Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
13 erthygl ar y dudalen hon
Y GOGLEDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y GOGLEDD. Graddiodd naw o fechgyn Ysgol Sirol Gwrec- sam yn Mhrifysgol Llundaln; yr oedd un yn bummed allan o 3,000 o ymgeiswyr. Y mae y Parch. Dr. A. J. Parry, Rhyl, wedi myned drosodd i New York; a bwr'.oda dreulio rbyw bedwar mis yn yr Unol Dalaethau. Bydd Cymdeitbasfa Chwarterol Methodistiaid Calfinaidd Gogledd Cymru yn cael ei chynnal yn NghaernarfoD, ar y 26ain, 27ain, a'r_28iin o'r mis hwn. Hysbysir fod Cor Boneddigesau y Penrhyn, yr hwn sydd ar daith ya awr ar ran chwarelwyr Bethesda, wedi easglu droa 3 OOOP. yn Neheudir Cymrn. Prynwyd dau d9 eaug yn Upper Bangor gan awdurdodau Coieg Annibynol, Bala-Bangor, a threfnir i wneyd coleg o un o honynt a thy i'r Prifathraw o'r llall. Pasiodd Mr. R. J. Roberts, mab y Parch. David Roberts, Hen Gapel, ei arhoHad terfynol yn y Coleg Meddygol yn Glasgow, yn Ilwyddiannus yr wythnoa ddiweddaf. Y mae Mr. Edward Davies Bryan, a Cairo, yr Aipht, yn bresennol ar ymweliad a Chymru, ao yn aros gyda'i frawd, Mr. Robert Bryan, yn March- wiel, ger Gwrecsam. Dydd Sadwrn bu farw Mr. W. R. Owen, Porth madog, yn 44ain mlwydd oed. Mab ydoadd i'r cerddor enwog William Owen; a bu am flynydd- oedd yn lo-fasnachydd a threthgasglydd. Dydd Iau aeth o 1,300 i 1,400 o aelodau Yagol- ion Sabbothol yr Ymneillduwyr yn Ngbaernarfon, gyda threnau arbenig i Llanfairfecban a Llan- dudno, er mwynhaa eu pleserdaith flynyddol. Y mae y Parch. John Thomas (Eifionydd), Caernarfon, Cofiadur yr Orsedd, a golygydd y Geninen, wedi cael ei gyfarwyddo gan ei feddyg i gymmeryd mordaith faith, er mwyn ei iechyd. Y mae priodaa wedi ei threfnu i gymmeryd lIe yn gynnsr yn hydref rbwng Mr. Frederick John Varley, Indian Ciml Service, Myfanwy, merch ieuengaf y Canon a Mrs. Walter Thomas, Caer- gybi. Yr wythnoa ddiweddaf bu farw Mrs. Parry, gweddw y diweddar Baroh. Dr. Griffith Parry, Carno, yn Llys Eiddon, Llanrug, ger Caernarfon, oartref ei mab, y Parch. Robert Parry, gweinidog eglwys y Methodistiaid Caltinaidd yn Llanrag. Cynnelir ysgol haf duwinyddion Dinbych a Fflint Awst 26ain a'r 27ain yn Rhuthyn. Bydd yr ysgol yn hollol anenwadcl. Yr Athraw Dr. Henry Jones, Glasgow, fydd y darlithydd. 'Crefydd a meddwl diweddar fydd y pwngc. Dydd Iau cynnaliwyd pedwerydd arddangosiad ar ddeg ar gwn a dofednod yn Llanberis. Mr. G W. Duff Asaheton Smith oedd y llywydd eleni Nid oedd y cynnulliad mor llioaog ag y gallesid disgwyl, gan fod attyniadau eraill yr un diwrnod. Derbyniodd ysgrifenyddion Eisteddfod Gen- edlaethol Bangor lythyr oddi wrth drafnoddwr Groeg yn Llundain, yn gorchymyn iddo hys- bysu pwyllgor gweithiol yr eisteddfod fod y brenin yn barod i fod yn un o noddwyr yr eis teddfod. Y mae sY ar led fod Caernarfon yn myned i ofyn am Eisteddfod 1904. Yn y flwydyn 1894 y bu yno o'r blaen-wyth mlynedd yn ol. A daw enwau y Mri. M. T. Morris, R. R. Stythe, Dan Rhya, Ap Ellis, ac eraill, i g6f ar unwaith fel eia teddfodwyr pybyr a medrua. LIANLLYFNI -Cyfarfoi Pregethu —Cynnaliodd y Methodistiail Calfinaidd yn y lie hwn eu cytar. fod blynyddol Gorphenaf 26ain a'r 27ain, pryd y pregethwyd gan y Parchn T. M. Jones, Colwyn Bay a John Hughes, Liverpool. Daeth oynnull- iadau lliosog ynghyd, a chafwyd cyfarfod da. Ba y Mil. Von Douop, arolygydd Bwrdd Mas. nach, yn gwneyd archwiliad ar Dramffordd Pen y Gogarth, dydd Mercher diweddaf. Dywedir fod yr arolygydd wedi cael ei foddloni yn hollol yn y ffordd, er y gall efe argymmhell rai darpariaethau dibwys. Disgwylir