Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

TY Y CYFFREDIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TY Y CYFFREDIN. DYDD MEECHER, Chweftor 2(lfed.-Cymrrier- odd y Llefarydd y gadair am ddau o'r gloch. Y DDADL AR YR ANERCHIAD. Agorcdd Mr. Tully y ddadl ar y gwelliant oedd Mr, Whittaker wedi ei gynnyg ar yr Anorchiad, yn galw ar y Llywodraeth i ddwyn mesur i mewn yn ymwneyd mewn modd effeithiol &'r cwestiwn trwyddedol. Cefnogwyd y gwelliant gan Mr. T. W. Russell, yr hwn a ofynodd am 'ddeddfwriaeth gymmedrol a resymol.' Mr. Caine a gyfeiriodd fod y ddwy adran o'r Ddirprwyaeth Drwyddedol yn unfrydol yn eu barnau ar ddim llai na 33 o argymmhelliadau, a bod yr oil o honynt o'r pwysigrwydd mwyaf. Siaradodd Syr J. Kennaway, ac aelcdau Undeb- ol eraill, yn ffafr y gwelliant. Mr. J. Ritchie a gydnabyddodd fawredd y drwg oedd yn cael ei aohosi gan feddwdod, a dy. wedodd fod y ddeddfwriaeth ddirwestol a gynnyg. iwyd gan y weinyddiaeth Geidwadol yn 1888 yn myned iawer yn mhellach nag hyd yn oed argym- mhelliadau y ddirprwyaeth. Canlyniad gwrthod- iad y diwygwyr dirwestol o'r cynnygion hyn ydoedd, fod miliynau o arian wedi cael eu gadael yn mhocedau y rhai oedd yn da) trwyddedau, y rhai a allesid eu defnyddio er gwneyd i ffwrdd a r trwyddedau. Gwadai ef y gellid disgrifio y mesur oedd wedi cael ei addawyn Araeth y Brenin fel Mesur bwrw allan;' a nododd yobyd. ig or drygau & pha rai y cyrinygiai ymwneyd. Syr H. Campbell-Bannerman a wahoddodd y Llywodraeth i eangu eu mesur, fel ag i g/nnwys y diwygiadau hyny y dadleuid o blaid eu cael gan y Ddirprwyaeth Frenhinol, ac aelodau y Ty hwnw. Wedi i'r Milwriad Pilkington, Mr. Bell, Mr. J. W. Wikon, ac eraill, gymmeryd rhan yn y ddadl, ymranodd y Tf. Dros welliant Mr. Whittaker 146 Yn erbyn 273 Mwyafrif yn erbyn 127 Cododd y Ty am chwarter i chwech. -0

» TY YR ARGLWYDDI.

TY Y CYFFREDIN,

TY YR ARGLWYDDI.

TY Y CYFFREDIN.

Y RHYFEL YN NEHEC BARTH AFFRICA.

CYNGHOR DOSBARTH EDEYRNION.