Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
18 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Creclir y bydd gan Canada 100,000,000 o fwsieli o wenith at y farchnad dramor eleni. Amcangyfi rifir y gellir oodi 250,000,000 o fwaieli yn Ngog- ledd Canada cyn pen deng mlynedd.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PARNASSWS, nawn Sadurn. M—Gwyn coll am Ieuan lonawr.-Y mae'r bardd hwn yn canu yn dda ar hen fesur godidog am y bardd leuan. Pa ham y mae sillebiaeth bardd o safon hwn mor wallus? Ceir yr i yn lie yr u yn mhob man, bron; ond ceir yr u yn lie yr i mewn un man. Arfer gwlad o ynganu ydyw yr achos, y mae'n debyg ond dylai y bardd ragori. Cana yn dda oddi elthr hyn. M-Duu-, carlw'r brenin.-Cana y bardd hwn y dymuniadau goreu ar ran y brenin, a hyny ar yr alaw Yr hen ganfed;' ond y mae ol brys ar y pennillion. Gall y bardd ganu yn dda pan y myno hyny; ond diofal ydyw yn y rhai hyn. M—Er cdf am ferch ieuanqc.—Y mae hwn, ar y cyfan, yn englyn gweddol dda. Newidiwyd y llinell olaf fel hyn:— Mwy'r elw mewn marwolaeth,' er mwyn newid y llafariad a, ac y mae y syniad yn well fel hyn. M- Y guaWyn.-TIAa iawn y mae yr awen yn lon darlunio anian o dan geinion y gwanwyn. Ni welaom neb wedi gwneyd mwy o gynnydd na'r bardd hwn, a hyny o blegid fod ganddo awen gref, a'i fod o ddifrif. Cofion.
. ENGLYNION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ENGLYNION. HWFA MON YN Y RHYL. Weiniald pan b'och yn dihoeni—a'ch nerth, A'ch nwyf ar ymgolii; Am iach&d, cyflymwch chwi Am y Rhyl a'r m6r heli. HWFA MON.
Y PARCH. D. A. GRIFFITH, TROED-RHIW-DALAR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y PARCH. D. A. GRIFFITH, TROED-RHIW- DALAR. Darllenwyd mewn Oyfarfod Anrhegu. Gwr hoffir yw D. A. Griffith-trwy lwys Natur lin Hawenydd Ei dyner w6n red yn rhydd, Un heb wenwyn yw beunydd. Gwyn el ddydd a'i gynnydd oil -gwyn ei oes, Fel gwanwyn di-archoll; Medd agwedd ddyn anhygoll, Gwyn i gyd—i gyd heb goll. Rhoes ffawd ar ei rawd yn rhydd-eneiniad Fa'n wanwynol gynnydd, A dwyfol wenau Dofydd, tiolud a dawn 'gwlad y dydd.' DAVID LLOYD (Llicyd o'r Nant). Cwmrhos, Brycheiniog.
ER COF
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ER COF Am Miss MARY JANE LEWIS, Erwbarfe, Ponterwyd, yr hon a fu farw Ebrill 4vdl,. 1902, yn 18eg mlwydd oed. Ieuangc iawn, cyn nawn einioes, Ar her awr, bore ei hoes, Daeth terfyn, daeth gelyn gau, Daeth ing, Ow! do, daeth angaa. Mary y'mysg y meirwon !—Oh y gair Sy'n rhwygo fy nghalon; Cudd yw ei dwyrud 1 dirion Dan y gwys, lwys eneth Ion. Wylwn ni ar ddaearen-o hiraeth Am ein Mary drylen; Vsiriol ieuangc seren Wnai foddhau y Nefoedd wèn. I oror sanctaidd eirfan—a'i mewn hwyl I'r mwynhad perifeithlan; Wele'r deg eneth wiwlan Fawl ei Duw newn nefol dan. Ponterwyd. R. LIOYD JONES.
Y LLYFRGELL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y LLYFRGELL. (Cyd-fuddugol yn Mhrion, Mawrth 13eg, 1902). Athrofa ddelia 'i meddylwyr—addaa I ddwyn nerth i'r aynwyr Ynddi 'n glau ceir gwyrthiau gwjr Anfarwol i'w myfyrwyr. P'le ceir gwell ein llyfrgelllawn-o ramant Na'r un mor dra rhadlawn; Fe ddylai pawb yn foddlawn, Fyw'n well drwy'r gell a gawn. Cul fwth a dorau celfydd-yw llyfrgell Fawrwych ysblenydd; Cynnyrchion o ddyfnion ddefnydd- Yn urdd o swyn i'w harddu sydd. I d'allu rydd wisg diwylliant—dengya Dangnef a'i gogoniant; Mewnol faeth am unawl fant: Bur adlun bar adloniant.