derbyn tystysgrif Bwrdd Masnach yn mhen ychydig ddyddiau.S Yn ngwyneb y teimlad cryf sydd yn ffynu yn N ghaernarfon am gael yr Eisteddfod Genedlaeth- 01 yn 1904 i'r dref hono, y mae Mr. Issard Davies wedi rhoddi rhybudd i gynnyg, mewn cyfarfod o'r Cynghor Trefol, dydd Mawrth, fod cais yn cael ei wneyd at Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol am i eisteddfod 1901 gael ei obynnal yn y dref hono. Mewn cyfarfod o Gynghor Plwyf Llanasa, ddydd Mawrth, oyfe;riodd y cadeirydd (Mr. W. Thomas) at yr aogen am rhyw gynllun i ddarparu cynnorthwy i'r rhai oedd yn arddangos fod gan ddynt dalent gerddorol, ond nad oeddynt yn fedd. iannol ar y ncoddion i sicrhau y cyfryw ad iyag. Penderfynwyd gwneyd caia at y Cynghor Sirol am iddynt sefydlu yagoloriaeth gerddorol yn sir Fflint. Hysbysir fod y Parch. David Edwards, :Vake Crystal, o'r Unol Dalaethau, newydd gyrhaedd i'r wlad hon ar ymweliad. Y mae Mr. Edwards, yr hwn sydd yn ysgrifenydd Cymdeithas Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig yn America, yn fab i'r diweddar Mr. William Edwards, Caerhnn; ac yn ystod ei ymweliad a'r Dywysogaeth bydd iddo aros yn Glasinfryn, Bangor. Yn llya yr ynadon yn Connah's Quay, ddydd ho, gwysiwyd James Thomas Prince, llywodraeth. wr gwaith priddfeini yn Connah's Quay, yr hwn oedd yn eiddo i'w dad—Mr. James Prince-am achosi i geffyl gael ei weithio tra nad oadd mewn cyflwr cyfaddas i hyny, a chyhuddwyd Peter Dodd o weithio y ceffyl. Dirwywyd Dodd i Is a Prince i 10s a'r ooatau a gosodwyd ar y diwedd- af i dalufees y cyfreithiwr a'r meddyg anifeiliaid, Dydd Ian bu digwyddiad dyddorol yn Chwareli Llanaelhaiarn. Yr oedd twnel 66 o droedfeddi o hyd wedi ei wneyd i'r graig, gyda changen-dwnel o 28 troedfedd a 43 troedfedd. Yn y lleoedd hyn yr oedd dros ddeg tunell o bylor wedi ei osod. Taniwyd y pylor o ddeutu pedwar o'r gloch pryd- nawn dydd Iau, gyda'r trydan, ac yr oedd effaith y ffrwydriad yr oil a ellid disgwyl. Cwympodd o ddeutu 200,000 o dunelli o'r graig, ac yn chwanpg 01 at hyn fe ryddhawyd o ddeutn 50,000 o dynelii. Yr wythnos ddiweddaf yr agorwyd y Clwb Rhyddfrydig newydd yn Nghaergybi. Y mae yr ystafelloedd yn gyfleus iawn, ac yn nghanol y dref, ac wedi eu dodrefnu yn hardd, Yngl'o i'r Clwb y mae llyfrgell ysblenydd, ac y mae y Gymdeith- as Ryddfrydig Genedlaetbol wedi ei anrhega & llyfrau gwerthfawr. Cerir y clwb yn mlaen ar linellaa dirwestol hollol, ac nid oes neb o dan effeithiau y ddyod i gael myned i mewn iddo. Y mae dros ddau oant wedi ymaelodi ynddo yn barod, ac yn eu myag y mae rhal o brif weinidogion y dref. Ba y Mri. W. Dew a'i Fab, Bangor, yn ej ntiol arwertbiant ar eiddo va Llassrefni, ddydd lau. Gwerthwyd fferm Melin yr Eagob, yn mblwvf Llandyfrydig, ac yn.cyunwya 83 o erwau, i Mr. William Hughes. y tenant, am 3 209p. Cafodd fferm Glanygors, yn cynnwys dros 169 o erwau, ei gwerthu i Mr. Charles Pierce, T9 Croes, Carmel, am 4.000p. Ni Iwyddwyd i werthu darn o dir at adeiladu yn Llangefni; y swm uchaf a gynnyg iwyd am dano ydoedd 550p. Yr un diwrnod gwerthodd Mr. H. Parry Jones, arwerthwr, Caer. gybi, fferm Cefn Dn Mawr i Mr. William Thomas, Liverpool, am 2,035p. a Glandwr House, y aiop a'r ystablau, am 960p. i Mr. John Davies, Glan- dwr. Yn mron ar derfyn gweithrediadau Bwrdd y Gwarcheidwaid, yn Nghorwen, dydd Gwener, syrthiodd Dr. D. R. Jones, y cadeirydd, yn sydyn. Pan anigylchynwyd ef gan yr aelodau, gwelent ei fod yn anymwyhodol, Gwyeiwyd cynnorthwy meddygol, a gwelwyd ei fod weli cael ymosodiad o'r piflys. Cariwyd ef i'w gartref ger llaw, a gohlr. iwyd y cyfarfod.
