Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

GLOWYH Y DEHBUDIR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GLOWYH Y DEHBUDIR. PAN y bydd ysbryd cadw pethau fel y maent, os nad troi yr awrlais yn ei ol, pe gallai, yn cael attalfa ar ei rwysg, yn na- turiol bydd llawenydd yn ngwersyll cared- igiuii diwygiad a gyru pethau yn mlaen ar eu cynnydd. Hanes attjaliad o'r fath yma sydd genym yn yr erthygl hon, ynglyn a'n brodyr gweithfaol yn mhyllau glo Deheu- bartli y Dywysogaetb. Perchenogion y glofeydd ydynt y rhai a gawsant yr her- gwd. Y Barnwr BIGHAM ydoedd y gvvr a'i rhoddodd iddynt. Cyn cychwyn i Dde yr Affrig, i wneyd ymch wiliad dros y Llyw- odraeth i'r dedfrydon a basiwyd gan y liys- oedd milwraidd yno, efe a fn, ddydd lau, yr wythnos ddiweddaf, yn penderfynu y diweddaf yn mron ar y rhestr o appeiiadsu yn dal perthynas Hg undebau y crefftwyr. Natur y cynghaws ydoedd, fod Oymdeithas y Perchenogion yn hawlio iawn gan Gy- nghrair y Mwnwyr am swcro y dynion i beidio gweithio (er mwyn cadw y cyflen- wad i lawr) ar ddyddiau neillduol yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. Aeth dedfryd y barnwr dysgedig yn gryf, ac yn mron yn gyfangwbl ar bob pwynt, o blaid y gweith- wyr, ac yn erbyn y meistriaid; ac hyd oni wrthdrcier y ddedfryd hon yr ydys yn rhwym o gymmeryd yn ganiataol mai dyma y gyfraith ar y pyngciau neillduol oedd mewn dadl rhwng y pleidiau. Os myn y perchen- ogion godi yr achos i Dy yr Arglwyddi, ac yno i ddedfryd wahanol gael ei chyhoeddi, dyma — hyd hyny — gyfraith y tir ar y pwngc. Y mae y ddedfryd hon o blaid y gweith- wyr yn sicr yn un nad oeddis yn disgwyl am dani, ac am hyny yn fwy gwerthfawr yn ein golwg. Tuedd cryf yn erbyn un- debau y crefftwyr sydd wedi ei arddangos yn y rhan fwyaf o'r dedfrydon blaenorol o fewn y blynyddoedd diweddaf; a phe di lynasat y Barnwr BIGHAM yn 61 traed y rhai a aethant o'i flaen, hsb arfer ei farn annibynol ei hun, a chymmeryd yr achos hwn ar ei deilyngdod cynnhenid, clïau na buasai genym nemawr achos llawenydd heddyw, ac y buasai miloedd glöwyr Mor- ganwg a Mynwy yn cael nchos i ddyfnhau eu hargyhoeddiad nad oes cymmaint o deg- weh i weithiwr ag i feistr yn llysoedd. uchaf y deyrnas. I dorfynyglu a lladd pob ym- gyfuniad yn mhlith y gwe:thwyr i amddi- ffyn eu hiawnderau eu hunain ydyw y go gwydd barnol wedi bod yn ormodol o lawer, Ond yn yr erthygl hon nid 008 a wnelom ni ond ag egwyddor lydan y pwngc. 0 ran ei sylwedd, gallwn ddyweyd ei bod rywbeth yn debyg i hyn ;—Pan y byddo undeb yn treinu i 'streic,' neu 'sefyll allan,' yn mysg y gweithwyr i fod, y mae, ar y naill law, yn peri colled i gyfalaf. Hyd yn hyn yr oedd pob plaid yn y cweryl yn dwyn ei draul, ac yn dioddof ei golled ei hun. A'r pwrs trymaf, yn naturiol, a fyddai yn cario y dydd. Ond yn y cynghaws a ddygwyd yn mlaen beth amser yn ol gan Gwmni Ffordd Haiarn DyfFryn Tàf, ac yn nghy- nghaws presennol Oymdeithas y Gweithwyr, ceisid gosod baich y draul ar Gynghrair neu Undeb y Gweithwyr. Yn y cynghaws hwn gofynid i'r cy- mghrair dalu 100 000/?, i'r meistriaid fel iawn ac ad-daliad am orchymyn i'r dynion beidio