YSGOL JACOB.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YSGOL JACOB. Ysgol brawf ys, gwel ei bri-drwyddwyd Nef roddion mawr hyd-ddi, Duw o'r nef i'n daear ni: Adroddodd ei drefn drwyddi. WILLIAM DAVIES (Gwilym Clwyd). Penycoed, Prion.
a PRIODASGERDD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
a PRIODASGERDD MR. ELLIS JOHN ELLIS, Tan-y-bryn, Nant Peris, d blISS NELLIE WILLIAMS, Llanberis. Hwyl i'r beirdd i ganu heddyw Dydd priodas Ellis ydyw- Dydd nodedig lawn! Hwyl I glychau peraidd seinio, Hwyl i greig-fagnelau riio, Hwyl i blant Llanberis floeddio, Mewn gorfoledd llawn. Selnio 'i deunod mae y 'gwcw,' Wrth y ty yn mrig y fedw- pyngclo mae i 'Lwc Dda Nellie wena ar ei modrwy, Gwrido mae wrth wel'd yr 'aerwy,' Eu dedwyddyd etto 'n fwy-fwy- Hir oes, oil yn ha'! Anhawdd gwybod sut i ganu- Hawddach i mi fai griddfanu, Ond yr hen a wyr Gallaf roddi rhai cynghorion, Fyddant i chwi 'n wertbtawr ddigon Yn ddyferol o serch calon, Wele hwy yn llwyr: — Peidiwch caru yn ormodol Bethau'r byd— mae rhai'n yn freuol— Buan ciliant hwy Eisien'r corph a wnant ddiwaJIu- Dim i enaid ro'nt er hyny; Ceialwch olud gwell a bery- Golud 'marwol glwy' Am gynnildeb gwraig ganmolir, Am weithgarwch gwr glodforir, Gwaatraff sydd yn ffol; Byddwch hael, ond na ddifrodwch, Gwell yw'r geiniog a gynnilwch- 'Deryn bach, o'ch Haw ollyngwch, Na, ni ddaw yn ol. Os oes eisieu mwy cynghorion, Ofnwch Dduw, a pherchwch ddynion,, Dyn yw dyn, er tlawd Os gan uwchradd parch ddisgwyliwoh, Chwlthau eich hiaafiaid perchwch; I gardotyn rhodd eBtynwch, Pan y d61 ar rawd. Drwy yr heddwoh gafwyd weithion, Ysgwyd llaw mae'r Bwyr a'r Brython,. Dyrchant 16 n 'wi, wi.' Arfau balchder ymaith teflweh, Dig, am foment, na thrysorwch; Dilyn llwybrau hyfryd heddweh, Hefyd, byddooh chwi. Mae eleni 'n flwydd Coroniad- Coron gwr a gwraig yw cariad- Hwn, eu bywyd yw; Lie b'o cariad bydd llawenydd; Er gall fcriatwoh dd'od yagatfydd, Gobaith sycha 'n dagrau beunydd— Wylodd Criat ein Duw! Boed y Llyfr-Gair Duw-yn uwchaf Ar eich aelwyd lan, brydferthaf, Da a fydd ei fod. Teml i'r Arglwydd fyddo'ch annedd, A phan ddelo 'r alwad ryfedd, Hedwch fry i drig gwynfydedd, Fyth i aeinio 'i glod Mehefin tied, 1902. ELIDIRFAB,
. CORONIAD IORWERTH VII.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CORONIAD IORWERTH VII. (CORONATIOLV OF EDWARD VII.) HEN Brydain Fawr' ei bri, Ein Iôr, 0 cadw hi, Yn deyrnas gref; A bydd, 0Dduw yn df.d, I anwyl deyrn ein gwlad, I'w gadw rhag pob br&d, Dan nawdd y Nef. I Iorwerth Fawr, ein pen, A'i Alexandra wen, Boed gwenau 'r lor; A thros y byd ya glau, Boed anwyl enwau 'r ddau, A myrddiwn i'w mawrbau, Ar dir a mor. 0 Dduw, bydd Di yn nerth, A Noddwr o fawr werth, I'n teyrn o fri; A chadwer ef o hyd, Gan iawnder pnr ei fryd, A'r dlwedd, gwyn ei fyd, Ein Iorwerth ni. Treffynnon. MYSYDDWB.
. DDW CADW'N BRENfN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DDW CADW'N BRENfN. Alaw 'God Save the King.' Duw cad w Di mewn hedd, Ein Brenin ar ei sêdd, A'th gadarn law; Plr iddo fyw yn hir, I noddl rhin a gwir, Dros wyneli m6r a thir, Er pobpeth ddaw. Ti Lywydd nef a llawr, Amddlffyn Prydain fawr, A sif o'i phlaid I ddwyn dy waith I ben, Rho fendith Nefoedd wen, I orphwys ar ei phen, A nerth wrth raid.
DUW CADW'R BRENIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DUW CADW'R BRENIN. Alaw, Yr Hen Ganfed.' Ti Frenin y brenhirioedd byw Bendithia 'n hael ein brenin gwiw, Dy lygaid pur a'i profa ef I'w gadw I'th ddeheulaw gref. Rho'r fendith oreu ar ei ben Gyflawna ddeddf y Nefoedd wen, Mewn terfysg, rhyfel, brâd, neu hedd Duw cadw 'r brenin ar ei sedd. I'th ddeddfau da yr ufuddhawn, Dy allu Di yw 'r gallu iawn, Wna 'r byd yn well yn cwylaw dyn Wrth ufuddhau i'r Nef ei hun. Bydd ynddo yn ddoethineb mawr, A gras i'th wel'd drwy daith y llawr, Boed dy ddylanwad arno byth I ddysgu 'th ofn tra ynddo chwith, Gwybodaeth wir o'r unig Dduw Eheded at holl ddynolryw, Ar edyn t&n, y gwynt, a'r don, Efengyl lanw'r ddaear hon. Pan ayrthio holl orseddau 'r byd A'u holl ogoniant maith yngbyd, Pir iddo giel Nef-goron bur, Anfarwol uwch pob poen a chflr.