. Y DEHEU
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y DEHEU Gwneir trefniadau yn Nghaerdydd i ddathlu y coroniad ddydd Sadwrn nesaf. Y mae y Parchn. D. G. Mcrris, Pentre; T. P. Thomas, Gyfeillion a James Davies, Cwmparc, oddi cartref, am eu bod yn wael eu hiechyd, Pecderfynodd Corphoraeth Hwlffordd, dydd Llan, gynnal y farchnad yr wytbnos hon ddydd Gwener yn lie ddydd Sadwrn, ar gyfrif y coron- iad. Derbyniodd Mr. Isaac Edwards, yr arweinydd cerddorol adnabyddus o Abertawe, hysbysrwydd o Corfu fod ei fab, Abraham Isaac Edwards, wedi boddi. Y mae y Parch. Ifor Jenkins, Rbydcymmerau, sir Gaerfyrddin, wedi cydsynio & galwad a dder- byniodd oddi wrth eglwys Jerusalem (M.C.), Ystalyfera. C&fodd y Parch. E. Edmunds, Abertawe, ei bennodi yn genhadwr gan Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr yn mysg yr eglwysi Cymreig yn y Dywysogaeth. Mewn cyfarfod o Fwrdd Ysgol Llanelli, dydd Mawrtb, penderfynwyd gwneyd cais am fenthyca y swm o l,100p. tuag at gyfnewid a dodrefnu Ysgol y Bryn. Hysbysir fod Mr. M. Richards, o Goleg Abfr honrldu, wedi pendcrfynu cydsynio & galwad a dderbyniodd o eglwysi yr Annibynwyr Saesnig yn Paincaatle, Rhoagoch, sir Faesyfed. Bwriedir codi capelydd newyddion i'r Method- istiaid Calfinaidd yn Cwmrhydyceirw, Brynllyn- fell ac Abercrave. Y mae y planiau wedi derbyn oymmeradwyaeth cyfarfod misol Gorllewin Mor- ganwg. Penderfynwyd, mewn cyfarfod o bwyllgor Gwallgofdy Caerdydd, dydd Mawrth, roddi hys. bysiad allan am clerk of works, mewn cvssylltiad A'r adeilad hwnw, am gyflog o 250p. yn y flwyddyn. Y mae y Parch. J. R. Salmon, Llanybri, wedi atteb yn gadarnhaol yr alwad unfrydol a dder- byniodd oddi wrth eglwys Nazireth, Pontlottyn. Bwriada ddechreu ar el weinidogaeth ddechreu mis Medi. Trefnir i adeiladu capel newydd i'r Annibynwyr yn Penygarn, ger Aberystwyth, er cyfarfod & chyfleuadra y gynnulleidfa aydd yn addoli yn awr yn Clarach, Penygarn, gan fod y lie hwnw yn llawer mwy canolog na Clarach. Y mae y contract i godi cofadail ar fedd Willie L'ewelyn, y bacbgen a gollwyd yn Caer- morsen, wedi cael ei osod i Mr. J. T. Pierce, Cefn Disgwylir i'r gofadail gael ei chwblhau yn mhcn ychydig wytbnosau. Anrhegwyd yr Henadur W. Saunders, nn o gyn-faerod Caerdydd, &g anerchiad gan Gym- deitbas Ddirwestol Caerdydd ac Undeb Blod- an'r Oea, fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth hir- faith i'r symmudiad dirwestol. Yr wythnos ddiweddaf dathlwyd dyfodiad etifedd Llanofer i'w oed. Ei enw ydyw Elidyr John Bernard Herbert. Mab ydyw i'r Milwriad IVJr Herbert Cymro i'r earn a gorwyr i Gwenynen Gwent,' o barchus goffa. Rhoddodd eglwys yr Annibynwyr Saesnig yn Barry Port, sir Gaerfyi ddin, alwad i'r Parch. D. W. Evans, diweddar o Reading, ac y mae yntau wedi cydsynio a'r alwad hono. Bwriada ddecbreu ar ei weinidogaeth yno y S ibbath cyntaf yn mis Medi. Y mae cynnrychiolwyr y perchenogion glofeydd yn Neheudir Cymra wedi cyttuno i gyfarfod cynnrychiolwyr y dynion ar y 12fed o Awst, er cymmeryd o dan ystyriaeth gynnygion y gweith- wyr i gael cyttundeb newydd yn lie y llithr- raddfa. Cyflwynodd aelodau Cynghor Dosbarth Dinesig Pantteg ddarlun mawr i Mr. A. A. Williams, o hono ei hun, yn gydnabyddiaeth o'i wasanaeth fel cadeirydd yr hen Fwrdd Lleol a'r Cynghor am y 40ain mlynedd diweddaf. Dewiswyd cae Rbydgoch yn gladdfa gyhoeddus Pontardnlais. Awdnrdododd cyf. arfod plwyfol y cynghor plwyf i wneyd y rais at Fwrdd y Llywodraeth Leol a'r Cynghor Sirol, am ganiatSd i fenthyca y swm o 500p. er prynu y maes. Cynnaliwyd arddangoafa amaethyddol sir A her teifi yn Aberteifi, dydd Mercher, o dan lywydd- iaeth y Milwriad W. Picton Evana. Cafwyd arddangoafadda. Yr unig gwyn a glywid ydoedd ei bod yn cael ei chynnal ryw bythefnos yn rhy fuan i atteb i gyfleusdra y ffermwyr. Yn mrawdlys Morganwg, dydd Mercher, caed Richard Phelps, glowr ieuangc o Mountain Aeh, yn euog o wneyd ymgaisi saethu yr Heddgeidwad Bolton tra yn ceisio gwneyd ymgais l ddiangc o afaelion y swyddog; a de-lfrydodd y Barnwr Ridley ef i dair blynedd o benyd wasanaeth. Codwyd cofgolofn yn ddiweddar i'r Tywysog Llewelyn yn Nghefnybedd, ger Buallt, mewn cae agored ger y ftordd fawr rhwng Buallt, Garth, a Llanafan fawr. Y mae hefyd yn ymyl Cwm. Llewelyn Cottage a Ffynnon Llewelyn, a fynychir gan gynnifer o ymwelwyr â. Buallt, Llandrindod, Llangamarch, a Llanwrtyd. Pennodwyd Mr. William Williams, Cribyndy, Ynyeybwl, yn ddiweddar yn Is-oruchwyliwr ar ystâd IRobert Crawshay, Yaw., fel olynydd i'r diweddar Mr.-Morgan Davies, Manheulog, Llan- wyno. Y mae Mr. Williams er's blynyddoedd yn aelod parchus a phoblogiidd er's blynyddau o Fwrdd Gwarcheidwaid Undeb Pontypridd. Dygwyd dau fachgen. o'r enwau Albert Francis, 17eg mlwydd oed, a Richard Hayea, 16eg mlwydd oed, o flaen yr ynadon yn Abertawe, ar y cy- huddiad o ladrata plwm, gwerth 12s o weithiau Cwmfelin. Anfonwyd Hayes, yr hwn oedd wedi cael. ei gospi chwech o weithiau o'r blaen, i garchar am fis a Francis, yr hwn a gospwyd o'r blaen am iuohio caryg, i garchar am bythefnos. Prydnawn dydd Llun, Gorphenaf 29ain, unwyd mewn glin briodas Mr. Daniel James, S ar Corner, Bermondsey, a Miss Elizabeth Jones, Llanddewi, Aberarth, Ceredigion. Yr oedd yn bresennol ddau frawd y priodfab, sef Mri. Tim a J. P. James, ac hefyd Miss Michael, cyfnither i'r priodfab, a Miss Maggie Jones, Bermondsey New Road, cyfnither i'r briodferch Hir cei iddynt, a dedwyddyd.
| LLANRHAIADR-YN-MOCHNANT.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANRHAIADR-YN-MOCHNANT. Lhvyddiant Addysgawl-Da genvm ddeall fod Miss Florrie Jones, merch ieuengaf Mr. D. Jrnes, Manchester House, wedi ennill ysgoloriaeth gweith 60p.; sef, 2Op. y tiwydeyn am dair blynedd, mewn cyssylltiad a Choiph Llywiawdwyr sir Ddinbych. Llongyfarchwn hi yn gynnes, a dy. munwn bob llwyddiant iddi yn y dyfodol.
