i lawr hyd nes gorphen- odd Mistar Irlam ei araeth. Mi roedd yna olwg benderfvnol iawn ar y .dyn ieuanc o'r Junction, a barn amryw ydi fod o wedi gwneud enw iddo ei hun, ac y bydd o yn cael ei adnabod yn y dv- fodol fel tafud aur v Junction. Mi siaradodd Mistar Johnson a Mistar Gray ychydig eiriau i'r pwrpas. Mi roedd y ddirprwyaeth yn ddigon cy brawf fod Cymdeithas Trethdalwyr y Junction yn codi dynion i gymeryd dvddordeb yn nyfodol yr ardal. Pob llwyddiant iddynt. Y TYMHOR CANU. Dyma dymhor y corau. Cyfarfodydd canu yn. cael eu cynal bron yn mhob trof a phentre yn ein gwlad. Mae mynvddoedd Cymru y misoedd hyn yn adseinio hefo cerudoriaeth. Mae rhai corau yn prysui; barotoi gogyfer a'r eisteddfodau y Nad- olig; eraill yn dysgu rhyw oratorio i roi concert eu hunain heb fyned i gystadleuaeth. Yn Pen- maenmawr, tra mae y cor meibion yn parotoi at "Groesi'r Anial," mae y cor cymysg yn canu, "C-A,s, fihvr, cwsg." Yn Conwy mae Mistar J. P. Griffiths yn addysgu y cantorion yn hanes Paul. Mi ryda ni yn Cohvvn Bay yma yn treio cytuno a'n gilydd pwy sydd i arwain cor mawr yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae yna ymgaia tcihvng yn cael ei wncud tua Glan Conwy i godi cor midebol teilwng o'r ardnl. Hefyd tua'r Junction mae yna bwvllgor yn ymdreehu codi cor undebol. Cewch vybod eto pa fodd y daw'n mlaen. PREGETHVTYR A SOSIALIAETH. Os yw yr etholiadau bwrdeisiol diweddar trwy Loegr a Chymru yn proft unrhyw beth, mae nhw yn profi yn eglur fod Sosialiaeth yn colli y dydd. Mown amryw o lefvdd mae nhw wedi cael eu euro yn ofnatsan, a dim ond mewn ychydig iawn 0 leoedd mae nhw wedi medru dal v ddvs.Tl Yn wastad. ESGOB LLANELWY. Yr wythnos diweddaf cyrhaeddodd Esgob Llanelwy ei driusrain mlwydd. Fe'i ganwyd o vn. Ficerdy Llanymawddwy. Bu ei dad, y Parch William Edwards, yn ficer Llangollen am flynytid- oedd. Er yr hynaf o'r Esgobion o ran cysegriad. mae o yn ieuengaeh mewn oedran nag Esgobion Bangor a Llandaff. Mae. son y dyddiau hyn mai'r Esgob Edwards fydd Archesgob nesaf Caerefrog (York). Yn sicr mi fyddai yn an- hawdd ffemdio neb mwy cymhwys i'r swydd uchel. Ond ar yr un pryd mi fyddai yn ddrwg iawn gan yr Eglv.ys yn Nghyrnru ei golli, ao yn enwedig DIC JONES.

MARWOLAETH GWR IIYGLOD.

!RHAGOLWG AM HEDDWCH.

MASNACH Y WLAD.

Y DIWEDDAR MR R. D. DARBISHIRE.

--Byd y Bardd.

DOLWYDDELEN.

PEN-VIACHNO A'R CWM.

TYSTEBU YN NIIREFFYNON.

MARW DRAMODYDD ENWOG.

BLAENAU FFESTINIOG.

CYNGHERDDAU AR Y SUL.

AIL GYNEU SEREN.

I-HAIT YN LERPWL.

COLWYN BAY WOMEN'S LIBERAL…

GOR-YRU YN GLAN CONWY.

UNO RHEILFFYRDD CYMREIG.

-------66lwlwgo "HUMORS OF…

HOUSE BREAKIN G AT LLANRWST…

[No title]

Advertising

COSBI DYHIRYN.

PEN BLWYDD Y BRENHIN.

BLWYDD DAI. YR BEN.