CORONI'R TYWYSOG YN FRENIN…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CORONI'R TYWYSOG YN FRENIN YMHERODROL Alaw, 'Tywyso] Gvlad y Bryniau.' COEONIR ein tywysog Yn frenin Prydain oil, Ac ymherawdwr India, Pob talaeth yn ddi goll; Mae holl daleithwyr Prydain Yn el edmygu ef, Daw lluoedd maith i'w weled Dan nodded coron nef. Oydqan. Coronir ein Tywysog, &c Daw cynnrychiolwyr luoedd 0 bellder eitha'r byd, I weled ei goroniad Ac edrych ar ei bryd Gweddxent drosto beunydd Ar Frenin Nef y nef, Am Iwyddiant i gyfiawnder Yn ngwaith ei ddwylaw ef. Cydgan. Coronir ein Tywysog, &c. Yn Frenin Ymherddrol, Tywysog Cymru 14n, Goronir gan ei ddeiliaid Gwladgarol, fawr a mAn Mae 'n blaid i gelf a gwyddor, Llenyddiaeth o bob rhyw, Boed dad a nawdd i'w ddeiliaid 0 dan arweiniad Duw. Cydgan. Yn Frenin Ymherodrol, &c. E. YLLTYR WILLIAMS.
. ODL YR YSTORM.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ODL YR YSTORM. Canwyd yr alareb fechan hon ar gais taer un o deulu y diweddar Mr. RHICHARD O. ELLIS, tizab Mr. OWEN a Mrs. CATHERINE ELLIS, 4, Water Street, Abergynol- wyn, yr hwn a fu farw o'r ennynfa (infiamatim) nawn Sul, y 25ain o Fai, 1902, yn 26ain mlwydd oed. Nos sydd yn dangos seren, Gwyn ddydd a'n dalla ni; Ing ydyw 'r ddu-nos, ddengys Wynder fy seren i. Hawddach anwylo brenin Wedi 'r elo i ffwrdd; Tlysach fydd ei frenhiniaeth Foreuddydd yr ail gwrdd Ar lanau y Gwernddi dawel Mae 'r nos yn llygaid ffydd; Ar lethrau y bryniau uchel Losgedig r6s—yw'r rudd. Yfodd gyfrinaeh 'i fywyd Dan helyg y glyn prudd; Cydiodd mewn bythol olud- Golud dyfnderau ffydd. Bywyd raid oddef marw Cyn geni 'r tlysni gwell; Agos yw y dydd hwnw I egnion pur, pell. Deil yn y pell ddyfodol Wialen y teyrn byw; Cerddodd ar ol y dwyfol- Odl sandal angel Duw Brwdfrydedd hunan-aberth Losgodd 'n ei ysbryd gwyn; Dolef am fywyd hwnw Wna ardal gyfan, sfn. Disgyn wna llosg-ddefnynau Yn nghalon ei ffcyndiau hoff; Cenhadau y goll ydynt- Preswylwyr calon gloff. Tlws yw ei hanes heno, Gwrendy y Gwernddi hen Odlau marwnad felus; Adnod cenhadaeth Gwen. Glywyd am Gwyn yn yngan Gair yn ei enaid tlws ? Rhodres a thwyll welwyd- Heb letty ger ei ddrws. Grwgnach ni cbafodd chwerwi Nodau ei anthem der, Chlywir mo brudd sain pryder 'N adsain un adgof per. Mwyn ydoedd gwrandaw adlais Y bregeth o'i bur fin, Geiriau'r efengylydd losgai'n Oleu pan ar ei lin. Ffyddlawn fu 'r hen bregethau, Engyl gwarcheidiol, claer, Iddo yn ngornest bywyd, I ni 'r fwyn ece daer. Coffa wna dyn dyfodol Ei ardal yn hir, gu; Am ddityr gwmni rhywun- Gwynfyd y dyddiau fa. Adgof a dd-hg ddonioldeb Ei ysbryd yn ol byth; Dychwel fel breuddwyd ieuangc, Cwmn'ia a'i fro chwith. Deffroa yn meddwl rhywrai Fel dysgybl 'r Ysgol Sul, Tyuu o hono—arlun Prydfertbach fydd gwaith mil. Ei oleu a'i wres unodd, Luchiodd fel fflamau tAn I galon 'i ddosbarth, galwodd I'r anial ysbryd can. Ffurfafen byddin dirwest Sy' heddyw 'n drwm o'r nos, Hawdd yw iti barddiio Ymylwe 'th faner dlos Llamodd o orsedd brenin Teyrnas dirwestiaeth wen, Fflam yw ei sêl gynnefin Etto, er trwch y lien 'Difa fy mhechod parod. Arglwydd oedd baich ei lef; Glanhau y sancteiddiolaf I belydr Seceina 'r nef. Cariad ei her flodeuyn, Teyrngarwch i'r nef fry; Sirioldeb ieithoedd enaid Anniflan Rhichard gu. Gwrido wna drudion liwiau'r BIodau ger gwydd y byd; Yntau'n garedig