ANGHYDWELEDIAD CHWAREL BETHESDA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ANGHYDWELEDIAD CHWAREL BETHESDA. YN ei adroddiad blynyddol i Gynghrair Cyffredinol Undebau Masnachol, a gyhoedd- wyd dydd Iau diweddaf, cyfeiriai Mr. Isaac Mitchell, yr ysgrifenydd, yn fyr at yr Anghyd- welediad yn Chwarel Bethesda. Dywed:- Yr ydym yn gyffredin wedi dilyn y polisi a osodwyd i lawr y flwyddyn ddiweddaf, a pha un yr ydych wedi eu cymmeradwyo yn y cyfarfod blynyddol diweddaf, o dynu i lawr anghydwelediadau i gylch mor fychan ag yr oedd yn bossibl, ac i wneyd cais am gyttundeb He yr oedd hyny yn bossibl. Cymmerwyd o dan ystyriaeth gant ac ugsin o geisiadau am gynnorthwy, ac yr oedd y rhan fwyaf o hon- ynt wedi cael eu cymmeradwyo. O'r rhai hyn nid oes angen gwneyd sylw ond ar ychydig. Un o'r rhai pwysicaf ydoedd yr un yn Chwareli y Penrhyn, ac a pha un yr ydych oil yn gydna- byddus. Gwnaed amryw ymdrechion yn ystod y flwyddyn geuym ni, ac eraill, i ddwyn y mater i derfyniad; ond ni Iwyddwyd yn hyny. Y mae y pwyllgor, gan hyny, wedi cario allan y dymuniad a amlygwyd yn y cyfarfod diweddaf, fod cynnorthwy arianol yn cael ei roddi hyd y cyfarfod nesaf. Bydd i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal yn mhen ychydig ddyddiau, pan y bydd i'r mater, y mae'n ddïau, gael ei ddwyn ger eich bron chwi, er derbyn cyfarwyddiadau pellach.'
R H Y L.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
R H Y L. Gwerthu Dïod i Fedduon.-Treuliodd ynadon Rhyl gryn amser dydd Llun i wrandaw cyhuddiad o werthu diod i ddynion meddw, a ddygid gan yr heddgeidwaid yn erbyn Robert Jones, White Horse Hotel, Rhyl. Cyhuddid ef hefyd o ganiatau meddwdod yn ei d £ Ymddangosai Mr; J Piercc Lewis ar ran yr heddgeidwaid, a Mr. Joseph Lloyd ar ran y diffynydd Dywedodd yr Heddgeidwad E. Roberts ddarfod iddo ef a heddwas arall fyned i'r White Horse ar y 7fed o Orphenaf, a chanfod yno dri o bersonau gyda glaseidiau yn cynnwys cwrw o'u blaen. Yr oedd y dynion yn bur feddw ar y pryd. Addefodd Miss Sarah Jones, merch y diffynydd, yr hon a ofalai am y bar, ddarfod iddi gyflenwi y dynion a dïod, ond na sylwodd ea bod ya feddw, gan iddynt gerdded i'r tý fel pe baent yn sobr. Gwelodd ef (y tyst) y tri dyn wedi iddynt fyned allan o'r tý, ac yr oeddynt yn cerdded yn hynod o afrosgo. Yn ddiweddarach ar y dydd bu raid eloi dau o honynt i fyny am fod yn feddw ac afreolaidd. Rhoddodd pump o blismyn eraill, ynghyd a rhai tystion annibynol, dystiolaeth am gyflwr meddw y dynion cyn iddynt fyned i'r dafarn, ac ar ol iddynt ddyfod allan. Dywedodd Mr. Joseph Lloyd nad oedd y diffynydd yn y tý- pan aeth y dynion i mewn a phe buasai, ni chawsai un o honynt ddiod. Yna gilwyd amryw dystion dros yr amddi. ffyniad, yr oil o ba rai a haerenb fod y dynion yn sobr, ac na buasai ganddynt unrhyw wrth- wynebiad i'w cyflenwi a diod feddwol. Ymneillduodd yr ynadon i ystyried eu dyfarniad. Pan ddaothant yn ol i'r Ilys, dywedodd y cadeirydd eu bod yn ystyried ddarfod i'r trosedd gael ei gyflawni, ond eu bad yn cydnabod nad oedd y diffynydd yn y tg ar y pryd. 0 herwydd hyny tueddent i ym- ddwyn yn llariaidd tuag at y diffynydd, yr hwn a ddirwyid i 10s. a'r costau. Cafodd y cyhuddiad o ganiatau meddwdod ei dynu yn ol, ar yr ammod tod y diffynydd yn talu r costau. Yr oedd cyfanswm y ddirwy a'r costau yn 2p. 17s. Achosion Eraill.—Dirwywyd Henry Jones, Morfa Bach, yr hwn a euogfarnwyd bedwar ar bymtheg o weithiau yn flaenorol, i 20s. a'r costau, am wrthod myned allan o westty y Prince of Wales pan geisiwyd ganddo. Dir- wywyd ef hefyd i 10s. a'r costau am fod yn feddw ac afreolus yr un noswaith. Ynacyhuddwyd ei fab, Thomas Jones, 17eg mlwydd oed, o fod yn feddw ac afreolus yr un adeg, a dirwywyd ef i 5s. a'r costau. Cyhuddwyd Edward Lloyd, Vale Road, gan y Swyddog Blake Jones, o arfer creulondeb at ful. Dywedodd yr ynadon eu bod wedi pender- fynu rhoddi i lawr yr arferiad o guro mulod, ac anfonasant y diffynydd i garchar am saith niwrnod. Am ladrata pum ceiniog o beiriannau sydd ar y fdr rodfa gorchymynwyd i Thomas Jones, 13eg mlwydd oed, i gael et guro a'r wialen fedw. ac erchwyd j'w frawd, 12eg mlwydd oed, dderbyn yr un gystwyaeth am ei ran ef yn y trosedd, ond ei fod i gael llai o wialennodan. Y PRESENNOLDEB YN YR YSGOLION.
