Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Y METHODISTIAIB.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y METHODISTIAIB. SIR BENFRO. fjTXNALIWYD y cyfaifod miaol hwn yn Solfach, Gorpfaenaf 22ain a'r 23ain, o dan lywyddiaeth y Parch. W. J«nkins, Ty Ddewi, Darllenwyd Ilythyr oddi wrth Mr. W. Ll. Thomas, Penfro, a cbaniatawyd iddo ddyfod yn talaen &!i rybudd yn y cyfarfod misol nesaf. Cyforfu pwyllgor prydnawn dydd Mawrth. o dan lywyddiaeth Dr. Williams, Drim, er tynu allan gyn- lluniau tuag at hyrwyddo gwaith yr Ysgol Sabbothol yn y sir. Pasiwyd amryw o benderfyniadau, a daw y ihai hyny I fyny mewn cyfarfod misol dyfodol. Ethol- wyd gydag unfrydedd hollol Mr. T. Lewis, Abergwaen, ifod yn yrnwelwr A'r Yegolion Sabbotbol am y flwyddyn yn y rhanbarth Cymreig o'r sir. Gohiriwyd pennodiad yinwelwr y rhanbaith Saesnig hyd gyfarfod misol Medi. Cafwyd gair am ansawdd yr achos yn y lie, ae annogwyd y brodyr i ymwroli a bod yn ffyddlawn yn yr holl gylch. Derbyniwyd Mr. Oliver C. Morgan, Casmaei, yn aelod o'r cyfarfod misol, a rhoddwyd cynghcrion gwerthfawr iddo gan y brodyr. Dadganodd y cyfarfod misol ei lawenydd fod y cyfeillion yn Nhrefdraeth yn bwriadu myned yn mlaen a'r gwaith o adeiladu y capel. Cymmeradwywyd y planiau, ac annogwyd hwynt etto i fyned yn mlaen mewn eyd- ymgynghoriad a'r pwyllgor adeiladu. Cyflwynodd yr ysgrifenydd adroddiad y pwyllgor dirwestol, a chym- meradwywyd ef. Cynnwysai fod hyabysleni yn cael en hargtaphw, ac enwau arnynt y siaradwyr a gym- mer ran, gyda'r Parch. Barrow Williams, yn y cym- manfaoedd dirwestol y flwyddyn hon. Annogwyd, hefyd. y pwyllgoiau dirwestol i gyfarfod yn mhob dosbarth yngljn a'r cymmanfaoedd blynyddol tuag at drefnu ymweliad a'r Ysgolion Pabbothol eleni, fel arfer, ar y Sabbath dirwesto!. Hyabyswyd y deillia daionlmawr mewn canlyniad i'r cymmanfaoedd blyn- yddol, ynghyd a'r ymweliad ar y Sabbath uchod. Pennodwyd y Parch. W. Evans i bregethu ar ddirwest sn nghyfarfod misol y Dinas. Archwiliwyd cyfrifon y pwyllgor dirwestol gan y Mri. W. B. Morgan, Cwm- hedryn, a John Howells, Melin Cerbyd, a chafwyd hwynt yn gywir. Galwodd y-Parch. W. Evans, Doc Penfro, sylw at daflen o emynau dirwestol, a gyhoedd- wyd o dan olygiaeth y Parch. P. D. Morse, ysgrifen- ydd y pwyllgor, ac ystyriai ei bod yn deilwng o gylch- Tediad, yn gymmaint ag mai goreugwyr y getedl ydynt awdwyr y nifer liosocaf o'r emynau. Pender- fynwyd fod ein diaJcbgarwch gwresocaf yn cael ei gyflwyno i Dr. Williams am el rodd ddiweddar i drysorfa y cyfarfod misol. Gosodwyd ar yr ysgrifenydd i anfon llythyrau o gydymdeimlad a'r personau can- lynol yn eu gaJar :-Mr. Bateman, Morfil Mr. Jones, Morfa; a Mrs. Morgan, Treamlod. Etholwyd Mr. David Evans, Ty Ddewi, i'n cynnrychioli yn Nghym- deithaafa Awst, yn lie Mr. Davies, Rhoscribed, yr hwn sydd yn analluog i fyned iddi. Ar ol tipyn o ddadleu pasiwyd yr hyn a ganlyn :—' Fod rhyddid yn ,cael ei ganiatau i'r ymddiriedolwyr i dalu i fyny t'r cyfarfod misol yr arian a addawyd i Gae'rfarchell, Rhydygele, &c., gan y ddiweddar Mrs. Siceel, Ty Newydd, mewn trefn i'r cyfarfod misol i'w rhanu I r -sglwysi hyny.' Hyabyswyd fod Cymdeithasfa Awst, yn y flwyddyn 1903, i'w chynnal yn y rhan Gymreig o'r sir, a dymunwyd ar i'r eglwysi anfon i mewn eu celsiadau am dani erbyn cyfarfod misol yr Hydref. Cynnelir y cyfarfod misol nesaf yn Neyland, Medi '9fed a'r lOfed. Y Bwrdd Addysg i gyfarfod am dri o'r gloch prydnawn dydd Mawrth. Pregethwyd gan y Parchn. George Morgan, W. Evans, W. Mendus, a Peter H. Griffiths. Ar ddiwedd yr odfa ddeg rhan- wyd y bathodau i'r ymgeiswyr llwyddiannus yn yr arholiad Sabbothol. Cymmerwyd rhan ar yr acblysur gan y Parchn. W. M. Lewis, Ty Llwyd W. Jenkins, Morse a Mr. Mills, Abei dir. Ennillwyd y bathodyn aur gan Miss Edith E Williams, Gwdig, aelod o ddosbarth Beiblaidd Dr. Williams, Drim.

SIR FFLINT.

Advertising

CYARFOD MISOL SIR FFLINT.

:....:, t •t'OtJRi'H' YN CINCINNATI,

Advertising

RWSSIA YN Y DWYRAIN PELL,

SIR FFLINT.