hola Am y cywir-fwyn mud. Disgwyl wna 'r weddw galon Fry yn y chwarel mwy, Am ffraetheb a dawn rhywun, Cariad anwyla 'r plwy'. Plethir ar stryd yr Aber Arlant anniflan liw; Cymdeithas fyn gyfieithu Ing distaw enaid briw. Chwilia am lawen olwg, Gwrendy am fwyn air ffraeth; Hola am gatedigrwydd Sy' ngholl, er hyny 'n faeth. Cyfrol yw'r ddalen sonia Am ollwng ymaith oes, Ean ganu emyn bywyd Anfarwol, gras y groes Crynu yn y galon etto Wna'r femyn ganodd gynt, Cyffyrdder el gwyl ysbryd Grymusa, fel dwyf wyntl Ar edyn emyn croesodd Rhichard y Ilif di-drai; Yn nwylaw engyl canodd, Maddeuodd Duw fy mai.' Teimlodd hen 'Graig yr oesoedd' Yn ddisyfl dan ei draed; Y noddfa fyth-gref hono A guddiwyd yn y gwaed. Taernl ei ganu hidlodd Falm wlith gwynfaol, merth; Ireiudir enaid etto Drwyddi, a'r cu-fwyn nerth ? Plygodd i'r dyfn-laislhwnw, Dwndwr yr afon gref, Swynodd y porth i agor Wrth ganu 'n nrws y nef. Ysig fu 'r ffarwel olaf Gyda el fam a'i dad; Dyfnach nac odl galarnad Brudd-felus awenydd gwlad. Wbain wna awel drymaidd Angau dan nef ei fro, Murmur coll-gan anwylyn Adgofion dros hir dro. Hulir y lleindir hwnw Draw'dan y fedw' friw; A blodau-dagrau daear, A gofal engy] Duw Abergynolwyn. E. GWEKNOL ROBERTS. fCanai yn rhydau'r afon emyn Ehedydd lil:- Er nad yw'm cnawd ond gwellt,' &c. O.Y.—Y mae i'r gwrthddrych lu o berthynasau yn America, a dyau y darllenir hi yno gyda bias.
.. CYMMYSGU Y 'JONESIAID.'
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMMYSGU Y 'JONESIAID.' BUASAI yr enw anfarwol Jones wedi gyru heddlys Bangor, ddydd Mawrth, i benbleth flln, allan o bauu na ddaethai rhawg, oni bae mai gwr mor hir-ben a'r Henadur John Evan Roberts oedd yn eistedd ar y faingo, ac yn llywyddu. Galwyd William Jones ya mlaen. Wele ddyn canol oed, a golwg tawel arno, yn gwneyd ei ymddangosiad, ac yn cymmiaryd- el le yn hamddenol a di-gyffro yn y doc. Cyhuddwyd ef o fod yn feddw. Gwrandawodd yn bwyllog, braldd yn ddl. fater, ac heb yngan gair, ar y dystiolaeth a roddid i brofi ei fed ef yn euog. Y diwedd fu at 'ffeinio' i hanner coron a'r costau, a myned yn mlaen at yr achosion nesaf, heb freuddwydio fod dim* allan o le yngtyn a hwn. Yn ddiweddarach wele rhyw William Jones arall'yn cael ei wyaio ger bron, a'r cyhaddiad yn ei erbyn ef ydoedd meddwi mewn lie wedi ei drwyddedu. Ni ddaeth y William Jones bwn yn mlaen i atteb i'w enw, ac am hyny aed yn mlaen yn ei abaennoldeb i wraudaw yr achoa.' Ond erbyn myned trwy y tyatiolaethau, yr oil a brofent ydoedd fod rhywun wedi dyf o I o hyd i Mr. Jones wedi cysgu yn ei feddwdod ar ymyl y ffordd fawr. Ha mechgyn, nid ydyw y ffordd fawr erioed wedi ei thrwyddedu,' meddai y cadeirydd craff yn y fan, nea oedd yr hedd- geidwaid yn agoryd eu llygaid mewn ayndod, ac un o honynt yn dyweyd fod yt fchos wedi cymmysgu rywsut.' Yr oedd yno dri William Jones ar y rheatr y diwrnod hwnw, a chwanegai y gwr a ddywedai hyn mai yn erbyn y William Jones oedd yn nawfed ar y rheatr y dylasai y cyhuddiad hwn gael ei roddi. Ond yr oedd y William Jones hwnw yn barod wedi ei ddirwyo i banner coron a'r costau am ddim ond meddwl yn mherson y gwr tawel a dl-daraw a fuasai ger bron o'r blaen. Galwyd ar hwnw yn ei ol. Rhoddwyd ef yn y bocs drachefn a chyda'r difrtfwch hwnw a welir mewn ambell heddlys pan wedi: gwneyd camgymmeriad, dywedwyd wrtho