Y PRESENNOLDEB YN YR YSGOLION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YN llys yr ynadon yn Rhyl, dydd Mawrth, yr oedd yna amryw achosion yn erbyn rhieni am beidio anfon eu plant i'r ysgol. Mr. Rowlands, yr Ysgrifenydd Trefol, a ddywedodd i gais arbenig gael ei wneyd ato ef gan awdurdod presennoldeb yn yr ysgol, i ym. ddangos ger eu bron hwy fel ynadon, a chyflwyno adroddiad iddynt. Yroeddaelodau yr awdurdod wedi treulio gryn lawer o'n ham- ser, ac wedi arddangos gryn lawer o egni, mewn trefn i sicrhau presennoldeb lied dda o'r plant yn y gwahanol ysgolion yn Rhyl. Er fod yna gryn welliant wedi cymmeryd lie yn y presennoldeb er pan yr oedd yr awdurdod wedi cael ei symmud o Lanelwy i Rhyl, etto, yr oedd yn anfoddbaol iawn, wrth vstvried fod vr ysgolion yn rhad, a'r pwysigrwydd oeddynt oil yn ei osod ar addysg. Yn ddiweddar yr oedd sefyllfa pethau wedi dyfod yn fwy anfoddhaol. Yn ol adroddiad y swyddog presennoldeb am y flwyddyn oedd yn diweddu Ionawr 31riin, 1902, yr oedd nifer y plant ar lyfrau yr ysgolion yn Rhyl yn cyrhaedd y cyfanrif o 1,313, a'r pre. sennoldeb ar gyfartaledd ydoedd 1,065-4. Golygai hyny am bob diwrnod yr oedd yr ysgolion yn agored, fod yna tua 250 yn absen not. Yr oedd hono yn sefyllfa antoddhaol iawn ar bethau. Ryw wythnos neu ddwy yn ol, mewn ysgol ar yr ochr arall i'r ffordd haiarn, allan o 140 ar y llyfrau, nid oedd dim llai na 50 yn absennol. Yr oedd yr awdurdod wedi gwneyd pobpeth oedd yn bossibl yn y mater. Yr oeddynt wedi gwneyd pobpeth a allasent er perswadio, am mai y peth Dlaf a ddymunent ei wneyd ydoedd erlyn. Nid oeddynt wedi gwneyd dim ond dewis yi achosion gwaethaf, er eu gosod o flaen yr ynadon. Dygwyd cyn- nifer a 301 o achosion ger bron y cyfarfod di. weddaf o'r pwyllgor lleol. O'r rhai hyn gwnaed detholiad o 31 i roddi rhybudd arbenig iddynt, a dim ond 16 i gael eu herlyn. Yr oedd hyny yn dangos nad oeddynt yn brysur am erlyn. Yr oedd gorfodaeth yn beth annymunol i'r oil o honynt; ond yn yr amgylchiad yma yr oedd yn sicr o fod yn dda yn ei fwriadau a'i effeith- iau. Yr oedd yn ffaith aduabyddus fod y nifer liosog o droseddau, er pan yr oedd addysg wedi dyfod yn beth gorfodoJ, wedi lleihau yn fawr trwy y wlad. Yr oedd yna duedd mewn addysg i attal trosedd. Nid oeddynt hwy yn dymuno cweryla a'r ynadon. Mewn gwirionedd, yr oedd ganddynt gryn ymddiriedaeth ynddynt, a gwyddent eu bod yn awyddus am wneyd y peth goreu oedd yn bossibl er mantais yr ysgolion. Yr oedd yn bossibl fod y pwyllgor eu hunain wedi bod yn rhy dyner, a bod yr ynadon wedi bod yn rhy dyner. Profwyd fod eu deddf- wneuthurwyr wedi bod yn rhy dyner yn y dyddiau a fu mewn cyssylltiad a phresennoldeb yn yr ysgol; ac o blegid hyny, codasant y gosp drymaf o 5s i 208. Tybiai ef ei bod yn amser iddynt ddangos mwy o lymder wrth ym- wneyd S'r achosion hyn. Er pan yr oedd y gyfraith newydd wedi dyfod i weithrediad yr oedd 35 o achosion wedi cael eu dwyn ger bron y llys hwnw, ond mewn un achos yn unig y gosodwyd dirwy oedd yn dynesu at y swm uchaf a allesid ei roddi, er i'r un diffynydd ar ol hyny, pan gospwyd ef am yr unfed waith ar ddeg, gael ei ddirwyo i ddim ond 5s. Yr oedd ganddo ef restr yn dangos mai tuedd y faingc, yn ddiweddar, oedd lleihau y dirwyon. Yr oeddynt wedi myned i lawr o 18s. 6c. yn yr achos y eyfeiriwyd ato mor isel a swllt. £ can- lyniad o hyny ydoedd, fod rhieni yn gweled mai gwell oedd iddynt dalu y dirwyon bychain hyn, a chaniatau i'w plant werthu newyddiaduron, a dilyn gorchwylion, er mwyn ennill arian. Ei bwynt ef ydoedd, nad oedd y dirwyon a osodid gan yr ynadon yn ddigon i weithredu fel attal- fa ar y trosedd hwn a'r hyn a ddymunent hwy iddynt ei wneyd ydoedd, ymwneyd a'r achosion hyn yn y fath fodd ag i osod argraph ar fedd. yliau y rhieni fel ag iddynt sylweddoli ei bod yn fwy manteisiol iddynt anfon eu plant i'r ysgol na'u cadw allan o'r ysgol. Gyda'r amcan hwn mewn golwg, yr oedd awdurdod presennol deb yr ysgol yn gwneyd appel at y faingc am fddynt arddangos mwy o lymder nag oeddynt wedi ei wneyd yn yr amser a aeth heibio. Wedi hyny aed i mewn i un ar bymtheg o achosion o esgeulusdra ac mewn tri o achosun dirwywyd i'r swm uchaf o lp tra y gosodwyd dirwyon uchel yn y rhan fwyaf o'r achosion eraill.