gweithio am bed war diwrnod yn y blynyddoedd 1900 a 1901. Pe mai hyn fuasai eyfraith Brydain, cyromerid yn eff- eithiol hawl y gweithwyr i ymuno oddi arn- ynt. Gan y meistriaid yn unig y byddai. Ar V naill law nis gallai yr TJndebau orchymyn l'w haelodau sefyll allan heb osod eu hunain yn ago red i benydiau a fyddent yn ddigon i'w liethu o fodolaeth ar unwaith. Ond ar y Haw arall, ni byddai na phenyd na dirwy yn disgyn ar y meistriaid am gloi' eu gweithwyr 'alian' p-An y mynent, ac am y rheswm a fynent. I'r pwynt hwn yr oedd y dedfrydau yn yr uwchlysoedd yn tueddu yn eglur hyd nes y cafwyd dedfryd ddemocrataidd y Barnwr BIGHAM yr wyth nos ddiweddaf. Yr ydym yn ddiolchgar i'r barnwr dysgedig hwn am gymmeryd golwg wahanol ar y mater; ac yn ein bryd ni, un uniawnach, hefyd. Nid ydym am foment yn gwadu nad oedd gan y meistriaicl ddadl- euon golygus i'w dwya yn mlaen. Yn y mysg eraiil, dywedent fod yr Undeb yn cynllunio brad yn erbyn cwmniau neilldu- ol.' Atteb y Barnwr i hyn ydoedd —s Nid o falais tuag at berchenogion y glofeydd* II neillduol y parwyd peidio gweithio ynddynt y gweithredai y cynghrair. Golwg syml ar fuddiannau y dynion oedd ganddo.' Nid oedd bradwriaeth o gwbl yn y drafodaeth. Er mwyn eu helw eu hunain yr oedd y meistriaid wedi cyttuno â'u gilydd i lanw y farchnad a glo rhad, fel yr oeddynt yn flaenorol i hyny wedi cyttuno a'u gilydd i godi y farchnad. Attal hyn yn unig oedd gan y cynghrair mewn golwg. Dadl arall ydoedd fod y cynghrair yn swcro y dynion i dori eu cyttundebau trwy beri iddynt beidio gweithio ar y pedwar diwrnod crybwylledig. Yr oedd hon yn wrthddadl nodedig o gref, ar yr olwg gynt- af. Ond, dyna, os oes dealltwriaeth yn bod o gwbl ag y gellir ei alw yn gyttundeb, un unochrog ydyw. Cyttunir a'r dynion wrth y mis, ond telir iddynt yn ol y dydd. Pe digwyddai anhap ar beiriant, neu i arolygwr gymmeryd chwim yn ei ben, gellid am- ddifadu dyn o'i waith am y diwrnod hwnw. Ond ni fyn y meistriaid gydnabod fod troi dyn o'i waith am ddiwrnod yn dor ym- rwymiad o'u tu hwy. Ac etto, os absen- nola y dyn hwnw ei hun oddi wrth ei waith am ddiwrnod heb ganiatad, wele rhaid ei feichio a'r golled am ei waith. Hyny yw, os cyttundeb o gwbl, cyttundeb ydyw yn rhwymo y dynion i weithio yn barhaus i'r meistr, tra nad ydyw yn rhwymo y meistr i roddi gwaith yn barhaus i'r dyn ion. A bu dadleuydd y meistriaid, Syr EDWARD CTARKB, yn ddigon beiddgar i daeru dros y gosodiad hwn yn d dig el. Ond, yr oedd Mr. RUFUS ISAACS, dadleuydd y gweithwyr, yn fwy na threch iddo, gan chwalu ei dwyllresymeg i'r pedwar gwynt. Heb fanylu, goddsfer i ni ddadgan ein gobaith y bydd canlyniad yr ymryson hwn yn derfyn ar bob ymdrechfeydd rhwng Cymdeithas a Chynghrair am oruchanaeth. Teyrnased heddwch rhwng y pleidiau. Ac er mwyn diweddu, trwy osod ein bys yn uniongyrchol ar y man gwan rhyngddynt, dywedwn—Bydded gan y nibistr ymddiried yn y gweithiwr, a'r gweithiwr barch i'r meistr.

PASIO Y SEITHFED ADRAN.

EISTEDDFOD GORONOG LLANGEITHO.

EISTEDDFOD PWLLHELI.

CYNGHOR DOSBARTlI PENLLYN

ACHOS MR. M'HUGH, A. S.

[No title]

GWYL Y COKONIAD.

---BETHESDA.

TRA MOR .