fod yrachosyn ei erbyn yn cael ei daflu allan. Nid aeth y brawd lionydd i drafferth gymmaint a dyweyd 'Thanciw.' Ni chymmerai arno fod y peth yn fater o bwys o gwbl. Ond y cweatiwn ag y mae eisieu atteb tddo, ydyw, am ba beth y cafodd efe ei ddirwyo y tro cyntaf. A beth am y cyhuddiad o feddwl mewn tafarn? A ydyw y cyhuddiad hwn yn dal, ai ynte hwnw a daflwyd ymaith. Y mae yn debyg y bydd y rhai Bydd yn dar- paru gwaith i heddlys Bangor yn fwy gofalua yn y dyfodot wrth dynu y rhaglen allan.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Rhoddodd gwaroheidwaid Bethnal Green rybudd o'u bwriad i anfon saith a dengain o blant tlodion fel ymfudwyr i Canada. Cafodd agos i siith gant a deugain eo taflu yn segnr trwy y streic a gymmerodd le yn mysg han- ner cant o fechgyn oedd yn JDhen pwll yn ngl6 feydd Arglwydd Vernon, yn Stockpoit. Y MAE Cocoa CADBURY yn ddiod goeth a phnr maethlawn, svnibyliadol, a da am dreulio. Dy- wed y Lancet ei bod yn cynnryohioli y safon uchaf o burdeb.' Yn hollol rydd oddi wrth gym- mysgcdd, megys kola, brag, bopys, alkali, &a. Mynwch weled eich bod yn cael Cadbnry's, gan fod Cocoa's eraill yn cael eu cynnyg weithian yn ei le, er mwyn elw chwanegol. Mewn peoynaa a tbynlaa yn unig- (4)
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PKCHODAU athrawon ydyw athrawon pechod, an. Y M AE y rhai sydd yn hela am helbul yn ei gaffael yn fuan. NID yw daioni byth o dan yr angenrheid* wydi i hyabysu ei huren, TRI Hetty cyffredin meddwyn :-bol clawdd, gwalfa own, a thwic moch. GWNA Duw gyflawni ei addewidion heb i ni orchymyn.-Esgob Llundain PA HAM nad yw y bobl sydd yn ammheu byth yn ammheu eu hammheuoD eu hunain ? Y MAE Duw yn rhoddi i ehwi chwe diwrnod, na ladratewch y iseithfed.-Spurgeoit Y MAE y ProiBreioer yn llawer mwy peryglas i'n gwlad nag unrhyw Pro Boer fu erioed. Os bydd i ni gadw Daw bob amser o flien ein llygaid, ni wna Efe byth golli golwg arnorn. BODDIR mwy o ddynion yn y glasiad bob btwyddyn nag yn holl force id y byd ya glwn. FFYDD wedi ei sylfienu ar y Graig nis ofna unrhyw un o yatarmydd bywyd.-Deon Farrar. Y MAE blodau meddwdod yn gwywo yn gyenar iawn, ond y mae eu drain yn aros hyd y diwedd. Ni bydd y nefoedd yn nef )edd i mi os na bydd i mi gyfarfod & fy ngwraig yno.-Andrew John- son. NID oes yna un gobaith i ddyn hyd nes ca byddo ganddo un gobaith ynddo ei hunan.-Gipsy Smith, Os nad oedd Duw yn meddwl ein gwrandaw, ni buasai byth yn eu hannog i weddio. Dr. Parker. CADW y cwbl, heb gyfranu dim. sydd gybydd- dod cyfranu y cwbi, heb gviw dim, sydd" afrad » lonedd. ORIAU amser yw yr a-ienydd sydd yn pin cyflym gluds i dragwyddol drueni neu dragwvddol wynfyd. Nis dichon neb fod yn wir ddedwydd heb fed yn barod i wynebu y gwaethaf a ddichon ei gyfarfod. YMDDENGYS amser yn faith i'r trallodus, ond yn fyr i r dyddanus; beth fydd tragwyddoldeb i'r naill a'r Hall ? BETH ydyw yr aehos fod y gath yn rhedeg ar ol y Ilygoden ? -Am fol y llygodeo yn rhedeg i ffwrdd oddi wrthi. Y MAE yr hwn sydd yn gwario mwy o arian nag a ddylai yn sicr o fod heb arian i'w gwario pm y bydd eu heisieu. Y MAE rhai dynion yn hau ychydig o hadau caredigrwydd, ac yn disgwyl cael medi eu ffrwyth gyda pheiriant mawr. Y MAE yn rhyfedd pa fodd y mae yn oerach yn y ganaf ac yn boethach yn yr haf ar y Sabboth. nag ar nnrhyw ddiwrnod arall.