LLANDDERFEL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANDDERFEL. Marwolaeth-Drwg genym gofnodi marwol. aeth Mrs. Jane Edwards, anwyl briod Mr. William Edward-, garddwr, yr hyn a gymmer- odd le prydnawn dydd Llun, yn 70ain mlwydd oed. Cafodd gystudd maith a phoenus, ond yn dawel a di rwgnach y dioddefodd y blinderau. Bywyd Cristionogol ydoedd eiddo Mrs Edwards, a dygodd ei phlant i tyuy i gredu yn yr Arglwydd. Cymmerodd y claddedigaeth le yn mynwant capelRamah, dydd Iau, am hanner awr wedi un. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu a'r perthynasau oil yn eu profedigaeth.
BANGOR.-
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BANGOR. YMOSOD A'R FEILI, A'R CANLYNIADAU. YN heddlys Bangor, dydd Llun, o flaon Mr. J. Evan Roberts, a ynadon eraill, cyhuddwyd Morris Hughes, o Braichmelyn, Bethesda, yr hwn weithia fel chwarelwr yn Chwarel y Pen- rhyn, o ymosod ar feili y Cwrt Bach tra yr oedd efe yn cyflawni ei oruchwyliaethau. Ym. ddangosai Mr. Twigge Ellis, eyfreithiwr, dros yr erlyniad Dywedodd ef ddarfod i ddau feili fyned tua th £ y diffynydd ar y 19eg o Orphen af, i'r amcan o roddi gwarant mewn gweithred- iad. Pan gyrhaeddasant hyd at y t gofynodd y diffynydd iddynt fyned i mewn. Gynted y gwnaethant hyny, a hysbysu eu busnes, cl6dd y diffynydd y dryaau, a dechreuoddeu hanerch mewn iaith lied arw. Oni bae am ymyriad ei wraig, yr hon a'i Huddiodd yn ei amcan, buasai wedi ymosod ar y beiliaid druain, ac yn ol pob tebyg wedi eu cystwyo yn ddifrifol. Yr oedd mewn tymmer ofnadwy o fileinig, a cheisiodd eu cicio. Aeth y beiliaid ymaith heb roddi y warant mewn grym, ond dychwelasant y dydd dilynol gyda pblisman. Y pryd hwn llwydd- asant i gyflawni eu neges. Rhoddwyd tystiolaeth gan y ddau feili W. Jones (yr hwn a gododd y ws yn erbyn y diffynydd), a Robert Griffith. Dywedodd y diffynydd nad oedd efe yn gwybod, pan daeth y beiliaid i'r t £ eifod wedi ei roi yn y cwrt. Bu yn sefyll allan am bsdwar mis ar bymtheg, ac nid oedd ond mis er pan aeth yn ol i'r chwarel. Clodd y drws ar y beiliaid rhag ofyn i rywbeth gael ei gymmeryd o'r tý (chwerthin). Addefodd ei tod wedi gwylltio pan ddaeth y dynion i'r t £ ond gwad- odd ddarfod iddo geisio ymosod arnynt. Helen Hughes, gwraig y diffynydd, a ddy- wedodd iddi fod yn y cwrt, ond nad oedd ei gwr yn gwybod dim am hyny. Ditwywyd y diffynydd i 20s. a'r costau, a thalodd yntau y swm ar unwaith.
Y BWRDD YSGOL -HA WL LLYWIAWD…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y BWRDD YSGOL -HA WL LLYWIAWD W YR YNrnghyfarfod misol y bwrdd hwn, nos Fercher, pan y llywyddai y cadeirydd (y Prifathraw John Price), cododd y cwestiwn o hawl Ilywiawdwyr. Dywedodd Mr. Charles Pozzi iddo dalu ymwel. iad a'r ysgol gymmysgedig yn St. Paul's, yn rhinwedd ei awydd fel llywiawdwr; a phan otynodd am weled y llyfr amser, gwrthododd y prifathraw yn bendant ei estyn iddo. A oedd gan y meistr hawl i wrthod? Dywedodd mai oddi ar hynawsedd yr oedd yn caoiatau iddo ef (Mr. Pozzi) weled llyfr oofrestriad yr ysgol. Y Parch. W. Edwards a ddywedodd i Mr. T. J. Williams, y prifathraw, ddangos y llyfr cof restriad iddynt hwy, heb unrhyw betrusder, ond iddo wrthod dangos y llyfr amser a gofynodd a oedd yna unrhyw archeb oddi wrth y bwrdd ynghylch y llyfrau. Mr. Pozzi:—'Gwcaeth ddefnydd o'r geiriau, hefyd. mai o hynawaedd yr oedd yn dangos y llyfr cofreatriad i ni/ Y cadeirydd :—' Arferai y llyfr amser fod ar y ddesg i bawb ei weled.' Y Parch. W. Edwards:—'Nid oedd yno ddoe.' Gan fyned yn mlaen dywedai Mr. Edwards ei fod yn tybio fod y bwrdd yn cyttuno d'r llywiawdwyr oedd yn ymweled â,'r ysgolion fod ganddynt hawl i weled y llyfrau. Neu os nad oedd, i ba ddyben yr oeddynt yn ymweled a'r ysgolion ? Nis gellid ea cyhnddo o fod yn rhy swyddogol, neu o rwystro yr ysgol. Mr. H. 0 Hughes a ddywedodd fod yna ryw beth, y mae'n amlwg, eisieu cael ei glirio i fyny a ohynnygiodd fod Mr. T. J. Williams yn cael ei ofyn i roddi eglurbid. Mr. Pozzi' A ydych yn ein hammheu ?' Mr. H. O. Hughes :—' Na: nid wyf yn ammheu o gwbl.' Y-Parch W. Edwards Yr wyf yn cadarnhau yr hyn y mae Mr. Pozzi yn ei ddywedyd, ao nis gall fod ammheuaeth yn ei gylch. Edrychaia ar y llyfr cofrestriad, a daetbum ar draws diwrnod o wyl yn cael ei roddi