BRAWDGARWCH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BRAWDGARWCH. (Gan DR. MORIEN MON HUGHES.) Brawdgarwch hoff, ni raid wrth awen bardd I ganmawl hwn, a'i fywyd gwerthfawr hardd Ei weithrediadau ef ei hunan sydd Felciychau mwyn yn canu'i glod bob dydd; Mae'r grasa ymddadblyga yn ei ffydd Yn cynnwfs egwyddorion nefol ddydd. Brawdgarwch byw, dy anthem swynol, bêrf Gyfyd uwch law yr hauJ, a'r siriol ser, I ganol nef; dy lwybr sydd yn wyn Fel llwybr dydd dros ysgwydd gref y bryn Gwnei lawer calon dan ei phoenus bid I deimlo'n hyfryd, fel mewn dydd o ha,' Brawdgarwch gwir, nid rhagrith brwnt dileg, Wrth orsedd gras mewn gweddi'n llawa o wres A byw bob dydd i Iwyr gxshau ei frawd, Hyn ydyw gwawdio crefydd ar ein rhawd Rhaid caru dyn os dysgwn garu Duw- O'r ffynnon hon daw gloewon ffrydiau byw. Brawdgarwch hardd, yn byw yn ymyl Duw, I boenau'r byd a'i ofid y mae'n fyw Nid Lefiad annhrugarogydyw ef, Yn myned 'heibio' y gwynfanus lef Samariad ydyw—ar ei farch ei hun Y cwyd y tlawd, gan ei fod ef yn ddyn. Brawdgarwch sanctaidd. yn dy lewyrch gwyn Y gwelaf Iesu'n dioddef ar y bryn, Dros ddyn mewn ing trueni'r ddaear lawr O'r dyfnder codir ef i oleu'r wawr— Gwawr y Croeshoeliad a brawdgarwch byw Yn marw er i'r euog ddyn gael byw YR wyf yn cadw bwrdd rhagorol,' meddai boneddiges pan yn dadleu ag un o'i llettywyr. 'Gall hyny fod yn wir,' meddai yntau, ond yr ydych yn rhoddi ychydig iawn arno., Fy nhad, y mae genyf eisieu gofyn cwestiwn i chwi.' • Wei, beth yw?' Pa ham y mae y gin shops fel swllt drwg? 'Nis gal!af ei atteb.' 1 Wei o herwydd nas gellweh ei basio O! NAD ystyriai ein pobl ienaingc mewn pryd eu bod, wrth hunan ymwadu achadw rhag chwantau ieuengctid, yn arbenig ymyfed ac anlladrwydd, yn trugarhau, nid yn unig wrthynt ea hunain, ond hefyd wrth y plant sydd etto heb eu geni. DYWEDODD clochydd unwaith, oedd wedi tori beddyn rhy fyr, wrth saer ieua.ngc .Machen i, pan wnei di arch y tro nesaf gwna hi fodfedd neu ddwy yn llai.' Attebodd y saer, Byddaf yn gwneyd yr arch i atteb i'r corph, ac Did i'r bedd,' DYMA lie yr wyf rhwng dau deiliwr,' meddai teiliwr unwaith, pan gymmerodd ei eisteddle mewn lie o'r fath mewn tafarndy. 'Gwir,' medj aiuno honynt, 'ond nid ydym ocdprentistatd, ac o ganlyniad nis gallwn fforddio i gadw mwy nag un wydd rhyngom.' DYWEDIII fod dyn yn byw yn rhywle y mae ei gof mor fyr fel nad ydyw yn cyrhaedi hyd yn oed at odrea ei wasgod; a'r casgliad ag y mae trigolion y lie hwnw yn ei dynu oddi wrth hyny ydyw, ei fod heb dala am y par esgidiau diwedd af a gafodd gan grydd y drws nesaf iddo. 'YMAE dwy ffordd i'w wneyd,' meddai Patwrtbo ei hunau un diwrnod os cynnilaf bedair mil o bunnau, rhaid i mi roddi o'r neilldu ddaa gant bob blwyddyn am ugain mlynedd, neu ynfeu ugain punt y flwyddyn am ddau gant o flydydi. oedd; ac ya awr, y cwestiwn ydyw pa un a ddewisaf.' CERYDDWR DOETH.—Fel yr oedd gwr ienangc aDytyriol yn ymddiddan mewn cwmni lie y dtgwyddai fod hen Gristion cywirgalon, gwnai arferiad mynych iawn o enw y diafol o'r diwedd cymmerodd enw Duw yn ofer, 'Aros! Aros moddat yr hen Gristion, gadewais lonydd i ti gymmeryd enw dy feiatr yn ofer, ond nid allaf oddef i ti gymmeryd enw fy Meistr i felly CAFODD Gwyddel o'r enw Dillon, yr hwn a qdïenyddwyd yn ystod y Chwyldroad Ffrengig, ei arwain i'r dïnyddle gyda dwy fenyw. Khodcii odd y dienyddydd ei law ar ysgwydd un o'r mershed, a dangosodd y grisiau oedd yn arwain i'r ysgaffold. Hi a grynodd o dan ei gyffyrddiad, ac a drodd- at Dillon, gan ddyweyd, • O Monsieur Dillon, a ewch chwi yn gyntaf?' Unrhyw beth i foddhan boneddiges;' a chyda'i wen hudclus arferol cerddodd i fyny yn wrol i'r êïenyddle. DlAU fod y cariad sydd rhwng y bschgen hwnw o D-- yn ormod iddo fedru ei gadael lawer yn nghynt yn y nos nag y mae yn wneyd yn awr, wedi myned o hono i'w danfon i'r wlad. Er hyny dylasat wrandaw weithiau ar gais ei fam pan yn gofyn iddo ddyfod ad ref yn evnear- ach. Oni fyddai modd iddo, tybed, gael gan ei anwyl gariad' gychwyn adref yn nghynt, ac felly y gallai yntau gael ei ryddhau ganddi ycbydig yn nghynt. Yn enw pob dim dylai wrandaw ar ei fam weithiau.
DYFFRYN CLWYD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
di-nod, yn gwylio el symmudiadau, ac yn cymmeryd dyddordeb mawr yn ei ddyfodol. Fe wêl y darllenydd, gan hyny, pa ham y gwahoddwyd ef i lanw lie gwein- idog Bedyddwyr Dinbych wrth y Groes wythnoa i heno. Gwnaeth ei waith yn gampus. Cafwyd ganddo bregeth oedd yn arddangoa 61 llafur dlrfawr-h wyrach ormod i le o'r fath. Gwnaethai yn ardderchog mewn unrhyw gap el ar noa Sul. Modd by nag, ni fynwn ddyweyd gair & thuedd ynddo i dynu oddi wrth ei gwerth hi, a'r gwirioneddau pwysfawr oedd ynddi, canys yr oedd arddeliad amlwg ami. Yr oedd y gyn- nulIeidfa, yn llioaog, ao yn gwrandaw yn astud; yn llawn oymmaint a'r nn sydd wedi bod etto. Yr hyn sydd yn synu llawer ydyw L'losogrwgdd ac Astudrwydd Cynnulleidfaoedd y Groes. Er fod ma,anach yn anterth ei phryaurdeb—y farch- nad ar ei Jh\wn hwyl—o saith hyd wyth o'r gloch yn yr hwyr ydyw yr awt-er hyny bydd y dorf yn aros yn lionydd yn ei hunman, yn berffaith dawel a gweddna, heb fod s\vn y trollau, na gwib ycerbydauol a blaen yn cael, nac yn gallu aflonyddu dim arni. A y pregeihwr yn mlaen gyda'i bregeth yn union fel pe yn y capel iawelaf heb gymmeryd el 'ddlstyrblo' yn y graddau lleiaf. Cymmerir mantais ar y cyfleusdra, a gwneir y goreu o hono er gwaetbaf yr anhawsderau. A bydd y gwrandaw yr un mor astud ag yn yr addoldy mwyaf boneddlgaidd.' A'r Canu yn Fendigedig Ya wir, y canu, fe ymddengys i mi, ydyw yr unig I glooh' sydd gan y brodyr hyn 'I alw pobl i'r eglwya' —yr eglwya' wrth y Groes wyf yn ei feddwl, wrth gwrs. A pheth mwy a ddywedaf am y gynnulleidfa hon ? Hyn, yn bendifaddeu. Ceir ynddi nos Fercher ar ol iios Fercher rat, ie lawer, nad ydynt yn clywed gair o efengyl ond ar yr achlyauron hyn-rhai nas gwelir mo honynt (am ryw reswm neu gilydd) un amser yn y moddion graa' cyffredin yn addoldai y dref. A phwy a all ddyweyd pa beth a all ddigwydd ? Pwy a wyr a ffynna ai hyn yma ai hyn acw, ai ynte da a fyddant eill dau yr un ffunud ?' Dichon Yabryd Duw lawer trwy y canu, yr adnodau, a'r weddi ar y dechreu, neu air wrth basio yn y bregeth syml. Gall droi unrhyw beth—a phob peth o ran hyny-yn 'berth yn llosgi yn d&n' o ddadguddiad ar gyflwr pechadur euog, a gwaredigaeth raslawn efengyl Mab Duw a? ei gyfer. Rhag ofn i rywun deimlo fy mod yn ymdroi gormod gyda hyn, af heibio heddyw gyda dyweyd fod y cyfarfodydd a ddisgrifiwyd oil wedi eu cychwyn y liynedd, ac yn cael eu cario yn mlaen eleni etto—yn ystod misoedd yr haf, bid siwr-gan Ym. neillduwyr y dref, neu Gynghrair yr Eglwysi Rhyddion a chan nad pa ddalonl bynag arall sydd wedi, neu yn cael ei wneyd gan y gymdeithas hon, yr wyf yn bared i ddal allan yn groew a dl-floesgni fod 'Cenhadaeth yr Awyr Agored' yn sicr yn walth rhagorol yn mhob ystyr, a'r dydd yn uoig a ddengys ganlyniadau yr hyn a wneir. Cyf- arfodydd Ymneillduol ydynt, mae'n wir. Cynghrair yr Eglwysi Rhyddion sydd wedi eu codi, yn eu harolygu, ac yn eu cario yn mlaen. Ond meiddiaf ddyweyd^ (er na feddaf ha*l) na roddai dim fwy o foddhad i deimlad y brodyr anwyl sydd wrth y llyw na gweled rheithor y plwyf (y Parch. Dan Davies), a'i guradiaid yn dyfod yn mlaen i ymuno yn aiddgar a i hwy yn y genhadaeth hon. Yn efengyleiddiad y f dref, pa ham nad allai | F Capel a'r Eglwys ymuno? I Awgrymaf fod y Parch. Dan Daviea yn gweled y j Parch James Charles, llywydd y cynghrair, ar y pen hwn. Byddai yn newydd beth yn Hanes crefydd yn Nghymru' i glywed parson y plwyf, neu ei gurad, yn cael eu cyhoeddi i bregethu yn yr awyr agored wrth Groes Dinbych rhyw nos Fercher yn fuan Wedi cael dyweyd cymmalnt a hyn yna ynglyn a'r genbadaeth drefol syml hon, caniataer i mi, cyn troi at un peth neu ddau arall, ddyweyd fod cyfarfodydd gweddio, hefyd, yn cael eu cynnal mewn amryw ranau o'r dref am bump o'r gloch prydnawn Sul, a'r rbai hyny yn ogystai yn cael eu mynychu