heb unrhyw reswm arbenig; ac attebodd y prifathraw, • Os oes genych eisieu gofyn nnrhyw gwestiynau i mi gwell i chwi ofyn trwy y bwrdd.' Yr oedd hyn yn beth gwrthun. Dywedais wrtho yn ddioed nad oeddwn am sefyll dim ffwlbri pan yn cyfhwni fy nyledswydd.' Wedi dadleu pellach prsiwyd y penderfyniad canlynol, ar gynnygiad Mr. O. Hughesi yn cael ei gefnogi gan Dr. Richard Jones:- Bid y bwrdd yn gofilio wrth ddeall i Mr. T. J. Williams wrthod dangos ei lyfr amser i'r llyw- iawdwyr ar y 29ain o'r mis hwnw, ac nad oedd yn dangos y llyfr cofrestriad ond fel mater o hynaws- edd, tra jr oedd hi yn ddyledswydd orphwysedig arno i wneyd hyny; ac felly, yr oedd y bwrdd yn galw ar Mr. Williams i roddi eglurh&d ar ei ym- ddygiad, a hyny mor fuan ag oedd yn bossibl.' Mewn perthynas i wyliau yr ysgolion, pender fynwyd fod cais yn cael ei wneyd at y prif- athrawon o dan y bwrdd ar iddynt gymmeryd gofal fod y nifer gofynol o bresennoIdeb-390- yn cael ei wneyd yn ystod blwyddyn bresennol yr ysgol, fel ag i osgoi y possiblrwydd o golli rhoddion trwy ddirwyon. Penderfynwyd gohirio y cwestiwn o godi cyilog Miss Williams, prifathrawes Ysgol Plant Bach Glanadda.
WYDDGRUG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
WYDDGRUG. TREFNIADAU Y CORONIAD. Nos Lun cynnaliwyd cyfarfod er gwneyd trefniadau ar gyfer y coroniad dydd Sadwrn, Awst 9fed. Llywyddid gan Mr. S. Beresford, cadeirydd y Cynghor Dinesig. Penderfynwyd fod y seindorf yn chwareu, y clychau yn canu, a bod bonffaglau i gym. meryd lie; ond gan y cynnelir chwareu y tân- frigad y dydd Llun blaenorol, cyttunwyd i beidio cynnal chwareuon y coroniad. Daethpwyd i'r penderfyniad, hefyd, i ofyn i fasnachwyr y dref gynnal cyfarfod boreu ddydd Mercher, 'er iddynt benderfynu pa un a allent hwy gau ddiwrnod y coroniad, gyda'r awgrym- iad, 09 nad allent gadw banner y diwrnod, eu bod yn cau am chwech o'r gloch
CELCIO ARIAN A'R CANLYNIADAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CELCIO ARIAN A'R CANLYNIADAU. YN heddlys y dref uchod, dydd Llun, cyhudd- wyd Henry John Windmill, 34ain mlwydd oed, o gael arian trwy dwyll oddi ar ei feistri, Mri. Summers, perchenogion gweithfeydd haiarn, Hawarden Bridge, i'r rhai y bu yn gweithio fel foreman. Dywedodd Mr. Churton, yr hwn a erlynai, fod y carcbaror wedi bod yn dal y swydd o foreman yn un o adranau y gwaith haiarn am dair blynedd. Cyn hyny bu yn gweithio am rai blynyddoedd yn Stalybridge, lie yr ymddir- iedid yn llwyr yn ei onestrwydd. Er mai am gelcio y swm o 4p. 10s. y cyhuddid ef, etto i gyd dangosai y llyfrau ei fod, yn ystod 12eg mis, wedi camddefnyddio o 160p. i 200p. Fel hyn y gwneid y twyll. Wedi i geidwad yr amser yn y gwaith wneyd i fyny amser y dyn- ion, elai y carcharor at dalwr y cyflogau, gan ddyweyd nad oedd rhai dynion dano ef wedi cael ea hamser yn llawn. Cai docynan i'r dyn- ion hyny; ac yn y dull hwn derbyniai o 2p. i 10/?. yn yr wythnos. Nichanfyddwyd unrhyw dwyll hyd yn ddiweddar, pan oedd y carcharor 1 ffwrdd yn mwynhau ei wyliau. Y pryd hyny canfyddwyd ei fod wedi lladrata agos i 200p. Cafwyd ar ol hyn fod Windmill wedi arfer enwau dynion nad oeddynt mewn bod. Yn y diwedd addefodd y carcharor wrth Mr. Sum- mers mai twyll oedd y cyfan ac ar ol hyny trosglwyddodd drosodd bapyrau arianol oedd yn cyfarfod y golled, ynghyd a pholisi yswir. iaeth am fil o bunnau. Tystiodd Mr. F. B. Summers, Plas Brom- field, ei fod ef yn un o gyfarwyddwyr y gwaith haiarn. Yna disgrifiodd y cynilun a fabwysied- id gan y carcharor i gael yr arian. Gan belled ag y gellid gweled oddi wrth y llyfrau, 160p. a gymmerwyd gan y carcharor. Y I oedd o ddeu. tu mil o bersonau yn cael eu cyflogi yn y gwaith, a daliai y carcharor swydd o gryn bwysigrwydd yn y He. Ysgrifenodd y carchar- or lythyr yn dadgan ei ofid, ac yn erfyn am drugaredd, gan addaw, hefyd, wneyd pobpeth yn ei allu i wneyd i fyny'r golled. Ymddangosai Mr. Turner, Caerlleon, dros y carcharor. Dywedodd eu bod yn gadael yr achos yn hollol yn llaw yr ynadon. Erfyniai arnynt roddi cospedigaeth a ystyrid yn rhesym- ol dan amgylchiadau yr achos. Mewn attebiad i'r faingc hysbysodd Mr. Turner fod y carcharor yn derbyn o ddeutu 2p. 15. o gyflog yn wythnosol. Anfonwyd Windmill i garchar am dri mis, gyda llafur caled.