gan lawer. Da genyf allu dyweyd fod fy hen gyfaill, Y Parchedig Hugh Pugh, gwsinidog y Groes a Seion, Stryt Henllan, wed! cael ei adferu yn ddigonol o'i gystudd trwm diweddar i allu ail ymaflyd yn ei ddyledswyddau gweinldogaethol. Er nad ydyw ei nerth mawr blaenorol ganddo, etto y mae efe yn gallu pregetbu yn gysson er's rhai Sab- bothau. Bydded ei adferiad yn llwyr, a'i fly nyddoedd yn feithion. Truenus a gresynus i'r eithaf ydyw fod anghariad, Hid, a chenfigen, yn cael anrhelthlo cym- maint ar eglwysi y saint yn y dyddiau presennol. Pan y mae y gelyn mor gryf, ac fel llew rhuadwy yn rhodio oddi amgylch,' nls gall unrhyw eglwya, gan nad i ba en wad bynag y perthyna, fforddio gwastraffu ei nerth mewn ymrafaelion, nac hyd yn oed mewn deisebau' yn mhllth el haelodau hi el hun. Harddach a phriodolach filwaith a fyddai troi allan mewn ysbryd cenbadol i sobreiddio ac efengyleiddio heol baganaidd. Duw a \vyr y cyfrif fydd yn cael el ofyn gan y rhai a achoaanb gynnhyrfiadau a chythrybloedd o fewn eglwys y Duw byw mewn llawer man. Nid wyf yn dewis manylu, na dyweyd dim yn mhellach yn yr ysgrif hon na gwneyd y sylw fod 'Gweithredu wrth Reol, a pharchu Cyfundeb,' yn arwydd o synwyr, gan nad beth am ras. Os nad yn arwydd di-feth o ras, nid ydyw yn anghydnaws âg ef, a dyweyd y lleiaf. Hyd yma yr wyf wedi ymdroi yn gwbl yn mhrlfddlnaa Dyffryn Clwyd. Pa ham, dyfaied y darllenydd. Adwaen un brawd hoff sydd yn sicr o ddyfalu yn gywlr. I lawr yn Y Rhyl yna oryu gwyno sydd yn erbyn y tymmor presennol, ac ar helynt y coroni y rhoddlr pen trymaf batch y bai. Nid ydyw y dref wedi bod agos yn Hawn eleni, ac y mae y tymmor yn prysur fyned heibio. Yn Rhuthyn prysur barotoir ar gyfer Arddangosfa Amaethyddol Siroedd Dinbych a Fflint. Disgwylir iddl fod yn record show. A fydd hi a ddibyna, i fesur helaeth, ar y tywydd. Nid ydyw fymryn o bwys pa un 801 yr eglwys ai y cyfarfod misol a drechodd yn Y Rhiw. Y peth pwysfg ydyw fod yno adeiladau o'r fath fwyaf cyfleus yn mron wedi eu cwbl orphen; a'r cam nesaf a gymmer y frawdoliaeth fechan fyw hon, yn ddiau, fydd gwneuthur adgy weiriad trwyadl ar yr addoldy ei hun. Wedi dechreu ar y gwaith da, y mae genyf ddigon o adnabyddiaeth o'r brodyr a'r chwiorydd yn y Rhiw i gredu y mynant orphen yn anrhydeddus. Ni welais hwy erioed yn taraw eu Haw ar yr aradr, ac yn ei adael ar ganol y gwys, nac hyd yn oed yn edrych yn ol cyn cyrhaedd pen y dalar. Prion a'r Glyn, a'r Fugeiliaeth, a ddaw yn nesaf o dan sylw. Dau gapel Methodist- aidd ydyw y rhai hyn, fel y goddefir i mi ddyweyd wrth y darllenydd na pherthyn i'r cylch enwadol neiliduol hwnw. Ychydig o wythnosau yn ol bn y Parchedig Evan Jones a Mr. Robert Owen-y ddau o Ddinbych—yn y ddwy eglwys yn cymmeryd. eu llais ar y cwestiwn a oeddynt yn dewls anturio o dan gyagod y trefniant bugeiliol unwaith yn rhagor. Yr wyf yn deall fod y ddwy wedi dyweyd yn groew eu bod. Y gwaith wed'yn ydoedd chwilio am y dyn'—y bugail. Y mae hwn yn annhraethol bwysicach ac anhawddach gwaith na'r Hall. Geilw am arafwch. Geilw am bwyll yn gystal. Y mae degau o eglwysi yn adna- byddus heddyw yn telmlo ddarfod iddynt roddi cam gwag sydd wedi costio yn ddrud iddynt trwy beidlo cymmeryd yn araf, a bod yn bwyllog. Cyn gadael Godreu'r Hiraethog, na chwaith sychu fy ysgrlfell, hoffwn ddyweyd gair parth Slesur ffugiol y Llywodraeth ar Addysg, a hyny yn benaf er mwyn cymmhell y Godreuwyr, un ac oil, i benderfynu Peidio Talu Treth Ysgol heb Reolaeth arni gan y irhai a fydd yn talu Ardal o'r fath fwyaf Rhyddfrydig ac Ymneillduol ydyw y Godreu, a byddai yn rhy chwith genyf dybio am foment y llychwinaneb o honynt eu Rhyddfrydiaeth na'u Hymneillduaeth I dala y dreth anghyfiawn hon ond yn unig trwy orfod- ogaeth y bwmbeill, fel gynt y buwyd yn talu y Degwm a'r Dreth Eglwys. Fel y pregethwyr, 'ni chwanegaf,' hyd yr wythnos nesaf. BKASNODIWB.