ARHOLIAD AM YSGOLORIAETHAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ARHOLIAD AM YSGOLORIAETHAU. YR wythnos ddiweddaf derbyniodd Mr. W. R. Howard Evans, clerc Bwrdd Llywiawdwyr Wyddgrng, ganlyniad yr arholiad a gynnal- iwyd gan Mr. L. J. Roberts, arolygwr ei Fawrhydi, y dydd Sadwrn blaenorol ar ysgol. heigion yn yr ysgolion elfenolam ysgoloriaeth- au i gael eu cadw yn Ysgol Sirol Alun. Yr oedd nifer yr ysgoloriaethau, o herwydd amrywiol resymau, yn llai na'r blynyddoedd blaenorol. Saith oedd y eyfan-dwy o 6p., ac un o 3p. i fechgyn, a dyfarniad cyffelyb i enethod, ac un a gynnygid gan y prifathraw i ymgeiswyr dros 13eg mlwydd oed, gwerth 6p. Yr oedd yna 20 o ymgeiswyr o gwbl-12 o feehgyn a 17 o enethod. A ganlyn ydynt y dyfarniaiau Bechgyn, George Ewart Bevan, Ysgol y Bwrdd, Bistre, 6p.; C. A. Edwards, Ysgol Genedlaethol, Wyddgrug, 6p.; Emrys Jones, Ysgol y Bwrdd, Wyddgrug, 3p. Genethod, Annie Kirkham Jones, Ysgol Genedlaethol, Wyddgrug, 6p.; Lily Ancell, Ysgol Genedlaethol, Wyddgrug, 6p.; Lavinia Edwards, Ysgol Genedlaethol, Wyddgrug, 3p. Am yr ysgoloriaeth a ddyfarnwyd i ymgeiswyr dros 13eg mlwydd oed George Edward Edwards (Ysgol Genedlaethol Wyddgrug) a sierhaodd y nifer mwyaf o farciau.
DYFFRYN CLWYD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYFFRYN CLWYD. MTMRYNACH oddi yma ac oddi draw sydd genyf i'w gyflwyno i'ch sylw heddyw, gyda'ch canlatad. De- chreuaf yn eich tref chwi eich hunaiD, foneddlgion. Ac yn y lie cyntaf oil, caniatewch i mi ddwyn fy nhystiolaeth ddiamrnwya i ragoroldeb cyfarfodydd yr awyr agored, neu Y Pregethu ar y Groes eleni etto. Mor bell ag y mae y gwaith da wedi myned hyd yma yr ydys wedi cael pedair o bregethau campus-y gyntaf gan y Parch James Charles, gwein- idog yr Annibynwyr yr ail gan y Parch. Evan Jones, gweinidog y Methodistiaid; y drydedd gan y Parch. D. E. Jenkins, gweinidog y Presbyteriaid Saesnig; a'r bedwaredd gan y Parch. J. Conway Davies, gweinidog y Bedyddwyr yn Nghaerwys. Hwyrach y gofyn. rhywun pa ham yr aed i Gaerwys i ymofyn am breg- ethwr, pan y mae gan Fedyddwyr Dinbych el hurl weinidog ymroddgar yn eu gwasanaethu, nid amgen F Parchedig Jonah Lewis, un o'r bechgyn puraf a mwyneiddiaf a anfonodd y De i'r Gogledd erloed. Gair yr eglurhâd ar hyn ydyw foJ Mr. Lewis oddi cartref yn mwynhau ei hun yn mro maboed nos Fercher diweddaf. Efe oedd wedi el gyhoeddi i bregethu y noaon hono, a disgwyliai alla cyrhaedd yn ol o 'Gwmmwd yr Hwyntwys' mewn pryd, eithr nis gallodd. Yn garedig iawn, ac ar fyr rybndd, cymmerwyd ei le gan Mr. Davies; a phriodol a gweddus dros ben ydoedd i'r brawd ieuangc ymrodd- gar ac addawol hwn esgyn grisiau hen Groes Dinbych i efengylu yn enwedig, canys, hyd o fewn ychydig o wythnosau, yn Ninbych yr oedd efe yn byw, a phawb yn ei barchu yn ddirfawr fel pregethwr, dirwestwr aiddgar, a gr Ieuangc o'r rhodiad mwyaf dichlynaldd yn bossibl. Ychydig o fisoedd yn ol cafodd alwad gan Fedyddwyr Caerwys a Phenyffordd i'w gwasanaethu hwy yn yr Arglwydd, fel olynydd i'r Parch. Edwin Jones, yr hwn a dderbyniasai alwad eglwys yr un enwad yn Llaafyllin. Attebodd yntau yr alwad hon yn gadarahaol; a'r Sulgwyn diweddaf efe a ddechreu- odd ar ei waith o dan wenau y rhagolygon mwyaf gobeithiol, a nawdd ac arweiniad y Nefoedd, fe hydera pawb. Dyma weinidogaeth gyntaf Mr. Conway Davies. Am fod genyf y meddyliau uchaf am dano yr wyf yn dymuno cyfiwyno iddo fy llongyfarchiadau mwyaf calonog. Bydd llawer, heb law eich gohebydd